Marion Muller-Colard


Hannah Arendt's Little Theatre

The University of Chicago Press, 64tt, $15, 2016

Theatr fach Hannah Arendt
Cyfansoddi

Theatr fach Hannah Arendt

Stori i blant ac oedolion ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost


Marion Muller-Colard

Amser darllen: 15 munud

30·01·2018

Mae'r stori hon i blant gan Marion Muller-Colard yn cyflwyno syniadau Hannah Arendt (1906-1975) ar ffurf hanesyn a lluniau unigryw gan Clémence Pollet. Mae'r athronwraig ar fin gorffen sgwennu ei llyfr olaf, ond wrth iddi bendroni dros y geiriau, daw hogan fach i sgwrsio â hi – hi ei hun yn hogan naw oed. Nid oedd gan Arendt blant ac felly nid oedd wedi arfer cael ei styrbio fel hyn wrth ei theipiadur.

Mae'r fechan yn ei holi: 'Ai ti sy'n dyfeisio'r geiriau?' Dyma godi gwrychyn yr athronwraig. Ei hateb: 'Mi gewch ddweud be fynnoch chi amdanaf, ond tydw i ddim yn ddyfeiswraig geiriau! Meddylwraig llawr gwlad ydw i, nid meddylwraig sydd wedi ei chau ei hun yn ei gwâl.'

Mae Hannah Fach yn hel meddyliau ac, ym mhen amser, yn dechrau dychmygu stori am lwynog sy'n dod allan o'i wâl ac sydd ofn y Blaidd Mawr Cas. Yn y diwedd, mae'r athronwraig yn rhoi'r gorau i drio sgwennu ei llyfr ac yn penderfynu bod rhaid mynd â Hannah Fach i weld theatr go iawn, er mwyn dangos iddi bod adrodd stori hefyd yn golygu gweithredu; nad ydi adrodd stori er mwyn adrodd stori yn ddim mwy na rwdl radls – neu ddweud celwydd. Ac allan â nhw i strydoedd Efrog Newydd.

Yn y theatr, maen nhw'n dod o hyd i gymeriadau: mae angen pobl i greu stori ac mae angen stori i greu byd. Ond mae'r fechan yn gyndyn o gerdded ar y llwyfan. Mae Hannah Fawr, yr athronwraig, yn ei rhybuddio: 'Mae stori sy'n haeddu cael ei hadrodd yn stori sydd yn gofyn am gynulleidfa i'w phrofi.'

A dyna Hannah Fach yn troi i weld set yn cael ei hadeiladu ac Aristoteles yn ei chanol – dyma'r Agora, y gofod cyhoeddus yn Hen Athen. Ond caiff y cyfan ei dynnu'n ddarnau wrth i olygfa newydd gael ei chreu. Mae hi'n draed moch. Ac yng ngwyll esgyll y llwyfan, yn sydyn, gwêl Hannah Fach ddau lygad mawr yn disgleirio. 'Chwyldro ydi hwn?' hola'r fechan. 'O ryw fath,' meddai Hannah Fawr. 'Mewn gwleidyddiaeth, dylai chwyldro fod yn gyfle am ddechrau newydd.'

Dechreua'r blaidd grwydro ynghanol y Ddinas. 'A phwy wnaiff ddofi'r blaidd?' gofynna Hannah Fach yn bryderus. 'Beth petai Llywodraethwr y bobl newydd hon, yn lle dofi'r blaidd, wedi ei ollwng yn rhydd?'

Mae'r ddwy Hannah yn dianc i'r goedwig ac rydym yn ymuno efo nhw wrth i Hannah Fach holi ai dyma ddiwedd yr hanes.

Yn sydyn, daw'r fechan wyneb yn wyneb â'r blaidd. Mae hwnnw'n egluro'n ddigynnwrf sut y daeth i fod yno, ei natur ddi-hid yn ddigon i beri anesmwythyd:
-Dwi wedi manteisio ar y cynnwrf a'r panics mawr er mwyn sleifio i fa'ma, meddai'r anifail wrth llnau ei ddannedd yn ddidaro.
-Onid oes hawl gen i hefyd i fod yn feistr arnaf fy hun, hyfryd blentyn?
-Mae hynny i'w drafod, gwrthwynebodd Hannah Fawr, yr un mor ddisyflyd.
Ond mae'r blaidd, nad oes dim yn ei gynhyrfu, yn closio ati.

Mae Hannah Fawr yn edrych i fyw llygaid y blaidd:
-Gan dy fod wedi dod o'r cefn, o'r esgyll er mwyn cael cerdded ar y llwyfan, rhaid i ti wybod bod yna ddeddfau. Na ladd, er enghraifft. Un o ddeddfau hynaf y ddynoliaeth.
-A beth petai'r deddfau'n newid? atebodd y blaidd yn ôl a chlosio eto.

Dyna pryd y clywyd llais bychan tanddaearol:
-Pst, pst! Mi fyddai'n rheitiach i chi ymuno efo fi yn fy ngwâl!
Gwelodd y fechan, nid nepell o'r fan honno, fynediad i galeri tanddaearol. O fewn ychydig eiliadau, mae hi wedi rhuthro yno. Mae Hannah Fawr yn troi oddi wrth y blaidd er mwyn dilyn y fechan hon a oedd dan ei hadain.
-Rhedwch nerth eich traed! gwaeddodd y blaidd yntau. Rhedwch cyn i'ch deddfau losgi'n fwg.

Dacw'r ddwy Hannah wedi cyrraedd gwâl y llwynog. Maent yn dod o hyd i'r hen lwynog yno, ar ganol sesiwn fyfyrio. Un llygad yn unig mae o'n ei hagor, yn benderfynol o beidio â chael ei styrbio gan eu presenoldeb:
-Gwnewch eich hunain yn gyffyrddus, os gwelwch yn dda! Mi welwch fod yna ddigon yma i chi fedru hwylio paned ...
-Mi rydych yn garedig dros ben, fy hen lwynog i, ond nid yw'n fwriad gennym aros.
-Ydach chi'n bwriadu, felly, dychwelyd i ganol yr holl stŵr yna tu allan? Wfftiodd y llwynog.

Mae Hannah Fach, a hithau wedi ei dychryn yn arw gan ymddangosiad y blaidd, yn erfyn ar Hannah Fawr i dderbyn lloches gyfforddus y wâl helaeth hon. Ond mae Hannah Fawr yn torri ar ei thraws:
-Nid meddylwyr twll cwningen ydan ni, cofia, ond meddylwyr llawr gwlad.
-Mae hynny'n golygu bod yn barod i gael eich llyncu'n fyw, meddai'r llwynog yn ddigynnwrf, gan gau'r unig lygad yr oedd wedi gweld yn dda i'w hagor.
-Yn union, meddai Hannah Fawr. Ond mae peidio â bod yn barod i gymryd risg fel marw'n fyw, tydach chi ddim yn meddwl?

Wrth gyhoeddi hyn, mae Hannah Fawr yn symud yn ei blaen. Mae hi'n argyhoeddedig y bydd y fechan yn ei dilyn. Ac mae hi'n llygad ei lle.
 

Hannah Fach a Hannah Fawr yn y goedwig, dyluniad ar gyfer y gyfrol, gan Clémence Pollet

Wrth beltio ei ffordd ymlaen drwy ddrysfa'r galerïau tanddaearol, er mwyn cyrraedd yn ôl i'r wyneb eto, mae'r fechan yn synhwyro'r peryg llechgïaidd sydd yn eu bygwth:
-Ti'n gweld, ochneidia Hannah Fawr yn ddiamynedd, os mai dim ond geiriau ydi syniadau, mae'n hawdd iddyn nhw fedru mynd â ni ar gyfeiliorn ... Mae'n ddigon hawdd tyllu galerïau os nad oes rheidrwydd arnynt i'n harwain ni i'r byd lle mae materion y ddynoliaeth yn y fantol.

Ond mae'r ddrysfa, wedi mil o gamau gwag, yn eu harwain allan o'r diwedd. Ac mae'r ddwy Hannah yn ailafael yn eu taith drwy'r goedwig drwchus.
-Fancw, llannerch, meddai Hannah Fach mewn llawenydd. O'r diwedd, golygfa newydd!

Mae'r ddwy Hannah yn gwthio'n eu blaenau er mwyn cyrraedd y llannerch. Cyn croesi ei hymyl, mae Hannah Fach yn edrych o'i chwmpas yn bryderus: dim golwg o'r blaidd ... diolch i'r nefoedd! Mi fydd hi'n medru ymlacio, o'r diwedd!
-Sbïa, mae yna gadeiriau a byrddau lle medrwn ni eistedd!
Mae'r fechan yn rhedeg yn llon i'r gofod newydd hwn, ond nid oes golwg wedi ei thawelu ar Hannah Fawr.
-Tyrd efo fi, mae'r plentyn yn gweiddi wrthi, tydi'r blaidd ddim yma, does dim byd gynnon ni i boeni yn ei gylch!
-A beth petai'r dodrefn hyn yn celu peryg gwaeth o lawer na'r anifail mwyaf milain?

Yn sydyn, maent yn gweld dynion yn dod allan o'r coed ac yn cerdded i'r llannerch. Daw un ohonynt at y fechan a rhoi label ar ei chôt. Mae Hannah Fawr yn torri ar eu traws:
-Beth ydych chi'n ei wneud? gofynna.
Ac mae'n croesi ei breichiau er mwyn osgoi cael ei labelu yn ei thro.
-Fformaliti, dyna'r cyfan, atebodd y dyn cyn mynd i eistedd wrth un o'r desgiau.
Mae'r dynion eraill yn gwneud yr un fath. A bob tro'r eistedd dyn i lawr, mae yna Hannah Fach arall yn ymddangos am y ddesg â fo.

-Mae yna gannoedd ohonon ni rŵan, sibryda'r fechan, wrth edrych o'i chwmpas wedi dychryn.

Mae'r hyn y mae Hannah Fach yn ei weld wedyn yn ei phoeni'n arw: rhesaid o enethod, i gyd yn edrych fel Hannah Fach. Maen nhw'n symud yn eu tro at y desgiau lle mae dyn yn gosod label ar gôt bob un. Mae yna stwyrian papur, a stampio papurau, ac mae'r cyfan yn ei chyfareddu. Caiff Hannah Fawr hefyd ei chario gan y symudiad mecanyddol hwn. Yna, wrth afael yn Hannah Fach eto, mae hi'n darganfod dwylo'r plentyn wedi cyffio.

Wedi eu cuddio gan y goeden, mae'r ddwy Hannah yn gwylio'r rhesaid hir yn ymlwybro yn ei blaen tuag at y llannerch a'i llond o ddynion-swyddfa:
-Ydyn nhw am ein lladd ni? hola'r fechan.
-Mae'n waeth na hynny, fy mechan i. Maen nhw am ddileu egwyddor mwyaf sylfaenol y ddynoliaeth. Ac maent yn gwneud eu gwaith mor dda nes nad ydyn hwythau chwaith yn ddynol mwyach: sbïa'n ofalus, maen nhw hefyd yn prysur droi'n ddoliau pren!
-Eu tafodau hefyd, siŵr gen i!

Erbyn hyn, mae'r rhesaid o Hannah Fach bychain wedi troi'n bypedau, a'r biwrocratiaid hefyd.
-Efo tafod pren, efo pen pren, does dim modd meddwl mwyach, meddai Hannah Fawr. Ac mae colli'r gallu i feddwl yn fwy peryg na'r holl reddfau drygionus efo'i gilydd ... 

Ond dwi'n dal i roi fy meddwl ar waith! gwaedda'r plentyn. Os mai pypedau ydyn nhw, mae'n rhaid bod yna rywun yn tynnu'r llinynnau yn y cefnau, yn esgyll y theatr!

Ac mae'r ddwy Hannah yn sleifio ar hyd ymylon y llannerch yn chwilota am y pypedwr.

Wedi cyrraedd pen arall yr olygfa hon, dônt o hyd i bentwr anferth o bren. Mae'r dynion-swyddfa wrthi'n arwain y doliau pren Hannah Fach yn eu blaenau.
-Beth sy'n mynd i ddigwydd, holodd y fechan, yn cynhyrfu fwyfwy.
-Mae'r ddynoliaeth yn mynd i chwythu ei phlwc. Y ddynoliaeth a gaiff ei llosgi a'r ddynoliaeth sy'n cynnau'r tân, fel ei gilydd.

Teimla Hannah Fach ei llwnc yn tynhau. Ond mae ei chydymaith yn gwenu arni ac yn sibrwd
-Meddwl di am yr holl ddechreuadau newydd posib ...
Ac mae hi'n penderfynu mynd amdani, ar ras yn erbyn y pypedwr.

Yn sydyn, mae'r ddwy Hannah yn clywed llais o rywle uwch eu pennau:
-Hei, ferched, ai fi 'da chi'n chwilio amdano fo?
Maent yn sbïo i fyny ac yn gweld, ar gangen a oedd yn ymestyn i ganol yr olygfa, gymeriad annisgwyl y maent prin yn ei adnabod.
-Llygaid y blaidd sydd ganddo fo, meddai'r fechan.
-Ond mae o'n syndod o waraidd hefyd, meddai Hannah Fawr.
-Mae hynny'n arwydd da, siawns, meddai'r fechan.
-I'r gwrthwyneb, mae hynny'n arwydd drwg, meddai Hannah Fawr. Cyhyd ag y mae'r blaidd yn aros yn flaidd, mae modd ei gadw ar dennyn. Ond os ydi o'n gwisgo dillad dyn gwaraidd, yna gall dreiddio i galon y ddynoliaeth.

Ond mae'r gŵr â'r llygaid mawrion yn dechrau colli amynedd:
-Ai fy nhrafod i yda chi? Chwilio am y pypedwr yr ydach chi ynte? Wel, dyma fi, cyhoeddodd, a dod i lawr o'r gangen i ymuno efo'r ddwy Hannah. Ydach chi'n licio fy siwt dridarn? Mae'r wasgod yn fy ffitio fel maneg ...
-Rho'r gorau iddi, gwaedda Hannah Fach, yn sydyn wedi colli arni ei hun. Torra linynnau'r pypedau a rho iddyn nhw eu rhyddid yn ôl! A rhwystra'r dynion-swyddfa yma rhag tanio'r goelcerth!

Mae'r gŵr â'r llygaid blaidd yn chwerthin yn uchel:
-Ond dwi'm yn dal y llinynnau, hyfryd blentyn! Dyna sydd yn rhoi cymaint o foddhad i mi. Â'u hymenyddau pren, tydi fy nienyddwyr-swyddfa i ddim yn abl i wahaniaethu rhwng da a drwg, ac maen nhw wedi mabwysiadu fy neddfwriaeth newydd i. Na ladd, wnaethoch chi ddweud wrtha i gynnau? Wel, mi ddywedais i wrthyn nhw: Lladdwch! Mi rydan ni wedi stampio hynny ar bapur, a chreu deddf newydd, ac mae wedi ei cherfio yn ymennydd fy nynion bach pren i! Gwych ynde?

-Fedra i ddim dioddef eich steil newydd gwaraidd chi! mae Hannah Fawr yn barod ei hateb.
-Madam, meddai'r bleidd-ddyn gan foesymgrymu, dwi'n diolch i chi am y fath eiriau o werthfawrogiad.

Mae'r goelcerth o ddoliau pren yn llosgi ac, ymhen amser, daw'r llwynog heibio. Mae'n sylwi ar y difrod a chrafu ei ben yn chwithig a wna wrth ddweud: 'Dwi'n gofyn i chi faddau i mi, fy nwy Hannah annwyl i, tydw i erioed wedi ymddiddori rhyw lawer mewn gwleidyddiaeth ... Dwi'n meddwl y byddai'n well i mi fynd yn ôl i fy ngwâl, tydach chi'm yn cytuno?' 
 


                                                                                                                                                  Hannah Arendt

Caiff yr athronwraig ei chythruddo. 'Dyna fagl twll cwningen i ti,' meddai Hannah Fawr. 'Dyna sy'n digwydd pan rydan ni'n gwrthod cymryd ein lle ar lwyfan gwleidyddiaeth ...' Dychwelwn at y ddwy Hannah wrth iddynt herio un o'r dynion-swyddfa.

Onid oes cysgod yn cuddio yn nhrwch y goedwig?
-Mae yna un dyn-swyddfa ar ôl! gwaedda Hannah Fach.
Rhed y fechan ar ôl y pyped a'i ddal gerfydd ei fraich.
-Pam wnes di hynna?
-Wn i ddim! Dim ond pyped ydw i, dilyn y lli wnes i.
-Ti'n rhaffu hi: doedd yna'r un llinyn yn dy orfodi di i weithredu fel hyn.
-Dwi wedi parchu'r gyfraith, ychwanega, wrth dynnu pentwr o bapur o ddesg i gyfiawnhau ei hun.
Daw ton o ffieidd-dod dros wyneb Hannah Fawr:
-Does dim llais eich hun gynnoch chi? Dim geiriau nad ydyn nhw wedi eu cnoi gan rywun arall yn ddarnau parod i chi eu llyncu? Mi rydach chi'n ystrydebol ryfeddol. 

Mae Hannah Fach yn troi at Hannah Fawr, wedi digalonni:
-Sut mae barnu dyn pren? mae hi'n gofyn i Hannah Fawr.
-Dyna i ti broblem ddyrys! Ond mae barnu hefyd yn golygu rhoi llais i'r hwn rydan ni'n ei farnu. Wrth roi llais iddo fo, rydan ni'n ei orfodi i golli ei dafod pren. Pan mae'r geiriau'n gyfiawn, tydyn nhw ddim jyst yn siarad: maen nhw'n gweithredu.

O'u cwmpas, mae'r coed yn disgyn wrth eu pwysau, un wrth un. Yn fuan, mae'r llystyfiant yn arafu. Dipyn wrth dipyn, mae'r goedwig yn diflannu.

Daw dynion i'r llwyfan a gosod cyffion am y dyn-swyddfa.
-Cewch fy marnu i, dadleua'n ôl, ond cofiwch nad ydw i wedi cael llawer o lwc. Wedi dilyn deddfau sâl ydw i, dyna'r cyfan.
-Dyna sy'n digwydd pan rown y gorau i feddwl a gadael i'n hunain gael ein tynnu gan y pleser o weithredu'n unig ... Sut mae creu gofod cyhoeddus efo dynion sydd ond yn gwybod sut i fod yn ufudd?

-Rhowch gyfle arall i mi ... Dowch, rhowch fòs arall i mi, arweinydd y mae ganddo fo ddeddfau da, ac mi wna i ufuddhau iddyn hwythau hefyd!
-Mi rydach chi'n ysglyfaethus o hurt! meddai Hannah Fawr. Disgwylir i ddinesydd adnabod arweinydd yn ôl ei allu i amddiffyn deddfau cyfiawn!
-Os dwedwch chi, a dwi'n cydnabod mai deddfau diffygiol sydd gan f'arweinydd. Ond mae'n rhaid i chi gyfaddef, mi oedd ganddo fo'i ffordd, meddai'r dyn-swyddfa, gydag edmygedd yn dal i lenwi cannwyll ei lygaid. Drychwch: mi lwyddodd i godi i reng uchaf cymdeithas. O flaidd clafrllyd, mi gododd i fod yn arch-bypedwr, mi lwyddodd o i dynnu ar linynnau'r byd. Dyna pam wnes i ufuddhau.
-Dyna'n union sy'n drist: mi wnaethoch ufuddhau. Ond tydi ufuddhau mewn gwleidyddiaeth ddim yr un peth ag ufuddhau yn yr ysgol feithrin. Mewn gwleidyddiaeth, yr un peth ydi ufuddhau â dangos cefnogaeth.
-Dyna pam y dylsech adael llwyfan y ddynoliaeth! meddai Hannah Fach.

Ac mae'r dyn-swyddfa yn ymadael â'r llwyfan.
 


Mae'r ddwy Hannah eu hunain unwaith eto ar y llwyfan, a mwsog y mangoed yn dal amdanynt.
-Sut ddigwyddodd hynna? ochneidia Hannah Fach.
-Mi ddigwyddodd. Ond wnaeth o ddim digwydd ym mhob man. Does dim angen mwy na hynny er mwyn sicrhau bod y blaned hon yn blaned y gall y ddynoliaeth barhau i fyw arni.
-Ond a fydd y ddaear yn llai croesawgar fyth yfory?

Mae Hannah Fawr yn gwenu. Mae'r fechan a hithau'n rhannu'r un gofidiau.
-Dwi'n rhoi fy ffydd yn yr annisgwyl, yr hyn na fedrwn ei ragweld, meddai Hannah Fawr eto. Ac yn fwy na dim, dwi'n rhoi fy ffydd ynot ti! Beth sy'n rhoi cyfle parhaus i'r byd fedru dechrau o'r newydd eto, yn dy farn di?
Mae'r fechan yn ystyried. Yna mae ei llygaid yn disgleirio gyda golau newydd:
-Plant!
-Yn union! Dyfodiad diderfyn dieithriaid i'r byd, fydd yn mynd o'i chwmpas hi'n wahanol. Ar yr amod eu bod yn blant penstiff a serchus ... 

Gan hynny, mae Hannah Fach yn torchi llewys. Mae hi'n benstiff ac yn dyfalbarhau, meddylia Hannah Fawr, wedi ei chyffwrdd gan benderfyniad y fechan.
-Ti am fy helpu i greu golygfa newydd? meddai'r plentyn. Dwi d'angen er mwyn medru dal ati i adrodd y stori.

Ond daw cymeriadau newydd o'r cefnau i ymuno â nhw ar y llwyfan. Mae Hannah Fawr yn camu i un ochr er mwyn gwneud lle iddynt fynd heibio.
-Wyddost ti ... meddai'n ddireidus. Tydi'r rhai sy'n gwneud y byd yn theatr eu beiddgarwch ddim angen dyfeiswyr geiriau i'w cynorthwyo nhw ...

Ac ar y gair, mae Hannah Arendt yn gadael y llwyfan, yn ddistaw bach. Mae hi'n sleifio allan rhwng y cadeiriau melfed coch ac yn gwthio'i ffordd trwy ddrysau'r theatr i'r awyr agored.
Mae hi'n sbecian ar ei horiawr: hedfan mae amser! Rhaid iddi hi fynd yn ôl i'w fflat: heno, daw ffrindiau draw i swper a tydi hi ddim wedi dechrau coginio eto ... 

Y noson honno, ar y 4ydd o Ragfyr 1975, y noson oer ofnadwy honno, mae Hannah Arendt yn codi i fynd i baratoi coffi i'w ffrindiau. Mae hi awydd dweud rhywbeth ond mae hi'n teimlo llenni trwm yn cau o gwmpas ei byd. Mae hi'n esgusodi ei hun ac yn gollwng ei chorff i'w chadair freichiau.

Wrth iddi hi farw, roedd Hannah Fawr dan yr argraff bod yna blentyn tebyg iddi hi ei hun yn dehongli, dros ei hysgwydd, y llyfr na wnaethai fyth ei orffen. Clyw lais bychan clir fel crisial yn tincian yn ei chlust:
-Mi fyddai'n biti mawr rhoi taw ar fywyd y meddwl!

Oherwydd mae Hannah yr hyn a elwir yn balindrom. Mae'n enw y medrir ei ddarllen o'r chwith i'r dde neu o'r dde i'r chwith. Yna, wedi cyrraedd yn ôl i'r H ddechreuol, mi fedrwch ailgychwyn a mynd eto am y H derfynol. Ac ymlaen, nes na wyddoch mwyach nad dechrau newydd ydi'r diwedd.


Mae Marion Muller-Colard yn awdur dwy o'r cyfrolau yn y gyfres Plato & Co, gan gynnwys Dr Freud, Fish Whisperer (2017) a ddyluniwyd gan Nathalie Novi ac a gyfieithwyd gan Anna Street. 

Dyluniwyd y gyfrol hon gan Clémence Pollet. Cyhoeddwyd y gyfres yn wreiddiol yn Ffrangeg, gan wasg Les petits Platons, sydd yn arbenigo ar gyhoeddi llyfrau athroniaeth i blant.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dwi’n gofyn i chi faddau i mi, fy nwy Hannah annwyl i, tydw i erioed wedi ymddiddori rhyw lawer mewn gwleidyddiaeth ... Dwi’n meddwl y byddai’n well i mi fynd yn ôl i fy ngwâl, tydach chi’m yn cytuno?

Dyddiad cyhoeddi: 30·01·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…