Cyfansoddi

Y brotest ddiderfyn

cyfieithwyd o’r Gatalaneg gan Elin Haf Gruffydd Jones


Albert Forns

Amser darllen: 30 munud

28·07·2018

L'Esprit Català gan Antoni Tàpies, 1971 (Commisió Tàpies, VEGAP, Pamplona)


Dyma’r sefyllfa: rydan ni ynghanol nunlle, neu’n fwy agos ati, ynghanol pawb, ac mae gennym argyfwng. Mae Guillem yn edrych arna i ac yn gweiddi ‘Pi-pi! Pi-pi!’ ac mae Martí, yr ail efaill yn fy ngofal, yn llithro rhwng fy nghoesau ac yn dianc i’r cyfeiriad arall. Codaf fy mhen i geisio dal llygad oedolyn i fy helpu ond dydy Gemma na Noe ddim yn fy ngweld i am eu bod nhw’n rhy brysur yn dal i fyny efo’i gilydd – tydyn nhw ddim wedi gweld ei gilydd ers tridiau rŵan – ac mae Miquel ynghanol trafodaeth danbaid efo rhyw leianod ynglŷn ag ydy’r hyn rydan ni’n ei wneud yn bechadurus ai peidio. O’n blaenau, mae’r dyrfa: dwy filiwn o bobl wedi eu gwasgu’n dynn i un stryd lydan. Medi’r unfed ar ddeg ydy hi, a heddiw, fel pob blwyddyn arall, mae Catalwnia’n protestio.

*

Wn i ddim yn iawn a fedra i esbonio i chi sut y cyrhaeddon ni’r fan hon. Gor-ddos o ddŵr yn amlwg ydy’r rheswm dros y ‘pi-pi pi-pi’ gan Guillem gan fod Noe yn ofni y bydd yr efeilliaid yn dioddef o ddiffyg dŵr yn y tywydd poeth. Mi wn un peth yn glir, sef pan oeddwn i oed y plant yma, dim ond dyrnaid o ffrîcs fyddai allan ar y stryd ar Fedi’r 11eg – roedd protestiadau yn erbyn ymladd teirw yn denu mwy. Ers tair canrif, rydan ni’r Catalaniaid yn cofio 11 Medi 1714, sef y diwrnod y collon ni’r rhyfel yn erbyn y Sbaenwyr, y diwrnod y gwnaethon nhw wahardd ein hiaith a’n sefydliadau. Ond gan fod dathlu cael ein trechu yn beth truenus i’w wneud – mae’n siŵr mai hon ydy’r unig wlad sy’n gwneud – roedd y rhan fwyaf o bobl yn treulio’r diwrnod ar y traeth ac yn nofio, am y tro olaf, ym môr yr haf.

Ond mae hyn i gyd wedi newid, ac rŵan mae pob Catalaniad da yn gwybod fod rhaid protestio ar Fedi’r 11eg. Mae gan bob gwlad ei pheth: Rwsia ei fodca, yr Alban ei chwisgi, ac yn ddiweddar yng Nghatalwnia rydan ninnau wedi datblygu blas ar berfformio sioe gyhoeddus ar raddfa anferthol.

Ers 2010, pan ffrwydrodd y peth yma, dydan ni ddim wedi stopio dangos ein hunain, gan gymhlethu pethau bob blwyddyn, más difícil todavía, maen nhw’n ddweud yn Sbaeneg. I ddechrau, llenwi stryd. Y flwyddyn ganlynol, llenwi un arall, ond y tro hwnnw roedd rhaid i bawb wisgo’r un lliw – gwyn. Wedyn, mi lenwyd rhodfa gyfan ac roedd rhaid i bobl wisgo crysau T o liwiau gwahanol yn ôl lle roedden nhw’n sefyll – er mwyn gwneud enfys enfawr i’w gweld o’r awyr. Yna, wedi blino ar hynny, mi benderfynon ni newid trywydd a chreu cadwyn ddynol 400 cilomedr yn ymestyn o un pen i’r wlad i’r llall. Roedd hyn yn Ddolig i’r pentrefi, mi wnaethon nhw eu ffortiwn y penwythnos hwnnw yn gwerthu cawl cig llo a madarch gwyllt i’r miloedd o fisitors cenedlaetholgar o’r dinasoedd. Llwybr y Baltig oedd yr ysbrydoliaeth i’r sioe honno, sef y gadwyn ddynol a unodd Estonia, Latfia a Lithwania ym 1989: ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gawson nhw eu hannibyniaeth, ond dydy pethau ddim wedi gweithio cystal i ni.

Ond mae yna sioeau eraill i ddod; yn 2015 mi ddaethon ni’n ôl i Barcelona i wneud siâp V ar gyfer ‘Victòria’ yn lliwiau baner Catalwnia, felly roedd rhaid llenwi’r strydoedd, gan wneud mosaic o grysau T: coch-melyn-coch-melyn-coch-melyn, ac yn y blaen. Heb anghofio sioe llynedd, pan aethon ni ’nôl i’r siroedd a phlesio’r tai bwyta yno drwy gynnal chwe gwrthdystiad datganoledig – dwy filiwn o bobl, unwaith eto, ond wedi eu gwasgaru ar draws y wlad. Ac fel hyn ac fel arall hyd heddiw, a ninnau’n perfformio’r brotest fwyaf erioed sy’n newid ei lliw. Chwiliwch drosoch eich hun, mae o yn y Guinness Book of Records, o dan y categori ‘Catalonia’: cewch weld y protestiadau mwyaf absẃrd yn eich byw.

Mae hefyd yn wir dweud, petai’r gwleidyddion wedi bod fymryn yn gallach, na fuasai dim rhaid i firi gwallgof y sioeau steil-Gogledd-Corea yma fod wedi digwydd o gwbl, ond y blynyddoedd diwethaf yma, rydan ni wedi byw rhyw fath o Groundhog Day, a Llywodraeth Catalwnia yn mynnu mwy o bwerau a Llywodraeth Sbaen yn gwrthod, a Llywodraeth Catalwnia yn mynnu refferendwm a Llywodraeth Sbaen yn ei wahardd. Roedd y bobl ar binnau yn gwylio’r gêm, ’nôl ac ymlaen, nes i ni syrffedu ar y zero sum di-ben-draw a mynd ati ’run fath. Ymlaen gyda’r miri protestio diderfyn, ond hefyd gyda chant a mil o etholiadau, pleidlais ymgynghorol gyhoeddus, refferendwm answyddogol, refferendwm heb ganiatâd, etholiadau’r bobl a refferenda aml-ddewis o bob math. Heb sôn am y lip dub dros annibyniaeth a’r flashmob o blaid priod wladwriaeth a’r cawl cymunedol enfawr dros sofraniaeth neu oleuo canhwyllau o blaid y refferendwm. Dwi’n credu mai’r awdur Roberto Bolaño – o Chile’n wreiddiol ond sy’n Gatalanwr mabwysiedig, ac sydd, siŵr gen i, yma yn y brotest heddiw – oedd yr un a ddywedodd y gallech chi ddyfeisio’r ffordd fwyaf gwreiddiol yn y byd o ladd rhywun ond yn siŵr i chi byddai rhywun wedi trio hynny o’ch blaen. Felly hefyd yn achos gwreiddioldeb yn y mudiad dros annibyniaeth: mi allwch chi fod mor ddyfeisgar ag y liciwch chi ond mi fydd hi’n rhy hwyr. Ac wedi hynny, fyddwch chi ddim cam yn agosach, wedi’ch gwasgu rhwng gwladwriaeth sy’n bleidlais-ffobig a phobl sydd wrth eu boddau’n pleidleisio. A dyma lle rydan ni, reit ynghanol y brotest olaf (yr olaf ddywedais i? Yr olaf ond un ydy hi bob tro!), yn ceisio dod o hyd i dŷ bach ar frys mawr.

*

Cyn cychwyn ar yr ymdaith bisio, dwi’n penderfynu ei bod yn werth meddwl am gynllun. Byddai mentro heb gyrchfan bendant yn y dyrfa wyllt yma yn gallu bod yn drychineb, a dwi’n trio egluro wrth Guillem bach ’mod i wedi deall bod y ‘pi-pi pi-pi’ ar y ffordd ac y gwnawn ni ddechrau symud cyn hir. Mi allwn fynd ag o i bisio i’r ganolfan siopa ond beryg y bydd ar gau heddiw. Beth am westy? Mae tai bach safonol yn rheiny bob amser ond, yn anarferol i Barcelona, does yna ddim gwestai’n agos, mae’n rhaid ein bod mewn ardal Airbnb. Dwi’n trafod gyda’r merched gan fod tad y creadur wedi gorffen ei sgwrs ddiwinyddol a bellach yn ei chanol hi efo’i radio yn gweld a ydy pen blaen yr orymdaith wedi gallu dechrau symud. Mae o’n rhoi gwybod i ni fod cymaint o bobl yma fel nad oes modd dilyn llwybr yr orymdaith, felly mi gawn ni anghofio cerdded am flwyddyn arall. Eleni, ymysg yr enwau mawr, mae yna bêl-droediwr o Barça, sy’n barod wedi cael ei labyddio ar Twitter gan ei ddilynwyr o Sbaen. O’r diwedd, mae Noe yn datrys fy mhenbleth: ‘Stopia fwydro wir, jyst cer â fo i’r bar draw fan’cw.’ Bar Paredes: golwg addawol ar y lle.

Rydan ni’n symud yn ein blaenau drwy fur o fodau dynol, yn torri llwybr drwy’r dyrfa dynn. Mae hi’n ‘sori, esgusodwch fi, sori, esgusodwch fi’ parhaus wrth i ni wau ein ffordd rhwng y cyrff chwyslyd, gan ofyn yn garedig iddyn nhw adael i ni fynd drwodd, yn gwthio’n hunain drwy deuluoedd mawr sydd wedi dod â’u pramiau, aelodau mudiadau ieuenctid, pensiynwyr, grwpiau o ffrindiau yn cario baneri a geriach tebyg. Pobl â baner yr estelada – yr un gyda’r seren – dros eu hysgwyddau, ar eu pennau, yn ei gwisgo am eu canol fel sgertiau. Ac wrth gwrs, yr estelades serennog yn chwifio yn yr awyr. Ble bynnag edrychwch chi mae yna faneri o blaid annibyniaeth, baneri Catalwnia heb y seren, baner yr Alban, Gwlad y Basg, Ewrop. Awn heibio i un ymgyrchydd brwd sydd wedi gosod tair baner wahanol mewn rhes ar wialen bysgota hir. Rydan ni’n gwyro i osgoi dynes yn ei nawdegau mewn cadair olwyn. Maen nhw wedi rhoi cap ‘Via Laietana 2013’ ar ei phen – rhai o’r nwyddau ymgyrchu hynny sydd ymhell tu hwnt i ddiwedd eu hoes – ac mae ei hwyres yno’n cymryd hunlun efo hi. ‘Dyna ni neis, ’y nghariad i, ella na fydda i byw i’w weld o, ond pan fyddwch chi’n annibynnol mi fydd gen ti atgof o dy nain.’ Rhaid i mi ddweud fod gweld pobl o’r oed yma yn rhostio dros eu gwlad yn y tywydd poeth yn dod â deigryn i fy llygad. Dyma’r dystiolaeth fod y protestiadau’n eang, mae yma siaradwyr Catalaneg a siaradwyr Sbaeneg o bob cefndir ac o bob math, yn gweiddi efo’i gilydd ein bod am bleidleisio, am gael refferendwm. Mae hefyd yn wir, o bosib, fod protestio wedi dod yn beth ffasiynol a’n bod ni yma er mwyn perthyn i’r grŵp, achos nad ydan ni am deimlo allan ohoni. Mynd lawr i’r stryd er mwyn gwneud rhywbeth, i dorri ar undonedd bywyd bob dydd, i fedru dweud ‘Roeddwn i yno’ ac i gael siarad am y peth gydag awdurdod ddydd Llun yn y gwaith. Mae Guillem yn tynnu yn fy llaw yn sydyn. ‘Beth sydd, boi? Wn i, pi-pi pi-pi.’ Ond na, mae o wedi amrywio’i seiniau unsillafog ac mae o rŵan yn dweud ‘Bow wow’ wrtha i ac yn pwyntio at y daeargi bach gerllaw sydd â baner wedi ei lapio drosto. Mae miloedd o bobl o blaid annibyniaeth hefyd yn golygu miloedd o gŵn bach o blaid annibyniaeth. O’r diwedd, dwi’n codi Guillem yn fy mreichiau er mwyn gallu symud yn gynt ac yn gweddïo y bydd ei bledren gyfyng o’n dal ychydig bach eto gan ein bod ar fin cyrraedd Bar Paredes. Rydan ni’n ymdroelli heibio sŵn band drymiau – mae’r bychan yn rhyfeddu’n gegrwth – ac yn pasio grŵp o Miquelets, gwladgarwyr dioddefus wedi eu gwisgo fel milwyr 1714, pob un â gwn, ac am eu pennau, yng ngwres yr haul tanbaid, mae addurniadau a wig o gyfnod Louis XIV. Ond mae ganddyn nhw gyfrinach; rydw i newydd glywed sŵn hudolus clic y can cwrw ac mi wela i eu bod wedi dod ag oergell lawn efo nhw. Y nhw sy’n iawn, wrth gwrs: dydy protestio ddim yn golygu na fedrwch chi fod un cam ar y blaen.

*

Gofynnwch chi i unrhyw un: rydan ni wedi diflasu ar y protestio statudol, ond bob haf, mae barn pyndits Sbaen a datganiadau gwleidyddion Madrid yn ddigon i argyhoeddi’r mwyaf di-hid ohonom. Y sarhau, y sarhau yn fwy na dim. Eleni maen nhw wedi’n galw ni yn ‘Nazis’, ‘Polacos’ – sef, yn llythrennol, Pwyliaid – ‘Terfysgwyr’, ‘Cynllwynwyr’, dim ond am ein bod am bleidleisio, ond mae deallusion Sbaen hefyd wedi dyfeisio termau newydd ar gyfer pobl sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia, sef ‘Hobbits’, ‘Jyncis ar asid’, ‘Y Taliban’, ‘Cigfwytawyr’ yn ogystal â’r mynwesol ‘Cachwrs-Catalan’, sef hoff air cyfansawdd hwliganiaid Sbaen. Hefyd fe gawson ni eiriau hyfryd gan un o gyn weinidogion Aznar: y dylid saethu Arlywydd Catalwnia, a’r cyn-Brif Weinidog Aznar ei hun yn dweud y dylid danfon y Fyddin i roi stop ar Lywodraeth Catalwnia. Gyda chymaint â hynny o betrol, doedd hi fawr o syndod ein bod ni ar dân.

Law yn llaw â’r dasg ddyddiol ddigalon o wirio’r wasg, mae gan yr wythnosau sy’n arwain at Fedi’r 11eg eu defodau eu hunain, gan ddechrau â chael gafael ar y wisg gywir ar gyfer y flwyddyn, un o’r miloedd o grysau T yr ydan ni i gyd yn eu gwisgo, efo’n gilydd, ar yr union awr. Dros ddegawd, mi aethom drwy bob lliw posib, a bellach mae prinder. Cynigiodd rhywun y dylid mynd heb grys T ond chafwyd fawr o groeso i’r syniad o brotest noethlymun – ‘Gwlad Duw fydd Catalwnia neu wlad neb’ – ac yn y diwedd penderfynodd y trefnwyr ar y funud olaf ar grysau T fflworolau, i’r byd i gyd fedru ein gweld ni, hyd yn oed yn y tywyllwch. Fel pob blwyddyn rydan ni ar ei hôl hi, ac fel pob blwyddyn mae’n rhaid prynu’r chwarter miliwn o grysau T gan gyflenwyr o Taiwan. Afraid dweud bod papurau Sbaen ar ben eu digon: ‘Ffatrïoedd dillad Catalwnia’n methu cynhyrchu crysau T annibyniaeth.’

Er mwyn hwyluso pethau, mi gytunais gyda Miquel y byddwn i’n prynu’r crysau T i ni i gyd eleni, ac roedd hynny’n rhwydd, rhaid dweud: mi gyrhaeddon nhw’r siop ger ein fflat ar y diwrnod dan sylw. Wedi dweud hynny, mae €90 am chwe chrys T yn sgam, yn enwedig a finnau’n gwybod na wna i wisgo’r peth byth eto. Dywedai Miguel de Unamuno, un o’r ychydig ddeallusion Sbaeneg a oedd yn ein deall, mai ein cariad at estheteg oedd ein ‘man gwan’ ni’r Catalaniaid, ond yn y protestiadau y gwrthwyneb sy’n wir. Am y gorau i fod yn ddi-chwaeth ydy hi, ac nid y fflworolau yn unig sydd ar fai. Mae siorts yn bresennol ym mhob man a’r fflip-fflops yn deyrn. Oni bai am rai sydd wedi gwisgo fel petaen nhw ar fin cerdded mynyddoedd: gwasgod llawn pocedi ac esgidiau dringo Quechua, gwisg glasurol rhywun ar ei wyliau, fel petai angen esgidiau cerdded i droedio’r Champs-Elysées.

Eleni roedd yn rhaid i mi gael baner newydd – yr estelada, yr un serennog – gan fod yr hen un wedi colli ei lliw ar ôl bod allan yn yr haul drwy’r flwyddyn, yn hongian ar y balconi. Oherwydd caiff annibyniaeth ei hennill ar y balconis hefyd: heddiw ni piau’r stryd ac mae’r tîm o blaid annibyniaeth ymhell ar y blaen, ond weddill y flwyddyn mae’r gêm yn fwy cyfartal a’r frwydr seicolegol yn cael ei hymladd ar ffrynt y cartrefi. Mae gan bob bloc ei ryfel guerrilla ei hun, rhwng y rhai sy’n gosod baner Catalwnia a’r rhai sy’n gosod baner Sbaen, rhwng tarw Sbaen ac asyn Catalwnia. Mi fydd y llyfrau hanes yn adrodd: ‘yng Nghatalwnia cyn annibyniaeth, ffosydd oedd y balconis.’ Mae dod o hyd i faner bob amser yn gymhleth y dyddiau yma ac mi es ar bererindod yn fy nghymdogaeth, i dair siop Tsieiniaidd (‘Baner yr Annibynwyr! Dim ar ôl!’) a chael un yn siop rhif pedwar.

Penderfynu ar ein safle oedd y cur pen trefniadol olaf. Mae protest o’i hanfod yn weithred fyrfyfyr, ond gan ein bod ni’r Catalaniaid yn hoff o drefn, rydan ni wedi dyfeisio protest ‘gyda chofrestru o flaen llaw’ er mwyn bod yn drefnus. Ystyr hyn ydy fod angen cofrestru rai wythnosau cyn y brotest i gael lle mewn rhan benodol – ‘parth’ ydy’r enw ar y rhannau hyn – a rhaid dewis yr union stryd a’r union floc, fel prynu sedd benodol yn y sinema neu’r theatr. Parth 77 a ddewison ni, ond mae gen i berthnasau ym Mharth 63 ac yn 19, cyd-weithwyr yn 21 a chyfeillion yn 103: mi dwi wedi syrffedu ar sgyrsiau am ba barth, a’r haf cyfan yn mynd yn trafod pa barth ydy’r gorau, pa barth ydy’r gwaethaf, ac ym mha barth y bydd pobl o dref Berga: does gen i’m syniad a does gen i’m ots.

Heibio’r dyn efo’r corn siarad, y bachgen efo’r GoPro ar ei ben a’r Ffiniaid dros annibyniaeth a’u placard ‘Halauamme päättää tulevaisuudestamme’, rydan ni’n cyrraedd Bar Paredes. Wir i chi, dyma’r ugain medr hiraf i mi gerdded yn fy myw. Mae yma dorf yn wasgfa, o flaen y bar ac o’i ôl, a tua dwsin o bobl yn gweini. O edrych ar yr estheteg, y décor a’r lluniau o Cristiano Ronaldo wedi eu llofnodi a’u fframio, rydan ni’n amlwg mewn ardal o’r ddinas sy’n cefnogi Real Madrid, ond maen nhw wedi gosod ambell faner Catalwnia i fyny hefyd, rhai serennog, digon o faint, am mai busnes yw busnes ac mae’n rhaid manteisio ar heddiw. Pobl hŷn sydd yma yn bennaf, yn cymryd seibiant, yn dod atynt eu hunain o dan y system awyru. Mae bwyty’r bar fel ‘bocs preifat’ ar gyfer sioe’r brotest, lle i ymlacio. Mae yma ferched yn bwydo’u babis, tua hanner dwsin ohonyn nhw’n eistedd mewn rhes, yn aelodau o gymdeithas Bwydo o Blaid Annibyniaeth, debyg. Mae’r bar ei hun yn llawn dop, mae Guillem yn swnian na fedr o ddal ddim mwy, ac mi rydw innau’n dechrau sigo braidd, tan i mi weld un o’r gweinwyr yn teimlo drosta i, yn codi un ael ata i wrth iddo roi trefn ar yr oergelloedd.

‘Be’ gymri di, mêt?’

‘Wel, mae’r hogyn yma bron â pisio ar hyd y llawr, gawn ni fynd i’r toilet?’

‘Mae’r toilets i gwsmeriaid yn unig, sori.’

Damia, damia, cachu rwts, ddylwn i fod wedi mynd yn fy mlaen heb edrych arno fo, mae Gemma wastad yn dweud hynny wrtha i, dos yn syth i’r toilet, dilyn polisi erfyn maddeuant, nid gofyn caniatâd. Ond doeddwn i ddim wedi meddwl ac mae Guillem yn dal i dynnu yn fy nhrowsus.

‘Ocê, gymra i botel o ddŵr.’

‘Pedwar ewro, mêt.’

‘Pedwar ewro? Am bedwar ewro mi yfa i o dap y toilets.’

‘Iawn ta, ond mae’r toilets i gwsmeriaid yn unig.’

‘Hm, mi gymra i gan o gwrw. Na, mi ga i ddau.’ Meddyliais, mi fydd Miquel yn hapus...

‘Iawn ta, deuddeg ewro, mêt.’

Mae’r plentyn yn griddfan ‘pi-pi pi-pi’ ac yn edrych arna i efo wyneb fel taran, ti’n pwsho dy lwc, washi, a dwi’n penderfynu, iawn, dyna ti dy ddeuddeg ewro, mêt, ‘Dros Gatalwnia’. O’r diwedd rydan ni’n mynd at y toiledau ac mae yna saith o bobl yn y ciw a phob un â dŵr, Coca-Cola neu croissants yn eu dwylo.

*

Pan o’n i’n fach roedd y sianel newyddion 24 awr yn cysegru’r bore ar ei hyd i ailddangos seremoni goffáu Rafael de Casanovas, sef y Cadfridog a amddiffynnodd Barcelona rhag gwarchae’r Bourboniaid (gwarchae yr ydan ni hyd heddiw yn ceisio ymryddhau o’i afael). Bryd hynny, y perfformiad ‘gwrth-deledu’ hwnnw oedd uchafbwynt y dydd: pobl yn gosod blodau wrth gerflun, a hynny’n parhau am oriau, diflastod pur. Bellach mae’r 11eg o Fedi fel orgasm i newyddiadurwyr, Big Bang Newyddion Catalwnia. I ddechrau cafwyd Bin Laden, a lwyddodd i ddifetha’r diwrnod, ond wedyn daeth yr holl giamocs o grochan y mudiad dros annibyniaeth. Fore heddiw, dros frecwast, mi ges wybod am y rhedwr marathon pen nionyn a ddechreuodd ar ei daith ben bore o Amposta, sef twll tin Catalwnia, er mwyn cyrraedd y brotest am 14 munud wedi pump o’r gloch (ie, am 17:14 ), a hefyd mi welsom seiclwyr dros wladwriaeth sofran, math o daith feics o gwmpas Catalwnia sydd yn gorffen yn Barcelona, fel petai yna ddim digon ohonon ni yma’n barod. Yn ogystal, cawsom wybod am deisennau Medi’r 11eg, a grëwyd gan Gymdeithas y Pobyddion, a bod llong hwylio’r Independence One, sy’n perthyn i Gatalanwr efo llwyth o bres, ar ei thaith o’r Ynysoedd Balearig tuag at y ddinas, er mwyn ymuno yn yr orymdaith. Ar raglen newyddion y bore roedd llais y Sbaenwyr militaraidd, yn unol â’u harfer, yn dweud fod angen tanciau i ddinistrio’r brotest, ac mi gawsom ragflas o’r hyn sydd i ddod y prynhawn yma yng ngwrthdystiadau’r Catalaniaid oddi cartref, miloedd o Gatalaniaid sydd wedi ymfudo, wedi lapio’u hunain mewn baneri serennog ac yn ymgynnull yn Times Square, Piccadilly Circus neu ym mhrif sgwariau’r dinasoedd, lle bynnag maen nhw bellach yn byw. I gloi, mae’r cyflwynydd wedi paratoi eitem ar y diweddaraf o’r orymdaith, gan fynd draw at dollbyrth traffyrdd Catalwnia a gweld y tagfeydd o geir a bysiau gyda’u baneri – a draw i ganol Barcelona at y protestwyr plygeiniol sydd wedi cyrraedd ymhell cyn y traffig ac sydd felly am wneud awr neu ddwy o siopa neu fynd â’r plant i’r sw. Er mwyn medru osgoi ffarmwrs fel hyn y gwnaethon ni benderfynu bwyta gartre a pheidio mynd allan am ddiod cyn cinio, ac erbyn dau o’r gloch roedden ni’n barod i gychwyn. Efallai fod hyn yn ymddangos ychydig yn gynnar ond, yn y diwedd roedden ni’n hwyr gan fod popeth yn gymhleth ar Fedi’r 11eg. I ddechrau mi fedrwch anghofio am drafnidiaeth gyhoeddus: mae’r metro dan ei sang, dydy bysiau ddim yn gallu cyrraedd canol y ddinas, ac mae trenau RENFE, sy’n cael eu rhedeg gan y wladwriaeth, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch atal rhag cyrraedd. Llynedd, mi alwon nhw streic i’w chynnal ar yr union ddyddiad. Diolch byth fod rheilffordd y Generalitat – sef llywodraeth y fan yma – yn rhedeg mwy o drenau: dyma’r impasse parhaus i mi grybwyll gynnau. Ond gan na all neb ymddiried yn y trenau mae pawb sydd yn teithio i’r ddinas yn gwneud hynny naill ai ben bore yn eu ceir neu mewn bysiau ac maen nhw’n dweud fod dros 2,500 wedi parcio yma heddiw, gan drawsnewid Avinguda Diagonal, sef y brif ffordd i mewn i’r ddinas, yn arch-faes parcio anferthol dros dro. Mae gen i ffrindiau oedd eisiau priodi ar Fedi’r 11eg y llynedd ond wedyn, mi roeson nhw’r gorau i’r syniad: doedd y rhan fwyaf o’r gwahoddedigion ddim am ddod, medden nhw, a doedd dim modd dod o hyd i unrhyw fws i’w logi yn unman yng Nghatalwnia. Gyda Miquel a’r teulu roedden ni wedi trefnu cyfarfod yn y metro, gan feddwl fod gynnon ni ddigon o amser, ond eisoes roedd pobl fel morgrug yn yr orsaf, ac mi wnaethon ni siarad efo pâr o wirfoddolwyr yn eu hwythdegau – dyma ydy’r trefnyddion mewn gwirionedd, byddin o bensiynwyr llawn brwdfrydedd – ac mi ddywedon nhw wrthan ni gerdded, a chymryd ein hamser. ‘Ac anghofiwch am rif eich parth chi, mae’r trefniadau wedi mynd ar chwâl gan fod yna ormod wedi dod yma. Pan welwch chi na fedrwch chi fynd dim pellach, arhoswch chi lle rydach chi.’ A dyna’n union wnaethon ni: trodd y dyrfa yn un garreg soled ymhell cyn i ni gyrraedd ein parth ni, a dyna lle buon ni’n stond am dros ddwyawr.

Gan fod y ciw ar gyfer y pisiodrôm mor hir, dwi’n agor fy nghwrw i ladd amser. Mae teledu’r bar yn dangos lluniau’r brotest, heb sain. Mae’n dangos tyrfeydd o bobl, môr o wynebau, teuluoedd ar deuluoedd ochr yn ochr, miliynau ar filiynau o bobl, o’r awyr. Mae’n dangos murluniau o wynebau cyfarwydd, portreadau o arweinwyr gwleidyddol y byd, Merkel, Trump, Macron, y Dalai Lama, a phob un â’r slogan ‘Mynnwn Bleidleisio’ yn ei iaith ei hun. Bob blwyddyn rydan ni’n gwneud yr un peth, wedi’n llwyr argyhoeddi mai ni yw goodies y ffilm nes ein bod ni’n amgylchynu ein hunain â negeseuon cadarnhaol, ac yn defnyddio geiriau Gandhi neu Martin Luther King i ddangos mai ni sydd yn iawn a’n bod ni wedi cael cam, yn dioddef o anghyfiawnder dybryd. Dwi’n sylwi hefyd ar y cymeriadau yn y ciw pi-pi. Y dyn sydd o’n blaenau, er enghraifft, efo’i gap plismon Guardia Civil a’r faner serennog am ei wddw fel clogyn Superman. Efallai ei fod o’n Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol mewn cwmni mawr rhyngwladol a phwy a ŵyr, efallai y bydd yn diswyddo hanner dwsin o weithwyr yfory, ond heddiw, mae’n filwr ym myddin Gweriniaeth Catalwnia. Neu’r ferch sydd yn tynnu sylw Guillem bach yn chwareus drwy ddangos ewinedd ei bysedd a’i thraed iddo, a’r faner serennog wedi ei phaentio ar bob un: yfory mi fydd hi yn theatrau Ysbyty Sant Pau yn helpu gyda llawdriniaeth byw-neu-farw, ond heddiw yw heddiw a dyma ble mae hi yn gwastraffu’r prynhawn dros ddelfryd wleidyddol. Mae pob un ohonon ni sydd yn y bar, y boblach sy’n cael ein dangos ar y teledu fel gwartheg, rydan ni’n bobl barchus bob un, ac mae gynnon ni ein bywydau.

Mae’r ciw yn lleihau, fel petai pawb yn gwneud beth sydd raid yn ddi-lol, ac o’r diwedd daw ein tro ac i mewn â ni i uffern: dyma dŷ bach Dante, papurach a thameidiau bach o gachu yn nofio mewn modfedd o ddŵr brown. A’r drewdod, y drewdod, bryntni’r clytiau, mynwent y clytiau wrth i’r mamau newid y babis, a gorlenwi’r biniau mislif. Dwi’n bolltio’r drws ynghanol y budreddi ac yn meddwl a ydy hi’n werth chwilio am far arall, ond mae Guillem wedi ennill y blaen arna i ac yn gafael yn ei bidlen ac yn gwagio’i bledren yn llawen gan anelu at du mewn y toiled ond yn gwlychu’r sêt a’r caead nes eu bod yn socian. Heb feddwl gormod am y peth, dwi’n rhoi fy swildod i’r neilltu ac yn ymuno. Dyna lle rydan ni, yn pisio ochr yn ochr, y ddau efo’n gilydd, fel y byddai rhywun yn gwneud yn blentyn ar dripiau ysgol, am y gorau i weld pwy fedr bisio bellaf.

*

Wedi cyflawni’r nod, mae dychwelyd at base camp yr un mor anodd â’r daith allan, ond dwi wedi ymlacio rhywfaint. Mae Guillem yn dawelach, a gan ei fod newydd gael gwagiad dwi’n penderfynu ei godi o a’i roi ar f’ysgwyddau, fel y gall weld pob dim yn well. I osgoi’r band drymiau sydd o’n blaenau, dwi’n cael y syniad gwych o fynd tua’r gogledd ond mae hynny’n golygu ein bod yn cyrraedd cylchdro’r cyrn traddodiadol, o bosib yr offeryn hyllaf ar y blaned, chwiliwch ar YouTube, rydan ni’r Catalaniaid yn medru gwneud y gwych a’r gwachul. Mae’r cyrn yn canu cân y tyrau, ac wrth gwrs, y peth nesaf ydy fod yna golofn o bedwar o bobl yn ymddangos a phlentyn ar y top yn gafael yn y llythyren E. Rai medrau ymhellach wedyn mae yna un yn dal llythyren enfawr D. Dwi’n ei gweld hi rŵan, mae pob colofn yn arddangos llythyren yn y gair INDEPENDÈNCIA. Rydan ni wrth ein boddau fod pobl yn edrych arnon ni, yn rhoi sylw i ni. Rydan ni’n osgoi sawl teulu (esgusodwch ni, gawn ni fynd heibio) ac yn osgoi grŵp o ferched mewn gwisg draddodiadol (esgusodwch ni, eto) ac rydan ni tu ôl i ddyn sydd yn gwisgo het mae o wedi ei gwneud ei hun sydd yn edrych fel allor o deyrnged i Lluís Companys [Arlywydd Catalwnia a saethwyd gan y Guardia Civil] (sori, esgusodwch ni) ac rydan ni’n mynd heibio ffotograffydd yn cario ysgol er mwyn gallu tynnu lluniau panoramig, o uchder. Yn sydyn mae’r bychan yn griddfan wedi dychryn, ac wrth droi dwi’n gweld ei fod o benben ag wyneb wedi ei baentio yn lliwiau’r faner serennog, ein Braveheart ni ein hunain. Dwi’n ceisio canfod lle rydw i ond fedra i mo’u gweld nhw yn unlle. Fallai eu bod nhw wedi symud, mae’n amhosib aros yn yr union le, a’r dyrfa yn un afon fawr sydd yn eich cario chi efo hi, dydan ni’n ddim mwy na dail ar y dŵr ac mae’n rhaid bod y llif wedi mynd â nhw yn ei sgil. Mae yna gymaint ohonon ni yma. Petasai yna bobl-lithriad, byddai’n ddigon i’n gwasgu i’r llawr. Iawn, mi wn i mai fi ydy’r unig un yn y brotest ar ei hyd sydd yn meddwl fel hyn, ond fedra i mo’r help, fedra i ddim cael gwared ar y syniad o ’mhen. O’n cwmpas mae yna fwy o bobl nag sydd mewn rhyfel ac ymysg y placardiau sydd gan y gatrawd hon mae datganiadau o bob math, Volem Votar – Mynnwn Bleidleisio, ‘Freedom for Catalonia’ yn Saesneg, ‘Independència JA’, ‘Annibyniaeth NAWR’, ‘Mynnwn ddewis amgen ar gyfer Balaguer’: mae yna bob amser un sydd â datganiad nad ydy o’n gwneud synnwyr. Dwi’n tynnu’r bychan i lawr ac yn gwneud iddo gerdded gan ei fod o’n sigo fy nghefn i – mae’n rhaid fod ei dad o’n chwysu gwaed yn y gym – ac wrth symud ychydig yn ein blaenau daw arogl cyfarwydd i fy ffroenau. Mae yna ffarmwr mewn gwisg draddodiadol yn rhostio cig ar dân barbeciw ynghanol y ffordd ac mae yna un arall yn rhannu ffa sychion i’r criw llwglyd sy’n eistedd ar gadeiriau plygu. Rydan ni’n pasio côr, pobl sy’n cario bocsys pleidleisio mawr o gardbord a theulu yn cario baneri serennog gwyrddion a’r arwyddair ‘Y Lliwddall dros Annibyniaeth’. Ond does dim golwg o’n criw ni yn unman ac mae Guillem wedi blino, ac felly dwi’n agor yr ail gan o gwrw – psst: fydd Miquel ddim callach – ac rydan ni’n gorffwyso am ychydig.

Dwi’n ceisio ffonio Gemma ond dydy’r ffôn symudol ddim yn gweithio: roeddwn i wedi anghofio ei bod hi fel stadiwm Barça yma, a chynifer o bobl yn cysylltu ar yr un pryd nes bod y ffôn ddim yn gweithio. Dim gwe chwaith, felly wn i ddim ble maen nhw a fedra i ddim danfon Whatsapp pitw chwaith. Dwi’n meddwl am y ffotograffydd a’i ysgol, fallai y cawn ei benthyg ganddo, a chanfod ein criw bach o’r awyr, ond mae wedi mynd o ’ngolwg i a does yna ddim gobaith o’i weld o eto. Pobl a mwy o bobl o’n cwmpas, a phosteri yn datgan ‘Sarroca de Lleida o blaid Annibyniaeth’, ‘Linyola dros Annibyniaeth’, ‘Monistrol dros Anibynniaeth’ (bob blwyddyn mae yna rywun sydd yn camsillafu). Pobl a mwy o bobl ond nid ein pobl ni. Diolch byth fod y bychan yn dawel, mae o wrth ei fodd efo’r holl firi, yn wahanol i mi a’r panig sydd yn dechrau cynnau tu mewn i mi. Yn sydyn mae yna symudiad sylweddol ac mae’r dyrfa sydd wedi bod yn dynn hyd yma yn dechrau simsanu. O damia, y pobl-lithriad. Mi wyddwn, mae’n rhaid fod y Gwasanaethau Cudd wedi gwneud eu gwaith ac wedi creu panig yn y dyrfa ac mi fyddwn ni gyd yn marw wedi’n gwasgu’n fflat fel cacen blât. Ond na, mae’r dyrfa’n agor, fel yr agorodd Moses y dyfroedd gynt, er mwyn gwneud lle i’r ‘Beicars dros Annibyniaeth’, tua cant o ddynion, cewri, na fyddech chi fel arfer yn meiddio gofyn i’r un ohonyn nhw faint o’r gloch oedd hi, ond heddiw roedden nhw’n gwenu ar bawb, yn cusanu babis, yn refio’u Harley Davidsons ac yn chwifio’u baneri, neu wedi eu peintio ar eu helmedi, neu’n datŵs ar eu breichiau, gyda geiriau fel ‘donec perficiam’, arwyddair hen warchodlu Catalwnia cyn y rhyfel gyda’r Bourboniaid. Mae gan un faner serennog ond mewn du, yn debyg i faner y môr-ladron, ‘Rhyddid neu Farwolaeth’. Wedi i’r olaf fynd heibio, a’r moped bach sydd yn cau’r garfan hon, mae’r môr yn dychwelyd i’w le. Mae Guillem yn chwarae efo plant sydd wedi dod â phoni – poni o blaid annibyniaeth – ac mae yna gwpwl, twristiaid, newydd gyrraedd o’r maes awyr gyda’u cesys, yn tynnu hunluniau gyda’r orymdaith yn gefndir. Dwi’n penderfynu ailgydio yn y daith ond ar ôl pasio’r Taid Barça a’r ffermwr efo’r ddoli blastig enfawr (mae’r bychan wrth ei fodd) rydan ni’n sydyn ynghanol cyngerdd byrfyfyr. Dwi’n gweld mai’r Brams ydy’r band (does neb tebyg i’r prif leisydd) ac mae hyn fel bod mewn gŵyl, ac mae’r pennau mawrion a’r cewri lliwgar a’r Guita xica, neu’r Mul Bach – pawb – yn symud pob asgwrn yn eu cyrff. Mae Guillem yn curo’i ddwylo, ac mi wnes innau (am ennyd fer) ddawnsio’r conga.

*

Dydw i ddim yn medru dod o hyd iddyn nhw a dwi’n dechrau mynd yn flin, wedi f’argyhoeddi mai yn y fan hon yr oedden ni gynnau, o flaen y siop gwerthu tai. Mae’r dyrfa’n llonydd, neu fallai mai ystryw i’r llygaid ydy hyn. Mae’n rhaid mai nhw sydd wedi symud. Fallai eu bod wedi sylwi ein bod ni ar goll ac wedi mynd i chwilio amdanom. Dwi’n pendroni a ddylen ni droi’n ôl a mynd at y bar, ond mae’n rhy bell a does gen i ddim awydd, felly mi awn yn ein blaenau. Ond i ble? Mae Guillem ar ben ei ddigon ac yn poeni dim, mae yna lefryn ifanc yn gadael iddo deimlo’r siâp baner serennog sydd wedi ei siafio ar ei ben. Bob yn dipyn dwi’n synhwyro’r tensiwn yn codi rhyw fymryn yn y dorf a’r gweiddi’n cynyddu a chyflymu. Mae pethau’n poethi a dwi’n gweld ar fy ffôn symudol fod yr awr fawr bron â chyrraedd. Dwi’n codi Guillem ar f’ysgwyddau eto ac yn gofyn iddo chwilio amdanyn nhw: ‘Weli di Mam, Guillem?’ Ond na. Wedyn dwi’n penderfynu rhoi tro arni fy hun, a dwi’n gweld postyn lamp ac yn lapio fy hun o’i gwmpas ac yn trio dringo medr neu fwy i fyny, yn chwysu fel mochyn, a chyn i mi fedru symud mwy na modfedd ddwy o’r llawr mae yna hen ddyn sydd wedi bod yn fy ngwylio i o bell yn dechrau gweiddi arna i, ac yn gafael yn ei ffon. ‘Dydan ni ddim isio fandaliaid. Pobl heddychlon ydan ni’r Catalaniaid.’ Mae Guillem yn syllu i fyny arno fo, heb ddeall rhyw lawer, ac rŵan mae gwraig y dyn a phâr arall oedrannus yn ymuno yn y brotest, ac yn agosáu gan ysgwyd eu ffyn fel petaen nhw am roi uffern o gweir i mi, ond yn ffodus i mi mae rhywbeth arall yn dal eu sylw, sef cri’r dyrfa a sŵn yr holl glychau’n dechrau canu. A gyda’r clychau’n taro, mae hi’n 17:14, a phawb fel un côr yn rhoi eu crysau T fflworolau amdanynt, a daw bloedd gryfa’r prynhawn. Yr un floedd ag erioed: ‘MYNNWN BLEIDLEISIO! MYNNWN BLEIDLEISIO!’ ac ‘I / IN-DE / IN-DE-PEN-DÈN-CI-A’, cri glasurol mudiad sofraniaeth y 1990au, er mai ‘IN / IN-DE’ a yngenid yn y cyfnod hwnnw, gan barchu rheolau gramadeg yr iaith ar raniad y sillafau, ond gyda throad y ganrif ddiweddara’ gollyngwyd yr ‘N’. Mae’r bobl yn bloeddio fel un, mor uchel ag y gallan nhw, nes bod eu lleisiau’n gryg fel y dynion yn gollwng stêm ar y dyfarnwr yn stadiwm Barça, ond heb yr amrediad rhegfeydd. Rydan ni gyd yn gweiddi nerth ein pennau, yn methu cael ein gwynt, ac mae cri’r bobl sydd o’n cwmpas yn gwneud i ni floeddio’n uwch, ac yn uwch eto, yn wallgof, fyddarol. Mae’r adrenalin yn rasio drwy ’nghorff gan milltir yr awr, mae yna rywbeth cathartig a chadarnhaol yn y protestiadau yma, rydach chi’n dod ohonyn nhw’n teimlo’n llawn egni, yn gryfach ac yn fwy argyhoeddedig ac felly’n fwy penstiff, yn fwy eithafol fyth. Mae ein bloedd dorfol yn cyfleu ymdeimlad ffug o wirionedd, o rym ac o fuddugoliaeth, sy’n dyfnhau effaith iselder y dyddiau a ddaw, pan fyddwn ni’n gweld nad ydy’r gwleidyddion wedi symud yr un fodfedd. Ond mae’r cymundeb yn hyfryd, prin yw’r cyfleon a gawn i weld ein hunain fel hyn, fel un, a phan mae’n digwydd, mae’n rhyfeddol. Does dim yn ein gwahanu heddiw, does dim ots os mai cefnogi Barça neu Real Madrid ydach chi, dim ots os ydach chi’n wyn neu’n ddu, ar y dde neu ar y chwith, heddiw rydan ni’n un, gyda’n gilydd, ac mae ein nerth ni’n ddiderfyn. Dyma ydy cyffur y protestiadau hyn, debyg, dyna pam ein bod ni mor gaeth iddyn nhw: teimlo grym a nerth y ‘ni’ yma ydan ni. Heddiw mi allasen ni wneud unrhyw beth, creu chwyldro, lladd rhywun hyd yn oed, ac wedi hynny, cofleidio yn llawn emosiwn. Rydan ni’n gaeth i’r pleser o fod yn rhan o hyn i gyd, o berthyn ac o fyw’r foment hynod hon. Rydan ni i gyd yn byw ein bywydau a does gynnon ni ddim yn gyffredin â 99 y cant o’r bobl sydd ar y brotest, ond heddiw mae pawb yn siarad efo’i gilydd gan fod yr achos yn ein huno ni a’r trydan torfol yn ein llenwi ag egni.

*

Mae hi’n 17:20 ac rydan ni’n dal i floeddio, fel pe bai dim yn newid, ond mae’r penllanw eisoes wedi bod ac o dipyn i beth mae’r sioe’n dechrau dirwyn i ben. Mae i’w glywed wrth i’r bloeddio gilio a phellhau, ac mae’r dwyster yn lleihau. Hyd yma, roedd pawb fel un, a doedd dim ots nad oedd y ffarmwr nesaf atom wedi rhoi ‘ogla neis’ heddiw. Ond rŵan mae’r bobl o’n cwmpas ni’n dechrau mynd ar ein nerfau, babis yn sgrechian, plant yn rhedeg o gwmpas, yn bla. Mae yna awr gyfan o floeddio a phrotestio ar ôl, rhag ofn nad ydy Madrid wedi ein clywed ni, neu fod eu clociau nhw ar ei hôl hi, ac oherwydd bod y rhodfa’n un dagfa fawr ac y cymerith amser i’w chlirio, ond mae’n amlwg fod y dasg wedi ei chyflawni ac mae’n rhaid i rai roi bàth i’w plant a llwytho’r peiriant golchi. Yn wir, mae protest fel gêm bêl-droed: mi welwch chi fwy ohoni yn eich tŷ. Rydan ni’n dal i wenu, yn dal i floeddio, ond mae pawb eisiau blydi mynd adre wir. Mae gan bob un ohonom ein taith, yn bell neu’n agos, ond ar ôl 17:15 y soffa gartre yw’r unig famwlad i ni. Ac wrth reswm, mi fyddwn ni i gyd yn gwylio teledu Catalaneg achos dyna lle bydd yr adroddiadau mwyaf cynhwysfawr: dim ond os ydy’ch meddyg chi wedi dweud fod eisiau codi’ch pwysau gwaed y gallwch chi wylio teledu Sbaeneg ar ddiwrnod fel heddiw, gan mai’r brotest yw’r eitem olaf a dim ond dangos ambell benboethyn yn llosgi baner Sbaen wnân nhw, ynghyd â gwleidyddion Madrid yn dweud fod protestio yn creu rhaniadau a bod gofyn am refferendwm yn mynd yn groes i ddemocratiaeth. Ar deledu Catalaneg, ar y llaw arall, mi fedrwn fwynhau ein perfformiadau campus, ac mi welwn adroddiadau fel hysbysebion o’r orymdaith gyda lluniau o gamerâu drôn i gerddoriaeth epig, fel yn Gladiator, ac i ddilyn cawn lif diddiwedd o gyfweliadau ac rydach chi’n siŵr o weld rhywun rydach chi’n ei ’nabod. Mi gawn ddilyn y brotest ar Twitter hefyd, a’r hashnod #CatalansVote unwaith eto’n trendio’n fyd-eang – a hynny heb fod yr un ohonom oedd ar y brotest yn medru trydar – ac mi gawn weld hefyd, cawn ein swyno gan hyn bob tro, beth mae’r BBC a’r New York Times a’r cyfryngau rhyngwladol yn ei ddweud amdanom. Lluniau a phennawd yn ddi-ffael sydd ganddyn nhw, a gresyn hefyd mai dyna’r cyfan a gaiff y darllenwyr Saesneg neu Ffrangeg, ‘Y brotest ddiweddaraf dros annibyniaeth’, pan mai dim ond pen y mynydd iâ ydy’r ddelwedd. I gloi’r noson, uchafbwynt arlwy’r teledu ydy clywed faint yn union o bobl oedd yno, ac mae’r rhifau’n pendilio’n rhyfeddol yn ôl pwy sydd yn cyfrif: mi fydd y trefnwyr a’r heddlu lleol yn tueddu i anelu’n uchel, gan gyfrif yn y miliynau, tra bydd Cynrychiolaeth Llywodraeth Sbaen yn Barcelona yn taflu dŵr oer ar y cyfan ac yn sôn am hanner miliwn ‘ar y mwyaf’. Ond waeth beth fydd y rhifau heno, uchel neu isel, rydan ni’n dal yn sownd yma. Mae naws y brotest wedi newid ac rydw i’n sylwi fod ei lliw wedi newid hefyd: mae’r dyrfa bellach yn wyrdd fflworolau, fel petasen ni’n greaduriaid arallfydol ac yn ffurfio un dafn anferthol o lysnafedd. Rydw i’n cofio rŵan nad ydan ni wedi gwisgo ein crysau T. Tynnaf f’un i ac un Guillem allan o’r bag ar fy nghefn, ac wrth i ni eu gwisgo gwelaf fod crysau’r lleill gen i o hyd, nad ydyn nhwythau chwaith wedi trawsffurfio eto. Mi fydd hi’n haws i mi eu gweld nhw rŵan, gan mai dim ond y nhw fydd yn lliwiau’r gelyn yn y llanw gwyrdd. Ac felly y mae: funud yn ddiweddarach dwi’n eu gweld nhw yn y pellter, tua 30 metr i ffwrdd i gyfeiriad y môr.

*

Ooo! ‘O’r diwedd!’ gwaeddaf, gan godi Guillem bach, sy’n chwerthin yn braf. Rydw i’n sodro’r creadur efo’i fam wrth ddosbarthu’r crysau T i bawb – dewch o’na, gwisgwch eich crysau T, i ni gael serennu yn y €90 am ryw hyd o leiaf!

‘Ble ddiawl wyt ti wedi bod?’ meddai Miquel a thynnu ei glustffonau o’r radio.

‘I’r toilet efo Guillem, ond efo gymaint o bobl o gwmpas ... ’

‘Go dda, ’drycha, mae Martí eisiau pi-pi rŵan. Ei di â fo? Gan dy fod ti’n gwybod lle i fynd?’

 

Gwobrwyir enillydd Her Gyfieithu 2018 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 9 Awst 2018 am 3 y prynhawn yn Crefft yn y Bae. Caiff y cyfieithiad buddugol – o gerdd Gatalaneg gan Laia Martínez i López – a’r feirniadaeth gan Ned Thomas eu cyhoeddi ar y dydd ar pedwargwynt.cymru


Enillodd Albert Forns wobr Documenta am ei nofel gyntaf, Albert Serra (y nofelydd, nid y sinematograffydd) (Empúries, 2013). Mae'n newyddiadurwr yn Barcelona. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae ein gwaedd dorfol yn cyfleu ymdeimlad ffug o wirionedd, o rym ac o fuddugoliaeth

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…