Cyfansoddi

Y ddôr yn y mur

Gwyn Thomas
24·07·2016

(o'r casgliad Chwerwder yn y Ffynhonnau, 1962)

Cloër fi mewn cell o lyfrau
A'i llythrennau a'i geiriau yn furiau,
Ac ynddi un ddôr tuag Aber Henfelen.

Pen a dorrwyd, a gwaed a gollwyd,
Da a ddifawyd, dwy ynys a yswyd:
Ond rhith y llythyren a ddieithria ddolur,
A ddwyn ddedwyddyd o boen yr antur.

O'r diogelwch y tu ôl i'r dudalen
Fyth nid agoraf tuag Aber Henfelen.
 

*Chwedl Branwen o Bedair Cainc y Mabingoi yw cefndir y gerdd hon.

Pynciau:

#Rhifyn 1
#Barddoniaeth
#Gwyn Thomas