Cyfansoddi

Y ddwy deyrnas


Eluned Gramich

Amser darllen: 12 munud

28·07·2018

Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge, gyda darluniau gan Valerio Vidali (ELI Readers, 2013)

 

Illness is the night-side of life, a more onerous citizenship. Everyone who is born holds dual citizenship, in the kingdom of the well and in the kingdom of the sick. Although we all prefer to use only the good passport, sooner or later each of us is obliged, at least for a spell, to identify ourselves as citizens of that other place.

Susan Sontag, Illness as Metaphor

 

Gwranda: rydw i wedi bod yn meddwl am y flwyddyn dreuliais i yn nheyrnas y sâl. Blwyddyn ddryslyd, anhraethadwy, y tu hwnt i eiriau. Cuddiais fy mhasbort arall, y pasbort tywyll sydd yn dangos wyneb tenau fel penglog, ac a ysgrifennwyd mewn gwyddor na all neb ei darllen. Ni chyfarfyddaist ti â fi yn y deyrnas ddall, wenwynig hon.

Sut i fynegi fy mhrofiad mewn geiriau y byddet ti’n eu deall? Ceisiais esbonio’r peth, nawr ac yn y man, wrth hen ffrindiau. Ond methais. Mewn gwirionedd, roedd cywilydd arna i siarad am fy ninasyddiaeth arall. Ond gwnaf fy ngorau i esbonio.

*

Y diwrnod cyn y siwrne, roedd pawb yn dweud: fydd dim modd i chi fynd. Ydych chi wedi gweld y newyddion? Maen nhw’n stond am filltiroedd. Amhosib. Wir? atebais, wedi blino’n barod, wedi blino ar yr holl baratoi a’r holl gynllunio. Roedd y siwtcesys wedi eu pacio, y car tu fas yn drwmlwythog â’m bagiau a bocsys o lyfrau. Eisteddon ni o flaen y teledu, fy mhartner Almaenig, fy rhieni a fi, yn rhythu ar y sgrin lle roedd y lorïau’n ciwio – llinellau hir o fwg a metel, erchyll. Calais wedi cau. Y jwngl wedi torri dros y tresi. A’r gyrwyr yn cysgu yn eu lorïau, yn colli arian am bob awr a âi heibio.

Amhosib, dywedon nhw. Fe fydd yn rhaid i chi aros ’ma. Yng Nghaerdydd. Ond drannoeth, cliriodd y priffyrdd, i ni, fel petai. Daeth y llywodraethau at ei gilydd i ddelio gyda’r anhrefn. Agorodd y dociau unwaith eto.

Diwrnod o haf oedd hi, pan adawon ni Gymru. Dydd heulog, twym, yr awyr fel lliain glas wedi’i ymestyn yn dynn uwch fy mhen. Ar y ffordd i Dover, gwelsom portaloo ar ôl portaloo ar ymyl yr heol. Efallai, meddyliais, y galla i fod yn yrrwr lori. Mynd o le i le, cysgu mewn cwtsh tu ôl i’r seddau. Llonydd.

Gwlad Belg. Stop ar y daith. Es i am wâc ar fy mhen fy hun yn y caeau ger y gwesty. Naw o’r gloch ac yn dal yn olau a phelydrau’r haul yn cyffwrdd y llwyni’n ysgafn.

*

Darllenais am oriau. Nid oedd jobyn gyda fi eto, ac roedd fy mhartner yn gweithio drwy’r dydd. Un llyfr rwy’n ei gofio yw Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge Rainer Maria Rilke. Darllenais y llyfrau nodiadau hyn ar fy mhen fy hun, wrth gwrs, yn y fflat mawr, gwag, yn y stryd oedd wedi cael ei henwi ar ôl milwyr Almaenig-Rwsiaidd. Roedd y lle’n anferth – yr adeiladau, y strydoedd llydan. Roeddwn i’n mwynhau edrych ar y stryd, y teuluoedd ar eu ffordd i’r parc, y ferch ifanc o’r siop annibynnol fyddai’n eistedd tu fas, yn smocio gyda chi bach ar ei chôl, y dafarn lle roedd fy nghymdogion newydd yn cwrdd am gwrw melyn ysgafn, ac i wylio’r pêl-droed.

Treulion ni’r mis cyntaf heb sinc, heb ffwrn, heb gadair esmwyth, yn cysgu ar fatres wersylla ar y llawr, ac yn dihuno i awyrgylch afreal. Doeddwn i ddim yn gallu bwyta yn y dyddiau cyntaf hyn, roeddwn i’n nerfus. Ofnus hefyd. Mae newid yn gallu achosi ofn. Roedd Rilke yn gwybod hynny pan gyrhaeddodd Baris. Ond, fel y mae ei alter-ego Malte Laurids Brigge yn dweud: rhaid brwydro yn ei erbyn. ‘Rwyf wedi cymryd camau i wrthsefyll ofn. Buais yn effro drwy’r nos yn ysgrifennu.’

[Rhaid i fi esbonio rhywbeth i ti: roedd y siwrne i’r Almaen yn fwy na thaith. Moddion oedd y daith. Nawr mae pethau’n mynd i gymhlethu; dwi’n colli’r edefyn; ble ddylwn i ddechrau?]

*

Flwyddyn ynghynt. Fy niwrnod olaf mewn gwlad bell. Gwlad gydag iaith a chredoau a diwylliant roedd yn rhaid i fi eu dysgu yn ara’ deg, fel plentyn, a nawr gorfod dychwelyd i Ewrop. Er mwyn gadael fy mywyd yn y ddinas hon, roedd yn rhaid i fi wacáu fy fflat. Taflu popeth. Sgrapio llyfrau, papurau, dodrefn. Ar y noson olaf, cysgais ar y llawr, heb ddŵr, heb wres, heb olau...

Roedd y byd wedi troi ar ei ben heb i mi sylweddoli. Yn gorwedd ar y llawr, y siwtces yn barod am y daith drannoeth i Rwsia, croesais at ffin arall: y ffin i’r deyrnas dywyll. Roedd angen yr ail basbort arnaf nawr. Ar ôl brwydro am fisoedd i’w gadw o’r golwg.

Roedd poen ym mhob modfedd o’m corff ac ro’n i’n methu anadlu. Roedd arogl chwerw ar fy chwys, heb ddŵr i ymolchi.

Malte Laurids Brigge: ‘Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, roedd yno eto. Hyn oedd wedi fy llenwi i â’m harswyd cyntaf, dwfn, pan oeddwn yn blentyn ac yn gorwedd yn y gwely gyda thwymyn: y Peth Mawr [das Große]. Dyna’r hyn roeddwn yn ei alw ... Daeth yn ei ôl eto... Y tro hwn roedd yn tyfu ohonof fel tiwmor, fel ail ben, ac roedd yn rhan ohonof, er nad oedd unrhyw amheuaeth nad i fi yr oedd yn perthyn, oherwydd roedd mor fawr ei faint.’

*

Yn Rwsia, roeddwn i’n teithio gyda fy ffrind ac yn gwneud fy ngorau glas i esgus bod popeth yn iawn. Hanner-cuddio’r gwirionedd: ‘Dydw i ddim yn teimlo gant y cant.’ ‘Mae gen i haint ar y bledren, ’na i gyd.’ Aethon ni rownd dinas Irkutsk fel twristiaid diwyd ond yn y nos roeddwn i’n methu cysgu. Roeddwn i’n crynu’n ofnadwy ac yn chwysu ac roedd yna boen yn symud o gwmpas fy nghorff fel ysbryd drwg. Fe wnes i freuddwydio: fy ffrind yn gorfod mynd â fi i’r ysbyty, y meddygon Rwsiaidd yn methu ffeindio achos y salwch, ac wedyn? Marwolaeth, wrth gwrs. Y Peth Mawr. Yr arswyd cyntaf.

Drannoeth, es i i’r fferyllfa a phledio gyda’r ddynes fawr tu ôl i’r gwydr mewn Rwsieg. ‘Antibiotics, rhai cryf, i stopio’r haint, os gwelwch yn dda!’ Meddyliodd y ddynes taw merch leol o’n i – fy ngwallt brown wedi’i blethu, fy nghot hir, ddu – gwenodd hi arnaf. ‘Dim heb bresgripsiwn,’ meddai, ond roedd golwg mor drist arna i, rhoddodd hi’r tabledi i fi am wyth can rwbl.

Ar y ffordd ’nôl o Rwsia, stopiais i weld fy nheulu yn yr Almaen. Roeddwn i’n bwriadu teithio i Estonia a Gwledydd y Baltig, ond gwaethygu wnaeth y salwch. Doedd dim modd i fi deithio ar fy mhen fy hun. Roeddwn i’n wan ac yn ddryslyd, yn cymryd y gwrthfiotigau bob dydd, yn ofer. Cysgu wnes i yn München, yng nghartref Oma ac Opa. Teimlais y deyrnas dywyll yn dynesu tuag ataf. Doedd fy nghorff ddim yn perthyn i mi rhagor.

Yn München, dywedodd hen feddyg, a’i wallt yn wyn, ei got yn wen: ‘Frau Gramich, rhowch y gorau i gymryd y gwrthfiotigau Rwsiaidd. Moddion cryf ofnadwy ydyn nhw. Yn lle hynny, rwy’n eich cynghori i gymryd un afal a glased o cola fflat bob dydd.’

‘Ond y tro diwethaf es i at y meddyg,’ ceisiais esbonio, ‘dywedodd fod haint difrifol arna i.’

Edrychodd y meddyg Almaenig yn syn arna i, fel petawn i’n wallgof.

[Cofia: Yn y wlad bell, roeddwn yn cerdded o gwmpas mewn niwl o hanner-dealltwriaeth. Ond ni chliriodd y niwl pan gyrhaeddais yr Almaen. Ni chliriodd y niwl pan gyrhaeddais yn ôl i Gymru ychwaith. Cofia: yn fy nghorff roedd poen fy mhen yn dangos ei wyneb.]

*

Rwyf wedi gweld llawer o feddygon yn f’amser. Roedd haint ar y bledren ’da fi unwaith, yn y wlad bell. Salwch cyffredin. Es i at y meddyg agosaf, heb feddwl ddwywaith. Hen ddyn oedd e, yn gwisgo cot wen, a oedd wedi astudio mewn prifysgol Americanaidd yn y saithdegau. Roedd e’n meddwl ei fod yn gallu siarad Saesneg, ond doedd hynny ddim yn wir bellach. Roedd ei feddygfa fel ystafell fyw rhywun sy’n methu edrych ar ôl ei hun. Roedd ’na bapurau, llyfrau, ffeiliau, cyfarpar, a bocsys yn llenwi’r lle. Roedd y gwely archwiliad meddygol yn llawn pecynnau papur.

Dywedodd: ‘Clefyd gwenerol sy’ ’da chi.’

‘Nage.’

‘Ie,’ atebodd, ac roedd yn rhaid i fi ei ddilyn i ystafell arall, a oedd hyd yn oed yn fwy anniben a brwnt. Ond ar y diwrnod hwnnw, am ryw reswm, roeddwn i’n barod i gredu bod rhywbeth difrifol o’i le arnaf.

Dywedodd: ‘Dydy hyn ddim yn iawn. Ddim o gwbl.’

Roedd y dyn yn ddig gyda fi, ond doeddwn i ddim yn deall pam. Roedd yn rhaid i mi eistedd, yn hanner noeth, mewn hen gadair frown, gyda fy nhraed mewn gwartholion metel. Ac fe aeth e mas o’r ystafell am gyfnod hir ac arhosais i yno, yn y feddygfa a oedd fel tŷ aflêr gwidman, yn dymuno cael menyw wrth f’ochr.

Daeth e ’nôl ac wedyn gwnaeth e rywbeth rhwng fy nghoesau nad o’n i’n gallu ei weld ond roedd e’n brifo’n ofnadwy. Rhoddodd wlân cotwm wedi ei drochi mewn diheintydd y tu mewn i mi. ‘Rhaid i chi dynnu fe mas mewn chwe awr,’ dywedodd, gan ddangos llinyn bach gwyn. ‘Fe fydd hwn yn helpu yn erbyn yr haint.’

Dychwelwyd y canlyniadau: dim clefyd gwenerol, na haint ychwaith. Er gwaethaf amheuon y meddyg, ro’n i’n iach.

*

Gwaethygodd y salwch pan gyrhaeddais i’n ôl i Gymru. Es i weld sawl meddyg, cefais brawf ar ôl prawf: gwaed, uwchsain, troeth, carthion – yn ofer. Rhoddon nhw f’enw ar restr y gwasanaeth iechyd ar gyfer prawf uwchsain arall eto ac ro’n i mor wael yn ystod yr wythnos honno nes perswadio fy mam i’m gyrru i ysbyty preifat. Dau gan punt am ddeng munud. Edrychodd y doctor a’r nyrsys arna i’n rhyfedd, yn wahanol i’r ffordd roedden nhw’n fy nhrin yn y feddygfa gyffredin. Roedd y nyrsys yma wedi gweld pobl fel fi o’r blaen. Merched yr un oedran, gyda’r un nerfusrwydd.

Gofynnodd y doctor: ‘Yn eich barn chi, ydych chi’n dew?’

‘Na,’ dywedais.

Cododd y doctor ei haeliau.

Mewn gwirionedd, nid oedd fy nghorff yn dew nac yn denau: yn hytrach, bradwr ydoedd. Oherwydd roedd fy nghorff yn marw. Y syndod oedd nad oedd y meddygon yn gallu gweld ffaith mor amlwg.

Rhoddodd y doctor gynnig arall arni: ‘Beth yn eich barn chi sydd o’i le?’

Siglais fy mhen. Nid oedd geiriau gen i ar gyfer yr afiechyd hwn.

Breuddwydiais yn aml yn ystod y cyfnod hwn am gyfnewid fy nghorff am gorff rhywun arall, er mwyn i mi gael gofyn: Wel, sut brofiad yw e? Ti’n teimlo nawr yr hyn dwi’n teimlo. Dwêd wrtha i beth ydw i’n teimlo!

*

Roedd y Peth Mawr yn dal yna pan symudais i’r Almaen, i’r stryd gydag enw’r milwyr Almaenig-Rwsiaidd. Unwaith, gwpl o fisoedd yn ddiweddarach, yn yr hydref, roedd yn fwriad gen i fynd ar siwrne hir arall. Ar y diwrnod roeddwn i i fod i hedfan, ro’n i’n sâl eto, a methais fynd ar yr awyren. Haint ar yr aren, un gwan. Symudais i ddim am wythnos. Aeth fy mhartner i ffwrdd ac ro’n i ar fy mhen fy hun yn y fflat gwag. O leiaf roedd sinc gyda ni erbyn hynny. Ond dim gwely. Cymerais fy ngwrthfiotigau (gyda phresgripsiwn) a gorweddais ar y soffa am saith niwrnod.

Cyfnod lle roedd y meddwl yn pwyso. Roedd yr haint yn un gwirioneddol, ond roedd yn ormod o gyd-ddigwyddiad. Sâl ar y diwrnod roedd rhaid i mi deithio’n ôl i’r wlad lle dechreuodd y salwch. Ble mae’r llinell rhwng y corff a’r meddwl?

Pan â Malte Laurids Brigge i Baris, mae’n aros yn yr ysbyty. Mae’r ddinas yn uffern; nid yw’n deall y lle newydd hwn. Mae’r ddinas ‘llawn bywyd’ yn lle llawn marwolaeth iddo ef. Ym Mharis, mae’n colli ei ben – neu yn ffeindio’r allwedd, anodd dweud. ‘Rwyf yn dysgu gweld. Nid wyf yn gwybod paham, ond mae popeth yn treiddio’n ddyfnach ynof ac nid yw’n dod i saib lle byddai’n arfer gwneud. Mae gennyf fewndir na wyddwn amdano.’

A dyma fi nawr, wedi dod yn ôl adref, i Gymru, ac yn ddedwydd, yn fwy dedwydd nag erioed. Ac yn gweld popeth yn glir (wel, yn gliriach) ac yn deall nawr beth ro’n i’n methu ei ddeall o’r blaen, am yr holl deithio: nad oedd e wastad yn llesol.

Ro’n i’n eistedd yn y bwyty Libanaidd gyda fy rhieni pan sylweddolais i. Ar ôl ystyried, roeddwn wedi penderfynu cael pwdin. Dywedest ti: ‘Dyma’r ferch dwi’n nabod! Yn mwynhau ei bwyd!’ A gwelais, mewn eiliad, yr olwg ar wynebau fy rhieni: nad oedd hon, ers blynyddoedd, wedi bod y ferch roedden nhw’n arfer ei hadnabod. Sioc – am eiliad – ac wedyn chwerthin a galw’r gweinydd: gwn na fydd y gacen yn fy ngwneud i’n sâl. Yn y foment honno, sylweddolais fy mod yn iawn, yn hollol iawn, yn saff yn nheyrnas yr iach.

[A ti – beth wyt ti’n mynd i’w wneud? Nid Cymru yw dy gartref di eto. Dwyt ti ddim yn gwybod, gan nad wyt ti erioed wedi byw mewn gwlad arall, pa mor anodd fydd e. Daw cyfnod, cyfnod byr, rwy’n gobeithio, pan fydd hiraeth yn troi’n rhywbeth arall, trwm, fel ail ben llawn poen, na elli di ei gario ar d’ysgwyddau di yn unig. Mae’r Saeson hyd yn oed yn galw’r peth yn salwch – homesickness. A’r Almaenwyr hefyd – poen cartref, heimweh. A’r Ffrancwyr, mal du pays. Ac yn dy iaith di? Mae dy iaith di fel fy iaith innau. Saudade: hiraeth. Rwy’n gweld hyn fel arwydd da.]


Cyfrol ddiweddaraf Eluned Gramich yw cyfieithiad o'r Almaeneg, Goldfish Memory, sef cyfrol o straeon byrion gan Monique Schwitter (Parthian, 2014).


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Nid oedd geiriau gen i ar gyfer yr afiechyd hwn

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Ym myd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Gwn fod y Fanaweg wedi cael ei hatgyfodi gyda chryn lwyddiant yn ddiweddar, ac yn wir, maentumiai rhai na fu iddi farw gyda Ned Maddrell o gwbl. Ond credaf ei bod yn deg dweud iddi ddod i ben fel iaith…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.

Gwneid…

Dadansoddi


Andrew Green

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y…