W Gareth Jones (gol.)


Storïau Anton Tshechof

Gomer, 225 tt, ail-law, 1977

Y Ferch â’r Ci Bach
Cyfansoddi

Y Ferch â’r Ci Bach


Anton Tshechof, cyf. W J Rees

Amser darllen: 30 munud

25·01·2017

I

 

Aeth si ar led fod wyneb newydd wedi ymddangos ar y promenâd: merch â chi bach. Yr oedd Dmitri Gwrof wedi bod yn Ialta am bythefnos. Roedd wedi ymgyfarwyddo â'r lle ac yr oedd ganddo ddiddordeb mewn wynebau newydd. Ac yntau'n eistedd yng nghaffe Fernet, fe welodd wraig ifanc, oleuwallt, o daldra canolig, â beret ar ei phen, yn cerdded ar y promenâd. Roedd ci bach gwyn yn ei dilyn.

Fe ddeuai ar ei thraws lawer gwaith bob dydd ar ôl hynny, ym mharc y dre ac ar y sgwâr. Cerddai o gwmpas ar ei phen ei hun, â'r beret o hyd am ei phen, a'r ci bach gwyn yn ei chwmni. Ni wyddai neb pwy oedd hi, ac fe’i hadnabyddid hi fel ‘y ferch fonheddig â'r ci bach.’

‘Os ydy hi yma heb ei gŵr a heb gyfeillion,’ meddyliodd Gwrof, ‘nid ofer o beth fyddai dod i'w nabod hi.’

Nid oedd ef eto'n ddeugain oed ond yr oedd ganddo ferch ddeuddeg oed a dau fab yn yr ysgol. Priodwyd ef yn gynnar yn ystod ei ail flwyddyn yn y coleg ac ymddangosai ei wraig erbyn hyn fel pe bai'n hŷn o'r hanner nag ef ei hun. Yr oedd hithau'n fenyw dal, unionsyth, syber, urddasol, ag aeliau duon ac, yn ôl a ddywedai amdani ei hun, yn wraig feddylgar. Yr oedd yn ddarllenwraig fawr, defnyddiai'r orgraff ddiweddaraf, a galwai ei gŵr yn Dimitri yn hytrach na Dmitri. Fe ystyriai ef, yn dawel fach, nad oedd hi'n rhyw glyfar iawn, a'i bod hi'n arwynebol, yn gul ac yn ddi-sut; roedd yn ei hofni hi ac yn teimlo’n anniddig gartref. Dechreuodd fod yn anffyddlon iddi amser maith yn ôl, a bu'n anffyddlon yn fynych. Dyna pam, yn ddi-os, y siaradai'n ddilornus am ferched bron bob amser; pryd bynnag y sonnid amdanynt yn ei glyw, fe’u galwai, "Y rhywogaeth isradd!"

Yr oedd o'r farn fod digon o brofiadau chwerw wedi rhoi’r hawl iddo i'w galw fel y mynnai ond, ar yr un pryd, ni fyddai wedi medru byw gymaint â dau ddiwrnod heb "y rhywogaeth isradd". Teimlai’n ddiflas yng nghwmni dynion, yr oedd yn anesmwyth, yn ddwedwst, ac yn ddiysbryd; ond ymhlith merched, teimlai'n gwbl gartrefol, gwyddai beth i'w ddweud a sut i ymddwyn a, hyd yn oed pan nad oedd ganddo ddim i'w ddweud, fe deimlai’n gysurus yn eu cwmni. Yn ei ymddygiad, ei gymeriad, a’i holl natur yr oedd yna rywbeth atyniadol, anodd ei ddeall, a fyddai'n denu ac yn hudo merched. Roedd e’n gwybod hynny ac yr oedd rhyw atyniad yn ei ddenu yntau hefyd tuag atynt hwy.

Roedd profiad – profiad chwerw yn wir – wedi hen ddangos iddo fod perthynas garwriaethol sydd, ar y dechrau, yn torri mor hyfryd ar draws undonedd bywyd ac yn ymddangos yn antur swynol ac ysgafn, fod y rheini, ymhlith pobl drefnus, ac yn enwedig ymhlith trigolion hamddenol, amhenderfynol Mosco, yn datblygu’n anochel yn ddryswch eithriadol o gymhlethdod, a’u bod yn troi'n ddolurus yn y pen draw. Ond gyda phob perthynas newydd â merch ddiddorol, rywfodd neu’i gilydd, fe ddihangai’r profiad hwnnw o'i gof: teimlai awydd mwynhau danteithion bywyd ac ymddangosai’r cyfan mor naturiol a phleserus.

Yna, un noswaith pan oedd yn cael cinio yng ngardd y bwyty, dyma'r wraig â'r beret yn dod ato, yn ara' deg, a dewis y bwrdd gerllaw. Yr oedd ei hosgo, ei cherddediad, ei gwisg, a threfn ei gwallt yn awgrymu iddo ei bod hi o safle cymdeithasol parchus, ei bod yn briod, ei bod yn Ialta am y tro cyntaf, ei bod wrthi ei hun, a'i bod yn teimlo'n ddiflas ... Nid oedd llawer o wir yn y storïau anllad a glywid am y lle ac yr oedd Gwrof ei hun yn ddirmygus ohonynt; gwyddai mai storïau a ddyfeisiwyd gan rai a fyddai wedi bod yn barod iawn i fanteisio – pe gallent – oedd y rhan fwyaf ohonynt. Ond pan eisteddodd y wraig fonheddig wrth y bwrdd cyfagos, ryw dri cham oddi wrtho, cofiodd y storïau am fuddugoliaethau hawdd a gwibdeithiau i'r mynyddoedd, ac ar unwaith, fe’i meddiannwyd gan ddelfryd o berthynas rwydd, dros-dro, rhamant gyda gwraig ddieithr na fyddai e hyd yn oed yn gwybod ei henw.

Yn dawel, fe alwodd y ci, a phan ddaeth ato, cododd ei fys arno. Chwyrnodd y ci. Cododd Gwrof ei fys arno eilwaith.

Taflodd y wraig fonheddig olwg arno cyn edrych i ffwrdd ar unwaith.

‘Dydy e ddim yn cnoi,’ meddai, gan wrido.

‘Ga i roi asgwrn iddo?’ gofynnodd, a phan nodiodd hi ei phen, gofynnodd yn groesawgar:

‘Fuoch chi'n hir yn Ialta, os maddeuwch imi am ofyn?’

‘Ryw bum niwrnod.’

‘Rydw innau'n treulio'r ail wythnos yma'n barod.’

Roeddent yn ddistaw am ennyd.

‘Mae'r amser yn mynd yn gyflym ac eto, ar yr un pryd, mae hi mor ddiflas yma,’ meddai hithau, heb edrych arno.

‘Siarad yn ffasiynol yw dweud hynny. Fe all dyn fyw ar ei ben ei hun mewn rhyw dwll o le fel Beliof neu Zhisdra heb deimlo'n ddiflas ond pan ddaw yma, “O, mae’n ddiflas! A’r llwch!” yw hi. Fe allech feddwl ei fod wedi dod yma o Granada.’

Chwarddodd hithau. Wedi hynny, aethant yn eu blaen i fwyta fel dieithriaid, heb ddweud gair; ond wedi cinio aethant allan gyda'i gilydd gan sgwrsio’n ysgafn, chwareus fel dau berson rhydd a dedwydd nad oes wahaniaeth ganddynt i ble yr ânt nac am beth y siaradant. Wrth gerdded, fe drafodon nhw liw lledrithiol y môr; yr oedd y dŵr o liw leilac esmwyth, gwresog a golau'r lleuad yn llafn euraid ar ei draws. Trafod y tes trymaidd ar ôl dydd mor boeth. Dywedodd Gwrof ei fod yn byw ym Mosco, ei fod yn ieithydd o ran addysg, ond ei fod yn gweithio mewn banc; dywedodd iddo hyfforddi ar un adeg i fod yn ganwr gyda chwmni opera ond iddo roi'r bwriad o'r neilltu; roedd ganddo ddau dŷ ym Mosco. Dywedodd hithau iddi gael ei magu ym Mheterbwrg ond iddi briodi yn S—, lle y bu'n byw bellach ers dwy flynedd; ei bod yn golygu aros yn Ialta am fis yn rhagor ac y byddai ei gŵr, yr oedd angen seibiant arno fe hefyd, yn ymuno â hi efallai. Nid oedd ganddi syniad ble yr oedd ei gŵr yn gweithio – ai yn swyddfa'r Arlywydd Rhanbarthol ai yn swyddfa'r Cyngor Gwladol – ac roedd hynny'n ymddangos yn ddigrif iddi. A daeth Gwrof i wybod mai ei henw oedd Anna Sergeiefna.

Yn ddiweddarach, yn ei ystafell, meddyliodd amdani. Teimlai'n siŵr y byddent yn cwrdd â’i gilydd eto drannoeth. Ni ellid osgoi hynny. Wrth fynd i orffwys, cofiodd iddi fod mewn ysgol breswyl hyd yn ddiweddar, iddi fod yn astudio yn yr ysgol, yn union fel ei ferch ei hun; cofiodd gymaint o ddiffyg hyder a lletchwithdod oedd yn ei chwerthin a’i sgwrs yng nghwmni dieithryn; roedd yn rhaid mai dyma'r tro cyntaf yn ei bywyd iddi fod ar ei phen ei hun dan y fath amgylchiadau, dynion yn ei dilyn, yn edrych arni ac yn siarad â hi â’r un bwriad dirgel, bwriad na allai hithau lai na dyfalu beth ydoedd. Cofiodd am ei gwddf tenau eiddil, ei llygaid llwydion hardd.

‘Eto i gyd,’ meddyliodd, ‘y mae rhywbeth yn druenus yn ei chylch,’ a chwympodd i gysgu.

 

II

 

Aeth wythnos heibio wedi'r cyfarfod cyntaf. Yr oedd yn ddydd gŵyl. Yn y tŷ roedd yr awyr yn drymaidd ond, y tu allan, roedd gwynt yn codi llwch ac yn chwythu hetiau i'r awyr. Roedd syched ar ddyn drwy'r dydd. Âi Gwrof yn ôl ac ymlaen i'r caffe i nôl diodydd ffrwythau a hufen iâ i Anna Sergeiefna. Nid oedd ymwared rhag y gwres.

Gyda’r hwyr, a'r gwynt wedi tawelu rhywfaint, aethant i'r pier i ddisgwyl y llong stêm. Ar y lanfa roedd cryn dyrfa yn disgwyl am rywrai neu'i gilydd ac yn cario blodau ac roedd dwy o nodweddion pobol grand Ialta yn amlwg yno: gwragedd dros eu canol oed wedi gwisgo fel merched ifainc a llawer iawn o gadfridogion.

Gan arwed y môr ar ôl i’r haul fachlud, fe gyrhaeddodd y llong yn ddiweddar, a bu'n troi a throsi am gyfnod wedyn cyn glanio. Edrychai Anna Sergeiefna drwy lornet ar y llong a'r mordeithwyr fel pe bai'n chwilio am gyfeillion. Pan edrychai ar Gwrof, roedd ei llygaid yn disgleirio. Yr oedd yn dra siaradus, yn gofyn cwestiynau bach cwta a'r funud nesaf wedi anghofio beth oedd y cwestiynau. Ac yna fe gollodd ei lornet yng nghanol y dyrfa.

Gwasgarodd y dyrfa drwsiadus, nid oedd neb i'w weld bellach, ac roedd y gwynt wedi tawelu'n llwyr. Roedd Gwrof ac Anna Sergeiefna yn sefyll fel pe baent yn aros i weld a ddeuai rhywun arall o'r llong. Roedd Anna Sergeiefna yn ddistaw nawr ac yn arogleuo'r tusw blodau heb edrych ar Gwrof.

‘Y tywydd wedi gwella gyda'r nos,’ meddai ef. ‘I ble awn ni nawr? Beth am fynd am reid i ryw fan neu'i gilydd?’

Nid atebodd hithau.

Yna edrychodd arni'n daer; ac yn sydyn cofleidiodd hi a'i chusanu ar ei gwefusau; llifodd sawr a lleithder y blodau drosto ac ar unwaith edrychodd o'i gwmpas yn bryderus: tybed a oedd rhywun wedi eu gweld?

‘Awn i'ch ystafell chi,’ meddai'n dawel. Ac i ffwrdd â'r ddau yn frysiog.

Yr oedd yn drymaidd yn ei hystafell, a oedd yn arogli o bersawrau a brynwyd mewn siop Japaneaidd. Wrth edrych ar Anna Sergeiefna nawr, meddyliodd Gwrof: ‘Y merched yr ydych yn cyfarfod â nhw mewn bywyd!’ Roedd ganddo atgofion o’r gorffennol am ferched dibryder, haelionus, merched yn llawenhau mewn cariad ac yn ddiolchgar iddo am eu llawenydd waeth pa mor fyr yr oedd; atgofion am ferched, fel ei wraig, er enghraifft, merched yn caru'n ffals, gyda geiriau, ystumiau a hysterics gwastraffus, a'u holl ymddygiad yn lled-fynegi nad cariad, nad nwyd ydoedd ond rhywbeth llawer mwy sylweddol; atgofion hefyd am ddwy neu dair o ferched hardd iawn ond oeraidd – merched y byddai eu hwynebau'n goleuo gan ddyhead ysglyfaethus, gan awydd ystyfnig i gipio, i grafangu gan fywyd fwy nag y gall bywyd ei roi, merched wedi colli eu hieuenctid cyntaf, merched mympwyol, afresymol, gormesol ac anneallus; pan fyddai Gwrof wedi colli diddordeb ynddynt, byddai eu harddwch yn codi casineb ynddo, a'r brodwaith ar eu peisiau yn ymddangos iddo fel y cen ar groen pysgodyn.

Ond yr oedd yma, yn hytrach, ddiffyg hyder; lletchwithdod ieuenctid dibrofiad a theimlad trwsgl; roedd hi’n teimlo rhyw chwithdod fel pe bai rhywun wedi cnocio'n sydyn ar y drws. Roedd Anna Sergeiefna, y ‘ferch fonheddig â'r ci bach’, yn gweld yr hyn a ddigwyddodd mewn ffordd arbennig, yn ei gymryd yn ddifrifol iawn, fel be bai hi, yn ei barn ei hun, yn syrthiedig – felly yr ymddangosai, ac yr oedd hynny'n od ac yn chwithig. Roedd ei hwyneb yn hir ac yn llaes, syrthiai ei gwallt hir yn drist dros ei bochau, ac roedd hi ei hun fel petai wedi disgyn i synfyfyrdod digalon, fel portread o’r bechadures mewn rhyw hen ddarlun.

‘Mae hyn yn anghywir,’ meddai, ‘chi fydd y cyntaf i'm hamharchu nawr.’

Roedd melon ar y bwrdd yn yr ystafell. Torrodd Gwrof ddarn iddo'i hun a'i fwyta'n hamddenol. Bu tawelwch am o leiaf hanner awr.

Roedd Anna Sergeiefna yn ferch hawddgar. Roedd iddi naws merch lân, weddus, ddiniwed ac amhrofiadol. Roedd y gannwyll unig ynghyn ar y bwrdd o'r braidd yn goleuo'i hwyneb, ond roedd yn amlwg ei bod hi'n isel ei hysbryd.

‘Paham fyddwn i’n dy amharchu di?’ gofynnodd Gwrof. ‘Wyddost ti ddim beth rwyt ti'n ei ddweud.’

‘Boed i Dduw faddau imi,’ meddai ac fe ddaeth dagrau'n llond ei llygaid. ‘Mae hyn yn arswyd o beth.’

‘Rwyt ti fel petai yn ceisio dy gyfiawnhau dy hun.’

‘Sut y gallaf fy nghyfiawnhau fy hun? Rydw i'n fenyw wael ac isel, yn fy nirmygu fy hun, ac yn methu â meddwl am gyfiawnhad. Bûm yn anffyddlon, nid i'm gŵr ond i mi fy hun. Ac nid yn awr am y tro cyntaf. Bûm yn anffyddlon ers amser. Mae fy ngŵr yn ddyn da a gonest, efallai, ond yn hen gynffonnwr, wir ichi. Wn i ddim beth mae e'n ei wneud yn y swyddfa; y cyfan a wn yw ei fod yn cynffonna. Pan briodais ef, roeddwn yn ugain oed, yn eirias gan chwilfrydedd, ac yn dymuno gwell bywyd. Mae'n rhaid, meddyliwn, fod yna fywyd amgenach. Roeddwn am gael blas ar fywyd, ei brofi a'i brofi ... Roeddwn yn llosgi gan chwilfrydedd ... Ddeallwch chi ddim, ond, gerbron Duw, doedd dim modd bellach i mi gadw rheolaeth arnaf fy hun, roedd rhywbeth wedi digwydd imi, fedrwn i ddim dal gafael ddim rhagor: dywedais wrth fy ngŵr fy mod yn teimlo'n wael ac fe ddes i’r fan hon ... Yma, bûm yn mynd o gwmpas y lle fel pe bawn i mewn breuddwyd neu mewn llewyg ... Ac yn awr dyma fi yn fenyw gomon, ddiwerth, a hawl gan bawb i'w dirmygu.’

Roedd Gwrof wedi hen flino ar wrando, roedd wedi alaru ar ei thôn ddiniwed, ac ar ei hedifeirwch annisgwyl a dianghenraid; oni bai fod dagrau yn ei llygaid, gellid meddwl ei bod hi'n cellwair neu'n cymryd arni.

‘Dydw i ddim yn deall,’ meddai ef yn dawel, ‘Beth wyt ti'n ei ddymuno?’

Fe guddiodd ei hwyneb yn ei fynwes a glynu'n dynn wrtho.

‘Credwch, credwch fi, rydw i'n erfyn arnoch,’ meddai, ‘rydw i'n caru’r bywyd glân, gonest. Mae pechod yn ffiaidd gen i. Wn i ddim beth rydw i'n ei wneud. Mae'r werin bobl yn dweud “y gŵr drwg sy'n drysu”. Fe allaf innau yn awr ddweud, amdanaf fy hunan, mai'r gŵr drwg sydd wedi fy nrysu i.’

‘Digon! Dyna ddigon!’ mwmiodd yntau.

Edrychodd i mewn i'w llygaid taer, ofnus, cusanodd hi a siarad â hi'n dawel ac yn dyner. Yn raddol, fe dawelodd hithau, daeth ei sirioldeb yn ôl, a dechreusant chwerthin ill dau.

Pan aethant allan, yn ddiweddarach, nid oedd yr un enaid byw ar y promenâd, golwg hollol farwaidd oedd ar y dre a'r coed cypres, ond yr oedd y môr yn cadw stŵr ac yn bwrw yn erbyn y lan. Yr oedd un bad unig yn siglo ar y don a'i llusem yn pelydru'n gysglyd.

Aethant i hurio cerbyd a gyrru allan i Oreanda.

‘Rydw i newydd ddarganfod dy enw priod, yn y lobi; ar y bwrdd hysbysiadau roedd yr enw Von Diederiz,’ meddai. ‘Almaenwr yw dy ŵr?’

‘Nage, mae'n debyg fod ganddo Almaenwr yn dad-cu. Ond Rwsiad uniongred yw ef.’

Yn Oreanda eisteddasant ar sedd gerllaw’r eglwys ac edrych, mewn distawrwydd, tua'r môr. O'r braidd yr oedd Ialta i'w weld trwy niwl y bore: roedd cymylau gwynion yn sefyll yn llonydd ar bennau'r mynyddoedd. Y dail yn llonydd ar y llwyni, y sicadâu’n gweiddi, a sŵn undonog, dwfn y môr, a oedd i’w glywed islaw, fel petai’n cyfleu’r gorffwys, y tragwyddol hun, sy'n aros pawb ohonom. Roedd y môr islaw yn rhuo fel y gwnaeth cyn i Ialta ac Oreanda fodoli. Rhuai’n ddifater, ddi-fraw – fel y bydd yn rhuo pan beidiwn ninnau â bod. Ac yn y cysonder hwnnw, a'r difaterwch llwyr yn wyneb bywyd a marwolaeth pob un ohonom, y mae ernes efallai o'n hiachawdwriaeth dragwyddol, o rediad di-dor bywyd ar y ddaear, ac o’r datblygiad diderfyn tuag at berffeithrwydd. Ac yntau'n eistedd wrth ochr gwraig ifanc a edrychai mor brydferth yng nglas y dydd, ac wedi ei leddfu a'i swyno gan olygfa o wlad ledrithiol – y môr, y mynyddoedd, y cymylau, ehangder y nen – meddyliodd Gwrof fod popeth yn y byd, o’i ystyried, yn hanfodol hardd; popeth ar wahân i'r hyn a feddyliwn ac a wnawn pan anghofiwn am amcanion uwch ein bodolaeth, ac am ein hurddas fel bodau dynol.

Fe ddaeth rhywun tuag atynt – gofalwr mwy na thebyg – edrychodd arnynt cyn mynd i ffwrdd eto. Ac hyd yn oed yn y manylyn bychan hwnnw, roedd yna rywbeth a ymddangosai’n gyfrin a phrydferth. Roedd y llong o Theodosia i'w gweld yn cyrraedd, y golau ar ei bwrdd wedi’u diffodd ond yn olau serch hynny yng ngwrid y wawr.

‘Mae gwlith ar y glaswellt,’ meddai Anna, ar ôl y distawrwydd.

‘Oes. Mae'n bryd mynd yn ôl.’ Aethant yn ôl i'r dre.

Bob hanner dydd wedyn buont yn cyfarfod â'i gilydd ar y promenâd, yn cael cinio a swper gyda'i gilydd, yn cydgerdded ac yn cydfwynhau'r môr. Cwynai hithau ei bod yn cysgu'n wael a bod ei chalon yn curo'n drwm; gofynnai yr un cwestiynau o hyd, wedi’i chyffroi weithiau gan genfigen, weithiau gan ofn nad oedd ef yn ei pharchu hi ddigon. O bryd i’w gilydd, ar y sgwâr ac yn y parc, pan nad oedd neb yn agos, fe'i tynnai hi ato a'i chusanu'n angerddol. Roedd segura di-baid, cusanu yn y dydd glân, golau, cadw golwg rhag ofn i rywun eu gweld, y gwres, aroglau'r môr, a gweld pobl segur, drwsiadus a phorthiannus yn mynd a dod – yr oedd hyn oll wedi gwneud dyn newydd ohono. Dywedai wrth Anna Sergeiefna pa mor hardd a dymunol yr oedd hi; yr oedd yn llawn serch ac nid âi gymaint ag un cam oddi wrthi. Ond yr oedd hithau yn pendroni byth a hefyd ac yn pwyso arno i gydnabod nad oedd yn ei pharchu, nad oedd yn ei charu o gwbl, ac na welai ynddi ddim ond menyw wael. Bron bod dydd, gyda’r hwyr, aent allan o'r dref, i Oreanda neu i'r rhaeadr; roedd y teithiau’n ddymunol bob tro a'r argraffiadau yn ddieithriad dlws ac aruchel.

Yr oeddent yn dal i ddisgwyl ei gŵr. Ond daeth llythyr oddi wrtho yn dweud bod ganddo ddolur ar y llygaid, ac ymbiliai ar ei wraig i ddyfod adref cyn gynted ag y gallai. Dechreuodd Anna ffwdanu.

‘Mae'n beth da fy mod i'n mynd,’ meddai wrth Gwrof. ‘Rhagluniaeth yw hi.’

Huriodd gerbyd i'r orsaf ac aeth ef gyda hi. Buont yn teithio drwy'r dydd. Wedi iddi eistedd yn y trên a phan ganodd y gloch yr eilwaith, dywedodd:

‘Gadewch imi edrych arnoch chi unwaith eto. Am y tro diwethaf. Dyna ni.’

Nid wylodd, ond yr oedd yn drist, fel petai mewn poen, ac roedd ei hwyneb yn crynu. ’Byddaf yn meddwl amdanoch, byddaf yn cofio amdanoch,’ meddai. ‘Ffarwel! Rydych chi'n aros, on'd ydych? Peidiwch â meddwl yn ddilornus amdanaf. Welwn ni mo’n gilydd eto. Hynny sy'n iawn, oblegid ddylen ni ddim bod wedi cwrdd o gwbwl. Duw fo gyda chi.’

Aeth y trên ar ei ffordd a’i olau o'r golwg yn fuan, ac ymhen munud nid oedd ei sŵn i'w glywed. Roedd popeth fel petai’n cydweithredu'n fwriadol i roi terfyn ar unwaith ar yr ebargofiant melys, ar y gwallgofrwydd hwn. A Gwrof yn sefyll wrtho'i hun ar y platfform ac yn edrych i'r pellter tywyll, clywai stŵr ceiliogod y rhedyn a chwiban y gwifrau telegraff fel un oedd newydd ddeffro. Credai nad oedd hyn ond un digwyddiad arall, un antur arall yn ei fywyd a bod yr antur eisoes drosodd, a'r atgof yn aros ... Roedd ei galon wedi ei gyffwrdd rywsut, roedd yn drist ac yn teimlo rhywfaint o edifeirwch. Wedi'r cyfan, ni bu'r ferch ifanc, na welai mohoni mwyach, yn hapus yn ei gwmni; bu ef yn fwyn a chariadus ond roedd yn ei holl ymddygiad tuag ati, yn ei lais a'i anwesau, ryw rithyn o ddirmyg, o ymffrost bras gwryw llwyddiannus bron ddwywaith ei hoed. Drwy'r amser, galwai hi ef yn ddyn da, yn ddyn anghyffredin, yn ddyn uchel-frydig. Roedd yn ddigon clir ei fod wedi ei weld yn wahanol i'r hyn ydoedd mewn gwirionedd, ac roedd hynny'n golygu ei fod, yn ddiarwybod iddo, wedi ei thwyllo ...

Roedd naws yr hydref yn yr orsaf; roedd yn nosi'n oerllyd.

‘Mae hi'n bryd i minnau hefyd fynd tua'r gogledd,’ meddyliodd wrth adael y platfform. ‘Yn hen bryd.’

 

III

 

Gartref ym Mosco roedd popeth yn aeafol. Roedd y ’stofau wedi eu cynnau, a’r boreau, pan fyddai'r plant yn cael brecwast ac yn paratoi i fynd i'r ysgol, yn dywyll, a’r nanni'n gorfod cynnau'r golau. Roedd hi eisoes wedi dechrau rhewi. Pan ddaw'r eira cyntaf, a'r diwrnod cyntaf o yrru allan ar sled, peth hyfryd yw gweld y ddaear wen, y toeon gwyn, ac anadlu'r awyr feddal iach; y pryd hynny mae dyn yn dwyn ar gof ddyddiau ei ieuenctid. Mae rhyw olwg fwyn ar yr hen bysgwydd a'r bedw, sy’n wyn dan lwydrew; maent yn agosach at y galon na'r coed cypres a'r palmwydd; yn eu plith nid oes ar neb awydd meddwl am y mynyddoedd a'r môr.

Brodor o Fosco oedd Gwrof. Cyrhaeddodd yn ôl yno ar ddiwrnod braf rhewllyd ac, wedi iddo wisgo côt ffwr a menig cynnes a rhodio Stryd Petrofca, a chlywed canu clychau'r eglwysi ar nos Sadwrn, gwelodd eisiau’r daith ddiweddar, a'r mannau lle y bu; roedd yn hollol gyfareddol. Yn raddol, ymollyngodd i fywyd cymdeithasol Mosco; darllenai'n eiddgar dri phapur dyddiol, er datgan na ddarllenai bapurau Mosco o ran egwyddor; cai eisoes ei ddenu i'r tai bwyta, i'r clybiau a'r gwleddoedd a'r dathliadau pen blwydd; ymfalchïai fod cyfreithwyr ac artistiaid enwog yn galw arno, a'i fod yn chwarae cardiau gydag athro prifysgol yng Nghlwb y Doethorion. Unwaith eto gallai fwyta porsiwn cyfan o gig a thatws yn syth o'r badell ffrio ...

Ar ôl rhyw fis byddai Anna’n siŵr o droi'n niwl yn ei gof, a byddai’n breuddwydio amdani a'i gwen addfwyn o bryd i'w gilydd yn unig, fel y breuddwydiai am eraill. Ond wedi mwy na mis, a'r gaeaf mawr wedi dod, roedd popeth mor fyw yn ei feddwl â phe bai ef ac Anna Sergeiefna wedi ymadael â'i gilydd ddoe. Llosgai ei atgofion yn fwyfwy tanboeth. Pan glywai leisiau'r plant, wrth eu gwersi cartref, yn ei lyfrgell yn nhawelwch yr hwyr, neu pan glywai gân serch neu ganu'r organ mewn gwesty, neu ruddfan storm eira yn y simnai, y pryd hynny, yn sydyn, llifai popeth yn ôl i’w gof – yr hwyrnos wrth y pier, y bore glas a'r niwl ar y mynyddoedd, y llong o Theodosia, a'r cusanau. Cerddai am gyfnodau hirion yn ôl ac ymlaen yn ei ystafell, ail-gofio a gwenu, tan i'r atgofion droi’n ddychmygion a'r gorffennol gymysgu â'r dyfodol yn ei feddwl. Nid breuddwydio a wnâi am Anna ond ei gweld yn cerdded gydag ef a'i ddilyn fel cysgod ymhobman. Pan gaeai ei lygaid fe'i gwelai fel pe bai'n sefyll o'i flaen; ymddangosai hithau'n harddach, yn ifancach ac yn anwylach nag o'r blaen; ac fe debygai ei fod yntau hefyd yn amgenach dyn yn awr nag ydoedd gynt yn Ialta. Yn yr hwyr, edrychai arno o'r cas llyfrau, o'r lle tân, o gornel yr ystafell; clywai ei hanadl a sisial anwesol ei gwisg. Ar y stryd taflai lygaid ar y merched, i weld a oedd rhywun yn debyg iddi.

Yr oedd erbyn hyn yn teimlo awydd cryf i rannu ei atgofion gyda rhywun arall. Gartref ni allai yngan gair am y cariad hwn. A’r tu allan i’w gartref, nid oedd neb i siarad ag ef, neb ymhlith y lletywyr, neb yn y banc. A pha beth a ddywedai beth bynnag? Ai mewn cariad yr oedd y pryd hynny? Ai rhywbeth prydferth, ysbrydoledig oedd ei berthynas ag Anna? Neu ddim ond difyrrwch? Rhywfaint o addysg iddo efallai? O’r herwydd, roedd yn rhaid iddo siarad am serch ac am ferched yn gyffredinol, ac ni ddyfalai neb yr hyn a oedd ganddo mewn golwg go iawn. Byddai ei wraig yn codi ei haeliau duon ac yn dweud: ‘Wir, Dimitri, dyw rôl y llanc ifanc ddim yn gweddu i ti o gwbwl.’

Un noson, wrth adael Clwb y Doethorion gyda'i bartner, a oedd yn was sifil, ni allai ymatal, a dywedodd: ’Wyddoch chi, y fath ferch hyfryd y cwrddais â hi yn Ialta.’

Aeth y gwas sifil i'w sled a gyrru i ffwrdd, ond, yn sydyn, troes a galw allan:

‘Dmitri.’

‘Ie?’

‘Roeddech chi’n iawn gynnau fach. Roedd y stwrsiwn yna wedi dechrau pydru!’

Am ryw reswm, roedd y geiriau digon cyffredin hynny yn ddigon i gynddeiriogi Gwrof; ymddangosent iddo'n llygredig ac aflan. Y fath ymddygiad gwrthun, y fath greaduriaid, y fath nosweithiau di-gownt, a'r fath ddyddiau anniddorol a di-fudd! Chwarae cardiau fel ynfytyn, bwyta, meddwi, clebran yn ddi-ben-draw am yr un hen bethau. Roedd rhyw gleber diddiwedd am yr un hen bynciau yn llyncu’r rhan fwyaf o amser ac egni dyn, tan nad oedd dim ar ôl ond rhyw fywyd caethiwus a di-fflach, ’sborion bywyd na ellid cael gwared arnynt na dianc rhagddynt, a dyn fel pe bai’n sownd mewn gwallgofdy neu grŵp o garcharorion.

Ni chysgodd Gwrof y noson honno, gwylltiodd, ac roedd ganddo ben tost trwy gydol y dydd wedyn. Cysgodd yn wael y nosweithiau canlynol hefyd; treuliai’r holl amser naill ai ar ei eistedd yn y gwely ac yn pendroni, neu'n cerdded yn ôl ac ymlaen yn ei ystafell. Yr oedd wedi syrffedu ar y plant, wedi syrffedu ar y banc; nid oedd am fynd i unman na siarad am ddim.

Ym mis Rhagfyr, adeg y gwyliau, gwnaeth baratoadau i fynd i ffwrdd. Dywedodd wrth ei wraig ei fod yn mynd i Beterbwrg i ymbil ar ran gŵr ifanc – ac aeth i dref S—. Pam? Nid oedd ef ei hun yn gwybod yn union. Roedd am weld Anna Sergeiefna, am gael siarad â hi, am drefnu i’w chyfarfod, os oedd modd.

Cyrhaeddodd S— yn fore a chymryd yr ystafell orau mewn gwesty yno. Roedd llawr yr ystafell wedi ei orchuddio gan liain llwyd milwrol: ar y bwrdd roedd stand inc yn llwyd gan lwch a marchog heb ben arni, yn codi ei fraich a'i het ar gefn ei geffyl. Cafodd yr wybodaeth angenrheidiol gan y porthor. Roedd Von Diederiz yn byw yn Stryd yr Hen Grochendy mewn tŷ o'i eiddo'i hun, heb fod ymhell o'r gwesty; roedd yn byw uwchben ei ddigon, yn cadw ei geffylau ei hun, ac roedd pawb yn y dref yn ei adnabod. Ynganai’r porthor yr enw fel 'Drwyderits.'

Aeth Gwrof yn bwyllog tuag at Stryd yr Hen Grochendy, i chwilio am y tŷ. Yn union o’i flaen yr oedd ffens lwyd, hir, yn llawn hoelion.

‘Byddai unrhyw un yn awyddus i adael ffens fel honno ar ei ôl,’ meddyliodd Gwrof, gan fwrw golwg ar y ffenestri ac ar y ffens, y naill ar ôl y llall.

Ceisiodd resymu ag ef ei hun: roedd hi’n ddydd gŵyl ac roedd ei gŵr yn siŵr o fod gartref. Di-dact fyddai galw yn y tŷ a chynhyrfu pobol. Pe bai’n danfon nodyn i mewn fe allai hwnnw syrthio'n hawdd i ddwylo'r gŵr ac fe fyddai hynny'n gwneud cawl o'r cyfan. Gwell o lawer aros ei gyfle. Cerddodd yn ôl a blaen ar hyd y stryd, ac yn ymyl y ffens, gan ddisgwyl ei gyfle. Gwelodd gardotyn yn mynd mewn trwy'r glwyd a chŵn yn ymosod arno. Wedyn, awr yn ddiweddarach, clywodd sŵn canu piano, a'r sain i'w chlywed yn wan ac aneglur. Anna yn chwarae mwy na thebyg. Yn sydyn, agorodd drws y ffrynt, daeth hen wraig allan, a'r ci bach gwyn adnabyddus yn ei dilyn. Byddai Gwrof wedi hoffi galw'r ci, ond yn sydyn, curodd ei galon yn drwm ac yn y cyffro ni allai gofio enw'r anifail.

Parhaodd i gerdded o gwmpas a dod i gasáu'r ffens fwyfwy. Roedd e bellach yn gofidio bod Anna Sergeiefna wedi anghofio amdano a'i bod eisoes, efallai, yn mwynhau cysur gyda rhywun arall; byddai hynny’n ddigon naturiol i wraig ifanc a oedd yn gorfod edrych ar y ffens felltigedig honno o fore gwyn tan nos. Aeth yn ôl i'w ystafell yn y gwesty ac eistedd yn hir ar y difan heb wybod beth i'w wneud. Wedyn, bwytaodd a chysgu am gyfnod.

‘Mor hurt a helbulus ydy'r cyfan,’ meddai wrtho'i hun, ar ôl dihuno a gweld y ffenestri'n dywyll. Roedd hi eisoes wedi nosi. ‘Dw i wedi gorffwys - beth yn y byd ddylwn i ei wneud heno felly?’

Eisteddodd ar y gwely a oedd wedi’i orchuddio gan flanced llwyd, llwm, tebyg i flanced ysbyty, a'i wawdio'i hun yn bryfoclyd.

‘Ti a'th ferch â'r ci bach! Ti a'th antur! Fe gei di aros fan hyn.’

Yn yr orsaf y bore hwnnw, roedd llythrennau breision ar boster wedi taro ei lygaid: noson gyntaf ‘Y Geisha’. Cofiodd am hynny, ac aeth i'r theatr.

'Mae'n ddigon posib ei bod hi'n mynychu nosweithiau cyntaf,’ meddyliodd.

Roedd y theatr yn llawn. Fel ym mhob theatr daleithiol roedd rhyw dawch ychydig uwchlaw'r siandelier a stŵr dilywodraeth ar y galeri; yn y rhes gyntaf, cyn dechrau'r perfformiad, roedd y crachach lleol a'u dwylo ymhleth y tu ôl i'w cefnau. Yng nghyntedd yr Arlywydd yn y sedd flaen, eisteddai merch yr Arlywydd gyda thorch ffwr am ei gwddf. Roedd yr Arlywydd yntau yn cuddio'n wylaidd y tu ôl i'r llenni a dim ond ei ddwylo yn y golwg. Symudodd y llen ar y llwyfan, bu'r gerddorfa'n hir yn tiwnio’u hofferynnau, a thrwy gydol yr amser hwnnw, tra oedd y lliaws yn dod i mewn ac yn mynd i'w seddau, edrychai Gwrof yn eiddgar o'i amgylch.

Daeth Anna i mewn ac eistedd yn y drydedd reng. Pan gafodd Gwrof gipolwg arni daeth ing i'w galon; deallodd nad oedd neb yn y byd cyfan yn agosach ato, yn anwylach ac yn bwysicach ganddo na hi. Yr oedd y ferch fechan hon, ar goll mewn tyrfa daleithiol ddi-nod, â lornet tila yn ei dwylo, bellach yn ganolbwynt ei fywyd. Hi oedd ei ofid a'i lawenydd, yr unig hapusrwydd a ddymunai yn awr. Yn sŵn y gerddorfa aflafar a'r ffidlau taleithiol truenus, meddyliodd ba mor brydferth yr oedd. Eisteddodd yno, yn synfyfyrio ac yn pendroni.

Daeth gŵr ifanc tal a gwargrwm, â barf ar ei ddwy foch, i mewn gydag Anna, ac eistedd wrth ei hochr. Â phob cam, gwyrai ei ben nes rhoi’r argraff ei fod yn ymgrymu'n barhaus. Ei gŵr, yn ddiamau, y dyn a alwodd hithau'n gynffonnwr, mewn gwth o deimlad chwerw y tro hwnnw yn Ialta. Ac, yn wir, roedd ei gorff hir, ei farf ddwy-ochrog, a'i led-foelni yn creu rhyw argraff o wyleidd-dra cynffonnaidd; roedd ganddo wên siwgwrllyd ac yn nhwll botwm ei got disgleiriai bathodyn rhyw gymdeithas ysgolheigaidd – yn union fel y bathodyn rhif y gwisgai rhyw weinydd mewn gwesty.

Yn ystod yr egwyl gyntaf aeth y gŵr allan i gael mygyn ond arhosodd hithau yn ei sedd. Aeth Gwrof – a oedd hefyd yn eistedd yn un o seddau'r llawr – ymlaen ati, a chan geisio gwenu, dywedodd mewn llais crynedig:

‘Sut ydych chi?’

Edrychodd arno ac aeth yn llwyd. Edrychodd arno'r eilwaith mewn braw, yn methu â chredu ei llygaid a chan wasgu ei ffan a'i lornet mewn ymdrech amlwg i beidio â syrthio i lewyg. Yr oedd y ddau'n ddistaw, hithau'n eistedd ac yntau'n sefyll, wedi dychryn o ganlyniad i’w thrallod hi, ac heb fod yn meiddio eistedd wrth ei hochr. Cododd sŵn tiwnio’r ffidlau a'r ffliwt, ac roedd yn deimlad dychrynllyd a phawb, siŵr o fod, yn syllu arnynt o bob cyfeiriad. Ond, gyda hynny, fe gododd hithau a cherdded yn gyflym at y drysau ac yntau'n ei dilyn. Cerddasant yn ddiamcan ar hyd y coridorau, i fyny ac i lawr y grisiau; gwelent bobl mewn dillad unffurf, cyfreithwyr, athrawon a gweision sifil, pob un a'i fathodyn, boneddigesau â chotiau ffwr. Roedd awel yn cario arogl cryf gweddillion sigaréts. ‘O'r Mawredd,' meddyliodd Gwrof, a'i galon yn curo'n enbyd, ‘Pam yr holl bobol yma a'r gerddorfa ...?’

Y funud honno cofiodd i Anna ddweud wrtho, yn yr orsaf, fod y cyfan ar ben rhyngddynt ac na welent ei gilydd fyth eto. Ond roedd cymaint o lwybr ar ôl i’w droedio nawr cyn iddynt ddod i ben eu taith!

Ar y grisiau cul, tywyll, ger arwydd ‘Mynedfa i'r Llawr,’ safodd Anna Sergeiefna. ‘Yr ofn a roesoch imi!’ meddai, ei hanadl yn drwm a’i golwg yn llwyd a syfrdan. ‘O cymaint yr ofn a roesoch imi! O'r braidd yr wyf yn ymwybodol. Pam y daethoch chi? Pam?’

‘Ond ceisiwch ddeall, Anna, ceisiwch ddeall ...’ meddai ef yn frysiog, o dan ei wynt. ‘Rwy'n erfyn arnoch, ceisiwch ddeall ...’

Edrychodd arno'n ofnus, yn ymbilgar ac yn gariadus; roedd yn syllu arno er mwyn cofnodi ei wedd yn ddiogel yn ei chof.

Aeth ymlaen heb wrando arno. ‘Rydw i wedi dioddef gymaint. Yn ystod yr holl amser, ni feddyliais am ddim ond amdanoch chi. Meddwl amdanoch a'm cadwodd yn fyw. Gwnes fy ngorau i anghofio, i anghofio'n llwyr; pam, pam y daethoch chi?’

Uwchlaw, ar ben y grisiau, roedd dau fachgen ysgol yn smygu ac yn edrych i lawr, ond nid oedd wahaniaeth gan Gwrof; tynnodd Anna Sergeiefna tuag ato a dechrau cusanu ei hwyneb, ei gruddiau, ei dwylo.

‘Beth ydych chi'n 'wneud?’ meddai, mewn braw, a’i wthio i ffwrdd. ‘Rydyn ni'n dau wedi colli'n pennau. Ewch nôl heddiw'n union. Ewch nôl nawr ... Er mwyn popeth sy'n gysegredig, rydw i'n erfyn arnoch, rydw i'n ymbil arnoch ... Mae rhywun yn dod.’

Daeth rhywun i fyny'r grisiau.

‘Rhaid ichi fynd adref,’ sibrydodd Anna. ‘Ydych chi'n clywed, Dmitri? Fe ddof atoch i Fosco. Fûm i erioed yn hapus, dydw i ddim yn hapus nawr a fydda’ i byth yn hapus, ddim byth. Peidiwch â gadael imi ddioddef rhagor. Ar fy ngair, fe ddof i Fosco. Ond nawr rhaid inni ffarwelio â'n gilydd. 'Nghariad annwyl, f'anwylyd, rhaid inni ffarwelio â'n gilydd!’

Gwasgodd ei law a mynd ar frys i lawr y grisiau gan edrych yn ôl arno yr holl amser, ac fe ellid gweld wrth ei llygaid ei bod hi, yn wir, yn anhapus ... Arhosodd Gwrof am beth amser a gwrando, yna, pan oedd popeth wedi tawelu, aeth i nol ei gôt, ac i ffwrdd ag ef.

 

IV

 

Dechreuodd Anna Sergeiefna ymweld ag ef ym Mosco. Unwaith bob rhyw ddau neu dri mis, teithiai o S—, gan ddweud wrth ei gŵr ei bod yn mynd i ymgynghori ag arbenigwr ar glefydau benywaidd ynglŷn a'i hanhwylder: roedd ei gŵr yn hanner ei chredu. Wedi cyrraedd Mosco arhosai yn y Slafiansci Bazar a danfonai negesydd mewn capan coch at Gwrof ar unwaith. Âi Gwrof ati, ac ni wyddai neb ym Mosco ddim am y peth.

Un tro, ar fore gaeafol, aeth i'w gweld fel arfer. (Galwodd y negesydd arno'r noson gynt pan nad oedd ef i mewn). Yr oedd ei ferch yn cerdded gydag ef – ac yntau’n mynd heibio i'r ysgol, roedd hi am iddo gadw cwmni iddi ar y ffordd. Roedd yn bwrw eira, a hwnnw'n disgyn yn blu gwlybion mawr.

‘Mae’r tymheredd dair gradd uwch y rhewbwynt, ac eto mae hi'n bwrw eira,’ meddai Gwrof wrth ei ferch. ‘Ond, weli di, ar wyneb y ddaear yn unig y mae'r gwres; yn haenau uchaf yr awyr mae'r tymheredd yn hollol wahanol.’

‘Dadi, pam does yna ddim taranau yn y gaeaf?’

A dyna esbonio hynny hefyd. Wrth iddo siarad, meddyliodd ei fod ar ei ffordd i gadw oed na wyddai yr un dyn byw amdano, ac na wyddai neb amdano byth, mwy na thebyg. Yr oedd yn byw dau fywyd; un yn agored, yn hysbys ac yn adnabyddus i'r neb a fynnai i ymddiddori ynddo, yn llawn o'r gwirioneddau a'r celwyddau confensiynol arferol, yn union fel bywydau ei gydnabod a'i gyfeillion; a'r bywyd arall yn gyfrin. Trwy ryw gyd-ddigwyddiad rhyfedd, a damweiniol, efallai, roedd yr hyn oedd yn bwysig, yn ddiddorol ac yn angenrheidiol yn ei olwg ef, yr hyn a oedd yn onest a didwyll yn ei gylch, cnewyllyn ei fywyd, yn digwydd allan o olwg y byd; a'r hyn a oedd yn gelwydd yn ddim ond plisgyn i ymguddio ynddo ac i gelu'r gwir; gweithio yn y banc, er enghraifft, ymddiddan yn y clwb, siarad am y ‘rhywogaeth isradd’, a mynd allan gyda'i wraig i ddathliadau pen blwydd. Roedd y rhain i gyd yn weladwy. A byddai'n barnu eraill yn ôl ei fesur ei hun: yn peidio â chredu yr hyn a welai, ond yn ystyried bod gan bawb ddirgelion cudd, ac mai o dan orchudd y nos yr oeddent yn byw eu bywydau sylweddol, eu bywydau go iawn. Mae pob hanfod personol yn gyfrinach bob amser, ac am hynny, yn rhannol efallai, y mae pob dyn gwareiddiedig mor nerfus ac yn mynnu parch i’r cyfrinachau personol hyn.

Wedi hebrwng ei ferch i’r ysgol, aeth Gwrof yn ei flaen i’r Slafiansci Bazar. Tynnodd ei gôt ffwr yn y cyntedd ac aeth i fyny'r grisiau a chnocio'n dawel ar y drws. Roedd Anna’n gwisgo’r gŵn llwyd yr oedd ef mor hoffi ohono. Roedd hi wedi llwyr flino ar ôl y daith ac ar ôl disgwyl amdano – bu'n disgwyl ers y noson gynt ac roedd yn llwyd ei gwedd. Edrychodd arno heb wenu ond cyn gynted ag y daeth ef i mewn, syrthiodd i’w fynwes. Ac yn union fel pe baent heb weld ei gilydd ers dwy flynedd, roedd y gusan yn hir ac yn faith.

‘Felly, sut mae pethau acw?’ gofynnodd yntau. ‘Pa newyddion?’

‘Arhoswch funud, fe ddyweda i'n awr ... Alla’ i ddim.’

Ni fedrai siarad a hithau yn ei dagrau. Troes ei chefn arno a gwasgu ei hances boced at ei llygaid.

’Eisteddaf i lawr tan i’r pwl ddod i ben,’ meddyliodd, a mynd i eistedd mewn cadair freichiau.

Yn ddiweddarach, canodd Gwrof y gloch a gofyn am de. Wrth iddo’i yfed, roedd hithau’n wynebu’r ffenestr. Roedd yn wylo oherwydd yr aflonyddwch yn ei hysbryd a’r ymwybyddiaeth chwerw fod eu bywydau wedi mynd mor druenus; dim ond yn y dirgel y byddai modd iddynt weld ei gilydd, wrth lechu rhag y byd fel lladron. Onid oedd bywyd, iddynt ill dau, wedi ei ddinistrio?

‘Plîs paid ag wylo,’ meddai ef.

Roedd yn amlwg iddo nad rhyw berthynas fyrhoedlog oedd hon – a phwy a wyddai pryd y dôi i ben? Roedd cariad Anna ato'n cryfhau bob gafael ac roedd yn amhosib meddwl dweud wrthi y byddai'n rhaid i hyn oll ddarfod rywbryd neu'i gilydd. A beth bynnag, fyddai hithau ddim yn ei gredu.

Aeth ati a gafael yn ei hysgwyddau er mwyn ei chysuro ond, ar yr un pryd, cafodd gipolwg arno'i hun yn y drych.

Roedd ei wallt eisoes yn britho. Rhyfedd oedd y sylweddoliad ei fod wedi heneiddio gymaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'i fod gymaint yn llai golygus nag y bu.

Roedd yr ysgwyddau y rhoes ei ddwylo arnynt yn gynnes ac yn llawn cryndod. Cafodd bwl o dosturi – wrth y bywyd hwn a oedd mor gynnes a phrydferth o hyd ond a oedd hefyd, yn ddiamau, yn nesu at y foment pan ddechreuai wywo ac edwino fel y gwnaeth ei fywyd yntau. Pam yr oedd hi'n ei garu gymaint? Roedd merched bob amser fel petaent wedi ei weld yn wahanol i'r hyn ydoedd; nid ef a garent ond y dyn delfrydol, creadigaeth eu dychymyg, y person yr oeddent wedi chwilio'n eiddgar amdano ar hyd eu bywydau. Ac hyd yn oed o weld eu camgymeriad, byddent yn ei garu yr un fath. Ni fu’r un ohonynt yn hapus gydag ef. Roedd amser wedi mynd heibio, roedd wedi adnabod merched eraill, eu swyno a’u gadael, ond ni fu mewn cariad erioed. Profodd bob peth arall, ond nid cariad.

Dim ond yn awr, a'i wallt yn dechrau britho, y cwympodd mewn cariad, go iawn ac yn ddi-os, am y tro cyntaf yn ei fywyd.

Roedd Anna Sergeiefna ac ef yn caru ei gilydd fel dau fod agos, fel gŵr a gwraig, ac fel cyfeillion mynwesol. Roedd hi fel petai rhagluniaeth ei hun wedi eu neilltuo y naill ar gyfer y llall ac roedd yn annealladwy iddynt fod ganddo yntau wraig a chanddi hithau ŵr; roedd hi fel pe bai dau aderyn mudol, y naill yn wryw a'r llall yn fenyw, wedi eu rhwydo a'u gorfodi i fyw mewn dau gawell ar wahân. Roeddent wedi maddau i'w gilydd y cyfan o'r gorffennol yr oedd arnynt gywilydd ohono, roeddent wedi maddau'r cyfan o'r presennol ac yn teimlo fod eu cariad wedi eu trawsnewid ill dau.

Yn y gorffennol, pan fyddai'n isel ei ysbryd, gwnâi Gwrof esgusodion a chynnig unrhyw resymau a ddeuai i'w ben ond, yn awr, doedd dim awydd ymresymu arno; teimlai dosturi dwfn ac roedd yn dyheu am fod yn ddidwyll ac yn dosturiol.

‘Dyna ddigon, fy nghariad i,’ meddai, ‘rwyt ti wedi wylo digon. Mae angen i ni drafod, fe ddown ni i ryw drefniant.’

A bu trafod hir rhwng y ddau wrth iddynt geisio dyfalu sut y gallent osgoi'r angen i ymguddio a dweud anwiredd, sut i osgoi byw mewn trefi gwahanol a bod cyhyd heb weld ei gilydd, sut i'w rhyddhau eu hunain o'r hualau annioddefol.

‘Sut? Sut?’ gofynnodd Gwrof gan ddal ei ben yn ei ddwylo, ‘Sut?’

Tipyn o drafod eto, efallai, a byddai'r ateb wrth law ac wedyn byddai bywyd newydd, hyfryd yn cychwyn. Roedd yn eglur iddynt ill dau fod pen y daith yn bell, bell i ffwrdd, a bod y rhan fwyaf anodd a dyrys megis dechrau.
 

(1899)
 


Cyhoeddwyd cyfieithiad W J Rees o'r stori hon gan Wasg Gomer yn Storïau Tshechof (1977), y bedwaredd gyfrol yn hen gyfres 'Storïau Tramor'.
Diolchwn i Gomer am ganiatâd i atgynhyrchu fersiwn ohono yn y fan hon.

Mae gan Wasg Gomer ddwy gyfrol arbennig o addas at ddiwrnod Santes Dwynwen - cyfrol am hanes Santes Dwynwen a Hoff Gerddi Serch Cymru


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Meddyliodd Gwrof fod popeth yn y byd, o’i ystyried, yn hanfodol hardd; popeth ar wahân i'r hyn a feddyliwn ac a wnawn pan anghofiwn ... am ein hurddas fel bodau dynol

Dyddiad cyhoeddi: 25·01·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…