Cyfansoddi

Y gwningen a’r het silc

Cyfieithiad buddugol Her Gyfieithu 2016


Pedro Serrano, cyf. Glenys M Roberts

29·09·2016


Fel y gwningen yng ngardd Alys,
felly mae hon,
yn neidio a llamu’n gylch yn y glaswellt gwlyb.
Pâr o glustiau’n codi fry’n ddiymdrech,
synhwyro’r tonnau o lafnau brau,
ac o’r gaer fach loyw honno
i mewn â’r gwellt rhwng y dannedd mân.
Nid un lonydd yw’r glust fach hon,
ond carthen yng nghanol y gwyrddni,
cwlwm neu belen frown flewog
sy’n agosáu yn gynnwrf i gyd.
Herc a naid tua’r llwyni,
at y prysgwydd gwyrdd a muriau caerog
eu nodwyddau tal a byr.
Mae hi’n suddo trwy ddrysau hud
rhwng cleddyfau’r iris a lili’r Affrig,
fel petai’n gwasgu i mewn i fydysawd cyfyng
het silc David Lynch.
Af i ddim ar ei hôl i fwrllwch tywyll
byd y ddewiniaeth honno.
Ond dyna hi eto
yn mynd heibio’n wthwm disymwth
fel sarff ddiedifar, ddilyffethair.
Yna’n sydyn,
mae hi wedi mynd. 

 

Trefnir cystadleuaeth yr Her Gyfieithu gan Pen Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru. Gellir darllen mwy amdani yn y fan hon, neu ar wefan Pen Cymru.


Ganwyd y bardd Pedro Serrano yn Montréal yn 1957. Mae'n un o feirdd mwyaf blaenllaw Mecsico. Defnyddia iaith i gwestiynu rhagdybiaethau am gyferbyniadau naturiol. Mae e'n cyfuno ystyriaeth o fyd natur ag ymwybyddiaeth o ddimensiwn dinesig cymdeithas. Cyhoeddwyd cyfrol o gyfieithiadau i'r Saesneg - Peatlands - gan Anna Crowe gan wasg Arc yn ddiweddar.

Treuliodd Glenys M Roberts gyfnod yn athrawes Gymraeg, yn magu teulu ac yn gweithio fel swyddog golygyddol a swyddog Cymraeg i Oedolion i CBAC. Trodd wedi hynny i gyfieithu a golygu ar ei liwt ei hun. Bu’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr a Bwrdd Arholi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru am flynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent yn 2010 am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Newid’. Bu’n dysgu Sbaeneg ers rhai blynyddoedd.
 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 29·09·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…