Cyfansoddi

Y sibrydion sydd ddim yn tewi

Detholiad o ‘12 stori’ Castell Penrhyn

Manon Steffan Ros

Amser darllen: 5 munud

11·07·2018


Cestyll

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni wedyn, fel byddan ni ar ddyddia' fatha heddiw.

Ma' Dad yn deutha' i beidio chwara' yn fanno, and dyna lle 'dan ni wastad yn mynd, felly be wnei di. Dwi'n deud wrth Mam bo' ni'n chwara' dan Bont y Tŵr, achos dim ond hen lechi sy'n chwaral bach. Ma' oedolion yn deud fod llechi'n beryg, 'blaw bo' nhw'n gwneud efo nhw o hyd.

Mi ges i lond bol ar sleidio i lawr allt, a wedyn gwneud wal, ac mi gychwynish i adeiladu. Pethau bychain i ddechra, ond mi aethon nhw’n fwy.

'Be 'di o?' meddai Edwin, a finna'n atab, 'Castall Penrhyn.' A dyma fo'n gofyn i be' o'n i isho 'neud hynna, blaw jest er mwyn gallu tynnu'r diawl peth i lawr.
 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Iolo Penri

Am ryw reswm, dyma pawb yn mynd yn dawal wedyn, a sbïo ar y castall llechi.

'Betia i bo' nhw ddim yn goro' mynd allan drw' dydd. Betia i bo' gynnon nhw bob math o degana', a bo' nhw'n chwara' o hyd.'

Maen nhw'n casau Castell Penrhyn, 'run fath â ma' Mam a Dad. A finna, wrth gwrs. Ond 'sgin i ddim help 'mod i'n meddwl amdano fo weithia', yn meddwl sut mae o tu fewn. Yn caru fo ac yn ei gasau o, i gyd yr un pryd.

Dyma Edwin yn cicio 'nghastell i lawr cyn i ni fynd adra, a fedrwn i ddeud dim. Ond o'n i'n meddwl ei fod o'n wirion, gwneud hynna, achos dim y castell o'dd o isho chwalu go iawn, ond rywbeth llawer iawn mwy.
 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Iolo Penri

 

Cyfoeth

'Ti'n effro?'

Mae corff fy chwaer yn troi ataf i yn amlen lân ein cynfasau, yn cyrlio fel marc cwestiwn yn f'ymyl. Mae'r gannwyll wedi diffodd, felly fedra i mo'i gweld hi, ond dwi'n ei dychmygu hi yno, yn adnabod y rhaff o blethen sy'n crogi o'i phen, y dwylo bychain, cain sy'n plethu i'w gilydd pan fydd hi'n cysgu. 'Ydw. Dwi isio bwyd.'

Gorwedda'r ddwy ohonom wedyn yn ystyried hynny, ein stumogau mor wag â'r nos yn ein llofft. Ddim yn wag, chwaith, ond rhywsut, mae'r powlenaid bychan o gawl wedi miniogi ein archwaeth bwyd, ein cyrff yn ysu am fwy. Mae'r cyfnodau main yma yn ein cadw ni'n effro bob tro, yn dod â blinder sydd yn ddim i'w wneud â chwsg. Yfory, bydd y setlo, a ninnau'n cael ein digoni, ond mae heno'n hir ac yn wag.

'Faswn i'n begera, wsti,' meddai fy chwaer wedyn, a'i llais yn ysgafn ac yn drwm ar yr un pryd. 'Faswn i'n begera am friwsion heno 'ma. Waeth gen i am falchder.'

Rydw i'n ystyried tynnu'n groes, ond mae hi'n chwaer i mi, yn adnabod fy chwant bwyd yn well na neb. Rydym ni'n un- yr un esgyrn brau, yr un cegau bychain, prysur. 'A finna. Mi faswn i'n mynd ar fy nglinia' o flaen y lord a'r lady ac yn erfyn arnyn nhw.'

'Cig. Ham a chyw iar a chig eidion.'

'Na, na. Pwdin. Mi faswn i'n lladd am rywbeth melys. Jest un gegaid. Un lwmp o siwgr.'

Bron na fedra i deimlo'r belen ar fy nhafod, y melystra'n gadael haen ar fy nannedd. Yn nüwch y nos, mae'r siwgr yn sgleinio fel haul gwlad bell ym meddyliau fy chwaer a finnau, a'n hesgyrn blinedig mor drwm â llechi.

 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Iolo Penri

Enw

Fedri di ddim dweud fy enw i, achos does neb yn ei gofio fo. Mae o wedi ei ddweud am y tro olaf amser maith yn ôl. Chafodd o 'rioed ei grafu ar lechen. Nid enw iawn oedd o, hyd yn oed pan roedd o'n enw i mi. Chefais i mohono'n anrheg gan fy mam, yn feddal o'i genau blinedig pan welodd hi fi am y tro cyntaf. Fy mherchennog a roddod fy enw i mi, gan mae fo oedd yn berchen arna i.

Does neb yn fy ngweld i. Fûm i erioed yma, theimlais i 'rioed yr adlais yn y neuadd fawr fel llais yn canu hen gân. Wnes i ddim rhoi cledr fy llaw ar lechen, yn galed ac oer fel cyffion. Ond rwyt ti'n fy ngweld i rŵan. Mae fy modolaeth i'n drwm yn dy feddwl. Rydw i wedi bod yma ers y dechrau un. Ond dim ond heddiw wyt ti'n fy ngweld i.

Dyna fi, yn gwylio'r cysgodion yn y neuadd.

Dyna fi, yn anweledig ar y grisiau.

Dyna fi, yn fud a byddar yn y gerddi.

Mae fy esgyrn yn seiliau'r lle yma. Rydw i'n fachgen oedd ddim yma, ond wna i ddim gadael cysgodion y castell na chysgodion dy feddwl di. Fi ydi'r sibrydion sydd ddim yn tewi, sŵn gwynt traed y meirw yn trio torri i mewn.

Nid fan hyn yw fy hanes, ond dyma'r unig hanes sydd gen i.

Edrycha i fyw fy llygaid.
 

Casgliad o ddarnau ffuglennol newydd sbon yw '12 Stori'. Y creadigaethau ffuglennol hyn yw ymateb personol Manon Steffan Ros i hanes cythryblus Castell Penrhyn a’i wreiddiau ym masnach gaethwasiaeth Jamaica a diwydiant llechi Gogledd Cymru. Mae’r arddangosfa ar agor yn y Castell tan 4 Tachwedd 2018, 12yh – 4yh. Mynediad trwy’r Neuadd Fawr.

Mae Manon Steffan Ros yn dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, ond mae bellach yn byw yn Nhywyn, Bro Dysynni. Mae'n gweithio fel awdur, dramodydd, sgriptwraig a cholofnydd.

Pynciau:

#Manon Steffan Ros