Cyfansoddi

Yr Unben

Cyfieithiad o Le Maître, 1953


Eugène Ionesco, cyf. Gareth Miles

Amser darllen: 12 munud

18·01·2017

 

Cymeriadau

Y Cyflwynydd

Yr Edmygydd Gwrywaidd

Yr Edmygydd Benywaidd

Y Gariadferch

Y Cariadfab

Yr Unben

Saif y Cyflwynydd ar ganol y llwyfan, ei gefn at y gynulleidfa a’i olygon wedi eu hoelio ar yr adwy yng nghefn y llwyfan. Disgwylia ddyfodiad yr Unben yn eiddgar. Ar y chwith ac ar y dde, ac yn glynu’n glos wrth y mur, mae’r Edmygydd Gwrywaidd a’r Edmygydd Benywaidd. Maent yn disgwyl yr Unben â'r un eiddgarwch.

 

Y Cyflwynydd (wedi ysbaid faith, ddisymud):

Dacw fo! Dacw fo! Ym mhen draw’r stryd! (Clywir lleisiau yn bloeddio: ‘Hwrê!’) Dacw fo’r Unben. Mae’n dyfod, mae’n dynesu. (Banllefau a chymeradwyaeth o gefn y llwyfan.) Gwell iddo beidio â’n gweld ni. (Glyna’r Ddau Edmygydd yn glosiach fyth at y mur.) Gwyliwch! (Cynhyrfa’r Cyflwynydd yn ddisymwth.) Hwrê! Hwrê! Yr Unben! Yr Unben! Yr Unben am byth! (Er eu bod yn glynu fel gelod at y mur, estynna’r Ddau Edmygydd eu gyddfau a’u pennau gymaint ag y gallant er mwyn gweld yr Unben.) Yr Unben! Yr Un-be-e-e-en!

Y Ddau Edmygydd:

Hwrê! Hwrê!

 

Clywir banllefau, ‘Hwrê! Encôr! Mwy!’ o gefn y llwyfan. Tawant yn raddol.

 

Y Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd (ar yr un pryd â’r banllefau yng nghefn y llwyfan):

Hwrê! Encôr! Mwy!

 

Yn ddisymwth cymer y Cyflwynydd gam bras tua chefn y llwyfan, petrusa ac yna â allan drwy’r adwy, y Ddau Edmygydd wrth ei gwt.

 

Y Cyflwynydd:

Daria! Mae o’n mynd! Dilynwch fi! Brysiwch. Dilynwch ef! (Â’r Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd allan dan floeddio.) Yr Unben! Yr Unben! Yr Unbe-e-e-e-en!

 

Daw’r floedd olaf, sydd yn debyg iawn i fref anifail, o gefn y llwyfan,

Saib fer. Mae’r llwyfan yn wag am rai eiliadau. Ymddengys y Cariadfab o’r dde a’r Gariadferch o’r chwith. Maent yn cyfarfod yng nghanol y llwyfan.

 

Y Cariadfab:

Esgusodwch fi, Madam, ynteu Miss?

 

Y Gariadferch:

’Ches i erioed y fraint o’ch adnabod chi, Syr.

 

Y Cariadfab:

’Dydw innau ddim yn eich adnabod chithau chwaith.

 

Y Gariadferch:

’Dydyn ni ddim, felly, yn adnabod ein gilydd? Chi na fi?

 

Y Cariadfab:

Digon gwir. Dyna rhywbeth sy’n gyffredin i ni’n dau. Mae gennym ni, felly, fan cyfarfod lle y gallem gydadeiladu teml ein dyfodol?

 

Y Gariadferch:

’Sdim ots gen i y naill ffordd na’r llall, Syr.

 

Gwna osgo fel petai i adael heb fymryn o ddiddordeb yng ngeiriau’r gŵr bonheddig.

 

Y Cariadfab:

O, f’anwylyd, rwy’n dy garu!

 

Y Gariadferch:

’Nghariad i! Minnau hefyd!

 

Cusanant.

 

Y Cariadfab:

Af â thi ymhell o’r fan hon ac yna fe briodwn ni.

 

Ânt allan tua’r chwith. Mae’r llwyfan yn wag am ysbaid fer.

 

Dychwela’r Cyflwynydd o gefn y llwyfan a’r Ddau Edmygydd wrth ei gwt.

 

Y Cyflwynydd:

Serch hynny, aeth yr Unben ar ei lw y byddai’n dod heibio’r ffordd hyn.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Ydi hynny’n bendant?

 

Y Cyflwynydd:

Siŵr iawn, siŵr iawn!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Dyma’r ffordd y daw o?

 

Y Cyflwynydd:

Ia, ia! Fel rydw i wedi dweud wrthoch chi! Mae’r peth ar ddu a gwyn, yn rhaglen yr ŵyl.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Welsoch chi o eich hun? Glywsoch chi o â’ch llygaid ac â’ch clustiau eich hun?

 

Y Cyflwynydd:

Mi ddwedodd o wrth rywun! Rhywun arall!

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Wrth bwy ddwedodd o? Pwy ydi’r rhywun arall yma?

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Rhywun dibynadwy? Un o’ch ffrindiau chi?

 

Y Cyflwynydd:

Hen ffrind yr ydw i’n ei adnabod yn dda iawn. (Yn ddisymwth, o gefn y llwyfan clywir, unwaith eto, fonllefau grymus – ‘Hwrê!’ ac ‘Yr Unben am byth!’) Dacw fo, rwan! Dacw fo! Hip! Hip! Hwrê! Dacw fo! Cuddiwch! Cuddiwch!

 

Fel ar y dechrau, mae’r Ddau Edmygydd yn glynu wrth y mur a’u gyddfau yn ymestyn tua chyfeiriad y bloeddio. Sylla’r Cyflwynydd tua chefn y llwyfan, ei gefn at y gynulleidfa.

 

Y Cyflwynydd:

Mae’r Unben ar ei ffordd. Mae o’n ymddangos. Mae o’n troi. Mae o’n tindroi. (Mae pob gair yn peri i’r Ddau Edmygydd neidio. Estynnant eu gyddfau. Maent yn crynu.) Mae o’n sboncio. Mae’n croesi’r nant. Mae rhywun yn ysgwyd llaw ag o. Mae o’n codi ei fawd. Ydych chi’n clywed? Maen nhw’n chwerthin. (Mae’r Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd yn chwerthin hefyd.) Ah! ... Mae rhywun yn cyflwyno offer saer coed iddo. Beth wnaiff o â nhw? Ah! ... Mae o’n arwyddo llofnodion. Mae’r Unben yn ... anwesu draenog, draenog ysblennydd! ... Mae’r dorf yn cymeradwyo. Mae o’n dawnsio â’r draenog yn ei law. Mae o’n cofleidio’r ferch sy’n dawnsio gydag o. Hwrê! Hwrê! (Clywir ebychiadau o gefn y llwyfan.) Mae o’n cael tynnu ei lun, rhwng y ddawnswraig a’r draenog. Mae o’n cyfarch y dorf. Mae o’n poeri ymhell, bell.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Ydi o’n dod y ffordd hyn? Ydi o’n symud fodfedd i’n cyfeiriad ni?

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Ydyn ni’n siŵr o’i weld os safwn ni fan hyn?

 

Y Cyflwynydd:

Tewch! Peidiwch â symud! Mi ddifethwch chi bopeth!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Serch hynny ...

 

Y Cyflwynydd:

Mi ddwedais i wrthych chi am fod ddistaw! Gallaf eich sicrhau mai ef ei hun benderfynodd pa ffordd y daw. (Mae e’n troi eto tua chefn y llwyfan ac yn gweiddi.) Hwrê! Hwrê! Yr Unben am byth! (Distawrwydd.) Yr Unben am byth, am byth! (Ni all y Ddau Edmygydd gelu eu brwdfrydedd mwyach ac, yn ddisymwth, bloeddiant hwythau.)

 

Y Ddau Edmygydd:

Hwwre-e-e! Yr Unben am by-y-y-th!

 

Y Cyflwynydd:

Tewch y ddau ohonoch! Calliwch! Mi ddifethwch bopeth! (Yna mae e’n ailddechrau bloeddio. Tawa’r Ddau Edmygydd.) Yr Unben am byth! (Yn colli arno’i hun.) Hwrê! Hwrê! Yr Unben am byth! (Distawrwydd.) Yr Unben, yr Unben, yr Unben am byth!

 

Y Ddau Edmygydd (yn methu ag ymatal rhag bloeddio):

Hwrê! Yr Unben am by-y-y-th!

 

Y Ddau Edmygydd:

Brafo! Brafo! (Yna maent yn beichio wylo.)

 

Y Cyflwynydd:
Mae’r dorf i gyd yn beichio wylo! (Daw sŵn wylofain o gefn y llwyfan. Mae’r Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd yn wylo’n hidl hefyd.) Distawrwydd! (Tawa’r Ddau Edmygydd. Tawelwch yng nghefn y llwyfan hefyd. Mae’r Cyflwynydd yn colli arno’i hun.) Hwrê! Mae o’n newid ei grys. Mae o’n diflannu y tu ôl i sgrin goch. Mae o’n ailymddangos. (Clywir y gymeradwyaeth yn cryfhau.) Brafo! Brafo!

 

Dymuna’r Ddau Edmygydd weiddi ‘Brafo!’ Ymataliant gan roi eu dwylo dros eu cegau.

 

Y Cyflwynydd:

Mae o’n gwisgo’i dei! Mae o’n darllen ei bapur newydd dan sipian coffi. Mae’r draenog ganddo o hyd. Mae o’n pwyso yn hamddenol ar ganllaw’r balconi. Mae’r canllaw yn torri. Mae o’n codi ar ei draed ... Mae o’n codi ar ei draed ... heb help gan neb! (Cymeradwyaeth.) Brafo! Bendigedig! Mae o’n hel y llwch oddi ar ei ddillad.

 

Y Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd (yn pwnio’r llawr â’u traed dan weiddi):

O! A! O! A! O! A!

 

Y Cyflwynydd:

Mae o’n esgyn i’r llwyfan. Mae o’n dringo ysgol brofiad. Mae o’n tynnu'r tocyn byrraf. Mae o’n deall mai tipyn o hwyl ydi hyn. ’Dydi o ddim yn digio. Mae o’n chwerthin.

 

Cymeradwyaeth a banllefau aruthrol.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd (wrth yr Edmygydd Benywaidd):

Glywi di? Glywi di? A! Petawn i’n frenin...

 

Yr Edmygydd Benywaidd (yn angerddol):

A! Unben!

 

Y Cyflwynydd (a’i gefn at y gynulleidfa o hyd):

Mae’n sefyll ar ben stôl. Na, mae’n disgyn oddi arni. Mae geneth fach yn cyflwyno tusw o flodau iddo. Beth mae o am ei wneud? Mae’n cymryd y blodau ... Mae o’n cusanu’r eneth ... ac yn dweud ‘’Mechan i’ wrthi.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Mae’n cusanu’r eneth ac yn dweud ‘’Mechan i’ wrthi.

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Mae’n cusanu’r eneth ac yn dweud ‘’Mechan i’ wrthi.

 

Y Cyflwynydd:

Mae o’n rhoi’r draenog iddi. Mae’r eneth yn wylo ... Yr Unben am byth! Yr Unbe-e-e-n am byth!

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Ddaw o heibio fan hyn?

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Ddaw o heibio fan hyn?

 

Y Cyflwynydd (sydd yn ymadael ar garlam, yn ddisymwth):

Mae o’n mynd! Brysiwch! Dowch! (Diflanna â’r Ddau Edmygydd wrth ei gwt, dan weiddi, ‘Hwrê! Hwrê!’, nerth eu pennau).

 

Mae’r llwyfan yn wag am ysbaid. O’r chwith, eu breichiau am ei gilydd, ymddengys y Ddau Gariad. Safant ar ganol y llwyfan cyn gwahanu. Mae ganddi hi fasged ar ei braich.

 

Y Gariadferch:

Mi awn ni i’r farchnad i brynu wyau.

 

Y Cariadfab:

O! Rydw i mor hoff o wyau ag wyt ti!

 

Cydia hithau yn ei fraich. Daw’r Cyflwynydd ar wib o’r dde a dychwelyd i’w safle arferol, ei gefn at y gynulleidfa; y naill o’r chwith a’r llall o’r dde, ac ar yr un pryd bron iawn, daw’r Edmygydd Gwrywaidd a’r Edmygydd Benywaidd i wrthdrawiad â’r Cariadon sydd ar fin gadael y llwyfan tua’r dde.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Pardwn!

 

Y Cariadfab:

O, pardwn!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Pardwn! O! Pardwn!

 

Y Gariadferch:

O! Pardwn, pardwn, pardwn, pardwn!

 

Y Cariadfab:

O, o, o, o, o! Pardwn! Syr, Madam!

 

Y Gariadferch (wrth y Cariadfab):

Tyrd, Adolphe! (Wrth y Cariadon.) Popeth yn iawn!

 

Mae’r Gariadferch yn gadael gan lusgo’r Cariadfab gerfydd ei law.

 

Y Cyflwynydd (yn syllu tua chefn y llwyfan):

Mae’r unben yn mynd lan a lawr, lawr a lan ac mae rhywun am lanhau ei drowsus! (Mae’r Edmygwyr yn dychwelyd i’w lleoedd.)

 

Y Cyflwynydd:

Mae’r Unben yn gwenu ac wrth iddynt lanhau ei drowsus mae’n mynd am dro. Mae o’n blasu’r blodau a’r ffrwythau sy’n tyfu yn y nant. Mae o’n blasu gwreiddiau’r coed hefyd. Gadawed i blant bychain ddyfod ato ef. Mae ganddo ffydd yn y ddynoliaeth. Mae o’n ategu ei gefnogaeth i’r heddlu. Yn cymeradwyo cyfiawnder. Mae’n anrhydeddu’r gorchfygwyr mawrion, ac mae’n anrhydeddu’r gorchfygedig hefyd. Ac yna mae o’n adrodd cerdd. Mae’r gynulleidfa dan deimlad. Maent wedi eu cyfareddu.

 

Y Ddau Edmygydd:

Brafo! Brafo! (Yna maent yn wylo’n hidl.) Bw-hw! Bw-hw! Bw-hw!

 

Y Cyflwynydd:

Mae’r gynulleidfa gyfan yn wylo’n hidl! (Clywir wylofain o’r cefnau. Wyla’r Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd yn hidl.) Distawrwydd! (Tawa’r Edmygwyr a’r dorf yn y cefnau hefyd.) Dychwelwyd ei drowsus i’r Unben. Mae’r Unben yn ei wisgo. Mae o wrth ei fodd. Hwrê! (Cymeradwyaeth a banllefau o’r cefnau. Mae’r Ddau Edmygydd yn cymeradwyo hefyd ac yn neidio i fyny ac i lawr heb weld dim, wrth gwrs, o’r hyn sy’n digwydd yn y cefnau.) Mae’r Unben yn sugno’i fawd. (Wrth y Ddau Edmygydd.) I’ch lleoedd, chi’ch dau, i’ch lleoedd. Peidiwch â symud. Sefwch yn syth. Gwaeddwch: ‘Yr Unben am byth!’.

 

Y Ddau Edmygydd (sy’n dal yn sownd wrth y mur):

Yr Unben am byth! Am byth bythoedd!

 

Y Cyflwynydd:

Tewch! Ar unwaith! Neu fe ddifethwch chi popeth! O! Mae’r Unben yn gadael. Dilynwn ef! Dilynwch fi!

 

Gwibia’r Cyflwynydd oddi ar y llwyfan, tua’r cefnau. Mae’r Ddau Edmygydd yn gadael tua’r chwith a thua’r dde; mae’r gymeradwyaeth yn chwyddo ac yna’n tewi.

Mae’r llwyfan yn wag am ysbaid fer. Yna ymddengys y Cariadfab, ar wib, a’r Gariadferch wrth ei gwt. Rhedant ar draws y llwyfan cyn gadael eto.

 

Y Cariadfab:

Ddali di mo’na i!

 

Y Gariadferch:

Aros funud!

 

Ânt allan tua’r dde. Mae’r llwyfan yn wag am ennyd.

 

Ymddengys y Cyflwynydd o’r cefn, y Gariadferch o’r chwith a’r Cariadfab o’r dde. Maent yn dod at ei gilydd yng nghanol y llwyfan.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Gollon ni o!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Dim lwc!

 

Y Cyflwynydd:

Arnoch chi mae’r bai!

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

’Dydi hynny ddim yn wir!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Na, ’dydi hynny ddim yn wir!

 

Y Cyflwynydd:

Arnaf i mae’r bai, felly?

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Ddeudodd neb hynny!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Na, ddeudodd neb hynny!

 

Synau a banllefau o’r cefnau.

 

Y Cyflwynydd:

Hwrê!

 

Yr Edmygydd Benywaidd:

Y ffordd acw!

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd:

Ia, y ffordd acw!

 

Pwyntia tua’r chwith.

 

Y Cyflwynydd:

O’r gore. Dilynwch fi! Yr Unben am byth!

 

 allan tua’r dde, a’r ddau arall yn ei ddilyn, oll dan floeddio.

 

Y Ddau Edmygydd:

Yr Unben am byth! (Ânt allan. Mae’r llwyfan yn wag am ysbaid. O’r chwith ymddengys y Ddau Gariad; â’r Cariadfab allan ar garlam i’r chwith ac i’r cefn, ar ôl gweiddi ‘Mi ddalia i ti!)

 

O’r cefn ymddengys y Cyflwynydd a’r Ddau Edmygydd. Dywed y Cyflwynydd Yr Unben am byth!’ wrth y Ddau Edmygydd. Ychwanega: ‘Dilynwch fi! Dilynwn yr Unben!’ Â allan tua’r chwith ac mae’r Ddau Edmygydd yn ei ddilyn ar garlam dan weiddi: ‘Dilynwn ef!

 

Â’r Edmygydd Gwrywaidd i’r asgell dde a’r Edmygydd Benywaidd i’r asgell chwith. Yn y cyfamser, clywir y gymeradwyaeth yn cynyddu ac yn distewi, i gydweddu â’r symudiadau ar y llwyfan. Saib fer iawn. Yna ymddengys y Cariadfab a’r Gariadferch dan weiddi.

 

Y Cariadfab:

Ddalia i ti!

 

Y Gariadferch:

Ddali di mo’na i! (Ânt allan ar garlam dan weiddi.) Yr Unben am byth!

 

O’r cefn, tan weiddi yr un modd, yn un rhes, ac ar wib o’r dde, daw’r Cyflwynydd, yr Edmygydd Gwrywaidd, yr Edmygydd Benywaidd ac yna’r Ddau Gariad. Gwaeddant: ‘Yr Unben! Yr Unben am byth! Ddaliwn i o! Ffordd hyn! Ddali di mo’na i!’

 

Ânt i mewn ac allan gan ddefnyddio pob un o’r mynedfeydd a’r allanfeydd; rhedant o’r chwith, o’r dde ac o’r cefn tan iddynt gyfarfod bob un yng nghanol y llwyfan. Mae’r banllefau a’r gymeradwyaeth yn cynyddu tan eu bod yn annioddefol; gwaedda'r holl gymeriadau ar y llwyfan nerth eu pennau gan gusanu ei gilydd yn lloerig. ‘Yr Unben am byth! Yr Unben am byth! Yr Unben am byth!’

 

Yna, yn ddisymwth, distawrwydd.

 

Y Cyflwynydd: Mae’r Unben wedi cyrraedd. Wele’r Unben! Gosteg! Pob un i’w le!

 

Mae’r Edmygydd Gwrywaidd a'r Edmygydd Benywaidd yn gwasgu eu hunain yn erbyn y mur ar y dde a’r Ddau Gariad yn gwneud yr un modd yn erbyn y mur ar y chwith; lapia’r ddau gwpwl eu breichiau am ei gilydd.

 

Yr Edmygydd Gwrywaidd a’r Edmygydd Benywaidd:

’Nghariad annwyl i, ’nghariad annwyl i!

 

Y Cariadfab a'r Gariadferch:

’Nhgariad annwyl i, ’nghariad annwyl i!

 

Mae’r Cyflwynydd wedi dychwelyd i’w safle cychwynnol ac yn syllu tua’r cefnau. Tawela’r gymeradwyaeth.

 

Cyflwynydd:

Gosteg! Mae’r Unben wedi bwyta ei gawl. Mae’n dod! Mae’n dod!

 

Cymeradwyaeth fwy brwdfrydig fyth. Mae’r Cariadon a’r Edmygwyr yn gweiddi nerth eu pennau.

 

Pawb:

Hwrê! Hwrê! Yr Unben am byth!

 

Teflir conffeti am ben yr Unben hyd yn oed cyn iddo gyrraedd ac yna hyrddia’r Cyflwynydd ei hun i’r naill ochr er mwyn rhoi rhwydd hynt i’r Unben.

 

Mae’r pedwar arall fel petaent wedi’u parlysu. Safant yn stond gan estyn eu breichiau a thaflu conffeti a bloeddio, ‘Hwrê!’, serch hynny.

 

Daw’r Unben i’r llwyfan o’r cefnau, rhodia i flaen y llwyfan, petrusa, cymer gam i’r chwith cyn penderfynu ar ei hynt. Brasgama oddi ar y llwyfan yn egnïol, tua’r dde, i sŵn banllefau brwd y Cyflwynydd a chymeradwyaeth dawelach y Ddau Edmygydd a’r Ddau Gariad.

Mae yna reswm dilys dros eu syndod hwythau, oblegid nid oes gan yr Unben ben.

 

(Digon hawdd yw trefnu hynny; dylai’r actor a fydd yn chwarae rhan yr Unben wisgo côt fawr, codi’r goler yn uwch na’i dalcen a gosod het ar ben y cyfan. Mae’r dyn-mewn-cot-fawr-heb-ben yn rhith digon rhyfeddol a bydd, yn ddi-os, yn peri rhywfaint o gynnwrf.)

 

Yr Edmygydd Benywaidd (wedi i’r Unben adael):

Ond ... ond ’does gan yr Unben ddim pen!

 

Y Cyflwynydd:

’Does arno fo ddim angen pen ag yntau’n athrylith.

 

Y Gariadferch:

Digon gwir. (Wrth y Cariadfab.) Beth ydi’ch enw chi?

 

Y Cariadfab wrth yr Edmygydd Benywaidd, yr Edmygydd Benywaidd wrth y Cyflwynydd, y Cyflwynydd wrth y Gariadferch, y Gariadferch wrth y Cariadfab): A chitha? A chitha? A chitha?

 

Pawb (yn holi ei gilydd):

Beth ydi’ch enw chi?

 

Llen


Ysgrifennwyd Le Maiître yn 1953. Cwblhawyd fersiwn wreiddiol o'r cyfieithiad hwn tua 1962/3, i'w pherfformio gan griw o fyfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru, Bangor. Diwygiad o'r testun hwnnw a gyhoeddir yn y fan hon. 

Addasodd Gareth Miles weithiau gan Shakespeare, Marivaux a Machiavelli i'r Gymraeg. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008 am ei nofel, Y Proffwyd a’i ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch, 2007).

Hawlfraint y gwreiddiol: nrf / Gallimard. Hawlfraint y cyfieithiad: Gareth Miles.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Hwrê! Yr Unben am byth!

Dyddiad cyhoeddi: 18·01·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…