Cyfweld

Beth yw traddodiad?

Cyfweliad gyda'r grŵp jazz/gwerin Burum


Holi Burum

Amser darllen: 8 munud

17·08·2016

Yn gynharach eleni, recordiodd y band jazz/gwerin Burum eu trydydd albwm, Llef. Mae’r caneuon ar yr albwm yn deillio gan mwyaf o draddodiad(au) gwerin Cymru – rhai ohonynt yn dra chyfarwydd, eraill, efallai, yn llai adnabyddus.

Aeth O’r Pedwar Gwynt i holi tri o aelodau’r grŵp, y trwmpedwr, Tomos Williams, y sacsoffonydd, Daniel Williams, a’r ffliwtydd, Ceri Rhys Matthews.

OPG: Dyma ni yn Sir Benfro, yn nhir Waldo, ac mae rhywun yn meddwl am ei bennill enwog ef, ‘Beth yw canu? Cael o’r creu / Ei hen athrylith. / Beth yw gweithio ond gwneud cân / O’r coed a’r gwenith?’ Dim ond un cwestiwn sydd gen i i chi mewn gwirionedd, felly – beth yw traddodiad?

Ceri Rhys Matthews: ’Sdim shwd beth. Back-formation yw e, fi’n credu. Os wyt ti’n artist, y peth gwaetha’ i ddelio gyda fe mewn ffordd yw’r syniad o draddodiad. A ’w i’n credu y dylet ti edrych neu wrando o’r newydd ar bob peth. Swyddogaeth yr hanesydd yw diffinio’r traddodiad ar ôl i’r peth ddigwydd. Gwae unrhyw artist sy’n becso am y traddodiad!

Hynny yw, ’w i’n clywed pobl mewn ysgolion yn defnyddio’r gair. A ’w i wedi bod yn yr ysgolion fy hunan. Ond ’w i ddim yn meddwl taw swyddogaeth yr artist yw [poeni am] draddodiad. A, ta beth, ti’n gallu defnyddio neu ddiffinio traddodiad fel ti moyn. Well ’da fi adael hwnna i’r bobl sy moyn trafod lle a gwerth y peth ar ôl iddo fe gael ei wneud. Mae’r artist yn pasio ymhell o flaen traddodiad.

Daniel Williams: Beth fyddai’n taro pobl yn rhyfedd, falle, yn yr hyn rwyt ti newydd ddweud, Ceri, yw bod pobl yn dy weld di mewn ffordd fel y person sy’n parhau traddodiad ...

CRM: Ond ti sy’n gweud hynny wrtha’ i – a na’n gwmws beth ’w i’n gweud mewn ffordd. Gwisg ma’ rhywun yn rhoi amdanat ti yw e a dw i ddim eisiau unrhyw beth i wneud ag e, mewn gwirionedd. ’W i ddim yn gwadu bod pethe wedi digwydd o mlaen i ond ma cymaint eto i ddigwydd ar d’ôl di ag sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Ma’ gwahaniaeth rhwng gorffennol a thraddodiad, ’w i’n credu. Ma’ traddodiad fel gwisg ma’ rhywun yn dy orfodi di i wisgo.

Tomos Williams: I raddau, os sôn am draddodiad, mae’n rhaid i chi ystyried y gorffennol a’r dyfodol. Ond allwch chi ddim bod yn obsesiynol am y traddodiad neu wnewch chi byth symud ymlaen. Mae’n rhaid derbyn beth sydd wedi bod, pa un ai yw e’n rhan ohonoch chi neu beidio. Os oes diddordeb gyda chi ynddo fe, mae e yna i chi. Os nad oes diddordeb gyda chi, mae hi’n dal yn bosib gwneud rhywbeth yn y presennol – a falle bod yr hyn a ddaw o hynny yn fwy neu yn llai dilys.

Yng nghyd-destun jazz, nid yn y cyd-destun Cymreig o angenrheidrwydd, mae traddodiad yn dylanwadu ar yr hyn y’ch chi’n chwarae nawr. Mae’n amhosib jyst neidio i mewn a chwarae; mae’r traddodiad yn rhoi rhyw fath o gyd-destun a rhyw fath o ystyr i’r hyn chi’n ei wneud.

Mae Wynton Marsalis [y trwmpedwr Americanaidd], er enghraifft, wedi ceisio creu canon i jazz fel y canon o gerddoriaeth glasurol Orllewinol. Mae e eisiau bod yn fwy concrete am bethau, dweud ‘Dyma’r traddodiad, mae e yma, mae e’n bwysig’. Ond fe allech chi ddweud hefyd ei fod e bron â lladd y gerddoriaeth drwy ei rhoi mewn bocs. Mae e’n diffinio ffurf ac mae’n rhaid i bopeth ffitio’r ffurf yna. Ma’ traddodiad yn un o’r pethe yna mae angen i chi fod yn ymwybodol ohono fe ond heb iddo fe ddylanwadu’n ormodol ar beth wnewch chi yn y dyfodol chwaith. O ran dadl am draddodiad, yn bersonol, byddwn i'n dadlau bod beth sydd i ddod yn fwy pwysig na beth sydd wedi bod ond mae’n amhosib symud ymlaen heb fod yn ymwybodol o hynny. Mae hi’n sefyllfa debyg ym myd hip hop a rap; mae recordiau newydd yn ymddangos a phobl yn dweud taw dyma’r peth gorau erioed ond os nag y’ch chi’n gyfarwydd â Public Enemy neu bois yr 80au, dyw dweud hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.

Burum (o'r chwith i'r dde): Aidan Thorne, Mark O'Connor, Ceri Rhys Matthews, Daniel Williams, Tomos Williams, Dave Jones

DW: Dw i’n cytuno bod traddodiadau'n cael eu creu. Ond mae yna wahanol fathau o draddodiadau. Gall traddodiad fod yn beth sy’n caethiwo’r artist ac yn caethiwo’i ffordd o feddwl am gelfyddyd ond dw i’n credu y gall e fod yn ymryddhaol hefyd. Mae delfryd Ceri yn un y bydden ni i gyd yn hoffi ymgyrraedd ato fe mewn ffordd, er mwyn i gelfyddyd o bob math allu ymateb i’w gilydd ar dir gwastad, mewn man lle mae pethau’n gydradd ond, mewn gwirionedd, mae traddodiad yn chware rôl yng nghyd-destunau grym a gall traddodiad felly fod yn arf. Roedd Tomos yn sôn am Wynton Marsalis, wel, rhan o’r hyn roedd e’n trio’i wneud oedd gosod traddodiad Affro-Americanaidd, creu traddodiad Affro-Americanaidd i gerddoriaeth jazz yn erbyn y duedd i fawrygu cerddorion gwyn ar draul cerddorion du yn yr Unol Daleithiau yn y 50au a’r 60au. Gall traddodiad arwain at ddiflaniad awduron, cerddorion, gall traddodiad hefyd dynnu sylw yn ôl atyn nhw. Felly rhan o rôl llenyddiaeth ôl-drefedigaethol, neu lenyddiaeth ffeministaidd, neu’r holl’-aethau’ gwahanol eraill, yw i dynnu sylw at yr hyn a adawyd allan. Yn y cyd-destun yna, dw i’n credu fod traddodiad yn bwysig a’i fod yn debyg yn hynny o beth i ddemocratiaeth: dyw e byth yn dod i ben ond mae’n gorfod cael ei ymestyn o hyd. Dw i’n credu bod yna rôl bwysig i draddodiad yn y syniad yna.

Yng ngwaith Burum, wrth gwrs, mae yna ddau draddodiad amlwg, sef y canu gwerin a’r traddodiad jazz ac mae’r grŵp yn ymgais i ddod â’r ddau draddodiad at ei gilydd a chreu rhywbeth newydd â’r elfennau amrywiol.

TW: Fyddwn i ddim yn esgus bod gyda fi ymwybyddiaeth arbennig o ddwfn o gerddoriaeth werin Cymru. Mae’r hyn dw i wedi’i ddysgu am gerddoriaeth werin yn dod o wneud, o fod wedi chwarae gyda Ceri a Julie [Murphy] yn [y grŵp] Fernhill. Mae hwnna, i fi, yn ddigon o droedle yn y traddodiad, o ran dod o hyd i alawon a gweld beth sy’n bosib gyda nhw. Yr hyn mae Burum yn ei wneud yw cymryd rhan yn y traddodiad, fel petai, a mynd â fe i gyfeiriad gwahanol; defnyddio rhyw fath o syniad cerddorol ‘Cymreig’ a thrio creu rhywbeth newydd. Allwn ni ddim dweud ein bod ni’n gweithio mewn vacuum. Ry’n ni’n defnyddio alawon o’r gorffennol ac os y’ch chi moyn galw’r gorffennol yna’n draddodiad yna mae hwnna’n ddigon teg. Ond ry’n ni eisiau rhoi’r alawon yna mewn cyd-destun gwahanol. Sai’n credu y gallech chi ddweud bod ein cerddoriaeth ni y tu fas i draddodiad ac eto dyw e ddim yn rhan lawn ohono fe.

OPG: Ma’ tipyn o dy waith di, Ceri, fel cerddor gyda sawl grŵp a phrosiect, ac fel dylanwad ar sawl un o gerddorion gwerin gorau Cymru, yn ymwneud ag amlygu hen ganeuon sy’n llai adnabyddus heddiw. Ti’n mynd at lawysgrifau a chasgliadau o ganeuon o’r gorffennol, fel casgliad Maria Jane Williams, Aberpergwm, yn yr ardal lle ges i fy magu. Fe allai rhywun ddweud fod y traddodiad yn gwbl greiddiol i dy ethos di.

CRM: Wel, dadansoddiad yw hwnna. Mae fy ffordd i o weithio yn fwy pro-active na dadansoddol. Addysg mewn celfyddyd weledol ges i a’r wers fwya’ ddysgais i oedd i edrych ar rywbeth ac yna i edrych arno fe’n fanylach. Ac ma’r hyn sy’n digwydd yn sgil edrych yn farc sy’n cael ei adael ar ôl. Mae fy ngwaith [cerddorol] nawr yn gyffelyb i hynny er bod yr hyn dw i’n edrych arno fe’n wahanol . Dw i’n dal i edrych mwy na gwrando ond dw i’n defnyddio ffliwt yn hytrach na phensil i adael marc. I drio rhoi rhyw fath o gymhariaeth, os bydden i’n mynd ati i dynnu llun o goeden, nid y ffordd orau o wneud hynny fyddai i feddwl nôl at Dürer neu Constable neu pwy bynnag ond i edrych ar y goeden. Dyna’r unig ffordd. Galle rhywun ar ôl hynny fynd ati i ddadansoddi a dweud bo fi wedi edrych ar luniau Dürer yn y gorffennol ac yn y blaen. Dyna roeddwn i’n trio’i ddweud ar y dechre. Os yw’r artist yn becso’n ormodol am y llinach, mae e’n sownd, dyw e ddim yn gallu dianc o’r llwybr yna o gwbl. Mae’n rhaid i’r artist edrych ymlaen. A does dim mwy o werth i ’ngorffennol i nag i unrhyw orffennol arall. Ma’ pob gorffennol yn gyfartal.

OPG: Ond dyna berthnasedd y gair traddodiad, efallai. Oherwydd nid sôn am orffennol unigol y’n ni wedyn ond cyfuniadau o orffennol, a’r modd y daw’r rheiny at ei gilydd.

CRM: Dw i’n dal i ddweud bod yna wahaniaeth mawr rhwng gorffennol a thraddodiad. Nad ydyn nhw’n perthyn i’w gilydd o gwbl.

DW: Ond ma’ lle ges di godi a beth ti wedi’i weld yn bownd o effeithio arnat ti ...

CRM: Dw i’n anghytuno. Er enghraifft, dw i’n teimlo fy mod i wedi dysgu mwy gan Sille [Sille Ilves], a ddaeth i Gymru o Estonia i fyw. Dw i wedi dysgu mwy am edrych ar yr alawon ganddi hi na gan unrhyw un yn y traddodiad Cymreig – tase rhywun yn mynd ati i ddadansoddi. Dw i wedi dysgu am hanes celf hefyd, dw i’n gwybod sut i edrych ar draddodiad ond fel artist dw i’n troi fy nghefn ar hwnna. Cofio bod yn artist a chofio peidio â bod yn hanesydd.

DW: Mae’r ddadl yna’n eitha’ cyffredin, mewn traddodiadau lleiafrifol yn arbennig, wrth i rai pobl wrthod yr ymgais i osod pethau yn hualau traddodiad. Un enghraifft sy’n berthnasol i Burum, falle, yw Ralph Ellison, yr awdur Affro-Americanaidd a oedd yn feirniad jazz yn ogystal â nofelydd. Fe ysgrifennodd e ddarn yn erbyn y beirniad Iddewig, Irving Howe. Roedd Howe wedi gosod gwaith Ellison yng nghyd-destun awduron du eraill ac fe ddywedodd Ellison rywbeth tebyg iawn i’r hyn ti newydd ei ddweud, Ceri, sef nad nhw – Frederick Douglass neu Richard Wright, er enghraifft – oedd y dylanwadau arno fe ond T S Eliot ac Ernest Hemingway. Mae e’n defnyddio delwedd y jwg. ‘Falle’n bod ni’n bodoli mewn jwg ond ry’n ni’n gallu gweld beth sy’n mynd ymlaen mewn jygiau eraill ar yr un pryd.’

Dw i’n credu mewn ffordd taw beth yw traddodiad yw gosod rhyw fath o drefn ar y gorffennol. A byddi di wastad yn gallu dadwneud hynny. Dyna beth ma’ Peter Lord wedi’i wneud gyda chelfyddyd gweledol yng Nghymru.

CRM: Mae’n gas ’da fi beth wnaeth Peter Lord!

DW: Ond beth wnaeth e oedd tynnu sylw at arlunwyr gwlad yn y 19eg ganrif nad oedden nhw’n cael unrhyw sylw achos bo nhw ddim yn ffitio mewn i estheteg Brydeinig. Ond yn yr Unol Daleithiau, roedd eu lluniau nhw’n gwerthu am lot o arian oherwydd bod y lluniau’n ffitio’r traddodiad mas fan ’na. Hynny yw, mae’r traddodiad yn diffinio’r ffordd ma’ pobl yn ymateb i gelfyddyd, mae e’n dylanwadu ar yr hyn sy’n cael sylw a’r hyn nad yw’n cael sylw. Ond dw i’n derbyn, wrth gwrs, ei bod hi’n wahanol yn achos yr artist unigol.

CRM: Yr unig beth sy’n bwysig yw’r berthynas rhwng beth wyt ti’n edrych arno fe, yr hyn tin agosáu ato fe am eiliad, cyn pasio trwyddo, pasio ymlaen i’r cam nesaf ar y daith. Fel yna ’w i’n deall y peth, yn wirioneddol. Dw i ddim yn deall y peth cyntaf am gerddoriaeth – o ran pethe technegol ac yn y blaen. I fi, ffordd o edrych ar y byd – ac ymateb – yw e. Ma’ ’da fi lot mwy o ddealltwriaeth o sut i ddisgrifio rhywbeth yn weledol nac o ddisgrifio rhywbeth yn gerddorol. Ond dw i yn gweld y ddau beth yn gyffelyb o ran y weithred, y marc, y ffordd o ddod atyn nhw.

Mark O'Connor

OPG: Oes ots o gwbl a oes yna rywun o gwmpas i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei wneud?

CRM: Nag oes. Hynny yw, mae’n neis. Mae’n well efallai os oes yna rywun.

OPG: Pam?

CRM: Wel, mae’n neis bod mewn cwmni, on’d yw hi? Ond ma’ traddodiad i fi yn debyg iawn i grefydd.

OPG: Mae yna elfen ideolegol ...

DW: Oes, yn sicr, a dwyt ti ddim yn gallu camu allan o hynny. Delfryd un math o artist, falle, yw gallu camu allan. Ond mae’r syniad o gwmni yn bwysig. Fe soniaist ti am Waldo, ‘Beth yw cenedl? Cadw tŷ mewn cwmwl tystion.’ Falle taw dyna beth yw traddodiad. Ti’n dewis dy draddodiad. Falle bod yr unigolyn yn dewis ei draddodiad. Ond dw i’n credu bod yna batrymau diwylliannol. Ac o safbwynt yr hyn rwyt ti’n ei ddweud, Ceri, mae’r hyn ry’n ni’n ei wneud yn eitha’ ceidwadol hefyd mewn ffordd – chwarae jazz wedi’i seilio ar alawon Cymreig. Falle dylen ni fod yn trio creu rhywbeth mwy nodweddiadol ...

TW: Ac wrth gwrs, mwya’ i gyd y’ch chi’n neud rhywbeth, mwya’ ceidwadol mae e’n dod i deimlo. Chi wedi’i wneud e unwaith, chi’n ei wneud e eto a bron nad y’ch chi’n creu fformiwla. A holl bwynt fformiwla yw ei fod e’n cael ei dorri. Mae’r cwestiynau yma’n codi drwy’r amser. Ar y dechrau, y nod oedd trio gwneud rhywbeth a oedd yn fwy perthnasol i ni – ac ry’ch chi’n creu rhywbeth wedyn sy’n cau amdanoch chi. Ac ry’ch chi’n dechre meddwl, ‘Wel, dyma beth y’n ni’n ei wneud. Defnyddio alawon Cymreig, traddodiadol, alawon gwerin, pa enw bynnag, ond mae ’na gannoedd ar filoedd o alawon i’w cael yn y byd ac ry’ch chi’n meddwl wedyn, ‘Wel, pam canolbwyntio ar hynny?’ Mae ’na gymaint o bethau eraill y gallen ni fod yn eu gwneud. Ond fe ddaeth y prosiect allan o’r awydd i ddod o hyd i rywbeth a oedd yn berthnasol i ni ac mae hwnna’n rhywbeth diddorol, dw i’n credu.

CRM: Ond dyna yw baich yr artist. Ta beth wnei di, ti’n caethiwo dy hun yn syth. Dw i’n ei gweld hi’n hollol ddilys i wneud unrhyw beth. Ond y perygl gyda unrhyw beth yw bo’ ti’n ailadrodd dy hun.

TW: A pha mor onest wyt ti eisiau bod wedyn? Os wyt ti’n dweud, ‘O, wel, dw i wedi gwneud hynny’ y cwestiwn wedyn yw ‘Beth ’naf i nesa?’

DW: Ond mae ’na ddatblygiad rhwng ein gwahanol recordiau ni hefyd.

TW: Oes, yn sicr. Esblygiad yw e. Ac fe allen ni fod yn ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol, er enghraifft, ond mae ’na hen ddigon o gerddoriaeth wreiddiol yn bodoli eisoes. Ac, os rhywbeth, ma’ beth ry’n ni’n ei wneud yn fwy diddorol achos bo’ ni’n defnyddio alawon sydd wedi bodoli ers canrifoedd eisoes, alawon sydd wedi perthyn i bobl eraill. A dyna ni nôl yn y dechre gyda’r cwestiwn am draddodiad.

CRM: Y peth am y gorffennol yw hyn: mae gen ti gyfres o amodau hynny, ti’n dewis dy amrywiadau ac yn y blaen. Ond gyda phethe’r gorffennol, ma’ rhywun wedi cerdded yr union lwybr yna o’r blaen. Mae e’n rhywbeth mystic iawn ac allu di fyth ymgorffori hwnna. Ond mae hi’n bosib defnyddio’r anallu yna. Peth sy’ di ’nharo i’n ddiweddar yw hyn: gwed taw hwn [hyd braich] yw hyd darn o gerddoriaeth, a bod y dechre fan hyn [ger de benelin], erbyn i ti gyrraedd y canol, ma’ hyd yn oed dechre’r alaw yn y gorffennol. Ond ma’r siâp gyda ti – ac ma’ rhywun wedi bod yn fan ’na o’r blaen. Ma’ ’na ryw adlais, rhyw gyd-ddigwydd, dros amser, dros le, a dyw hwnna ddim yn bodoli pan wyt ti’n trio ‘creu o’r newydd’, fel petai. Mae e fel cerdded mewn i hen dŷ. Ma’ pobl wedi byw yna o dy flaen di.

Beth sydd o diddordeb i fi yw’r cwmni ti’n cadw pan fyddi di’n chware. Felly, i fi, mae e’n fwy naturiol ac yn amlach na pheidio dw i’n chware mewn cylch gyda phobl yn yfed ac yn bwyta.

I fi, nid perfformiad yw cerddoriaeth. Mae’n fwy fel ffrwyth ymchwil, olion rhywbeth. Rhywbeth ti’n gadel ar ôl pan fyddi di’n ymchwilio i rywbeth. Ti’n ymchwilio i rywbeth am eiliad, neu funud, ac mae’r peth wedi’i ymgorffori. Wedyn ti’n ei adael e ar dy ôl ti ac, i’r bobl a glywodd ac a welodd hwnna, mae e’n rhyw fath o farc. Fel gwneud record. Gwae unrhyw artist sy’n perfformio. Nid perfformiad yw celfyddyd. Actio yw perfformio.

TW: Ti newydd ddisgrifio traddodiad on’d wyt ti?!

CRM: Swyddogaeth yr hanesydd yw hynny!

TW: Ond ti’n edrych yn ôl ...

CRM: Ydw, wrth gwrs. Ma’ pawb yn edrych yn ôl.

TW: Felly beth yw [recordiau blaenorol Fernhill] Llatai a Whilia?

CRM: I fi, hen ddillad y’n nhw. ’W i ddim yn gallu’u gwisgo nhw rhagor!


Mae albwm newydd Burum, Llef, ar gael yn awr yn y fan hon. Cewch fwy o wybodaeth am eu cerddoriaeth fan hyn.

Cyfweliad gan Owen Martell.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Daniel Williams, Cerddoriaeth

 


Does dim mwy o werth i ’ngorffennol i nag i unrhyw orffennol arall. Ma’ pob gorffennol yn gyfartal.

Dyddiad cyhoeddi: 17·08·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…