William Shakespeare, cyf. Gwyn Thomas


Macbeth

Barddas, , £6.95, Chwefror 2017

Codi ofn yng nghastell Caerffili
Cyfweld

Codi ofn yng nghastell Caerffili

Cyfweliad gydag Arwel Gruffydd


Arwel Gruffydd

Amser darllen: 11 munud

01·02·2017

Mae cynhyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth, yng nghyfieithiad newydd y diweddar Gwyn Thomas, ar fin agor yng nghastell Caerffili. Bydd hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw, trwy loeren, i sinemâu yng Nghymru – y tro cyntaf erioed i gwmni Cymreig wneud peth o’r fath. Aeth O’r Pedwar Gwynt i gael sgwrs gyda chyfarwyddwr Macbeth a Chyfarwyddwr Artistig y cwmni, Arwel Gruffydd.

Rhan 1

Sut mae rhywun yn mynd ati i gyfarwyddo un o ‘glasuron mawr’ y theatr?

Wel, roedd yn gofyn am ddull ychydig bach yn wahanol i’r arfer. Mae rhywun yn dod at y gwaith ychydig yn wahanol o gymharu â drama gyfoes neu ddrama naturiolaidd – ac mi wnes i fwynhau’r elfen wahanol yna’n fawr iawn.

Oherwydd bod y ddeialog yn farddoniaeth, ac oherwydd y ffordd y mae Shakespeare yn mynegi’r stori a llif meddwl y cymeriadau, mae yna rywbeth yn ei arddull sydd, rhywsut, yn ei gwneud hi’n haws i’r actor ac i’r cyfarwyddwr gyrraedd at y gwirionedd, fel petai, ac at gymhellion y cymeriadau.

Unwaith y bydd rhywun wedi ‘deall’ yr hyn sy’n cael ei ddweud, yn yr ystyr fwya’ arwynebol, mae pethau’n llai dyrys rhywsut.

Mae yna lif diddiwedd bron o linellau a syniadau rhyfeddol gan Shakespeare. Mae e’n cyfleu pethau dwys a chymhleth ond yn gwneud hynny mewn ffordd hynod o fanwl a chywir, on’d yw e?

Mae o bron yn gerddorol. Mae yna rywbeth yn y farddoniaeth sydd yn debyg i symffoni. Mae rhywun yn cyrraedd at yr ystyr bron heb orfod meddwl amdani’n ormodol. Mae’r farddoniaeth yn gyfrwng i roi mynegiant i’r gelfyddyd neu yn gyfrwng ynddo’i hun, efallai, ar gyfer trosglwyddo teimladau yn ogystal â gwybodaeth. Mae barddoniaeth Shakespeare yn gweithredu hynny mewn ffordd sy’n ddigon tebyg, dw i’n meddwl, i gerddoriaeth. Ac mae hynny’n haen ychwanegol o gymharu â drama ryddieithol. Mae yna ryw gân, rhyw gerddoriaeth, rhyw gelfyddyd; mae ’na gyfathrebu ym miwsig y geiriau sy’n creu llinell fwy uniongyrchol at hanfod cymeriad, a hynny heb i’r actor fod yn rhwystr – os ca’ i fod mor hy â chyfeirio at actorion fel rhwystrau!

Ymarferion Macbeth - llun Warren Orchard

Beth am y farddoniaeth honno, felly, a chyfieithiad newydd Gwyn Thomas? Oeddet ti wedi meddwl cynhyrchu Macbeth cyn i ti glywed bod Gwyn Thomas wedi bod yn gweithio ar ei gyfieithiad newydd?

Yn ddamweiniol, mewn sgwrs, y cyfeiriodd Gwyn at y peth. Fe roddodd o’r sgript i fi pan oedd pethau eisoes yn y broses gynllunio. Drafft gynnar oedd hi ond roedd yn teimlo fel cyd-ddigwyddiad rhyfeddol, a hynny’n asio’n rhyfedd â’r holl ofergoelion sydd ynglŷn â’r ddrama ac â’r elfennau goruwchnaturiol sydd yn y gwaith. Roedd y cyd-ddigwyddiad yn fy mhlesio’n arw. Roedd Gwyn wedi cyfieithu eraill o ddramâu Shakespeare eisoes. Fe gymerais i ran fel actor yn ei gyfieithiad o’r cartŵns Shakespeare a wnaeth gyda’r BBC ac S4C yn y 90au. Nos Ystwyll oedd y ddrama honno. Roedd Gwyn eisoes wedi talfyrru Macbeth, wedi gwneud fersiwn hanner awr o’r ddrama bryd hynny ac mae’n siŵr mai'r cam nesa’ iddo fo oedd cyfieithu’r peth yn ei gyfanrwydd. Roedd yn gyd-ddigwyddiad danteithiol.

Ac roedd hynny i gyd yn clymu gydag awydd i wneud Shakespeare mor hygyrch â phosib i gynulleidfa mor eang â phosib. Y fantais fawr, wrth gwrs, wrth gyfieithu Shakespeare, a’r fantais sydd gan siaradwyr ieithoedd eraill o gymharu â phobl uniaith Saesneg a’r diwylliant Saesneg, yw bod gennym ni drwydded i lwyfannu Shakespeare mewn iaith gyfoes. Dyw’r drwydded honno ddim ar gael mor hawdd yng nghyd-destun y diwylliant Saesneg. Yn y Saesneg, mae yna deimlad bod angen perfformio Shakespeare yn y gwreiddiol – a pham na fyddai rhywun yn gwneud? Pa Sais fyddai mor hy â cheisio gwella’r hyn y cynigiodd Shakespeare ei hun?

Aeth ambell un ati, on’d do. Dw i’n cofio darllen Lear Edward Bond yn y brifysgol. Mae ei fersiwn e’n tynnu sylw’n benodol at elfennau treisgar y stori honno. Mae yna ‘beiriant tynnu llygaid’ arbennig o erchyll, os cofiaf, sydd yn drosiad o ‘drais diwydiannol’, neu ‘ddiwydiant trais’, y cyfnod modern. Oes yna ddehongli tebyg yn eich cynhyrchiad chi?

Mynd ati i wneud cyfieithiad ffyddlon wnaeth Gwyn Thomas, nid cynnig addasiad neu ddehongliad o’r gwreiddiol. Ond gyda phob cyfieithiad mae elfen o addasu yn anorfod oherwydd wrth fynd ati i gyfieithu drama, i gyfieithu unrhyw idiom yn wir, ac yn enwedig yng nghyd-destun barddoniaeth, mae angen gwneud i’r geiriau ffitio cyd-destun ieithyddol a diwylliannol newydd. Ond y tu hwnt i hynny gellid dweud ei fod yn gyfieithiad mor bur ag y gall cyfieithiad fod.

Ymdrechodd Gwyn i fod mor driw i fwriadau a syniadau gwreiddiol Shakespeare â phosib – ond gwnaeth hynny yng nghyd-destun diwylliannol y Gymraeg.

Rwyt ti’n sôn yn dy nodiadau yn rhaglen y ddrama am yr awydd i godi ofn ar bobl a fydd yn gweld y ddrama yng nghastell Caerffili ac am yr elfennau goruwchnaturiol. Wyt ti’n gweld y rheiny’n ffitio’n arbennig o agos â’r cyd-destun Cymraeg ac â’n chwedlau a’n llên gwerin ni?

Yn sicr iawn, ac mae Gwyn ei hun yn taflu rhyw gyfeiriad ychydig bach yn wamal i’r pair bob hyn a hyn. Mae o’n defnyddio Annwn, er enghraifft, yn cyfeirio at Annwn yn y fersiwn Gymraeg er nad yw’r Saesneg gwreiddiol yn cyfeirio at the underworld – nac yn wir yn cyfeirio mor uniongyrchol at chwedloniaeth neu fytholeg Geltaidd chwaith. Ond yng nghyd-destun cyflwyniad Cymraeg o’r gwaith, mae’n bosib dod â phethau fel yna i mewn ... Pan oeddwn i’n fyfyriwr ym Mangor a Gwyn yn un o fy narlithwyr i yno, mi wnes i fwynhau ei ddarlithoedd o, ar wreiddiau mytholegol y chwedlau canoloesol, yn arw ac roedd y pwnc yn amlwg o ddiddordeb mawr iddo fo. Roedd yn amlwg wrth ei fodd yn sôn am dduwiau Celtaidd a chredoau Paganaidd y Celtiaid.

Mae dramâu Shakespeare yn aml yn cyfeirio’n ôl at orffennol cyn-Seisnig Ynys Prydain. Mae’r Brenin Llŷr, er enghraifft, yn un o frenhinoedd chwedlonol y Brythoniaid. Macbeth yn yr Alban wedyn. Mae yna Geltiaeth, fe ellid dweud - ‘the matter of Britain’. Tybed, felly, a yw’r elfennau goruwchnaturiol yn y ddrama yn gweithredu fel catalyddion i ryw raddau, neu fel amlygiad o isymwybod, rhywbeth sydd ‘yn y pridd’, fel petai, mewn cynhanes, rhywbeth atafistaidd?

Wel, dw i’n bersonol, yn meddwl am y gwrachod fel bodau o gig a gwaed. Yn y cynhyrchiad hwn, maen nhw’n bobl go iawn, mor real â Macbeth ei hun. Boed hynny’n deillio o’u hen gredoau nhw neu beidio, mae’r gwrachod yn gweithredu fel cyfrwng i gysylltu’r byd hwn â rhywbeth arall sydd y tu hwnt i’r materoldeb hwnnw. Ac mae nhw’n defnyddio hynny fel ffordd – a boed hynny’n ymwybodol neu’n isymwybodol – o godi ofn ar bobl. Maen nhw nhw’n cael blas ar herio Macbeth. Maen nhw’n mwynhau’r weithred o godi ofn arno fo. Ac maen nhw’n gwneud hynny drwy gyfrwng damcaniaethau gan addo gwobrwyon mawr iddo. Ond mae’r rheiny’n codi ofn arno oherwydd, er mwyn gallu hawlio’r gwobrwyon hynny, mae’n rhad iddo fo dramgwyddo a mynd yn groes i’r credoau a’r arferion y mae o wedi eu harddel hyd hynny, a mynd yn groes i werthoedd trugaredd a chyfiawnder. Mae o’n cysegru’i fywyd i wasanaethu’r brenin ac i gadw pethau fel y maen nhw, gwarchod y status quo a gwarchod yr hyn sydd yn gydnabyddedig gyfiawn a chywir gan y gymdeithas. Mae o wedi gallu boddio ei uchelgais a’i awydd i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w gymdeithas drwy wasanaethu’i frenin, drwy weithredu fel milwr da ac mae o wedi ennill gwobrau lu o wneud hynny. Ond ar y pwynt tyngedfennol, pan na all ennill mwy o wobrau, pan na all o gael ei ddyrchafu ymhellach – ar y pwynt pan fydd o bron iawn wedi cyrraedd ei lawn dwf fel arglwydd – mae’r gwrachod yn plannu’r hedyn ynddo fo, fel petai i’w annog o i ddeisyfu rhywbeth mwy. Ac er mwyn hawlio hynny, mae’n rhaid iddo dramgwyddo, mae’n rhaid iddo weithredu mewn modd anghyfiawn yn erbyn rheolau’r gymdeithas. Felly mae’r gwrachod fel petaen nhw’n taro arno fo ac yn ei gosi fo efo’r addewid yma ar yr union bwynt pan y gellid dweud ei fod o wedi mynd mor bell ag y gall o gyrraedd drwy weithredu’n gyfiawn.

Richard Lynch - llun Warren Orchard

Ydy’r gwrachod yn ei radicaleiddio fe, felly?

Byddai hynny’n un ffordd o edrych ar bethau. Maen nhw’n addo iddo fo fwy nag y mae hi’n iawn iddo fo ei gael – iawn yn yr ystyr o gywirdeb, yn yr ystyr o fudd cymdeithas, hynny yw. Drwy ddeisyfu mwy na’r hyn y gall gyflawni drwy weithredu cyfiawn, mae o’n boddio ei ego yn hytrach na boddio a buddio cymdeithas. Iawn ydy bod yn filwr da, iawn ydy bod yn frenin os mai lles cymdeithas sydd yn cymell rhywun ond pan ddaw lles yr hunan yn amcan, dyna pryd y mae pethau’n mynd ar chwâl – a dyna sy’n digwydd i Macbeth, wrth gwrs. Pan ’da ni’n cyfarfod ag o gynta’, mae o’n ddyn da, yn ddyn cyfiawn, ond yn fuan iawn yn y ddrama, mae syniad o fwydo’r ego yn ei feddiannu ac yn goresgyn y nod blaenorol o gadarnhau statws y brenin.

Mae hi wastad yn demtasiwn gyda Shakespeare – ac mae hynny’n rhan o’i apêl ar hyd yr oesoedd, mae’n siŵr – i gyffelybu cymeriadau’r dramâu, a chymeriadau’r trasiedïau yn enwedig, â chymeriadau yn y byd go iawn. Ac i ddweud ‘Mae hon yn wers bwysig i ni.’ Beth yw dy ymateb di i’r math yna o beth?

Mae Shakespeare yn amserol ond yn ddiamser hefyd. Dyna sydd mor hyfryd am weithiau llenyddol mawr y byd, fel dramâu Shakespeare; fe allwch chi weld yr oes hon ynddyn nhw ond maen nhw’n wir ym mhob oes hefyd. Maen nhw’n dweud gwirioneddau am y ddynoliaeth – a dyn yw dyn ymhob oes.

Yn fwy na rhyw gyffelybiaethau mwy neu lai arwynebol gyda phersonoliaethau ar y llwyfan rhyngwladol cyfoes, felly, a chymharu cymeriadau mewn drama â phobl ry’n ni’n tybio ein bod yn eu hadnabod – rhyw feddwl bod Trump yn ego maniac a hyn llall ac arall – falle’i bod hi’n fwy diddorol meddwl am weithiau mawrion, fel Macbeth, King Lear neu Hamlet, fel gweithiau sy’n enghreifftio anocheledd trasiedi? Hynny yw, ac o ystyried ein bod ni’n byw mewn cyfnod digon brawychus ar hyn o bryd, efallai bod trasiedïau Shakespeare, hyd yn oed o’u gweld a’u hail-weld nhw, yn awgrymu bod yn rhaid i bethau fynd i’w heithafion. Nad yw hi’n ddigon i ni wybod ymlaen llaw bod pethau’n mynd i fod yn wael – maen rhaid iddyn nhw fod yn wael mewn gwirionedd cyn i ni gymryd sylw neu weithredu ...

Efallai ond mae Macbeth yn ddrama gadarnhaol yn y pen draw, er gwaetha’r erchyllterau sy’n dod i ran trigolion yr Alban yng nghwrs y ddrama.

Druan ohonyn nhw!

Ie! Ond yn y pen draw, daioni sy’n gorchfygu. Daioni sydd yn ennill y dydd. Mae’r drefn, yn ôl dymuniad Duw, neu mae’r drefn naturiol – ac mae Shakespeare yn defnyddio’r gair naturiol yn aml iawn, yn dweud fod pethau yn mynd ‘yn groes i natur’ – yn cael ei hadfer. Natur sydd yn trechu yn y diwedd; mae’r drefn yn cael ei hailsefydlu ac mae’r un a oedd i fod i ddod yn frenin ar ôl Duncan yn dod yn frenin ar y diwedd. Mae Macbeth yn methu er gwaethaf ei uchelgais a’i allu milwrol. Ac mae o’n cael ei drechu oherwydd, yn y diwedd un, mae’r da yn mynnu ennill.

Ar yr adegau tywyllaf i’r Alban yn ystod y ddrama, mae yna lot fawr o anobeithio. Mae Macduff yn anobeithio ac mae hi’n edrych yn ddu iawn ar y wlad hanner ffordd drwyddi. Mae hi fel pe bai’n amhosib i ddaioni orchfygu. Ond dyna sy’n digwydd erbyn y diwedd. Mae’r rhod yn troi.

Mewn unrhyw oes, os yw rhywun yn teimlo nad yw gwleidyddiaeth o’u plaid nhw, neu nad yw’r hinsawdd neu’r pŵer gwleidyddol o’u plaid nhw, dyw hynny ddim o reidrwydd yn gyfystyr â dweud taw felly y bydd hi tan ddiwedd amser. Ond wrth gwrs mae’n rhaid i bawb ddiffinio’i ddaioni ei hun – byddai llawer yn dweud bod yr hinsawdd wleidyddol ym Mhrydain, yn Ewrop neu yn America o’u plaid nhw ar hyn o bryd a taw daioni sydd ar i fyny. Tra bod eraill yn gweld pethau o’r pegwn arall. Dw i’n gwybod lle dw i’n sefyll!

 

Gallwch ddarllen ail ran y cyfweliad hwn gyda Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd fan hyn.


Cyfweliad gan Owen Martell.

Lluniau: Ymarferion Macbeth (Ffion Dafis, Arwel Gruffydd a Richard Lynch) gan Warren Orchard, gyda chaniatâd caredig Theatr Genedlaethol Cymru. 

Cyflwynir Macbeth yng nghastell Caerffili rhwng 7 a 18 Chwefror 2017.
Bydd yna Ddarllediadau Byw i ganolfannau ledled Cymru ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror 2017, ynghyd ag ail-ddangosiad (gydag is-deitlau Saesneg).

Mwy o fanylion fan hyn.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Theatr

 


Er mwyn ennill ei wobr, mae’n rhaid iddo dramgwyddo, mae’n rhaid iddo weithredu mewn modd anghyfiawn

Dyddiad cyhoeddi: 01·02·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…