Jon Savage


1966: The Year the Decade Exploded

Faber, 672tt, £20, 2015


Teenage: The Creation of Youth 1875-1945

Chatto & Windus, 549tt, £20, 2007


England's Dreaming: The Sex Pistols and Punk Rock

Faber, 602tt, £17.50, 1991

Grym tramgwyddus Jon Savage
Cyfweld

Grym tramgwyddus Jon Savage


Ruth Richards

Amser darllen: 13 munud

07·02·2017

Bu Jon Savage yn dadansoddi ac yn ysgrifennu am gerddoriaeth bop a diwylliant poblogaidd ers deugain mlynedd. Print yw ei brif gyfrwng, ond arweiniodd ei ymchwil at guradu casgliadau o ganeuon thematig a chyfrannu at arddangosfeydd hefyd. Bu'n gyfrifol am ddatblygu ac ysgrifennu rhaglenni dogfen, am Joy Division a Brian Epstein, ymysg eraill. Yn ddiweddar, addaswyd ei lyfr, Teenage: The Creation of Youth 1875-1945 yn ffilm sinema. O ystyried hyn, nid yw'n syndod clywed ei osodiad agoriadol: 'Dwi wastad wedi gwirioni ar gerddoriaeth. Dyna fy nghyfrwng i ddehongli'r byd, ac fe arweiniodd at sawl maes arall.'

Yn 1991, ysgrifennodd England's Dreaming: The Sex Pistols and Punk Rock, llyfr a ystyrir yn hanes diffiniol ffurf a chyfnod - ac a sefydlodd ei statws yn rheng flaen y rheiny a fynnai osod cerddoriaeth bop yn ei chyd-destun ehangach. Yn hytrach na chyflwyno atgofion ar hap, mae'n gwreiddio'r gerddoriaeth mewn lle a chyfnod. Yr un math o ymdriniaeth a geir yn ei lyfr, Teenage, sy'n olrhain cynhanes diwylliant ieuenctid. Mae ei waith diweddaraf, 1966: The Year the Decade Exploded, yn amlinellu newidiadau pellgyrhaeddol, radicalaidd y flwyddyn honno; fesul mis, fesul trac.

Y brif ffrwd Eingl-Americanaidd yw canolbwynt gwaith Jon Savage, ond mae e'n rhoi sylw penodol i gyrion y ffrwd hwnnw a'i ddiwylliannau amgen. Ac yntau'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd bellach, roedd dathliad Diwrnod Miwsig Cymru ar 10 Chwefror yn gyfle perffaith i'w holi ynglŷn â’r hyn sydd gan gerddoriaeth bop i'w ddweud mewn cyd-destun Cymreig.

Ar gychwyn y sgwrs, doedd hi ddim yn debygol iawn y byddai yna lawer iawn i'w ddathlu. Dechreuodd drwy sôn am ansicrwydd a goblygiadau marwaidd Brexit i ddiwylliant a chreadigrwydd. Nid yw'n credu bod yna ormod i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Mae refferendwm 2016 yn cynrychioli diwedd adluniad y cyfnod ôl-ryfel, ac mae Jon o'r farn bellach y gallai hynny beryglu un o ddatblygiadau creadigol mwyaf nodedig y cyfnod hwnnw, sef y ffrwydrad o ddiwylliant ifanc a poblogaidd yn seiliedig ar gerddoriaeth.

Ers deng mlynedd a rhagor, bu'r diwylliant hwn yn colli ei rym tramgwyddus; cafodd ei normaleiddio a'i lyncu gan y brif ffrwd nes dod yn adnodd sydd yn addas bellach i bobl o bob oed. Er nad yw Jon yn credu ei bod hi'n ddiwedd ar gerddoriaeth bop, mae'r ansicrwydd a ddaw yn sgil Brexit, a'r pwyslais ar boblyddiaeth yn hytrach na'r poblogaidd, yn bygwth yr union amgylchiadau a roddodd ystyr i'r diwylliant a'r genre; yr amgylchiadau hynny a oedd mor fendithiol o ran ei ddatblygiad. Yn blentyn ar gyrion gorllewin Llundain ar ddiwedd y 50au a dechrau'r 60au, roedd Jon yn cael ei ystyried yn 'dipyn o ffrîc a weirdo' oherwydd ei obsesiwn â cherddoriaeth boblogaidd - ond 'mi roedd hynna'n fy siwtio i'r dim', meddai. Ynghlwm â'r gosodiad hwnnw, wrth gwrs, mae yna gwestiwn: pa gyfryngau creadigol fydd ar gael i ffrîcs a weirdos â Trump mewn grym ac â UKIP yn herwgipio'r agenda dros y ffin?

Jon Savage Yn ôl Jon, mae Cymreictod ei hun yn cynnig cyfle i herio’r drefn sydd ohoni bellach; mae'n gyfle, yn sicr, i ddiarddel y cenedlaetholdeb Seisnig sy'n greiddiol i weledigaeth UKIP. Rhaid i'r diwylliant Cymraeg, yn fwy nag erioed o'r blaen, barhau i gynnig cyfleoedd creadigol sy'n dathlu ei hunaniaeth a'i arwahanrwydd. Wrth sôn am arlwy S4C, dywed, 'Dwi wrth fy modd gyda rhaglenni sy'n tynnu sylw at yr hyn sy'n wahanol yng Nghymru, yn hytrach na dynwared y Saeson.' Mae e hefyd yn canmol ffilmiau Gruff Rhys, Separado! ac American Interior, a gallu'r cerddor amryddawn i ymdrin â gwleidyddiaeth gyda hiwmor. Unwaith eto, mae'n dotio at y ffaith bod allbwn Rhys yn 'cynrychioli rhywbeth sy'n unigryw i Gymru.'

Cafodd Jon Savage ei gyflwyno i'r sîn Gymraeg ar ddechrau'r 90au. A Rhys Mwyn (gŵr y mae'n ei ddisgrifio fel 'addysgwr hael') yn agor drysau iddo, cafodd gwrdd â nifer o fandiau Cymraeg a mynychodd gigs hyd a lled y Gogledd. Roedd y cyfnod hwnnw, meddai, yn gyfnod o 'ddadeni', a bandiau fel Gorky's Zygotic Mynci, Super Furry Animals, Ectogram, Melys a Llwybr Llaethog yn dechrau diffinio'r gerddoriaeth a'r sîn a fyddai'n esgor wedi hynny ar ffenomenon lled-eironig 'Cool Cymru'. Wrth edrych yn ôl, yr atgofion sy'n aros yw'r 'brwdfrydedd a deuoliaeth ryfedd o sydetrwydd a gwallgofrwydd paganaidd.'

Tua'r un cyfnod, yn 1990, daeth ar draws y Manics yn perfformio yn Camden. 'Roedd pawb yn ddi-siâp - mewn crysau-T mawrion, yn suo fel eirth. Ac yna, dyma'r hogia 'ma o Gymru'n cyflwyno eu fersiwn nhw o pync. Roedd o'n ofnadwy o ddoniol, ac yn hollol wych yr un pryd.' Wrth siarad â Nicky Wire a Richie Edwards ar ôl y set, esboniodd y ddau eu bod yn gwisgo blowsiau eu chwiorydd.

'Ydach chi'n cael trafferth cerdded o gwmpas wedi gwisgo fel 'na?' gofynnodd.

'O na - 'dan ni mor ddel.'

Roedd Jon wedi ei 'argyhoeddi'n llwyr.'  pharchedig ofn ychwnaegodd, 'Pwy allai ofyn am fwy na hynna?'

Yr adeg honno, ac yn wahanol i'r bandiau a welodd yng ngogledd Cymru a ganai yn Gymraeg, nid oedd y Manics yn cyfeirio at Gymru na'u Cymreictod. Pan holodd Jon Savage y grŵp ar gyfer erthygl i'r Guardian yn 1997, sylwodd fod hynny wedi newid. Yn dilyn eu halbwm nodedig, Everything Must Go, 'roedden nhw'n dechrau arddel Cymru, a mynegi balchder yn eu Cymreictod.'

Oedd yna gyswllt felly, gofynnais, â'r ymgyrch ddatganoli a Refferendwm 1997?

Oedd, meddai, yn sicr. I'r bandiau a gynhyrchai gerddoriaeth Gymraeg ar gyfer sîn Gymraeg, roedd yna gyfatebiaeth amlwg â hunanlywodraeth wleidyddol. Dros amser, daeth hynny'n gynyddol berthnasol i'r Manics yn ogystal - band a wrthodai swnio fel yr un band arall a ddeuai o Loegr neu o America ar y pryd. Roedd yr her o fynegi Cymreictod neilltuol oddi mewn i ffurf Eingl-Americanaidd yn un ddiddorol a rhyddhaol.

Jon SavageMae'r cyfrwng ieithyddol yn fwy hylifol, wrth gwrs, na'r ddeuoliaeth syml sy'n mynnu bod rhai bandiau'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac eraill yn gweithio drwy'r Saesneg yn unig. Ac ni wêl Jon broblem wrth i fandiau Cymraeg droi o dro i dro at y Saesneg, os yw hynny'n gymorth i rannu ymdeimlad o Gymreictod gyda chynulleidfa ehangach. 'Mae'r sîn Gymraeg yn ffynnu, a hir oes iddi, ond mae chwalu ffiniau'n bwysig ac yn ddiddorol hefyd.' Nid yw hynny o angenrheidrwydd yn golygu cefnu ar y Gymraeg, meddai. Cyfeiria at Mwng y Super Furries ac, yn fwy diweddar, Y Dydd Olaf gan Gwenno Saunders fel esiamplau o gerddoriaeth Gymraeg a gafodd sylw eang a ffafriol gan y wasg Seisnig. Mae'n gweld cyfatebiaeth â’r Beatles, ac â chaneuon fel 'She Loves You', a enillodd i'r pedwarawd o Lerpwl yr hawl i ddilyn trywydd amgen.

'Cyfathrebwyr yw cerddorion, ac ni ddylid cyfyngu o gwbl ar eu gwaith'. Pwysleisia drachefn yr angen i gerddorion rannu eu Cymreictod a'u gwahaniaeth (ym mha iaith bynnag) oddi fewn i hinsawdd wleidyddol sydd yn credu erbyn hyn bod adeiladu waliau'n benderfyniad polisi dilys.

Awn ymlaen i drafod ei lyfr diweddaraf, 1966, sydd yn her i adwaith y dde ideolegol yn erbyn radicaliaeth y degawd hwnnw. 'Ers cyfnod Thatcher, daeth y 60au a diwylliant ieuenctid dan y lach. Ac, yn fwy diweddar, bu haneswyr adolygiadol yn honni nad oedd y 60au'n ddim ond cynnyrch rhyw ddau gant o bobl yn Llundain.'

Yn ôl Jon, hawdd iawn, o bersbectif Cymreig, yw herio'r ddamcaniaeth mai ffenomenon metropolitanaidd oedd radicaliaeth y 60au. Mae i'r newidiadau diwylliannol a chymdeithasol a welwyd yn Llundain a thu hwnt - yn Ewrop ac America - eu cymheiriaid yng Nghymru. Dechreuodd marchnad cerddoriaeth bop cyfrwng Cymraeg gydredeg â ac ategu protestiadau ac ymgyrchoedd yr iaith. Ac mae agenda a chanlyniadau'r 60au'n atseinio'n wahanol yng Nghymru, er y gellid eu dehongli hefyd fel symptom o newid ehangach.

'Y 60au aeth â hi yng Nghymru,' meddai, ac er y byddai'r rheiny ohonom sy'n parhau (o reidrwydd, wrth gwrs) i ymgyrchu dros y Gymraeg yn dadlau ein bod yn bell o hawlio buddugoliaeth, ni chafodd y manteision a hawliwyd hyd yma, o safbwynt iaith, diwylliant a datganoli, eu gwrthwynebu mor chwyrn yn ideolegol ag yn Lloegr.

'Mae'r awyrgylch [ôl-Brexit] rywfaint yn well fan hyn. Efallai fy mod i'n naïf, ond dwi'n credu hynna i'r carn.' Ond mae Jon hefyd yn rhybuddio yn erbyn hunanfoddhad. Hyd yn oed os yw hi'n wir bod delfrydau canol yr ugeinfed ganrif wedi goroesi â mwy o wytnwch yng Nghymru, mae Jon o'r farn mai herio sefydliadau a grym yw cynhaliaeth diwylliant ieuenctid.

Sonia am fynd y llynedd i glywed y pyncs o Sir Benfro, Y Ffug: 'Cwbl ffantastig. Y Ffug - am enw gwych! Ac maen nhw'n siarp; yn feirniadol o Gymru, ac yn gwneud hynny yn Gymraeg, sy'n beth iach ... Pe bawn i'n ddeunaw oed, byddwn i'n pissed off hefyd."

Dechreuodd fy sgwrs â Jon Savage â thrafodaeth am yr ysgytiad gwleidyddol sy'n bygwth yr amgylchfyd diwylliannol a'n diffiniodd. Daeth i ben â rhyw fesur o gysur bod bandiau fel Y Ffug yn parhau i sianelu'r un dryswch a'r un boen a ysgogodd ac a unodd ieuenctid ers i'r ieuenctid hwnnw gael cyfrwng i'w fynegi ei hun:

Dwi ddim yn gwybod be sydd arna i bellach
Dwi ddim yn gwybod beth sy'n bod.

Y Ffug: 'Tywydd Garw'

 

Gallwch danysgrifio i O'r Pedwar Gwynt am gyn lleied â £10 y flwyddyn.


Cyfweliad gan Ruth Richards.

Mae Ruth yn Brif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith a Chynorthwy-ydd Golygu a Chynhyrchu O'r Pedwar Gwynt. Gallwch ddarllen pennod o'i nofel, Pantywennol (Y Lolfa, 2016), fan hyn.

Lluniau: Jon Savage gan Linder Sterling, 1978; 'Pretty Vacant' gan Andy Knowles.

Bydd Jon Savage yn trafod y ffilm Performance (Donald Cammell a Nic Roeg, 1970) gyda Dylan Huw Edwards yn rhan o ŵyl cerddoriaeth a ffilm 'Psylence' yn Pontio, Bangor, ar 19 Mawrth. Dilynir y drafodaeth gan ddangosiad o'r ffilm.

Pontio, Bangor, dydd Sul, 19 Mawrth, 2yp, £5.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Cerddoriaeth, Ruth Richards

 


Pe bawn i'n ddeunaw oed, byddwn i'n pissed off hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 07·02·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…

Cyfansoddi


Morgan Owen

Buasai gerddi yn fy meddwl ers misoedd yn lluosogi: gerddi’r dychymyg effro yn gymysg â gerddi breuddwydion. Un ar ôl y llall yn llathru’n las, yn wahoddiad imi eu cribino am ryw ystyr neu’i gilydd. Yn fy mrwdfrydedd, palaf weithiau i’w trefnusrwydd a’u diwylliant a…

Dadansoddi


Emyr Glyn Williams

Ca va? Mae gen i rywbeth i'w ddweud am ffilmiau chwyldroadol yr 1960au. Dwi'n meddwl am ffilmiau fel If… (1968) gan Lindsay Anderson, Weekend (1967) gan Jean-Luc Godard a The Battle of Algiers (1966) gan Gillo Pontecorvo, a pham ei bod yn bwysig dal ati i'w gwylio nhw heddiw. Fel llawer o fyfyrwyr, gweithwyr, artistiaid a phrotestwyr…

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…