William Shakespeare, cyf. Gwyn Thomas


Macbeth

Barddas, , £6.95, Chwefror 2017

Guto Ffowc, Macbeth a’r drefn naturiol
Cyfweld

Guto Ffowc, Macbeth a’r drefn naturiol

Cyfweliad gydag Arwel Gruffydd


Arwel Gruffydd

Amser darllen: 12 munud

07·02·2017

Cyhoeddwyd rhan gyntaf ein sgwrs gyda Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yr wythnos ddiwethaf. Mae Macbeth i’w gweld yng Nghastell Caerffili rhwng 7 a 18 Chwefror ac wedi hynny mewn darllediadau byw i sinemâu ledled Cymru.

Rhan 2

A defnyddio un o’r termau newydd sydd wedi dod yn gymaint rhan o’n geirfa yn ddiweddar, ai ‘siambr adlais’ yw’r theatr heddiw? A pha ddyfodol sydd i’r theatr yng Nghymru yn wyneb toriadau ariannol tebygol, Brexit, a’r dyfodol diwylliannol ansicr ehangach?

Wel, dw i’n meddwl bod gan y theatr rôl i’w chwarae o ran helpu pobl i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, a thaflu rhywfaint o oleuni ar y mater – beth bynnag yw’r ‘mater’ hwnnw. Ond nid gwleidyddion ydan ni fel gwneuthurwyr theatr. Fe allwn ni roi dadansoddiad neu ddehongliad gerbron er mwyn ennyn trafodaeth – ond nid er mwyn cynnig ateb. Fel artistiaid does gennym ni ddim atebion gwleidyddol. Dy’n ni ddim yma i ddweud ‘gwnewch hyn’; rôl pobl eraill yw hynny. Rôl y theatr yw cynnig llwyfan i drafod ac yn hynny o beth y cyfan ’da’n ni’n ei wneud ar hyn o bryd, yn ystod y berw gwleidyddol presennol, yw rhoi trasiedi wleidyddol fawr Shakespeare ar lwyfan – a gadael i bobl gyrraedd eu casgliadau eu hunain.

Ond mae yna fwy na ‘chyfrannu at drafodaeth wleidyddol’ on’d oes? Hynny yw, mae yna fwriad ‘celfyddydol’, sydd yn cynnig syniad amgen o fywyd o gymharu â’r gwastad gwleidyddol. Ac mae hwnna’n rhan o fywydau pobl ac yn rhan o’u profiad nhw ar y ddaear hon – rhywbeth sy’n ymwneud â phethau fel mwynhad neu gyneddfau mwy ... wn i ddim pa air i’w ddefnyddio. Syniad o ymhyfrydu mewn pethau ...

Mae hynny’n sicr yn rhan ohoni. A dw i’n rhag-weld, heb os, y bydd pobl yn mwynhau clywed y Gymraeg fel y caiff hi ei thrin, fel arf celfyddydol, gan Gwyn Thomas. Mae ganddo droadau ymadrodd, defnydd o eiriau, delweddau a ffordd o ddewis geiriau sydd yn hynod. Ac er mai cyfieithiad sydd ganddo o waith Shakespeare, byddwn i’n mentro bet go lew y bydd cyfran helaeth o’r gynulleidfa yn adnabod y gwaith fel gwaith gan Gwyn Thomas. Mae yna adleisiau o’i farddoniaeth – hynny ydy, o’i waith gwreiddiol o. Mae rhywun yn ei glywed yn y cyfieithiad, yn y rythmau a’r eirfa, ac mae hynny’n ddiléit.

Ffion Dafis a Richard Lynch, ymarferion Macbeth

Beth am y cyd-destun, felly, a gosod y gwaith yng Nghastell Caerffili. Mae’n rhaid ei bod hi’n beth hynod gyffrous, cyflwyno’r ddrama yn rhywle sydd fel petai’n ‘briod fan’ i’r gwaith.

Y tywyllwch a’r oerni! Bydd gyda’n hactorion ni ddillad isaf cynnes! Ac fe fydd lot o oleuadau theatr yna felly bydd yna elfen o wresogi – ond mae gofyn i’r gynulleidfa wisgo’n gynnes. Cotiau mawr a dillad isaf trwchus ...

O benderfynu llwyfannu’r gwaith yma mewn castell, yr ysfa gyntaf oedd i gyflwyno yn yr haf, pan fyddai’r tywydd yn well a’r gwylio cymaint â hynny’n fwy cysurus - heb sôn am yr ymdrech i ni. Ond fe ddes i i’r casgliad na fyddai hynny’n gymwys ac y byddai tywyllwch ac ychydig o anghysur yn gweddu’n well i gyflwyniad o Macbeth. Yn yr haf, yn y golau, mae’r cestyll yma’n gallu edrych fel llefydd pleserus iawn ond mae’r awyrgylch ynddyn nhw’n gwbl gwbl wahanol pan fydd hi’n damp ac yn dywyll.

Mae yna nifer o ffactorau ynghlwm yn y dewis yna. Mae un ohonynt yn sicr yn perthyn i’r awydd i godi ofn – ac mae’r cestyll canoloesol yma, yn y nos, yn y gaeaf, a’r gwynt yn rhuo drwy dyllau yn y to fan hyn fan draw, neu i lawr y coridorau, yn gallu bod yn llefydd reit ddychrynllyd. Mae hynny’n sicr yn arf ’da ni am wneud defnydd ohono fo – ond, o gofio ei bod hi’n oes gythryblus ar hyn o bryd, a chwestiynau gwleidyddol mawr yn cael eu gofyn am ein cyfeiriad ni, am ein hunaniaeth ni fel cenedl, yn Gymry, yn Brydeinwyr, yn Ewropeaid, roedd y cyfnod hwnnw yn y 13eg ganrif pan adeiladwyd castell Caerffili yn gyfnod digon tebyg. Fe ellid dweud bod Prydeindod wedi ei fathu yn y cyfnod hwnnw os ydy rhywun yn edrych ar hanes Prydain ac yn derbyn bod goresgyniad y Cymry yn y 13eg ganrif yn gychwyn ar ryw syniad o Brydeindod, ac o ddod â thiriogaethau’r ynysoedd hyn ynghyd i greu un frenhiniaeth. Dyna gychwyn Prydeindod, cychwyn uno Cymru a Lloegr. Wedyn, wrth gwrs, y daeth yr Alban ac Iwerddon i’r pictiwr.

Mae yna rywbeth ynglŷn â’r cyfnod hwnnw – dw i’n meddwl bod pobl yn tueddu i esgeuluso pwysigrwydd y cyfnod yng nghyd-destun Prydeindod. Mae parhad Prydeindod yn y fantol erbyn hyn ac mae yna gylch fan hyn, dw i’n meddwl. Mae mynd yn ôl i Gastell Caerffili yn ystod y cyfnod hwn yn hynod ddiddorol. Yn y ddrama ei hun mae yna gyfeiriad at Edward I, sef y gŵr a adeiladodd gastell Caerffili, wrth gwrs, yn rhan o’i ymgyrch yn erbyn Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ac Edward, wrth gwrs, sydd yn trechu Macbeth. I bob pwrpas, byddin Sesinig o Northumberland, ar orchymyn Edward, sydd yn teithio i’r Alban i roi terfyn ar uchelgais Macbeth ac i osod Malcolm, yr eneiniedig un, ar orsedd yr Alban yn ei le.

Ydy hynny’n cynnig darlleniad o gymeriad Macbeth, felly, fel rhyw fath o arweinydd radical yn erbyn grym y canol – y math o ‘freedom fighter’ y byddai cyfryngau’r drefn gysurus, a deiliaid grym gwleidyddol, yn ei alw’n ‘derfysgwr’?

Na, dw i ddim yn meddwl. Byddai hynny’n demtasiwn ond nid dyna ydy bwriad Shakespeare yn y gwaith. Dydy o ddim yn portreadu Macbeth fel arwr – gwrth-arwr ydy o, gelyn ydy o a dyn drwg yn ddi-os. Neu ddyn da sy’n cael ei lyncu gan ei uchelgais ei hun.

Ond mae Shakespeare yn ffrwyth ei oes ei hun hefyd, wrth gwrs. Cyfnod Elizabeth a Iago ...

Wel, mi sgwennodd o Macbeth yn syth ar ôl y ‘Gunpowder Plot’, felly mae yna rybudd ynglŷn â chymryd safiad yn erbyn y frenhiniaeth, rhybudd yn erbyn chwyldro a herio’r drefn.

Felly, er cydnabod mawredd camp Shakespeare wrth gyfleu hanes a chymeriad – cynildeb a theithi meddwl cymeriad unigryw – mae e hefyd yn ysgrifennu o safbwynt sy’n cadarnhau trefn geidwadol, a’r grymoedd hynny yr oedd hi o fudd iddyn nhw gael eu gweld fel ‘y drefn naturiol’ ...

Dw i’n meddwl y byddai’r Brenin Iago wedi bod yn falch iawn o’r gwaith – byddai e wedi’i gymeradwyo. Guto Ffowc yw Macbeth.

Ry’n ni newydd fod yn gweithio ar olygfa’r dagr yn yr ystafell ymarfer – un o’r golygfeydd mwyaf anodd yn y ddrama, dw i’n meddwl. Oherwydd pan fydd Macbeth yn gweld ysbryd Banquo, mae e newydd weld y dagr – felly mae e wedi dechrau gweld pethau yn ei ddychymyg. Ond y tro cyntaf hwn yw’r fwyaf anodd mewn ffordd. Ar ôl iddo gychwyn ar y siwrne o golli arno, mae pethau fel petaent yn mynd yn haws; cychwyn ar y droed honno, ar y llwybr tuag at wallgofrwydd, sy’n heriol.

Gareth John Bale, ymarferion Macbeth

Byddwch yn darlledu’r ddrama’n fyw i sinemâu – y tro cynta’ i gynhyrchiad Cymraeg wneud peth o’r fath ...

Y tro cynta i gynhyrchiad Cymraeg neu Gymreig wneud peth o’r fath ... Yn fras iawn, ry’n ni’n dilyn model NT Live a’r Cwmni Opera Brenhinol – darllediad trwy loeren i sinemâu. Mae hynny wedi gofyn am gryn ymdrech a chryn drefnu a buddsoddiad. Ond roedd yn bwysig i ni ein bod ni’n gallu rhannu’r cynhyrchiad mor eang â phosib. Er ei fod yn gynhyrchiad safle-benodol, ac er ein bod ni’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosib yn dod i wylio yn y castell – a bydd gwylio yn y castell yn brofiad gwahanol iawn i wylio mewn sinema – doedden ni ddim eisiau gwadu’r cyfle i weld cynhyrchiad o Macbeth i’r rheiny fydd yn methu dod i gastell Caerffili. Mae’n dipyn o arbrawf – ac fe gawn ni weld sut eith hi ond mae’n bosib ei fod yn fodel y byddwn ni’n ei arddel eto. Fel modd i gyflwyno cynyrchiadau na fyddan nhw’n teithio. Fydden ni ddim yn ei ddefnyddio fel rheswm i beidio â theithio cynyrchiadau yn y dyfodol ...

O bryd i’w gilydd, mae cyflwyno cynyrchiadau mewn un safle arbennig yn fodd i gynnig rhywbeth mewn cynhyrchiad na fyddai’n bosib fel arall. Mae cyflwyno Macbeth mewn castell canoloesol yn fodd i werthfawrogi’r gwaith mewn ffordd wahanol. A’r gobaith yw y bydd hynny’n ychwanegu at y profiad. Fe lwyfannon ni Blodeuwedd yn Nhomen y Mur yn 2013 a drama fwy arbrofol, Y Bont, yn Nhrefechan/Aberystwyth, hefyd yn 2013. Felly ry’n ni’n mynd yn ôl i ymwneud â’r cyfrwng yna – cyflwyno pethau mewn lleoliadau arbennig.

Yn achos y ddau gynhyrchiad arall, roedd hynny’n fodd i chwarae gyda’r ffin rhwng realaeth a ffuglen ac, yn achos Blodeuwedd, y ffin rhwng realaeth, ffuglen a chwedl hefyd.

Ac mae’r castell ei hun yn mynd i gael anadlu o’r newydd yn y cynhyrchiad hwn – y muriau'n cael profi ‘rhyw frithgo' am ryw gyffro gynt’, fel petai ...

Mae rhywun yn tueddu i feddwl am hanes fel ffaith ddigwestiwn ond o adrodd hanes mae rhywun o reidrwydd yn ei ddehongli ac mae cyflwyno dramâu sydd yn ymddangosiadol hanesyddol yn fodd i atgoffa pobl nad yw hanes byth yn un peth yn unig, taw dehongliad ydyw. Mae’r chwarae yma rhwng hanes neu realaeth a ffuglen a/neu ddehongliad yn rhywbeth dw i fel artist theatr yn mwynhau ei wneud; gwahodd pobl i ofyn, wrth wylio Macbeth, a hyd yn oed os yw hynny'n cael ei wneud mewn modd chwareus ac isymwybodol, 'ydy hyn yn digwydd go iawn, rwan'? O flaen fy llygaid, yn y cyd-destun hwn? Neu a ddigwyddodd hyn, fel hyn, yn y cyd-destun hwn? Ry’n ni’n gwybod, efallai, nad fel yna y digwyddodd pethau ond, am eiliad, mewn modd digon cyfrin, mae rhywun yn gallu bod yn gellweirus a dylanwadu ar ymennydd y gwyliwr. A thrwy hynny helpu pobl – dyna’r gobaith, beth bynnag – i weld perthnasedd cyfoes y gwaith.


Cyfweliad gan Owen Martell.

Lluniau: Ymarferion Macbeth (Ffion Dafis, Richard Lynch a Gareth John Bale) gan Warren Orchard, gyda chaniatâd caredig Theatr Genedlaethol Cymru.

Cyflwynir Macbeth yng nghastell Caerffili rhwng 7 a 18 Chwefror 2017.

Darllediad byw ar nos Fawrth, 14 Chwefror, am 7.15yh, yn y canolfannau canlynol:

Chapter, Caerdydd, Pontio, Bangor, Galeri Caernarfon, Theatr Colwyn, Bae Colwyn, Theatr y Torch, Aberdaugleddau, Theatr Glan-yr-afon, Casnewydd, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe a Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Ail-ddangosiadau gydag is-deitlau Saesneg:

28 Chwefror 2017: Theatr Colwyn (1.30yp), Neuadd Dwyfor (1.15yp)

1 Mawrth 2017: Galeri Caernarfon (1yp), Canolfan Gelfyddydau MEMO, Y Barri (7yh)

3 Mawrth 2017: Theatr Clwyd (4yp), Pontio (8.15yh)

28 Mawrth 2017: CellB, Blaenau Ffestiniog (7.30yh), Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (10yb)

30 Mawrth 2017: Theatr Glan yr Afon, Casnewydd (amser i’w gadarnhau)

19 Ebrill 2017: Theatr Mwldan, Aberteifi (7.30yh)

23 Ebrill 2017: Chapter, Caerdydd (1.30yp), Theatr Ardudwy, Harlech (3pm)


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Theatr

 


Ydy hyn yn digwydd go iawn, rwan? O flaen fy llygaid, yn y cyd-destun hwn?

Dyddiad cyhoeddi: 07·02·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…