Cyfweld

Haenau yn nhirwedd hanes

Holi Mary Lloyd Jones


Esyllt Angharad Lewis

Amser darllen: 8 munud

31·10·2018

Nant Gwrtheyrn II, 2018; cyfryngau cymysg, 20cm x 25cm

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, Rajasthan, yr Eidal, Catalwnia, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy, Ynys Môn hyd 3 Tachwedd 2018. Yn gynharach eleni, bu Esyllt Angharad Lewis yn ei holi am ei gwaith. 

Ydych chi’n gyfarwydd â J R Jones, yr athronydd o’r 60au, a gafodd ddylanwad mawr ar Gymdeithas yr Iaith? Yn ei ysgrif fwyaf adnabyddus, ‘Prydeindod’, mae’n trafod ei gysyniad o gydymdreiddiad tir ac iaith; bod yr iaith Gymraeg a thir Cymru, dros gyfnod estynedig, yn mynd i mewn i’w gilydd fel petai, yn cyd-blethu, yn dod yn rhan o’i gilydd. Hynny yw, pan gollir enwau llefydd, mae’r tir yn cael ei golli hefyd. Dwi wedi bod yn meddwl am y cysyniad hwn yng nghyd-destun eich gwaith oherwydd mae hanes, olion, yn bresennol iawn yn eich darluniau.

Dydw i heb ddarllen ysgrif J R Jones eto, rhaid cyfaddef. Mae’n bryd i mi wneud! Yn fy ngwaith celf, yr hyn rwy'n ceisio ei ddatblygu a'i gyfleu yw haenau, ac nid dim ond er mwyn dangos y tirwedd fel ry’n ni’n ei weld e. Does dim diddordeb gen i mewn ailadrodd yr hyn mae pobl eisoes yn ei weld, yr hyn sydd wedi ei wneud gan eraill yn barod. Ceisio rhoi golwg newydd ar bethau sydd yn bwysig i fi.

Mae creu gwaith celf yn gyfle i amlygu ein hanes. Dyna'r rheswm rwy wedi dechrau cynnwys barddoniaeth, a geiriau pobl eraill hefyd, yn fy ngwaith – er mwyn dangos mai Cymraes ydw i, bod yr iaith Gymraeg yn wahanol i Saesneg. Er enghraifft, dyfais Iolo Morganwg, Coelbren y Beirdd. Rwy’n hoff o siapiau’r llythrennau hyn; maen nhw'n f’atgoffa o adfeilion. Yn f'ymdrech i geisio cyrraedd at y gwreiddiau, fel petai, dyna'r elfennau rwy'n eu defnyddio, er mwyn creu cysylltiadau gyda’n hanes hir – ry'n ni yma ers cyn y llwythi eraill – a dyna pam rwy’n hoffi marciau gwyddor gynnar yr Ogham, a’r spirals ... 

Pam tirluniau? Beth sy’n eich denu chi i baentio tirlun, neu’r profiad o fod mewn tirlun?

Rwy’n enedigol o Bontarfynach, lle ceir rhaeadr a chymoedd dwfn iawn, ac mae’r cwbl ar lechwedd. Rwy’n teimlo’n anniddig pan fydda' i mewn tirwedd fflat, a dweud y gwir; mae fel petai angen arna i edrych ar rywbeth. Digon posib bod y profiad o dreulio fy mlynyddoedd cynnar mas yn y wlad wedi cael dylanwad; mae pob dydd yn wahanol yno – y tywydd, y tymhorau a’r lliwiau. Ac mae lliw yn bwysig iawn i fi. Yn raddol, wrth ddod i ddeall mwy am liw, rwy’n teimlo’n gynyddol mai trwy gyfrwng lliw y galla' i greu rhywbeth newydd, trwy’r ymwneud rhwng un lliw a’r llall. Bron na allech chi ddweud bod modd clywed lliwiau yn ymwneud â’i gilydd. Ac nid gor-ddweud yw hynny achos rwy’n grediniol bod perthynas ddofn rhwng cerddoriaeth a lliw. Mae Paul Klee yn un o'r artistiaid sydd wedi trafod y berthynas arbennig hon. O ran barddoniaeth Gymraeg a’r traddodiad, yr hyn mae Emyr Humphreys yn galw’n ‘Draddodiad Taliesin’, mae'n gyfoeth – ac mewn ffordd weledol rwy’n gallu ymateb i'r cyfoeth hwn.

Mae’r traddodiad barddol yn mynd yn ôl ymhell. Ai ceisio creu rhywbeth cyfoes, gweledol sy’n cynrychioli’r traddodiad yr ydych chi?

Yn hollol. Dwi wedi bod yn lwcus yn cael cynnig arddangosfa mewn gofod sylweddol mwy neu lai bob degawd ac mae hynny wedi rhoi rhyddid i fi wrth greu. Y peth diwethaf ar fy meddwl i yw, ‘Ydy hwn yn mynd i werthu?’. Y broses sydd o ddiddordeb i fi. Mi wnes i astudio Cymraeg yn yr ysgol. Yn y chweched dosbarth ro’n i’n gorfod astudio Hen Gymraeg ac mae gyda fi ryw syniad ynglŷn â’r gwahanol fathau o gynghanedd, a’r patrwm rhwng y cytseiniaid a’r odlau, y rhythm. Rwy wedi gwneud un llun mawr yn defnyddio llinellau o gynghanedd a’i drawsnewid e. Galla' i weld y posibiliadau, jyst dechrau ydw i mewn ffordd, wrth geisio creu pont rhwng y traddodiad barddol, rhwng geiriau a sŵn geiriau a dimensiwn arall, gweledol.

Ry’ch chi’n sôn bod y lliwiau chi’n eu defnyddio fel cerddoriaeth... mae’r gynghanedd mewn ffordd fel cerddoriaeth on’d yw e?

Maen nhw’n dweud am y beirdd eu bod nhw’n canu, ac mae David Jones, ac Ifor Williams oedd yn ysgolor, yn sôn bod y beirdd cynta’ yn Gymraeg yn cyfeirio at eu hunain fel ‘carpenters of song’. Rwy’n hoff iawn o’r gair yna: ‘seiri’, seiri caneuon. Rwy’n meddwl bod yr holl fusnes o gael celf i ffitio efo’i gilydd, ma’ fe’r un fath â gwaith coed mewn ffordd. Cael pethau i ffitio efo’i gilydd, dyna beth rwy’n ceisio ei wneud gyda’r lluniau, a hefyd creu rhywbeth sydd yn gweithio mewn modd nid annhebyg i gerddoriaeth. Y sŵn, dyna’r peth.

Chi’n sôn am liw fel rhyw fath o arf, bod modd defnyddio lliw mewn ffordd newydd.

Rwy wedi bod yn darllen yn ddiweddar am y ffordd ry’n ni’n edrych ac yn ‘gweld’ pethau. Dydyn ni ddim yn canolbwyntio cymaint ag y gallen ni ar ‘weld’, ac mae rhai yn dadlau bod mwy o liwiau yn bodoli mewn gwirionedd. Gall fod iaith gyfan yn ymwneud â lliw nad ydym yn ymwybodol ohono. Yn yr ugain mlynedd diwethaf, dyw pobl ddim wedi bod â chymaint o ddiddordeb mewn paentio, ond rwy’n credu os ydych chi am fod yn gywrain yn eich gwaith a chyfleu rhywbeth gweledol yn fanwl iawn, mai dim ond trwy baent y gallwch chi wneud hynny. Ond nawr yn y colegau celf maen nhw’n dweud, ‘Painting is old-fashioned!’. Wel, dwi ddim yn cyd-fynd o gwbl, ac rwy’n credu bod e’n mynd i ddod yn ôl.

Cyfrwng yw paent i fynegi rhywbeth, felly sut mae hynny’n gallu bod yn hen ffasiwn?

Yn union. Rwy’n dechrau fel arfer gydag astudiaethau llai o faint. Rwy wedi bod yn edrych ar fapiau, a defnyddio rhannau o fapiau yn fy ngwaith hefyd. Wrth edrych ar fap chi’n cael gwedd arall ar yr hyn rydych chi’n ei weld. Ac wedyn, rwy’n mynd ati i geisio rhoi un peth ar ben y llall. Pan rwy’n paentio, yn canolbwyntio ar y dirwedd, mae e'n brofiad mor rhyfeddol. Os rwy’n teimlo’n ddiflas, rwy'n gallu mynd mas ac edrych ar y dirwedd, ac ry’n ni’n lwcus fan hyn achos mae cymaint o amrywiaeth yn nhirwedd Cymru.

Ydych chi’n credu bod byw yn y wlad yn bwysig i chi er mwyn creu?

O, ydy. Rwy’n byw mewn tref nawr, ond eto i gyd rwy’n gallu mynd mas a mynd i’r llefydd hynny rwy’n gyfarwydd â nhw. I odre Pumlumon, er enghraifft, ac i'r hen weithfeydd mwyn. Rwy wedi gwneud rhai pethau eithaf gwleidyddol yn f'amser: des i ar draws map oedd yn dangos ‘Returns’ i’r gwahanol weithfeydd hyn yng Ngheredigion, rhai yn sylweddol, rhai yn fach. Tua 1850 oedd y dyddiad. Mae'n debyg eu bod nhw wedi gwneud trosiant o filiwn a hanner bryd hynny! Ond roedd y gweithwyr yn cael cyn lleied o arian fel eu bod nhw’n gorfod cadw da a gwneud y gwair. Roedd bywyd yn galed ofnadwy. Ac eto, roedd yr holl arian yma’n cael ei greu ar sail eu gwaith. Roedd rhywun o’r enw Middleton yn berchen ar nifer fawr ohonyn nhw, ac roedd e’n defnyddio’r arian i fynd â mwy o ddŵr i ardal yn Llundain, ‘The New River’ neu rywbeth. Hefyd, roedd e'n rhoi arian i dalu am ddillad milwyr. Ond doedd e ddim yn gwella’r ffyrdd, doedd e ddim yn gwella’r tai. A dyna beth yw gwladychu: mynd mewn, tynnu stwff mas, a mynd ag e i rywle arall. Ac ry'n ni wedi bod yn rhan o hynna.

Un o’r pethau wnes i ar sail yr hanes hwn oedd darn mawr yn defnyddio tecstilau, cotwm a dyes, yn cynnwys llawer o enwau’r gweithfeydd mwyn, a lliwiau’n ymwneud â’r llefydd hyn. ‘Beth yw e?’, mae pobl yn gofyn. Wel dyna fe, dyna’r arian oedd yn dod mas o Geredigion. Rwy’n ceisio gwneud cysylltiad gyda thraddodiad gwaith merched hefyd achos er nad oedd celf yn bwysig yn y cyd-destun hwn, eto i gyd roedd merched yn creu gwaith ffantastig, yn ailgylchu a chreu clytwaith. Mae’n amserol.

Ar nodyn arall, beth y’ch chi’n meddwl o’r byd celf yng Nghymru heddiw?

Wel, alla’ i ddweud wrthoch chi! Yr hyn sydd ei angen yw oriel genedlaethol. Roedd Tom Ellis, sydd â’i gerflun ym mhen draw'r cwad fan hyn yn yr Hen Goleg, yn dweud bod angen sefydliadau cenedlaethol ar Gymru; roedd hyn yn ôl yn 1897. Roedd e’n galw am amgueddfa, llyfrgell ac oriel genedlaethol. Wel, rydyn ni wedi cael llyfrgell ac amgueddfa, ond dydyn ni ddim wedi cael oriel genedlaethol. Rwy’n credu bod posibiliadau mawr i adeilad yr Hen Goleg oherwydd y bensaernïaeth arbennig ond hefyd y lleoliad. Ac mae dros ddau gant o stafelloedd yma. Cafwyd astudiaeth dichonoldeb ac un o’r pethau a ddywedwyd oedd y byddai modd cael dau lawr o orielau. Dyna beth hoffwn i ei weld: gofod i arddangos celf o’r safon uchaf, o Gymru. A bod cyfle hefyd i letya arddangosfeydd rhyngwladol, bod elfennau o'r hyn sydd yn cael ei arddangos mewn llefydd fel y Tate, er enghraifft, yn gallu teithio yma. Mae gyda ni artistiaid da dros ben, ond mae eu gwaith nhw yn digwydd gan mwyaf o’r golwg. Mae digon o le fan hyn i weithdai hefyd. Ac mae ymwelwyr yn dwli ar yr adeilad, mae’n rhyfeddol.

Y tueddiad yw i bopeth fynd i Gaerdydd. Ond wedyn, cafodd Yr Hen Lyfrgell ar yr Aes ei gwneud yn Ganolfan Diwylliant Gweledol a fuodd hi ’mond ar agor am flwyddyn. Mae’r hyn ddywedodd Raymond Williams am gynulleidfa yn bwysig dros ben, cynulleidfa sydd ei hangen. A chefnogaeth.

Ydych chi felly’n teimlo bod diffyg cynulleidfa i gelf yng Nghymru ar hyn o bryd?

Does dim cefnogaeth o gymharu â gwledydd eraill cyfagos. Mae’r Alban wedi bod yn fwy sefydlog o ran ei horielau, am resymau hanesyddol. Cafodd Cymru ei gwladychu ynghynt, wrth gwrs. Rwy wedi bod yn Iwerddon sawl gwaith. Yn Cork, mae’r adran gelf yn gyfoethog dros ben. Does dim byd tebyg i hynny fan hyn yn Aberystwyth. Ond yr hyn sy’n fy nghalonogi i yw bod pobl ifanc yn awyddus, maen nhw'n dod i arddangosfeydd, yn cysylltu â fi. Mae’n werth cofio bod pethau’n gallu gwella os y’ch chi’n dal ati.



Mae Esyllt Angharad Lewis yn hoffi creu celf a thrafod celf, ac ystyried ei bwysigrwydd yn ein bywydau bob dydd, i'n cymunedau, i'n dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'n cyfieithu yng Nghaerdydd, ac yn arlunio a sgwennu'n frwd yn ei amser hamdden. Hoffai ddilyn gyrfa yn y byd celf yng Nghymru.

instagram.com/darlun_y_dydd/
@EsylltLewis

'Cynefin', arddangosfa o waith Mary Lloyd Jones, 13 Hydref-3 Tachwedd 2018 yn Oriel Tegfryn, Ffordd Cadnant, Porthaethwy, Ynys Môn. Mae’r Oriel ar agor ar ddydd Llun 10-5, a dydd Mercher i ddydd Sadwrn 10-5. Ar ddydd Sul, mae'r oriel yn agored 11-4.30. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 31·10·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Pan symudais, dros dro, i ogledd-orllewin Cymru i fyw mewn cymuned Gymraeg lle mae’r iaith i’w chlywed o hyd yn hollol naturiol – i’r ‘Fro Gymraeg’, beth bynnag yw honno – darganfûm rywbeth annisgwyl: fy mod ers blynyddoedd wedi bod yn atal a chladdu fy nghefndir, sef y Cymoedd.…

Adolygu


Rhys Watkin

Cyflwynwyd cyngerdd o weithiau gan Ralph Vaughan Williams, Lili Boulanger, a’r Gymraes Rhian Samuel gan Gerddorfa Symffoni’r Coleg Cerdd a Drama fis Tachwedd, ar y thema ‘tirluniau’. Roedd cysgod Sul y Cofio a’r Rhyfel Mawr yn drwm ar y rhaglen, a gynhwysai The Lark Ascending (1914) a…

Dadansoddi


Qing Niao

Y diwrnod hwnnw, mi es i fy hen ysgol uwchradd. Dilynais yr un llwybr ag yr arferwn droedio’n ystod fy nhair blynedd yn ddisgybl yno. Bob haf, mae’r sefydliad hwn yn agored am fis ychwanegol ar gyfer y disgyblion sydd ar fin dechrau ar eu…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…