Karl Ove Knausgård


My Struggle

Vintage, Cyfrolau 1-5, £9.99 yr un, 2013-2016

Holi Karl Ove Knausgård
Cyfweld

Holi Karl Ove Knausgård


O’r Pedwar Gwynt

Amser darllen: 10 munud

29·04·2017

Un o'r pethau wnaeth fy nharo'n fwy na dim am Min Kamp ('Fy Mrwydr') ydi'r modd y mae'r nofel fel petai'n cynnig golwg optimistaidd i ni ar amser – fel modd o gysylltu, o greu; amser yn yr ystyr materol, amser i'w fyseddu ... yn hytrach na'r cysyniad mwy cyffredin o amser fel teclyn i fesur profiadau a bywydau yn ei erbyn. A ffordd o osgoi, efallai, y colledion a gysylltir ag amser unionlin, a'r besimistiaeth naturiol sydd ynghlwm wrth hynny ...

Peidio â meddwl oedd y bwriad wrth ysgrifennu 'Fy Mrwydr'. Roedd yn ymgais i ddod o hyd i ryw ofod lle roedd modd i'r weithred o ysgrifennu ddarganfod ei hynt ei hun, a hynny heb gynllun, heb strwythur penodol i rychwantu'r cyfan fel cyfanwaith. Hynny ydi, parodrwydd i fod yn y foment wrth ysgrifennu, yn agored i beth bynnag a ddeuai yn ei sgil – boed yn atgof neu'n fyfyrdod, yn ddisgrifiad o ystafell neu emosiwn. Felly yn yr ystyr hwnnw, nid oedd gen i gysyniad penodol o amser tra oeddwn i’n ysgrifennu'r gwaith. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, bod y nofel yn ddifeddwl yn hynny o beth ond, yn hytrach, bod y persbectif ar amser yn cael ei fynegi mewn amrywiol ffyrdd, a'i fod y tu hwnt i fy rheolaeth, ar ryw olwg. Trefn ddigon syml oedd gen i wrth ddechrau ar y nofel: y deunydd crai oedd yr hyn bynnag a oedd yn fy meddwl ar y pryd. Llyfr am fywyd sy'n cael ei gofio ydi 'Fy Mrwydr', ac mae'r weithred o gofio'n rhan hanfodol, yn rhan fywiol o'r prosiect. Wn i ddim beth yw amser; mae'n deffro fy chwilfrydedd yn barhaus, a dweud y gwir, yn achos penbleth. A pho fwyaf y darllenaf am y cysyniad o amser, mwya’ i gyd yr wyf fel petawn i'n colli gafael arno.

A oes yna ymgais hefyd yn eich gwaith i geisio rhyddhau gwrthrychau o'u categorïau, fel petai, wrth ysgrifennu, er mwyn ceisio gweld eu materoldeb o'r newydd?

Dw i o'r farn bod pawb sydd yn ysgrifennu, yn paentio neu’n gwneud ffilmiau yn ceisio cyrraedd at y byd fel y mae, yn ei holl fateroldeb, y tu hwnt i'n categorïau – categorïau sydd yn cadarnhau'r byd ac yn ein gwneud yn ddall iddo. Ymdrechion yw’r gweithgareddau hyn i wneud pethau'n ddieithr, fel y dywedai’r Ffurfiolwyr Rwsiaidd. 'Make it new,' meddai Ezra Pound a'r modernwyr, wedyn, yn ei sgil. 'Komm, ins Offene, Freund!' ('Tyrd i ŵydd y byd, gyfaill!') oedd geiriau’r bardd Almaenaidd Hölderlin, ac mae’r ymadrodd hwnnw yn gweu fel mantra trwy nifer o fy llyfrau. Menter naïf yw hon, wrth gwrs, am ei bod, hyd y gwelaf, yn amhosib mynd y tu hwnt [i syniad o gategoreiddio], gan mai trwy gyfrwng iaith a chysyniadau yr ydym yn gweld y byd. Does dim modd osgoi hynny, ond mae'r ffyrdd yr ydym yn mynd ati i ysgogi'r dieithrio hwn yn newid, neu'n gallu cael eu newid o leiaf.

Dw i’n ysgrifennu llyfr ar hyn o bryd am yr artist Edvard Munch, am y modd y brwydrodd i dorri trwy hualau'r iaith weledol – yr arddull naturiolaidd – a ddefnyddid ar y pryd i ddarlunio’r byd. Cafodd Munch brofiadau nad oedd modd i'r iaith weledol honno, fel yr oedd, eu mynegi, ac fe gafodd ei orfodi i greu iaith newydd – a hynny mewn modd treisgar, bron. Dyna, ar eu gorau, yr hyn y mae celfyddyd a llenyddiaeth yn gallu ei wneud. Nid wyf yn llwyddo i wneud hynny yn fy ngwaith fy hun, yn amlwg, ond dw i’n gwneud fy ngorau i geisio gweld y gwrthrychau, yr hyn sydd o fy nghwmpas, fel y maent yn ymddangos, yn eu rhinwedd eu hunain. Mae'r pedair cyfrol olaf a ysgrifennais yn sôn yn bennaf am wrthrychau bob dydd – ffurf a ysbrydolwyd gan Francis Ponge – a'r ymgais i wneud gwrthrychau yn weledol trwy gyfrwng y weithred o ysgrifennu, nid yn annhebyg i'r modd y mae artist yn dod â gwrthrych i fodolaeth wrth ei baentio.

Ydi hyn yn un ffordd o greu gwrthbwynt i ideoleg?

Ydi. Mae'n fodd o ddatod y strwythurau mwy, nad ydynt, wrth gwrs, yn bodoli ynddynt eu hunain. Mewn ffordd, mae'r strwythurau hyn fel ffuglen; ffuglen bur yw ideolegau. A’r holl bethau hynny sydd yn y tir llwyd hwnnw rhwng pethau – y manylion, yr elfennau dibwys, y pethau hynny sydd ddim cweit yn gwneud synnwyr – sydd yn hoelio fy sylw. Dyna lle mae fy niddordeb i. Mae hunaniaeth yn strwythur arall nad yw'n bodoli ynddo’i hun – mae'n ffuglennol – ac mae amser a hanes yn enghreifftiau o strwythurau tebyg. Dw i wrth fy modd ag Ulysses, er enghraifft, a hynny oherwydd yr hyn mae'n ei wneud i amser a hanes a hunaniaeth; nid yw’n caniatáu arch-strwythur o unrhyw fath, dim ond y darnau bychain hynny yr ydym yn byw arnynt ac yn eu plith.

Rydych wedi dweud yn y gorffennol bod cwestiynau sy'n ymwneud â thegwch a chyfiawnder wedi disodli cwestiynau am waredigaeth yr enaid yn ein cymdeithas orllewinol. Ai dimensiwn ceidwadol neu ddimensiwn radical ar eich prosiect artistig ydi hyn?

Cynneddf geidwadol ddofn ydi hon, ond nid mewn unrhyw ystyr gwleidyddol.

Karl Ove Knausgård

Beth am y profiad o Wirionedd? Ai Gwirionedd mewn llenyddiaeth ydi'r hyn sy'n torri drwodd ac yn gwrthod cael ei ffrwyno? Ai dyna sy'n digwydd, efallai, yn yr olygfa syfrdanol honno lle mae'r adroddwr yn dechrau crio'n ddirybudd, wrth droi tudalennau llyfr am baentiadau Constable, pan mae'n gweld 'braslun mewn olew o gymylau'n ymffurfio ar 6 Medi, 1822'? A oes yna ddimensiwn crefyddol i’r olygfa?

Wn i ddim beth mae'r olygfa'n ei ‘gynrychioli’, ond yn fy meddwl i mae'n syml. Mae'r olygfa’n mynegi ymwybyddiaeth o fodolaeth, o fodoli. Ceir elfen o anhunanoldeb yn hynny, sydd hefyd, dw i’n tybio, yn nodweddu profiadau crefyddol.

Mae'r dynfa sydd gen i at gelfyddyd weledol yn ddirgelwch i mi. Wn i ddim pam fy mod yn teimlo mor gryf ac mor angerddol am weithiau celf. Gall bywyd llonydd o'r ail ganrif ar bymtheg – gwydr o ddŵr ac afal, er enghraifft – fod yn gyfan gwbl rymus, a chael effaith anorchfygol, bron, arnaf. Pam hynny? Nid yw gwydr o ddŵr ac afal ar y bwrdd o fy mlaen yn cael yr un effaith. Ysgrifennais ysgrif hir yng nghyfrol chwech y nofel am hyn, am yr aruchel ac am y profiad y mae celfyddyd yn medru ei gynnig – sydd bron yn brofiad crefyddol – ond ni fedraf gofio dim o'r hyn a ysgrifennais erbyn hyn. Byddaf yn anghofio bob tro. ’Fallai fod hynny oherwydd nad wyf yn ymwybodol iawn o'r hyn rwyf yn ei wneud wrth ysgrifennu, oherwydd mae'n ffordd arall o feddwl, nid o'r top i lawr, ond fel proses o ddod-i-fodolaeth. Mae hynny'n wahanol, wrth gwrs, i'r cysyniad o bresenoldeb.

Rydych yn ymdrin â gwaith a dylanwad Paul Celan yn eich chweched gyfrol – cyfrol olaf 'Fy Mrwydr'. Beth yw arwyddocâd Celan?

Ceir ysgrif hir am un o'i gerddi hwyr yn y chweched gyfrol. Roedd fy niddordeb mwyaf yn ei ddefnydd o iaith. Yn Almaeneg, wrth gwrs, yr ysgrifennai Celan, a hynny'n fuan ar ôl y rhyfel. Ar lefel mwy arwynebol, mae gen i ddiddordeb mawr yn y ffordd yr aeth ati i geisio rhyddhau iaith o hualau ideoleg ('pridd', 'gwaed', 'cartref' ...), ond yn bwysicach na hynny mae gen i ddiddordeb yn y cwestiwn pam nad oedd yn bosib cynnal ffydd mewn iaith ar ôl dinistr yr Ail Ryfel Byd, a'r modd y mae Celan yn datgysylltu iaith. Mae'n mynd ati i greu cysylltiadau newydd trwy gyfrwng iaith, bron fel petai'r geiriau’n wrthrychau unigol, neilltuol, a bron fel petaent heb unrhyw gysylltiad â geiriau eraill. Trwy hynny, mae'n ymgyrraedd at ddibyn y byd, a hynny oddi mewn i'r byd, lle gellir gweld y byd heb iaith, a'r pethau hynny nad yw iaith yn medru gafael ynddynt – diddymdra, marwolaeth, y gorffennol. Mae'n farddoniaeth dywyll iawn, ond nid yw'n ddinistriol – i'r gwrthwyneb.

Gofynnodd Stendhal, 'Pa lygad all weled ei hun?' Hynny ydi, mae archwilio'r hunan fel petai'n esgor ar hunanddieithriad, fel petai canolbwyntio'n ormodol ar yr hunan yn arwain at ei ffosileiddio, a'r ffosileiddio hwnnw'n golygu fod yr hunan wedi ei drawsnewid. Rydych chithau wedi disgrifio sut y mae'r profiad o ddarllen Dostoiefsci yn gallu ysgogi ymdeimlad o ddiflannu ynoch. Ai dyna amcan llenyddiaeth? Ac a yw 'Fy Mrwydr' yn ymdrech i gyrraedd cyflwr o anhunanoldeb, er gwaetha’r trafod a fu yn y wasg a'r cyfryngau sy’n dadlau’r gwrthwyneb i hynny?

Ar ei ben. Er, nid dyna oedd fy mwriad gwreiddiol. Dw i bob amser wedi defnyddio llenyddiaeth fel modd o ddiflannu oddi wrth fy hun – wrth ddarllen ac, ymhen amser, wrth ysgrifennu. Ond roeddwn am roi diwedd ar y duedd honno i ddianc; roeddwn am ddelio gyda'r byd go iawn, a gyda fy hunan yn y byd, yn hytrach na dianc oddi wrtho. Dyna un o'r rhesymau pam yr oedd yn rhaid i mi ysgrifennu 'Fy Mrwydr'. Ond wedyn sylweddolais fod yr anhunanoldeb hwn ymhlyg yn y weithred o ysgrifennu, a bod y cysyniad a oedd gen i ohonof fi fy hun – fy hunaniaeth – yn diflannu'n llwyr wrth i mi ysgrifennu amdanaf fy hun.

Mae rhai wedi eich cyhuddo o ysgrifennu'n ystrydebol. Beth yw'r berthynas rhwng gwirionedd ac ystrydebau, neu clichés? A yw'n rhywbeth i'w wneud â diffyg sicrwydd ynghylch lle y gwnaiff ystyr gronni? Ai mynegiant o ffydd ydyw – ac felly, arwydd o amynedd, ar ryw olwg – o ganolbwyntio'r meddwl ar yr hyn sy'n digwydd nid dim ond wrth gyrraedd copa'r mynydd, a'r uchelfannau, ond hefyd wrth groesi'r gwastadeddau, lle nad oes dim byd eithriadol fel petai'n digwydd? Ydi hynny'n tystio i'r ffaith eich bod yn barod i gymryd risg fel awdur, eich bod yn barod i adael i bethau ddigwydd, trwy roi sylw iddynt, heb geisio achub y blaen arnynt?

Pan oeddwn yn f'ugeiniau, darllenais ysgrif gan Gilles Deleuze lle roedd yn dweud mai proses o ddod-i-fodolaeth yw ysgrifennu – nid mater o roi ffurf sy'n bodoli’n barod ar ddeunydd a brofwyd, ond mater o ddod-i-fodolaeth. Mae'r byd yn dod-i-fodolaeth, ond nid ydym yn cael profiad uniongyrchol o hynny, wrth gwrs, oherwydd mae ein profiad o'r byd yn cael ei gyfryngu gan y categorïau a'r ffurfiau hynny sydd gennym. Felly mae celfyddyd yn closio at fywyd nid trwy ‘gynrychioli bywyd’ ond trwy syniad o ysgrifennu neu greu fel modd o ddod-i-fodolaeth. Deallais yn syth yr hyn a oedd gan Deleuze yn yr ysgrif honno, ond mi fu'n flynyddoedd lawer cyn i mi brofi hynny, cyn i mi gael y profiad o weld rhywbeth na fedrwn ei hawlio fel tybiaeth, myfyrdod neu 'ffordd o weld' a berthynai ‘i mi’ ar y dudalen o fy mlaen. Does gan hyn ddim oll i'w wneud â safon – dw i’n gallu ysgrifennu mewn modd digon cyffredin ac yn llawn ystrydebau; mae i'w wneud, yn hytrach, â gadael i bethau ddigwydd, â gwrando ar yr hyn sy'n digwydd, a'i ddilyn, heb ei reoli.

Pa fath o ymwneud sydd yna, felly, rhwng y broses o ysgrifennu a'r ymgais i reoli deunydd, i orfodi rheolaeth dros brofiadau? Beth yw perthynas hynny efo'r ffydd sydd yn amlwg yn 'Fy Mrwydr' na wnaiff cuddio'r hyn sy'n codi cywilydd fyth arwain at unrhyw beth o werth mewn celfyddyd?

Nid oes gan ysgrifennu ddim oll i'w wneud â rheolaeth yn f'achos i. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Mecanwaith yw cywilydd sy'n rheoli'r unigolyn mewn cymdeithas – daw cywilydd wrth dorri dros y tresi, pan fyddwn yn gwneud rhywbeth na ddylem ei wneud yn llygad yr arall; mae'r llygad hon wedi ei mewnoli. Mae'r weithred o ysgrifennu, wrth gwrs, yn gallu esgor ar deimlad o gywilydd dybryd, ac felly mae'n rhy hawdd peidio â chymryd risg, peidio â thramgwyddo, a chwarae'n saff. Hyd yn oed os mentrwn wneud, ac arbrofi, bron nad ydym wedi ein rhewi gan gywilydd. Dyna oedd y frwydr wrth ysgrifennu 'Fy Mrwydr', sef dygymod â'r cywilydd. Felly roedd gallu ysgrifennu yn gofyn am greu gofod heb lygaid, lle nad oedd neb yn edrych i mewn. Dan yr amgylchiadau hynny roedd yn bosib i mi dorri dros y tresi wrth ysgrifennu, roedd yn bosib i mi ddisgrifio fy hun yn gwneud pethau hurt na fyddai’n fy ngosod mewn golau ffafriol o gwbl. Roedd hefyd yn fy ngalluogi i ysgrifennu am adegau cywilyddus iawn yn fy mywyd, oherwydd yno, yn y gofod penodol hwnnw, roedd hynny'n dderbyniol, nid oedd o bwys. Ond yr eiliad y rhoddais y gorau i ysgrifennu, cododd yr ymdeimlad o gywilydd ynof eto. Ac mae'n dal yno – nid wyf yn gallu darllen y llyfrau heb deimlo'n ofnadwy amdanynt.

Dw i’n arbennig o hoff o'r hyn a ddywedoch unwaith yn rhywle – mai'r hyn sy'n gyffredin rhwng pob awdur da ydi'r ffaith nad ydynt yn gwybod sut i ysgrifennu ...

Yn union. Os mai dod-i-fodolaeth yw ysgrifennu, nid oes yna ffordd o wybod sut i ysgrifennu.


Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands, Cyd-olygydd O'r Pedwar Gwynt.

Llun o Karl Ove Knausgård gan André Løyning.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Nid oes gan ysgrifennu ddim oll i’w wneud â rheolaeth yn f’achos i. I’r gwrthwyneb yn llwyr. Mecanwaith yw cywilydd sy’n rheoli’r unigolyn mewn cymdeithas

Dyddiad cyhoeddi: 29·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…