Cyfweld

Sgwrsio gydag Emyr Humphreys


O’r Pedwar Gwynt

Amser darllen: 12 munud

25·11·2017

Emyr Humphreys (1919- ) yw un o ffigurau diwylliannol mwyaf arwyddocaol Cymru'r ugeinfed ganrif. Meddai: 'Ysgrifennaf i gadw'r blaidd o'r drws; i ddiddanu, i rannu gwybodaeth, a phwy a ŵyr, hyd yn oed i addysgu yn nhraddodiad gorau darlledu cyhoeddus; i fynegi rhywbeth nas mynegwyd o'r blaen; i archwilio dirgelwch canfyddiad dyn o'i gyd-ddyn; i blesio fy hun.' Bu O'r Pedwar Gwynt draw i sgwrsio ag ef ar yr aelwyd, ar Ynys Môn.

Dwi'n deall mai Tolstoi ydi un o'ch hoff awduron?

Ia, fo oedd f'arwr, yn sicr pan oeddwn yn ifanc. Ond erbyn hyn mae gen i un arall: Henry James. Tolstoi ddaeth gyntaf, mae hynny'n wir, ond ar wahân i Anna Karenina, a'r llall sy'n enwog gynno fo, The Death of Ivan Ilyich ... Gadewch i mi roi o fel hyn: mae Tolstoi'n llwyddo i ddinistrio hanfod y nofel yn fy meddwl i. Rhaid i mi ddweud nad ydi 'Rhyfel a Heddwch', er enghraifft, yn nofel.

Beth yn union sy'n gafael ynddoch yng ngwaith Henry James?

Wel, dwi newydd ailddarllen Portrait of a Lady a dwi'n meddwl bod honno'n gampwaith. Mae o'n medru cyfleu amrywiol agweddau ar gymeriad, y gwahanol haenau sy'n ffurfio cymeriad dyn – a chyfleu sut mae'r haenau hyn yn gweithio trwy'i gilydd. Mae o'n llwyddo i wneud hynny'n rhwydd ofnadwy. Dwi wedi bod yn troi'n ôl hefyd yn ddiweddar at Far from the Madding Crowd. Dwi'n teimlo bod yr awdur, Hardy, yn or-areithiog; mae o'n siarad gormod! Ond wedi dweud hynny, mae o'n fardd, yn fardd da iawn. 

Ai'r apêl i chi yng ngwaith Tolstoi a Dostoiefsci ydi eu bod ill dau yn delio efo cwestiynau moesol sylfaenol, hynny ydi, y gwewyr o orfod dewis, sy'n amlwg yn rhan hanfodol o wneuthuriad a deinameg cymaint o'ch nofelau chithau – yn agos at eich calon, felly?

Ia, fel yn y nofel 'Yr Ynfytyn'!

Ydach chi'n teimlo bod yr angen i archwilio sut mae pobl yn ymateb i gwestiynau moesol yn fwy nag erioed heddiw – er bod cyd-destun arwynebol y cwestiynau, yn naturiol, wedi newid?

Ydi, mae'n argyfyngus, mi rydach chi'n hollol iawn. Yn fy marn i, y dewis moesol a sut mae cymeriadau'n dewis gweithredu ydi hanfod y nofel fel ffurf. Rydach chi'n gwneud i mi feddwl eto am John Gwilym Jones. Roeddwn i'n meddwl ei fod o'n llenor gwych. Ac mae ei ddramâu o'n reit wreiddiol. Mi oedd gan John bethau difyr i ddweud am y pwnc hwn hefyd. Ond tydi o ddim yn cael llawer o sylw yn Gymraeg rŵan, yn nac ydi?

Mi fydda i'n aml yn pendroni am hyn: fod y gwewyr yna o orfod dewis wedi mynd o'r golwg yn y llenyddiaeth gyfoes sydd ar gael i ni yn y Gorllewin – er bod mwy o ddewis ar gael i fwy o bobl nag erioed, ar un olwg, ac er bod y weithred leiaf â goblygiadau byd-eang, oherwydd y modd y mae'r byd wedi crebachu. Beth am lenyddiaeth Gymraeg heddiw?

Ar un olwg, mae'r byd wedi mynd mor ofnadwy o fawr, mae'n fwy nag y gall cymdeithas fach ymdopi ag o. Yng nghyd-destun twf dylanwad Tsieina ac India, mae Berlin a Llundain hyd yn oed yn ymddangos fel petaent yn crebachu. Ond wedi dweud hynny, mewn ffordd, dwi'n teimlo bod angen cofio bod yna gyfle rŵan hefyd, petasai'r Cymry'n ymwroli. Dwi'n dweud hynny achos dwin argyhoeddedig mai trwy gyfrwng y llais unigol yn y pen draw y mae'r gwirionedd yn dod – rywsut neu'i gilydd. Ac efallai, ar ryw ystyr, bod mwy o gyfle i hwnnw rŵan nag a fu ers dipyn go lew o amser. Yng nghyd-destun hanes fy mywyd i, y llais unigol oedd Saunders Lewis. Ar ddamwain y digwyddodd hynny.

Mae Saunders Lewis wedi bod yn gwmni i chi ar hyd y ffordd, reit o'r dechrau pan wnaethoch benderfynu trwytho'ch hun yn y diwylliant Cymraeg.

Do wir.

Fasech chi'n dweud mai un o'r pethau nodedig amdano fo ydi ei fod o'n gwrthod gwahaniaethu rhwng dewisiadau moesol a dewisiadau esthetig?

Baswn. Mi wnes i ddarllen llyfr Saesneg ganddo fo, A School of Welsh Augustans. A dyma fi'n dechrau meddwl, wel, diawcs mae'r boi yma, mae rhywbeth yn sbesial amdano fo, ac yn y cyfamser – dwi'n neidio rŵan, ond dwi wedi byw yn hen, yn do – mi es i weithio i'r byd teledu yn y BBC, a'r peth cyntaf wnes i oedd mynd i chwilio am Saunders er mwyn gweld fyddai modd darlledu ei waith, yn gyntaf ar y radio ac wedyn ar y teledu. Esther ydi'r ddrama sy'n aros yn y cof. Dwi'n dal i feddwl mai honno ydi'r un sy'n sefyll allan.

Emyr Humphreys ar yr aelwyd, 1972

Wrth edrych yn ôl, beth ydach chi'n teimlo oedd eich cymhelliad chi i sgwennu – reit ar y dechrau?

Wel, hogyn digon di-fflach oeddwn i yn yr ysgol tan i mi gyrraedd y chweched dosbarth. Ac wedi i mi fynd i'r coleg, mi ges i ryw hyder newydd yn sydyn – gormod efallai; o'r foment honno ymlaen mi o'n in 'gwybod bob dim'. Mi es i'n syth am Ezra Pound, 'y dyn sy'n gwbod dim dim' yntê, ac yna Saunders Lewis a T S Eliot. Dyna oedd y cyd-destun beth bynnag.

Y peth cyntaf wnes i sylweddoli wedyn oedd nad oeddwn i'n ddramodydd. Mi wnes i ymdrech i drio sgwennu drama – mae fy mab hynaf newydd gael hyd i'r llawysgrif, ac yn dweud nad ydi hi cynddrwg, ond mae'n echrydus. Y camgymeriad wnes i oedd methu sylweddoli ar y pryd, os ydach chi isio sgwennu drama, mae'n angenrheidiol bod gynnoch chi awydd mewnol i fod ar lwyfan. Tydi'r awydd hwnnw ddim gen i – neu efallai mai gormod o ofn sydd arna i. Yr unig beth dwi'n gallu ei wneud ydi dweud stori, fwy neu lai, ac mi roes i'r gyntaf ohonyn nhw yn anrheg briodas i Elinor, fy ngwraig, dwi'n meddwl. O fanna ymlaen, ar ôl priodi, o'n i'n mynd fel trên.

Mae un o'r cymeriadau sydd yn The Little Kingdom (1946) efo tueddiadau megalomanaidd, yn tydi. O ble ddaeth hynny?

O, mae'n rhaid i'r dewisiadau moesol fod yno. Ond pan o'n i'n sgwennu The Little Kingdom, mi oeddwn i'n fwriadol yn trio llunio arwr oedd yn diystyru cwestiynau moesol. Dwi'n meddwl mai'r nofel dwi fwyaf hoff ohoni o'u plith nhw i gyd ydi Outside the House of Baal (1965). Mae pobl wedi chwerthin ar ben y teitl, ond fedrwn i ddim meddwl am deitl arall. Mae'r prif gymeriad yn gweld pethau o'r tu allan rywsut, ac yn yr olygfa gyntaf mae o'n sbio drwy'r ffenest ar y byd, wrth siafio, ac yn gweld y dafarn. Mae hynny'n deillio o fy mhrofiadau i'n blentyn ym Mhrestatyn. Mi oedd yna dŷ – tŷ fy mherthnasau – ac yn y 50au mi godwyd tafarn yn ei ymyl.

Mae yna ryw amwyster o gylch y prif gymeriad.

Mi rydach chi'n iawn, a dyna un peth o'n i'n dueddol o sylwi arno fo erioed mewn pobl. Mewn rhyw ffordd od, ro'n i'n gryf fy sylwgarwch, yn medru gweld sawl ochr i gymeriad, i bobl mewn bywyd – ond yn dwp mewn ffyrdd eraill.

Mae hynna'n gwneud i mi feddwl am ddyfyniad gan un o'ch cymeriadau yn The Little Kingdom: ai dyfyniad o ysgrif gan Montaigne ydi o? Rhiannon sy'n dwued, dwi'n meddwl, 'We are, I know not how, double in ourselves so that what we believe we disbelieve.'

Montaigne, ia. Mae o'n wych, yn tydi.

Mae'r llinyn sy'n tynnu'ch gwaith chi ynghyd, ac sy'n apelio gryfaf ata i, wedi ei grynhoi rywsut gan y dyfyniad yna. Mae Montaigne yn mynd ymlaen i ddweud, yn tydi, na fedrwn ni wared ein hunain o'r hyn a gondemnir gennym.

Rydach chi'n sôn am Rhiannon ac am Montaigne: mi faswn i'n licio ychwanegu mai un peth pwysig i nofelydd gwrywaidd ydi deall merched achos does yna ddim gwaelod i ddyfnderoedd merched, mae o'n anhygoel. Mi fyddai'n anodd i nofelydd oroesi heb ferched yn ei waith. Meddyliwch am Tolstoi. Dwi'n siŵr i lawer iawn o bobl feddwl i mi wneud camgymeriad, ond mi wnes i gyfres gyfan am un ferch, Amy yn The Land of the Living (1971-1991), ac olrhain ei hanes o'r dechrau un, nes yr oedd yn barod i farw. Mae yna saith neu wyth o gyfrolau, a dwi'n falch iawn ohonyn nhw – mwy balch o dipyn na'r beirniaid.

Rydan ni'n medru olrhain ei datblygiad – a'i dirywiad – drwy'r cyfrolau, o fod wedi ei magu mewn amgylchiadau anodd i gael ei denu gan bethau materol bywyd.

Dwi'n meddwl bod rhaid bod yn uchelgeisiol, a'r hyn o'n i'n trio ei wneud oedd dilyn hanes bywyd merch o'r dechrau reit i'r diwedd. Dwi'n licio'r gwaith yna'n arw iawn, ond dwi ddim yn meddwl bod pawb; maen nhw'n meddwl i mi fynd ar i lawr ar ôl gwneud Outside the House of Baal.

Mae hanes Amy yn amlygu eto eich diddordeb mawr fel nofelydd yn y modd y mae ein gweithredoedd yn dadlennu natur ein moesoldeb. Mi rydach chi'n olrhain goblygiadau ei gweithredoedd hi ar ddatblygiad ystyr ei bywyd yn tydach.

Yn y pen draw, hanes merch hardd yn dirywio ydi hanes Amy, a sut mae cymeriad yn ymateb i hynny – henaint: does neb sy'n byw ddigon hir yn osgoi hwnnw.

Beth am y tensiwn rhwng ymwneud pobl mewn cymdeithas faterol a'u gallu i fod yn driw i werthoedd: sut mae rhywun fel chi rŵan yn edrych ar gymdeithas heddiw? Achos mi oedd y cwestiynau hyn eisoes yn codi ganrif yn ôl, ond heddiw mae'n waeth nag erioed, ydi hi ddim?

Dwi'm yn meddwl y byddwn i'n medru gwneud nofel rŵan hyd yn oed petawn i'n trio. Pethau byrion iawn dwi wedi bod yn eu sgwennu – shards dwi'n eu galw nhw. Mae'r mab hynaf wedi bod yn ffureta yn fy stydi ac wedi hel cant ohonyn nhw at ei gilydd. Ro'n i wedi eu gwneud nhw wrth wneud pethau eraill, i fynegi teimladau'r foment. Taswn i'n Ffrancwr mi faswn i'n eu galw nhw'n méditations poétiques, achos pytiau ydyn nhw ac maen nhw i gyd yn bersonol. Ond tydw i byth yn medru cofio be sydd ynddyn nhw; unwaith mae o wedi ei wneud, dwi'n methu'n lân â chofio wedyn. Rhwbath sy'n fy mhoeni i ar y pryd ydi o, rhwbath sy'n fy nhiclo i.

Dwi'n meddwl bod yr ysfa greu sydd yndda i yn un hynod syml a diniwed, os nad plentynnaidd a dweud y gwir. Mae bywyd yn ddirgelwch mor arswydus. Y ffordd hwylusaf i mi ydi troi darn o brofiad yn stori, megis darn o hanes fel y mae'n digwydd. Nid esbonio, ond byw fel darn o fod. Gwae fi yntê. Er bod gen i gariad oes at grefydd ac athroniaeth, dim ond stori sy'n rhoi pleser. Dyna'r gwir syml a diniwed, nid yn erbyn y byd, ond darn annatod ohono fo! 

Ac eto mae'n fy nharo i bod yna agendor rhwng hyd a lled eich ymwybod chi ac ymwybod fy nghyfnod i.

Mewn ffordd, dwi'n reit grefyddol. Mi fydda i'n dweud fy mhader bob nos. Dwi'n darllen dipyn o'r Testament Newydd. Dwi wrth fy modd efo Mathew, Marc a John – maen nhw fel dŵr afon i'w darllen. Ond nid myth ydi'r Beibl, ac eto, nid ffaith ychwaith, ddim yn hollol, ddim yn yr ystyr amrwd cyfoes. Mae o'n rhyfeddol a dweud y gwir. Annibynnwr ydw i ac a fydda' i am byth. Fedrwch chi ddim tynnu pethau allan o'ch magwraeth. Dwi wedi gwneud llawer o bethau oedd yn wahanol iawn i fy nhad a fy mam, o ystyried. Mi oedd fy nhad yn gefnogwr i Lloyd George, a fy mam, busnes oedd ei diddordeb mawr hi. Mi fyddai wedi bod yn siopwraig wych. Mi oedd hi'n medru bwtsiera'n ardderchog. Ac mi oedd gen fy nhaid ffarm, a siop yn mynd efo hi, mwy nag un. Wedi meddwl, dwi'n hollol wahanol i fy nghyndeidiau ac eto dwi'n meddwl y byd ohonyn nhw.

Does yna neb yn debyg i chi yn yr hanes teuluol yna?

Nag oes. Fedrwn ni ddim bod yn fwy nag ydan ni.

Dwi'n awyddus i'ch holi am eich teimladau tuag at y teledu heddiw a chithau wedi cael gweithio yn oes aur darlledu. Mi ddywedsoch yn y 70au, pe buasech yn Sais y buasech 'yn poeni'n arw ynglŷn â pheiriant chwedlona yn meddiannu enaid poblogaeth gyfan ac yn paratoi dodrefn brau a phwdwr ar gyfer dychymyg plant'.

Rhaid i mi ddweud fy mod, yn fy henaint, wedi mynd i ddibynnu llawer arno fo achos tydw i'm yn medru mynd allan rhyw lawer. Dwi'n siomedig iawn efo fo, ac eto, dwi'n ddiolchgar amdano, mewn rhyw ffordd ddigon od. Mae'n bwysig cofio, oherwydd bod y perspectif yn un penodol a'r gynulleidfa'n un agos, mai'r gwledydd bach, ar ryw olwg, sydd efo'r potensial i wneud y teledu gorau. Ond mae'n wir nad oes yna fawr ddim arno fo wedi mynd. Wedi dweud hynny, mae'n werthfawr medru gweld be sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o'r byd a hynny mewn ffordd gwbl gyfoes. Wela i fyth y llefydd hyn eto, onibai trwy gyfrwng y teledu. Dyna i chi'r helynt efo terfysgaeth yn Barcelona. Mae gweld y lle ar y teledu, er gwaetha'r newyddion echrydus, yn dod ag atgofion gwerthfawr hefyd: ro'n i'n arfer mynd yno i gael cwch i Ibiza achos mi oedd gen i ddau gyfaill yn byw yno – maen nhw'n dal i fyw yno; mae fy wyrion newydd fynd i'w gweld nhw. Actorion. 

Rydach chi'n un o'r ychydig bobl sy'n dal ar dir y byw sydd â chysylltiad efo'r cyfnod cyfoethog yna yn hanes diwylliannol yr ugeinfed ganrif.

O'n i wrth fy modd yn troi mewn gwahanol fydoedd. Cofiwch, y peth sy'n angenrheidiol ydi egni, a dyna'r hyn sydd ddim gen i rŵan. Dydach chi ddim yn sylwi bod o gynnoch chi ar y pryd, ond dwi wedi dod i sylweddoli mae'n rhaid bod gen i egni fel dwn i ddim be.

Mi oeddach chi'n ymwneud efo lot o wahanol fathau o bobl, ac yn symud o un byd i'r llall yn syndod o rwydd, ac eto fel petasech chi'n llwyddo i gadw gafael cryf ar pwy oeddach chi, dwi'n iawn i feddwl?

Mi o'n i wrth fy modd efo actorion. Maen nhw fel plant. Rhaid bod yn barod i dynnu llaw dros eu cefnau nhw, fel cathod, ond maen nhw'n ddrych difyr ofnadwy o fywyd dyn. Ar y dechrau, mi wnân nhw rwbath, ond unwaith maen nhw'n llwyddo, prin ydi'r rhai sydd ddim yn mynd yn megalomaniacs. Byd diddorol iawn ydi'r byd hwnnw, a ddim mor annhebyg i fywyd yn ei gyfanrwydd. Mae pawb rywsut yn actio mewn rhyw ddrama fach o'i eiddo ei hun, yn tydi.

Mi oeddach chi'n nabod Kate Roberts yn dda, yn toeddach.

O'n i'n meddwl y byd o Kate. Mi oedd gan Kate hiwmor arbennig, mwy nag y mae neb yn sylweddoli, achos mae hi'n medru bod mor dywyll yn ei sgwennu. Mi fuodd hi'n dipyn o ddylanwad arna i a dweud y gwir. Mae hi'n medru dangos byd cyfan mewn un manylyn bach. Mae'r straeon sydd newydd ennill y Fedal yn y Steddfod gan Sonia Edwards yn dda hefyd, o'n i'n gweld. Mae gynni hi sylwgarwch, ac mae hi'n ymwybodol o'r tyndra moesol o dan bob dim.

Mae gynnoch chi'r Cyfansoddiadau wrth eich ymyl yn fanna.

Oes, dwi wedi bod yn eu darllen nhw. Dwi'n meddwl bod yr awdl a'r bryddest yn dda iawn.

Mi wnaethoch chi dreulio cyfnodau helaeth ar y cyfandir hefyd, yn do, yn arbennig yn yr Eidal yn gweithio efo Cronfa Achub y Plant, y Cenhedloedd Unedig ac wedyn yn sgwennu, ar ôl ennill gwobrau llenyddol o bwys.

Dwi wedi treulio misoedd lawer yn yr Eidal. Mi oedd gen i ffrind mawr oedd yn ieithydd da iawn, yn gwybod bob dim am bob dim. Mi ddysgais lawer ganddo fo; mi oeddan ni'n gweithio efo'n gilydd yn Fflorens a Milan a Rhufain. Mae'r byd yn fawr tydi. Ac eto mae o'n mynd yn llai ac yn llai. Pan o'n i'n ifanc, mawr oedd o.

Pa mor ymwybodol oeddach chi wrth sgwennu o'r cyd-destun Ewropeaidd, o'r traddodiad oedd yn gyrru'r nofel ar y cyfandir? Dwi'n meddwl am Robert Musil, neu beth am Thomas Mann? Oeddach chi'n teimlo dylanwad gwaith pobl felly?

Doeddwn i'm yn gwirioni ar Thomas Mann. Er mi oeddwn i'n reit hoff o'r Magic Mountain hefyd.

Mi oeddach chi hefyd yn teimlo atynfa gret at Gymru, ac yn benderfynol o fagu eich plant yn Gymraeg a rhoi'r gorau i'r bywyd yr oeddach chi'n ei fwynhau gymaint yn Llundain. A oedd yna deimlad o ymlyniad, corfforol bron, at ddarn o dir? Fel petasai'r tir yn berson?

Y tir sy'n gwmni i mi erbyn hyn ydi'r lluniau sydd efo fi fan hyn ar y wal. Ro'n i'n ffrindiau mawr efo'r ddau yna: Terry Frost, a Patrick Heron ydi hwnna. Mi wnaeth o glawr i un o fy nofelau. Mae dylanwad y rhein wedi bod yn sylweddol arna i. Mi oedd Patrick a finna'n wrthwynebwyr cydwybodol. Ac mae yna lun fan hyn o Rostryfan gan fy ffrind, Kyffin.

Rŵan eich bod chi'n hŷn, yn hŷn na'r rhan fwyaf o bobl, ydach chi'n gweld dewisiadau eich bywyd mewn golau gwahanol?

Dwi yr un fath â'r boi yna o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n debyg mai dyn annifyr iawn oedd o. Mi ddywedodd fel hyn: 'I strove with none, for none was worth my strife: / Nature I loved, and, next to Nature, Art: / I warm'd both hands before the fire of Life; / It sinks; and I am ready to depart.' 'Dying Speech of an Old Philosopher' ydi hwnna, ond dwi'n methu cofio enw'r dyn ... O, ia, dyma fo: Walter Savage Landor. Fo ddudodd hefyd: 'We must not indulge in unfavourable views of mankind, since by doing it we make bad men believe that they are no worse than others, and we teach the good that they are good in vain.' [SPR]

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dwi’n meddwl bod yr ysfa greu sydd yndda i yn un hynod syml a diniwed, os nad plentynnaidd a dweud y gwir

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…