Jeanette Winterson


Christmas Days: 12 Stories and 12 Feasts for 12 Days

Jonathan Cape, 304tt, £14.99, Tachwedd, 2016

Sut i brynu llyfr yn anrheg
Cyfweld

Sut i brynu llyfr yn anrheg

Cynghorion perchennog siop lyfrau Palas Print


Eirian James

Amser darllen: 5 munud

20·12·2016

Dw i’n siŵr nad oes angen gofyn a wyt ti’n meddwl bod llyfr yn anrheg dda – falle taw dechrau trwy ofyn pam hynny ddylwn i?

Un o’r pethau mwya’, dw i’n meddwl, yw bod llyfrau yn cynnig gwerth syfrdanol am arian. Ma’ cwsmeriaid gyda ni sy’n prynu chwe chopi o’r un nofel ac yn dweud, ‘Wel, beth arall gei di am saith bunt?’

Nid jyst hanner awr o ‘foddhad siwgr’ yw llyfr; mae’n mynd i roi boddhad i rywun dros gyfnod hir o amser ac, yn enwedig gyda llyfrau plant efallai, maen nhw’n bethau sy’n para’n hirach na’r fix siocled ar ddiwrnod Dolig.

Fe alli di fynd i bob man drwy gyfrwng llyfr – ma’ llyfr bwrdd coffi, er enghraifft, neu lyfr ffotograffiaeth, yn gallu dy gymryd di rownd y byd heb i ti symud o dy gadair (ac fe all llyfrau fel yna fod yn ysbrydoliaeth wedyn i wneud rhywbeth dy hun). Ma’ llyfrau’n agor dryse i bethau, profiadau a llefydd newydd, mae nhw’n ddi-ben-draw. Yr adeg yma o’r flwyddyn yn arbennig, ma’ pobl yn gofyn am lyfrau sydd yn mynd i ysbrydoli pobl i neud rhywbeth newydd – llyfrau taith, er enghraifft neu lyfrau am ddiddordebau penodol – ond wedyn ma’ nofel dda yn gallu mynd â ti i rywle hollol wahanol hefyd. Ac mae gwyliau’r Nadolig yn amser perffaith i ddarllen; un o’r ychydig adegau pan fod gan bobl rywfaint o amser hamdden.Ffenest siop Palas Print

Beth yw’r pethau pwysicaf i’w hystyried wrth brynu llyfr yn anrheg i rywun arall, felly?

Wel, os daw rhywun i’r siop a dweud eu bod nhw am brynu llyfr i rywun arall, dw i’n trio ffindo mas beth yw diddordebau’r person yna, beth yw eu gwaith nhw, o ble ma’ nhw’n dod, neu ychydig bach am eu diddordebau neu eu hoff awduron.

Y cyngor gorau sydd gen i yw i edrych ar silffoedd y person dan sylw, os gallwch chi. Byddwch yn fusneslyd a mynnwch sbec – ma hwnna’n ffordd ardderchog o weld beth maen nhw’n debygol o’i licio. Ond mae e’n gallu bod yn bwnc eang hefyd, wrth gwrs. Ydy’r person yn licio ffuglen? Neu goginio? Neu falle nad yw’r person ddim yn coginio o gwbl? Neu awdur neu le arbennig? Neu ddiddordeb penodol – chwaraeon, ffilmiau, math arbennig o farddoniaeth?

Ma’ trio ateb y cwestiynau yna fel arfer yn arwain rhywun ar drywydd penodol neu i awgrymu rhai llyfrau ar draul rhai eraill. Dw i wastad yn trio rhoi dewis i bobl – ond dim gormod o ddewis. Dw i’n ymwybodol iawn, yr adeg yma o’r flwyddyn yn arbennig, bod yna rhyw 10,000 o lyfrau yn y siop. A fydd y 10,000 yna ddim o ddiddordeb i bawb. Felly os daw rhywun i ofyn i fi am gyngor, dw i’n trio dewis tri neu bedwar llyfr er mwyn i’r cwsmer gael cyfle i feddwl. Ac os nad oes unrhyw beth yn sticio, ry’n ni’n dechre eto!

Ac yn hynny o beth, bron nad yw hi’n bwysicach gwybod beth fydde rhywun ddim yn licio na gwybod beth bydden nhw yn debygol o licio. Hynny yw, falle bod rhywun yn licio nofelau ditectif ond ddim yn licio pethau sy’n graffig neu’n llawn gwaed. Falle bod rhywun arall yn licio gwyddonias ond ddim yn licio ffantasi ... Mae ’na haenau gwahanol bob amser. Gyda llyfrau plant, bydd rhai pobl ifainc yn dwlu ar Jaqueline Wilson a phlant eraill ddim yn ei hoffi o gwbl. Bydd rhai yn hoffi straeon am y byd go iawn, a’r holl fanylion gritty, a bydd yn well gan eraill fydoedd ffantasi. Dyw hi ddim cweit mor hawdd â dweud bod rhai plant yn hoffi Harry Potter ac eraill yn hoffi Jacqueline Wilson ond ma’ hwnna’n gallu bod yn rhyw fath o ganllaw.

Wedi dweud hynny, mae’n braf herio hynny weithiau a mynd â rhywun i rywle newydd. Ac ma’ darllen adolygiadau, neu wrando ar drafodaethau ar y teledu neu’r radio, neu sgyrsiau gyda ffrindiau ac ati, yn ffordd dda o ffeindio syniadau.

Ac os na chewch chi syniadau o wneud hynny i gyd, cerwch i’r siop a siaradwch gyda’r llyfrwerthwr ... Dw i’n trio cael sgwrs gyda phobl yn ein siop ni i wybod beth ma’ darllenwyr wedi’i hoffi yn ystod y flwyddyn. Mae gen i un cwsmer, er enghraifft, nad yw hi’n hoff o straeon byrion o gwbl. Byddwn i wrth fy modd tase hi’n darllen cyfrol o straeon ac yn dwlu arnyn nhw ond dw i’n gwybod hefyd – ’sdim pwynt! Mae ’na gwsmer arall, wedyn, sy’n gwirioni ar nofelau hanesyddol. Rho di nofel hanesyddol iddi ac mae hi wrth ei bodd. Dyw hi ddim yn meindio rhywbeth sydd yn llawn rhyfel ond dyw hi ddim eisiau’r gory details i gyd ...

Busnesu yw’r man cychwyn bob amser – ffindo mas beth ma' pobl wedi’i ddarllen, fel ffordd o arwain at bethau eraill.

Dw i’n trio cofio bod hwn a hwn yn licio rygbi neu seiclo, neu bod y llall yn hoffi gwau a chrosio ond nad yw hi mor hoff o lyfrau Americanaidd am wau a chrosio ...

Trio cychwyn sgwrs yw’r peth. Os wyt ti wedi dwlu ar lyfr dy hun ac yn rhoi hwnna fel anrheg i rywun, wel, naw gwaith allan o ddeg, allwn i ddim meddwl am ffordd well o ddewis. Ma’ rhoi llyfr rwyt ti’n ei argymell dy hun yn bresant bendigedig. ‘Dw i wedi mwynhau’r llyfr yma a dw i’n meddwl y dylet ti ei ddarllen achos dw i’n meddwl y byddet ti wrth dy fodd ag ef.’

A pha lyfr hoffet ti ei gael yn anrheg Nadolig, felly?

O mam bach! Nawr te ... O! Dw i’n meddwl mod i’n gwbod – er, taset ti’n gofyn i fi fory byddai’r ateb yn wahanol. Ond heddi’ dw i am ddweud Christmas Days: 12 Stories and 12 Feasts for 12 Days gan Jeanette Winterson. Casgliad o straeon byrion yw e – un ar gyfer pob un o ddeuddeg dydd y dathlu. Ie, heddi’, hwnna fydde fe.

Dw i newydd ddarllen The Girl Who Saved Christmas gan Matt Haig – ac fe ddarllenais i A Boy Called Christmas ganddo y llynedd. Roedd hi tua’r un adeg ac roedd e’n baratoad perffaith ar gyfer hwyl y Nadolig.

Ond dw i ddim wedi darllen unrhyw beth gan Jeanette Winterson ers talwm, felly hwnna ga’ i plîs! Y trueni mawr, wrth gwrs, yw bod pobl yn meddwl amdana’ i yn y siop, a llyfrau o f’amgylch i o hyd, felly does neb byth yn meddwl prynu llyfr yn anrheg i fi ...    


Mae Eirian James yn berchennog ar Palas Print yng Nghaernarfon. 

Mae Palas Print yn aelod o Rwydwaith Siopau Llyfrau O'r Pedwar Gwynt.

Ac fe allai tanysgrifiad i O'r Pedwar Gwynt fod yn anrheg werth chweil hefyd, wrth gwrs! 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Siop lyfrau

 


Busnesu yw’r man cychwyn bob amser – ffindo mas beth ma' pobl wedi’i ddarllen, fel ffordd o arwain at bethau eraill

Dyddiad cyhoeddi: 20·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…