Cyfweld

‘Tu fas i Siop y Pethe’


Mari Siôn

Amser darllen: 5 munud

18·07·2017

Nid siop lyfrau Gymraeg gyffredin mo Siop y Pethe rhywsut. Mae’n un o dirnodau tref Aberystwyth. ‘Tu fas i Siop y Pethe’ ydi'r gri gyson wrth drefnu cyfarfod â rhywun, wrth fynychu gwylnos neu stondin stryd. Dyma fantais lleoliad canolog ar gornel brysur ynghanol y dref. Ond mae'r lle yn fwy na hynny hefyd. 

Siop y Pethe wedi’r cyfan oedd y siop Gymraeg gyntaf. Fe’i sefydlwyd yn 1968 gan Gwilym a Megan Tudur gyda’r bwriad o werthu nid yn unig lyfrau Cymraeg ond recordiau, crefftau, cardiau a phosteri hefyd. Ysbrydolodd eu gweledigaeth siopau tebyg ledled Cymru gan arwain at sefydlu cyrchfannau Cymraeg a fu’n rhan o fywydau cynifer ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Roedd Siop y Pethe yn sicr yn rhan o fywyd Aled Rees. Aled yw cydberchennog y siop bellach ers i gyfnod y Tuduriaid ddod i ben. Penderfynwyd gwerthu’r busnes ar ôl i Gwilym a Megan dreulio bron i hanner can mlynedd tu ôl i’r til. 'Mae’r siop yn rhan o’m hanes i. Fi 'di gweld y siop bob diwrnod o fy mywyd. Fe fydde fe wedi bod yn biti mawr gweld y lle’n cau,' meddai’r gŵr o Aberystwyth sydd hefyd yn berchen ar gwmnïau Teithiau Tango a Theithiau Cambria. Dros beint un noson dyma grybwyll ei awydd i brynu’r siop wrth ei gyfaill Dafydd Alun Jones, milfeddyg lleol. 'Nath e droi rownd a dweud yn syth, "Bryna’i i fe da ti." The rest is history fel ma' nhw’n dweud.'

Siop y Pethe

Fis Tachwedd diwethaf, flwyddyn union wedi dod yn berchnogion, agorwyd Siop y Pethe ar ei newydd wedd, a hynny gyda diwrnod o ddathlu. Cynhaliwyd Talwrn, gweithdai awduron mewn ysgolion, a pherfformiadau o flaen y siop gan Rhys Meirion, Mr Phormula a Bryn Fôn, i enwi ond tri. Yno hefyd, yn westeion anrhydeddus, roedd Gwilym a Megan Tudur. 

'Mae Gwilym a Megan wedi bod yn hael iawn eu cefnogaeth, ac maen nhw’n gefnogol iawn o hyd,' meddai Aled. 'Roedden nhw’n ofni y bydde siop goffi neu rywbeth yn agor ar y gornel yma. Roedden nhw’n hapus iawn ein bod ni ddim jyst isie cymryd yr adeilad ond ein bod ni am gadw’r enw ac adeiladu ar yr hyn roedden nhw wedi ei greu. Brand yw Siop y Pethe mewn ffordd, brand y gwnaeth Gwilym a Megan ei ddatblygu dros 47 o flynyddoedd. Roedd hi’n fenter mor flaengar pan agorwyd y lle gyntaf. Roedden ni am barhau â'r weledigaeth honno.'

Fel perchnogion newydd aethant ati i foderneiddio’r adeilad yn hytrach na’i drawsnewid yn llwyr. Roedd hynny’n bwysig yn ôl Aled. 'Ein syniad ni ers y dechre oedd y byddai'r llawr gwaelod i radde yn aros yr un fath.' Er mwyn sicrhau eu bod yn cadw cymeriad gwreiddiol y siop ac yn gwneud y gorau o’r adeilad, bu cynllunydd mewnol yn rhoi cyngor er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r gofod a’r golau, gan sicrhau mwy o le ar gyfer digwyddiadau, lansiadau a gweithgareddau fel y Clwb Clonc i ddysgwyr sy’n cyfarfod yn y siop bob dydd Mercher.

'Ni wedi newid sut oedd pethe’n edrych tam' bach. Ni 'di agor un ffenest fel bod modd i bobl weld i mewn. Roedd rhaid meddwl yn ymarferol wrth gwrs. O ran y llyfrau, o fesur y silffoedd, mae 'na fwy o le iddyn nhw erbyn hyn, a digon o le hefyd i gardiau, sy’n bwysig iawn i’r cwsmeriaid hynny sydd wedi siopa yma ar hyd y blynyddoedd. Ond roedden ni hefyd am ddenu mwy o gwsmeriaid. Mae Aberystwyth yn dref brifysgol, a ry'n ni am drio denu mwy o bobl ifanc i'r siop. Ni'n gobeithio y bydd y gweddnewidiad yn galluogi hynny.' Yn sicr mae yna deimlad modern, moethus bron i’r siop ar ei newydd wedd. Mae’r carpedi’n drwchus, y goleuo’n gynnes a’r nwyddau wedi eu gosod yn gelfydd. Ac eto mae cymeriad y siop wreiddiol i'w ganfod yma o hyd: mae Ogof Twm Siôn Cati er enghraifft, y gornel ar gyfer llyfrau plant, wedi goroesi ac wedi ei haddurno gan furlun hardd gan yr artist lleol Valeriane Leblond. 

Canolbwyntio ar lyfrau a wneir ar y llawr gwaelod, ynghyd â chrynoddisgiau a chardiau cyfarch, ac mae’r llawr cyntaf erbyn hyn yn cynnig dewis amrywiol o grefftau o Gymru neu gan Gymry. Mae’r siop hefyd yn comisiynu crefftau, meddai Heulwen Davies, Rheolwraig Marchnata Siop y Pethe, sy’n allweddol i ddatblygiad Casgliad Siop y Pethe. 'Mae Casgliad Siop y Pethe yn gasgliad o nwyddau a chrefftau sydd wedi eu comisiynu ar gyfer y siop yn benodol. Rydan ni’n trio cael hwyl gyda’r gair "pethe". Mae’n air sy’n golygu cymaint o wel ... bethe i bobl, wedi’r cyfan!' Mae’r casgliad, yn ôl Heulwen, yn ffordd o geisio estyn y brand, a hynny mewn ffordd wahanol a gwreiddiol. 'Mae’n holl bwysig bod brand sydd wedi ei sefydlu, brand a gafodd ei adeiladu dros gyfnod mor hir, yn ffynnu a bod mwy o bobl yn dod i’w adnabod. Dyna pam ein bod ni’n mynd â stondin i ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn hefyd.'

Er hynny, gwerthu llyfrau yw blaenoriaeth Siop y Pethe o hyd, ond bod y perchnogion yn gobeithio y bydd y dewis unigryw o grefftau amrywiol yn llwyddo i ddenu darllenwyr newydd. 

'Mae’r crefftau yn gallu dod â chwsmeriaid newydd i mewn i'r siop, ac mae hynny’n bwysig,' pwysleisia Heulwen. 'Mae cwsmeriaid yn dod yma i brynu crefftau ac yna’n gweld yr holl ddewis o lyfrau plant, er enghraifft. Digon posib na fydden nhw wedi dod i mewn onibai am y crefftau. Mae’r crefftau hefyd wedi helpu i ddenu pobl ddi-Gymraeg i mewn i’r siop, ac mae'n nhw'n aml yn synnu o weld cyfrolau Saesneg am Gymru a chan Gymry ar werth.' Yn ôl Aled, 'Mae’r amrywiaeth o lyfrau sydd ar gael yn y Gymraeg erbyn hyn yn aruthrol. Mae 'na rywbeth ar gael i bawb bellach. Mae’r gweisg fel tasen nhw’n fwy parod i fentro, yn fwy creadigol, a ddim jyst yn dibynnu ar hunangofiannau, er mor bwysig ydi'r rheini i ni fel llyfrwerthwyr.'

Wrth edrych tua'r dyfodol efallai nad yw gweledigaeth perchnogion newydd Siop y Pethe yn llwyr wahanol i weledigaeth gychwynnol Gwilym a Megan Tudur bron i hanner can mlynedd yn ôl. 'Y nod ydi ceisio hybu’r Gymraeg, ein hanes a’n diwylliant, ym mhob ffordd bosib. Mae’r digwyddiadau, y crefftau, y llyfrau a’r cylchgronau, popeth sydd yma yn cyfrannu at wneud hynny. Does yna'r un elfen sy’n tynnu oddi ar y llall,' meddai Aled. Mae’n awyddus bod y siop yn parhau i fod yn ganolfan i’r gymuned, ac yn arbennig i’r gymuned sy’n dysgu Cymraeg. 'Mae 'na fwy o bwyslais nag erioed ar hyn o bryd ar ddysgu Cymraeg, mae’n rhaid i ni chwarae rôl yn hynny o beth. Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg gyntaf, mae’n allweddol ein bod ni’n arwain y ffordd, yn annog dysgwyr.'

Efallai y bydd y fainc gyfforddus a osodwyd yn un o ffenestri’r siop yn gymorth wrth geisio cyflawni'r nod hwnnw. 'Mae’n rhywbeth mae pawb yn Aberystwyth, yn yr ardal, a falle tu hwnt, yn ei ddweud on'd yw e: "Gwrdda i di tu fas Siop y Pethe". Ni 'di gosod y sedd 'ma nawr fel bod modd i bobl gwrdd tu fewn i Siop y Pethe hefyd.'


Gellir prynu llyfrau a chrefftau Siop y Pethe ar eu gwefan hefyd.

O'r Pedwar Gwynt a Siop y Pethe yn y 'Steddfod
Dydd Gwener, 11 Awst 2017 | 11 yb ar Stondin Siop y Pethe
Sgwrs a chyfle i edrych yn ôl ar flwyddyn gynta'r cylchgrawn
 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Siop lyfrau, Mari Siôn

 


Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg gyntaf, mae’n allweddol ein bod ni’n arwain y ffordd, yn annog dysgwyr

Dyddiad cyhoeddi: 18·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…