Ivan Illich


Beyond Economics and Ecology

Marion Boyars, 124tt, £12.95, 2013

Emanuele Severino


The Essence of Nihilism

Verso, 384tt, £20.00, 2016

Wolfgang Streeck


How will capitalism end?

Verso, 272tt, £16.99, 2016

Cyfweld

Y cardotyn yn trawsffurfio’r byd


Emanuele Severino

Amser darllen: 25 munud

22·07·2017

Yn 1961, lansiwyd archwiliad gan Chwil-lys y Fatican o waith yr athronydd Emanuele Severino (1929- ). Parhaodd yr archwiliad hwn am bron i ddegawd. Penderfynwyd bod ei syniadaeth yn 'sylfaenol anghydnaws' ag athrawiaeth Gristnogol ac o ganlyniad fe'i hesgymunwyd o'i swydd fel Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Gatholig Milan. 'Hanfod Nihiliaeth', a gyhoeddwyd yn 1972, oedd y gyfrol gyntaf a ymddangosodd yn dilyn ei ddiarddel. Y gyfrol hon a'i sefydlodd yn llais digymar yn ffurfafen athroniaeth gyfoes y cyfandir, a dyma lle'r aeth ati i ailddehongli hanes athroniaeth y Gorllewin.

Cefais fy nghymell gan eich cyfrol 'Hanfod Nihiliaeth', a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn nechrau'r saithdegau a dim ond yn ddiweddar iawn yn Saesneg (The Essence of Nihilism, Verso, 2016), i gwestiynu pa werth sydd ar ôl i'w ddarganfod yn y cysyniad o Ewrop; hefyd i'n hymlyniad at gyfalafiaeth. Rydych yn annog y darllenydd yn y gyfrol hon i gwestiynu i'r eithaf sylfaeni y feddylfryd Orllewinol. Ac mae'n ymddangos i mi fel petaech yn dadlau mai dim ond wrth fynd yn ôl at darddiad yr egwyddorion sy'n sail i'n syniadaeth y mae modd esgor ar newid, os o gwbl - rhywbeth y mae cynifer yn dyheu amdano heddiw, wrth gwrs. Ym mhle yn union rydych yn lleoli'r tarddiad hwn?

Dywedir yn gynyddol ein bod yn byw mewn cyfnod o newid dwfn. Ond ar yr un pryd, nid ydym yn sylweddoli bod ei ddyfnder yn ddiwaelod. Mae ffordd y Gorllewin o weithredu a meddwl yn arwain at droi cefn ar ei thraddodiad amlfilenaraidd. A gellid dweud bod y Gorllewin yn rhoi heibio'r traddodiad er mwyn bod yn driw i darddiad y traddodiad hwnnw (am y tro, wna i ddim ymhelaethu ar ystyr y gosodiad hwn).

Ar yr un pryd, yn ei ffurf bresennol, mae enaid gwareiddiad y Gorllewin, gydag Ewrop yn fatrics iddo, yn dominyddu'r blaned gyfan. Yr enaid hwn yw rheolaeth gyfalafol dros dechnoleg, wedi ei harwain gan wyddoniaeth fodern.

Fel arfer, ychydig o sylw a roddir i'r ffaith bod pŵer technoleg yn ddibynnol ar fod wedi troi cefn ar wirionedd, neu'r hyn a olygir gan wybodaeth ddiamheuol a diamod (na all dyn na Duwiau nac unrhyw rym arall fyth ei gwadu). Dyma'r hyn a elwid gan yr hen Roegiaid yn 'athroniaeth'.

Ac mae techno-wyddoniaeth yn bwerus yn benodol oherwydd nad yw'n ymddiddori yn yr hyn a elwir yn 'wirionedd'. Mae gwyddoniaeth bellach yn cydnabod mai delio mewn gwybodaeth ragdybiaethol y mae, gwybodaeth a all gael ei gwyrdroi a'i gwrthbrofi, ac sy'n seiliedig ar ddeddfau â gwerth tebygolrwydd ystadegol. A chanlyniad anorfod y modd yr aethpwyd ati i synio fel hyn am 'wirionedd' ar ddechrau gwareiddiad y Gorllewin yw tranc gwirionedd (yn yr ystyr absoliwt).

Luzifer gan Franz von Stuck

Luzifer gan Franz von Stuck (tua 1890); ysgythriad ar bapur; Wikimedia Commons.

Ond yn f'ysgrifau - ac mae hyn yn arbennig o arwyddocaol yn fy nghyfrol 'Hanfod Nihiliaeth' - cwestiynir mewn modd radical y cam hwn a gymerwyd gan y Gorllewin. Golyga hynny bod tranc 'gwirionedd' hefyd yn cael ei gwestiynu, sy'n ganlyniad anorfod y trywydd a gymerwyd. Yn yr un modd, tra bod athroniaeth ein cyfnod ni yn siarad un iaith - iaith sydd ar lawer ystyr yn cau allan unrhyw 'wirionedd' absoliwt, ac felly hefyd 'wirionedd' yr hyn y mae'r cyfnod ei hun yn ei fynegi - mae f'ysgrifau yn ymgais nid i ddychwelyd at 'wirionedd' marw y Gorllewin, ond i ymwneud â'r hyn a alwaf yn 'ystyr digyffelyb gwirionedd'.

Wrth gwrs, mae'n amhosib egluro'n llawn mewn deialog byr fel hwn yr hyn a olygaf gan 'ystyr digyffelyb gwirionedd'. Ac yn gyndyn, felly, y crynhoaf yma bod cymeriad digyffelyb yr ystyr hwn yn perthyn i natur angenrheidiol tragwyddoldeb popeth: y byd yn ei holl gyflyrau, a'r enaid, pob sefyllfa a phob perthynas - ac felly y cysgod mwyaf annherfynedig, megis y ffurfafen, a'r hyn a elwir gennym yn 'orffennol' a 'dyfodol' - ac ar sail hynny, mae popeth sydd yn bod yn dragwyddol.

Er bod perygl i hynny arwain at orsymleiddio, mi fyddwn i'n falch petai modd i'n trafodaeth gymryd sefyllfa gymharol 'goncrit' fel man cychwyn, gan mai wrth orfod ymrafael â'r profiad bob-dydd o fyw yn Ewrop heddiw, a 'realiti' yn cael ei ailddiffinio'n barhaus, y cefais f'atynnu at eich syniadaeth. Rwyf hefyd o'r farn mai dyma'r rheswm y bydd eraill, y tu hwnt i'r cyfandir, yn cael eu denu i roi ystyriaeth ddifrifol i'ch gwaith, nawr ei fod ar gael trwy gyfrwng y Saesneg.

Yn benodol felly, mae'r Almaen ers 1945 yn ymddangos i mi yn enghraifft goncrit, os cymharol ddiweddar, o'r anhawster rydych yn ei ddatgelu wrth galon ein cysyniad o Ewrop. Dyma ganolbwynt pŵer economaidd a gwleidyddol Ewrop, does dim amheuaeth, ac ers y saithdegau, pan gyhoeddwyd 'Hanfod Nihiliaeth' am y tro cyntaf, mae'r Almaen wedi gwneud enw iddi ei hun fel esiampl ddibynadwy a sefydlog - yn wleidyddol ac economaidd - o gyfalafiaeth ddemocrataidd, a hynny fel 'Modell Deutschland'. 

Mae'r Almaen hefyd yn enghraifft o'r math o ddatblygiad sy'n nodweddu cyfalafiaeth - dinistr creadigol, fel y disgrifia Wolfgang Streeck yn ei gyfrol y buais yn ei darllen yn ddiweddar, How will Capitalism End (2016). Dyma'r math o ddatblygiad dinistriol yr ydych yn ei weld, dwi'n credu, wedi ei gysylltu'n anorfod â goruchafiaeth metaffiseg dros bob agwedd o'n bywyd heddiw.

Ydi hanes diweddar yr Almaen yn enghraifft berffaith, felly, o'r hyn yr ydych yn ei gyfleu fel y dinistr anorfod sydd wrth wraidd cynnydd Ewropeaidd? Neu a ydw i'n methu'r pwynt yn llwyr?

Yn 1993 cyhoeddais 'Dirywiad Cyfalafiaeth', ac yn 2012, 'Cyfalafiaeth heb Ddyfodol'. Gadewch i mi wneud yn glir nad oes i symbyliad thesis y cyfrolau hyn ddim oll i'w wneud â Marcsiaeth.

Er mwyn sefydlu'r llaw uchaf, mae cyfalafiaeth yn cael ei gorfodi i gryfhau'n barhaus yr offeryn y mae'n ei wasanaethu ac sy'n ffynhonnell ei phŵer, sef technoleg. Ond mae'r uwchraddio technolegol hwn yn arwain yn y pen draw at sefyllfa lle mai prif bwrpas cyfalafiaeth yw cynnydd parhaus yr uwchraddio hwnnw - nid cynnydd mewn elw preifat (ei phwrpas gwreiddiol a sylfaenol). Wrth gael ei gorfodi i ysgwyddo'r swyddogaeth newydd hon, mae cyfalafiaeth wedi ei thynghedu i ddirywiad; wrth roi'r gorau i'w phwrpas gwreiddiol, mae'n cefnu arni hi ei hun; ac er mwyn byw ac ennill, mae cyfalafiaeth yn cael ei gorfodi i 'farw' tra'i bod yn 'rhoi bod' i ddominyddiaeth technoleg.

Fel y gwyddom, mae cyfalafiaeth ddemocrataidd, ac felly deyrnasiad technoleg dros realiti, ar ei mwyaf datblygedig yn Ewrop. Ac mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, yn yr Almaen. Mae hyn yn wir hefyd am gyfalafiaeth yr Unol Daleithiau a Rwsia, a gyda rhai amodau, cyfalafiaeth Tsieineaidd, Siapaneaidd ac Indiaidd, a chan gynnwys y datblygiadau diweddaraf yn y gwledydd Arabaidd.

Dros ganrif cyn Wolfgang Streeck, roedd yr economegydd Joseph Schumpeter wedi diffinio cyfalafiaeth fel 'distryw creadigol' (distryw hen ffurfiau o gynhyrchu gan rai newydd). Ychydig o sylw a roddir i bwysau'r geiriau. Ond ystyr distryw yw difodiant; a chreu yw rhoi dechrau ar fod, yr hyn, cyn cael ei greu, a oedd yn ddim.

Yn ôl y ddealltwriaeth honno, mae distryw a chreu yn bresennol ym mhob ffurf ar ddiwylliant y Gorllewin. Athroniaeth a roddodd y cysyniadau hyn o dan y chwyddwydr am y tro cyntaf. Y Groegwyr wnaeth roi ystyriaeth i ystyr radical 'bod' a 'di-fod' - yr arwyddocâd hwnnw sydd yn bresennol yn y meddwl crefyddol, diwinyddol, gwleidyddol, cyfreithiol, economaidd, artistig, hanesyddol, gwyddonol, ac sydd erbyn heddiw yn synnwyr cyffredin.

Ond defnyddir y geiriau 'bod' a 'di-fod', yn yr un modd ag y defnyddiwyd bwa Ulysses yn y chwedl gan y rhai a oedd yn cystadlu am law Penelope: ni wyddir sut i'w 'hymestyn', fel petai.

Ffrwyth technoleg yw'r dinistr creadigol y mae Schumpeter wedi ei briodoli i gyfalafiaeth. Mae'r hyn sydd yn ymddangos fel gwaith Duw ar ddiwedd Datguddiad Ioan - dinistr yr hen ddaear a chreu'r ddaear newydd - yn perthyn i gynllun ac arfaeth y prosiect technolegol: Technoleg yw'r Duw olaf; Duw yw'r Technegydd cyntaf. Ac mae 'Hanfod Nihiliaeth' yn ymdrin yn benodol ag ystyr hanfodol creu a distryw, mae'n gweld y gwallgofrwydd yn hanfod 'nihiliaeth'.

Disgrifio'r cyfeiriad y mae hanes yn mynd iddo yr wyf - ac mae hanes, wrth gwrs, yn cynnwys holl benderfyniadau dyn. Ond nid yw technoleg wedi ei thynghedu i deyrnasiad di-ben-draw; mae wedi ei thynghedu i'r amser hwnnw pan fydd yr hyn y mae'n teyrnasu drosto (ac felly natur ei hun) yn gwrthryfela yn ei herbyn - yn y lle cyntaf oherwydd nad oes modd i ddimensiwn cysyniadol gwyddoniaeth, sy'n arwain technoleg, fod yn wirionedd diamau. Ac felly nid yw'n abl i wadu diwedd y teyrnasiad hwnnw.

Ydw i'n iawn i feddwl nad gweledigaeth wrth-gyfalafol yn unig ydi eich cysyniad o nihiliaeth felly? A ydych o'r farn bod newid hyn yn oed yn bosib?

Mae hanfod nihiliaeth a'i gyn-hanes yng ngwareiddiad y Dwyrain yn ymestyn i gynnwys bywyd dyn ar y ddaear oll i gyd. Wrth gwrs, mae hyd yn oed yr hyn y mae crefyddau'r Llyfr yn ei alw'n 'bechod gwreiddiol' yn pwyso dros holl hanes dyn. Ond mae hanfod nihiliaeth yn pwyso mewn ystyr dyfnach eto. Ac yn ychwanegol at hynny, myth yw stori'r 'pechod gwreiddiol', 'gweledigaeth', hynny yw y deisyfiad bod un ystyr i'r byd yn hytrach nag ystyr arall a ddeisyfir gan fythau eraill a hawliodd eu gafael. Nid yn unig hynny, ond mae myth y 'pechod gwreiddiol' yn un o'r mythau hynaf a ddehonglwyd yng ngolau ystyr 'bod' a 'di-fod' a roddwyd dan y chwyddwydr gan syniadaeth Hen Roeg (a wrthododd bod myth). Yn ôl y dehongliad hwn, mae Duw'n 'creu' y byd, ac wedi i 'bechod' ddinistrio dyn, mae'n ei ddychwelyd i'r llwch. Mae hyd yn oed Llyfr Genesis, felly, yn perthyn i nihiliaeth (neu i'w gyn-hanes). 

Rydych yn gofyn a yw newid sy'n ein harwain y tu hwnt i nihiliaeth yn bosib. Mae 'Hanfod Nihiliaeth' yn ateb bod hynny yn bosib. Ac mae f'ysgrifau sy'n dilyn cyhoeddi'r gyfrol honno yn dangos bod y newid hwn yn anochel. Mae natur anochel hynny, ar y llaw arall, yn mynnu hefyd bod y cysyniad o drawsffurfio'r byd yn cael ei gwestiynu - ac mae hynny, yn ogystal, yn rhan o hanfod nihiliaeth.

Rydych yn disgrifio hanes y Gorllewin fel arbrawf metaffisegol. Ym mha ystyr mae ein gwareiddiad technolegol - does dim amheuaeth mai dyna ydi o  - yn cyfateb i fynegiant diweddaraf y fetaffiseg hon, ond hefyd yn fynegiant o rywbeth mwy sylfaenol, sef ysbryd gwaelodol hanes y Gorllewin? 

Gwybodaeth (epistème) yw 'Metaffiseg' - a elwir gan Aristoteles yr 'athroniaeth gyntaf' - yr epistem sydd, gan mai hi yw'r 'Gwirionedd' terfynol a diamod, yn cyfeirio at  'Egwyddor Pob Peth'. I'r Hen Roegiaid, 'peth' yw 'yr hyn ydyw', sef 'endid'; endid yw'r hyn sydd yn deillio o 'ddi-fod' neu ddiddymdra ac yn dychwelyd i ddiddymdra. Ond wrth wraidd y ffordd hon o ddeall yr endid y mae'r ewyllys i ddominyddu'r byd. Mae pethau'n dominyddu pan nad oes iddynt wreiddiau i'w dal, a'u dal yn gadarn, ond mae'r gwreiddiau hyn wedi eu difodi o bob sylfaendir a hynny, o ganlyniad, yn caniatáu i bethau gael eu newid, eu manipiwleiddio, eu cynhyrchu a'u dinistrio - a'u dyfeisio.

Yn y modd hwn, ysywaeth, mae'r ewyllys i ddominyddu er mwyn dominyddu yn ysgogi perygl eithafol, sef difodiant - ac nid dim ond difodiant y pethau sy'n cael eu dominyddu, ond hefyd ddifodiant yr ewyllys i ddominyddu. Er mwyn ceisio noddfa rhag difodiant, mae'r ewyllys i ddominyddu yn consurio'r dimensiwn cysyniadol, sydd yn cadarnhau bodolaeth 'Egwyddor (dwyfol) pob un peth'. Dyma sydd yn caniatáu iddynt gael eu gwarchod oddi wrth ladrad diddymdra. Ond y dimensiwn hwn yw'r 'Gwirionedd' y cyfeiriais ato yn f'ateb cychwynnol: dyma'r noddfa annibynadwy sydd wedi ildio yn wyneb y feddylfryd sydd yn dangos bod 'difodiant Duw' hefyd yn dangos difodiant 'Gwirionedd'.

Mae mecanwaith techno-wyddonol yn gynyddol ddibynadwy, ar yr un pryd, a dangoswyd gallu gwyddoniaeth a thechnoleg i waredu poen a marwolaeth. Ac mae dweud wrth dechnoleg nad yw unrhyw beth yn Ddigyfnewid yn gyfystyr â dweud nad oes yna Ffiniau na all technoleg eu croesi: mae'n gyfystyr â dweud bod gan dechnoleg 'yr hawl' i fynd y tu hwnt i bob Ffin.

Rydych wedi dweud bod Ewrop wedi ei geni'n hen, ei thynged wedi ei phennu gan ffawd y Gorllewin. Beth am y berthynas rhwng y cysyniad anffasiynol o ffawd a rhyddid, sef balchder mawr y Gorllewin?

Yn fy nghyfrol 'Hanfod Nihiliaeth', defnyddir y gair Groeg epistème i olygu 'ystyr digyffelyb gwirionedd'; mae'r un ystyr hwnnw wedi ei gyfleu yn fy ngwaith diweddarach gan yr ymadrodd 'tynged gwirionedd' neu 'tynged yr anochel'. Mae epistème a destino (tynged) yn eiriau sydd wedi eu seilio ar wraidd Indo-Ewropeaidd stha, sy'n golygu dycnwch, y gallu i wrthod unrhyw bŵer sydd â'r bwriad o falurio'r hyn ydyw. Ond epistème 'Gwirionedd' y traddodiad gorllewinol yw'r ymgais - a fethodd - i greu gwybodaeth ddynol. 

Pan ddywedaf fod technoleg wedi ei 'thynghedu i deyrnasu', rwyf yn cyfeirio at y modd anochel y mae'r byd yn dangos amrywiol weddau yn ddi-ben-draw. Os dywedais ar ddechrau f'ymateb i'ch cwestiwn agoriadol bod popeth yn dragwyddol, yn yr un modd dywedaf yn awr nad dod o ddiddymdra i fodolaeth ac yna dychwelyd i ddiddymdra y mae amrywiaeth y byd - ymddangosiad a diflaniad y tragwyddol ydyw. Ac mae'r pethau tragwyddol yn dod i mewn ac allan o gylch golau'r ymddangosiad hwn mewn modd anochel. Mae'r weithred o ymddangos, yn wir, yn fater olau yn hytrach nag ymddangosiad mewn gwirionedd; hynny yw, amlygiad 'sioe y byd' ydyw. Yn yr amlygiad hwn y mae hanfod dyfnach pob un. Mae hyd yn oed cylch yr ymddangosiad yn dragwyddol. Mae'n anorfod bod pob elfen dragwyddol sy'n dod i'r cylch hwn yn dod i derfyn ac yn dod i derfyn wrth gyrraedd.

Ond mae'r natur anochel hon yn wahanol i'r trafod ar 'ffawd' sy'n deillio o draddodiad nihiliaeth a'i gynhanes. Mae 'ffawd' a 'rhyddid' yn ddau gysyniad sy'n perthyn i hanfod nihiliaeth.

Dyma'r gwahaniaeth: yn nhermau'r cysyniad 'ffatalaidd', mae'r digywddiadau'n ymddangos dros dro, heb ddilyn llwybr anochel, a'r ewyllys sy'n eu cymell yn yr un modd; ac i amddiffynwyr 'rhyddid', yr hyn a geir yw dimensiwn ar realiti - dimensiwn y mae ei fodolaeth yn dibynnu ar yr ewyllys, a allasai fod wedi penderfynu'n wahanol i'r hyn a wnaeth.

Y tu hwnt i'r ewyllys, ysywaeth, mae pob dyn yn perthyn i ymddangosiad y tragwyddol yn dragywydd, a'i oresgyniad.

Mae eich athroniaeth, yn wir, yn ymgais feiddgar i brofi, trwy rym rhesymeg, bod pob un peth yn dragwyddol. Dyna sy'n gwneud i'ch cyfraniad sefyll hyd braich oddi wrth athroniaeth gyfoes, a'r hyn sy'n ei wneud hefyd yn ddigynsail, yn athroniaeth na welwyd mo'i bath o'r blaen. Lle mae hynny'n gadael Duw? Ydi Cristnogaeth wedi dyfeisio Duw er mwyn ein gwarchod rhagom ni ein hunain?

Gwallgofrwydd sylfaenol nihiliaeth yw'r ffydd ym modolaeth dod-i-fodolaeth, y dod-i-fodolaeth hwnnw a gyflëwyd unwaith ac am byth gan athroniaeth Hen Roeg, sydd bellach yn dominyddu'r Ddaear ac sy'n cael ei deall yn fyd-eang fel y dystiolaeth uchaf a chwbl ddiymwad.

Beth yn union yw'r hyn a elwir yn 'ystyr digyffelyb gwirionedd'? Mae'r ystyr hwn yn cyfleu, o reidrwydd, tragwyddoldeb pob peth a phob digwyddiad. Ac yn anorfod, fe'n cyfyngir i gip yn unig ar gyflwr tragwyddol pob endid.

Pan ddywedir y bydd y diwrnod hwn yn dod i derfyn ac yn rhoi'r gorau i fodoli, yn dod yn rhan o ddiddymdra, nid yw'n golygu y bydd diddymdra yn dod yn ddiddymdra; golygir y bydd rhywbeth (y diwrnod hwn) yn dod yn rhan o ddiddymdra ac y bydd yn aros yn rhan o ddiddymdra. Yn yr ystyr hwn, ceir amser lle mae'r corff yn ddim, amser lle mae yr-hyn-sydd yn ddim. Hanfod nihiliaeth yw meddwl a byw yr-hyn-sydd (hynny yw, yr hyn nad yw'n ddim) fel petai yn ddim.

Mae gwraidd pob trais yn y ffordd hon o feddwl ac o fyw. Erbyn heddiw, mae'r holl bethau sydd yn y byd yn cael eu hystyried yn ddim. Mae'r syniadaeth hon yn cyfateb i isymwybod dyfnaf y ddynoliaeth gyfoes. Mae hefyd yn is-ymwybod pob ewyllys dros heddwch a chariad. Ac yn wir, pob ewyllys, yn syml. Ond mae'r ewyllys i ymladd trais, a hynny heb weld y tu hwnt i hanfod nihiliaeth, megis yr ewyllys i wella'r rhai a wenwynwyd trwy roi gwenwyn iddynt. Hyd yn oed cyn unrhyw ffydd grefyddol neu wleidyddol, nihiliaeth a'i chyn-hanes yw ffydd sylfaenol dyn.

Yn ngolwg 'tynged gwirionedd', mae tragwyddoldeb pob un peth yn wahanol - nid dim ond o ran mesur - i'r Tragwyddol a'r Dwyfol yn hanes y Gorllewin (ac nid yw'n fater o ymestyn i bob un peth yr hyn y mae traddodiad yn ei ystyried yn Ddwyfol); mae'n ansoddol wahanol. Mae'r Tragwyddol yn hanes y Gorllewin yn cadw tragwyddoldeb iddo'i hun, fel petai, gan adael pob peth arall i ddiddymdra. 

Gadewch i mi ychwanegu, os mai'r hyn yr ydym yn ei drafod yw 'fy athroniaeth i', ni fyddai'n werth rhoi o'n hamser. Os mai cynnyrch unigolyn fyddai'r athroniaeth honno, mae'n anorfod mai camgymeriad fyddai (ni fyddai o fawr ddim diddordeb, os o gwbl). 'F'ysgrifau' yw'r testunau hynny sydd, wrth gwrs, yn unol â chonfensiynau penodol, yn cael eu cyfansoddi gan unigolyn penodol yn hytrach na chan eraill. Ond mae'r ysgrifau hyn yn ceisio dangos yr hyn nad yw'n ymgais fel petai, sef 'tynged gwirionedd', sy'n ddiymwad, yn anwadadwy.

Gallwn egluro hynny trwy gyfrwng trosiad. Gadewch i ni ddychmygu targed: mae pob saeth sy'n cael ei saethu at y targed hwn, yn hytrach na'i daro, yn gwanu'r saethwr; dywedwn ei bod yn amhosib taro'r targed hwn. Gellir dychmygu strwythur gwreiddiol 'tynged gwirionedd' fel y targed hwn. Ac mae'r strwythur yn awgrymu, o reidrwydd, dragwyddoldeb pob hanfod a'r cyfan a gyflëir gan dragwyddoldeb o'r fath. Mae hefyd yn cyfleu mai ymddangosiad 'tynged gwirionedd' yw hanfod pob un bod byw.

Mae pob person, ynghyd â phob person yng nghyn-hanes a hanes nihiliaeth hefyd, yn rhan o ymddangosiad 'tynged gwirionedd', a dyna'r hyn mae f'ysgrifau'n ceisio'i fynegi.

Beth gall y deallusyn ei gyfrannu at fywyd cyfoes yn y Gorllewin felly? I ba raddau y mae'n addas i ddeallusyn awgrymu wrth bobl sut i fyw eu bywydau? Onid siars neu anogaeth bathetig ydi honno wedi'r cyfan? A sut gall eich athroniaeth gael ei thrawsgyweirio i faes ymarferol gwleidyddiaeth Ewropeaidd?

Rwyf wedi defnyddio'r ansoddair 'truenus' i ddisgrifio ewyllys y deallusion i argyhoeddi pobl - hyd yn oed pobloedd a gwledydd. Nid yw hynny'n golygu fy mod o'r farn y dylid dibynnu ar bobl 'ymarferol', ys dywedwn.

Fel y dechreuais egluro, nid ydym fel petaem yn sylweddoli bod ffydd ym modolaeth yr ewyllys yn perthyn i ffydd nihiliaeth. Yn sylfaenol, ewyllys yw'r ewyllys i greu a dinistrio, ac felly mae wedi ei seilio ar y ffaith bod pethau ar gael i'w creu a'u dinistrio. Nid yw myfyrio mewn modd awthentig, ar y llaw arall, yn dweud wrth bobl beth y dylent ei wneud, ond yn hytrach yr hyn y maent wedi eu tynghedu i fod ei eisiau, hynny yw, sut y maent wedi eu tynghedu i gyfeiliorni. Amser dyn yw amser ymddieithriad gwirionedd.

Felly i'r graddau y ceir ffydd ym modolaeth yr ewyllys, ac ar sail y ffydd honno, credir yn syml bod dyn yn penderfynu ac yn cael, neu'n peidio â chael, yr hyn a benderfynwyd ganddo. O fewn yr amser hwn nid oes modd i ddyn neidio y tu hwnt i ewyllys: ni all wneud hynny oherwydd byddai'n weithred a fyddai wedi ei phenderfynu gan yr ewyllys; felly ni all fod yn fwy na ffydd mewn gallu mynd y tu hwnt i ewyllys. Ac fel yr wyf wedi ceisio dangos, penllanw penodol amser ymddieithriad gwirionedd, y dieithrio oddi wrth wirionedd sy'n nodweddu dyn, yw amser teyrnasiad technoleg. 

Os na chyfyngir ystyr y gair 'deallusyn', gall gyfeirio at bob un y mae'n fwriad ganddo newid ffordd pobl o weithredu trwy ddefnyddio'r 'deall' yn hytrach na grym pur, dall. Yn ogystal ag artistiaid, athronwyr, gwyddonwyr, llenorion, haneswyr, mae 'deallusion' hefyd felly yn cynnwys sylfaenwyr crefyddau, arweinwyr crefyddol, arweinwyr gwleidyddol a'u dilynwyr, a chynhyrchwyr cyfoeth economaidd - pan ddefnyddir grym ganddynt mewn modd dall, ond er budd gwella, yn eu barn hwy y gymdeithas y maent yn gweithredu ynddi. Yn wir, gellir dweud bod pob un ohonom yn 'ddeallusyn', oherwydd mae gweithredu dynol yn dymuno trawsffurfio pethau yn ôl amcanion syniadau sydd, i ddechrau, ddim ond yn bodoli yn y 'deall' - syniadau y mae dyn yn dymuno iddynt fod yn realiti. 

Fel y dywedais eisoes, mae'n anorfod bod tragwyddoldebau yn dod i'r hyn a alwaf yn gylch ymddangosiad (ac yn wir, i'r cylchoedd di-ben-draw amrywiol) wrth iddynt ddigwydd - ac mae hanfod y rheidrwydd hwn yn wahanol i ystyr nihilistaidd 'ffawd'. 

Mae dyfodiad cyn-hanes a hanes nihiliaeth, felly, yn angenrheidiol; mae holl hanes y byd yn angenrheidiol. Ac mae meddwl mewn modd awthentig yn dangos mai ein hamser ni yw'r amser pan mae pobloedd wedi eu tynghedu i fod eisiau rheoli a dominyddu'r Blaned mewn modd technolegol, gan roi'r gorau i draddodiadau'r Gorllewin a phob traddodiad arall. Ond mae hefyd yn dangos, tra bydd, ei fod wedi ei dynghedu i ddirywiad, i'w fachlud ei hun - hynny yw, nid i ddifodiant, ond i ganiatáu, tu hwnt i'r yma a thu hwnt i farwolaeth, deyrnasiad digynsail 'ystyr digyffelyb gwirionedd'. 

Felly nid yw'r hyn rydych yn ei alw'n faes ymarferol gwleidyddiaeth yn ofod lle mae disgwyl i 'athroniaeth' fynegi barn er mwyn ei thrawsffurfio.

Mae maes ymarferol gwleidyddiaeth, fel unrhyw faes arall a ewyllysir, yn datblygu yn ôl ystyr awthentig 'tynged gwirionedd'. Ac fel y dywedais, mae'r broses lle mae maes ymarferol gwleidyddiaeth yn dod i ddirywiad, i fachlud, diolch i dechnoleg, wedi bod ar waith ers tro. Tasg athroniaeth awthentig yw dangos bod y broses hon yn anochel a'r angen i unigolion addasu iddi.

Ond nid effaith dangos hyn yw gwneud i bobl, trwy wrando, groesi breichiau a rhoi'r gorau i'w gweithredoedd. Yn wir, unai mae croesi breichiau yn weithred 'rydd' na fyddai'n bosib ei chyflawni - ond wedyn yn rhywbeth amhosib, ac felly nad yw'n bodoli - neu, petai'r breichiau mewn gwirionedd wedi eu croesi, gan rai, neu nifer, byddai hynny oherwydd mai dyna beth ddylai ddigwydd.

Beth am Heidegger? Mae'n ymddangos i mi'n amhosib darllen eich gwaith heb fod yn ymwybodol o bresenoldeb Heidegger. Ar y naill law, mae ieithwedd eich athroniaeth yn agosach, hyd y medraf ddirnad hynny, at Heidegger, ac yn mynd yn groes i raen y rhan helaeth o athroniaeth gyfoes. Rydych fel petaech yn parchu'r angen i beidio â lleihau popeth i'w ystyr echblyg, ac yn parchu'r darllenydd fel rhywun sy'n chwarae rhan wirioneddol yn natblygiad teithi eich meddwl, ac nid dim ond fel aelod o gynulleidfa yr ydych yn trosglwyddo ystyr iddynt ar ffurf neges. Rydych hefyd yn dychwelyd at Parmenides, a Heidegger yntau'n dychwelyd, wrth gwrs, at yr ysbryd barddonol sy'n nodweddu syniadaeth y meddylwyr Groegaidd cynnar.

Ond ar yr un pryd, rydych yn diffinio eich athroniaeth yn erbyn athroniaeth Heidegger, gan ddadlau ei fod wedi aros yn rhy hir gyda ffordd Platon o feddwl, a bod 'salwch ein hoes' yn dal i gael ei borthi gan poiesis Platon, ei gysyniad o 'ddod i bresenoldeb'. Wnewch chi ymhelaethu?

Mae'r ieithwedd sy'n tystio i 'dynged gwirionedd' yn gofyn am ymwybyddiaeth o nodweddion hanfodol holl hanes dyn. Mae honno'n ymwybyddiaeth sy'n angenrheidiol, wrth gwrs, ar gyfer darllen ysgrifau nifer fawr o athronwyr.

Teitl fy nhraethawd ymchwil oedd 'Heidegger a metaffiseg'. Ac yn naturiol mi wnaeth Heidegger gadw ei le fel cyd-sgwrsiwr i mi trwy gydol datblygiad fy nisgwrs athronyddol, ond yn bennaf oherwydd, yn yr ugeinfed ganrif, yr oedd yn un o feddylwyr mawr nihiliaeth. Er iddo feirniadu metaffiseg Nietzsche, mae'n rhannu'r un gofod â Nietzsche. Yn ôl Heidegger nid yw'r un endid yn dragwyddol; yn 'nhynged gwirionedd' mae pob endid yn dragwyddol. 

Mae Heidegger, fel y soniwch, yn ystyried 'ysbryd barddonol'. Y bwriad gyda 'Hanfod Nihiliaeth', fel f'ysgrifau eraill a gyhoeddwyd cyn hynny - yn bennaf oll, 'Y Strwythur Gwreiddiol', 1958 - yw rhoi sylw yn hytrach i ystyr awthentig a gwreiddiol yr hyn sy'n ddiymwad, hynny yw, y 'sylfaen', a'r modd anochel y mae pob 'thesis' yn cael ei gadarnhau.

Mae 'tynged gwirionedd' yn wrth-gerrynt i hanes nihiliaeth yn ei gyfanrwydd, a chyn-hanes nihiliaeth. Nid ffrwyth fy meddwl i ydyw, yn mentro llenwi'r gwagle sydd yn bodoli mewn meddyliau eraill, ond, yn hytrach, dyma'r cyfoeth di-ben-draw sydd eisoes yn llenwi meddwl pob un ohonom.

Ac i gwblhau f'ateb yn well, os yw un o'r ysgrifau yn 'Hanfod Nihiliaeth' yn dwyn y teitl 'Dychwelyd at Parmenides', mae hynny oherwydd bod yr ysgrif yn dangos bod Parmenides yn gweld ystyr awthentig tragwyddoldeb. Ond mae'r ysgrif hefyd yn trafod sut y mae'n ein harwain at nihiliaeth a hynny oherwydd mai tragwyddoldeb 'bod' yn hytrach na thragwyddoldeb 'endidau' sy'n cael ei fynegi ganddo.

Trwy gyd-ddigwyddiad ai peidio, wrth ddarllen 'Hanfod Nihiliaeth' roeddwn hefyd wedi troi'n ôl eto at waith eich cyfoeswr Catholig, yr athronydd Awstraidd Ivan Illich (1926-2002), fu'n Offeiriad yn Eglwys Rufain. Roedd yn feirniad dylanwadol, wrth gwrs, ar gymdeithas dechnolegol ac acsiomau - anghydnabyddedig - y meddwl modern. I ba raddau rydych yn uniaethu â'i waith a'i ymwybyddiaeth ecolegol? Sylwais fod un o'i ysgrifau mwyaf adnabyddus, 'Yr Argyfwng Egni', wedi ei chyhoeddi tua'r un pryd â 'Hanfod Nihiliaeth'. 

Mae beirniadaeth Gatholig neu Gristnogol o gymdeithas dechnolegol yn mynegi safbwynt sy'n mynegi cyferbyniad, ond cyferbyniad oddi mewn i'r un feddylfryd sylfaenol ydyw, sef nihiliaeth. Gellir dweud hyn am feirniadaeth Heidegger o dechnoleg, ac am bob beirniadaeth o dechnoleg sydd yn deillio o'r argyhoeddiad bod pethau'r byd, pob un dim, yn bodoli mewn amser - amser yn yr ystyr o ofod lle maent, fel pethau sy'n perthyn i'r dyfodol, yn parhau'n ddim, neu fel pethau sy'n perthyn i'r gorffennol, eisoes yn ddim.

Cefais Illich yn gymorth mawr oherwydd ei fod yn ein hatgoffa o'r modd y mae'r gair 'egni' yn gweithio fel cywaith o ystyron, a grym perswâd yr ystyron hynny wedi ei adeiladu ar y myth fod yr hyn a fynegir yn rhywbeth cwbl naturiol.

Mae'n ein hatgoffa bod egni wedi ei gyflwyno fel priodoledd realiti sylfaenol erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n sôn hefyd am Ostwald, enillydd Gwobr Nobel ddechrau'r ugeinfed ganrif, a fu'n olygydd ar un o gyfnodolion gwyddoniaeth mwyaf dylanwadol y cyfnod. Ostwald gyflwynodd 'egni' fel yr unig hanfod gwirioneddol, fel swbstrad cyffredin corff ac enaid. Dywedodd fod pob bywyd yn gystadleuaeth am egni rhydd, a bod swm yr egni rhydd hwnnw sydd o fewn cyrraedd bob amser yn brin (1913). O ganlyniad, meddai Illich, mae modd 'cyfyngu asesiad o werth, dewis a gweithred [...] i dermau egnïeg, a hynny'n cynnwys realiti materol ac ysbrydol'.

A oes yna gyswllt fan hyn â'ch safbwynt mai'r berthynas uniongyrchol rhwng meddwl a gwneud sydd wrth wraidd cyfansoddiad y byd Gorllewinol? Os mai dyma hefyd ein dad-wneud, beth yw'r dyfodol y gall 'Ewrop' obeithio amdano?

Ers dechrau bywyd ar y ddaear, mae dyn wedi gosod y weithred dda yn erbyn y weithred ddrwg. Mae'r mythau hefyd yn cyfleu'r Dwyfol, hynny yw, y Pŵer Uchaf, ac ynddynt, y weithred 'dda' yw'r un sydd yn achub y gynghrair â'r Dwyfol, a'r un 'ddrwg' yw'r un lle mae dyn, trwy wrthwynebu'r Pŵer Uchaf, wedi ei dynghedu i ddistryw. Hyd yn oed yn nhestunau'r Hen Destament, yn y termau hyn y mynegir pethau. Felly hyd yn oed mewn Cristnogaeth a Chatholigiaeth. Ac felly hefyd yn gwahanol gyfluniadau a ffurfiodd hanes Catholigiaeth yn y ganrif ddiwethaf, gan gynnwys cynnig Ivan Illich. Mae ei gysyniad o 'ecwiti', o gyfiawnder, yn un o'r ffyrdd niferus y mae gweithred 'dda' yn medru cael ei mynegi, hynny yw, egni 'da'. Mae gweithredu, os cofiwch, yn perthyn i'r ewyllys, i benderfyniad, yr 'egni' yn yr ystyr ehangaf.

Daw ystyr y gair olaf hwn o'r Groeg enérgeia. Yn syniadaeth Aristoteles, enérgeia yw'r grym sy'n gwireddu potensial pob un peth. Heb y grym hwn nid oes modd i'w realiti fodoli, ac fe geir diddymdra. Egni yw un o elfennau creiddiol nihiliaeth, yn yr un modd ag y mae'r cyferbyniad rhwng 'da' a 'drwg', yr ewyllys am bŵer ac egni, yn un o elfennau creiddiol nihiliaeth.

Mae cariad at Grist yn sicr yn antithesis drygioni gwyrdröedig Lwsiffer a'i ddilynwyr, ond hyd yn oed yma mae'r ddau wrthwynebwr yn tyfu o'r un tir, y tir hwnnw sydd, yn ei ddyfnderoedd, yn mynegi'r argyhoeddiad bod pethau'n ddim. Ac fel y soniais, mae'r argyhoeddiad hwn yn gyrru trais eithafol, sydd yn ymdrin â phopeth fel petai'n ddim.

Heddiw, y ffurf fwyaf pwerus ar egni yw gwyddoniaeth a thechnoleg, yr aparatws techno-wyddonol. Daeth i'r amlwg gyda diwylliant Ewropeaidd. Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd cafodd ei etifeddu gan yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd, ac yna gan Rwsia.

Fel y gwyddom, ystyriwyd ystyr 'bod' a 'di-fod' ar gyfandir Ewrop yn y lle cyntaf. Nid yw Ewrop bellach, wrth gwrs, yn dominyddu'r byd, ond mae'n bosib mai dyma'r rhan o'r byd a edrychodd gyntaf ar 'dynged gwirionedd', ac mae'n bosib mai pobloedd Ewrop yw'r cyntaf i ddeall gwallgofrwydd a ffolineb enérgeia. Yr ymwybyddiaeth hon yw'r cam cyntaf ar y llwybr hwnnw sy'n arwain at fachlud, at ddirywiad enérgeia.

Beth am y tensiwn wrth galon ein profiad fel bodau dynol: rhwng gostyngeiddrwydd a'r ysfa i ymestyn y tu hwnt i'n hunain? Mae'r tensiwn hwn yn gwyrdroi ar brydiau - yr hyn yr ydych chi, ac eraill o'ch blaen, er enghraifft Dostoiefsci, wedi ei ddisgrifio fel yr awydd i fod yn fwy na ni'n hunain. Ac yn gynharach eleni, dywedoch mewn cyfweliad yn la Repubblica, fel y dywedodd Goethe, bod dau enaid yn byw yn eich brest. Credaf y dylsem gymryd sylw o'r sentiment hwn, ac yntau'n cael ei fynegi gan athronydd 88 oed sydd hefyd yn awdur 'Hanfod Nihiliaeth'. A ydym, yn anochel, wedi ein hollti? Ac ai dyma ffynhonnell werthfawr ein prydferthwch dynol?

Rwyf wedi cyfeirio hyd yma at ddwy wedd sylfaenol y ddynoliaeth: ewyllys dyn i drawsffurfio pethau er mwyn gwireddu ei brosiectau ei hun (bach neu fawr, 'empiraidd' neu 'drosgynnol'), ac ymddangosiad 'tynged gwirionedd', hynny yw, ymddangosiad tragwyddol y tragwyddol. Y ddwy wedd hon yw'r 'ddau enaid sy'n byw ym mrest pob dyn'.

O'r dechrau mae 'enaid' yr ewyllys yn gwahanu oddi wrth 'enaid' ymddangosiad 'tynged gwirionedd' - megis yr heliwr yn datgysylltu ei drem o'r wybren lle hed yr adar y deisyfa eu saethu. Mae'n gweld yr awyr, ond nid yw'n edrych ar yr awyr. Datgysylltiad neu wahaniad y trem hwnnw o'r nen yw gwahaniad y ddaear oddi wrth dynged. Beth a wyddom heddiw am 'dynged gwirionedd'? Gwyddom na wyddom ddim. Ac eto, gan fod dyn yn byw ar y ddaear, mae'n gweld 'tynged gwirionedd': golau mawr tynged yw'r golau dyfnaf hwnnw ym mhob dyn.

Mae 'dyn' fel cardotyn na ŵyr sut i fod yn frenin ac sydd, fel cardotyn, angen deisyfu cyn gymaint ag sydd ei angen arno, ac felly, mae trawsffurfio'r byd yn angenrheidiol iddo. Cardota yw calon yr ewyllys i bŵer technolegol. Mae tynged hefyd yn dangos bod 'cardota' dyn wedi ei dynghedu i fachlud fel yr haul, a bod ei frenhindod wedi ei dynghedu i ymddangos yn rhydd o'r cymylau sydd yn ei amgylchynu.

Rydym wedi ein rhwygo'n anochel, fel y dywedwch, mor anochel â'r gorwel ym machlud yr haul. Mae hyd yn oed ysblander prydferthwch a phrydferthwch dynol yn perthyn i amser y cyferbyniad rhwng tynged a gwahaniad y ddaear oddi wrth dynged. Yn y myth, onid Lwsiffer yw llewyrch ac ysblander yr 'un sy'n cario'r golau'? Ond oherwydd ei fod yn gwadu gwirionedd, cysgod yw'r ysblander hwn o'i gymharu â golau 'tynged gwirionedd'. 


Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands, Cyd-olygydd O'r Pedwar Gwynt.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Mae dyn fel cardotyn na ŵyr sut i fod yn frenin; mae trawsffurfio'r byd yn angenrheidiol iddo

Dyddiad cyhoeddi: 22·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…

Dadansoddi


Jordi Puntí

A yw'r sefyllfa yng Nghatalwnia heddiw yn Kafkaesque felly? Mae llywodraeth Sbaen fel petai'n dymuno iddi fod. Mewn cyfnodau cythryblus, mae llenyddiaeth yn llwyddo o bryd i'w gilydd i ddod o hyd i hollt ar sgrin fawr y newyddion, ac yn torri trwodd gan daflu rhywfaint…

Dadansoddi


Casia Wiliam

Dwi wedi symud tŷ naw o weithiau yn ystod fy mywyd, ac ym mis Hydref, a minnau bellach yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, fe fydda i’n symud eto. Rydw i a Tom wedi bod yn byw yn ein fflat…

Adolygu


Elan Grug Muse

Petawn i’n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i’n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i’n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae darllenwyr Cymru wedi arfer efo nofelau realaidd, pridd-ac-adfeilion-a-charcasau-ŵyn-bach, a thros y blynyddoedd mae nhw wedi glynu’n reit ystyfnig at yr hyn maen nhw’n ei hoffi. Pwy a ŵyr, wedyn, be wnân nhw efo nofel…

Dadansoddi


Gwyn Griffiths

Derbyniodd Gwyn Griffiths wobr gyfieithu Ostana yn yr Eidal, am ei waith yn cyd-olygu dwy flodeugerdd yng nghyfres Francis Boutle o ieithoedd llai-eu-defnydd Ewrop. Llenyddiaeth Llydaw yw testun y gyfrol gyntaf ac mae’r ail, The Old Red Tongue, yn gyfrol swmpus o ryw 1,000…

Dadansoddi


Gerald Morgan

Mae tinc o euogrwydd yn poeni’r meddwl. Newydd ddychwelyd o Lydaw wedi wythnos o wyliau gyda pherthnasau – braf iawn. Bwyta’n dda, mwynhau’r traethau, trefi Pont-Aven, Pontivy, Concarneau a Landerneau. Cyngerdd egnȉol gan gôr meibion Tregunc yn canu caneuon y môr, arddangosfa fawr o waith Picasso, ac yn…