Cyfweld

Y saith chwyldro - rhagflas

Detholiad o gyfweliad rhifyn Gwanwyn 2018


Cynog Dafis yn holi R Gareth Wyn Jones

Amser darllen: 5 munud

28·03·2018

Rydyn ni’n byw mewn oes anthropogenaidd. Mae tra-arglwyddiaeth ein rhywogaeth ni ar y blaned yn llethol. Goblygiadau hynny yw ein bod ni’n llethu popeth arall. Rhan o effaith hyn yw’r argyfwng amgylcheddol, sy’n llawer mwy amlweddog na dim ond newid hinsawdd, e.e. colli bioamrywiaeth. Rydych chi’n trafod hyn yn fanwl yn eich darlith [Darlith Edward Lhuyd 2017] ac yn rhagweld ein bod ar drothwy seithfed chwyldro. Ai’r hyn ry’ch chi’n ei olygu gan hynny yw ein bod yn ymwrthod â defnydd o danwydd ffosil, er bod digon ar ôl, yn harneisio ynni adnewyddadwy ar raddfa helaeth iawn, iawn? Dydych chi ddim yn sôn yn eich darlith o gwbl am ynni niwclear. Ydw i’n iawn i gymryd mai dyna sylwedd y seithfed chwyldro?

Mae’n fwy cymhleth na hynny. Rydan ni wedi creu dibyniaeth anhygoel ar danwydd ffosil a hynny’n syfrdanol o sydyn. Mae’n gwbl amlwg bod rhaid symud ar fyrder oddi wrth yr arfer o losgi tanwydd ffosil – ugain mlynedd, dyna’r cyfan, sydd gynnon ni i wneud hynny. Y cwestiwn ydi sut. Mae’n gwestiwn technegol. Mae ynni adnewyddadwy yn rhan o’r ateb, wrth gwrs. Pwy a ŵyr. Dwi ddim yn ffafrio ynni niwclear, nid oherwydd fy mod yn meddwl y byddai’n beryg rhoi ynni niwclear yn yr Wylfa fel y cyfryw ond oherwydd nad ydw i’n gweld sut, ar lefel fyd-eang, mae’n bosib datblygu ynni niwclear mewn ffordd ddibynadwy o fewn ugain mlynedd. Dwi wedi gweithio mewn llefydd fel Aleppo yn Syria ac yng ngogledd Nigeria, lle mae Boko Haram rŵan, ac mae’r syniad o gael atomfeydd yn y llefydd ansefydlog hynny yn erchyll i mi. Dwi’n ofni bod newid hinsawdd am greu byd mwy ansefydlog fyth yn yr ugain neu’r deng mlynedd ar hugain nesaf yma; mae’r syniad ein bod ni’n ceisio ateb y broblem trwy ddefnyddio technoleg sydd â’i phroblemau ei hun yn beryg.
 

Battle for Anthropocene #1, 2011, gan Ştefan Ungureanu (techneg gymysg)

Ond mae hyn yr un mor bwysig: os edrychwch chi ar y patrwm dwi’n ei olrhain yn fy narlith, mae pob chwyldro wedi cyflymu prosesau bywyd; mae’n arbennig o wir am y chwyldro diwydiannol. Felly, os darganfyddir ffynonellau sy’n cynnig digonedd o ynni di-garbon yn y dyfodol, mi fydd hynny’n arwain at fwy o ynni, mwy o waith a mwy o rym. Os ydi’r ddamcaniaeth yn gywir, mi fydd hynny’n golygu mwy o ganoli grym ac mi fydd bywyd yn mynd yn fwyfwy anodd i’r rhan fwyaf o bobl. Felly, os llwyddwn trwy ddatrysiadau technegol, dwi’n ofni mai canlyniad hynny fydd creu pwn mawr i ni’n hunain. Dyma’r cwestiwn mawr: a ydi hi’n bosib defnyddio’r seithfed chwyldro i ailystyried ein perthynas efo’r ynni rydan ni’n ei ddefnyddio a’r byd rydan ni’n byw ynddo?

Mae hynny’n golygu mai dim ond rhan o’r ateb ydi’r ffics technolegol?

Rhaid wrth ddatrysiad technolegol, er enghraifft i leihau’r methan a gynhyrchir gan anifeiliaid. Ond tu hwnt i hynny, dwi’n amheus y bydd yn ddigonol. Dwi’n meddwl bod yr argyfwng yn llawer mwy dwys. Dwi’n besimistaidd yn yr ystyr yna. Dyma sialens fwyaf y ddynoliaeth. Rydan ni wedi llwyddo i wella’n byd am gannoedd os nad am filoedd o flynyddoedd, trwy ddefnyddio ynni yn y ffordd hon. A oes yna ben draw i hynny?

Ac mae twf ym mhob ystyr yn digwydd o’n cwmpas, a twf yn sacrosanct i bolisïau economaidd. Sut ydyn ni’n symud o’r dryswch presennol? Rydych chi’n dweud, os ydyn ni’n parhau i dyfu, bod i hynny ganlyniadau go ddifrifol.

Mae yna effeithiau clir ar yr amgylchfyd, ond beth am y goblygiadau arnom ni fel pobl? Rydan ni’n gweld eisoes y pwysau y mae cymaint o’r genhedlaeth iau yn ei ysgwyddo, a’r hyn sy’n debyg o ddigwydd ydi y bydd grŵp bach yn elwa ar y sefyllfa. Dwi’n ofni mai dyna ddigwyddith. Bydd y ddynoliaeth yn goroesi trwy leihau carbon, ond bydd llawer iawn o’r byd yn mynd yn ddiffeithwch a grŵp bach yn rheoli.

Rydych chi wedi ysgrifennu am y model economaidd cyfredol ac wedi sôn mewn llefydd eraill am fargen Galbraith. Ar sail y fargen honno, ry’n ni’n derbyn bod twf yn digwydd, oherwydd bod rhywfaint o’r twf hwnnw yn gallu cael ei ddefnyddio i wella lles y lliaws. Ond rydych chi o’r farn bod hynny’n rysáit amheus, oherwydd bod twf economaidd diddiwedd yn creu problemau economaidd difrifol yn y pen draw.

Mae Galbraith a Keynes yn dweud ein bod wedi taro bargen Ffawstaidd efo traha. Rhaid i chi gymryd gofal mawr wrth weithredu yn y ffordd hon, meddai Galbraith, neu fel arall ceir problemau dybryd. A dyna sydd wedi digwydd. Mae’n amlwg bod rhaid rheoli’r broses hon ond mae yna gwestiwn mwy dwys na hynny, sef ydi’r model yn galluogi rhannu’n deg pan mae’r adnoddau’n brin. Mae newid hinsawdd yn enghraifft glasurol o’r hyn a elwir ‘the tragedy of the commons’. Rydan ni’n anorfod yn rhannu effeithiau’r carbon deuocsid ychwanegol sy’n cael ei greu gan y ddynoliaeth – mae’n cael ei drosglwyddo i bob rhan o’r byd. Mae hyn yn effeithio ar bawb yn y pen draw ond tydi’r amgylchiadau cyfredol ddim yn caniatáu i ni ddod i delerau ag effeithiau hyn i gyd.

Beth am y syniad yma o’r ‘tir comin byd-eang’? Pan o’n i’n Aelod Seneddol, buais yn gweithio gyda dyn o’r enw Aubrey Meyer oedd yn rhedeg sefydliad bychan ond hynod ddiddorol o’r enw y Global Commons Institute. O safbwynt Meyer, y dasg yw sicrhau ein bod ni, fel dynoliaeth, yn defnyddio’r amgylchedd – gan gynnwys yr holl elfennau hynny sy’n perthyn i ni gyd: hinsawdd, bioamrywiaeth, cyfoeth natur – fel ‘tir comin’. Y peryg yw bod lleiafrif pwerus yn cipio’r ‘tir comin’ hwn ac yn ei ddefnyddio at eu pwrpas eu hunain, fel a ddigwyddodd yng nghefn gwlad Cymru ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Tydi’r rhagolygon ddim yn dda. Tan yn ddiweddar iawn, roeddan ni’n byw mewn llwythau bychain, mewn grwpiau bach teuluol, a’n hymlyniad at ein llwyth bach ni, ein cenedl, yn bopeth; hwyrach nad oeddem yn edrych tu hwnt i hynny, a hwyrach heddiw, am y tro cyntaf yn ein hanes, ein bod ni’n gorfod meddwl amdanom ein hunain fel dynoliaeth. Synio am ein hunain fel Cymry, Ffrancwyr ac ati ydi’r arfer wedi bod, ac mi rydan ni’r Cymry, wrth gwrs, yn hoff o sôn am ein milltir sgwâr ...

Ond y cwestiwn nawr yw pa un ai a yw’r ddynoliaeth yn mynd i allu gweithredu fel cymuned gydwladol, fyd-eang gan rannu adnoddau a chyfoeth yn deg er lles pawb, nid dim ond er lles y lleiafrif, a chydnabod, wrth gwrs, yr hyn nad yw wedi ei gydnabod ddigon tan yn gymharol ddiweddar, sef bod adnoddau’n gyfyngedig. Oes yna rai arwyddion gobeithiol? Beth am gytundeb Paris?

Mae cytundeb Paris wedi bod yn wirioneddol wych o safbwynt y byd diplomataidd, o safbwynt gwleidyddol, ond o safbwynt y wyddoniaeth does neb wedi ymrwymo i wneud y newidiadau angenrheidiol ac mae pethau wedi gwaethygu oddi ar hynny. Mae Trump wedi wfftio’r peth yn gyfan gwbl, ac felly rydan ni mewn sefyllfa lle mae un o wledydd mwyaf pwerus y byd yn tynnu i’r cyfeiriad arall. Mae’n anodd bod yn optimistaidd. Fy marn i ydi bod newid hinsawdd eithaf damniol am ddigwydd, a bod hynny’n anochel. Dwi ddim yn ein gweld ni’n osgoi codiad tymheredd llai na dwy radd Celsius.

Clywais glerigwr unwaith, Bruce Kent, yn dweud: un peth yw optimistiaeth, ond mae bod yn ddiobaith yn waharddedig. Fedrwn ni ddim caniatáu rhoi’r gorau i obeithio. Rydyn ni’n gorfod byw mewn gobaith am fyd lle mae dynoliaeth yn cyd-dynnu, yn derbyn egwyddor cydweithrediad yn hytrach na chystadleuaeth noeth, ddilyffethair.

Ond rhaid derbyn bod chwyldroadau dymchweliadol wedi digwydd. Ystyriwch, er enghraifft, y Pla Du, pan gollodd Ewrop draean ei phoblogaeth, neu 70,000 o flynyddoedd yn ôl, pan grebachodd y ddynoliaeth yn fil o bobl. Dwi’n ffyddiog y bydd y ddynoliaeth yn parhau ond dwi ddim yn sicr y bydd y drefn bresennol, sy’n gyfleus i ni heddiw, yn goroesi. Tydi’r dystiolaeth ddim yn ddigon cadarn i awgrymu fel arall.

Ond rydych chi hefyd yn credu bod angen model economaidd newydd, i ddisodli neoryddfrydiaeth?

Oes, yn sicr, dyna pam dwi’n sgwennu’r pethau hyn, achos mae’n rhaid creu’r drafodaeth ar sail y wybodaeth orau sydd ar gael wrth edrych i’r dyfodol.

A bydd rhaid i hynny olygu adnewyddiad moesegol? Dwi’n gwybod bod gyda chi ddiddordeb mewn crefydd. Rydych chi’n wyddonydd i waelod eich traed ac i fêr eich esgyrn ond mae gyda chi ddiddordeb mewn crefydd hefyd.

Tydi bod yn rhesymegol yn unig ddim yn ddigonol. Tydan ni ddim yn medru dibynnu ar ein hymateb rhesymegol; rydan ni angen ystyried llawer mwy ar ein hymateb emosiynol a’r gwerthoedd emosiynol sy’n llywio bywydau. Mae’r byd rydan ni’n byw ynddo fo heddiw yn pwysleisio ac yn gwobrwyo materoliaeth ac mae angen ailfeddwl hynny’n llwyr. Heb ailfeddwl hynny, mae’n anodd iawn ailfeddwl y dimensiwn economaidd.

Mae angen newid diwylliannol, felly?

Mae’n bwysig iawn ystyried yn ofalus sut i symud gam ymlaen, gan gofio ein bod yn paratoi er lles y dyfodol – er y bydd amgylchiadau anodd dros ben yn siŵr o ddatblygu. I roi enghraifft i chi: pan oeddwn i yn Aleppo, Syria rhyw ugain mlynedd yn ôl – yn cynrychioli llywodraeth Prydain yno, ar ryw olwg – roedd newid hinsawdd eisoes ar y bwrdd, a ninnau’n trafod beth fyddai’n digwydd pan fyddai pobl yn trio dianc i Ewrop. Ond ychydig ddigwyddodd yn sgil y trafodaethau hynny i baratoi at y newidiadau hyn, er bod y llywodraethau yn llawn sylweddoli’r datblygiadau tebygol. Cyfrifoldeb pobl fel fi ydi canu’n groch am y problemau, gan obeithio y bydd y bobl mewn grym yn gwrando. 


Mae Cynog Dafis yn fab i weinidog Methodist, ac yn gyn-athro a chyn-wleidydd.

Mae R Gareth Wyn Jones yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Tydi bod yn rhesymegol yn unig ddim yn ddigonol. Tydan ni ddim yn medru dibynnu ar ein hymateb rhesymegol; rydan ni angen ystyried llawer mwy ar ein hymateb emosiynol a’r gwerthoedd emosiynol sy’n llywio bywydau

Dyddiad cyhoeddi: 28·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Ym myd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Gwn fod y Fanaweg wedi cael ei hatgyfodi gyda chryn lwyddiant yn ddiweddar, ac yn wir, maentumiai rhai na fu iddi farw gyda Ned Maddrell o gwbl. Ond credaf ei bod yn deg dweud iddi ddod i ben fel iaith…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.

Gwneid…

Dadansoddi


Andrew Green

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y…