Cyfweld

Y saith chwyldro - y cyfweliad llawn


Cynog Dafis yn holi R Gareth Wyn Jones

Amser darllen: 25 munud

30·03·2018

Rydych chi’n trafod hanes y blaned a hanes y ddynoliaeth yn eich darlith Ynni, Gwaith a Chymhlethdod. Mae’r cyfnod amser sydd dan sylw yn rhychwantu pedwar biliwn o flynyddoedd, o gyfnod ffurfio’r blaned hyd at heddiw. Mae gyda chi ddamcaniaeth hynod o uchelgeisiol, os ca’ i fentro dweud hynny. Rydych wedi rhoi perspectif cwbl newydd i mi ar bethau. Dwi’n credu bod cyhoeddi’r ddarlith hon yn ddigwyddiad o bwys mawr. A dwi wrth fy modd bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac O’r Pedwar Gwynt wedi penderfynu rhoi sylw i’r gwaith. Eich thesis chi yw bod ynni wedi chwarae rhan hollol allweddol mewn chwe chwyldro yn hanes y ddynoliaeth. Rydych yn sôn am seithfed chwyldro ond canolbwyntiwn ni i ddechrau ar y chwe chwyldro cyntaf. Beth sy’n gyffredin rhwng y chwe chwyldro hyn; ym mha ystyr maen nhw’n debyg?

Y prif reswm maen nhw’n debyg ydi’r ddibyniaeth ar ffynhonnell newydd o ynni, neu newid sylweddol yn yr ynni sydd ar gael i’w ddefnyddio. Y ddamcaniaeth, yn syml iawn, ydi hyn: o gael ffynhonnell o ynni, galluogir gwneud gwaith, ac mae’r gwaith hwnnw’n creu cymhlethdod; mae hynny’n wir o safbwynt y ffiseg wreiddiol hefyd. O safbwynt bywyd ar y ddaear, er mwyn creu’r gell, sef y gyfundrefn sy’n galluogi bywyd i fodoli, mae’n rhaid i chi gael ffynhonnell o ynni. A dyna i chi sail y chwyldro cyntaf: ffynhonnell o ynni sydd yn galluogi creu cyfundrefn barhaol, sef cell sydd yn medru cynnal ac atgynhyrchu ei hun ac ymateb i newidiadau allanol mewn ffyrdd cadarnhaol, er mwyn goroesi; hynny trwy fanteisio, er enghraifft, ar ffynonellau bwyd neu trwy ddianc rhag peryglon. Dros gyfnod maith y chwe chwyldro cafwyd newid sylfaenol yn y ffynonellau ynni hyn ac yn effeithlonrwydd y defnydd o’r ffynonellau, hyd at y dydd heddiw. Gyda llaw, ar ôl chwilota, dwi’n darganfod rŵan bod eraill wedi dweud pethau nid annhebyg!

Rydych chi’n sôn bod y chwyldro ynni ym mhob achos yn galluogi cyflawni gwaith ychwanegol a hynny, yn ei dro, yn creu cymhlethdod. Yn chwyldroadau’r cyfnod cynharaf, cymhlethdod biolegol sydd dan sylw, ac yn y chwyldroadau mwyaf diweddar, cymhlethdod cymdeithasol.

Mae hynny’n hollol gywir, ond mae yna elfen o gymhlethdod materol, o greu mater, yn perthyn i bob un. Pan ystyrir y bywydegol, amlgelledd sydd dan sylw, o lewod i goed derw, ond yn achos datblygiad dynol mae’r cymhlethdod yn un cymdeithasol yn ogystal â materol.

Fedrwch chi esbonio pob un o’r chwyldroadau yma yn eu tro i ni? Mae’n werth nodi’r hyn rydych chi’n ei bwysleisio yn eich darlith [gw. ‘Ynni, gwaith a chymhlethdod’, Rhifyn Gwanwyn 2018], sef bod y cyfnod amser rhwng y chwyldroadau hyn, drwy’r oesoedd, yn byrhau’n ddifrifol. Rydyn ni’n dechrau gyda chyfnodau o biliynau o flynyddoedd rhwng chwyldroadau, wedyn miliynau o flynyddoedd, ac yna miloedd – nes, yn y diwedd, mae’r gwahaniaeth amser rhyngddyn nhw yn gannoedd o flynyddoedd yn unig.

Yn achos y seithfed chwyldro, rydan ni’n sôn am ddegau o flynyddoedd, sy’n frawychus! Ond dowch i ni ddechrau efo’r chwyldro cyntaf: er mwyn cael cell fyw, rhaid cael ynni parhaus a pharhaol. Damcaniaeth ddiweddar, gan Nick Lane o Brifysgol Llundain, ydi bod y ffynhonnell honno o ynni i’w chael mewn tyrau o greigiau tyllog sy’n codi ar waelod y môr. Ynddynt, ceir hylif alcali sy’n pistyllio i’r môr. Gan fod pH y môr yn agos at 7, yn niwtral, a pH hylif alcali o gwmpas 10, mae hyn yn creu graddiant o brotonau H+. Rydan ni wedi arfer efo’r syniad o raddiant o electronau, sef llif o drydan (mae yna olau dros eich ysgwydd rŵan yn adlewyrchu hynny, er enghraifft); mae graddiant o brotonau, sef gronynnau positif, nid negatif, yn debyg iawn ac, fel trydan, yn cario ynni a’r gallu i wneud gwaith. Y ddamcaniaeth ydi bod y graddiant hwn o brotonau wedi galluogi datblygiad cell mewn ffordd sy’n gyson â deddfau thermodeinameg. Ond roedd yr ynni oedd i’w gael o hynny yn gyfyngedig i ychydig o lefydd ar y ddaear. Ac yn y llefydd hyn y datblygodd bywyd.

Rydyn ni’n sôn am bedwar biliwn o flynyddoedd yn ôl, felly?

Mae’r dystiolaeth orau’n dangos bod y blaned wedi ffurfio rhyw 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl a bywyd wedi dechrau ar y ddaear yma tua pedwar biliwn o flynyddoedd yn ôl – yn lled fuan wedi ffurfio’r blaned. Felly roedd y byd yn cael ei ffurfio dros gyfnod o 500,000 miliwn o flynyddoedd. Yr ail chwyldro oedd datblygiad y gallu i greu graddiant y protonau hyn trwy ddefnyddio ynni’r haul i hollti dŵr. Mi ddigwyddodd hynny o gwmpas biliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach. Datblygwyd, yn ara’ deg ac yn fiocemegol, y gallu i fanteisio ar ynni’r haul. Roedd hyn yn dibynnu ar gael cloroffyl – y cemegolion gwyrdd rydan ni’n eu gweld mewn bacteria ac mewn planhigion – i alluogi bachu ynni’r haul, ond hefyd i greu yr un graddiant o brotonau dwi newydd ei drafod. Dyma’r graddiant a ddefnyddir i syntheseiddio ATP, sef y cemegolyn mewn celloedd sy’n galluogi symud yr ynni o gwmpas y gell – nid yn annhebyg i bres mewn cell.

A’r trydydd chwyldro?

Y trydydd chwyldro ydi un o’r gwyrthiau mwyaf sydd wedi digwydd. Yn wreiddiol, dim ond celloedd syml a elwir yn rhai ‘procariotig’ a ddatblygodd. Roedd yna ddau fath o gelloedd procariotig: rhai a elwir yn facteria, sy’n enw cyfarwydd i ni, a rhai a elwir yn archea, sy’n ddarganfyddiad cymharol ddiweddar. Doedd neb yn gwybod am yr archaea pan oeddwn i’n dechrau astudio gwyddoniaeth. Ond ddiwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau, darganfuwyd procariot oedd yn tyfu mewn llefydd arbennig o galed, fel y Môr Marw.

Llefydd heriol, felly?

Dyna chi. Archaea ydi llawer o’r rheiny ac mae eu defnydd metabolaidd nhw’n wahanol i facteria. Y ddamcaniaeth ydi hyn: rhyw 1.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl, hanner ffordd trwy oes y byd, unwyd un gell facteriol ac un gell archaeol i greu cell ewcariotig, ac mae’r celloedd ewcariotig hyn yn cynnwys niwclews a meitocondria. Esblygodd y meitocondria o facteria a draflyncwyd gan yr archaea ac a gollodd y rhan fwyaf o’i enynnau. Mae’r meitocondria hwn yn gweithredu fel pwerdy bach yn y gell. O astudio celloedd eich iau, er enghraifft, mi ellir gweld bod o gwmpas dwy fil ohonyn nhw mewn un gell. Felly, ers yr uno hwn, mae cell ewcariotig yn medru cynhyrchu o gwmpas 300,000 gwaith yn fwy o ynni i bob genyn yn y gell. Mae hynny wedi newid ecoleg ynni celloedd yn y byd yn syfrdanol. O’r newid mawr hwn y datblygodd pob creadur aml-gell. Mae’r bacteria yn dal yma, yr archaea yn dal hefo ni, sef parhad y byd procariotig; maen nhw’n dal yn holl bwysig, yn hanfodol i’r byd hwn. Ond o greu’r naid i’r byd ewcariotig, crëwyd potensial ar gyfer bywyd llawer mwy cymhleth, bywyd amlgellog. Ar ôl oedi hir yn yr Oes Gambriaidd, rhyw 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mi gafwyd ffrwydrad o greaduriaid a ‘adeiladwyd’ o gelloedd ewcariotig. Ac o hynny y mae pob un ohonom yn tarddu.

Rydyn ni’n sôn fan hyn am ddechrau rhyw a dechrau cystadleuaeth?

Llawer mwy o gystadleuaeth. Y dystiolaeth ydi bod celloedd bacteria a’r archea yn medru trosglwyddo a rhannu genynnau, ac, wrth gwrs, mae hynny’n creu problem i ni heddiw. Er enghraifft, mewn ysbytai, os ydi un math o facteria yn datblygu y gallu i wrthsefyll gwrthfiotigau, maen nhw’n medru rhannu’r ‘wybodaeth’ yna efo’i gilydd heb gyfathrach rywiol, yn sydyn ofnadwy. Mae’n cynnig potensial i’r celloedd procariotig, ond mae’n bosib fod hyn wedi eu dal nhw’n ôl hefyd, oherwydd doedd yr elfen gystadleuol ddim yno i roi hwb iddynt.

Mae’r chwyldro nesaf, y pedwerydd chwyldro, yn agosach atom ni o lawer.

Yn ôl y dystiolaeth, er bod mwncïod wedi dechrau datblygu ymennydd mwy galluog ymhell yn ôl, mi oedd fforch esblygiadol yn eu hwynebu. Roedd hi’n bosib buddsoddi mewn cryfder, nerth bôn braich felly, mewn bol mawr mi fedrwn ni ddweud, neu mewn ymennydd, mewn gallu. Cyn rhyw ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl, doedd yna ddim digon o galorïau yn y bwydydd i ganiatáu buddsoddiad mewn ymennydd drudfawr, galluog. A’r ddamcaniaeth, yn ôl Richard Wrangham o Brifysgol Harvard, ydi bod ein cyndeidiau, Homo erectus yn ôl pob tebyg, wedi darganfod sut i ddefnyddio tân, a’i ddefnyddio i goginio, a bod y calorïau ychwanegol sy’n dod o goginio bwyd yn cael eu buddsoddi yn yr ymennydd. Mae hyn wedyn yn ein gwneud yn fwy galluog i ddal mwy o fwyd a’i goginio’n fwy effeithlon, gan sefydlu cylch cadarnhaol. Ystyrir i hyn ddigwydd o gwmpas rhyw 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae canran sylweddol iawn o’n calorïau yn cael ei defnyddio gan yr ymennydd; dyna lle mae tua chwarter y calorïau yn mynd. Yn ara’ deg, rhwng 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl ac o gwmpas 300,000 o flynyddoedd yn ôl, mi ddatblygodd yr amrywiol homonidau, sef Homo erectus, y soniais amdano eisoes, Homo neanderthalensis a Homo heidelbergensis ac eraill, ac yn y pen draw, Homo sapiens, sef ni. Y naid hanfodol, felly, oedd rheoli tân, coginio bwyd a buddsoddi ynni yn yr ymennydd. A dyma ni gymhlethdod yn dechrau lledu o’r bywydegol i’r cymdeithasegol.

Wedyn rydyn ni’n dod at amaethyddiaeth.

Am gannoedd o filoedd o flynyddoedd, mae’n debyg bod poblogaeth Homo erectus, ac yna Homo sapiens, yn fychan iawn. O gwmpas 70,000 o flynyddoedd yn ôl, ar ôl ffrwydrad mawr mewn llosgfynydd yn yr ardal a elwir yn Indonesia heddiw, roedd y boblogaeth ddynol i lawr i fil, yn ôl rhai. Ychydig iawn oedd wedi goroesi. Grwpiau bach, bach oedd y rhain, yn gorfod ymladd am eu bodolaeth. Cofiwch, yn y cyfnod hwn, mi oedd yna o leiaf bedair oes iâ, a’r iâ yn cynyddu ac yn cilio, a’r cnewyllyn bach yma o Homo erectus, wedyn Homo sapiens, wedi goroesi trwy hynny i gyd. Yn ara’ deg, roedd eu galluoedd nhw’n cynyddu, wrth i ynni gael ei fuddsoddi yn yr ymennydd ac, felly, mewn gallu.

Rydyn ni’n symud fan hyn nawr o’r miliynau i’r miloedd o flynyddoedd yn ôl. Rhyw bum i ddeng mil o flynyddoedd yn ôl y digwyddodd y pumed chwyldro, y chwyldro amaethyddol?

Dyna pryd y dechreuwyd dofi anifeiliaid ac y gwelwyd cynnydd yng nghnwd rhai mathau o laswellt, er enghraifft gwenith a haidd yn y Dwyrain Canol, reis yn Tsieina ac india-corn yn ardal Mecsico heddiw. Dechreuwyd gwella’r planhigion hyn a’u cynhyrchu mewn ffyrdd amaethyddol ar ddiwedd yr oes iâ ddiweddaraf. Ac wedyn, datblygwyd pentrefi a chymunedau a oedd yn rhannol amaethyddol ond hefyd yn parhau i ddibynnu ar hela. Doedd dim naid sydyn, felly, o hela i amaethu. Dechreuwyd defnyddio tir a oedd yn cael ei ddyfrio, er enghraifft i lawr yn Mesopotamia, a’r un peth yn y dyffrynnoedd yn Tsieina. Wrth i fwy o fwyd gael ei gynhyrchu yn y ffordd hon, roedd y boblogaeth yn cynyddu a gwelwyd datblygiad o fath arall: pentrefi a threfi sefydlog, a threfn a hierarchiaeth yn y trefi hyn. Roedd yna lawer mwy i’w amddiffyn o ganlyniad. Ar y cyfan, does yna ddim tystiolaeth bod y bobl gyffredin ar eu hennill rhyw lawer; doedd eu hiechyd ddim cystal ag iechyd y rhai a oedd yn dal i hela, ond roedd y rhifau’n cynyddu a’r ynni ffotosynthetig yn cael ei ddefnyddio at waith y gallai pobl ei gyflawni. Roedd y gwaith hwnnw wedyn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu grym, yn bŵer i’r uchelwyr yn y gymdeithas, nes creu ymerodraethau bach.

Dyna lle mae ynni’n chwarae ei ran, felly? Trwy amaethu, roedd y ddynoliaeth yn medru tynnu ar ffynhonnell ynni ychwanegol a dyna oedd yn gyrru popeth arall?

Dwi wedi bod yn meddwl am hyn gryn dipyn yn ddiweddar, yng nghyddestun ystadau mawr Ewrop, ac yng Nghymru hefyd – beth oedd ystad ar un adeg ond ffordd o reoli ynni, ynni ffotosynthetig? Os oedd gynnoch chi ystad o dir da, roeddech yn bwydo llawer o bobl, a oedd wedyn yn dibynnu arnoch, ac yn gweithio i chi; roedd hon yn ffordd o roi grym i chi’ch hun. Dychmygwch y dylanwad fyddai gan Gymru petai tir da i’r gorllewin, petai Cantre’r Gwaelod heb gael ei foddi ac ystadau ffrwythlon gynnon ni i’r gorllewin. Byddai hanes Cymru yn wahanol.

Byddai hanes Prydain yn wahanol. Dyna pam rydyn ni’n galaru cymaint am Gantre’r Gwaelod!

Mi oedd o’n newid sylweddol a gymerodd filoedd o flynyddoedd i ddatblygu drwy’r byd. Mi oedd pobl yn dal i hela tra oedd hyn i gyd yn mynd ymlaen. Ac maen nhw’n dal i wneud mewn rhannau o’r byd heddiw, wrth gwrs. Cafwyd datblygiadau eraill yn y cyfnod hwn: dechreuwyd defnyddio ynni adnewyddadwy, trwy gyfrwng melinau gwynt a dŵr ac ati. Mae yna lyfr diddorol gan Ian Morris, Why the West Rules – For Now (2010), sy’n cymharu datblygiad yn y gorllewin, sef yn Rhufain ac yn y Dwyrain Canol, efo datblygiad yn Tsieina. Mae’n dod i’r casgliad bod yna benllanw i ddatblygiad cymhlethdod cymdeithasol sydd yn bosib o ddibynnu ar ynni ffotosynthetig amaethyddol yn unig; bod y penllanw a welwyd yn Rhufain yn y gorllewin, a’r diwylliant Song yn Tsieina, wedi digwydd oherwydd bod y gymdeithas honno wedi dibynnu ar amaethyddiaeth ac ynni ffotosynthetig yn unig.

Mae hyn yn dod â ni at y chweched chwyldro. Cannoedd o flynyddoedd sydd dan sylw nawr, a’r chwyldro diwydiannol wedi digwydd rhyw ddau gan mlynedd a hanner yn ôl.

Dyma’r darganfyddiad bod ynni yn cuddio yng nghrombil y ddaear, wedi bod yn cuddio yno am gannoedd o filoedd o flynyddoedd, a bod modd defnyddio’r adnoddau hyn – glo yn wreiddiol, wedyn olew a nwy, fel ffynhonnell ynni. Yn y pen draw, roedd hyn i gyd yn dibynnu ar yr haul. Mi fedrwch ddeall pam roedd pobl yn addoli’r haul yn eu hamser! Ond trwy ddefnyddio gwaddol yr oesoedd, gweddnewidiwyd y byd.

Mae’n deg dweud bod yna newidiadau pwysig iawn wedi digwydd cyn y chwyldro diwydiannol, wrth gwrs, yn enwedig o safbwynt ein hymwneud â thechnoleg a gwyddoniaeth a hefyd cyfalafiaeth. Ond y cyfuniad o gyfalafiaeth, technoleg a’r gallu i ddefnyddio tanwydd ffosil i gynhyrchu pŵer sydd wedi gweddnewid y byd, nid dim ond ein defnydd o danwydd ffosil.

Cyn i ni droi at y seithfed chwyldro: yn y stori hon, mae dyfodiad yr homonid, datblygiad y ddynoliaeth, yn ffactor trawsnewidiol ynddo’i hun. Fyddech chi’n hoffi dweud rhywbeth ynghylch sut rydych yn gweld y ddynoliaeth, am nodweddion dyn fel creadur, am ei hynt drwy’r oesoedd fel petai, a’i effaith ar y byd, ar yr amgylchfyd naturiol, ar rywogaethau eraill? A ydych chi’n gweld dyn yn greadur unigryw?

Mae’n gwestiwn llawer mwy anodd nag mae’n ymddangos. Mae’r berthynas rhwng y defnydd o ynni a bywydeg dros gyfnod o biliynau o flynyddoedd wedi trawsnewid y byd. Yr ail chwyldro, sef ffotosynthesis, sydd gen i dan sylw fan hyn. O ocsigeneiddio’r awyr, mi newidiodd hynny’r byd yn gemegol; mae yna newidiadau syfrdanol wedi digwydd yn ddaearegol ac yn ddaearyddol oherwydd hynny. Ond erbyn hyn, mae’r sefyllfa wedi newid eto. Rydan ni’n sôn am ddylanwad un rhywogaeth yn unig ar y ddaear gyfan. Beth sy’n syfrdanol i mi ydi, er nad ydan ni’n dibynnu’n uniongyrchol ar ffotosynthesis heddiw, rydan ni’n dal i fachu mwy fyth o’r defnydd ffotosynthetig yn y byd.

Paentiad o’r gyfres Anthropocene gan Ştefan Ungureanu

O’r tanwyddau ffosil felly?

Yn ogystal â’r tanwyddau ffosil, mae’r ganran o diroedd y byd rydan ni’n eu ffarmio, o’r coedwigoedd a dorrir i’r dŵr a ddefnyddir i ddyfrio’n cnydau, yn dal i gynyddu. Ar ben y defnydd o danwydd, rydan ni’n defnyddio adnoddau eraill, ac felly, rhwng popeth, yn cystadlu efo bron pob anifail yn y byd, ar wahân i’r rhai sydd wedi bod yn ddigon doeth i ddod i gytundeb symbeiotig efo ni, fel defaid a geifr. Mi rydan ni’n ddigon parod i edrych ar eu holau nhw! Ond wrth gwrs, maen nhw’n cael eu lladd yn ifanc, yn talu pris go fawr am y berthynas efo’r ddynoliaeth. Felly erbyn heddiw, mae’n dylanwad ni’n sylweddol iawn a does dim gofod mwyach i’r hen anifeiliaid mawr oedd yn crwydro’r ardal hon ddim ond ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n anodd iawn gweld sut mae modd newid hynny. Un o’r elfennau eraill sydd yn llawn mor bwysig ag ynni yw’r berthynas rhwng ynni a chymhlethdod. Mae yna bont yn eu cysylltu, sef homeostasis. Rhaid i unrhyw fath o gell reoli ei milieu, ei chynefin mewnol, er mwyn cynnal cysondeb. Rhaid i gell hefyd ymateb yn barhaus i newidiadau allanol. Homeostasis ydi enw’r broses hon; mae’n ganolog i’r cysylltiad rhwng ynni, gwaith a chymhlethdod. Dros y blynyddoedd, datblygodd un gell syml yn gell gymhleth, yna’n anifail neu greadur amlgellog nes creu’r ddynoliaeth. Mae’n bwysig iawn gosod y datblygiad hwn yng nghyd-destun homeostasis, sef y broses sy’n gwarchod ‘bodlonrwydd’ y gell.

Fel ei bod yn gydlynol, felly?

Fel ei bod yn medru dal ei thir, yn fewnol; heb hynny, mi fyddai ar chwâl.

Mae homeostasis yn gysyniad allweddol, felly, ac mae hynny’n dod â ni at drothwy’r seithfed chwyldro. Rydyn ni’n byw mewn oes anthropogenaidd. Mae tra-arglwyddiaeth ein rhywogaeth ni ar y blaned yn llethol. Goblygiadau hynny yw ein bod ni’n llethu popeth arall. Rhan o effaith hyn yw’r argyfwng amgylcheddol, sy’n llawer mwy amlweddog na dim ond newid hinsawdd, e.e. colli bioamrywiaeth. Rydych chi’n trafod hyn yn fanwl yn eich darlith ac yn rhagweld ein bod ar drothwy seithfed chwyldro. Ai’r hyn ry’ch chi’n ei olygu gan hynny yw ein bod yn ymwrthod â defnydd o danwydd ffosil, er bod digon ar ôl, yn harneisio ynni adnewyddadwy ar raddfa helaeth iawn, iawn? Dydych chi ddim yn sôn yn eich darlith o gwbl am ynni niwclear. Ydw i’n iawn i gymryd mai dyna sylwedd y seithfed chwyldro?

Mae’n fwy cymhleth na hynny. Rydan ni wedi creu dibyniaeth anhygoel ar danwydd ffosil a hynny’n syfrdanol o sydyn. Mae’n gwbl amlwg bod rhaid symud ar fyrder oddi wrth yr arfer o losgi tanwydd ffosil – ugain mlynedd, dyna’r cyfan, sydd gynnon ni i wneud hynny. Y cwestiwn ydi sut. Mae’n gwestiwn technegol. Mae ynni adnewyddadwy yn rhan o’r ateb, wrth gwrs. Pwy a ŵyr. Dwi ddim yn ffafrio ynni niwclear, nid oherwydd fy mod yn meddwl y byddai’n beryg rhoi ynni niwclear yn yr Wylfa fel y cyfryw ond oherwydd nad ydw i’n gweld sut, ar lefel fyd-eang, mae’n bosib datblygu ynni niwclear mewn ffordd ddibynadwy o fewn ugain mlynedd. Dwi wedi gweithio mewn llefydd fel Aleppo yn Syria ac yng ngogledd Nigeria, lle mae Boko Haram rŵan, ac mae’r syniad o gael atomfeydd yn y llefydd ansefydlog hynny yn erchyll i mi. Dwi’n ofni bod newid hinsawdd am greu byd mwy ansefydlog fyth yn yr ugain neu’r deng mlynedd ar hugain nesaf yma; mae’r syniad ein bod ni’n ceisio ateb y broblem trwy ddefnyddio technoleg sydd â’i phroblemau ei hun yn beryg.

Ond mae hyn yr un mor bwysig: os edrychwch chi ar y patrwm dwi’n ei olrhain yn fy narlith, mae pob chwyldro wedi cyflymu prosesau bywyd; mae’n arbennig o wir am y chwyldro diwydiannol. Felly, os darganfyddir ffynonellau sy’n cynnig digonedd o ynni di-garbon yn y dyfodol, mi fydd hynny’n arwain at fwy o ynni, mwy o waith a mwy o rym. Os ydi’r ddamcaniaeth yn gywir, mi fydd hynny’n golygu mwy o ganoli grym ac mi fydd bywyd yn mynd yn fwyfwy anodd i’r rhan fwyaf o bobl. Felly, os llwyddwn trwy ddatrysiadau technegol, dwi’n ofni mai canlyniad hynny fydd creu pwn mawr i ni’n hunain. Dyma’r cwestiwn mawr: a ydi hi’n bosib defnyddio’r seithfed chwyldro i ailystyried ein perthynas efo’r ynni rydan ni’n ei ddefnyddio a’r byd rydan ni’n byw ynddo?

Mae hynny’n golygu mai dim ond rhan o’r ateb ydi’r ffics technolegol?

Rhaid wrth ddatrysiad technolegol, er enghraifft i leihau’r methan a gynhyrchir gan anifeiliaid. Ond tu hwnt i hynny, dwi’n amheus y bydd yn ddigonol. Dwi’n meddwl bod yr argyfwng yn llawer mwy dwys. Dwi’n besimistaidd yn yr ystyr yna. Dyma sialens fwyaf y ddynoliaeth. Rydan ni wedi llwyddo i wella’n byd am gannoedd os nad am filoedd o flynyddoedd, trwy ddefnyddio ynni yn y ffordd hon. A oes yna ben draw i hynny?
 

Applied magnetism, 2013, acrylic ar ganfas, gan Ştefan Ungureanu

Ac mae twf ym mhob ystyr yn digwydd o’n cwmpas, a twf yn sacrosanct i bolisïau economaidd. Sut ydyn ni’n symud o’r dryswch presennol? Rydych chi’n dweud, os ydyn ni’n parhau i dyfu, bod i hynny ganlyniadau go ddifrifol.

Mae yna effeithiau clir ar yr amgylchfyd, ond beth am y goblygiadau arnom ni fel pobl? Rydan ni’n gweld eisoes y pwysau y mae cymaint o’r genhedlaeth iau yn ei ysgwyddo, a’r hyn sy’n debyg o ddigwydd ydi y bydd grŵp bach yn elwa ar y sefyllfa. Dwi’n ofni mai dyna ddigwyddith. Bydd y ddynoliaeth yn goroesi trwy leihau carbon, ond bydd llawer iawn o’r byd yn mynd yn ddiffeithwch a grŵp bach yn rheoli.

Rydych chi wedi ysgrifennu am y model economaidd cyfredol ac wedi sôn mewn llefydd eraill am fargen Galbraith. Ar sail y fargen honno, ry’n ni’n derbyn bod twf yn digwydd, oherwydd bod rhywfaint o’r twf hwnnw yn gallu cael ei ddefnyddio i wella lles y lliaws. Ond rydych chi o’r farn bod hynny’n rysáit amheus, oherwydd bod twf economaidd diddiwedd yn creu problemau economaidd difrifol yn y pen draw.

Mae Galbraith a Keynes yn dweud ein bod wedi taro bargen Ffawstaidd efo traha. Rhaid i chi gymryd gofal mawr wrth weithredu yn y ffordd hon, meddai Galbraith, neu fel arall ceir problemau dybryd. A dyna sydd wedi digwydd. Mae’n amlwg bod rhaid rheoli’r broses hon ond mae yna gwestiwn mwy dwys na hynny, sef ydi’r model yn galluogi rhannu’n deg pan mae’r adnoddau’n brin. Mae newid hinsawdd yn enghraifft glasurol o’r hyn a elwir ‘the tragedy of the commons’. Rydan ni’n anorfod yn rhannu effeithiau’r carbon deuocsid ychwanegol sy’n cael ei greu gan y ddynoliaeth – mae’n cael ei drosglwyddo i bob rhan o’r byd. Mae hyn yn effeithio ar bawb yn y pen draw ond tydi’r amgylchiadau cyfredol ddim yn caniatáu i ni ddod i delerau ag effeithiau hyn i gyd.

Beth am y syniad yma o’r ‘tir comin byd-eang’? Pan o’n i’n Aelod Seneddol, buais yn gweithio gyda dyn o’r enw Aubrey Meyer oedd yn rhedeg sefydliad bychan ond hynod ddiddorol o’r enw y Global Commons Institute. O safbwynt Meyer, y dasg yw sicrhau ein bod ni, fel dynoliaeth, yn defnyddio’r amgylchedd – gan gynnwys yr holl elfennau hynny sy’n perthyn i ni gyd: hinsawdd, bioamrywiaeth, cyfoeth natur – fel ‘tir comin’. Y peryg yw bod lleiafrif pwerus yn cipio’r ‘tir comin’ hwn ac yn ei ddefnyddio at eu pwrpas eu hunain, fel a ddigwyddodd yng nghefn gwlad Cymru ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Tydi’r rhagolygon ddim yn dda. Tan yn ddiweddar iawn, roeddan ni’n byw mewn llwythau bychain, mewn grwpiau bach teuluol, a’n hymlyniad at ein llwyth bach ni, ein cenedl, yn bopeth; hwyrach nad oeddem yn edrych tu hwnt i hynny, a hwyrach heddiw, am y tro cyntaf yn ein hanes, ein bod ni’n gorfod meddwl amdanom ein hunain fel dynoliaeth. Synio am ein hunain fel Cymry, Ffrancwyr ac ati ydi’r arfer wedi bod, ac mi rydan ni’r Cymry, wrth gwrs, yn hoff o sôn am ein milltir sgwâr ...

Ond y cwestiwn nawr yw pa un ai a yw’r ddynoliaeth yn mynd i allu gweithredu fel cymuned gydwladol, fyd-eang gan rannu adnoddau a chyfoeth yn deg er lles pawb, nid dim ond er lles y lleiafrif, a chydnabod, wrth gwrs, yr hyn nad yw wedi ei gydnabod ddigon tan yn gymharol ddiweddar, sef bod adnoddau’n gyfyngedig. Oes yna rai arwyddion gobeithiol? Beth am gytundeb Paris?

Mae cytundeb Paris wedi bod yn wirioneddol wych o safbwynt y byd diplomataidd, o safbwynt gwleidyddol, ond o safbwynt y wyddoniaeth does neb wedi ymrwymo i wneud y newidiadau angenrheidiol ac mae pethau wedi gwaethygu oddi ar hynny. Mae Trump wedi wfftio’r peth yn gyfan gwbl, ac felly rydan ni mewn sefyllfa lle mae un o wledydd mwyaf pwerus y byd yn tynnu i’r cyfeiriad arall. Mae’n anodd bod yn optimistaidd. Fy marn i ydi bod newid hinsawdd eithaf damniol am ddigwydd, a bod hynny’n anochel. Dwi ddim yn ein gweld ni’n osgoi codiad tymheredd llai na dwy radd Celsius.

Clywais glerigwr unwaith, Bruce Kent, yn dweud: un peth yw optimistiaeth, ond mae bod yn ddiobaith yn waharddedig. Fedrwn ni ddim caniatáu rhoi’r gorau i obeithio. Rydyn ni’n gorfod byw mewn gobaith am fyd lle mae dynoliaeth yn cyd-dynnu, yn derbyn egwyddor cydweithrediad yn hytrach na chystadleuaeth noeth, ddilyffethair.

Ond rhaid derbyn bod chwyldroadau dymchweliadol wedi digwydd. Ystyriwch, er enghraifft, y Pla Du, pan gollodd Ewrop draean ei phoblogaeth, neu 70,000 o flynyddoedd yn ôl, pan grebachodd y ddynoliaeth yn fil o bobl. Dwi’n ffyddiog y bydd y ddynoliaeth yn parhau ond dwi ddim yn sicr y bydd y drefn bresennol, sy’n gyfleus i ni heddiw, yn goroesi. Tydi’r dystiolaeth ddim yn ddigon cadarn i awgrymu fel arall.

Ond rydych chi hefyd yn credu bod angen model economaidd newydd, i ddisodli neoryddfrydiaeth?

Oes, yn sicr, dyna pam dwi’n sgwennu’r pethau hyn, achos mae’n rhaid creu’r drafodaeth ar sail y wybodaeth orau sydd ar gael wrth edrych i’r dyfodol.

A bydd rhaid i hynny olygu adnewyddiad moesegol? Dwi’n gwybod bod gyda chi ddiddordeb mewn crefydd. Rydych chi’n wyddonydd i waelod eich traed ac i fêr eich esgyrn ond mae gyda chi ddiddordeb mewn crefydd hefyd.

Tydi bod yn rhesymegol yn unig ddim yn ddigonol. Tydan ni ddim yn medru dibynnu ar ein hymateb rhesymegol; rydan ni angen ystyried llawer mwy ar ein hymateb emosiynol a’r gwerthoedd emosiynol sy’n llywio bywydau. Mae’r byd rydan ni’n byw ynddo fo heddiw yn pwysleisio ac yn gwobrwyo materoliaeth ac mae angen ailfeddwl hynny’n llwyr. Heb ailfeddwl hynny, mae’n anodd iawn ailfeddwl y dimensiwn economaidd.

Mae angen newid diwylliannol, felly?

Mae’n bwysig iawn ystyried yn ofalus sut i symud gam ymlaen, gan gofio ein bod yn paratoi er lles y dyfodol – er y bydd amgylchiadau anodd dros ben yn siŵr o ddatblygu. I roi enghraifft i chi: pan oeddwn i yn Aleppo, Syria rhyw ugain mlynedd yn ôl – yn cynrychioli llywodraeth Prydain yno, ar ryw olwg – roedd newid hinsawdd eisoes ar y bwrdd, a ninnau’n trafod beth fyddai’n digwydd pan fyddai pobl yn trio dianc i Ewrop. Ond ychydig ddigwyddodd yn sgil y trafodaethau hynny i baratoi at y newidiadau hyn, er bod y llywodraethau yn llawn sylweddoli’r datblygiadau tebygol. Cyfrifoldeb pobl fel fi ydi canu’n groch am y problemau, gan obeithio y bydd y bobl mewn grym yn gwrando.

Rydych yn llais proffwydol oherwydd rydych yn herio doethineb a moeseg eich cyfnod ac yn dweud: os ewch chi ymlaen fel hyn, mi fydd hi’n annibendod mawr arnom ni.

Dwi ddim yn ddyn digalon ar y cyfan, ond mae’n rhaid bod yn ymarferol.

Mae gobaith yn well cysyniad nag optimistiaeth.

Ond mae gobaith yn debyg o godi ar ôl tipyn o gwymp. Dwi ddim yn meddwl bod modd osgoi rhyw fath o drychineb.

’Dyw’r ffics technolegol ddim yn mynd i fod yn ddigon. ’Dyw’r model economaidd presennol ddim yn mynd i fod yn gynaladwy. Ond cyn bod trawsnewidiad economaidd yn bosib, mae angen adnewyddiad moesol. Ac mae hynny’n troi Marcsiaeth wyneb i waered: mae Marx yn dweud mai o realiti materol mae popeth yn tarddu a bod diwylliant yn perthyn i ail lefel, fel petai, ond efallai ein bod ni wedi cyrraedd man nawr lle mae’n rhaid i’r diwylliannol a’r moesegol orfodi newid yn y patrwm economaidd, a bod hynny’n mynd i orfod canlyn rhyw fath o adnewyddiad.

Fuaswn i ddim yn eu gwahanu nhw. Dwi’n ffan mawr o’r niwrolegydd Antonio Damasio. Tuedd pob creadur ydi amddiffyn ei hun a chreu’r gofod iddo fedru byw yn fodlon. Mae modd dehongli hynny mewn mwy nag un ystyr, er enghraifft yn yr ystyr ymosodol, sef amddiffyn ein hunain a naw wfft i bawb arall. Ond mae Damasio yn dadlau, o safbwynt niwrolegol, ffisiolegol a bywyd y gell, bod angen i ni fyw mewn ffordd sydd yn gytûn efo’n cyd-ddyn. Ac o safbwynt y cysyniad o homeostasis, mae’n angenrheidiol i bob un ohonom fod yn fodlon ein byd. Hynny ydi, os nad ydan ni’n rhan o gymdeithas fodlon, does dim modd cyflawni ein potensial fel bodau dynol. Dyna fy man cychwyn i, ac mae hynny’n deillio o’r fywydeg llawn cymaint ag o’r gymdeithaseg. Yr hyn sydd wedi digwydd ydi ein bod ni wedi gorbwysleisio’r dimensiwn cystadleuol.

Yn sgil Darwin?

Mae Darwin wedi rhoi cyfiawnhad deallusol i’r hyn oedd yn digwydd yn Oes Fictoria. Roedd yr amseru’n anffodus ar un olwg oherwydd dyma pryd yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth ac mi roedd damcaniaeth Darwin yn rhoi cyfiawnhad i’r safbwynt mai ni, Prydain, yw’r goruchaf, mai ni sy’n haeddu cymryd drosodd diroedd a phobl yr India. Mi ges i hyn yn yr ysgol, yn Lerpwl. Ystyrid mai ein swyddogaeth ni oedd mynd allan i redeg yr Ymerodraeth.

Mae hynny i’w weld yng ngwaith Herbert Spencer ac yn ein harwain yn syth at Natsïaeth.

Mae’n bwysig ofnadwy cau pen mwdwl y ddadl honno, mae’n gamddealltwriaeth ac mae’n cyfiawnhau Trump a’i fyd. Rhaid i ni greu deialog newydd sydd yn symud tu hwnt i hynny ond sy’n dal yn seiliedig ar y wyddoniaeth. Mae yna lyfr diddorol iawn gan Robert Skidelsky, How Much is Enough (2012). Yn y tridegau, mi ragwelodd Keynes, arwr i Skidelsky, y buasem wedi cyrraedd cyflwr o ddigonedd erbyn rŵan, yn gweithio tridiau’r wythnos, yn canolbwyntio ar y celfyddydau a ddim yn gweld angen y dimensiwn cystadleuol i’r fath raddau, ond mi wnaeth o gamddeall natur y gwryw alffa. I hwnnw, does yna byth ddigon, yn yr un modd nad oes yna byth ddigon i’r bobl sy’n rhedeg y cwmnïau mawr yma.

Twf parhaol felly ...

Nid jyst twf parhaol ond y gynneddf i ddangos eich bod chi’n fwy pwerus. Rydan ni wedi creu cymdeithas sy’n mawrygu hynny, a dyna sydd raid ei newid. Mae’n anodd iawn gwneud. Ond dwi’n gweld newid hinsawdd fel prawf arnom ni: a ydan ni’n medru newid pethau? Petawn i’n efengylaidd, mi fyddwn i hyd yn oed yn dweud bod Duw wedi gyrru prawf i ni. Dyna pam na fedr Trump dderbyn realiti newid hinsawdd: mae’n herio ei holl werthoedd sylfaenol o oherwydd does dim modd datrys problemau newid hinsawdd o gwbl o fewn y model economaidd hunanol presennol. Yr hyn sy’n fy mhoeni i efo Brexit ydi ein bod ni’n cael ein gorfodi i fynd ar hyd y llwybr economaidd hwn. Mae hynny’n codi arswyd arna i.

Rydych nid yn unig yn feddyliwr theoretig ac yn wyddonydd ond yn weithredol hefyd yn gymdeithasol. Rydych chi wedi bod yn ymwneud â phrosiectau datblygu ynni cymunedol yn eich ardal chithau, yn do?

Dwi wedi bod yn cynorthwyo’r bobl sy’n gwneud y gwaith ymarferol. Mae gynnon ni brosiect datblygu adnoddau Cymru ar fynd efo’r Sefydliad Materion Cymreig. Rydan ni’n ceisio defnyddio datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy fel hwb i greu economi fwy gwydn, cymdeithasol a lleol. Rydan ni wedi bod yn gwneud y gwaith theoretig fel sail i ddatblygu’r polisïau ac er mwyn ystyried sut mae asio’r ffynhonnell ynni leol efo’r grid trydan. Mewn ffordd, ceisio gwneud gwaith y llywodraeth drostyn nhw yr ydan ni. Maen nhw’n trafod y syniad ond tydyn nhw ddim yn gweithredu hanner digon. Mae yna baradocs mawr yn hynny. Os edrychwch chi ar yr holl gyfundrefn ynni, mae’n amlwg bod rhaid trydaneiddio ceir, bysys, tai, a symud oddi wrth losgi olew a nwy ar fyrder. Mae’n sefyll i reswm felly bod y galw am drydan am gynyddu. Dylai fod modd cynhyrchu canran o’r trydan yna yn lleol. Ond, o safbwynt y llywodraeth a chwmnïau mawr, mae’n haws dibynnu ar gyflenwadau canolog. Yn anffodus, mae ffiseg a pheirianneg cynhyrchu trydan yn dueddol o fod yn groes i’r hyn sy’n llesol yn gymdeithasol a’r peryg efo ynni niwclear ydi bod grym yn cael ei roi mewn ychydig o ddwylo. Ond o gyplysu cynhyrchu trydan yn lleol efo storio’n lleol, mae modd creu cyfundrefn lle mae cymdeithas rywfaint yn fwy annibynnol ar y gyfundrefn ryngwladol. Mae bod yn hunangynhaliol yn dod â’i beryglon ei hun, wrth gwrs, ac mae ganddo’r potensial hefyd i fagu grwpiau hunanol. Mae angen nythaid o bethau, gweithredol yn lleol, gan gydnabod ein bod fel dynoliaeth hefyd yn gyd-ddibynnol.

Ydych chi’n gweld y gall Cymru, yn ei ffordd ei hun, wneud cyfraniad o bwys?

Petai gynnon ni fôr-gloddiau llanw, byddai modd i ni fod yn gwbl annibynnol o ran ein cyflenwad ynni. Mae’n biti garw nad ydi’r llywodraeth yn ymrwymo i ariannu’r cynllun hwnnw; mae’n anodd iddyn nhw wneud, wrth gwrs, gan mai Llundain sy’n rheoli’r grid a’r broses drwyddedu. Mae gan Gymru gyfraniad i’w wneud: mae Ynni Ogwen yn gynllun campus; mae ieuenctid Dyffryn Ogwen yn credu bod yna ddyfodol iddyn nhw, a’r un tueddiad i’w weld yn Llanberis. Denmarc sydd yn enghraifft dda o hyn, lle rhoddwyd ynni gwynt mewn dwylo lleol, yn groes i’r patrwm Prydeinig. Mae yna lawer y gall Cymru ei wneud.


Mae Cynog Dafis yn fab i weinidog Methodist, ac yn gyn-athro a chyn-wleidydd.

Mae R Gareth Wyn Jones yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor. 

Lluniau gan Ştefan Ungureanu.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Bydd y ddynoliaeth yn goroesi trwy leihau carbon, ond bydd llawer iawn o’r byd yn mynd yn ddiffeithwch a grŵp bach yn rheoli

Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…