Cyfweld

Crwydriadau Cwm Cletwr

Ymweld â menter gymunedol Cletwr


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 10 munud

13·03·2019

Map bras a wnaethais gyda'r plant, ar sail taflen yr Ymddiriedolaeth Natur, o'r llwybrau o gwmpas afon Cletwr.


Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron yr henfyd, gan swyno tangnefedd o ddannedd y gwynt a thawelu’r tonnau. 

Roeddwn yn cerdded i lawr ddiwedd dydd trwy Goed Cwm Cletwr a chyrion Coed Llety Llwydion i gyfeiriad menter gymunedol Cletwr ger yr Hen Gapel yn Nhre'r Ddôl. Teimlais yr haul tyner olaf ar fy mreichiau noeth. Synhwyrais gynnwrf gwanwyn o'r golwg, a fyddai, unwaith y torrai'r tywydd, yn erthylu. Meddyliais am y cadoediad ar bethau dyn a ddaw cyn daeargryn, am dlysni byd natur wedi ei ddal am ennyd; ac am eiriau hefyd, yn dyfod eto o flaen y meddwl, chwedl T H Parry-Williams, 'yn dywedyd meddwl dyn cyn bod y meddwl hwnnw wedi ymffurfio yn yr ymennydd'. Yn syber safai'r coed hynafol yn erbyn awyr las y llwydnos. A'r rhedyn yn cynhesu'r darlun. Teimlwn ymhell o ddiffeithwch Pumlumon gerllaw ac amlin dideimlad coed sbriws y Comisiwn. Ai cyfle ydoedd i adnabod colled, pan ddaethai o ddifri? O gael rhan mewn harddwch a oedd eisoes wedi troi?

Yn Kemerofo, yn ne orllewin Siberia, roedd hi newydd fwrw eira pygddu, a ollyngwyd fel plwm dros geir, palmentydd a thai, a phardduo dyn â'i lwch gludiog. Clywais o Roeg am aeaf caled, annisgwyl Gwynt y Meirw. Ac yma, ym mae Ceredigion, roedd yr arian byw wedi ’mestyn hyd at yr ugeiniau. Nodwyd diwrnod poethaf mis bach Ynysoedd Prydain ers dechrau'r cofnod. 

Roedd hi'n nosi o ddifri erbyn i mi gyrraedd yn ôl i gaffi a siop Cletwr. Roedd hogyn ifanc yn gwagio'r biniau ar y libart blaen. Gloywai'r golau o'r tu mewn i'r muriau pren du, fel lamp olew. Yno, roedd criw olaf gweithwyr y dydd wrthi'n troi cadeiriau'r caffi ar eu pennau ac yn paratoi i gau siop. 

✒︎

Yn blentyn, byddwn yn galw'n gyson yn Cletwr, yn y caffi i gael wy ar dost ar ôl bod am dro i Ynys Las, neu i lenwi'r tanc petrol o'r garej wrth basio. Wedi i mi ddychwelyd i'r ardal ddiwedd y nawdegau, ailafaelais yn yr arfer o alw heibio am beint o laeth a phapur dydd Sul, ar fy ffordd yn ôl o gerdded llechweddau Aberdyfi, neu o'r Warchodfa Adar yn Eglwys Fach. Ond yn raddol, dechreuwyd sôn bod y busnes am gau, nad oedd yn talu ffordd mwyach. Fel llawer o fentrau lleol, sugnwyd ysbryd y lle ers y bri ar archfarchnadoedd a siopau mawrion cyrion tref, a ddatblygodd yn Aberystwyth ganol yr wythdegau. Cyraeddasant eu hanterth yn y blynyddoedd diwethaf: o fewn dim i agor Tesco a Marks & Spencer, gwagiwyd strydoedd Aberystwyth, fel petai enaid y lle yn ddim ond naddion eiddil i'w hatynnu gan fagned prynwriaeth – magned a ollyngwyd i lawr, â chymorth y milwyr troed, gan Hen Law a Wyddai'n Well. 

Am dair blynedd, bu Cletwr yn segur, heb brynwr ar gyfyl y lle. Yn ôl Shelagh Hourahane, cadeirydd gwreiddiol y fenter newydd, y perchennog ar y pryd, Huw Lewis, a gafodd y syniad o alw cyfarfod i weld a fyddai modd trosglwyddo perchnogaeth i'r gymuned. Roedd gwraig Huw o Nant Gwynant, ac roedd y gymuned yno eisoes wedi llwyddo i wneud caffi siriol o hen gapel – a hynny, cofiaf yn iawn, mewn lle tamp digon anghysurus. Yn Nhre Taliesin a Thre'r Ddôl, daeth pedwar ugain ynghyd ar gyfer y cyfarfod cyntaf.

Saith mlynedd yn ôl, pan ailagorwyd y lle, casgliad o hen adeiladau oedd yma. Yn raddol, ailsefydlwyd y caffi a siop fwyd fechan oedd yn gwerthu papurau newydd, llysiau lleol hefyd, a phlanhigion gardd. Yn wahanol i'r fenter wreiddiol, roedd modd dod o hyd i bob 'anghenraid' pantri yno – ffagbys, reis cyflawn, tatws, moron, betys, a phethau ffresh fel llysiau gwyrdd a iogyrt, neu bethau da fel cacen sinsir a bobwyd yn lleol. Dechreuais alw eto, efo'r plant erbyn hyn, i gael brechdan gras caws a mwstard. Yna, rhyw ddeunaw mis yn ôl, fis Medi 2017, wedi dymchwel yr adeilad gwreiddiol a chodi un newydd sbon (ac wedi gwaith paratoi mawr, gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb a cheisiadau ariannu ochr yn ochr â dal ati i gynnal y busnes o ddydd i ddydd), agorodd Cletwr ar ei newydd wedd. Adeilad wedi ei sefydlu ar egwyddorion amgylcheddol oedd hwn. Yn lle'r hen waliau tila, nad oeddent yn abl i gadw gafael ar y gwres a godai o gyrff y cwsmeriaid, nac ychwaith i wared y stêm a godai o'r gegin, saif adeilad pren cynhesol, fel petai wedi glanio o Norwy. 

Bellach, yn ôl Nigel Callaghan, cadeirydd cyfredol y cwmni, mae pobl dros Gymru gyfan yn gwybod am Cletwr, diolch i Radio Cymru – a'r lleoliad cyfleus fallai: hanner ffordd rhwng y gogledd a'r de ar  ymyl y briffordd, mae mewn man delfrydol i fynnu hoe wrth deithio rhwng y ddau begwn. Erbyn hyn, daw rhyw 200,000 o bobl drwy'r drws mewn blwyddyn. Meddai Nigel, sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl: 'Ers symud o'r hen adeilad i'r un newydd, mae'r trosiant wedi cynyddu 150%. Doedden ni ddim yn disgwyl hynny o gwbl. Busnes cymunedol ydyn ni, wrth gwrs, yn gwneud pethau ar gyfer y gymuned. Pwrpas y lle yn y bôn yw creu cymuned well.' Ond rhaid cael busnes i gyrchu'r arian, i dalu am y gwaith cymunedol a'r grantiau bellach wedi mynd yn brin. 

Sut oedd dod i ben efo'r llwyddiant sydyn? 'Cafwyd peth trafferth, digon gwir, yn ystod ein haf cyntaf yn yr adeilad newydd. Wedi symud i mewn dechrau'r hydref, bu cyfle i addasu dros y gaeaf, ond pan ddaeth yr haf, aeth popeth yn wallgof, roedd rhaid cael staff ychwanegol, mwy o wirfoddolwyr. Doedden ni heb drefnu systemau i ymdopi gyda chymaint o bobl.' Ond mae pethau wedi setlo erbyn hyn, meddai. 'Pan agorwyd, tri aelod staff rhan-amser oedd gennym, a hanner cant o wirfoddolwyr. Bellach, mae ugain aelod staff rhan-amser cyflogedig, ac mae'r gwirfoddolwyr yn dal efo ni. Gall gwirfoddoli fod yn gyfle ardderchog i bobl addasu i fyd gwaith – er enghraifft wedi cyfnod mamolaeth – cyn symud ymlaen i wneud gwaith gwahanol â mwy o hyder.'

Siop i'r gymuned gyfan ydi hon. Gwerthir sosejys y cigydd lleol ochr yn ochr â dau fath o frwsh dannedd – yr un traddodiadol, o blastig, ond hefyd rhai pren bambŵ. Yn yr un modd, mae yna bethau ymarferol ar y silffoedd, fel llneuwyr sosbenni – eto'r rhai cyfarwydd mewn neilon ond hefyd y rhai amgen wedi eu gwneud o lwffa. Dyma adlewyrchu meddylfryd y lle: cynnig cyfle i bobl newid pethau, heb iddynt gael eu dieithrio. Gwerthir bwyd figan yn ogystal, nad yw'n syndod a ninnau ar gyrion tref farchnad ac ardal biosffer Machynlleth. Ac mae'n le da i blant, efo cornel chwarae o flaen ffenest bictiwr braf.

Yn ôl Shelagh, sy'n byw i fyny'r cwm uwchben y pentref a hefyd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, mae'r egwyddor o bobl ifanc yn cymysgu efo pobl hŷn yn hynod bwysig. 'Mae'r rhai ifanc yn aml yn cychwyn fel gwirfoddolwyr,' eglura. Ac meddai Nigel, 'Rydw i'n gobeithio y bydd y profiad o wirfoddoli yn cynorthwyo'r plant i ddeall ei fod yn rhywbeth mae pobl yn ei wneud – pob math o bobl, o bob oedran – ac y bydd gwirfoddoli wedyn yn rhan bwysig o'u bywydau ar hyd eu hoes.'

Tu allan, yn y maes parcio, mae modd defnyddio Tap Trydan am ddim i wefru car. Ac wrth gwrs, mae modd cyrraedd yma ar y bws sy'n cysylltu Machynlleth ac Aberystwyth, neu'r bws lleol lleol sy'n cylchdroi rhwng Aberystwyth, Borth a Thre'r Ddôl. 

Gofalir am yr arddangosfeydd o waith celf a'r gerddi bychain rhwng y llechi wrth odre'r adeilad ac o gwmpas y maes parcio gan grwpiau o wirfoddolwyr, sydd hefyd yn trefnu teithiau cerdded lleol. Mae'r llwybrau yn yr ardal hon, wrth gwrs, ymysg y rhai mwyaf godidog ym Mhrydain. Mae Coed Cwm Cletwr yn nodedig am ei goetir llydanddail lled-naturiol a hynafol sy'n cynnwys coed derw digoes yn bennaf. Gwarchodir amrywiaeth bwysig o redyn, cennau a mwsoglau gan y coetir, a'r afon yn creu'r amodau llaith i sicrhau cynefin addas iddynt – yn eu plith mae'n debyg bod un math o gen neilltuol o brin.

Mae llyfrau'n ogystal yn bwysig yn Cletwr. Ceir yma'r llyfrgell fenthyg Gymraeg gyntaf i mi ddod ar ei thraws mewn caffi. Gwelir ôl profiad llyfrgellydd o ddifri ar y casgliad a'i drefniant. Gwn am ambell un sy'n teithio'n unswydd i Dre'r Ddôl er mwyn cael benthyg llyfr nad oes modd cael gafael arno'n unlle arall. Ceir adran o lyfrau ail-law ar werth hefyd, yn ychwanegol at y detholiad o lyfrau newydd sy'n cael eu diweddaru'n gyson, diolch i gymorth y Cyngor Llyfrau. Hefyd ar y trothwy y mae tŷ cyhoeddi ac argraffdy Y Lolfa, ym mhentref gosa’ Tal-y-bont. Yn ogystal â bod yn gymorth pan mae angen argraffu taflen, mae'n gyfle i drefnu nosweithiau lansio ar y cyd, er enghraifft fwyaf diweddar ar gyfer nofel newydd yr awdur trosedd Geraint Evans, Digon i'r diwrnod (2018). Ac ar y stondin bapur yn y siop, gellir prynu Golwg, y papur bro Papur Pawb a chylchgrawn llyfrau Cymru, O'r Pedwar Gwynt – yn ogystal â'r New European

✒︎

Erbyn hyn, wedi trosglwyddo mwy o gyfrifoldeb i'r tîm rheoli, mae'r cwmni'n awyddus i rannu eu profiad efo grwpiau eraill. Yn ddiweddar, roedd Nigel i lawr ym mhentref bychan Silian, ar gyrion Llambed, lle mae'r gymuned yn rhentu'r hen eglwys am £10 y flwyddyn. 'Mae pob cymuned yn wahanol, wrth gwrs,' meddai 'ond un peth sy'n amlwg bob tro, ydi bod hanner y pentre'n troi allan ar gyfer y cyfarfodydd cymunedol hyn, bod pobl isio gweld newid.'

Bu'n ymweld â grŵp arall ym Maesyfed, a oedd yn ceisio cael perchnogaeth ar dafarn wedi hen gau. Yno, ar nos Wener, trefnir tafarn unnos, gan weithio efo'r bragdy lleol. 'Cyn i Cletwr agor, wedi i'r caffi, yr ysgol, yr eglwys, y garej, y siop bapur newydd gau, bob un yn eu tro, tasech chi isio cwrdd â'r cymdogion, sut fyddech chi wedi gwneud? Doedd dim rheswm i ddod allan o'r tŷ. Mae mor bwysig, dwi'n meddwl, rhoi cyfle i bobl gwrdd â'i gilydd. Cyn dod i wirfoddoli'n Cletwr, doeddwn i ddim yn adnabod y bobl drws nesaf hyd yn oed.' 

Ond onid oes angen amser ac adnoddau i wirfoddoli? 'Wrth sefydlu menter fel hyn,' meddai Shelagh, 'rhaid gofyn beth yw anghenion y gymuned, wrth gwrs, a beth yw'r adnoddau sydd ar gael. Mae angen meddwl am y gofynion ariannol a'r adnoddau dynol. Rhaid dechrau â hynny. Roedden ni'n ddigon lwcus i gael pobl efo llawer o sgiliau pan wnaethom weithio ar yr adeilad newydd – roedd un o'n cyfarwyddwyr wedi rhedeg ei busnes adeiladu ei hun ers deugain mlynedd, ac felly roedd hi'n rheolwr prosiect ardderchog i ni.' Ac meddai Nigel: 'Ym mhob cymuned mae yna bobl efo sgiliau, rhywun sydd wedi gweithio yn Woolworths am 30 mlynedd efallai, ac sydd felly'n deall digon ar redeg siop ac sy'n gallu rhoi cyngor. O gael rhestr o sgiliau ar gael yn lleol, mae modd gweld beth sy'n bosib wedyn ac addasu i hynny.'
 

Siop Griffiths gan Luned Rhys Parri

Ers 2014, gall menter wneud cais i gofrestru ar ffurf strwythur 'Cymdeithas Budd Cymunedol' ac mae llawer o grwpiau busnes cymunedol newydd yn dilyn y patrwm hwn, yn gwerthu cyfranddaliadau i'r gymuned – rhywbeth y penderfynodd cwmni Cletwr yn ei erbyn, am wahanol resymau – er enghraifft menter Tafarn y Sinc ym Maenclochog, Sir Benfro, sydd wedi gwneud ei henw ledled Cymru bellach. Ychydig ddyddiau ynghynt, ar 18 Chwefror, wedi tair blynedd o waith gwirfoddoli a chodi arian, agorwyd Siop Griffiths (a fu ar gau am wyth mlynedd) ar ffurf caffi 'Yr Orsaf' ym mhentref Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle. Cwmni Cymdeithas Budd Cymunedol oedd wrth wraidd y fenter hon hefyd. Dros y ffordd, mae Antur Nantlle wedi trawsnewid yr hen fanc HSBC yn deli, siop a lle chwarae i blant. A chlywais yn ddiweddar bod Llety Arall, menter gymunedol sy'n cynnig llety i ymwelwyr yng Nghaernarfon, bron iawn yn barod i agor drysau led y pen. Fedra i ddim peidio â meddwl mai'r llefydd hyn, â'u gweithwyr dyfal, ydi capeli ac ysgolion Sul newydd Cymru. 

✒︎

Wedi cael blas ar fadarchen lydan ac wy 'di sgramblo ar dost, byddaf i a'r plant weithiau'n mentro heibio'r buchod, ar hyd y llwybr pren a godwyd ar y tir corsiog sy'n gwahanu Tre Taliesin oddi wrth y Borth. Dyma gyrion deheuol Cors Fochno. Dyma'r darn diweddaraf i'w adnewyddu fel rhan o Lwybr yr Arfordir, sy'n cynnwys llwyfan gwylio a golygfeydd ar draws y gwlypdir. Digon rhwydd ydi dal bws yn ôl trwy Ynys Las i Cletwr. Dro arall byddwn yn dringo uwchben y pentref, i gyfeiriad hen waith mwyn Bryndyfi, i gael gweld Aberdyfi yn codi'n dalsyth o'r dŵr, fel rhesaid o blant mewn côr. 
 

Cerdded uwchben afon Cletwr. Llun: Sioned Puw Rowlands.

Tu cefn i'r hen waith, yn uchel i mewn yn y tir, i'r gogledd-ddwyrain, gwyddom y bu dyn yn byw yn y rhannau hyn ganrifoedd cyn i'r Celtiaid gyrraedd Prydain. Ac am sbel, hyd ganol yr ugeinfed ganrif, byddai'r porthmyn yn magu eu diwylliant eu hunain wrth arwain eu hanifeiliaid ar hyd llwybrau sy'n dal i ddangos eu hôl. Cofnododd y ffotograffydd Fay Godwin rywfaint o ysbryd y bywyd hwn yn ei chyfrol ar y cyd â Shirley Toulson, The Drovers' Roads of Wales (1977). Yr un llwybrau a ddefnyddid gan y seintiau a groesai draw o Iwerddon o'u blaenau. Ond torrwyd ar fwy nag un o'r troetffyrdd a'r golygfeydd godidog hyn bellach gan briffyrdd a cherbydau trymion. 

Mae'r creigiau i mewn yn y tir hwn tu hwnt i Cletwr, yng ngogledd Pumlumon – o dan y moelni mwy cyfarwydd – yn hŷn na'r Alpau, yr Andes a'r Himalayas, wrth gwrs. Does dim bri o fath yn y byd yn hynny, mwy nag oes bri yn y ffaith mai Cymraeg yw un o ieithoedd byw hynaf Ewrop. Ond mae'n gysur gwybod bod cyfoeth naturiol y creigiau hyn, a'r harddwch all godi ohonynt, wedi goroesi cyhyd, o'r golwg, ac yn debyg o oroesi eto. A phan ddaw i hynny, y caiff y tir ei waredu – os gan ddaeargryn – rhag miri dyn; y cawn ninnau hefyd, trwy rym maddeuant, lithro, chwedl T H Parry-Williams, i'r llonyddwch mawr yn ôl.


Map teithiau cerdded yn Nhre'r Ddôl gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gellir dal y trên o Aberystwyth i'r Borth ac yna cerdded ar hyd y llwybr ar gyrion Cors Fochno i Dre Taliesin (4.6 milltir), gan ddilyn y palmant am y gogledd (0.5 milltir) i gyfeiriad Siop a Chaffi Cletwr yn Nhre'r Ddôl. Neu gellir teithio ar y bws X28/T2 rhwng Aberystwyth a Machynlleth a dod i lawr yn Nhre'r Ddôl i ymweld â'r caffi cyn parhau ar droed ar hyd y llwybr 3 milltir i gyfeiriad Cwm Einion. O gerdded fymryn ymhellach, gellir cyrraedd Cyffordd Ddyfi i ddal y trên yn ôl am y gogledd neu'r de.

Mapiau o Lwybr yr Arfordir:

rhwng y Borth a Thre Taliesin (4.6 milltir): Gorllewin y Ddyfi 
rhwng Tre'r Ddôl a Chwm Einion (3 milltir): Dwyrain y Ddyfi

Mae Cletwr ar agor o 8.30 y bore tan 6.30 yr hwyr rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn. Ar ddydd Sul, caeir am 5 yr hwyr.

Lluniau o Cletwr: Hen gardiau post a ffotograffau penseiri GeorgeTomos, Machynlleth.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Roedd hi’n nosi o ddifri erbyn i mi gyrraedd yn ôl i gaffi a siop Cletwr. Roedd hogyn ifanc yn gwagio’r biniau ar y libart blaen. Gloywai’r golau o’r tu mewn i’r muriau pren du, fel lamp olew

Dyddiad cyhoeddi: 13·03·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…