Cyfweld

Ymweld â Caban, Pontcanna

Sgwrs gyda’r perchennog

Llŷr Gwyn Lewis

Amser darllen: 6 munud

09·12·2016

‘Caban. Lle da i dreulio orig mewn sgwrs lenyddol’, meddai’r adroddwr yn stori fer Jon Gower, ‘Adrodd Cyfrolau’. Yn y stori hudol o wallgof honno, disgrifir y ‘pleser digamsyniol’ sydd i’w gael o grwydro strydoedd Pontcanna, ‘yr ardal debyca o holl ardaloedd Caerdydd i Greenwich Village yn Efrog Newydd’, a tharo i mewn i’r siop lyfrau honno, Caban. Un o ogoniannau’r stori yw’r modd y caiff dychymyg Jon Gower raff go hir i ddilyn aml i drywydd ynddi – ond mae’r agoriad hwnnw, a’i ddisgrifiad o Caban ei hun, yn bur agos at y gwir, neu o leiaf yn ymddangos yn fwy ffeithiol gywir.

Wrth gwrs, mae Pontcanna fel ardal wedi hawlio lle yn ein dychymyg ers o leiaf yr wythdegau: yr ardal honno o Gaerdydd lle mae pobl yn dianc o’r wlad ac o’r pentrefi i fyw’n fras ar gorn y Gymraeg ac i wledda ar tapenade. Os oes unrhyw fath o siop y byddech yn disgwyl iddi ffynnu yma, siop lyfrau Gymraeg fyddai honno. Ac fe fyddech yn disgwyl bod siop o’r fath yno ers amser maith, ers dyddiau aur S4C o leiaf. Ond yn gymharol ddiweddar yr agorwyd Caban, ac yn yr oes sydd ohoni, dydi bod wedi’ch lleoli ym Mhontcanna, hyd yn oed, ddim yn warant o lwyddiant.

Er cynifer o siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghaerdydd, dywedwyd cyn heddiw nad ymdeimlad o gymuned sydd yno yn gymaint â nifer o rwydweithiau, bron fel rhyw edau neu linynnau yn gwau ar draws a thrwy holl ieithoedd a rhwydweithiau a chymunedau eraill y ddinas. Ond mewn rhai lleoedd, o frics a mortar, mae’r rhwydweithiau hynny fel pe baent yn ymgnawdoli yn gymuned, ac mae Caban yn un o’r lleoedd hynny. Yma mae’r Gymraeg yn teimlo fel iaith gymunedol, ac mae hynny’n gydnaws ag ethos sylfaenol y siop.

Sefydlu'r siop a thraddodiad y 'siop Gymraeg'

Yn 2002, fe awgrymodd prifathrawes mab hynaf Nia Owen y dylai yntau gael cyfle i weithio mewn llyfrgell neu mewn siop lyfrau. Ymhen deufis wedi hynny, fel y dywedodd Nia wrthyf, agorwyd Caban. ‘Mae awtistiaeth ar fy meibion a does ’na’m swyddi yn unman i bobl ag anghenion tebyg, felly agorwyd y siop i greu cyfle iddynt – ac i eraill ag anghenion dysgu – gael blas ar waith, cyfathrebu ag eraill, bod yn rhan o'r gymdeithas a hybu eu hunan-barch. Roeddwn innau mewn proffesiwn arall felly roedd yn antur newydd i'r tri ohonom.’

Daeth y cyfle’n fuan wrth i gwmni Nia Ceidiog, Ci Diog, symud o’r safle. Roedd y ddwy Nia’n adnabod ei gilydd oherwydd eu bod yn hanu o’r un ardal yng nghyffiniau Wrecsam, a’u plant yn yr un dosbarth yn yr ysgol. Cyd-ddigwyddiad ffodus, felly, a roddodd fod i’r freuddwyd, yn ogystal â llygadu bwlch yn y farchnad: ‘Roedd Pontcanna hefyd yn dlawd o ran pethau “Cymreig” ar y pryd er bod llawer o Gymry yn byw yno’, eglura Nia, ‘felly teimlai fel y lle iawn i ddechrau rhywbeth newydd Cymraeg’.

Erbyn i minnau gyrraedd Caerdydd yn 2006 roedd y siop wedi’i hen sefydlu, a ninnau fyfyrwyr yn gwybod mai dyma’r lle i fynd, er mai pleser prin oedd cael croesi’r ddinas i bori drwy’r silffoedd. Pan ddychwelais yn 2010, roeddwn i’n byw yn nes ac felly roedd hi’n haws – yn beryglus o haws – taro i mewn o dro i dro. A’r fath ryfeddod pan alwn i heibio a chanfod rhai o’r awduron yr oedd eu llyfrau ar y silffoedd o’m blaen yn eistedd yn ddiddos yn cael paned ar y soffa. Ond pan fentrais i ofyn, yn ffuantus efallai – gan gofio’n benodol am y stori honno gan Jon Gower – a oedd Nia’n teimlo bod y siop drwy hynny yn rhan o ffabrig llenyddol y ddinas, ‘Na’ pendant oedd ei hateb. Yr hyn sy’n bwysicach iddi hi yw’r ymdeimlad cymunedol hwnnw, sydd yn rhan greiddiol o’r ffordd mae’r staff yn gweithio ac sydd yn ymestyn hefyd i’r cwsmeriaid.

Pontcanna a'r awch am fargen

Ond efallai fod y ddelwedd gyffredin o Bontcanna fymryn yn gamarweiniol, neu wedi dyddio bellach; dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o fusnesau yn yr ardal, yn agos iawn at y siop, wedi mynd a dod, ac mae hi fel petai’n gyfnod anodd ar fusnesau bach ym Mhontcanna fel ym mhobman arall. Beth, felly, sydd i gyfrif am lwyddiant a hirhoedledd Caban? ‘Mae pobl Pontcanna yn cael “bad rap”, chwadal y Sais’, medd Nia. ‘Mae pawb yn hynod gefnogol a ffyddlon i'r siop ac yn hyfryd efo fy meibion. Mae hyd yn oed pobl Pontcanna yn hoffi bargen yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni heddiw!’

                     

                                                               Rhithganfyddiad: Pontcanna gan Efa Lois
 

Ac a dweud y gwir, er ei lleoliad ‘trendi’, mae rhywbeth hynod draddodiadol am Caban wedi’r cyfan. Siop ydi hon yn nhraddodiad y ‘siop Gymraeg’ – mae hi’n gwerthu pob math o nwyddau Cymraeg heblaw llyfrau, o gardiau i fygiau, o grysau T i deganau. Yn wir, mae rhywun yn synhwyro, er mor greiddiol ydi llyfrau eu hunain i’r siop a’i hatyniad, mai eilbeth ydynt yn y pen draw – ac mai felly y dylai hi fod hefyd. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd y siop yn cael ei hatgyweirio ac fe symudwyd y llyfrau i’r cefn. Roedd rhaid dod i mewn felly drwy ddrws ochr ac roedd rhywun yn teimlo eu bod yn dod i mewn i gartref rhywun yn fwy nag i siop. Rywsut, mae’r teimlad hwnnw wedi para yn y siop ei hun: mae’n ofod bychan, ond diddos, ac mae modd cael paned ac eistedd ar y soffa. Mae’r radio ymlaen ac mae’n hawdd (yn rhy hawdd!) sgwrsio â’r sawl sydd yno’n gwerthu. Ac mae’r lle’n fath ar ‘hwb’ neu ganolfan gymunedol – yn llawn hysbysiadau ac yn gwerthu tocynnau gigs ac ati, yn debyg eto i nifer o siopau Cymraeg ledled y wlad. Rydych chi mor debygol bob tamaid o aros am sgwrs neu brynu paned i’w hyfed yn hamddenol ar y soffa wrth y ffenest – ac aros, efallai, dipyn yn hwy nag y dylech, a llond gwlad o bethau i’w gwneud – ag ydych chi i brynu llyfr.

Siop at iws

Wedi dweud hynny, mae gan Nia farn bendant am y farchnad lyfrau Gymreig, ac mae hi’n teimlo bod bylchau amlwg ynddi. Ymhle mae’r rheini? ‘Mae'r bylchau yn amlwg o'u cymharu â beth sydd ar gael yn y Saesneg,’ meddai Nia, ‘yn enwedig o ran llyfrau plant a hefyd o ran maint print runs. Ond mae hyn yn gwella.’ O weld y dewis eang o lyfrau plant sydd yn y Caban, fodd bynnag – maen nhw’n hawlio rhan sylweddol o ofod y silffoedd – fyddech chi ddim yn credu bod yna ddiffyg llyfrau i blant. Yn aml iawn pan ddof i mewn i’r siop fe fydd yno riant neu rieni a phlant ifanc mewn bygi neu bram. Ac mae hyn hefyd yn cyfrannu at y teimlad mai siop at iws yw hon, un sy’n ateb gofynion ac anghenion ei chwsmeriaid a’i chymuned yn hytrach na llywio neu arosod chwaeth.

Mewn dinas o rwydweithiau, felly, mae’n braf cael siop sy’n teimlo’n rhan o gymuned. O ble y mae’r ymdeimlad hwnnw’n tarddu? Yn ddifyr ddigon, mae’n ymddangos mai o’r rheswm cychwynnol hwnnw dros agor y siop yn y lle cyntaf y daw’r cynhesrwydd, y croeso, a’r teimlad o agosatrwydd hefyd. Fel yr eglura Nia, ‘gan mai ethos y siop yw helpu fy mhlant i fyw bywyd llawnach yn hytrach na chreu incwm, rydym ni’n laissez-faire braidd am bopeth! Rydym ni’n hapus i fantoli'r cyfrifon, gan sicrhau ein bod i gyd yn cael pres poced ac yn rhoi unrhyw elw a wnawn yn ôl i mewn i wella stoc a golwg y siop. Ffrindiau neu eu plant sydd yn gweithio yno efo ni, yn ogystal â phobl ag anghenion arbennig tebyg.’ Er mai Nia sydd yn berchen ar y siop, bron nad yw’n cael ei rhedeg yn fwy fel siop gydweithredol: ‘Rydym ni oll yn gweithio fel tîm i sicrhau ei bod yn llwyddiannus. A phawb yn cyfrannu ymhob ffordd tuag at hynny a minnau'n sicrhau bod pawb yn cael eu talu'n deg a chyfartal.’

Yn y stori ‘Adrodd Cyfrolau’, Trish Price, nid Nia, yw perchennog y siop. Chwarelwr oedd hen daid Trish hithau, ac awgrymir mai er cof am y ‘caban’ yn y chwarel, ‘lle byddai gweithwyr yn cyfnewid storis a newyddion’, yr enwyd y siop lyfrau. ‘Ac mae’r siop’, awgryma Jon Gower, ‘yn debyg mewn sawl ffordd’ i’r caban hwnnw. Fel yr eglurodd Nia, y perchennog go iawn wrthyf, Jon a’i ddychymyg byw sydd wrthi eto yma. Ond does dim fel darllen stori ddychmygol i ddod o hyd i ddernyn o wirionedd, ac mae’r disgrifiad hwnnw o'r Caban yn go agos ati.

Mae Llŷr Gwyn Lewis yn olygydd adnoddau gyda CBAC yng Nghaerdydd.

Gallwch ddarllen ei ysgrif, 'I'r Galon Goch', a gyhoeddwyd yn ail rifyn O'r Pedwar Gwynt, fan hyn.  

Pan fentrais i ofyn – gan gofio’n benodol am stori fer Jon Gower – a oedd Nia’n teimlo bod y siop yn rhan o ffabrig llenyddol y ddinas, ‘Na’ pendant oedd ei hateb

Pynciau:

#Llŷr Gwyn Lewis
#Siop lyfrau