Diane Bailey & Geoff Young


Siop Lyfrau a Galeri Penrallt, Machynlleth

, , ,

Ymweld â Llyfrau Penrallt
Cyfweld

Ymweld â Llyfrau Penrallt

Sgwrs gyda'r perchnogion


O’r Pedwar Gwynt

Amser darllen: 8 munud

07·09·2016

Mae Penrallt yn siop lyfrau a agorwyd gan y ddau ohonoch chwe blynedd yn ôl yn nhref farchnad hanesyddol Machynlleth. Fel un o'ch cwsmeriaid mwyaf selog, fyddwch chi ddim yn synnu fy nghlywed yn dweud bod hon yn siop lyfrau eithriadol. Rydych wedi dod o hyd i niche yn y diwydiant trwy fynd yn groes i'r graen rywsut a dangos i ni sut mae gwir werthfawrogi llyfrau. Wrth ddewis cyfrolau ail-law yn ofalus a'u cyflwyno efo sglein ochr yn ochr â chyfrolau cyfoes, rhoddir bywyd newydd i lyfrau a thrafodaethau, ac weithiau mae cysylltiadau annisgwyl yn cael eu creu. Wedyn mae'r ffordd y mae'r llyfrau'n cael eu gosod, y gofal a'r sylw a roddir iddynt, fel watsys mewn siop emau, yn ganolog i'ch athroniaeth - efallai nad ydi hynny'n syndod o ystyried bod Penrallt hefyd yn galeri?

Syniadau yw hanfod llyfrau. Wrth arddangos llyfrau gyda'i gilydd, mae modd gwneud cysylltiadau cysyniadol, a chreu darlun ehangach mewn ffordd nid annhebyg i guradu darluniau mewn arddangosfa. Mae ffenest y siop yn gyfle wedyn i roi argraff gyntaf gwbl angenrheidiol i bobl. Rhaid iddi adlewyrchu ein hethos. Mae'r amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a Saesneg sy'n cael eu gosod yno yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol o safbwynt dosbarth, hil, rhyw a chenedligrwydd, gan roi cip ar faterion cyfoes a choffáu digwyddiadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r un peth yn wir y tu mewn i'r siop. Yn ddiweddar, tynwyd sylw at waith yr awdur John Berger, sydd bellach yn 90 oed, trwy osod nifer o'i lyfrau mewn llefydd amlwg: Ways of Seeing yn dathlu ei gyfraniad diwylliannol a'i safbwynt annisgwyl ar y celfyddydau gweledol; ei waith gyda'r ffotograffwraig, Jean Mohr, yn A Fortunate Man; ei fywyd yng nghefn gwlad Ffrainc yn Pig Earth, ei grap ar ymfudwyr economaidd yn The Seventh Man; ei ffuglen a'i frasluniau yn G a Bento's Sketchbook.

John Berger sy'n cael sylw y tro hwn ond y mis nesaf fe fyddwn yn rhoi lle blaenllaw i waith Menna Elfyn, Tia Jones, Cynan Jones, Tyler Keevil a Jay Griffiths, awduron sydd yn llawer agosach at adref wrth gwrs ac sy'n rhan o'n rhaglen 'Dros y dudalen: digwyddiadau llenyddol yr Hydref'. Mi fydd o ddiddordeb hefyd i chi a'ch darllenwyr bod rhifyn cyntaf O'r Pedwar Gwynt wedi ei osod ochr yn ochr â'r gyfrol Ffarwel i Freiburg: Crwydriadau cynnar T H Parry-Williams gan Angharad Price, a'r gyfrol Cerddi: rhigymau a sonedau gan T H Parry-Williams, a gyhoeddwyd gan wasg Gomer yn eu cyfres o glasuron clawr caled gosgeiddig. Awduron, darllenwyr, artistiaid, ffotograffwyr, gweithredwyr gwleidyddol - mi fyddant yn siŵr o ffeindio'u ffordd i siop lyfrau lle bynnag y bônt.

Siop Lyfrau Penrallt

Yr un feddylfryd sydd ar waith ar waliau'r siop. Llynedd, trefnwyd arddangosfa o lyfrau cloriau meddal o'r chwedegau ganddom - llyfrau Penguin gan mwyaf. Roedd y llyfrau hyn yn nodweddiadol o gyfnod pan oedd cynllun siaced llyfr yn arddangos gwaith artistiaid unigol nad oedd yn cael sylw haeddiannol ar y pryd: Paul Hogarth, Alan Aldridge, Giovanni Thermes, Romek Maber, hyd yn oed Len Deighton. Felly aethom ati i hongian llyfrau go iawn ar waliau'n galeri. Ond fel arfer, ffotograffau sy'n cael eu harddangos.

Yn anorfod, mae'r llyfrau'n gorlifo i'n gofod personol uwchben y siop gan ein bod yn byw ychydig gamau’n unig i fyny'r grisiau.

Un peth sy'n taro rhywun yn syth wrth gerdded drwy'r drws ydi'r teimlad o groesi'r trothwy i gartref lle mae yna anogaeth i fodio llyfrau ac i eistedd a darllen - a hynny weithiau efo paned o de a theisen gartref, fel mae nifer yn gwneud pan fyddant yn dod i un o'r digwyddiadau hynod boblogaidd a drefnir yn y siop. Ar yr un pryd, mae rhywun yn ymwybodol iawn nad rhyw le i fachu llyfr a ffoi ydi Penrallt, nid lle i'r cwsmer deyrnasu ar draul popeth arall, oherwydd mae'r ddeialog rhyngoch chi berchnogion a chwsmeriaid eraill bob amser yn creu awyrgylch waraidd iawn. Mae'n amlwg eich bod hefyd wedi gweithio'n galed i gysylltu'r siop lyfrau gyda'r gymuned ehangach a bod hynny'n bwysicach na dim i chi.

Mae yna arwydd ‘preifat’ cynnil ar y grisiau er mwyn gwahaniaethu rhwng y siop lyfrau a’n gofod byw, ond mae'n anorfod bod y naill fyd yn llifo i'r llall. Pan mae'r siop yn arbennig o brysur, mae fel petai parti byrfyfyr yn mynd rhagddo lawr grisiau, ond mae'n wir i ddweud ein bod yn ystyried ein siop fel man cyfarfod cymdeithasol yn ogystal ag fel lle sy'n rhoi cyfle i bobl feddwl mewn tawelwch (a dyna ydi o'n bennaf - lle tawel i ystyried llyfrau).

Bwrdd arddangos yn Siop Lyfrau Penrallt

Mae hi hefyd yn wir ein bod wedi cynnig paned o de neu goffi i ambell gwsmer sy'n fflagio - pwy fedr fod yn llyfrbryf ar 'stumog wag? - neu i gwsmeriaid selog sydd yn debyg o fod yn y siop am amser go lew, ond nid ein bwriad ydi cystadlu gyda'r caffi drws nesaf yn MoMA.

Ac mi fyddwn bob amser yn cyfarch pobl wrth iddynt ddod i mewn, pa un ai ydynt yn disgwyl hynny ai peidio. Dyma'r arwydd cyntaf i gwsmeriaid nad ydynt yn camu i le confensiynol neu amhersonol. Mae'r rhan fwyaf yn ymateb ond mae eraill yn fwy swil neu yn awyddus i gael llonydd, ac rydym yn parchu hynny hefyd, wrth gwrs.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o siopau llyfrau yng Nghymru, rydych yn gosod llyfrau Cymraeg ymysg llyfrau Saesneg, yn ôl pwnc, yn hytrach na'u casglu ynghyd yn adran o ddiddordeb Cymreig. Rydw i'n gwerthfawrogi'r ffordd hon o arddangos llyfrau'n fawr; mae'n braf sylwi ar gysylltiadau newydd heb eu disgwyl. Mae yna adrannau neilltuol o gyfoethog ym maes ffotograffiaeth, llyfrau plant a'r arddegau, llyfrau am fyd natur, ffilm a cherddoriaeth...

Ychydig frawddegau’n unig o Gymraeg sydd gan y ddau ohonom ond mae hi'n bwysig i ni bod Helen, ein haelod staff rheolaidd cyntaf, yn siarad Cymraeg. Mae Geoff yn Gymro a fagwyd yn y Cymoedd ond yn fab i rieni a fudodd yno o Swydd Gaerhirfryn. Rydym yn arbennig o ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y rhan hon o Gymru.

Yn y chwe blynedd diwethaf, mae fel petai cyhoeddi yng Nghymru wedi datblygu hefyd. Ond efallai mai'r ffaith ein bod wedi dysgu cymaint, a hynny mor gyflym, ers cyrraedd yma sy'n gyfrifol am yr argraff honno. Atgyfnerthu hynny, wrth gwrs, mae dyfodiad O'r Pedwar Gwynt! Ac mae datblygiadau diweddar fel Parthian yn cyhoeddi Pijin Alys Conran yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd yn cadarnhau hynny. Felly hefyd gyfieithiad Lloyd Jones i'r Saesneg o O! Tyn y Gorchudd Angharad Price a gyhoeddwyd maes o law gan wasg MacLehose, a chyhoeddiad y Cyngor Llyfrau Books from Wales: Classic and contemporary writing, sydd yn codi proffil llenyddiaeth Cymru y tu hwnt i Glawdd Offa.

Ar y cyfan byddwn yn gosod llyfrau Cymraeg ochr yn ochr â llyfrau Saesneg yn ôl pwnc, ac mae'n cwsmeriaid i weld yn gwerthfawrogi hyn; fel y nododd un ohonynt, 'Mae'n ffordd o atgoffa siaradwyr Saesneg eu bod mewn gwlad lle siaradir Cymraeg.' Er mwyn digoni ymwelwyr sy'n chwilio am lyfrau am Gymru mae ganddom adran ar gyfer ffuglen wedi ei gosod yng Nghymru. Gan fanteisio ar bresenoldeb cyfieithiadau rhwng y Gymraeg a'r Saesneg mae ganddom hefyd gyfieithiadau o nofelau a rhyddiaith o ieithoedd eraill. Yn ogystal â MacLehose, sef gwasgnod Quercus (eu cyfieithiad cyntaf oedd cyfrol gan yr awdur o Sweden, Stieg Larsson...), rydym yn gwerthu cyfieithiadau gan wasg Pushkin, Yale Margellos a Serpent's Tail ar hyn o bryd.

Llyfrau yn Siop Penrallt

Y fantais o werthu llyfrau ail-law yn ogystal â llyfrau newydd yw ein bod yn medru cynnig llyfrau dylanwadol ac arwyddocaol sydd allan o brint neu'n anodd cael gafael arnynt. Mae tua dwy ran o dair o'n stoc yn lyfrau ail-law. Ni sy'n dewis y cyfrolau hyn pan fyddwn yn mynd ar sgowt i chwilota amdanynt - ar drafnidiaeth gyhoeddus bob tro. Er bod yr ymdrech hon i gynnal safon ac i sicrhau llyfrau unigryw, a gwneud hynny wrth geisio cadw ein hôl-troed carbon mor isel â phosib, yn cymryd amser, yn ein barn ni mae hi’n ffordd werth chweil a chynaliadwy o fynd ati i redeg siop lyfrau gyfoes annibynnol. Mae cymorth Llywodraeth Cymru - cyfraddau arbennig i fusnesau bychain - wedi bod yn bwysig, felly hefyd gymorth Cymdeithas y Llyfrwerthwyr a pherthynas glos gyda chyhoeddwyr a chyfanwerthwyr. Nid oes modd prynu ar-lein ond mae gennym wefan bellach. Yno, gall cwsmeriaid, ymwelwyr â'r dref, darpar-arddangoswyr ac awduron gael syniad o hyd a lled ein siop lyfrau a'n digwyddiadau.

Fel y soniaist, ein harbenigedd naturiol yw llyfrau ym maes ffotograffiaeth, ac mae gennym stoc dda o amrywiaeth eang o lyfrau gan gyhoeddwyr yr ydym yn eu hedmygu ar bynciau y teimlwn yn hyderus yn eu hyrwyddo. Mi fyddwn yn dysgu llawer hefyd gan ein cwsmeriaid darllengar. Er ein bod yn ceisio annog awch am lenyddiaeth yn gyffredinol nid pob pwnc sy’n debygol o gael hyd i'w le'n hawdd ar ein silffoedd. Mae ein hadran ar hanes fodern yn cynnwys, yn anochel, lyfrau am 'wrthdaro' ond mae’r rheini o safbwynt annog heddwch; crynhowyd llyfrau sydd fel arfer yn cael eu categoreiddio fel 'llyfrau taith' mewn adran o'r enw 'crwydriadau' ac rydym yn pwysleisio ffyrdd arafach o deithio, ar droed neu ar feic. Ac mae'n bosib mai ni ydi'r unig siop lyfrau ag adran o lyfrau gwrth-geir. Gellir synhwyro ein persbectif gwleidyddol felly; mae yna rywbeth i ysgogi meddwl unrhyw un sy'n ystyried ei hun yn weithredol ar unrhyw lefel ac mewn unrhyw faes - iaith, yr amgylchfyd, y celfyddydau gweledol, y defnydd o dir.

Gellid dadlau mai llyfrau yw'r nwyddau mwyaf gwleidyddol sydd ar werth yn ein siopau; ein barn ni ydi bod llyfrau sy'n cwestiynu ac yn hybu dealltwriaeth yn arwydd o siop lyfrau sydd o ddifrif. Mae'r amrywiaeth eang o gwsmeriaid sydd ganddom yn awgrymu bod llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael croeso yma. Mae yna deimlad o gyffro wrth i blant ddarganfod llyfrau yn y gornel lle mae’r anifeiliaid fferm – mae’r plant yn hoff o'u trefnu a’u haildrefnu – ac roedd ein dewis cynyddol o lyfrau i blant hŷn yn arbennig o boblogaidd dros yr haf.

Mae cefndir y ddau ohonoch mewn ffotograffiaeth a ffilmiau dogfen eisoes wedi cyfrannu llawer i Fachynlleth a'r ardal, trwy gyfrwng arddangosfeydd a gweithdai yn y siop, ac o fis Chwefror 2017, mi fyddwch yn gyfrifol am guradu arddangosfa nodedig drws nesaf yn MoMA.

Ein bwriad gwreiddiol wrth symud i Fachynlleth oedd ennill ein bara menyn trwy ddysgu cwrs ffotograffiaeth o bell. Mae'r ddau ohonom yn ffotograffwyr, yn wneuthurwyr ffilm ac yn gyn-athrawon. Paratowyd y cwrs a'i brofi am y tro cyntaf yn Nottingham cyn ei lansio yma ochr yn ochr â'r siop. Ond buan y sylweddolom ei fod yn ormod ceisio gwneud y ddau beth wrth i'r siop lyfrau fynd o nerth i nerth. Felly bellach, mae ein harddangosfa flynyddol o luniau - a ddewisir o blith y lluniau a gyflwynir yn rhan o'n cystadleuaeth agored - yn cymryd lle'r cwrs, ar lefel symlach fel petai. Cynhelir gweithdai hefyd sy'n annog pobl i ailystyried eu dealltwriaeth o’r cyfrwng a'u ffordd o fynd ati i dynnu lluniau.

lluniau ar y wal yn Penrallt

Mae ganddom ystafell dywyll a ddefnyddir i brosesu ac i argraffu ein lluniau ein hunain yn bennaf ac, fel arfer, rydym yn curadu, yn gosod ac yn fframio oddeutu chwe arddangosfa y flwyddyn - ffotograffau'n bennaf - gan wahodd pobl nad ydynt wedi arddangos o'r blaen i greu gwaith ar gyfer sioe unigol. Yn aml mae'r rhain yn ffotograffwyr y daethom ar eu traws wrth iddynt gyflwyno gwaith i'n cystadleuaeth. Mae wedi rhoi cyfle i ni hefyd weithio gyda ffotograffwyr mwy adnabyddus. Yn Nhachwedd 2015, cawsom y pleser o ddod i adnabod gwaith Marian Delyth yn well wrth gydweithio i ddewis ac arddangos lluniau o'i chyfrol Enlli - Tu Hwnt i'r Swnt.

Mae'n wir ein bod wedi arfer trefnu arddangosfeydd ers blynyddoedd lawer tra'n byw yn Nottingham, ac ochr yn ochr â'r arddangosfeydd a drefnwyd ganddom fan hyn, rydym wedi datblygu sgiliau sydd wedi ein cymell i guradu arddangosfa o bwys ar gyfer MoMA Machynlleth. Mi fydd Fay Godwin: Ffyrdd y Porthmyn yng Nghymru a ffotograffau eraill yn dathlu deugain mlynedd ers cyhoeddi'r gyfrol The Drovers' Roads of Wales gan Shirley Toulson a Fay Godwin, ac fe fydd dwy ystafell wedi eu cysegru i ffotograffiaeth Fay Godwin.

Roedd Godwin yn ffotograffydd dogfen o bwys ac yn arbenigo mewn tirluniau. Roedd hefyd yn gweithredu'n wleidyddol, yn ymgyrchu dros well mynediad at a gofal o dir, yn hybu ymwybyddiaeth o berchnogaeth tir, o bwy oedd yn gweithio'r tir a phwy oedd yn gofalu amdano neu yn ei gamddefnyddio. Roedd cyhoeddi ei chyfrol Our Forbidden Land yn ddigwyddiad o bwys ym myd cyhoeddi ffotograffiaeth ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif.

Bydd y lluniau'n gyfuniad o brintiau archif ar fenthyg o'r Llyfrgell Genedlaethol, a llyfrau nodiadau ffotograffig a phrintiau gwaith (wedi eu creu o'r negatifau gwreiddiol a ddewiswyd gan ei ffrind agos a'i chydweithwyr) ar fenthyg gan y Llyfrgell Brydeinig. Ar yr un pryd, mi fydd arddangosfa o luniau gan ffotograffwyr a ddaeth dan ei dylanwad yn cael ei chyflwyno yma ym Mhenrallt, sydd drws nesaf i MoMA. Mi fydd rhaglen o ddigwyddiadau, gan gynnwys teithiau cerdded a diwrnod astudio, yn cael eu trefnu i gyd-fynd â'r arddangosfa a fydd i’w gweld ym MoMA Machynlleth rhwng 18 Chwefror 2017 ac 1 Ebrill 2017.

Siop Lyfrau Penrallt

Beth wnaeth eich denu i Fachynlleth yn benodol? Gwn eich bod yn teithio ar hyd a lled Ynysoedd Prydain ar drafnidiaeth gyhoeddus yn chwilota am lyfrau, a'ch bod wedi gwerthu eich car fel mater o egwyddor. A oedd y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn rhan o'r atyniad, yn gymaint â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth?

Mae gan yr awdur natur, Richard Mabey, air am hyn, westering, sef symud tua'r gorllewin. Roedd tref fechan â gorsaf reilffordd (wedi ei gosod mewn llecyn prydferth ar lannau moryd yr afon Ddyfi ac mor agos at y môr) yn awgrymu Machynlleth. Cawson wared ar y car yn 2005 ac wedi gwneud yn iawn ers hynny.

Mae Machynlleth yn dref fywiog, amrywiol ag iddi hanes arbennig wedi ei ddylanwadu gan Senedd-dy Owain Glyndŵr. Mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu yma, mae yma oriel gelf (MoMA) a neuadd gyngerdd, ac mae’r ardal ehangach yn cynnig cyfoeth y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Prifysgol Aberystwyth, Canolfan y Celfyddydau, a'r Llyfrgell Genedlaethol - roedd y rhain i gyd yn ffactorau a’n denodd i'r ardal.

Un argraff gref sy'n aros yn y cof yw ein hymweliad â chaffi'r Chwarel a dod ar draws taflen am ŵyl gerdd yn dathlu bywyd a gwaith Victor Jara. Mae'r ŵyl El Sueño Existe yn parhau'n ddigwyddiad blynyddol a gefnogir ganddom fel unigolion ac fel siop lyfrau. Mae'r holl elfennau hyn - y brifysgol gyfagos, y Ganolfan Dechnoleg Amgen, gŵyl gerdd Machynlleth, yr ŵyl Gomedi a bellach penwythnos R S Thomas a gynhelir bob dwy flynedd - maent bob un wedi dylanwadu'n fawr ar ddatblygiad y dref fel cymuned amrywiol a neilltuol o agored, ond wrth gwrs, mi oedd yr orsaf yn gwbl hanfodol.

Cyn gynted ag y cafodd y sgaffaldau eu codi ar yr adeilad a oedd i fod yn gartref i ni ac i'r siop, dechreuodd pobl oedi am sgwrs. Mae bod ar ben ysgol yn peintio, ac yna'n croesawu pobl i'r siop yn ffordd ardderchog o ddod i adnabod pobl ac iddynt ddod i wybod amdanom hefyd. Diolch i O'r Pedwar Gwynt am y cyfle hwn i ystyried a myfyrio.


Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands, Cyd-olygydd O'r Pedwar Gwynt.

Lluniau: Diane Bailey.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Siop lyfrau, Sioned Puw Rowlands

 


Gellid dadlau mai llyfrau yw rhai o'r nwyddau mwyaf gwleidyddol sydd ar werth yn ein siopau; ein barn ni ydi bod llyfrau sy'n cwestiynu ac yn hybu dealltwriaeth yn arwydd o siop lyfrau sydd o ddifrif

Dyddiad cyhoeddi: 07·09·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…