50/ Pamffled gwrth-gaethwasiaeth
Cymru mewn 100 gwrthrych
Andrew Green
Cymru mewn 100 gwrthrych
Gomer, £19.99, Medi 2018
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob gorthrech’. Ei deitl oedd Dioddefiadau Miloedd Lawer o Ddynion Duon, mewn Caethiwed Truenus yn Jamaica a Lleoedd eraill, ac amlygwyd ei nod yn ei is-deitl: ‘yn cael ei gosod at ystyriaeth ddifrifol y Cymry hawddgar, er mwyn ceisio eu hennill i adael Siwgr, Triagl a Rum.’
Boicotio siwgr o’r Caribî oedd un o brif arfau’r rhai oedd yn benderfynol o ddiddymu’r fasnach gaethweision drawsiwerydd. Ers amser, Prydain fu’r wlad a oedd yn masnachu caethweision yn fwy na’r un arall yn y byd, ac erbyn y 1790au, roedd dros 200,000 o gaethweision yn gweithio ar blanhigfeydd siwgr Jamaica. Bu awduron o Gymru eisoes yn siarad yn erbyn y fasnach, yn arbennig yr emynydd a’r arweinydd Methodistaidd William Williams Pantycelyn.
Awdur y pamffled oedd Morgan John Rhys. Ganed e ar bwys Llanbradach yn 1760. Ymunodd gyda’r Bedyddwyr yn dilyn ei dröedigaeth a daeth yn weinidog teithiol. Roedd Anghydffurfwyr yn aml ar flaen y gad mewn ymgyrchoedd diddymol, ac fel llawer ohonynt, cyfunai Rhys frwdfrydedd cenhadol â theimlad tanbaid o anghyfiawnder. Ar ôl cychwyn y Chwyldro Ffrengig, croesodd y môr i Ffrainc ym mis Awst 1791. Roedd yn llawen o weld y Bastille yn adfeilion, ond ei brif weithgaredd oedd pregethu’r efengyl Brotestannaidd, gan gredu y gellid trechu Catholigiaeth yn ogystal â gorthrwm. Yn ôl yng Nghymru yn 1793, sefydlodd y cylchgrawn gwleidyddol cyntaf yn y Gymraeg, Y Cylch-grawn Cynmraeg, a argraffwyd yng ngwasg y Methodistiaid yn Nhrefeca. Adlewyrchai ei gynnwys ei radicaliaeth ac ystod ei ddiddordebau. Ymysg y pynciau yn yr erthyglau roedd puro crefydd, diwygio’r wyddor Gymraeg, gwyddoniaeth, y chwyldro Americanaidd a’r ‘Indiaid Cymreig’ tybiedig o ogledd America.
Yn ei bamffled, dadleua Rhys dros yr angen i esbonio canlyniadau enbyd y fasnach siwgr yn yr iaith Gymraeg, i’r rhai na allent ddarllen cyhoeddiadau ar y testun yn Saesneg. Craidd ei ddadl yw bod caethwasiaeth ‘yn afresymmol, yn anghyfiawn a chwbl groes i nattur; a pheth llwyr anghyttunol â rhwymedigaethau’r grefydd Gristnogol, yr hon a’n gorchymmyn i garu eraill fel ni’n hunain, a gwneuthur i eraill fel yr ewyllysiem i eraill wneuthur i ninnau’. Â ymlaen i ddisgrifio erchylltra cludo’r caethweision i Jamaica a sut y cânt eu trin yno.
Hysbyseba’r dudalen deitl ‘gân’ sydd ar gael o’r un argraffydd. Dalen lydan yw hon, ar ffurf deuddeg pennill a ysgrifennwyd fel pe bai gan gaethweision, o’r enw Achwynion dynion duon mewn caethiwed truenus yn Ynysoedd y Suwgr. Mae’n debyg i hon hefyd gael ei hysgrifennu gan Rhys. Dim ond un copi sy’n goroesi, ym mhapurau personol Iolo Morganwg, a oedd hefyd yn wrthwynebydd ffyrnig i’r fasnach gaethweision.
Ym mis Awst 1794, wrth i’r llywodraeth ddistewi barnau radical, ymfudodd Rhys i’r Unol Daleithiau. Parhaodd i ymosod ar gaethwasiaeth ac amddiffynnodd hawliau Americanwyr brodorol. Yn 1795, bu’n helpu i sefydlu eglwys i bobl groenddu yn Savannah, Georgia, yn wyneb gwrthwynebiad gan berchenogion caethweision. Yn 1796, prynodd dir yn Pennsylvania a alwodd yn ‘Cambria’. Yno yn 1797, sefydlodd gymuned o’r enw Beulah fel ‘trefedigaeth Gymreig’ – un o nifer o ymdrechion, fu’n aflwyddiannus ar y cyfan, i drawsblannu rhan o Gymru i America.
50 / Pamffled gwrth-gaethwasiaeth, 1792 / Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, Casgliadau Arbennig ac Archifau / cardiff.ac.uk/libraries / CF10 3EU
Bydd tri digwyddiad lansio ar gyfer y gyfrol Cymru mewn 100 gwrthrych.
· Dydd Mercher, 26 Medi, 18.00-19.30 - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
· Dydd Iau, 27 Medi, 19.00-20.30 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
· Dydd Gwener, 28 Medi, 19.00-20.30 - Storiel, Gwynedd.
Gellir prynu'r gyfrol ar-lein yn y fan hon.
Mae Andrew Green wedi gweithio fel llyfrgellydd a chyfarwyddwr gwybodaeth mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1998 a 2013. Cyfrannodd at waith sawl corff, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n llywydd Sefydliad Brenhinol De Cymru ac yn gadeirydd Bwrdd y New Welsh Review. Mae’n cyhoeddi blog wythnosol o dan yr enw ‘gwallter’, ac yn mwynhau ysgrifennu a theithiau cerdded.
Ffotograffydd annibynnol yw Rolant Dafis gyda dros ugain mlynedd o brofiad ym meysydd hysbysebu a marchnata, pensaernïaeth, celfyddyd gain a chyfoes, a’r wasg. Dechreuodd ei yrfa yng Nghymru ym mwrlwm sîn roc Gymraeg yr wythdegau ac y mae wedi gweithio fel prif ffotograffydd i Sotheby’s. Mae ei restr o gleientiaid eclectig yn cynnwys The Independent, The Guardian, Christie’s a Creation Records.