Dadansoddi

Beth yw maeth i awdur?

Dathlu gwobrwyo Alun Jones am gyfraniad oes i'r diwydiant cyhoeddi


Lleucu Roberts

Amser darllen: 3 munud

31·05·2017

Ifanc oedd Alun. Ac ifanc oedd Ysgol Penweddig hefyd ym mis Medi 1975; yn llythrennol – dwy flwydd oed oedd hi, heb eto dyfu dosbarth chwech – ac ifanc hefyd o ran ei hysbryd. Goferai ag athrawon yn llawn o frwdfrydedd a gobaith am Gymru Gymraeg (neu Geredigion Gymraeg o leiaf), ac wrth edrych yn ôl, drwy’u trwch, athrawon ifanc yn eu hugeiniau a’u tridegau cynnar oedd y mwyafrif llethol. Pe gallwn fod wedi costrelu’r ysbryd hwnnw, y ffrwydrad o egni, yr hyder, a’i drosi a’i daenu drwy fywyd cyhoeddus Cymru yn y blynyddoedd wedyn, drwy ei sefydliadau a’i Senedd pan ddaeth, byddem yn Gymru rydd Gymraeg ers amser.

Ie, ifanc oedd Alun, ac yn llawn o afiaith ac ysfa i rannu ei gariad at lenyddiaeth Cymru a’r Gymraeg. Ymunodd â theulu Penweddig ar yr un diwrnod ag y gwnes i, a daeth yn athro dosbarth arnaf - trefn a oedd i bara tra bûm yn yr ysgol - ac ef oedd fy athro Cymraeg wrth gwrs. Deffrodd ynof, ynom, ddiddordeb heintus mewn llenyddiaeth Gymraeg, trosglwyddodd ei serch tuag ati, ei frwdfrydedd di-ben-draw yn ei chylch, a phlannu’r rhain ynom am oes.

Gallaf oedi yn y Stafell Gymraeg a chlywed Alun, fel pe bai’n ddoe, yn egluro cerddi a thrafod nofelau, yn cynnau’r fflam ynom, yn ymgolli – nes gwneud i ni chwerthin yn aml – yn yr hyn roedd e’n ei ddweud, fel pregethwr diwygiad, â’i lygaid ar dân. A ninnau’n ymgolli dan swyn y cyfaredd a enynai ynom, nid yn unig yn y gwersi, ond wrth ymarfer Cyflwyniadau Llafar yr Urdd, a’r cynhyrchiad drama blynyddol (gyda’r anhygoel Gwen Aaron), gwnâi’n siwr nid yn unig ein bod yn gwybod y geiriau ond ein bod hefyd yn eu hadnabod, yn eu deall. Dangosodd inni nad perthyn i strwythur y wers yn unig yr oedd llenyddiaeth Gymraeg – roedd e’n rhywbeth i’w fyw. Daeth Mair Foulkes (Evans wedyn) yno i ddysgu ato o’r coleg, a rhyngddynt ill dau, dau ysbrydolwr bore oes, fe gyneuasant fy mhenderfyniad mawreddog i wneud ‘sgwennu’ yn fywoliaeth, yn ffordd-o-fyw, yn ollyngdod.

Wrth dyfu, roedden ni mor ymhonnus, yn gwybod popeth, ac Alun yn gadael i ni feddwl ein bod yn gwybod popeth. Byddai’n hogi ein meddyliau bach, yn trin ein syniadau penboeth anaeddfed fel pe bai rhyw werth ynddynt, a byth yn nawddoglyd, byth byth yn ein trin fel plant. Weithiau, byddai ein gwrthryfela arddegol yn gwneud i ni ddadlau er mwyn dadlau (i ymestyn y drafodaeth yn y gwersi er mwyn osgoi gorfod sgwennu), a chofiaf gael fy nghadw i mewn ganddo dros amser egwyl un bore, ar ôl mynnu du yn wyn yn y wers Gymraeg nad oedd emyn yn farddoniaeth, i sgwennu traethawd i gefnogi fy haeriad. Er ceisio rhaffu rhyw resymeg afresymol, deallais yn fuan iawn yn ystod yr amser egwyl byr hwnnw fod emyn yn farddoniaeth.

Athro felly ydoedd – y math gorau: un a arllwysai ei gariad at ei bwnc yn drwch o’n blaenau, a gadael i ni ymdrochi ynddo a ffurfio ein cariad ein hunain tuag at ein hiaith, ein gwlad a’n traddodiad ein hunain. Dyna sut y mae’n golygu llyfrau hefyd: awgrymu, argymell, a gadael i’r awdur benderfynu. Sylweddolais gymaint o wyleidd-dra sy’n perthyn iddo wrth iddo ddod i olygu fy nofel gyntaf bedair blynedd ar ddeg yn ôl: ‘awgrymiade y’n nhw, paid â chymryd sylw o ddim un os nag wyt ti isie’, a dyna yw hi wedi bod bob tro ers hynny. Bron yn ddi-feth, gwawria arnaf yn raddol wrth bori dros ei awgrymiadau mai fe oedd yn iawn. Mae’n byw drwy’r broses o greu nofel gyda’r awdur, yn dod i nabod cymeriadau o ben yr awdur, ac yn deall yn well na’r awdur ei hun, yn fy achos i yn sicr, beth fydd y darllenydd ei eisiau, ar ba bwynt y bydd ei ddiddordeb yn diffodd, a beth i’w wneud i osgoi hynny. 

Drwy’r cyfan, y direidi heintus – hwnnw welwch chi yn ei lygaid. Mae e’n gwybod be sy’n bwysig a be sy ddim, ac mae honno’n gyneddf brin, yn sgil bywyd go iawn. Mae gwybod o’r fath yn taenu rhyw ysgafnder dwys drwy ei natur, rhyw asbri dwfn, rhyw ieuenctid oesol. Ifanc yw Alun.


Cyfrol ddiweddaraf Lleucu Roberts yw Jwg ar Seld (Y Lolfa, 2016).


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Addysg, Lleucu Roberts

 


Wrth dyfu, roedden ni mor ymhonnus, yn gwybod popeth, ac Alun yn gadael i ni feddwl ein bod yn gwybod popeth

Dyddiad cyhoeddi: 31·05·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Casia Wiliam

Dwi wedi symud tŷ naw o weithiau yn ystod fy mywyd, ac ym mis Hydref, a minnau bellach yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, fe fydda i’n symud eto. Rydw i a Tom wedi bod yn byw yn ein fflat…

Adolygu


Elan Grug Muse

Petawn i’n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i’n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i’n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae darllenwyr Cymru wedi arfer efo nofelau realaidd, pridd-ac-adfeilion-a-charcasau-ŵyn-bach, a thros y blynyddoedd mae nhw wedi glynu’n reit ystyfnig at yr hyn maen nhw’n ei hoffi. Pwy a ŵyr, wedyn, be wnân nhw efo nofel…

Dadansoddi


Gwyn Griffiths

Derbyniodd Gwyn Griffiths wobr gyfieithu Ostana yn yr Eidal, am ei waith yn cyd-olygu dwy flodeugerdd yng nghyfres Francis Boutle o ieithoedd llai-eu-defnydd Ewrop. Llenyddiaeth Llydaw yw testun y gyfrol gyntaf ac mae’r ail, The Old Red Tongue, yn gyfrol swmpus o ryw 1,000…

Dadansoddi


Gerald Morgan

Mae tinc o euogrwydd yn poeni’r meddwl. Newydd ddychwelyd o Lydaw wedi wythnos o wyliau gyda pherthnasau – braf iawn. Bwyta’n dda, mwynhau’r traethau, trefi Pont-Aven, Pontivy, Concarneau a Landerneau. Cyngerdd egnȉol gan gôr meibion Tregunc yn canu caneuon y môr, arddangosfa fawr o waith Picasso, ac yn…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ar fore gwlyb a thywyll ddiwedd mis Hydref ym 1964 eisteddai'r bachgen 10 oed mewn caffi di-nod nepell o Orsaf Fictoria, Llundain. Arhosai'n eiddgar gyda'i rieni am frecwast; wedi taith dros nos o Gymru roedd y bachgen yn flinedig ac anniddig. Nid dyma'r…

Adolygu


Elan Grug Muse

‘Trwy ddrych’ oedd testun y Goron yn Eisteddfod Môn 2017. Y mae drych, yn ôl ei natur, yn dangos i ni ryw ddarlun o’n byd. Llun sydd efallai’n gyfarwydd, ond nid yr union lun yr ydym wedi arfer ei weld gyda’n llygaid noeth. Dyna oedd yng nghefn fy meddwl wrth…

Cyfansoddi


Siân Cleaver

Enillydd Her Gyfieithu 2017 Cyfnewidfa Lên Cymru a PEN Cymru yw Siân Cleaver, sy'n hanu o Gastell-nedd. Yn y fan hon gallwch ddarllen cyfieithiad buddugol Siân o gerdd gan y bardd Twrcaidd Nâzim Hikmet, ynghyd â'i hymateb i'r heriau penodol sy'n deillio o gyfieithu o 'iaith bontio'.

Dadansoddi


Manon Steffan Ros

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel.