D J Williams


Storïau'r Tir

Gomer, 182tt, ail-law, 1966

Angladd pentre
Dadansoddi

Angladd pentre

Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre


Angharad Dafis

Amser darllen: 15 munud

02·04·2019

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn mewn cenedl o gymunedau. 

Yn y Parsel Mawr, sef pentrefi Felindre, Garnswllt a Chraig-cefn-parc, y ceir canran uchaf siaradwyr y Gymraeg yn holl sir Abertawe: 38% o’i gymharu â chyfartaledd o 11% yng ngweddill y sir. Y gymuned Gymreiciaf ohonynt oll mae’n siŵr yw cymuned Felindre – a dim ond yno y ceir bellach ysgol Gymraeg, yr ysgol Gymraeg wledig olaf un yn yr ardal hon. 

Cefais brofiad o fyw mewn amryw o gymunedau gwahanol ar hyd fy oes. Bum yn byw ym Mawr yn hwy nag yn unrhyw gymuned arall. Cymdeithas Gymraeg Felindre sydd i gyfrif fod hynny wedi ymestyn i fod yn agos i ddeng mlynedd ar hugain erbyn hyn. Mae penderfyniad y Cyngor Sir wedi gadael twll du ym mhwll stumog y gymdeithas honno. Chwalwyd cadarnle ola’r Gymraeg yn ninas a sir Abertawe. Anrheithiwyd y gaer. 

Treuliais ddyddiau fy mhlentyndod yn Llanybydder, lle mae ysgol dipyn mwy o faint na Felindre, hithau hefyd wedi ei rhestru ymhlith yr ysgolion bychain gwledig a warchodir gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Yn wahanol i Lanybydder a llu o ysgolion mewn pentrefi gwledig ledled Cymru, mae gan Felindre’r fantais o ddwysedd poblogaeth i sawl cyfeiriad, ac fel rhieni, staff a llywodraethwyr buom yn ofer alw ers yn agos i chwarter canrif ar yr Awdurdod Addysg i ehangu dalgylch yr ysgol ac i drin Felindre yn deg. 

Seiliwyd dalgylch Felindre fel erioed ar ychydig ffermydd yma ac acw. Wedi i’r gwaith dur ddwy filltir o’r pentre gau, bu ymlyniad rhieni o’r tu allan i’r dalgylch, lawer ohonynt yn ddiGymraeg, yn gynhaliaeth i’r ysgol ers sawl degawd. Er i ddalgylchoedd y ddwy ysgol arall yn y Pecyn Ad-drefnu, sef ysgolion Tan-y-lan a Thirdeunaw gael eu hymestyn, ac i adeiladau newydd gael eu haddo ar eu cyfer, methwyd unwaith eto â rhoi’r sylw dyladwy i ddalgylch Felindre. Wrth ymateb i’r Pecyn Ad-drefnu dywedodd cangen Abertawe o RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg – na welent unrhyw reswm dros newid unrhyw ddalgylchoedd eraill. Cafodd Ysgol Felindre ei thrin fel problem yn hytrach nag fel rhan greiddiol o’r strategaeth addysg gyfrwng Cymraeg. Ni werthfawrogwyd y lle fel adnodd amhrisiadwy yn yr ymdrech i greu miliwn o siaradwyr arhosol. 

Nid nepell o Lanybydder y saif pentre Rhydcymerau. Yn ei gyfres o gyfrolau o straeon byrion, Storiau’r Tir, aeth D J Williams (gw. yn y llun), un o’r tri a losgodd yr ysgol fomio, ati i ddisgrifio’r filltir sgwâr yno yn fanwl gywir, a hynny am ei fod yn ysol ymwybodol fod hon yn gymdeithas oedd yn edwino o flaen ei lygaid. Yr oedd ef eisoes wedi gweld y sgrifen ar y mur ac fe ddisgrifiwyd y profiad o ddarllen gwaith D J Williams gan ambell feirniad llenyddol fel ‘hiraeth yr anadl olaf’. Gwnaeth Meirion Evans yntau gymwynas debyg â chymuned Felindre. Ond cipio ffordd o fyw arbennig oedd dyhead y naill awdur a’r llall, nid darogan diwedd y Gymraeg fel iaith fyw.

*

Daw cyfres o luniau penodol i ffenest flaen y meddwl wrth geisio cael gafael ar gwsg. Darlun Edvard Munch 'Y Sgrech' (1893) yw’r cyntaf. Mae’r llun yn cyfleu gwewyr rhywun sy’n teimlo’n ynysig o anobeithiol. Weithiau mae’r sgrech yn goferu i ddagrau sy’n llifo fel rhewyn nad yw byth am sychu. Llun Geoff Charles o Carneddog a Catrin wrth iddynt adael eu cartref am y tro olaf yw’r nesaf (1945). A’r ddelwedd o Cofiwch Dryweryn yw’r trydydd. Ystrydebau i gyd meddech chi. Efallai’n wir. Ond mae angen delweddau felly pan fo pob drws arall wedi ei gau yn glep yn eich wyneb a geiriau wedi profi’n ddi-werth.

Mae slogan Tryweryn ger Llanrhystud yno i’n hatgoffa i beidio byth ag anghofio am golli cymuned arbennig uniaith Gymraeg, i bob pwrpas. Wrth gofio Tryweryn onid cyfeirio a wnawn at bob cymuned Gymraeg sy’n mynd ar ddifancoll? Does gennym ni ddim o’r moethusrwydd bellach, ysywaeth, i ddathlu bodolaeth cymunedau uniaith. Nid yw hynny chwaith yn nacáu’r angen i warchod y cymunedau hynny lle ceir canran sylweddol o Gymry Cymraeg o hyd. Oherwydd mae yna Dryweryns bychain ar hyd a lled ein cenedl a’r goleuadau yn diffodd ynddynt fesul un.

Yn ystod yr un wythnos ag y gwnaed y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yr haf hwn, cafwyd sôn fod y llywodraeth am ystyried talu am y gost o gynnal a chadw graffiti Tryweryn a’i wneud yn gofeb genedlaethol. Ond wrth i ni ymroi i gofio’r gorffennol ac i wrthod gollwng gafael ar ein hiraeth a’n galar, mae perygl gwirioneddol ein bod yn anwybyddu’r difrod sy’n digwydd i gymunedau heddiw dan ein trwynau. Mwy diddorol i mi yn y cyswllt hwn na pharodrwydd y Llywodraeth ym Mae Caerdydd i daflu ychydig ddarnau arian tosturiol i gyfeiriad Cofiwch Dryweryn neu beidio yw’r ffaith fod un o’r rhai a baentiodd y slogan gwreiddiol, sef y cyn-farnwr Roderick Evans, yn un o’r ymron i saith gant a wnaeth ymbil ar gyngor Dinas a Sir Abertawe i gadw drysau Ysgol Gymraeg Felindre ar agor. 

I bob pwrpas, gwawdio cefnogaeth luosog Cymuned Mawr a phawb arall wnaeth y cynghorydd Jen Rayner, yr aelod cabinet dros addysg, ar lawr Neuadd y Ddinas ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw. Ni thrafferthasai hi na’i chyd-aelodau cabinet ateb chwaith y gyfres o wahoddiadau ar iddynt ymweld â’r ysgol, na thrafod gyda ni’r ymgyrchwyr. Pennwyd dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol yn y cwmwd hwn gan ddeg aelod cabinet Llafur uniaith Saesneg Cyngor Dinas a Sir Abertawe nad ymboenodd i fentro allan i’r bryniau uwchlaw’r ddinas er erfyn arnynt wneud hynny droeon. Pa obaith oedd iddynt felly ddechrau deall y berthynas arbennig sydd wedi bodoli yn Felindre ar hyd y cenedlaethau rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach a’r modd y mae Cymreictod y naill yn bwydo oddi ar y llall? Caewyd yr ysgol heb ddod yn agos i ddirnad hynny na’r gwaith gwirfoddol aruthrol o werthfawr a gyflawnwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf gan fenywod diwyd y pentre. Rhoddodd rhai megis Helen a Phyllis o blith criw ohonynt oes o wasanaeth gwirfoddol heb gymorth grant gan na chyngor sir na menter iaith. Ac mae methiant na Chomisiynydd Iaith, na Gweinidog Addysg na Phrif Arolygydd Ysgolion i’n helpu allan o’r cyfwng mewn da bryd, er torri ar bob mesur a chod a chanllaw a deddf gan yr Awdurdod Addysg, wedi ein gadael yn teimlo fel hen bobol heb ddannedd – heb hyd yn oed ddannedd gosod. A dyna droi ein golygon o’r newydd at lun Geoff Charles o Carneddog a Catrin.
 

Carneddog a'i wraig Catrin cyn gadael eu fferm fynyddig yn Eryri, 14 Medi 1945 (Geoff Charles).
 

Dynion hen oedd aelodau’r cabinet bron bob un o ran hynny, yn laslwyd eu gwedd a gwg ar eu hwynebau wrth i un neu ddau ohonom feiddio bod yn dipyn o boendod ac anghytuno gyda’r hyn oedd yn cael ei ddweud. Yn y Gymru hon mae cred ddisyfl yn nhrefn dynwasgodlyd llywodraeth leol yn drech na rheswm. Roedd Jen Rayner yn unplyg yn ei hymlyniad diwyro i gyrraedd ei nod ac yn sicr o gefnogaeth ei gosgordd. Go brin fod yr aelodau cabinet yn gwrando ar yr hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod er hynny, os oedd siarad ag un ohonynt yn sampl teg. Wedi ymbil gan unigolion a mudiadau annibynnol megis Cymdeithas yr Iaith a Chylch yr Iaith a Chymdeithas Gwyr, yn ogystal ag Aelodau Cynulliad megis Dai Lloyd, wedi ysgrifennu degau o filoedd o eiriau yn ymateb, ac wedi dilyn pob trywydd posib arall, caniatawyd deng munud yn unig i ni ofyn ac i’r arweinydd cabinet ateb cwestiynau yn siambr Neuadd y Ddinas. Dywedodd un o’r swyddogion yn y Cyngor Sir, sydd hefyd yn Gymro Cymraeg, wrthyf yn gynnar iawn yn y broses fod yr Ymgynghoriad drosodd. A oedd hynny cystal â chyfaddef mai Ymgynghoriad mewn enw yn unig oedd hwn ac nad oedd diben i ni fod yn lleisio ein gwrthwynebiad i’r cau? Efallai ei fod yn ceisio gwneud cymwynas â mi drwy awgrymu’n gynnil nad oedd wiw i mi dreulio’r saith mis nesa o fy mywyd yn Felindreiddio – yn mwydro fy mhen am holl gymhlethdodau’r broses drofaus hon fuasai’n sicr o gyrraedd yr un casgliad yn y pen draw. 

Ofer hefyd fu’r apêl am gyfnod estynedig i holi ac ateb ac ymateb i gwestiynau. Mynnwyd ein bod yn gyrru’r cwestiynau rhag blaen os oeddem am fod yn sicr o gael yr hawl i’w holi yn y cyfarfod. Yr un atebion ailadroddus llachar o annigonol gafwyd ar lafar â’r rhai ddarparwyd gydol yr Ymgynghoriad. Er ailsefyll yr arholiad dro ar ôl tro, bu methiant yr Awdurdod Addysg i gyrraedd unrhyw fath o safon â’u hatebion yn drawiadol. Wedi i gynnwys pob adroddiad gael ei ddethol yn ofalus, nid er mwyn adlewyrchu barn y cyhoedd ond er mwyn cyflawni’r nod o gau, roedd cyfyngu’r sesiwn gwestiynau yn ffordd arall o omedd annibyniaeth barn, o ddrysu democratiaeth ac o warantu fod canlyniad yr ‘Ymgynghoriad’ bondigrybwyll yn cyrraedd ei benllanw difaol. 

Erys y cwestiynau heb eu hateb. Maent yn crogi yn farc cwestiwn tragwyddol uwchlaw neuadd y ddinas ger bae Abertawe. Mae’r Cyngor Sir a’i holl baraffernalia o swyddogion a chynghorwyr yn parhau i guddio’u hwynebau yng nghilfachau’r byncyr yno. 

Pwy sy’n dal yr awenau? Y swyddogion ynte’r arweinydd cabinet? Dyna’r cwestiwn a holwyd yn ofer i un o aelodau’r cabinet y llwyddasom i’w amgylchynu wedi’r cyfarfod. Pam na chawn ni atebion tryloyw? Pwy sy’n llywio strategaeth addysg Gymraeg Dinas a Sir Abertawe? Ai’r Cabinet? Ai’r Swyddogion Addysg? Ynte pwy?

*

Mae’r rhaniad rhwng y Gwyr Cymraeg – Gower Wallicana – a’r Gwyr Saesneg – Gower Anglicana – yn un hanesyddol hirhoedlog ers oes y tywysogion ac efallai fod hynny wedi dod yn fwy amlwg nag erioed yn ystod y frwydr i gadw Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ar agor. Lle yw Felindre nad yw’n perthyn i unrhyw naratif cyfarwydd. Mae’n perthyn i’r 'arall'. Y peth dirmygedig hwnnw yn y gymdeithas gyfoes na ellir ei ddiffinio yn hawdd ac sydd felly’n rhyw fath o fygythiad.

Ciliodd y Cymry Cymraeg yn y ddeuddegfed ganrif i’r bryniau yn Gower Wallicana – y Gwyr Cymraeg sy’n parhau, fe ymddengys, yn enigma nid yn unig i gyfran o boblogaeth ddiGymraeg gweddill Abertawe ond hefyd i garfan o Gymry Cymraeg sy’n trigo yn y ddinas a’r sir. Cilfach gefn o Gymreictod ydyw i’r gogledd o’r draffordd ar gyrion ail ddinas Cymru. Yn wyrthiol ddigon mae wedi goroesi pob storm economaidd a sosio-ieithyddol a ddaeth ar ei thraws ac yn parhau’n hyfyw o ran y Gymraeg. Ond mae bellach yn fregus. Disgrifiodd Crwys blwyf Llangyfelach yn Pedair Pennod: ‘Fe orwedd y plwyf yn eithaf gorllewin Morgannwg, braidd na ellir dweud ei fod yng nghyrrau eitha’r byd, oblegid y Betws yw’r plwyf agosaf ato, yn sir Gaerfyrddin.’ Ac wrth gyfeirio at yr ardal addefodd, ‘Ni ddenwyd na’r Rhufeiniwr na’r Norman yma, ac y mae’r bywyd mor Gymreig fel na freuddwydiodd neb am sefydlu Cymdeithas y Cymrodorion yno erioed.’

Er gwaethaf hanes cymysg Crwys, na lwyddodd i drosglwyddo’r Gymraeg i’w blant, efallai ei fod wedi taro’r hoelen ar yr union reswm pam na chafodd llefydd megis Felindre a Chraig-cefn-parc a Garnswllt eu cydnabod fel rhan o’r patrwm mawr hyd heddiw. Yn syml am fod yna werin yn dal i fyw yno. Gair anffasiynol erbyn hyn. Gwerin ddistaw nad yw’n aml yn codi ei llais – dim ond ar adegau penodol iawn megis yn hanes brwydr Beca yn yr ardal hon.

Ysgol a sefydlwyd lai na dwy flynedd ar hugain yn ôl yw Ysgol Gymraeg Gellionnen yng Nghlydach. Cyn hynny gyrrwyd plant Craig-cefn-parc i Ysgol Gymraeg Pontardawe bellter i ffwrdd. Sefydlu Gellionnen oedd y cyfle euraid i ehangu dalgylch Felindre i gynnwys Craig-cefn-parc a thrwy hynny gryfhau isadeiledd y Gymraeg oddi mewn i’r Parsel Mawr. Ni ddigwyddodd hynny, a phrin fuasai cefnogaeth ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn y sir i’r syniad. Mae ymagweddu fel hyn yn gwadu’r berthynas gymdeithasol sy’n bodoli rhwng pentrefi’r Parsel Mawr ac yn israddio cymunedau’r Parsel i fod yn faestrefi i lefydd megis Clydach yn achos Craig-cefn-parc ac Abertawe yn achos Felindre. Nid rhyfedd efallai i’r Awdurdod Addysg yntau fethu deall mai’r gymuned hon, yn hytrach na chymuned addysgol Abertawe, yw’r un sydd gan drigolion y Parsel Mawr dan sylw wrth fynnu bod y Cyngor yn ystyried effaith y cau ar y Gymraeg.

Mae gan amryw byd o bobl Abertawe le cynnes yn eu calon i ysgol a phentre Felindre, gan gynnwys y gymuned addysgol yn ninas a sir Abertawe. Bu’r ysgol wedi’r cyfan yn feithrinfa dyner i lu o athrawon a phrifathrawon yn siroedd Abertawe a Chaerfyrddin. Ardal gyfoethog yn hanes diwylliannol a gwleidyddol Cymru yw’r Parsel Mawr. O Salem rhwng Felindre a Chraig-cefn-parc y daw llinach Rhodri a Prys Morgan a Gwynfor Evans. Felly hefyd fam Tecwyn Ifan ac Euros Rhys. Deuai mam-gu yr hanesydd Nia Powell a mam y diweddar Farnwr Dewi Watkin Powell o Graig-cefn-parc. A’r actor Rhian Morgan hithau. Roedd gan yr enwau hyn fel pawb arall a arwyddodd y llythyr agored gysylltiad uniongyrchol â’r ysgol neu â’r Parsel Mawr neu’r ardal ehangach. Pobl megis y cerddor a’r delynores athrylithgar Llio Rhydderch a’r Prifeirdd Twm Morys a Mei Mac a dreuliodd amser yn yr ysgol yn cyfoethogi profiadau’r plant. Mae Alan ac Eifion Jones, y ddau frawd o gricedwr adnabyddus, yn gyn-ddisgyblion. I Ysgol Felindre yr aeth y cyn-Archdderwydd Meirion Evans, sy’n parhau yn un o gonglfeini’r gymdeithas yno, ac mae gwreiddiau’r Archdderwydd presennol ar ochr ei fam hwythau yng Nghwm Cerdinen. Mae cofebau i ddau o gyn-Archdderwyddon Cymru – Crwys a Dafydd Rowlands – yn ogystal ag i’r bardd gwlad ffraeth Gwilym Herber ym mynwent Pant y Crwys, dafliad carreg o ysgol Saesneg Craig-cefn-parc. Darfyddodd eisteddfod Craig-cefn-parc rai blynyddoedd yn ôl ac wedi cau ohoni’r ysgol, eisteddfod Garnswllt hithau. Yr unig eisteddfod leol a oroesodd yw eisteddfod Felindre.
 

                              


Ni chafwyd unrhyw ymateb gan yr Awdurdod Addysg i’r sylw fod colli ysgol a cholli iaith yn torri’r cysylltiad â’r gorffennol – â hanes yr ardal – a’r modd y mae mynychu ysgol Gymraeg Felindre yn gwreiddio plant mewn cymuned arbennig, ni waeth yn lle y maent yn byw. Hepgorwyd o bob adroddiad gan yr Awdurdod Addysg yr awgrym a ailadroddwyd droeon gan ei chefnogwyr yn ystod yr Ymgynghoriad y gallesid defnyddio adeilad ysgol Felindre erbyn nos, wedi’r diwrnod ysgol, i gynnig gwersi ymwybyddiaeth iaith yn ogystal â gwersi Cymraeg i oedolion o newydd ddyfodiaid i’r pentre, fuasai wedyn yn naturiol awyddus i yrru eu plant i’r ysgol. Gallesid bod yn defnyddio Felindre fel cynllun peilot ar gyfer gweddill Cymru gan ei fod yn bentre digon bychan i fedru gwneud hynny. 

Er i gyrff llywodraethol Felindre a Lôn Las gytuno’n unfrydol ar yr egwyddor o ffederaleiddio, ac er paratoi cynllun busnes ar gyfer gwireddu hynny, gwrthod y syniad wnaed yn y cyfarfod cabinet. Yr oedd Estyn eisoes wedi tynnu sylw at fethiant yr Awdurdod Addysg i ystyried ffederaleiddio yn drwyadl. Crybwyllwyd ffederaleiddio fel posibilrwydd gan RhAG Abertawe hwythau yn eu hymateb gwreiddiol i’r Ymgynghoriad. Mae’r fath negyddiaeth ar ran y Cyngor Sir yn tanlinellu eu diffyg ewyllys i gyrraedd unrhyw fath o gyfaddawd gan nad yw’n cydfynd â’r cyfle i waredu Felindre o dan gochl ehangu addysg Gymraeg yn y sir.

Awgrym RhAG Abertawe i’r Cyngor Sir oedd y dylid oedi efallai cyn cau – ond cau yn y pen draw serch hynny. Tanlinellodd RhAG Seisnigrwydd canfyddedig pentref Felindre ar Cymru Fyw ac yng ngholofn flaen Wilia. Mae hyn yn resyn ac yn dipyn o syndod o ystyried mai dim ond 9.8% o siaradwyr y Gymraeg a geir ym Mynyddbach (ward ysgolion Tan-y-lan a Thirdeunaw). 

O estyn yr athroniaeth hon i weddill Cymru waeth i ni anghofio am gymunedau Cymraeg. Mae Thatcheriaeth wedi treiddio i fannau annisgwyl iawn. Casgliad o unigolion ydym bellach yn byw fan hyn a fan draw ac yn dibynnu ar gymunedau rhithiol y gweplyfr a thrydar i gynnal rhith ein bodolaeth cynyddol fregus. 

*

Wrth adael y siambr y bore hwnnw taflu sen ar benderfyniad y cabinet wnaeth rhai ohonom gefnogwyr mwy llafar ein rhwystredigaeth. Dyna oedd Jen Rayner a’i chydgynllwynwyr a’r swyddogion addysg yn ei haeddu. Teimlwn fy mod wedi bod mewn angladd pentre – a mwyafrif trigolion y pentref wedi cadw draw ohono gan mor boenus ydoedd bod yn dyst i’r fath benderfyniad ysgeler. Roedd mam ifanc un o ddisgyblion presennol Felindre sy’n byw gyferbyn â’r ysgol yn ei dagrau. A’r sôn eisoes ar led fod rhywrai’n bwriadu prynu’r lle er mwyn gwneud elw ariannol ohono, bydd hi efallai’n gorfod diodde’r boen feunyddiol o weld mangre a welodd genedlaethau o blant ac o athrawon yn pasio drwyddi yn troi’n sefydliad gwahanol iawn. Yn troi o fod yn ysgol gymunedol rad ac am ddim i bawb yn ddiwahân – lle bynnag y bônt wedi eu geni a lle bynnag y bônt yn byw ac i ba bynnag ddosbarth y perthynant – i fod yn eiddo preifat yn y byd cyfalafol lle mae arian yn ben.

Fedra i ddim hawlio i mi fyw yn yr un cwmwd o ddyddiau mebyd. Byw fan hyn a fan draw fu fy hanes – o Aberystwyth i Alltyblaca i Lanybydder i Aberystwyth i Landudoch i Gaerdydd i Graig-cefn-parc – a chreu nyth glyd yno. Dyna’r patrwm yn fras. Digon o fynd a dod ac o ansefydlogrwydd nes nad yw gadael llefydd bellach yn fy mhoeni’n ormodol. Ond mae’r profiad diweddaraf hwn wedi fy sigo yn waeth nag unrhyw fudo a fu yn fy hanes erioed. Efallai fy mod yn disgwyl gormod. Efallai fy mod yn gwybod fod gen i rwydd hynt cymharol i fynd a dod fel y mynnwyf ond bod gennyf ddisgwyliad fod y llefydd yr arhosais ynddynt funud awr ar fy nhipyn taith drwy’r byd hwn yn aros yn llefydd Cymraeg. Pa hawl sydd gennyf ddisgwyl peth felly yn y diwedd? Pa hawl sydd gennym oll i beidio â disgwyl mai ‘Mynd yn llai mae’n hyd a lled’? Pa hawl sydd gennym i osgoi gorfod wynebu bod yn bresennol yn ein hangladd ein hunain? Dim ond Cymry ydym wedi’r cyfan.

                        Ac wrth droelli y mae’n torri twll
                        enfawr yn y cyfanfyd, 
                        agor twll drwy gread Duw, 
                        a thrwy’r agoriad fe syrth ein gwareiddiad yn grwn, 
                        cwympo drwyddo i’w dranc.

                                                Alan Llwyd – Yr Hebog Uwch Felindre

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Addysg, Y Gymraeg

 


​Casgliad o unigolion ydym bellach yn byw fan hyn a fan draw ac yn dibynnu ar gymunedau rhithiol y gweplyfr a thrydar i gynnal rhith ein bodolaeth cynyddol fregus

Dyddiad cyhoeddi: 02·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Aled Llion Jones

11 Tachwedd yw Gŵyl Annibyniaeth Gwlad Pwyl, pryd y dethlir adennill sofraniaeth yn 1918, yn dilyn dros ganrif o ddiddymiad. Er 2010 trefnir gorymdaith yn y brifddinas, digwyddiad mwya’r flwyddyn i’r adain dde eithafol. Y llynedd gorymdeithiodd 250,000.

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ...