Colofnau

Geiriau: Ar i fyny


Dylan Foster Evans

Amser darllen: 5 munud

28·07·2018

Ai’r un person ydwyf heddiw ag yr oeddwn ddeng mlynedd, ugain mlynedd, ddeugain mlynedd yn ôl? Dyma gwestiwn oesol y gall y llenor a’r gwyddonydd fel ei gilydd geisio ei ateb. Mae un ystadegyn yn awgrymu bod oddeutu 98 y cant o’r atomau yn ein cyrff yn newydd inni bob blwyddyn. Eto i gyd, gallwn gofio digwyddiadau a theimladau a brofwyd gennym pan oeddem, yn ffisegol, yn endidau cwbl wahanol. Un peth arall sy’n newid dros amser yw ein hiaith bersonol ein hunain, ein hidiolect. Nid yw 98 y cant o’n geirfa yn newid o flwyddyn i flwyddyn, wrth gwrs, ond mae ein hiaith ni oll yn graddol newid dros amser.

Byddai’n ddifyr gwybod beth yn union oedd natur fy Nghymraeg i pan oeddwn, dyweder, yn ddeunaw oed. Ond nid oes modd imi wybod – mae bron pob ymadrodd ac ebwch gennyf o’r cyfnod hwnnw wedi mynd i ebargofiant (a da hynny, mae’n siŵr). Eto i gyd, mae gennyf ryw deimlad fod fy iaith wedi newid mewn rhai ffyrdd penodol. Erbyn hyn, gwn fy mod yn llawer mwy tebygol o ddweud wastad yn hytrach nag o hyd ac nid wyf yn amau nad yw bydda’ yn disodli bysa’ yn fy iaith feunyddiol. Gair arall yr wyf yn ei ddefnyddio erbyn hyn ond a oedd imi gynt yn dra dieithr yw casáu.

Mae cof plentyn gennyf o glywed y gair hwnnw a chael ychydig o drafferth i’w ddeall. Roedd perthynas inni – nad oedd efallai y mwyaf croesawgar dan dywyniad haul – yn hoff o adrodd un o adnodau Llyfr y Diarhebion (25:17): ‘Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu.’ Ond roedd ergyd y sylw braidd yn annelwig gennyf gan nad oedd y gair casáu yn gyfarwydd. Roedd ffyrdd eraill gennym ni blant o fynegi atgasedd: mae’n gas gen i ... neu’r ffefryn, os cofiaf, alla i’m diodda ... Ond nid casáu, a oedd – bryd hynny o leiaf – yn llawer rhy Feiblaidd eithafol ar gyfer defnydd beunyddiol.

Am y pegwn semantaidd â casáu y mae hoffi. Doedd hwnnw chwaith ddim yn air a ddefnyddiem, er ei fod yn gwbl gyfarwydd; licio oedd ein term ni. Dylanwad y Saesneg, wrth gwrs. Ond nid disodli hoffi a wnaeth licio, am wn i, ond cymryd lle ymadroddion fel mae’n dda gen i hwn ac mae hwn wrth fy modd. Ar ôl y newid hwnnw y gwthiwyd yr hoffi parchus-Gymreigaidd i gymryd lle’r anhyfryd-Seisnigaidd licio. Ond os darllenwch lenyddiaeth yr Oesoedd Canol, ystyr arferol hoffi yw ‘canmol’ neu ‘edmygu’, nid ‘licio’.

Mae eraill wedi sylwi ar newidiadau fel hyn, wrth gwrs. Un nodwedd gyffredin arnynt yw’r modd y disodlir ymadroddion sy’n ddibynnol ar arddodiaid gan rai sy’n ddibynnol ar ferfau neu ansoddeiriau: mae’n gas gen i > rwy’n casáu; mae’n dda gen i > rwy’n hoffi; rwyf wrth fy modd > rwy’n hapus iawn. Gellid rhoi ystyriaeth bellach i rôl ymyrraeth ieithyddol o du’r Saesneg yn y newidiadau hyn. Ond nid dyna fy mwriad y tro hwn, ond meddwl am ymadroddion o’r fath fel trosiadau.

Yn draddodiadol, rydym yn tueddu i ystyried bod trosiadau yn perthyn yn bennaf i fyd llenyddiaeth, a barddoniaeth yn arbennig. Yn y cyd-destun hwnnw y mae’r gair ‘trosiad’ yn codi ei ben yn amlach na pheidio. Ond y gwir amdani yw bod trosiadau i’w cael ym mhobman, a’r unig reswm nad ydym yn sylwi arnyn nhw yw eu bod mor rhyfeddol o gyffredin. Meddyliwch am ddweud rhywbeth mor syml ag ‘Ew, roedd y ddarlith honno’n hir’. I ddeall y frawddeg hon rhaid cymryd bod ‘hir’ yn cyfeirio nid at hyd y papur yr ysgrifennwyd y ddarlith arni ond at yr amser a gymerwyd i’w thraddodi. Mewn geiriau eraill, rhaid deall ‘hir’ yn drosiadol – rydym yn deall amser drwy ei gysyniadu yn nhermau pellter corfforol. Enghraifft arall: ‘Llyfr ynglŷn â phêl-droed yw hwn.’ Ystyr hyn yn llythrennol yw bod y llyfr wedi glynu yn gorfforol sownd wrth bêl. Ond go brin y byddai neb yn meddwl am ennyd mai’r ystyr lythrennol yw’r un addas. Byddai pawb yn cymryd mai llyfr sy’n trafod pêl-droed sydd dan sylw. O edrych yn Geiriadur Prifysgol Cymru, mae’n ddifyr nodi bod yr enghraifft gynharaf o’r ymadrodd ynglŷn â yn dyddio i tua 1580. Ond 1834 yw’r dyddiad cynharaf a nodir ar gyfer y defnydd trosiadol.

Gallem amlhau enghreifftiau yn ddigon rhwydd. Meddylier am ystyr lythrennol rwyf ar ben fy nigon neu mae annwyd arnaf. Yr hyn sy’n gyffredin yma yw’r modd y mae’r trosiadau hyn yn ymwneud â’r profiad corfforol o fodoli mewn gofod a rennir â gwrthrychau eraill. Pan fyddwn yn sâl, neu yn wir ar farw, byddwn – gan amlaf – yn llorweddol neu ar lawr. Felly mae trosiadau am gyflyrau negyddol yn aml yn adlewyrchu hynny: rwy’n teimlo’n isel, rwy’n teimlo’n fflat, neu roeddwn yn iawn echdoe ond rwyf ar i lawr ers hynny. Neu gall gwrthrychau eraill ein gorfodi i lawr: rwyf dan bwysau neu mae annwyd arnaf. Ond pan fyddwn yn iach-lawen byddwn yn llawer mwy tebyg o ddefnyddio trosiadau sy’n cyfleu uchder neu unionsythder: rwyf ar fy ngorau, mae pethau ar i fyny neu’n syml rwy’n iawn. Wrth synio am iaith yn y dull hwn rydym yn ymwneud ag ieithyddiaeth wybyddol – ffordd o feddwl am iaith sy’n pwysleisio’r modd y byddwn yn deall gwahanol gysyniadau (gan gynnwys rhai haniaethol) ar sail y profiadau corfforol mwyaf sylfaenol. Gobeithio felly eich bod yn gweld (trosiad) yr hyn sydd gennyf mewn golwg (trosiad arall) a bod y cyfan yn weddol glir (trosiad arall fyth).

Mae ieithyddiaeth wybyddol yn cynnig dull hwylus iawn a chynhyrchiol o feddwl am iaith a gramadeg. Rydym ni Gymry yn hynod gaeth wrth y canfyddiad mai adnabod yr hyn sy’n gywir a’r hyn sy’n wallus yw priod nod astudio gramadeg — syniadaeth gwbl ddifaol. Does ond gobeithio bod y dull hwnnw o feddwl am iaith dan warchae, ar i lawr, ac yn anelu am gwymp.


Dylan Foster Evans yw pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng barddoniaeth, hunaniaeth, diwylliant materol a’r amgylchedd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Y gwir amdani yw bod trosiadau i’w cael ym mhobman, a’r unig reswm nad ydym yn sylwi arnyn nhw yw eu bod mor rhyfeddol o gyffredin

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Jane Aaron

Mae’r elw o werthiant y nofel hon yn mynd tuag at helpu ffoaduriaid rhyfel. Dyna’r hyn mae prif gymeriad Llinynnau, Ceridwen Jeremy, yn ei wneud hefyd, wrth iddi roi lloches yn ei chartref yng nghefn gwlad Ceredigion i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria, yn ogystal â…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Bydoedd pell oedd y rhai a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad fy arddegau. Saethu hwrod ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod yn Hyrule a Spira, achub Zelda; a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd ... 

Cyfweld


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Yn y byd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o newyddiadurwyr,…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.