Anton Tshechof
A Life in Letters
Penguin, 624 tt, £14.99, 2004

Beth yw bod yn ddiwylliedig?
Cynghorion gan feistr y stori fer
Amser darllen: 3 munud
Beth yw ystyr bod yn ddiwylliedig? Dyna'r cwestiwn a ystyriwyd gan Anton Tshechof (1860-1904) mewn llythyr at ei frawd, Nicolai, a oedd yn artist. Roedd y ddau yn eu hugeiniau ar y pryd. Mae'r llythyr yn rhan o gasgliad a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Saesneg yn Letters of Anton Chekhov to His Family and Friends (Macmillan, 1920).
Ymhlith yr amodau y mae pobl ddiwylliedig yn eu bodloni, mae Anton Tshechof yn nodi’r canlynol:
1. Mae [pobl ddiwylliedig] yn parchu personoliaeth person ac felly maent yn garedig bob amser, yn hynaws, yn gwrtais ac yn barod i ildio i eraill. Nid ydynt yn creu stŵr am forthwyl neu ddarn o india-ryber a gollwyd. Os ydynt yn rhannu cartref â rhywun, nid ydynt yn ystyried eu bod yn gwneud ffafr â’r person hwnnw ac, wrth adael, nid ydynt yn dweud, ‘Mae byw gyda chi’n amhosib.’ Maent yn maddau sŵn ac oerfel, cig crimp, ffraethinebau gwirion a phresenoldeb dieithriaid yn eu cartrefi.
2. Nid â chardotwyr a chathod yn unig y maent yn cydymdeimlo. Ac mae eu calonnau yn gwaedu dros bethau anweledig hefyd ... Maent yn aros ar eu traed tan yr oriau mân er mwyn cynorthwyo P—, er mwyn talu costau brodyr yn y Brifysgol, ac i brynu dillad i'w mam.
3. Maent yn ddidwyll ac mae celwyddau yn atgas ganddynt. Nid ydynt yn dweud anwiredd hyd yn oed am bethau bychain. Mae celwydd yn sarhau'r gwrandäwr ac yn ei israddio yn llygad y siaradwr. Nid ydynt yn ymhongar, ac maent yn ymddwyn ar y stryd fel y maent yn ymddwyn gartref. Nid ydynt yn rhodresgar yng nghwmni cymrodyr mwy gostyngedig.
4. Nid ydynt yn gwagymffrostio. Nid ydynt yn talu sylw i ffug ddiemwntau fel adnabod enwogion neu bod yn boblogaidd yn y tafarndai. Os ydynt wedi cwblhau rhyw waith gwerth chweil nid ydynt yn strytian fel petaent wedi cyflawni gwyrthiau ac nid ydynt yn ymffrostio iddynt lwyddo pan fethodd eraill ... Mae'r rhai yn ein plith sydd yn meddu ar dalent wirioneddol yn aros yn y cysgodion bob amser, pan fyddant mewn cwmni, ac yn osgoi cyn belled â phosib y demtasiwn i dynnu sylw atynt eu hunain ... Dywedodd Crilof hyd yn oed bod casgen wag yn atseinio â mwy o rym na chasgen lawn.
5. Mae [pobl ddiwylliedig] yn meithrin eu synnwyr esthetig. Nid ydynt yn gallu dioddef cysgu yn eu dillad, gweld craciau yn llawn hen bryfetach ar y waliau, anadlu awyr lygredig, cerdded ar lawr y poerwyd arno na bwyta uwch stof olew. Maent yn ceisio ffrwyno eu cyneddfau rhywiol cymaint â phosib a rhoi urddas iddynt ... Nid rhywun i gyd-orwedd â hi yn unig y maent yn chwilio amdano mewn gwraig ... Nid ydynt yn deisyfu'r clyfrwch hwnnw sydd yn mynegi ei hun ar ffurf celwyddau parhaus. Maent yn chwilio, yn hytrach, am hoen, ceinder, trugaredd, a’r gallu i fod yn fam ... Nid ydynt yn yfed fodca o geg y botel ddydd a nos ac nid ydynt â'u trwynau mewn cypyrddau, am eu bod yn gwybod yn iawn nad moch mohonynt. Maent yn yfed ddim ond pan fyddant yn rhydd, ac o bryd i'w gilydd ... Oherwydd maent yn deisyfu mens sana in corpore sano [meddwl iach mewn corff iach].
Ac yn y blaen. Dyma sut y mae pobl ddiwylliedig. Er mwyn bod yn ddiwylliedig ac osgoi syrthio islaw safonau dy gynefin, nid yw'n ddigon i fod wedi darllen The Pickwick Papers neu gofio ymson o Faust. Yr hyn sydd ei angen yw gwaith parhaus, ddydd a nos; darllen ac astudio parhaus, a phenderfyniad ... Mae pob awr yn werthfawr.
Anton Tshechof yw un o feistri digamsyniol y stori fer. Roedd ei frawd, Nicolai Tshechof, yn troi yng nghylchoedd artistig Rwsia'r 19eg ganrif ond poenai Anton ei fod yn yfed gormod ac yn gwastraffu ei dalent.
Cyfieithiad gan Sioned Puw Rowlands, cyd-olygydd O'r Pedwar Gwynt.
Llun: Y brodyr Tshechof, Anton ar y chwith, Nicolai ar y dde. Parth cyhoeddus.
Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.
Dyddiad cyhoeddi: 15·02·2017