Dadansoddi

Beth yw prifysgol?


Huw L Williams

Amser darllen: 10 munud

14·02·2018

Yn Llythyr Pennal, cenadwri Glyndŵr i’r Ffrancwyr yn 1406, ceir awgrym o’r Gymru Rydd roedd Glyndŵr a’i gynghorwyr, megis Gruffudd Younge, yn dyheu amdani. Yn ogystal â chynnig gweledigaeth ar gyfer yr Eglwys Gymreig (a fyddai’n driw i ddewis Pab y Ffrancwyr, sef Pab Avignon yn hytrach na Phab Rhufain), mae’r llythyr yn nodi ‘y bydd i ni gael dwy brifysgol neu leoedd astudio cyffredinol, sef un yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru, mewn dinasoedd, trefi neu leoedd i’w pennau a’u cyhoeddi gan ein llysgenhadon i’r pwrpas hwn’.

Gellid dehongli’r datganiad hwn fel awgrym o rywbeth mwy na’r bwriad i sicrhau gweithlu ar gyfer yr Eglwys newydd, ond yn hytrach fel mynegiant o uchelgais y Tywysog a’i gynghorwyr. Dyma gyfnod gwawrio’r Dadeni. Roedd prifysgolion yn cael eu sefydlu ledled Ewrop yn y dinasoedd a’r teyrnasoedd mwyaf blaenllaw, a hynny yn fynegiant o ffydd gynyddol yng ngallu’r sefydliadau hyn i ehangu gwybodaeth ac ymateb i heriau’r dydd. Yng ngolwg Glyndŵr yng Nghymru, tebyg mai sefydliadau i wasanaethu’r genedl Gymreig fyddai’r rhain, ac i sicrhau lle’r genedl gyfysgwydd â’u cymdogion Ewropeaidd.

Bu rhaid aros pum canrif i weld gwireddu’r weledigaeth hon, ac erbyn hynny, roedd y ddelfryd o Brifysgol yn naturiol wedi esblygu, dan ddylanwad cysyniadau Wilhelm von Humboldt yn bennaf a sefydlu Prifysgol Humboldt Berlin yn 1810. Cyn ei gyfnod ef roedd y Brifysgol yn bodoli yn y bôn er mwyn galluogi cyfleu dysg gan athro i’w ddisgyblion, yn enwedig dysg ddiwinyddol; byddai hyfforddiant yn y gyfraith yn cael pwys mawr hefyd, ac yn cael ei hystyried yn elfen hanfodol er budd gweinyddu a gwasanaethu’r genedl ym mhob achos. 

'Yr ysgol' o'r gyfres 'Yn y flwyddyn 2000' gan Jean-Marc Côté, tua 1899-1910 (Parth Cyhoeddus)

Ond Humboldt a sefydlodd y ddelfryd o sefydliad deinamig, sefydliad fyddai’n creu gwybodaeth, a’r ynni ymenyddol hwn yn cael ei fwydo gan gynefin lle byddai athro a disgybl yn cydgyfranogi. Delfryd Humboldt oedd galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu cymeriad a’u hannibyniaeth, gan adnabod eu lle mewn cymdeithas fel dinasyddion byd-eang. Roedd y brifysgol hefyd i wasanaethu’r wladwriaeth ond roedd dealltwriaeth mai’r ffordd orau o sicrhau hynny oedd caniatáu i academyddion weithio heb bwysau gofynion uniongyrchol, tymor byr. Roedd dealltwriaeth, mewn geiriau eraill, bod budd prifysgol i gymdeithas yn dwyn ffrwyth dros amser a bod angen i’r amgylchiadau hybu archwilio ac ymchwilio pwyllog, dwfn. 

Dyma egwyddorion a oedd yn berthnasol pan sefydlwyd prifysgolion Cymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Esgorwyd ar brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd, i raddau helaeth, o ganlyniad i ddymuniad a buddsoddiad ariannol y cyhoedd, yn eu gobaith o weld mwy a mwy o’u cyd-Gymry yn cael y fraint o addysg uwch a sicrwydd dyfodol mwy llewyrchus. Yn hanesyddol felly gellid dweud bod y Brifysgol ym Mhrydain ac ar gyfandir Ewrop yno i gefnogi’r genedl, er mwyn cynnal ei gwareiddiad ac er mwyn gwasanaethu’r myfyrwyr. 

Y streic

Mae’r penderfyniad i streicio gan staff prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn wyneb y bygythiad newydd i gynllun pensiwn prifysgolion, yn codi cwestiynau sylfaenol eto fyth am rôl y Brifysgol fel sefydliad. Mae hyn ar ben cynlluniau diswyddo sydd ar waith ar raddfa syfrdanol ac sydd eisoes yn dechrau sigo gwreiddiau ardaloedd cyfan o Gymru wledig. Wrth fygwth lleihau’r pensiwn arferol o gyfanswm tybiedig o £10,000 y flwyddyn, mae rheolwyr addysg uwch yn cynnig newid ar y fath raddfa nes ei bod yn ddyletswydd gofyn beth yw’r amgylchiadau sydd yn esgor ar hyn. Nid oes modd ystyried newid radical heb ofyn y cwestiwn sylfaenol beth yw dirnadaeth y rheolwyr addysg uwch, a’r gymdeithas ehangach, o addysg uwch?

O’n safbwynt ni, y staff, mae’n teimlo fel ymosodiad uniongyrchol ar ein gwerth i’r brifysgol. Mae gyrfa academaidd yn galed. O leiaf saith mlynedd o gymhwyso i’r mwyafrif ac yn aml iawn dwy neu dair neu fwy o flynyddoedd yn gweithio ar gytundebau rhan-amser, cyn bod y rhai lwcus yn sicrhau swydd lawn-amser. Mae gweithio oriau hir y tu hwnt i amodau’r cytundebau gwaith yn anochel os am wneud unrhyw gyfiawnder â’r cyfrifoldeb sydd ynghlwm. 

Mae’n anodd osgoi’r casgliad bod rheolwyr ein prifysgolion yn defnyddio amrywiad dros dro ym mherfformiad y cynllun USS – sydd yn ei hanfod mewn cyflwr cymharol iach – er mwyn hyrwyddo trefn newydd. Ni fydd taliadau wedi eu gwarantu mwyach ond yn ddibynnol ar berfformiad buddsoddiadau ar y farchnad stoc. Dyma drosglwyddo’r risg o’r cyflogwr a’i osod ar ysgwyddau’r gweithiwr, a hynny mewn modd sy’n codi cwestiwn sylfaenol am fantais, neu bwrpas, cynnal cynllun pensiwn ar y cyd. Yn wir, casgliad nifer fydd gofyn beth yw pwrpas buddsoddi'n fisol mewn cynllun nad yw’n abl i warantu’r pensiwn mwyach, pan mae yna opsiynau eraill mwy llewyrchus, fwy na thebyg, ar gael.

Rhaid ystyried hyn – ‘preifateiddio’ y cynllun pensiwn i bob pwrpas – yng nghyd-destun ehangach treiddiad neo-ryddfrydiaeth i fyd y Brifysgol. Mae prosesau’r farchnad rydd yn treiddio’n ddyfnach bob blwyddyn i goridorau dysg. Gyda dyfodiad ffioedd swmpus a gostyngiad mewn buddsoddiad cyhoeddus, mae’r prifysgolion yn gynyddol ddibynnol ar ddenu myfyrwyr trwy gystadleuaeth lem, sydd bellach yn gwsmeriaid yn gymaint ag efrydwyr. Mewn marchnad o’r fath, mae’n anochel bod y cysyniad o ddysg wedi ei ieuo’n agosach fyth i’r agenda cyflogadwyedd, a’i bwrpas wedi ei ddiffinio gan ddiddordebau cyfalafiaeth, nid y pynciau dysg eu hunain. Yn y bôn, symud adnoddau ariannol oddi wrth staff i wariant cyfalaf – adeiladau newydd a chynlluniau harddu’r campws – yw bwriad y prifysgolion, gan borthi’r gystadleuaeth orffwyll hon am fyfyrwyr

Wrth synio fel hyn am brifysgol rydym wedi symud ymhell oddi wrth wreiddiau’r sefydliad a gweledigaeth Glyndŵr a Humboldt. Er bod y gynneddf ddynol i gystadlu gyda’n cyd-ddyn yn debyg o fod yn gyrru gweledigaeth y ddau, nid yr unigolyn a’i gyneddfau oedd yn cael y gair olaf, fel ag yn ein cyfnod ni. Mae gwasanaethu cenedl a gwareiddiad yn un peth, mae gwasanaethu cynneddf hunanol unigolyn i oroesi ar draul popeth arall yn fater gwahanol. Menter breifat i raddau helaeth yw ein Prifysgol gyfoes, yn cynnig gwasanaeth a brynir gan unigolion yn y gobaith y bydd y buddsoddiad personol hwn yn talu yn y pen draw. Claddwyd – a dibrisiwyd – cyfraniad cyhoeddus hirdymor y brifysgol, neu’r bri sydd wedi bod ynghlwm ag ymarfer ysgolheictod. 

Gwarchod gwareiddiad

Un o’r athronwyr sydd wedi mynegi orau’r ddelfryd o Brifysgol yw’r Sais, Michael Oakeshott: ‘[Dyma] gymdeithas o bobl, yn byw yn lleol, wedi eu hymrwymo i ofalu a gwasanaethu’r cyfan o’r cyfalaf deallusol sydd yn sail i wareiddiad.’ Rhybuddiwyd ni eisoes yn y chwedegau gan Oakeshott am dueddiad prifysgolion i anghofio’r diben creiddiol hwn. Rhybuddiodd y byddai pwyslais cynyddol ar sgiliau yn siŵr o ddatblygu, pwyslais ar hyfforddi’r meddwl fel offeryn prosesu, offeryn sydd yn blaenoriaethu ymateb i ‘bosau’ – o ganlyniad i orfod addasu i ofynion y farchnad. A hynny yn hytrach na thrwytho myfyrwyr yn eu meysydd dysg, yn hytrach na’u cynorthwyo i feithrin ‘dulliau meddwl’ priodol i’w maes, a chynnig iddynt brofiadau i’w gwreiddio mewn gwareiddiad yn yr ystyr ehangaf.

I Oakeshott, mae hanfod addysg uwch yn ymestyn ymhell tu hwnt i waliau’r sefydliad, am fod y Brifysgol yn un o brif warcheidwaid y gwareiddiad rydym yn perthyn iddo. I’r myfyriwr, mae’n cynrychioli  ‘cael [eu] trwytho yn arferion moesol a deallusol a gorchestion y gymdeithas, cael eu cyflwyno i’r bartneriaeth rhwng y gorffennol a’r presennol, a rhannu gwybodaeth o sylwedd’.

Mewn geiriau eraill, mae’r arfer cynyddol o gynhyrchu’r meddwl tra hyfforddedig, y ‘well-trained mind’ yng ngeiriau Oakeshott, yn benllanw goruchfiaeth ‘rhesymoliaeth’ sych. Dyma ffurf ar wybodaeth dechnegol – y gellir ei gyfyngu i werslyfr – sydd yn cael ei chyflwyno fwy na heb fel yr unig ffurf ddilys ar wybodaeth. Ond pwysleisia Oakeshott bod yna ddwy wedd ar wybodaeth. Rhybuddia ein bod yn raddol roi o’r neilltu wybodaeth ymarferol a gaiff ei meithrin trwy brofiad, trwy arsylwi a thrwy ymwneud ymarferol ag eraill. Heb yr agwedd hon ar wybodaeth, cyfyngedig fydd gallu myfyrwyr i adnabod y gwahaniaethau cynnil sydd yn ffurfio hanfod dulliau o feddwl mewn amrywiol feysydd.

Gellir gweld mai safbwynt iwtilitaraidd ‘gwybodaeth dechnegol’ sydd yn cael ei gwireddu gan y system sydd ohoni, gyda’r syniad o ‘sgiliau trosglwyddadwy’ yn bwysicach na dim. ‘The well-trained mind’ nid yr ‘educated mind’, chwedl Oakeshott, fydd y cynnyrch. Y Brifysgol a’r gymdeithas ehangach fydd ar eu colled yn y pen draw oherwydd mi fydd yn ‘gwared y Brifysgol, ac felly cymdeithas, o unigolion â’r gallu i barhau i gynhyrchu gwybodaeth o sylwedd, sydd yn ein clymu i’n gorffennol ac yn ein paratoi ar gyfer y dyfodol’. A dyma golli hanfod y cyfalaf deallusol sy’n sylfaen i’n gwareiddiad y sefydlwyd y Brifysgol i’w gwasanaethu yn y lle cyntaf.

Er gwaethaf y newid cynyddol yn niwylliant prifysgolion, sydd wedi bod yn gyfan gwbl drawsnewidiol yn y blynyddoedd diweddar, parhau i lechu yn ymwybod yr academydd cyfoes cydwybodol y mae’r egwyddorion gwaelodol hyn: yr ymdrech i gynnal y dimensiwn hwn i ‘wareiddiad’, y syniad ein bod ni’n rhan o adeiladwaith mwy, sy’n cynnig profiad i gyfoethogi bywydau myfyrwyr tu hwnt i’w sgiliau mesuradwy; yn gymorth i ffurfio dinasyddion da fydd, yn y pen draw, yn gwasanaethu’r genedl ac yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywyd cyfunol. 

Byddai rhywun yn gobeithio bod egwyddorion y sefydliad hollbwysig hwn yn adlewyrchu’r syniadau hyn o gydgyfranogaeth, o wasanaethu’r genedl a’n gwareiddiad, o ffurfio dinasyddion y dyfodol i’r hirdymor; bod y sefydliad yn abl i barchu ei aelodau, eu cyfraniad a chyfundrefnau cydweithredol megis ein pensiwn, sydd yn ceisio gwarchod rhywbeth gwerthfawr. Dylid cofio nad yw nifer fawr o academyddion fyth yn ymddeol ‘go iawn’; mae pensiynau cadarn yn caniatáu iddynt barhau i wneud cyfraniad hollbwysig i’r Brifysgol a’r gymdeithas ehangach wedi iddynt ‘ymadael’.

Yn ei hanfod, y mae’r streic hon yn rhoi llais i grŵp o bobl sydd yn wynebu colled ariannol enfawr, sydd yn teimlo’r anghyfiawnder, ac sydd yn deall yn gynyddol nad ydynt yn cael eu parchu gan eu cyflogwyr. Ac eto, nid oes modd deall yr hyn sy’n digwydd heb werthfawrogi’r strwythurau a’r prosesau ehangach sydd ar waith – a’r cwestiynau dyrys sydd yn y fantol.

Cymru

Mae’r ystyriaethau hyn yn codi cwestiynau penodol am sefyllfa arbennig ein prifysgolion yng Nghymru. Yr un yw’r pwysau ar staff, ond mae yna ystyriaethau sydd yn gwahaniaethu sefyllfa prifysgolion Cymru oddi wrth brifysgolion gweddill gwledydd y Deyrnas Gyfunol. Honnir bod y system ffioedd arfaethedig yng Nghymru yn flaengar, a rhaid cydnabod bod y pwyslais ar helpu’r difreintiedig yn dangos ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o bob cefndir. Cawn ein hatgoffa o gyd-destun tarddiad prifysgolion Cymru a’r rôl holl bwysig a chwaraewyd gan y gweithwyr a grwpiau eraill o’r gymdeithas yn eu hanes. Ceir hefyd yng Nghymru bwyslais arbennig ar rôl y Brifysgol yn y gymuned leol – cymuned ddaearyddol eang ond gwledig yn aml – a’r cyfraniad sydd ganddi i’w gynnig i’r gymdeithas ehangach.

O safbwynt y Brifysgol a’i rôl hanfodol yn gwasanaethu’r genedl a chynnal ein gwareiddiad, mae’r gyfundrefn sydd ohoni yn cynnig heriau penodol. Nid fan hyn yw’r lle i fanylu ar y dadleuon mae eraill wedi eu gwyntyllu. Ond gellir dweud yn gwbl glir bod gennym drefn nad yw’n cynnig manteision digonol i gadw ein myfyrwyr yng Nghymru, ac sydd, yn wir, trwy brosiect Seren, yn annog ein goreuon i adael y wlad. Dyma lle mae polisi yn tynnu’n groes ac yn adlewyrchu’r tensiynau a’r gwrthddywediadau o fewn y Blaid Lafur – plaid sydd am fod yn blaid i Gymru ond sydd yn rhoi blaenoriaeth i’r system Brydeinig ar draul anghenion dinasyddion Cymru.

I ba raddau mae ein prifysgolion yn blaenoriaethu ein gwareiddiad? I ba raddau mae hynny’n ystyriaeth wrth benodi staff, wrth benderfynu ar ffocws modiwlau, a blaenoriaethu cyllid ar gyfer pynciau megis y Gymraeg sydd yn gwarchod a datblygu ‘gorchestion moesol a deallusol ein cymdeithas’? Mae erthygl ddiweddar gan yr Athro Calvin Jones yn dadlennu ymhellach gwestiwn sylfaenol: a yw’r addysgu fel y mae yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer yr economi ‘camweithredol’ maent yn rhan ohoni yng Nghymru?

Mae’r un cwestiynau yn codi ar gyfer fy nghyflogwyr innau, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mewn cyfnod o newid i’r sefydliad o ganlyniad i’r Cynllun Academaidd a’r blaenoriaethau newydd a ddaw yn ei sgil. Teg dweud bod y Coleg ei hunan, dan arweiniad ei noddwyr, yn gorfod blaenoriaethu’r pynciau galwedigaethol, a hynny’n berffaith iawn gan fod creu gweithlu hyderus, dwyieithog yn rhan ganolog o’i genhadaeth, ac yn adlewyrchu cyfraniad arbennig ac ymarferol sydd yn angenrheidiol i’r genedl. Ond yr un yw’r cwestiynau yma eto ynghylch ein cyfraniad at ein gwareiddiad, a’r modd rydym yn ceisio trosglwyddo hynny i’n myfyrwyr fel rhan o’u profiad yn y brifysgol. Yr un yw’r heriau hefyd o ran cydbwyso hynny gyda chyfranogi a chystadlu mewn amgylchedd ‘masnachol’.

Beth bynnag yw ein pwnc a’n cenhadaeth, rhaid inni bob un ystyried beth yw goblygiadau’r newidiadau aruthrol sy’n treiddio trwy addysg uwch ac sydd yn cael eu hamlygu gan yr anghydfod hwn. Rhaid bod yn agored, mewn egwyddor, i newid wrth gwrs, ond a ydym yn ddoeth i dderbyn trawsnewidiad mor sylfaenol â hwn? Beth fydd goblygiadau hirdymor caniatáu i’r farchnad feddiannu ein prifysgolion? Beth fydd ar ôl o’n ‘gwareiddiad’? Os taw hyd a lled hwnnw yw elw, cynhyrchu a phrynwriaeth, rhaid gofyn, pa werth fydd ar ôl yn ein cymdeithas?


Mae Huw L Williams yn un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt ac yn ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Addysg, Socrates ar y stryd

 


Beth bynnag yw ein pwnc a’n cenhadaeth, rhaid inni bob un ystyried beth yw goblygiadau’r newidiadau aruthrol sy’n treiddio trwy addysg uwch ac sydd yn cael eu hamlygu gan yr anghydfod hwn

Dyddiad cyhoeddi: 14·02·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…

Cyfansoddi


Morgan Owen

Buasai gerddi yn fy meddwl ers misoedd yn lluosogi: gerddi’r dychymyg effro yn gymysg â gerddi breuddwydion. Un ar ôl y llall yn llathru’n las, yn wahoddiad imi eu cribino am ryw ystyr neu’i gilydd. Yn fy mrwdfrydedd, palaf weithiau i’w trefnusrwydd a’u diwylliant a…

Dadansoddi


Emyr Glyn Williams

Ca va? Mae gen i rywbeth i'w ddweud am ffilmiau chwyldroadol yr 1960au. Dwi'n meddwl am ffilmiau fel If… (1968) gan Lindsay Anderson, Weekend (1967) gan Jean-Luc Godard a The Battle of Algiers (1966) gan Gillo Pontecorvo, a pham ei bod yn bwysig dal ati i'w gwylio nhw heddiw. Fel llawer o fyfyrwyr, gweithwyr, artistiaid a phrotestwyr…

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…