Dadansoddi

Beth yw swyddogaeth Plaid Cymru?


Simon Brooks & Daniel Williams

Amser darllen: 18 munud

29·11·2017

Mae Simon Brooks a Daniel Williams yn ddau o sylwebwyr diwylliannol a gwleidyddol mwyaf craff y Gymru gyfoes. Maen nhw hefyd, ill dau, yn ymwneud yn ymarferol â gwleidyddiaeth – y naill yn Gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog a’r llall yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Castell-nedd yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar. Yn y fan hon maent yn trafod yr her o fabwysiadu rôl y deallusyn cyhoeddus a dyfodol – a swyddogaeth waelodol – y mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Fe gynhaliwyd y drafodaeth hon drannoeth yr etholiad ym mis Mehefin. 

Daniel Williams: Roedd ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yn un fywiog ac fe fwynheais i hi’n fawr. Ond teimlad fflat a siomedig sydd gen i nawr ar ôl yr etholiad – hyd yn oed o ystyried taw tuedd ehangach oedd y ‘ras dau geffyl’ a welwyd yn y canlyniad. Tan yr etholiad diweddar, roedd Plaid Cymru wastad yn ail yng Nghastell-nedd felly roedd colli niferoedd yn siom. Ychydig iawn, mewn gwirionedd, a wnaeth ymgeisydd y Torïaid yn ystod yr ymgyrch. Aeth ei thaflen etholiadol allan yn ystod yr wythnos olaf ac fe gasglodd hi 10,000 o bleidleisiau jyst am ei bod hi ar y papur pleidleisio. Roedd hi’n eitha’ anweledig, a dweud y gwir.

Fe drefnon ni ymgyrch ddiwylliannol – am mai dyna yw fy mhrif ddiddordeb i – ac wrth feddwl am bethau ers hynny, mae’n bosib y gallen ni fod wedi bod yn fwy gwleidyddol, yn fwy beirniadol o’r Blaid Lafur, a mynd ar hyd y trywydd hwnnw. Ond ffyniant yr ardal oedd y prif beth i ni ac mae angen gofyn wedyn a yw hi’n ddefnyddiol creu atgasedd at bobl sydd efallai, yn y bôn, yn anelu at yr un nod. Mewn cyd-destun Prydeinig, mae hi’n anodd cyflwyno’r ddadl Gymraeg/Gymreig; roedd f’ymgyrch yn lled-genedlaetholgar ac yn eitha’ diwylliannol. Dw i’n eitha’ balch o hynny. Ac roedd gan y bobl a oedd yn ymwneud â’r ymgyrch bethau caredig i’w dweud; dw i’n credu iddyn nhw fwynhau bod yn rhan ohoni. Ond, serch y gogwydd amlwg ledled Prydain, mae’n rhaid i fi gydnabod taw fy nghyfrifoldeb i yn y pen draw yw’r canlyniad.

Simon Brooks: Dw i’n cael cryn dipyn o fwynhad o fod yn gynrychiolydd Plaid Cymru ym Mhorthmadog. Mae’r rôl o gadeirio’r Cyngor Tref yn help imi am fy mod yn cael gweld pethau ar lefel gymunedol go iawn – ar lefel feicro. I unrhyw academig, yn fy marn i, neu unrhyw un sy’n ysgrifennu am wleidyddiaeth a diwylliant, mae’r broses honno a’r cyswllt uniongyrchol â chymuned ddiriaethol yn gwbl amhrisiadwy. Dw i wedi dysgu llawer iawn ar sail fy mhrofiadau yn Port ac fe fyddwn i’n annog unrhyw un, felly, sydd yn weithgar mewn diwylliant neu lenyddiaeth neu yn y bywyd academaidd Cymraeg i ystyried y cam yna a cheisio llenwi swyddi cyhoeddus, boed hynny ar lefel cynghorydd cymuned neu ar lefel Aelod Seneddol. Mae hynny’n bwysig iawn, dw i’n meddwl. Os nad ni fydd yn gwneud, pwy yn union wnaiff? Mewn mudiad gwleidyddol DIY, dim ond ni sy’n gallu gwneud hynny. Ac wrth gwrs, dyna ydy hanes Plaid Cymru erioed: pobl sydd yn aml iawn wedi eu gwreiddio mewn diwylliant ac sydd yn ymgymryd hefyd â gweithgarwch gwleidyddol. Mae hynny’n nodwedd gyffredin ar fudiadau cenedlaethol mewn cenhedloedd diwladwriaeth ac mewn diwylliannau llai.

DW: O’m rhan i, dw i’n derbyn yn llwyr ddilysrwydd gwaith academig pur. Dw i ddim yn meddwl y dylai pob un deimlo bod yn rhaid iddyn nhw ymwneud yn ymarferol â gwleidyddiaeth. Mae yna rai nad ydyn nhw, o ran cymeriad, eisiau ymwneud â’r byd yna. Mae traddodiad y ‘public intellectual’ yn un pwysig i ni'n dau; mae rhai o’r bobl dw i’n eu hedmygu – pobl fel Cornel West neu Edward Said – yn bobl y mae eu gwaith academaidd yn cael ei fwydo gan ddulliau ymgyrchu neu ymwneud â mudiad. Yn ein hachos ni, y mudiad yw Plaid Cymru. Mae’r berthynas rhwng syniadau a gweithgarwch yn bwysig i fi. Hwn oedd y tro cyntaf i fi sefyll; dw i wastad wedi ystyried gwneud, ac roedd galw’r etholiad yn sydyn yn fy siwtio i yn hynny o beth – roedd fy ngwaith dysgu [ym Mhrifysgol Abertawe] wedi dod i ben ac roedd modd i fi ffitio’r gwaith marcio o gwmpas yr ymgyrchu.

Banwen, Cwm Dulais Uchaf

Banwen, Cwm Dulais Uchaf (Llun: Owen Martell)

Yr hyn sy’n ddiddorol pan fydd rhywun yn astudio Cymru ac yn cael cyfle wedyn i siarad â phobl ac i ymweld â llefydd ar lawr gwlad yw bod yna gyfle go iawn i weld haenau’r Gymru hanesyddol – yn enwedig mewn etholaeth fel Castell-nedd. Es i lan i Flaendulais, er enghraifft, ac mae’r capeli a fu’n frith yn y gorffennol wedi uno yn hen gapel Salem, sydd yn dal i fynd. Yn y cerrig sylfaen, nodir bod Lloyd George wedi dod yno o Gricieth i agor y capel yn 1911 – ‘Canghellydd y Trysorlys’ yw’r geiriau ar y garreg. Ar y garreg nesaf ati, dywedir bod Megan Lloyd George yno hefyd. Byddai hi wedi bod yn naw mlwydd oed ar y pryd. Mae hynny’n gip ar yr hen Gymru anghydffurfiol, ryddfrydol a oedd yn ei hanterth yn 1911. Rownd y gornel wedyn mae’r Seven Sisters’ Workingmen’s Club ac mae’n siŵr bod tua’r un nifer yn ymgasglu’n wythnosol yn y fan honno erbyn hyn ag sydd yna yn y capel ar ddydd Sul. Yna ry’ch chi’n gweld Cymru heddiw: ym Mlaendulais, ac yn llawer o’r ardaloedd ar dop Cwm Nedd, mae cyfalaf a diwydiant wedi symud ymlaen ac mae hi’n anodd dychmygu dyfodol i’r lleoedd hynny. Felly mae dyn yn gweld haenau’r Gymru a fu ac yn gorfod dychmygu Cymru’r dyfodol. Alla’ i ddim bod yn gwbl sicr o hyn, ond wrth weld y pleidleisiau’n cyrraedd fe’m tarodd yn galed bod Plaid Cymru yn drydydd, y tu ôl i’r Torïaid, ym Mlaendulais. Rhaid tybio mai pleidlais Brexit oedd hynny; pleidlais UKIP wedi symud at y Torïaid. Roedd hynny’n sioc i fi. Ac mae sioc o’r fath yn siŵr o ddylanwadu ar waith academaidd sydd yn ymwneud â’r Gymru gyfoes.

SB: Mae hynny’n ein harwain at ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin – ac at ganlyniadau sydd, dw i’n meddwl, yn amlygu’r gwahaniaethau mewnol yng Nghymru. Roedd y canlyniadau yn y cymunedau Cymraeg traddodiadol yn galonogol iawn, er enghraifft. Llwyddodd Liz Saville Roberts i gynyddu ei phleidlais ac fe wnaeth Jonathan Edwards yr un fath yn nwyrain Sir Gaerfyrddin. Mi gipiwyd Ceredigion ac mi gafodd Arfon ei chadw. Methiant oedd Ynys Môn ond fe enillwyd pedair sedd graidd yr hen Fro Gymraeg ar y tir mawr. Wedi dweud hynny, dw i’n meddwl bod y canlyniad yn un siomedig iawn i Blaid Cymru y tu allan i’r ardaloedd hynny. Roedd yna wasgfa sylweddol ar y bleidlais mewn etholaethau fel Llanelli, y Rhondda ac yn y blaen – a’r rheiny’n seddi targed.

Dw i’n meddwl felly bod angen gofyn pam a sut y digwyddodd hynny. Yn fy marn i, mae yna berygl gwirioneddol i Blaid Cymru yn y math o rethreg y mae’r blaid wedi’i mabwysiadu, lle mae hi’n ei gweld ei hun fel mynegiant rhanbarthol-genedlaethol o ‘gynghrair flaengar’ (progressive alliance) ar lefel Brydeinig. A’r drafferth i Blaid Cymru ydy hyn: os ydy rhywun yn pwysleisio byth a hefyd bwysigrwydd y cyd-destun Prydeinig, os ydy rhywun yn pwysleisio mai nod y mudiad cenedlaethol ydy galluogi’r glymblaid flaengar Brydeinig i fodoli, os ydy rhywun yn cefnogi Corbyn mewn rhyfel cartref oddi mewn i’r Blaid Lafur Brydeinig, ac os ydy’r negeseuon hynny’n cael eu hailadrodd yn gyson dros gyfnod o flynyddoedd, mae yna berygl y bydd yr etholwyr yn dweud, ‘Iawn, ’dan ni’n cytuno efo chi, mae angen progressive alliance ym Mhrydain’ – a’r ffordd o sicrhau hynny yw pleidleisio dros y Blaid Lafur yn uniongyrchol ac ethol Aelodau Seneddol Llafur yng Nghymru ar docyn Corbynaidd.

Dw i’n meddwl mai dyna ddigwyddodd yn yr etholiad hwn. Ar Facebook, er enghraifft, mi welais i bobl dw i’n gwybod yn iawn eu bod nhw’n bleidleiswyr oes i Blaid Cymru yn penderfynu troi at y Blaid Lafur am yr union reswm yna. Mae hi’n amlwg felly y bydd yn rhaid i’r Blaid greu neges amgen. Dyw hynny ddim yn gyfystyr â dweud na ddylai Plaid Cymru fod ar y chwith. Mae Sinn Féin ar y chwith – ond dyw Sinn Féin ddim yn rhan o drefniant y gynghrair Brydeinig yn yr un ffordd. Y broblem ydy bod y mudiad cenedlaethol yn cael ei draflyncu gan y wleidyddiaeth gyfanfydol, universalist yma. Mae angen rhywbeth y tu hwnt i hynny a dw i’n credu mai ‘cenedlaetholdeb’ mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yw’r peth hwnnw. Yn y broydd Cymraeg gallai hynny olygu iaith a diwylliant. Ar wedd sifig, annibyniaeth ydyw. Ond mae’n rhaid wrth rywbeth sydd yn bodoli y tu allan i wleidyddiaeth Gorbynaidd. Rhaid i ni sefydlu fersiwn ar ymadrodd enwog Rhodri Morgan: mae angen dŵr gwyrdd clir rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur. Fel arall, dw i’n meddwl y gallem fod mewn perygl gwirioneddol o gael ein traflyncu a gweld pleidlais Plaid Cymru yn gostwng yn sylweddol iawn mewn rhai ardaloedd. Gwelwyd realignment ym Mhrydain yn sgil Brexit ac mae hi’n gwbl bosib nad blip tymor byr fydd hynny ond datblygiad hirdymor. Mae angen ymyrryd rŵan er mwyn sefydlu’r achos dros barhad Cymru fel cenedl.

DW: Pan oeddwn i’n canfasio ar gychwyn yr ymgyrch, roedd yr ymateb yn gynnes iawn, ond fe newidiodd yr ymgyrch yn ddirfawr wedi hynny. Roedd neges Plaid Cymru yn eitha’ clir a grymus ar y cychwyn – y syniad o fod yn darian i Gymru, a’n bod ni’n wynebu’r tswnami Torïaidd, fel yn 1979 neu yn 1983. Ond fe newidiodd llwyddiant annisgwyl Corbyn hynny. Ac roedd hynny’n sioc i Blaid Cymru. Ers cyfnod Blair, mae’r Blaid wedi cyflwyno’i hun fel y blaid adain chwith wirioneddol, sydd yn fwy blaengar na Llafur. Mae Leanne Wood yn ymgnawdoli hynny oddi mewn i Blaid Cymru. Ond yn sydyn, ym mis Mai, fe ddaeth hi’n amlwg nad oedd Corbyn yn cael etholiad trychinebus, a’i fod e’n dechrau adennill tir. Roedd hynny’n syndod ac wrth ymateb i hynny fe wasgwyd y Blaid. Doedd y ddadl ‘os ydych chi eisiau Corbyn, pleidleisiwch dros Blaid Cymru’ ddim ond yn dal dŵr pan oedd y Blaid Lafur yn wrthwynebus i Corbyn. Ac wedi iddi ddod yn amlwg na fyddai hynny mor wir ag yn y gorffennol, doedd y graig ddim yn ‘sownd o dan ein traed’ mwyach ac fe danseiliodd hynny neges wreiddiol y Blaid. Yn ogystal â hynny, cafwyd y digwyddiadau terfysgol ym Manceinion a Llundain ac fe fu farw Rhodri Morgan. Rhoddodd hynny stop ar yr ymgyrchu am gyfnod ac fe gafodd hynny effaith ar y neges hefyd i raddau.

Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o blaid datganoli yn 1997. Yn yr etholiad hwn, roedd y patrymau yn y Fro Gymraeg ac yn y Cymoedd yn wahanol iawn. A’r her i Blaid Cymru nawr yw ceisio ailgysylltu’r ardaloedd hynny â’i gilydd, ailgysylltu’r ardaloedd hynny y mae ganddynt hunaniaeth Gymraeg a Chymreig gref – cysylltu Cymru â Wales, mewn ffordd o siarad, wedi i Brexit a’r etholiad yma eu rhannu unwaith eto.

Treorci, Cwm Rhondda, Mai 2017

Treorci, Cwm Rhondda, Mai 2017 (Llun: Owen Martell)

SB: O safbwynt athronyddol, dw i wedi bod yn meddwl tipyn am syniad Hegel am y berthynas rhwng meistr a gwas, am y berthynas ddilechdidol rhyngddynt. Mae’n syniad canolog yng ngwaith Hegel a dw i’n gweld adlewyrchiad ohono yn y berthynas rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur ar hyn o bryd. Mae Plaid Cymru yn ei lleoli’i hun yn nhermau gwleidyddiaeth adain chwith Brydeinig y Blaid Lafur. Mae hi mewn perthynas ddilechdidol â’r Blaid Lafur yn hynny o beth. Felly pan oedd y Blaid Lafur yn Blairaidd, gwelodd Plaid Cymru ei chyfle i fodoli ar y chwith – ond roedd hi’n dal yn rhan o’r un bydysawd â Llafur. Ers hynny, wrth gwrs, ac oddi mewn i’r berthynas ddilechdidol, mae’r Blaid Lafur wedi symud i diriogaeth Plaid Cymru ac wedi’i meddiannu hi. A does gan Blaid Cymru unman i fynd.

Felly mae’n rhaid i ni ofyn, oddi mewn i’r system hon, beth yn union ydy swyddogaeth Plaid Cymru? Dyw hi ddim yn broblem bod Plaid Cymru’n parhau i fod ar y chwith – bod ganddi ymrwymiad at gyfiawnder cymdeithasol ac yn y blaen – ond mae angen iddi fynd y tu hwnt i holl system syniadol y chwith Prydeinig. Mewn gwirionedd, bron nad oes angen iddi fynd yn ôl at ddelfrydiaeth; mynd yn ôl at ‘y peth go iawn’, y peth na allwch chi ei ddiffinio – y genedl, hanfod y genedl, ac amlygiadau diwylliannol o hynny. Dw i’n meddwl, mewn ffordd drosiadol iawn, mai dyna sydd wedi cynnal y Blaid yn y broydd Cymraeg. Mae’r iaith yn cyflawni’r swyddogaeth yna – swyddogaeth sydd yn bodoli y tu hwnt i’r rhaniad chwith/de, ac sydd yn bodoli y tu hwnt i Brydeindod. Yn sgil hynny, cafodd y Blaid droedle yn y cymunedau hynny a’u cynrychioli. Ac fe lwyddodd hi i wrthsefyll Corbyniaeth yn llwyddiannus mewn llefydd fel Dwyfor-Meirionnydd.

Yr hyn y mae angen i’r Blaid ei wneud, dw i’n meddwl, ydy gweld hyn, sylweddoli hyn: parhau ar y chwith – does dim amheuaeth am hynny – ond mynd yn ôl at y syniad gwaelodol o genedl. Dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn fwy radical rŵan ynghylch annibyniaeth yn benodol, ac mae’n rhaid i ni fynd yn ôl – dw i’n siŵr y byddi'n cytuno – at y syniad o ddiwylliant. Mae’r Blaid yn ei phwyslais ar genedlaetholdeb sifig wedi anwybyddu rôl ganolog diwylliant a hunaniaeth mewn cymdeithas, yn fy nhyb i. Ond mae’r ystyriaethau hynny’n ganolog, yn hollol ganolog, a bydd yn rhaid i ni greu diwylliant Cymreig a hunanymwybodol Gymreig wrth ymateb i Brexit. Os na wnawn ni hynny, fydd yna ddim seiliau cymdeithasol ar gyfer parhad plaid wleidyddol sydd yn brwydro dros ymreolaeth.

DW: Fyddwn i ddim yn anghytuno ag unrhyw ran o’r dadansoddiad hwnnw. Ond fe fyddwn i’n tueddu i fynd ar ôl pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol. Fe ellid dadlau mai un o’r pethau a welwyd yn yr etholiad hwn oedd ymgryfhau brand Welsh Labour / Llafur Cymru – ond Welsh Labour yn bennaf. Mae hi’n rhy hawdd dadlau taw Corbyn yn unig sydd yn gyfrifol am lwyddiant y Blaid Lafur yng Nghymru y tro hwn. Cafwyd pincer movement ar Blaid Cymru, dw i’n meddwl, gan y Blaid Lafur. Hynny yw, ar un llaw, fe anwybyddodd Carwyn Jones Corbyn fwy neu lai ac fe greodd ei ymgyrch ei hun yng Nghymru. Roedd honno’n seiliedig ar syniad o hunaniaeth ddosbarth a hunaniaeth Lafuraidd Gymreig. Roedd y taflenni etholiadol a ddosbarthwyd yma yng Nghastell-nedd yn cynnwys llun o bwll glo mewn silwét ac anogaeth i beidio ag anghofio’r hyn a wnaeth y Torïaid i Gymru yn y gorffennol. Roedd yna lythyr a oedd fel petai wedi ei ysgrifennu gan Vera o Flaenrhondda – ffigwr a fu byw drwy hanes Cymru’r 20fed ganrif ac a ysgrifennodd wedyn am safiad arwrol y Blaid Lafur. Roedd yr ymgyrch yn Alexander Cordellaidd, mewn ffordd. Roedd hynny’n apelio at y to hŷn – anfonwyd y deunydd hwnnw ar hyd blaenau’r Cymoedd. Ar ben hynny, ac o gyfeiriad arall, fe apeliodd Corbyn at fyfyrwyr a’r to iau. Felly mae mwyafrifoedd Llafur yn deillio o’r ddau beth yna – strategaethau llwyddiannus gan y Blaid Lafur, am wn i. Ond mae’r strategaeth honno yng Nghymru yn ymateb i fodolaeth a her Plaid Cymru.

Un o’r pethau sy’n deillio o’r naratif gwas-a-meistr, a’r ffaith bod y berthynas honno yn seiliedig ar dra-arglwyddiaeth Llafur, yw’r duedd i blaid sy’n dominyddu arddangos rhywfaint o baranoia. Dyw ymateb y Blaid Lafur i Blaid Cymru ddim yn annhebyg i ymateb yr Unol Daleithiau i Giwba, fel petai. Gall y Dafydd bychan – y mae hi’n hawdd ei ddibrisio’n gyhoeddus – guro’r cawr dan yr amgylchiadau iawn. Mae bodolaeth y gwas a’i fyd-olwg gwahanol, neilltuol, yn gorfodi ymateb gan y meistr – ac mae hwnnw’n aml yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn sydd yn rhesymol. Er mai arwain Cymru at ymreolaeth yw delfryd Plaid Cymru, mae hi’n dal yn wir mai canlyniad ymgyrchoedd y Blaid yn aml yw gorfodi Llafur i fod yn fwy Cymreig a Chymraeg. Fe welsom ni hynny yn ystod yr etholiad. Hyd yn oed mor ddiweddar â phum mlynedd yn ôl, pan ddaeth Owen Smith yn Ysgrifennydd Cymru yr Wrthblaid yn 2012, fe awgrymodd yntau y dylid rhoi pwerau ym meysydd iechyd ac addysg yn ôl i Lundain. Ond mae hi’n anodd ei ddychmygu e’n dweud unrhyw beth felly nawr, ac mae hynny’n ddiddorol. Cofiwn mai Owen Smith a gynrychiolodd Lafur yn rhai o ddadleuon yr arweinyddion yn Etholiad Cyffredinol 2015. Ond doedd yna ddim sôn am Christina Rees – Ysgrifennydd Cymru yr Wrthblaid ar hyn o bryd – yn chwarae’r rôl honno y tro hwn.

Ond dyw parhau fel ‘grŵp pwyso’ ddim yn ddigon. Y sialens fawr i Blaid Cymru yw dychmygu naratif a sloganau na all y Blaid Lafur – nac unrhyw blaid arall o ran hynny – eu mabwysiadu. Mae hynny’n atgyfnerthu dy ddadl bod yn rhaid i ni dorri allan ar ongl 90 gradd oddi wrth Brydeindod a naratifau Prydeindod. Ond mae hynny’n anodd. Roedd y syniad o amddiffyn Cymru yn un da ond, i bob pwrpas, cafodd ei fabwysiadu’n llwyr gan y Blaid Lafur. Yr hyn wnaethon ni yn ystod pythefnos cyntaf yr ymgyrch, fwy neu lai, oedd helpu i sefydlu naratif Llafur yng Nghymru yn ystod ail hanner yr ymgyrch. Mae hynny’n her ac yn broblem fawr i Blaid Cymru. Yn y dyfodol bydd angen datblygu ymgyrch na ellid dychmygu Llafur yn ei mabwysiadu. A yw hynny’n bosib? Dw i ddim yn siŵr. Nid yw’r elfennau creiddiol hynny rwyt ti'n cyfeirio atynt, Simon – yr iaith ac annibyniaeth – yn bynciau sy’n ennill pleidleisiau yng Nghymru heddiw. Dyna’r broblem sylfaenol.

SB: ’Dan ni wedi gweld cyfres o ganlyniadau gwleidyddol ym Mhrydain ac yn y Gorllewin yn ddiweddar lle mae radicaliaeth wedi cario’r dydd, boed hynny’n radicaliaeth adweithiol UKIP, Trump neu Brexit neu radicaliaeth flaengar Corbyn ym Mhrydain neu Podemos yn Sbaen. Mae Plaid Cymru wedi parhau i fod yn lled geidwadol yn y cyd-destun yna, o ran y pynciau craidd hynny lle byddai hi’n medru bod yn wahanol i Lafur – hynny yw, ar fater annibyniaeth yn benodol. Mae hi’n meddwl ei bod hi’n radicalaidd am ei bod hi’n defnyddio rhethreg radicalaidd traws-Brydeinig – ond mae’r rhethreg honno’n cael ei chysylltu â Corbyn erbyn hyn. Y broblem yw hyn: er bod safbwyntiau Plaid Cymru yn radicalaidd mewn cyd-destun Prydeinig ehangach, nid ydynt yn radicalaidd oddi mewn i’r berthynas rym â’r pŵer trefedigaethol, ac oddi mewn i’r berthynas gwas-meistr sydd gan Blaid Cymru â’r Blaid Lafur. Yn y cyd-destun hwnnw, mae rhethreg Gorbynaidd yn geidwadol am ei bod yn cyfnerthu, i bob pwrpas, British universalism.

Convention

(Llun: Owen Martell)

Un peth i’w gofio wrth drafod Corbyn yw hyn: er bod y Blaid Lafur wedi mynd yn fwy pleidiol i ddatganoli, mae Corbyn ei hun yn ffigwr eitha’ unoliaethol, yn ei agwedd at yr Alban ac yn ei agwedd at Gymru. Mae o’n f’atgoffa, a dweud y gwir, o ffigwr fel Cromwell. Hynny yw, mae o’n bictiwr o’r gweriniaethwr Seisnig mawr, y democrat mawr, sy’n cynrychioli ewyllys y bobl; mae yna ryw elfen, ryw ymdeimlad o chwyldro Ffrengig, rhyw ymdeimlad Cromwellaidd, egalitaraidd yn perthyn i Corbyn. Problem hynny, wrth gwrs, ydy bod y traddodiad yna’n gallu bod yn ddiystyriol braidd o wahaniaethau ethnig neu ddiwylliannol neu genedlaethol. Dw i’n ofni bod yn rhaid i ni feddwl yn sylfaenol am swyddogaeth cenedlaetholdeb Cymreig oddi mewn i’r genedl-wladwriaeth Brydeinig / Seisnig annibynnol sydd yn cael ei chreu wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd mae yna berygl y bydd y genedl-wladwriaeth honno yn rym ethnig yn ei hanfod, yn rym Seisnig yn ei hanfod, ond a fydd yn mynd i gyfeiriad adain chwith ac yn ei wisgo’i hun yn nillad leftist universalism a hynny’n golygu na fydd yna le oddi mewn i’w system i wleidyddiaeth adain chwith mudiad cenedlaethol lleiafrifol fel Plaid Cymru.

’Dan ni’n mynd ar ein pennau yng Nghymru heddiw i’r hyn y byddai Foucault yn ei alw’n épistème newydd – hynny yw cyfnod newydd o ran rheolau syniadol cymdeithas a’r hyn y mae hi’n bosib ei fynegi, a’r hyn y mae’n bosib ei ddychmygu. Mae’r épistème sy’n cael ei ffurfio rŵan yn ei gwneud hi’n llawer, llawer anos i genedlaetholdeb Cymreig ddod o hyd i lais ac i fod yn effeithiol. Felly mae rhywun yn gobeithio mai blip ydy’r wasgfa ar bleidlais Plaid Cymru mewn llefydd fel y Cymoedd – ond mae’n rhaid i ni wynebu’r posibilrwydd y gallai fod yn batrwm mwy hirdymor. Felly dw i’n meddwl y bydd yn rhaid i ni gymryd risgiau, ac edrych ar fudiadau cenedlaethol cryf, annibynnol yng Ngwlad y Basg, yn Iwerddon ac i ryw raddau yn yr Alban, a bydd yn rhaid i ni gamblo ar geisio sefyll y tu allan i’r fframwaith syniadol Prydeinig y mae Corbyn wedi ei gyflwyno mor llwyddiannus – fframwaith blaengar, adain chwith y mae disgwyliad, rywsut, i bob Cymro gwlatgar ei gefnogi.

DW: Ar lefel ddiwylliannol, am wn i, gwrth-gymathiad yw sylfaen gwleidyddiaeth Plaid Cymru ac mae’r chwith Prydeinig yr un mor gymhathol â’r dde Prydeinig ac yn fwy o fygythiad, efallai, am ei fod yn apelio mwy at genedlaetholwyr, fel yr awgrymaist. Mae’r épistème newydd hefyd yn hen épistème, wrth gwrs, fel y dangoswyd yn dy gyfrol Pam na fu Cymru (GPC, 2015 – gweler adolygiad Robin Okey yn O'r Pedwar Gwynt, Rhifyn 2, Nadolig 2016). Hynny yw, fe ellid dadlau mai rhyddfrydiaeth y 19eg ganrif mewn gwisg sosialaidd yw Corbyniaeth. Y camsyniad y mae cenedlaetholwyr c-fach yn y Blaid Lafur yn ei wneud yw’r un camsyniad ag a wnaeth T E Ellis a Lloyd George: maen nhw’n perthyn i fudiad a fydd yn arwain at ein cymathiad ni yn y pen draw. Holl bwrpas mudiad cenedlaethol yw gwrthsefyll hynny.

Gellir darllen ysgrifau gan Simon Brooks a Daniel Williams am y mudiad cenedlaethol ar flog Nation Time Cymru Sydd.


Simon Brooks yw Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog ac mae’n gynghorydd Plaid Cymru dros Borth-y-Gest. 

Roedd Daniel Williams yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Castell-nedd yn Etholiad Cyffredinol 2017. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae angen mynd yn ôl at ‘y peth go iawn’, y peth na allwch chi ei ddiffinio – y genedl, hanfod y genedl

Dyddiad cyhoeddi: 29·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…