Dadansoddi

Beth yw’r Gymraeg am ‘dawn chorus’?


Dyfan Maredudd Lewis

Amser darllen: 10 munud

30·01·2019

Alla’i ddim bod yn sicr pryd oedd y tro cyntaf i mi glywed y dawn chorus yn iawn. Rwy’n siŵr fy mod i’n ymwybodol o’r ffenomen cyn i mi glywed y peth ei hun. A hynny, dybiwn i, oherwydd bod yr ymadrodd yn un sy’n gafael. Mae’n addo rhamantiaeth rhyw fore a aeth dros gof; yn ernes o ddiwrnod newydd yng nghwmni byd natur.

Dawn chorus yn Saesneg, côr y bore bach yn Gymraeg, yn ôl Geiriadur yr Academi – idiom sy’n ddigon trawiadol, er efallai’n llai cyfarwydd na’r Saesneg. Rhaid i mi gyfaddef na chlywais yr ymadrodd Cymraeg nes dechrau ymchwilio i’r ysgrif hon. I mi, dawn chorus oedd y profiad o glywed canu’r adar ar doriad gwawr; mae ceisio cyfieithu’r idiom yn tarfu ar y cof sydd gennyf o’r profiad hynod hwnnw, ac yn ei dreiglo rywfaint.

Rwy’n bendant yn cofio deffro a meddwl 'O! Dawn chorus!', gan ryfeddu at ganu’r adar ar ddechrau bore newydd; fy mod wedi ‘cyrraedd sydyn baradwys’, a dyfynnu R Williams Parry. Mae’n debygol iawn, hefyd, i mi regi’r dawn chorus fwy nag unwaith, wrth i’r adar hy' fy llusgo o’m cwsg. Ond dydw i erioed wedi gwneud hynny yn achos côr y bore bach.

A dyna sut rwy’n teimlo am drydar yn gyffredinol – Trydar, y cyfrwng cymdeithasol, hynny yw. Mae’n gyfaddefiad trist mai trydar fy nghyd-Gymry a’r byd tu hwnt sy’n hawlio fy sylw wrth ddeffro bellach, nid robin goch y tu allan i’r ffenest yn canu ben bore. 
 

Côr yr adar gan Jan van Kessel (rhwng 1646 ac 1679)

Mae nifer wedi pendroni am effaith yr ap hwnnw ar ein trafodaethau a’r modd y mae’n dylanwadu ar ymwneud pobl â’i gilydd; ei rym i greu realiti o absoliwtiau sy’n gadael pawb mewn deuolebau a charfannau naill ai neu. Yn wir, mae trafod Trydar yn y golau hwnnw’n ymylu ar fod yn ystrydeb erbyn hyn. 

Rwy’n ei chael hi’n anodd, serch hynny, i drafod y cyfrwng heb droi at ystrydebau. A hynny'n enwedig yng nghyswllt yr iaith Gymraeg, gan mai trwy gyfrwng ystrydebau y mae’r drafodaeth amdani'n amlygu ei hun gan amlaf: rhefru am addysg Gymraeg, iaith tafarndai, yr elît Cymraeg, am ‘werth’ yr iaith, ardaloedd Cymraeg a di-Gymraeg, iaith a dosbarth, ac yn y blaen, cyn derbyn toreth arall o ystrydebau yn ymateb. Mae'r ystrydebau hyn yn amrywio o ddicter hunangyfiawn i resymoli annoeth, cwestiynau rhethregol dros y siop neu ‘fuck off’ amhwyllog. Ac yn yr ymatebion amrwd hyn y cyflwynir llawer o syniadau ynghylch yr iaith i’r di-Gymraeg. Gwelwn hefyd, oherwydd y boblogaeth o siaradwyr Cymraeg sydd i’w chanfod yno, fod Trydar bellach yn ganolbwynt ein cyhoeddfa pan ddaw hi’n fater o drafod y Gymraeg yn Saesneg.

Yr ystrydeb bennaf, efallai, yw ein bod ni i gyd yn ymwybodol o effaith y cyfryngau hyn ar ein democratiaeth, ar ein disgwrs, ac ar ein hiechyd meddwl. Gwyddom nad yw gwir gymhelliant, argyhoeddiad a natur amrywiol cymeriad yn gallu cael eu cywasgu i bersona ar-lein. Gwyddom hefyd nad yw buddsoddi’n ormodol mewn rhithfyd, sydd ymhell o fod yn adlewyrchiad cyflawn o’n bywydau beunyddiol, yn beth iach go iawn. Ond eto, parhau i blannu’n trwynau yn y ffrydiau yr ydym. 

Mae gan Trydar fel cyfrwng ei gyfyngiadau. Mae'r cyfyngiadau hyn yn rhai penodol ac amlwg y gellir eu rhestru: hyn a hyn o gymeriadau i bob trydariad, hyn a hyn o eiliadau i bob fideo, hyn a hyn o luniau ar y tro, ac yn y blaen. Cyfrwng hefyd yw’r Gymraeg, a’r Saesneg, ac mae ganddynt hwythau eu cyfyngiadau, os llai amlwg.

O newid iaith, a chyfieithu o’r naill i’r llall, newidir ystyriaethau sydd ynghlwm wrth eiriau a syniadau. Daw ystyriaethau newydd i’r amlwg, rhai sydd â goblygiadau mewn trafodaethau gwahanol ac ar wahân i’r iaith wreiddiol. Weithiau, cyplysir gair â ffactorau ehangach yn anfwriadol. Drwy’r broses hon amlygir anhawster wrth drafod y Gymraeg yn Saesneg. Mae’r rhan helaeth o’r gwaith meddwl am ein hiaith wedi digwydd yn y Gymraeg, a chan fod ein gwybodaeth amdani fel Cymry Cymraeg gan amlaf wedi cael ei mynegi drwyddi, mae nifer o’n prif gysyniadau fel cymuned ynghlwm wrthi.

Ry’n ni oll wrth drafod y Gymraeg yn adeiladu ein canfyddiad ohoni ar y 'meddwl' blaenorol hwnnw, boed yn ymwybodol ai peidio. Proses gyson o adleoli syniadau a fynegwyd yn flaenorol, felly, yw siarad am y Gymraeg yn Saesneg. Mae gofyn bod yn greadigol, gan fod y dolenni hynny ry’n ni’n seilio’n canfyddiadau arnynt yn rhai Cymraeg wrth natur. Rhaid meddwl a dechrau o’r newydd wrth fynegi’r un syniadau yn Saesneg.

Pe bawn i’n ysgrifennu’r ysgrif hon yn Saesneg, er enghraifft, mi fyddai’n wahanol yn ei hanfod. Byddai angen i’r darnau o wybodaeth am yr iaith, a rennir gan bob un ohonom, gael eu hesbonio, eu helaethu. Digon addas yw hi felly fy mod i’n trafod hyn yn Gymraeg: mae ystyried iaith fel ystorfa cof ein cenedl yn un enghraifft o’n meddylfryd torfol. Gellid dadlau mai o’r meddylfryd hwn y deillia awydd digamsyniol nifer o siaradwyr y Gymraeg i weld ei pharhad, ac efallai fod hynny'n esbonio pam nad yw’r un ymdeimlad o frys yn bodoli ymhlith siaradwyr iaith fwyafrifol, megis Saesneg, i ddiogelu ei defnydd.

Sut mae cyfieithu’r meddylfryd torfol hwnnw a’r cysyniadau sydd ynghlwm wrtho? Sut mae creu effaith rhywbeth megis Tynged yr Iaith o’r newydd mewn iaith arall? Beth yw 'Dulliau Chwyldro' yn Saesneg? A oes yr un cynodiadau iddo? Beth yw taeog, beth yw gwladychu? Pam nad yw geiriau Cymraeg yn cael eu defnyddio wrth drafod y profiad Cymraeg yn Saesneg?

Ystyriwch pa eiriau sydd wedi croesi draw – cwtshgwdihŵpopty-ping. Geiriau digon kitschquaint i’w cyflwyno i’r di-Gymraeg. Does dim yn bod ar hynny, fel y cyfryw, ond nid ydynt yn datgelu dim am y profiad Cymraeg. Un gair sy’n dod i’r meddwl, ac sy’n cario gydag ef gynodiadau pwrpasol ynghylch perthynas siaradwyr Cymraeg â’r byd o’u cwmpas yw crach. Dyma air sydd wedi’i ysgaru o’i ystyr gwreiddiol bellach fel dull o gyplysu iaith â dosbarth, sy’n ymosod ar siaradwyr Cymraeg ac sy'n gwrthod cydnabod bodolaeth aelodau Cymraeg eu hiaith o’r dosbarth gweithiol.

Hoffwn bwysleisio nad yw’r ffactorau hyn yn ei gwneud hi’n amhosib trafod y Gymraeg yn Saesneg, wrth reswm. Ni fynnwn chwaith geisio condemnio’r sawl sy’n penderfynu gwneud. Mae llu o enghreifftiau sydd wedi llwyddo i fynegi profiad y Cymry Cymraeg yn Saesneg yn llwyddiannus. Dim ond adrodd yr ydw i, yn hytrach, bod y weithred o drafod y profiad Cymraeg mewn iaith arall yn dod â chyfrifoldeb i’w chanlyn, gan eich bod yn cyfleu bron â bod o’r newydd naratifau a chysyniadau sydd wedi’u plethu ynghyd â’r iaith Gymraeg. 

Dyma lle mae problemau Trydar yn dod i’r amlwg. Mae trafodaeth ar y cyfrwng hwnnw’n cael ei chynnal mewn cywair neilltuol: cywair adweithiol, â dadleuon wedi’u cyddwyso i ofynion gofodau bychain. Y pryder yn achos y Gymraeg yw mai dyma’r cyfrwng amlycaf i gynnal trafodaeth am yr iaith trwy gyfrwng y Saesneg. Mae siaradwyr Cymraeg yn ymwybodol o gyd-destunau eraill, tu hwnt i Trydar a natur adweithiol ein cyfryngau. Ond nid yw’r realiti hwnnw yn cael ei fynegi bob amser wrth droi i’r Saesneg ar Trydar.

Perfformiad, wrth gwrs, yw ein cyfryngau cymdeithasol, a pherfformiad yw Trydar yn ogystal. Nid oes dim sy’n datgelu’r natur berfformiadol hon yn gliriach na gweld dau 'Nashi' rhonc yn trafod y Gymraeg yn Saesneg. Mae’r sawl sy’n penderfynu gwneud yn ymwybodol mai gwneud i bwrpas y maent, er budd cynulleidfa neilltuol, a hynny trwy fabwysiadu cywair penodol. 

Dyma, o bosib, sydd wrth wraidd yr awydd i geisio esbonio’r iaith ar delerau sy’n gyfarwydd i ddarllenydd Saesneg. Fel rhan o'r ymdrech hon mae ffenomen wedi datblygu o geisio fframio'r Gymraeg yng nghyd-destun y disgwrs presennol am amrywiaeth, sydd o bosib yn fwy cyfarwydd i berson di-Gymraeg. Mae’n gwestiwn pa mor adeiladol ydy hyn. Wrth gwrs, gallwn ddysgu o hyd trwy glywed profiadau eraill sy’n wynebu heriau o fewn ein cymdeithas, fel modd o rymuso’n gilydd ac er mwyn deall y rhwystrau sydd yn eu hwynebu hwythau. Yr un drefn sy’n ein rhwystro fel cymunedau, ac mae datgelu a rhannu ymwybyddiaeth o'r strwythurau grym yn cynnig dulliau i ni ymwrthod â nhw. Ond, rhaid hefyd meddwl o’r newydd ynghylch y Gymraeg yn Saesneg, a pheidio â dibynnu ar fewnforio syniadau o gymunedau eraill yn unig, rhag tanseilio profiadau yn ddiarwybod.

Yn yr un modd rwy’n gweld diffyg mawr yn ein disgwrs ynghylch amrywiaeth yn y Gymraeg. Prin yw’r gofodau i gymunedau sydd wedi’u gormesu yn ein cymdeithas fynegi’r gormes hwnnw trwy gyfrwng yr iaith. Mae’n bryder i mi nad yw’r Gymraeg yn medru esblygu i gofleidio'r newidiadau cyson ar waith mewn syniadaeth ynghylch people of colour a phobl queer, er enghraifft. Adlewyrchiad cywilyddus ohonom ein hunain a gawn gan rai o gyfieithiadau Geiriadur yr Academi o dermau fel black hefyd. 

Serch hynny, mae camau cadarnhaol wedi eu cymryd mewn rhai cymunedau, yn enwedig felly'r gymuned LHDT+. Ceir rhestr o eirfa ar wefan Stonewall ar gyfer termau’r gymuned honno, ond maent yn parhau wedi eu hepgor o’n geiriaduron. Y tu hwnt i eiriau, cafwyd rhaglen o ddigwyddiadau Mas ar y Maes yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd y llynedd. Roedd y rhaglen honno’n ddadl, os dim arall, bod angen i’r Eisteddfod barhau’n ŵyl uniaith, gan ei bod hi’n rhoi cyfle i’r gymuned LHDT+ fynegi ei hun mewn cywair a ffurfiwyd ganddi yn y Gymraeg. Dylid croesawu camau pellach i ddatblygu rhaglen debyg er mwyn trafod perthynas hil â’r Gymraeg, wedi'i harwain gan bobl nad ydynt yn wyn, ynghyd â gofodau agored a Chymraeg ar gyfer lleiafrifoedd ethnig eraill.

Wedi’r cyfan, nid yw’r drafodaeth ynghylch amrywiaeth yn beth estron i ni, dim ond iddi gael ei mynegi mewn cyd-destunau gwahanol yn y gorffennol. Mae’r cysyniad mai iaith amaethyddol yn unig yw’r Gymraeg bellach yn chwerthinllyd, ac nid yw datblygiad hunaniaeth Gymraeg ddinesig neu drefol o reidrwydd yn gorfod bod ar draul ein hunaniaeth wledig ychwaith. Mae’r gwersi hyn o’n gorffennol yn dangos mai drwy amrywiaeth y mae sicrhau parhad a chryfder yr iaith. 

Efallai fy mod wedi bod ychydig yn feirniadol wrth drafod y gymuned sydd ar Trydar. Mae fy ngolwg i ohoni hyd yn hyn wedi bod braidd yn besimistaidd, rwy’n cydnabod. Does dim angen edrych ymhell cyn gweld elfennau sy'n lliniaru'r besimistiaeth. Cymerer y drafodaeth ddiweddar ynghylch rewilding. Trowyd haeriad di-glem nad oedd term Cymraeg ar gyfer y gair hwn yn drafodaeth adeiladol, lle gosodwyd nifer o opsiynau fel cyfieithiad i’r Gymraeg, yn eu plith ail-wylltiodad-ddofianghyfannu, gan arwain at ddeialog am gryfderau a gwendidau pob un. Yn y Gymraeg y digwyddodd hyn, ac efallai wir fod gair fel rewilding yn haws i bobl wyn ddamcaniaethu yn ei gylch na people of colour.

Rwy’n tueddu i feddwl mai yn y Gymraeg y dylai’r sgyrsiau hyn ddigwydd, ac yn y Gymraeg y dylem ninnau geisio mynegi ein profiadau hefyd, gan mai ynddi y cedwir stôr ein meddylfryd torfol, a phe baem ni’n ymatal rhag ychwanegu at y stôr hwnnw, dim ond aros yn ein hunfan y byddem. Ond, os ydym am esbonio i’r di-Gymraeg, efallai bod angen i ni gydnabod mai un cam tuag at greu cyhoeddfa yw sicrhau trafodaeth am y Gymraeg yn y cyfryngau Saesneg, bod yna gamau pellach i’w cymryd er mwyn datblygu ac ehangu’r cyweiriau a ddefnyddir i drafod yr iaith Gymraeg yn y Saesneg. Mae gennym waith hefyd i sicrhau gofodau hygyrch wedi’u harwain gan ein cymunedau amrywiol a lleiafrifol fel eu bod hwythau'n gallu trafod materion ynghylch hunaniaeth, a’r problemau a wynebir ganddynt, trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ymdrech dorfol fydd hon wrth natur, ond gall unigolion gymryd camau hefyd. Y cyntaf i mi, mae’n siŵr, fydd deffro gyda’r wawr bore fory ac ymhyfrydu yng nghôr y bore bach.


Mae Dyfan Lewis yn awdur sy'n ysgrifennu mewn sawl cyfrwng. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur Newydd iddo gan Lenyddiaeth Cymru yn Ionawr 2019. Roedd yn fuddugol hefyd yn nghystadlaethau'r Ysgrif a'r Stori Fer yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae modd gwrando arno'n darllen y stori fuddugol fel rhan o gyfres podlediadau Tonfedd Cymru Fydd


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Cyfryngau cymdeithasol, Y Gymraeg

 


Perfformiad yw ein cyfryngau cymdeithasol. Nid oes dim sy’n datgelu’r natur berfformiadol hon yn gliriach na gweld dau ‘Nashi’ rhonc yn trafod y Gymraeg yn Saesneg

Dyddiad cyhoeddi: 30·01·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.