Dadansoddi

Beth yw’r pellter ond naid?

Mixtape 1988


Emyr Glyn Williams

Amser darllen: 15 munud

25·11·2017

Ho-hym. Methu canolbwyntio o gwbl ar y dasg o’m blaen: pwrpas gwreiddiol dechrau ysgrifennu’r darn hwn yw cyfrannu at drafodaeth am ddiffyg unrhyw beth tebyg i ddiwylliant sinematig cadarn, llewyrchus a bywiog yn y Gymraeg. Yn hytrach, dyma fi’n edrych ar hen lun du a gwyn a dynnwyd gan fy ffrind, y ffotograffydd Medwyn Jones, ’nôl ym 1987. Delwedd sydd newydd gael ei rhannu ar un o dudalennau’r Wicipedia Cymraeg. It’s new to me! Dwi’n gweld bachgen bochgoch, chwyslyd ar lwyfan mewn crys-T Christa Päffgen – fi yn 20 mlwydd oed. Ond yn syth ar ôl y gweld dwi’n dechrau teimlo, a’r peth cryfa’ dwi’n ei deimlo yw’r sicrwydd cynnes yna fod y bachgen yn y llun yn gwybod bod y ‘naid’ wedi digwydd.Emyr Glyn Williams ar lwyfan ym 1987; llun Medwyn Jones

Sut fedra i fod yn sicr? Well, I know him! Does dim rhaid dibynnu’n gyfan gwbl ar y cof personol; mae yna ddigon o ffeithiau annibynnol ar gael i bawb gael gweld olion y ‘naid’. Mae’r albyms Cymraeg canlynol i gyd yn cael eu rhyddhau yn ystod y cyfnod pan dynnwyd y llun: Da! (Llwybr Llaethog), Wyau (Datblygu), Welsh Tourist Bored (Traddodiad Ofnus), Amhersain (Fflaps), Dalec Peilon (Ffa Coffi Pawb), Bugeilio (U Thant), Y Testament Newydd (Y Cyrff), Defaid, Skateboards a Wellies (Anhrefn), a phob un ohonynt ar labeli recordiau gwahanol (Side Effects, Anhrefn, Constrictor, Probe Plus, Casetiau Huw, Thant, Sain, Workers Playtime) a’u hanner nhw yn fusnesau dros y ffin.

Angen mwy o dystiolaeth? Mae Eddie Ladd a Fideo9 ar y teledu, John Peel yn dysgu Cymraeg ar y radio. Mae Ankst, Ofn, Pop Positif ac Rbennig yn active a Crisialau Plastig, Terry Waite ar Asid a gweddill y ‘bloody youngsters’ sy’n cynllwynio yn eu ’stafelloedd gwely yn byw yn llon yn y realiti newydd yma i gyfeiliant trac sain 303s ac 808s ac yn mwynhau’r wefr o bwyntio bys: ‘Hobi yw’r Gymraeg i bryfed Bangor a’r Taf, dechrau ym Mehefin a climax yn yr haf.’

Sut mae esbonio’r ‘naid’? Wel, mae’r ‘naid’ yn ddarn annatod o realiti’r diwylliant Cymraeg. Fedra i ddim rhoi bys ar yr eiliad na’r lleoliad, ond dwi’n hollol sicr fod y ‘naid’ wedi digwydd ym myd cerddoriaeth Gymraeg a’i bod wedi creu realiti newydd. A sut deimlad yw hynny? Wel, i’r bachgen chwyslyd, mae’n teimlo’n union fel byw yng nghanol rhywbeth fel ‘Street Life’, cân-pwaith gwyllt Roxy Music: ‘This brave new world’s not like yesterday ...’

Tystiolaeth bellach – beth am gymharu’r realiti cyn y ‘naid’ â’r realiti ar ei hôl? Cyn y ‘naid’, mae pawb yn dweud ‘Welsh music is crap’, ond fydd hynny byth yn digwydd eto. Mae’r ‘naid’ wedi newid ein realiti. O’r eiliad honno hyd heddiw, mae realiti’n gwrthod derbyn bod dweud y fath beth yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.

Mae’r bachgen yn y llun wedi synhwyro bod cerddoriaeth Gymraeg wedi ‘dod i fodolaeth’ o’r diwedd! Proses o ddyfodiad. A’r hyn y mae’r dyn sy’n edrych ar y llun o’r bachgen yn ei synhwyro yw bod angen y ‘naid’ hon ar sinema yn y Gymraeg (a chymaint o bethau eraill hefyd!) er mwyn iddi hithau hefyd ‘ddod i fodolaeth’.

Credaf fod yna werth archwilio mecanwaith y ‘naid’ fel syniad defnyddiol ar gyfer pob maes yn ein diwylliant. Ei chymryd hi o ddifri’, sifftio trwy fanylion bywydau a phrofiadau goddrychol – fi, ti a phawb arall, lle bynnag y synhwyrwn ei heffaith. Hel tystiolaeth er mwyn hoelio symudiadau’r ‘naid’ a chreu athroniaeth o’r newydd o’i chwmpas a fydd yn perthyn i ddiwylliant a dyfodol y Gymru Gymraeg. Dwi’n dewis diffinio’r ‘naid’

fel cysyniad athronyddol Cymraeg – athroniaeth uchelgeisiol, rhywbeth sydd yn medru bodoli ym mhob darn o realiti. Credaf mai unig bwrpas athroniaeth yw archwilio bywyd fel y mae (sut rydan ni’n byw, nid sut rydan ni’n meddwl neu’n dymuno byw) er mwyn arwain at fwy o ddealltwriaeth yn gyffredinol o arwyddocâd byw bywyd Cymraeg. Cyfres o neidiau ydi hanes diwylliant Cymraeg i mi.

Nid yw cysyniad y ‘naid’ mor hyfryd ag ogof Plato neu lannerch Heidegger, yn sicr, a does ganddo ddim chwaith i’w wneud â’r neidio crefyddol yna tuag at gysur Ffydd (dwi’n cytuno gydag Albert Camus mai hunanladdiad athronyddol fyddai dewis gwneud hynny!), ond hoffwn gynnig bod y ‘naid’ yn syniad athronyddol sy’n unigryw i ddiwylliant a phrofiad y Gymru Gymraeg. Mae ’na rywbeth tebyg i ddirfodaeth yn perthyn iddi (heb ei chyfyngu i weithredoedd yr unigolyn, ond wedi’i hestyn yn hytrach i dirwedd realiti ehangach o lawer). Mae’r angen cyson i wneud a dewis gwneud er mwyn ail-greu realiti drosodd a throsodd yn sylfaen iddi – ‘gwnewch bopeth yn Gymraeg’ – yn ogystal â’r awydd greddfol hwnnw i fod yn ddiwylliant sy’n ymwrthod â’r drefn, sy’n gwrthod dilyn y dorf ac yn wfftio bod yn ufudd, yn ddof ac yn inauthentic. Mae’r elfennau hyn yn ddigon, ar y cychwyn fel hyn, i greu disgrifiad bras o asgwrn cefn yr athroniaeth newydd sbon hon.

Dwi’n hapus i rannu’r hyn dwi’n ei wybod am y ‘naid’, gan obeithio y bydd athronydd gwerth ei halen mewn prifysgol yn rhywle (oes ’na’r fath adrannau’n dal i fodoli?) yn gweld gwerth mewn cynnal ymchwil fwy manwl (dwi ddim yn ddigon gofalus na synhwyrol i wneud mwy na chyffesu). Y nod yw gweld athroniaeth newydd, ymarferol yn neidio i fodolaeth, yn union fel geni pob un ohonom. Athroniaeth a fydd yn medru cynnig arweiniad ar gyfer gwlad annibynnol sydd ar fin ‘dyfod’, gwlad sydd yn ystyried y weithred o ‘neidio’ fel yr ateb mwyaf naturiol ar gyfer esblygu a pharhau gyda’r bythol symud ymlaen sydd ei angen arnom er mwyn osgoi diflannu’n gyfan gwbl.

Cofiwch ei bod hi’n iawn i gael ein synnu drwy’r amser gan y busnes yma o fod yn fyw wrth i ni fyw’r bywyd Cymraeg, a does dim o’i le chwaith efo meddwl yn ddwys am hynny. Mae yna beryg parhaol o gael ein colbio gan y gyfundrefn gyfalafol neu, yn fwy diweddar, o foddi yng nghyrhaeddiad y rhyngrwyd a gweld teneuo’r dyfnder yna sydd ei angen er mwyn cyfoethogi ein profiadau personol. Serch hynny, mae’n rhaid i ni i gyd fod yn effro i fodolaeth y ‘naid’, ac yn barod i archwilio’r bywyd yma rydan ni’n ei fyw, brofiad wrth brofiad, wrth i ni frwydro hefyd yn erbyn unrhyw symudiad torfol, allanol, sy’n dymuno creu byd a dyfodol homogenaidd ddi-naid ar ein cyfer. Yn fy llaw dwi’n dal casét o 1988, mixtape, gweithred bersonol, a chredaf fod tystiolaeth o wir natur y ‘naid’ yn celu oddi mewn iddo.

Ho-hym. Hel meddyliau cyn ailwrando. Mae cerddoriaeth a chlywed yn dibynnu ar iaith. Tydi sinema ddim yn dibynnu ar iaith yn yr un ffordd, a hwyrach mai dyma’r rheswm dros amharodrwydd sinema Gymraeg i neidio ... Methu peidio â meddwl am y ffordd y mae cerddorion yn uno’r corff a’r meddwl mewn un weithred naturiol, llawn momentwm, fel trosiad perffaith o’r naid ... clunk ... hiss ... Tawelwch trydanol cyn ...

Mixtape 1988

‘Anwybyddwch ni’ (Y Cyrff). Wrth gwrs ei bod yn swnio fel The Clash, dyna’r pwynt yndê? No bomb ever announced itself. Fel llythyr Edgar Allan Poe, mae hwn yn syniad mawr sy’n cuddio yng ngolwg pawb. Dyma ddatganiad diwylliannol pwysicaf y genhedlaeth hon sydd ar fin neidio. Cân eironig, yn sicr, gan fod hanner munud o wrando yn ei gwneud hi’n glir nad oes dim gobaith y gellir anwybyddu’r grŵp yma, efo Marc Roberts yn fardd pur o ben ei quiff i sodlau ei brothel creepers. Unigolyn wedi ei eni â chlust gerddorol euraid a fydd yn ei osod ar frig siartiau’r byd o fewn degawd. I ddod o hyd i olion y ‘naid’ oddi mewn i’r datganiad, mae’n rhaid ei droi ar ei ben – ‘Ni’n anwybyddu’ ydi’r gwirionedd. Mae byd y ‘Pethe’ yn dadlau bod pwysau cyson pob gair, arwydd a sain Saesneg ar ein llygaid ac ar ein clustiau yn rym negyddol sy’n creu dirywiad yn ein gallu i feddwl yn annibynnol ac i dderbyn cyfrifoldeb am gwrs ein taith. Mae’r Saesneg ym mhob man, ac rydym yn dioddef o’i herwydd. Ac, yn anorfod, rydym yn lledaenu ei heffaith a’i grym heb feddwl. Ond i mi, mae’r ‘naid’ yn dweud nad ydi hyn yn bwysig. Fel Cymry gallwn gael ein hanwybyddu, yn sicr, ond rydym hefyd yn rhydd i ddewis anwybyddu’n ôl – dyma rinwedd y ‘naid’ i ni fel Cymry Cymraeg.

Mae’r duedd hon wedi bod yn tyfu ers y 1960au (ac i mi gael bod yn glir, nid cefnu ar y byd ydi hyn, nac unrhyw rwtsh Adferaidd fel yna, ond yn hytrach mae’n gyfle i’n hadnabod ein hunain yng nghanol y ffîdbac a’r cosmic interference). Ond dim ond gyda’r genhedlaeth hon, cenhedlaeth Y Cyrff a’r gweddill, y daw cyfle, i mi beth bynnag, i arsylwi go iawn ar y diwylliant byw, Cymreig sydd o flaen fy llygaid (heb orfod cymharu), am fod coethder, cyffro a chyfoeth ffrwyth creadigol y genhedlaeth gerddorol hon yn hawlio sylw.

Tydi meddwl, creu a byw fel hyn ddim yn dilyn patrwm arferol y rheiny sy’n cael eu gorthrymu; gwrth-ddweud, digalonni neu gwffio’r dylanwad ieithyddol gorthrymus sy’n digwydd fel arfer (mae digon o hyn yng Nghymru hefyd, wrth gwrs). Mae’r ‘naid’, ar y llaw arall, yn mynnu (mewn ffordd absẃrd a gwrth-resymegol) bod yna drywydd arall – cymer gam i’r ochr. Hefyd, mae’r naid yn troi athroniaeth glasurol ar ei phen: yn hytrach na derbyn nad ydi hi’n bosib i unrhyw beth fodoli tan i ni ei brofi, mae’r Cymry Cymraeg yn gwybod nad oes yna unrhyw beth yna i’w brofi tan i ni wneud iddo fodoli.

‘Paid â dibynnu ar genedlaetholwyr a hynny... paid â phrynu sbwriel trendy lefties Cymraeg’ (Tynal Tywyll). Does dim rhaid derbyn bod cenedlaetholdeb yn un o ragofynion diffinio bodolaeth, dyfodol a phwrpas diwylliant Cymru chwaith. Er mwyn sicrhau dyfodol mae angen ymddiried yn y naid, dewis neidio y tu allan i rywbeth, unrhyw beth, popeth, hyd yn oed y tu allan i gorlan y ‘nashis’ os dymunir. Bydd angen ffarwelio â’r sicrwydd o ddilyn Dafydd neu Dylan i lawr i Stiwdio Sain neu HTV fel yng nghân y Fflaps (a phwy sy’n gwneud hynny bellach beth bynnag?). Mae yna eironi pendant yn y fan hon, am fod symud O’r Gad yn cyfoethogi ac yn ailddiffinio’r hyn ydi llwyddiant oddi mewn i amcanion cul cenedlaetholdeb y gorffennol. Byd rhydd, o hyn allan, nid Cymru rydd yn unig. Mae gweithredu’n wleidyddol yn y cyfnod hwn yn esblygu y tu hwnt i boeni am ddyfodol yr iaith er mwyn cwmpasu hawliau anifeiliaid, rhywioldeb, rhyfel dosbarth, ymgyrchu gwrth-apartheid ayyb. Mae’r naid yn gwrthod gweld gwleidyddiaeth fel lôn gul sy’n ymlwybro i un gyrchfan bendant, a dydi hi ddim chwaith yn derbyn bodolaeth un ateb i broblemau realiti’r byd Cymraeg. Mae’r ‘naid’ yn cynnig cyfle i fod yn rhan o ddiwylliant byd-eang heb golli owns o Gymreictod; does dim angen derbyn cael ein caethiwo mewn carchar taleithiol mwyach.

‘Rhywun yn y gegin yn gwrando ar Lou Reed, un arall wedi mynd allan i nôl fwy o gig’ (Elfyn Presli). Gweithred gymunedol. Unigolion gyda’i gilydd. Prysurdeb ar hyd pob gwythïen a chyhyr. Cymaint o bobl yn brysur wrthi: Rhys, Siôn, Dave, Pat, Bern, Dic, Marc, Barry, Paul, Dyl, Gorwel, Fiona, Huw Gwyn, Ann, Alan, Jonny, Ian, Nathan, Toni, Gruff, Daf, Rhodri, Dewi, Lugg, Potter, John, Kevs, Ben, Malcolm, Lloyd, Iwan, Owen, Nia, Gari, Huw P ac yn y blaen ac yn y blaen. Nid llwybr unffurf ydyw, does yna ddim unben, jyst pawb yn neidio gyda’i gilydd. Wrth gwrs, mae angen ffocws ac injan yn rhywle i yrru pethau yn eu blaen, ac er mwyn argyhoeddi pawb fod ‘naid’ yn bosib, a dyna oedd rôl Recordiau Anhrefn a gweledigaeth Rhys Mwyn. Recordiau Anhrefn yw fy hoff label recordiau erioed – presenoldeb byrhoedlog efo catalog o ryw ddwsin o senglau, EPs a chasgliadau. Ond y peth agosaf at berffeithrwydd dwi wedi ei brofi yn y diwylliant Cymraeg.

Dywedai pawb fod y label yn cynrychioli ‘pync yn y Gymraeg’ (beth bynnag ydi hynny). Doeddwn i ddim yn credu hynny ar y pryd, a dydw i ddim yn ei dderbyn

rŵan, gan fy mod i’n sicr fod pync wedi digwydd yng Nghymru ar yr un pryd ag y digwyddodd ym mhob man arall. Hefyd, fedra i ddim credu bod rhywbeth mor bwysig wedi tyfu allan o syniadau ail-law. Mae gwylio oriau o raglenni dogfen am pync ar BBC4 wedi gwneud i’r disgrifiad wneud llai fyth o synnwyr dri deg mlynedd yn ddiweddarach. Bu’r Cymry modern yn double-plus-DIY-punks ers achau, yn ddiwylliant a brofodd ffrwydradau cyson (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Sain, S4C, Jarman, Bara Caws, Y Lolfa). Roedd dwsinau o unigolion gweithgar, gwrthsefydliadol, a labeli recordiau Cymraeg yn bodoli ac yn weithgar cyn i Factory, Fast neu Creation wasgu’r un record. Bu’r realiti Cymraeg yma’n wahanol ers y cychwyn, ac nid dilyniant i stori pync yn Lloegr ydi hi. (Mae honno, yn ei hanfod, yn stori am ymosodiad ar ddiwydiant yn fwy na stori am ddiwylliant, ond tydi hynny ddim yn newid y ffaith fy mod i’n credu hefyd bod y Sex Pistols yn ffycin briliant, a go brin y byddai cerddoriaeth Gymraeg hanner mor wefreiddiol heb yrfa fer y criw yna ...)

I mi, mae Rhys Mwyn yn ffigwr canolog yn stori’r ‘naid’, ac mae fy edmygedd o’r hyn a gyflawnodd, a’r hyn y mae o’n dal i’w gyflawni, yn tyfu mewn modd esbonyddol lleia’ i gyd y meddyliaf amdano fel punk rocker. Ni ellir gwadu llwyddiant Recordiau Anhrefn, a dwi’n dewis gweld y llwyddiant hwnnw fel rhywbeth a dyfodd ar sail cymeriad unigryw Rhys yn hytrach nag ar sail dogma hen ffasiwn punk rock. Mae gwybodaeth anferthol Rhys o hanes hynafol Cymru yn ganolog i’r llwyddiant – ond bron na ellid dadlau bod hyn yn mynd y tu hwnt i ystyriaethau am gerddoriaeth yn unig, a’i fod yn ymwneud, yn hytrach, ac yn syml, â gweld yn glir(iach). Nid Rhys oedd yn gyfrifol am greu’r gerddoriaeth ar ei label ond i’w waith a’i weledigaeth ef, yn sicr iawn, y mae’r diolch am fodolaeth y recordiadau, am y sylw a gawsant ac am y ffaith iddynt lwyddo i greu creithiau sylweddol ar y tirwedd diwylliannol ehangach. Erbyn heddiw mae Rhys yn fwy adnabyddus am fedru gweld o’n cwmpas olion yr oesoedd a fu, yn rhan o’i alwedigaeth fel archaeolegydd. A heb swnio’n gwbl hurt (gobeithio), dwi’n credu bod cymynrodd Recordiau Anhrefn yn gweithredu mewn modd tebyg. Bydd cenedlaethau i ddod yn medru gweld olion catalog Recordiau Anhrefn yn yr un ffordd ag y mae’n bosib gweld olion arferion arwrol hen lwythau ar y tir o’n cwmpas ni heddiw.

‘Y teimlad, beth yw y teimlad?’ (Datblygu). ‘Sws, sws, sws, hwyl, hwyl, hwyl’ (Fflaps). Rydym yn gwybod bob un bod yna injan annelwig arall hefyd sydd yn pweru’r naid. Mae cariad yn gwneud i’r naid deimlo fel ehediad rhithiol o fama i fanna. Mae’r electron yn neidio o gylch i gylch yng nghrombil yr atom heb i ni fedru gweld y grymoedd ar waith. Pam na ddylem ni dderbyn mai cariad sy’n gwthio ac yn gorfodi’r holl neidio elfennol bach a mawr yma? Cariad sy’n ein hatgoffa ni pa mor felys yw hi i golli rheolaeth a mynd gyda’r llif. Weithiau, does dim pwynt gofyn pa un ai neidio neu ddisgyn sy’n digwydd. Mae’r naid yn sylwi ar y rheiny sy’n caru’r iaith Gymraeg. Caru’r iaith er mwyn iddi ddatblygu, nid er mwyn ei pherchnogi na’i bygwth na’i phitïo. No-one owns any of this. Mae’r naid yn gweld nad oes yna lawer o bwynt trio rheoli pethau. Mae bod yn rhesymegol yn cario rhywun yn ystod rhan o’r daith, ond yr hyn sydd ei angen yn y bag teithio yw llanast o emosiynau, nerth cariad a syniadau gwallgof yn ddwfn y tu fewn er mwyn gwneud yn siŵr bod y naid yn un sydd wir yn werth ei gwneud.

‘Peidiwch â malu cachu, cachu, cachu, cachu ...’ (Llwybr Llaethog). Ar y naill law, mae bodolaeth y trac offerynnol Cymraeg hwn ar fy mixtape yn ddigon o dystiolaeth i mi o fodolaeth realiti newydd ôl-‘naid’, am iddo lwyddo i fynegi’n gwbl glir bod angen cymryd y pethau yma o ddifrif (pace geiriau Barry Cawley pan ofynnwyd iddo sôn am y gwahaniaeth rhwng Y Cyrff a grwpiau Cymraeg eraill: ‘College kids ydyn nhw yndê? Tydyn nhw ddim yn cymryd hwn o ddifri, a dwi’m yn college kid.’). Ar y llaw arall, mae ‘Malu Cachu’ yn gampwaith sydd hefyd yn cofleidio ac yn uwchraddio’r bywyd absẃrd Cymraeg.

Mae’r mixtape yn prysur ddirwyn i ben. ‘Mae’n gwneud fy mhen i mewn’ (Ffa Coffi Pawb). ‘Na, gwraig tŷ ydw i’ (Huw G a D J Williams). ‘Mae’n rhaid neud ymdrech. Difaterwch Huh!’ (Traddodiad Ofnus). A dwi’n sylweddoli mai’r peth mwyaf defnyddiol dwi’n ei ddysgu, yng nghanol yr holl athronyddu dwys, yw fod peryg i mi anghofio’r basics, sef bod y byd yn ddoniol eisoes, a bod realiti, weithiau, yn loncian yn bell ar ôl yr ymwybyddiaeth Gymraeg.

Yn ôl at bwrpas gwreiddiol y sgriblan ’ma – y ‘naid’ a sinema yn y Gymraeg. Mae hi’n bosib bod ei thraed eisoes wedi gadael y ddaear; does dim modd gwylio’r ‘naid’ wrth iddi ddigwydd! Mae bodolaeth celfyddyd sinematig wych, ddwys a pherthnasol Y Llyfrgell ac Yr Ymadawiad yn arwydd cryf o fomentwm, dyfeisgarwch a thalent, yn sicr, ond ble mae’r olion eraill? Y ffilmiau iPhone, rantiau’r iconoclasts, y gelfyddyd sy’n gwyrdroi popeth? Credaf yn gryf fod yr amser i ganolbwyntio, i baratoi, i greu, i dderbyn cyfrifoldeb ac i fynnu’r awenau wedi cyrraedd. Be’ sydd am ddigwydd, bobl – a’r ddawn i ddarogan wedi diflannu (yn wleidyddol yn sicr) a thywyllwch yn ymestyn o’n blaenau – disgyn ta neidio?


Emyr Glyn Williams yw sylfaenydd cwmni recordiau Ankst. Mae’n awdur y gyfrol hunangofiannol Is-deitla’n Unig (Gomer, 2015 ). 

Lluniau: Emyr Glyn Williams ar lwyfan ym 1987; llun Medwyn Jones.

Clawr Mixtape 1988, gyda chaniatâd Emyr Glyn Williams.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yn hytrach na derbyn nad ydi hi’n bosib i unrhyw beth fodoli tan i ni ei brof i, mae’r Cymry Cymraeg yn gwybod nad oes yna unrhyw beth i’w brofi tan i ni wneud iddo fodoli

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…