Dadansoddi

Bwch dihangol

Ar yr ymosodiadau gwrth-Semitaidd yn Ffrainc


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 10 munud

20·02·2019

Murlun gan Pascal Boyart a baentiwyd yn Ionawr 2019 yng ngogledd ddwyrain Paris. Dywedodd Boyart ei fod am baentio fersiwn gilets jaunes o'r darlun adnabyddus gan Eugène Delacroix, La liberté guidant le peuple.


Roeddwn i'n methu â dod dros y ffaith ei bod hi'n gwisgo wig; byddwn yn ei dychmygu yn ei dynnu i ddatgelu pen moel, yn gyfrinachol, yng ngŵydd ei gŵr; gwnaethwn fy ngorau i wthio'r olygfa hon o fy meddwl. Merch ifanc oedd hi, ond roedd wedi gwneud ei hun i edrych mor anneniadol â phosib, yn ddillad hirion di-liw, yn weadau trymion mwll at ei migyrnau; roedd rhywbeth fel dau eithaf gwadn esgid a jeli llefrith wedi suro amdani – yn fy meddwl plentyn. A'r wig fel gwallt gafr am ei phen, yn donnau anhylaw. Eironig oedd hynny, wrth edrych yn ôl a dod i ddeall bod rabïaid y Talmwd yn ystyried gwallt gwraig yn erotig ar sail yr adnod yng Nghaniad Solomon: 'dy wallt sydd fel diadell o eifr...'. Mae'n debyg bod gwallt y geifr a ddaethai i lawr o fynydd Gilead yn y Beibl yn sidanaidd, yn wahanol i'r geifr a adnabyddwn yng Nghymru. Ond er y gwyddwn mai'r dychymyg a phryder, nid gwybodaeth, oedd yn bwydo f'ymateb, roedd rhyw ysfa anifeilaidd ynof i'w chadw hyd braich. Codai ymdeimlad o gywilydd drwof yn ei gŵydd oherwydd roedd rhywbeth amdani oedd yn fy ngorfodi, cyn pryd, i ystyried trothwy aeddfedrwydd. 

Dyna'r tro cyntaf i mi ddod i gyfeillachu ag Iddewes Uniongred. Ym Mharis oedd hynny, yn 1985. 12 oed oeddwn i a wyddwn i ddim, tan hynny, am fodolaeth arferion byw o'r fath. Gallaf glywed surni chwys oer y golygfeydd achlysurol hyn hyd heddiw. Roedd y ferch ifanc yn byw yn nwyrain y ddinas, yn yr ardal ym mhen draw y rue du Chemin Vert yn yr 11ème. Unwaith, ar noson aeafol ym mis Tachwedd, euthum drwy fy mag llaw plentynnaidd ar goncrid y palmant y tu allan i'w fflat, yng ngolau neon y stryd. Wedi dod o hyd i'r hyn roeddwn yn chwilio amdano, cerddais i ffwrdd gan adael gweddill trugareddau'r pwrs ar wasgar ar lawr. Roedd fy meddwl nid ar fy mhethau ond i fyny ar y pedwerydd llawr, yn ei chartref: fe'i dychmygais, a phawb bellach wedi gadael, yn tynnu ei wig, yn gignoeth yn ei chywilydd. Roedd rhywbeth treisgar i mi am yr olygfa a ddychmygais. Cododd gwres at fy nghlustiau, dechreuodd fwrw, ac mi es am y metro heb gynhwysion fy mag, fy nhocyn metro yn basbort yn fy llaw. 

Ymhen degawd, dychwelais am gyfnod pellach i Baris a dechrau cyfeillachu gydag Iddewes arall – un o Golders Green y tro hwn, oedd wedi dod i Ddinas yr Oleuedigaeth i wella ei Ffrangeg. Doedd Judith ddim yn gwisgo wig – nid oedd yn briod eto – a doedd dim golwg rhywun sy'n dymuno rhoi'r argraff ei bod yn heneiddio cyn pryd arni, ond mi roedd yna dinc gwahanol iddi hefyd, yn ei siarad siarp, di-flewyn-ar-dafod, ei sgertiau hirion tywyll, ei sanau trwchus a'i sgidiau duon fflat. Roedd rhyw apêl i mi yn hynny achos roedd yn arwydd i mi, yn fy naïfrwydd, nad oedd posib ei bod yn ffuantus ei golygon – doedd bosib, a hithau â sgidiau trymion fel hyn amdani, sgidiau rheitiach i ymweld â'r cwt glo nac i gerdded strydoedd steil Paris. Yn gau neu'n gywir, dychmygwn ei thraed yn gadarn ar y ddaear. Arferwn fynd i fflat yn ardal Iddewig y Marais ar y pryd hefyd, gan feddwl ymuno â phedwarawd llinynnol. Iddew oedd yn fy rhoi ar ben ffordd efo'r soddgrwth yno, ac Iddew oedd f'athro ffidil yn 1985 hefyd, ond wnes i ddim ystyried hynny, dim ond sylwi bod llawer o'r cerddorion oedd o ddifri am eu cerddoriaeth yn y ddinas hon o dras Iddewig, ac mai Iddew o'r Ariannin oedd arweinydd yr Orchestre de Paris ar y pryd, sef Daniel Barenboim.
 

Cyngres Byd yr Iddewon yn Algiers, Mehefin 1952, lle trafodwyd sefyllfa'r Iddewon yng ngogledd Affrica
(Creative Commons)


Wedi setlo ym Mharis am y trydydd tro, gan ddychwelyd ar drothwy 2012, deuthum i adnabod Iddewon o gefndir gwahanol eto – o gymuned Iddewig Algeria. Roedd arddangosfeydd yn cael eu cynnal ym Mharis ar y pryd i nodi hanner canmlwyddiant ymadawiad – ecsodus – Iddewon y wlad. Erbyn i Algeria gyhoeddi annibyniaeth ar 3 Gorffennaf 1962, roedd y mwyafrif llethol wedi gadael am Ffrainc. Er mwyn cael yr hawl i ddinasyddiaeth Algeraidd, rhaid oedd wrth dad Mwslemaidd bellach. Eisoes, dioddefodd yr Iddewon hyn ormes régime Vichy a ymestynnai i ogledd Affrica: am gyfnod, dognwyd eu hawliau, fe'u gwaharddwyd rhag gweithio yn y gwasanaeth sifil, a tynnwyd eu dinasyddiaeth Ffrengig oddi arnynt. Ond yn Rhagfyr 1960, aeth pethau'n rhemp, pan losgwyd y prif synagog yn Algiers. Llosgwyd llyfrau, llosgwyd sgroliau'r Torah. Ac yna, ym Mehefin 1961, ac yntau allan yn siopa yn y farchnad, llofruddiwyd y cerddor Iddewig adnabyddus, Sheikh Raymond Leyris, a oedd i laweroedd yn cynrychioli cyfoeth pair y diwylliant Arabaidd-Iddewig (tad yng nghyfraith y cerddor Enrico Macias).

Dim ond yn achlysurol y byddai'r teulu estynedig hwn y deuthum i gyfeillachu â hwy yn 2012 yn chwarae offerynnau. Artistiaid neu gynllunwyr o bob math oeddynt yn fwy na dim. Wedi gadael Algeria yn niwedd y pumdegau, cawsant eu trosglwyddo'n ddidrafferth o un system addysg i'r llall a chael mwynhau, hyd y gwelaf, holl fanteision addysg Ffrainc ar ei gorau, gan ymgartrefu yn sefydliad adnabyddus yr Ecole des Beaux-Arts – heb orfod ailgymhwyso yn ôl safonau Theresa May na dim byd felly. Pobl oedd yn cymryd eu celfyddyd a'u haddysg ddiwylliannol o ddifri oeddynt unwaith eto, ac wedi eu trwytho mewn hanes deallusol. Ymhen amser hefyd, daeth un o fy mhlant yn llawiach â hogyn o stryd gyfagos oedd yn fab i deulu o Iddewon cymysg, y fam yn Ffrances a'r tad yn Iddew o Efrog Newydd. Y dechnoleg ddiweddaraf oedd yn mynd â bryd y teulu hwn, nid llyfrau. Dathliad bar mitzvah yr hogyn oedd 'noson allan go iawn' gyntaf fy mab hynaf.

Dipyn wrth dipyn, felly, er gwaethaf fy mrwydr gynlas i dderbyn y wig a'i oblygiadau, ar sail fy mhrofiadau amrywiol cyfyngedig roeddwn wedi dechrau mynd i feddwl yn rhy slic mai dim ond edmygedd fyddai gan bawb tuag at Iddewon – os unrhyw beth, mater o ddyheu am fagu'r un difrifoldeb oedd hi siawns, o edmygu'r gallu i oroesi. A beth bynnag, onid oedd y bobl hyn yn rhy amryfath i ragfarn fedru setlo ar eu cefnau cyfunol? Os oedd ffawd un person – fy mhrofiadau i yn unig – wedi datgelu cymaint o amrywiadau ar un 'thema', roedd hi'n amlwg i mi fod yna lawer eto i'w ddeall a'i ddarganfod ac mai ffeil i'w chadw at eto yn nrôr ucha'r ddesg oedd 'la question juive'. Ond yn fwy na dim, onid oedd pawb a wyddai'r ffeithiau yn dal i golli cwsg, wedi eu serio hyd at fêr eu hesgyrn gan ffeithiau'r holocost, yn gwybod bod posibilrwydd o hyd mai eu tro hwy fyddai hi nesaf, Iddew ai peidio? Fallai mai dyna oedd y drwg.

Roeddwn yn gyfarwydd, wrth gwrs, â chywreinrwydd rhy huawdl a rhagfarnau pobl a fyddai'n cyffroi neu'n gwaredu wrth glywed fy mod yn siarad iaith Geltaidd, leiafrifol. Ac yn cofio mai ym Mharis yn unig y gwelais ragfarn yn erbyn y rhanbarthau a'u harferion yn cael ei mynegi'n gwbl agored yn yr unfed ganrif ar hugain, heb swildod. Roeddwn wedi dysgu trwy brofiad, felly, mai taw pia hi mewn anwybodaeth. 

Ond yn fwy diweddar, ers blwyddyn neu ddwy, pan fyddai cyfeillion o dras Iddewig yn dod ar un o'u hymweliadau cyson â Pharis, byddwn yn synnu eu clywed yn dweud: dwi ddim mor sicr fy lle yn y ddinas hon mwyach, wyddost ti. Roedd hyn yn fy nrysu. Er i mi fod yn ymwybodol o ymosodiadau gwrth-Semitaidd achlysurol yn y ddinas, fel ag yng ngweddill Ffrainc, doeddwn i ddim, mewn gwirionedd, yn deall yn iawn beth oedd wrth wraidd yr emosiwn hwn – onid perthyn i gyd-destunau cymdeithasol eraill oedd yr ymosodiadau hyn, i fyd arall? Doedd bosib bod fy nghyfeillion yn teimlo'n bersonol dan fygythiad? Doeddwn i heb eto dynnu'r digwyddiadau diweddar ynghyd ar linyn cyfarwydd i'w dadansoddi. Paris, wedi'r cyfan, oedd un o ddinasoedd Iddewig y byd yn ei ffordd ei hun, ac onid oedd Ffrainc yn gartref i'r gymuned fwyaf o Iddewon yn Ewrop, os nad yn rhyngwladol, ar ôl yr Unol Daleithiau ac Israel? Gorymateb ydoedd, sensitifrwydd naturiol, meddyliais yn f'anwybodaeth – oherwydd yr hanes?

Yna, yr wythnos ddiwethaf, cafodd blychau post o flaen mairie y byddaf yn ei phasio'n rheolaidd eu difwyno â symbol y swastika, a hynny ar draws llun o wyneb Simone Veil a osodwyd yn deyrnged iddi ar flaen y ddau flwch (y gwleidydd o dras Iddewig a oroesodd yr holocost, nid yr athronwraig o argyhoeddiad Trotskyaidd, Simone Weil, a fu farw'n annhymig). Ac yna eto, ar y penwythnos, bedwar can llath o'n cartref, wrth i'r gilets jaunes – y mudiad 'siacedi melyn' sy'n protestio bob Sadwrn ers dechrau Rhagfyr – orymdeithio i lawr y boulevard de Montparnasse, ymosodwyd ar un o ffigurau deallusol Ffrainc, yr athronydd Alain Finkielkraut.
 

Alain Finkielkraut (Wikimedia Commons)


Un peth ydi cytuno â safbwyntiau'r ffigwr cyhoeddus hwn sydd wedi beirniadu cymunedau Mwslemaidd Ffrainc ac arferion ieuenctid y banlieue ond peth arall ydi aros yn dawel wrth weld ei fygwth yn eiriol ar sail ei dras a'i ddaliadau, a hynny â'r fath gasineb difäol. Cafodd Finkielkraut ei fagu ym Mharis gan Iddewon o Wlad Pwyl; goroesodd ei dad wersyll crynhoi Auschwitz. Roedd ar gyrion yr orymdaith bnawn Sadwrn, ac eisoes wedi mynegi'n gyhoeddus ei gefnogaeth i'r mudiad gilets jaunes – testun syndod, ar y pryd, i lawer o ddeallusion Ffrainc. Cefnogai, meddai, yr hyn a ddeallai fel ymdrech y 'Ffrainc anweladwy' i ymuno â'r llwyfan cyhoeddus, i gyhoeddi eu hawl i fyw ag urddas ac â pharch, i gael cydnabyddiaeth gyfartal, mewn geiriau eraill. Ond y tu allan i'r caffi yn y stryd ochr hon – caffi lle byddwn yn falch o fachu bwyd gan ddau hogyn Sardaidd pan fyddwn wedi laru ar olchi llond sinc o lestri bedair gwaith y dydd – dechreuodd criw o'r gilets jaunes weiddi ar Finkielkraut: 'Barre-toi, sioniste de merde', 'T'es un haineux et tu vas mourir', 'Le peuple va te punir', 'Rentre chez toi en Israel'. 'Nous sommes le peuple'. 'La France, elle est à nous'. Trais pogromaidd oedd disgrifiad Finkielkraut o'r profiad. Trwy gyfresymiad slic, mae Iddew yn dal yn gyfystyr ag arian a grym, a'r Arlywydd Emmanuel Macron yntau yn ben cocyn hitio'r feddylfryd honno ag yntau ar un adeg wedi gweithio i fanc Rothschild. 

Cofiais wrth weld yr olygfa frawychus hon yn cael ei darlledu ar draws y cyfryngau fel y bu i siop lyfrau fechan yn yr un stryd fod yn darged ymosodiadau gwrth-Semitaidd yn lled ddiweddar. Siop lyfrau sy'n gyfoethog ei dewis o lyfrau Iddewig ydi La Rose de Java. Fe'i henwyd felly yn deyrnged i'r awdur Joseph Kessel a gyflwynodd deipysgrif ei gyfrol o'r un enw i berchennog y siop, cyfaill mynwesol iddo (seiliodd Louis Buñuel ei glasur, y ffilm Belle du Jour, ar nofel Kessel o'r un teitl). Darllenais ddoe wedyn, yn Le Monde, am ddifwyniad oddeutu pedwar ugain o feddau nos Lun mewn mynwent Iddewig yng nghymuned Quatzenheim, Alsace – heb anghofio ychwaith y sloganau gwrth-Semitaidd a baentiwyd ar waliau swyddfeydd y papur newydd ar 28 Ionawr, ac eto ar 11 Chwefror. Erbyn nos, roedd degau o filoedd, ynghyd ag arweinwyr gwleidyddol pob plaid, bron iawn, wedi ymgynnull yn Place de la République mewn protest yn erbyn y cynnydd mewn ymosodiadau gwrth-Iddewig yn y wlad – bu cynnydd o 74% yn yr ymosodiadau a gofnodwyd yn swyddogol y llynedd. 

Er mai yn Ffrainc mae'r gymuned fwyaf o Iddewon yn Ewrop, ac er bod y cof yn fyw am y 78,000 o ddinasyddion Iddewig a yrrwyd i'w tranc yn ystod yr holocost – mewn cofebau ar gorneli stryd, ar waliau ysgolion, ar blatfformau metro – cydnabyddodd y prif weinidog, Edouard Philippe, mewn cyfweliad â chylchgrawn L'Express ddoe ('Antisémitisme: nous avons un problème') fod gwrth-Semitiaeth wedi ei wreiddio'n ddwfn yn Ffrainc, fod hynny'n ffaith, mai hen frwydr ydi hon a bod rhaid deall y bydd hi yma i aros. 

Neithiwr, cafodd y dorf yn Place de la République glywed geiriau Frantz Fanon: 'Pan glywch gaseiriau am Iddewon, codwch eich golygon, amdanoch chi rydan ni'n sôn!' Heno, wedi ymweld pnawn ddoe â'r fynwent Iddewig yn Alsace a chofeb y Shoah yn amgueddfa'r holocost yn y Marais neithiwr, mi fydd yr Arlywydd Macron yn annerch cinio blynyddol cymdeithas sy'n cynrychioli sefydliadau Iddewig Ffrainc (CRIF). Bydd ei eiriau yn sicr o fod yn groyw glir. 

Wrth i sentiment gwrth-Semitaidd a rhagfarnau cenedlaethol gynyddu eto yng Nghymru a gweddill Prydain hefyd, ac wrth i mi agor drysau calendr adfent Brexit, byddaf innau'n cofio am f'ymateb i erwinder y blew geifr, bod cywilydd yn emosiwn pwerus y gellir ei gamddehongli yn gymaint â'i gamddefnyddio. Byddaf yn dal ati i geisio f'atgoffa fy hun bod anghariad yn rhan o wyddor calon bob un, mai dim ond wrth adnabod hynny y mae modd ei rwystro rhag magu'n gasineb ac ymwrthod â sarhau a darostwng dyn.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Onid oedd pawb yn dal i golli cwsg, yn gwybod bod posibilrwydd mai eu tro hwy fyddai hi nesaf, Iddew ai peidio?

Dyddiad cyhoeddi: 20·02·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill ... 

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…

Dadansoddi


Angharad Penrhyn Jones

Roedd y symptomau wedi bod yno am sbel – teimlo’n fyr fy ngwynt wrth ddringo’r grisiau adref, er fy mod yn heini; fy nghalon yn carlamu’n afreolus yng nghanol y nos; y deffro’n-rhy-gynnar-yn-y-bore er ’mod i wedi ymlâdd – ond aeth pethau i’r pen y dydd Sadwrn hwnnw. Aros mewn…

Colofnau


Jan Morris gyda Twm Morys

Y bore ’ma mi ddaeth llais siriol hen gyfaill annwyl yr un oed â mi ar y ffôn. Ond sirioldeb smâl oedd o, fel y bydd yn aml y dyddiau hyn. Bu hi’n clebran am sbel, yr un fath ag arfer, am hyn a’r llall. Ond o dipyn i beth…

Cyfansoddi


Boz Groden

llygod

a  Creaduriaid bychain gwyllt brown neu lwydaidd o deulu’r Muridæ, sy’n ysglyfaeth i gathod a thylluanod; ceir rhai gwyn dof; hefyd am anifeiliaid eraill tebyg ac yn ffig.; delwau o’r cyfryw ...