Dadansoddi

Y Balestrazzis, y Gambarinis a’r Carpaninis

Ar drywydd caffis Eidalaidd de Cymru

Huw M

Amser darllen: 5 munud

20·03·2018

Roedd ’na adeg pan oedd y caffi Eidalaidd yr un mor nodweddiadol o ddiwylliant y cymoedd â’r capel, y clwb rygbi a’r pwll glo. Roedd o leiaf un, weithiau dau neu dri, ym mhob pentref. Ac ymhell cyn dyddiau Nero, Costa a Starbucks, roedd enwau fel Sidoli, Gambarini, Conti a Bracchi yn enwog ar draws y de diwydiannol. Mae’n debyg bod dros 300 o gaffis Eidalaidd yn yr ardal ar un adeg ond dim ond llond llaw o’r rhai gwreiddiol sydd ar ôl bellach. Fesul un, mae’r caffis Eidalaidd traddodiadol yn diflannu. Ar ddiwedd 2017, er enghraifft, fe gaeodd caffi Cresci’s yng Ngwauncaegurwen ar ôl gwasanaethu trigolion Dyffryn Aman a Chwm Tawe am 112 o flynyddoedd. 

Dros fisoedd yr haf y llynedd mi es ati i drio cofnodi, mewn lluniau, y bywyd a’r cymeriadau sy’n cadw’r traddodiad yn fyw yn rhai o gaffis Eidalaidd gwreiddiol de Cymru. 

Mi fydda’ i wastad yn meddwl bod yna berthynas agos rhwng caffis a ffyniant lle – cyfrwch y nifer o gaffis mewn tref neu bentref ac fe gewch chi ryw syniad o brysurdeb yr ardal.

Roedd hynny’n sicr yn wir yng nghymoedd y de ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd y diwydiannau trwm yn eu hanterth, ac roedd miloedd yn tyrru i fyw yn un o ardaloedd mwyaf cynhyrchiol a phrysur y byd. I’r bwrlwm hwnnw daeth yr Eidalwyr, i agor eu caffis a’u siopau losin; yn gwerthu sglodion poeth yn y gaeaf a hufen iâ yn yr haf – does ryfedd iddyn nhw gael croeso twymgalon!

Roedd nifer o’r caffis gwreiddiol yn gwerthu cyfuniad eithaf unigryw o bethau – bwyd a diod, ond hefyd sigaréts, losin a hufen iâ. Chewch chi ddim mo’r amrywiaeth hwnnw yn Starbucks. Yn ddiddorol, mae’r traddodiad yma’n parhau hyd heddiw mewn rhai llefydd – fel Carpanini’s yn Nhreorci. Mae’r caffi’n cael ei redeg gan bedwar o blant Ernesto Carpanini, a agorodd y caffi yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn 1947.


Y sigaréts dan orchudd erbyn hyn yn Carpanini’s, Treorci

’Dyw hi ddim yn gyfrinach bod y stryd fawr draddodiadol o dan fygythiad, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw’n dueddol o edrych yr un peth â’i gilydd. Ond mae’r caffis Eidalaidd yn cynnig rhywbeth gwahanol – yn gadarn eu cymeriad, ac yn amddiffynfa yn erbyn grymoedd masnachol sy’n mynnu unffurfiaeth.

Daeth yr Eidalwyr yma er mwyn dianc o dlodi, i chwilio am fywyd gwell. Ac yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’r cryfder a’r penderfyniad hwnnw mor bwysig ag erioed. Erbyn heddiw, mae’r caffis yn cael eu rhedeg gan ail, trydedd, pedwaredd genhedlaeth yr un teuluoedd, ac mae’r enwau Eidalaidd yn parhau – y Balestrazzis, y Gambarinis a’r Carpaninis...

Trwy gyfrwng y prosiect ffotograffiaeth hwn, mi wnes i drio dal rhywfaint o gymeriad y caffis – y bobl sy’n eu rhedeg, y cwsmeriaid sy’n eu mynychu, a’r awyrgylch unigryw sy’n nodweddu’r sefydliadau. Mae caffi’r Prince’s ym Mhontypridd yn un o fy ffefrynnau. 

Fe agorwyd y caffi yn 1948 gan Glenys a Dominic Gambarini – Glenys yn Gymraes o Gastell Newydd Emlyn, a gwreiddiau Dominic yn ardal Bardi yn yr Eidal. Mae’n cael ei redeg heddiw gan eu plant ac un o’u hwyrion, William Gambarini (gweler ef ar y ffôn yn y ffotograff).

Mae’r addurniadau Art Deco gwreiddiol, sy’n dyddio i 1948, wedi eu cynnal a’u cadw, ac mae camu i mewn i’r Prince’s fel camu yn ôl 70 mlynedd (gweler y cwsmeriaid yn darllen papurau newydd yn y ffotograff isod). Mae’n drysor o le, yn berl yng nghoron y caffis Eidalaidd.

Ond mae ’na rywbeth arall hefyd sy’n nodweddu’r caffis. A hynny ydy’r awyrgylch. Mae ’na deimlad cryf o ‘achlysur’ wrth ymweld â chaffi Eidalaidd yn ne Cymru. Does dim pwynt trio bachu coffi cyflym ar ras wyllt. Yn hytrach, maen nhw’n llefydd i ymlacio ynddyn nhw, i gymryd cam yn ôl, i werthfawrogi’r lluniaeth a’r awyrgylch ac i arafu ... Maeth i’r enaid. Dywedodd un cwsmer wrthyf yn Kardomah, Abertawe ei bod wedi bod yn ymweld â’r caffi ar hyd ei hoes. Pam ei bod yn dal i ddod, holais. ‘It’s reassuring,’ meddai. A dwi’n deall ei theimladau yn llwyr. Mae’r byd modern yn digwydd y tu allan i’r caffis hyn, nid y tu fewn. Er enghraifft, mae llawer o’r caffis Eidalaidd yn parhau i werthu ‘frothy coffee’, mae’r staff yn dal i wisgo iwnifform ddu a gwyn, a gallwch chi fwyta’n dda am ychydig o bunnoedd. Mae ’na gysur yn y cyfarwydd.

Pam felly bod y caffis Eidalaidd gwreiddiol yn mynd yn bethau prin? Heblaw am yr amlwg – tranc y diwydiannau trwm yng nghymoedd y de a dirywiad y stryd fawr – mae ’na un rheswm arall. Yn ôl sawl perchennog, dydy’r genhedlaeth ifanc heddiw ddim wastad yn rhannu’r un brwdfrydedd â’u rhieni dros redeg y caffis a’r siopau teuluol hyn. 

Fe agorodd Ernesto Segadelli siop losin yn Y Creunant yn 1921, a heddiw mae’n cael ei rhedeg gan ei ferch, Stella Jenkins. Ond, dydy Stella ddim yn obeithiol bydd y siop yn parhau yn fusnes teuluol. 'Fi yw’r genhedlaeth olaf,' meddai. Felly, os cewch chi amser ynghanol holl brysurdeb heddiw, ewch i un o’r caffis eiconig Eidalaidd. Ymlaciwch, peidiwch â rhuthro, a gwnewch yn fawr o’r achlysur... tra’u bod nhw dal gyda ni.


Mwy o luniau o gaffis Eidalaidd de Cymru
 

Mae’r Kardomah yn Abertawe yn adnabyddus am ei haddurniadau gwreiddiol, sy’n dyddio’n ôl i 1957.

 

Mae dodrefn ac addurniadau Carpanini’s, Treorci yn dyddio’n ôl i’r chwedegau.

 

Mae’r potyn copr trawiadol yn nodwedd amlwg yng nghaffi Prince’s, Pontypridd.
 

 

Mi fydd detholiad o ffotograffau’r gyfres ‘Caffis Eidalaidd de Cymru’, gan y cerddor a’r perfformiwr Huw M (Huw Meredydd Roberts), yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Abertawe o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Mae’r caffis Eidalaidd yn cynnig rhywbeth gwahanol – yn gadarn eu cymeriad, ac yn amddiffynfa yn erbyn grymoedd masnachol sy’n mynnu unffurfiaeth

Pynciau:

#Ffotograffiaeth
#Hanes