Dadansoddi

Ar waelod grisiau symudol


Ffion Dafis

Amser darllen: 4 munud

07·03·2018

Bu fy rhaglen ddiweddaraf ar S4C, Bras, Botox a'r Bleidlais, yn rhan o fis o raglenni yn cofnodi a dathlu can mlynedd ers i rai merched gael yr hawl i bleidleisio. Roedd yr hawl hwn yn benllanw degawdau o orymdeithio, brwydro a phrotestio (gwaedlyd ar brydiau) gan ferched o bob math o gefndiroedd a oedd yn gweld yr anghyfiawnder amlwg yn eu cymdeithas. Rydym yn ymwybodol o’r Cymry a fu’n rhan o fudiadau protest y Swffragetiaid a’r Etholfreintwyr. Dyma'r mudiadau protest a'n harweiniodd at un o’r newidiadau mwyaf yn hanes merched y byd. Roedd cael gafael mewn baner a wnaethpwyd ac a gariwyd gan ferched mudiad protest Cymreig, yn un o orymdeithiau mwyaf y cyfnod, yn brofiad a barodd falchder i mi ac i un o gyfranwyr gwych y rhaglen, y ffynnon egni a gwybodaeth, Sara Huws o Amgueddfa Cymru. Yr oedd y ddwy ohonom yn cyffwrdd â hanes wrth fyseddu gwaith llaw merched a oedd, drwy ddycnwch ac arddeliad, wedi ei gwneud hi’n bosib i ni allu ystyried, pwyso a mesur, a dathlu eu cyfraniad.

Wrth gynhyrchu rhaglen fel hon, mae dod o hyd i'r naratif yn hollbwysig. Cafwyd cymaint o gyfweliadau arbennig gan gyfranwyr huawdl ar draws Cymru fel y gallai’r rhaglen fod wedi dilyn nifer o lwybrau. Yn hytrach nag adrodd stori brwydr merched drwy hanes, penderfynwyd canolbwyntio ar ferched a oedd wedi creu argraff bersonol arna i. I mi, mae pob un o'r merched yn y rhaglen hon yn ymgorffori beth yw bod yn ffeminydd; maent yn cyd-gredu yn yr egwyddor fwyaf sylfaenol, yr egwyddor fwyaf amlwg i mi, sef cydraddoldeb.

Mi allwn i gymryd y cyfle yn y fan hon i egluro pam fod pob cyfrannydd wedi hawlio ei lle ar y sgrin fach. Mi allwn i hefyd drafod fy mhersbectif fy hun ar fod yn ffeminydd a pham ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n cofio proses mor araf a llafurus oedd hi i gyrraedd lle ydan ni heddiw, a pham bod brwydrau newydd yn mynnu hawlio eu lle dro ar ôl tro, sut bod rheidrwydd arnom i ddal i ddiffinio a datblygu hawliau merched yn wyneb rhwystrau newydd. Ond mae 'na ferched eraill mwy huawdl na mi wedi crisialu hynny mewn erthyglau gwych dros y misoedd diwethaf.

Yr hyn a gaiff fy sylw yn y darn hwn yw ymateb cyn-gydweithiwr y deuthum wyneb yn wyneb ag o yn y brifddinas, wrth ffilmio delweddau ar gyfer y rhaglen hon. Wedi iddo ofyn beth yn union yr oeddwn i’n ei ffilmio ac i minnau egluro gogwydd y prosiect fe welais bâr o lygaid rhy gyfarwydd yn araf drafeilio i dop ei ben, rhyw wên fach fychanol yn ffurfio ar ei wefusau cyn iddo sbowtio allan ohonyn nhw'r frawddeg, 'Oh yes, it’s the ‘in’ thing at the moment, isn’t it!'

In Thing.

Yr oedd y syniad o raglen yn ymwneud â materion merched wedi creu delwedd negatif, ddi-werth a oedd yn amlwg, er hynny, yn ddraenen dawel yn ystlys y cyn-gydweithiwr ac mi roedd yn ddigon i gau'r caead yn glep ar ein sgwrs.

In Thing.

Yr oedd y llygaid a gollodd ddiddordeb yr eiliad honno wedi rhoi rhaglen a oedd yn trafod materion benywaidd yn yr un categori â sgertiau ra-ra, y fit bit a gwyliau mewn tipi. Yn y foment hon, fe welais y rhywiaeth ddyddiol y mae cymdeithas wedi ei thrwytho ynddi, sydd yn fyw ac yn iach hefyd ar waelod grisiau symudol yng nghanolfan Dewi Sant.

Yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil dyfodiad mudiadau protest diweddar ydy faint mae codi llais yn cythruddo ac yn bygwth carfan eang o ddynion. Dynion sydd hefyd, yn anffodus, wedi dangos eu lliwiau a’u hagweddau cyndyn ar blatfformau cyhoeddus yma yng Nghymru. Sut ar y ddaear ydan ni fod i newid pethau os nad ydy rhai dynion yn fodlon newid, drwy wrando a cheisio rhoi eu hunain yn sgidiau merched am funud ddau, yn hytrach na chymryd tro amddiffynnol?

Nid rhyw chwarae plant ydy’r materion sydd wedi codi eu pennau hyll yn ddiweddar; nid wrth fod yn boléit a gofyn yn neis y mae cymdeithas yn mynd i newid. Allwn ni ddim aros yn ein hunfan. Rhaid bod yn agored i syniadau newydd a newid y naratif. Mae’n angenrheidiol ein bod yn addysgu ein hunain a chael gwared ar agweddau ffosiledig os ydynt yn anghyfiawn – nid eu cyfiawnhau. Peryglwyd ein hawliau fel merched yn rhy hir ac mae’n amser agor ein llygaid i gydnabod y breintiau amlwg y mae un garfan wedi eu mwynhau, ac arnofio arnynt, ar draul y llall.

Yn hytrach na chwyddo fel porciwpeinod a phoeni am y bygythiad, y mae’n bryd i ambell ddyn ymlacio, gwrando, a gwir ystyried pam fod safbwynt neu brotest yn ei anesmwytho. Mae rhywun yn gallu cael ei siomi'n aml gan agwedd aelod o deulu, ffrind, colofnydd neu gydweithiwr, ond mae’n amser i balu’n ddwfn a gwir ystyried agweddau sydd wedi cael llonydd yn rhy hir i lysnafeddu yn nyfnderoedd tywyll yr ymwybod.


Cyfrol ddiweddaraf Ffion Dafis ydi Syllu ar walia' (Y Lolfa, 2017).


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ffion Dafis, Ffeministiaeth

 


Nid rhyw chwarae plant ydy’r materion sydd wedi codi eu pennau hyll yn ddiweddar; nid wrth fod yn boléit a gofyn yn neis y mae cymdeithas yn mynd i newid

Dyddiad cyhoeddi: 07·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…

Adolygu


O’r Pedwar Gwynt

Lle mae'r nofelydd Cymraeg sy'n abl i gymell cenedl gyfan i sefyll o flaen ei gwell? Dyma gwestiwn sy'n codi'n gyson yn sgyrsiau anffurfiol O'r Pedwar Gwynt. Gyda marwolaeth Philip Roth ar 23 Mai 2018, awdur yr enwog American Pastoral (1997), mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto fyth.

Dadansoddi


Nerys Williams

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo…

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…