Dadansoddi

Croeso i’r wythdegau

Hunangofiant cymuned rithiol

Nerys Williams

Amser darllen: 8 munud

06·02·2018

Yn y chwedegau, anogwyd 'Mamau America' i yrru eu plant i'r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O'Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd 'yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy gas eto' ('Ave Maria'). Petai O'Hara wedi byw yn ddigon hir i weld yr wythdegau, ac yn siarad Cymraeg, digon posib y byddai'r llinellau hyn wedi eu diweddaru fel hyn: 'Mamau Cymru, plîs, gadewch i'ch merched fynd i gigs Cymdeithas yr Iaith.'

Cefais fy magu yng ngorllewin Cymru mewn cornel ohoni a oedd, ar ddechrau'r wythdegau, yn amheus ynghylch yr iaith Gymraeg. Arbrawf o hyd oedd addysg Gymraeg ddwyieithog. Roedd yr 11+ yn dal ar gael i wahanu plant oddi wrth ei gilydd. Diwylliant cerddoriaeth yr iaith Saesneg oedd yn teyrnasu. Os mynychwyd ysgol ardal ddwyieithog newydd, ystyriwyd hynny'n gryn dipyn o newyddion. Wedi fy ngwisgo mewn ffrog binaffor drom o wlân Cymreig pinc a du, byddwn yn cael fy ngwawdio weithiau a fy ngalw'n 'Welsh Nash'. Dyna oedd natur yr hunangasineb diwylliannol yn fy rhan i o'r byd.

Yn lle gwrando ar drac sain ska ôl-pync fel ag yn yr ysgol gynradd, roeddwn i bellach yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, a'r rhan fwyaf o'r traciau yn gerddoriaeth roc wedi dyddio. Yr argraff sydd gen i hyd heddiw o gerddoriaeth Gymraeg y cyfnod hwn (1982-85) yw o gerddoriaeth wrywaidd wedi ei chwarae gan flewgwn. Prin oedd yr apêl i ferch ifanc llawn rhamant yn ei harddegau a oedd wedi gorchuddio waliau ei llofft gyda phosteri o ddynion ifanc yn gwisgo colur. Roedd y dynion hoenus hyn yn datgelu rhywbeth o gyfaredd rhywioldeb, a gallwn i synhwyro hynny ond nid ei gyffwrdd. Mannau oedd y rhain yr oeddwn eto i ymweld â nhw. Ychydig a ddywedai eu hwynebau trwm dan golur wrtha i am fywyd bob dydd yng ngorllewin Cymru.
 

Portread o Dave Datblygu gan Mike Walters


Pan yn bymtheg oed, newidiodd rhywbeth. Roeddwn dan yr argraff fod hynny oherwydd gweithgareddau cell Cymdeithas yr Iaith yr ysgol. Dechreuodd y disgyblion iau gynhyrchu cylchlythyr gyda'r enw gwych Brych ecs Collwyn ap Tango, teitl a aeth yn fwy ac yn fwy dryslyd yn ystod hanes byr y cylchlythyr. Cafwyd gwybodaeth am ymgyrchoedd y Gymdeithas ynddo yn ogystal ag adolygiadau o gerddoriaeth a gigs. Daliwyd fy sylw gan hysbys ar gyfer detholiad EP er budd hawliau anifeiliaid, Dyma'r Rysáit (1987). Archebais gopi a darganfod am y tro cyntaf y grwpiau Datblygu, Crisialau Plastig, Plant Bach Ofnus ac Eirin Peryglus. Eiconoclastiaeth y geiriau wnaeth fy nharo gyntaf, yn arbennig vignette swrealaidd Datblygu 'Brechdanau Tywod', am athrawon ysgol yn canmol eu bod yn bwyta malwod ar eu gwyliau yn Ffrainc. Hoffais ateb parod Crisialau Plastig hefyd, nad oeddent fyth bythoedd am fod yn fand yn byw a bod yng Nghaerdydd, ateb a chwaraewyd, yn eironig, ar deganau plant. Yna cefais gyfle i glywed Brodyr y Ffin, band o Gaer a oedd yn arbrofi efo synth, gitâr a ffidil. 

Fallai mai'r ymdeimlad a gyflëwyd o fod ar y ffin oedd apêl y bandiau hyn i mi, eu defnydd chwareus o'r iaith Gymraeg a'u statws daearyddol fel pobl y cyrion. Roedd eu cysyniad o 'dafodiaith' ymhlyg mewn syniadau am greadigrwydd, eironi a chwarae ar eiriau. Dyma dafodiaith nad oedd wedi crebachu'n jôcs canol y ffordd rhaglenni teledu'r cyfnod. Tua'r un adeg, cefais gloc radio LED yn anrheg, a fy nghyflwyno, diolch iddo, i gymuned hwyrnos John Peel. Cefais afael ar dâp recordio dwbl er mwyn gallu recordio'r pethau oedd yn apelio. Copïais dapiau gan aelodau eraill y cwlt hwn – cwlt eiconoclastiaeth, synths a sŵn gitâr. Dyma sut y cefais gyfle i glywed 'Dan y Cownter' gan Y Cyrff a'u cri wrth y BBC, 'Anwybyddwch Ni', a dehongliad y Traddodiad Ofnus o dde Cymru ôl-ddiwydiannol yn 'Hunangofiant', ac emyn Ffa Coffi Pawb i valium yn 'Dalec Peilon'. 

Mae'r berthynas rhwng cerddoriaeth Gymraeg a rhaglen John Peel yn hen hanes erbyn hyn. Ond rhywbeth nas ystyriwyd yn iawn yw effaith y gigs Cymdeithas yr Iaith cynnar hyn ar bobl ifanc yn eu harddegau a oedd yn byw ymhell o'r metropolis. Byddai'r gigs hyn yn aml yn cael eu cynnal mewn hen blasdai a fyddai'n cael eu rhedeg fel gwestai, neu mewn canolfannau cymunedol diarffordd. Byddai'r Gymdeithas yn trefnu bysiau. Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod hwn, yr hyn sydd yn fy nharo yw cymaint o ferched ifanc oedd yn trefnu gigs, ond fyth yn perfformio ynddynt. Prin oedd y merched mewn bandiau. Byddai ein rhieni, ar y llaw arall, wedi bod yn hapus i gefnogi unrhyw beth, mewn gwirionedd, a oedd yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac roedd hynny'n rhoi'r rhyddid i ferched arbrofi. Roedd yfed dan oed yn hanfodol (dwi'n dychmygu) i incwm rhai o'r llefydd gwledig hyn. Merched ifanc yn ysu i fod yn soffistigedig oeddem ni, gyda digon o'r bensel ddu o gwmpas y llygaid, yn addasu ein dillad o siopau elusen bob sut ac yn cribo ein gwalltiau am yn ôl. Roedd paratoi at y gigs hyn yn cabaret yn ei hun. Doedd dim siw na miw yn cael ei ddweud am y mwg sigaréts na gwynt chwerwfelys y wisgi gan ein rheini wrth ein casglu – wedi'r cyfan roedd ein harbrofi yn rhan o'r ymdrech i gadw'r iaith Gymraeg yn gyfoes. Ond roedd goryfed yn rhwystr i wrando. Ac roeddwn i yno i wrando. Bu digon o dynnu'n groes rhwng y bandiau a'r gynulleidfa feddw hon ac ysgrifennodd Datblygu gân 'Bar Hwyr' yn benodol i'w gwatwar.

Yn yr wythdgau, gwelwyd twf mewn rhaglenni teledu Cymraeg ar gerddoriaeth. Cafwyd ambell abrawf drwsgl, er enghraifft Stid gan HTV a oedd yn ceisio ailweithio fformat The Tube Sianel 4, ond gyda phlant ysgol y tro hwn. Teithiais mewn bws i Groes Cwrlwys, fel rhan o gynulleidfa Stid, i weld Datblygu yn chwarae 'Cristion yn y Kibbuts'. Anogwyd y plant yn daer i ddawnsio i'r gân. Cofiaf yn iawn y recordwyr sain a'r dynion camera a oedd wedi syrffedu'n lân ar y gerddoriaeth hon.

Roedd dod o hyd i albyms yn gofyn am ymchwil ac amlenni wedi eu hunangyfeirio a stamp. F'atgof mwyaf melys o chwilota am gerddoriaeth Gymraeg yn yr wythdegau yw'r haf a dreuliais yn adolygu ar gyfer arholiadau lefel O. Aeth cloch y drws un prynhawn a hebryngwyd 'ffrind' i mewn gan fy mam. Pat o Datblygu! Roedd wedi galw ar ei ffordd i Dalacharn gyda'r LP Wyau a'r EP Hwgrgrawthog a archebais drwy'r post. Yn fud braidd, a sudd oren yn gwmpeini, cefais sgwrs gyda Pat am y tro hwnnw pan welais i'r grŵp yn chwarae gyda Brodyr mewn gig Cymdeithas yr Iaith yng Nghwmtawe. Llwyddais i fynd, diolch i chwaer i ffrind i mi, a oedd newydd basio ei phrawf gyrru. Gwyliais, wedi rhyfeddu, wrth i Dave Datblygu dreulio pum munud yn samplo sychwr gwallt ar y llwyfan, gan ddweud wrth y gynulleidfa bod y brif act yn ddiflas, a'r gynulleidfa hefyd yn ddiflas. Roedd yna ymdeimlad gwych o ysbryd Dadaistiaeth ac anarchiaeth yn y gigiau hyn yn yr wythdegau. Roeddent yn sialens go iawn i'r parchusrwydd a oedd yn dominyddu cymaint o agweddau ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod.

Yn niwedd yr wythdegau, gwthiwyd ffiniau gan Fideo 9 ar S4C a'u cyflwynydd apelgar o androgynaidd, Eddie Ladd. Roedd yn wych gweld Ladd yn cyflwyno gydag arddeliad ac yn cyfweld bandiau gyda deallusrwydd miniog. Hefyd, roedd yn rhyddhad gwylio bandiau gyda phrif gantorion benywaidd cryf fel Fiona Owen Eirin Peryglus ac Ann Mathews Y Fflaps, a'u gweld yn perfformio mewn fideos ac yn agor drysau i fenywod tu hwnt i'r byd roc. Cyn y we, roedd dod ar draws Fideo 9 fel dod o hyd i gymuned rithiol. Roedd yn cynrychioli rhyw fath o Gymru egnïol y cyrion a oedd hefyd yn cwestiynu pethau. Yn y darllediadau hyn y des i ar draws reggae dub Llwybyr Llaethog, curiadau hyblyg Pop Negatif Wastad, riffs gitâr The Crumblowers a llythyrau caru'r Traddodiad Ofnus i sosialaeth, wedi eu gosod i gerddoriaeth. Gwnaeth Fideo 9 i gerddoriaeth Gymraeg ymddangos fel darn perthnasol o gymuned fyd-eang mewn ffordd cwbl hanfodol. Roedd modd gosod Datblygu rhwng Le Mystère des Voix Bulgares a'r Sugarcubes. Fel y casetiau a dderbyniais, diolch i f'amlenni wedi eu stampio a'u hunangyfeirio, roedd y tapiau VHS hyn yn ffurfio llyfrgell deithiol bersonol. Roedd cerddoriaeth Gymraeg yn teimlo'n rhyngwladol, yn wreiddiol, yn berthnasol. Ond byddai'n cymryd cryn amser i'r papurau cerddoriaeth prif ffrwd i addasu i'r sefyllfa hon. Yn niwedd yr wythdegau, roedd adolygiadau o fandiau Cymraeg yng nghylchgrawn yr NME yn parhau yn llawn cyfeiriadaeth nawddoglyd, syrffedus at Tom Jones, corau meibion a Harry Secombe. Agorwyd archif ehangach o gyfeiriadaeth ddiwylliannol, diolch byth, gan y bandiau Cymraeg eu hunain wrth iddynt ymateb i gyfweliadau. Yn baradocsaidd, trwy gyfrwng bandiau fel Datblygu, Ffa Coffi Pawb a'r Fflaps y deuais i wybod a gwerthfawrogi bandiau a ffigurau fel The Fall, PIL, The Jesus and Mary Chain, The Slits a Patti Smith.

Wrth ysgrifennu'r darn hwn a meddwl am gerddoriaeth Gymraeg heddiw, rwyf yn teimlo dyled i'r bandiau hynny yn yr wythdegau na lwyddodd erioed i ennill bywoliaeth trwy ganu, ond a ddaliodd ati, rhywffordd neu gilydd. Diolchaf i'r bandiau a lwythodd eu faniau a'u ceir, a gyrru ar draws gwlad mewn tywydd diflas i ganu mewn gwestai gwledig. Cofleidiaf aelodau'r bandiau hynny a deithiodd ar hyd yr hewlydd cefn, a chwarae i gynulleidfaoedd meddw. Hoffwn gydnabod cyfraniad yr arbrofwyr hyn a oedd yn aml yn wynebu gwawd a difaterwch a chodaf fy het i'r merched a drefnodd gigs a chynnal celloedd y Gymdeithas yn ddiflino. I bob man yr af, cariaf yr archif hon o leisiau o'r cyrion (gyda diweddariadau).

Mae Nerys Williams yn darlithio ym Ngholeg Prifysgol Dulyn. Ei chyfrol ddiweddaraf o gerddi yw Cabaret (New Dublin Press, 2017). 

Gwyliais, wedi rhyfeddu, wrth i Dave Datblygu dreulio pum munud yn samplo sychwr gwallt ar y llwyfan

Pynciau:

#Cerddoriaeth
#Nerys Williams