Tanysgrifwyr yn unig

Mae llawer iawn o’r deunydd ar ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim i bawb. Ond er mwyn ceisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn, dim ond tanysgrifwyr sydd yn cael darllen popeth. Mae tanysgrifiad yn costio cyn lleied â £10 y flwyddyn – gallwch gofrestru isod neu glicio fan hyn i ddefnyddio PayPal.

Os ydych chi eisoes yn tanysgrifio, mewngofnodwch isod os gwelwch yn dda.

Mewngofnodi

Wedi anghofio enw defnyddiwr neu gyfrinair?

Cofrestru

Dim cyfrif gennych? Cofrestrwch fan hyn!

Cofrestru er mwyn Tanysgrifio

Adolygu


Elan Grug Muse

‘Trwy ddrych’ oedd testun y Goron yn Eisteddfod Môn 2017. Y mae drych, yn ôl ei natur, yn dangos i ni ryw ddarlun o’n byd. Llun sydd efallai’n gyfarwydd, ond nid yr union lun yr ydym wedi arfer ei weld gyda’n llygaid noeth. Dyna oedd yng nghefn fy meddwl wrth…

Cyfansoddi


Siân Cleaver

Enillydd Her Gyfieithu 2017 Cyfnewidfa Lên Cymru a PEN Cymru yw Siân Cleaver, sy'n hanu o Gastell-nedd. Yn y fan hon gallwch ddarllen cyfieithiad buddugol Siân o gerdd gan y bardd Twrcaidd Nâzim Hikmet, ynghyd â'i hymateb i'r heriau penodol sy'n deillio o gyfieithu o 'iaith bontio'.

Dadansoddi


Manon Steffan Ros

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel.

Dadansoddi


Elinor Wyn Reynolds

Creadur prin oedd Tony Bianchi. Dyn yr ydw i’n falch o allu dweud i fi ei nabod e, rhyw fymryn o leia’, achos y peth am Tony oedd ’mod i’n gwybod mai nofio ar yr wyneb oeddwn i, o gymharu â’i allu rhyfeddol e i blymio i…

Dadansoddi


Marged Tudur

Ar ddydd Llun y Pasg 2014, roeddwn i yn y Caban ym Mrynrefail, yn holi Steve Eaves ar gyfer fy nhraethawd hir. Bwriad y traethawd oedd gofyn a oedd wedi cael sylw haeddiannol fel bardd. Wedi cael fy swyno ers…

Adolygu


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

Dadansoddi


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

Dadansoddi


Simon Brooks & Daniel Williams

'Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o…