Anthony Barnett


The Lure of Greatness: England's Brexit and America's Trump

Penguin, 416tt, £8.99, Awst 2017

Cyfaredd a magl mawredd: Barnett, Brexit a Chymru
Dadansoddi

Cyfaredd a magl mawredd: Barnett, Brexit a Chymru

Ymateb i ddarlith Anthony Barnett, sylfaenwr OpenDemocracy


Huw L Williams

Amser darllen: 8 munud

10·01·2018

Problem sylfaenol y Brydain ôl-Brexit yw natur – a safon – y dadansoddiad o’r hyn aeth o le. Nid yw hynny'n syndod. Mae myfyrio ystyriol, diduedd, gydag elfen o hunan-ymwybyddiaeth, yn rhwym o fod yn brin ynghanol y fath ferw. 'Does dim dwywaith inni ddioddef o'r aflwydd hwn yng Nghymru. Rhwng y siom a'r chwerwder, ychydig iawn o bethau treiddgar sydd wedi cael eu dweud am yr hyn aeth o'i le. 

Llyncwyd, yn ôl yr arfer, y naratif Prydeinig-Llundeinig a rhoddwyd y bai ar dwpdra, anwybodaeth a chulni'r dosbarth gweithiol am yr holl sefyllfa. Ymddihatrwyd y sawl a ddyfeisiodd ac a fu’n gyrru siarabáng Brexit o unrhyw gyfrifoldeb. Rydym yn anghofio, rhywsut, mai prosiect cabál elitaidd o eithafwyr Ceidwadol Seisnig oedd hyn oll yn y lle cyntaf. Ond dyna sut mae hi gyda’r Cymry – mae’r meddwl trefedigaethol yn gwyrdroi ac yn bwrw ei lid ar yr ‘arall’ mewnol. Llesteiriwn unrhyw ymgais i geisio deall a chydymdeimlo â safbwynt y 'dihirod'.

Nid ysgeler yw pob llais o'r ochr draw i Glawdd Offa, wrth gwrs. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn benigamp Cymru dros Ewrop, yng nghwmni Anthony Barnett, sef cyfarwyddwr y mudiad Charter 88 a sefydlydd y wefan wych OpenDemocracy. Buodd yng Nghaerdydd yn rhannu rhai o’i argraffiadau – ar sail ei lyfr The Lure of Greatness: England’s Brexit and America’s Trump (Penguin, 2017) – ac yn trafod dyfodol Cymru. Mae Barnett yn benderfynol o gymryd o ddifri'r sawl a bleidleisiodd i adael Ewrop; mae'n benderfynol o gydymdeimlo a cheisio deall y cymhelliad. Wrth galon ei ddadansoddiad y mae’r Saeson sydd wedi colli ffydd yn y prosiect Prydeinig a'r ymdeimlad newydd o genedlaetholdeb Seisnig a fynegwyd mewn modd dinistriol trwy gyfrwng y bleidlais o blaid Brexit. 

Farage & Trump

Demagogiaid gan Philip Hunt, acrylic ar ganfas, 2017 (Flickr/Philip Hunt, Creative Commons).

Yn ganolog i’w honiad y mae’r ffaith bod Lloegr-heb-Lundain wedi pleidleisio 61% yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd – ar draws y wlad ac ar draws dosbarthiadau cymdeithasol. Dyma benllanw blynyddoedd o siom gan gynnwys colled nifer i’r drefn neo-ryddfrydol fyd-eang ac argyfwng y banciau. Ac eto, yn ddiddorol ddigon, aflwyddiant polisi tramor diweddar yw’r elfen dyngedfennol yn ei dyb ef, oherwydd pwysigrwydd y maes yn y seice Prydeinig. Dieithriodd Rhyfel Irac hanner y boblogaeth, a oedd yn ei wrthwynebu, a dadrithio’r hanner arall a’i cefnogodd – oherwydd y methiannau yno ac yn Affganistan. Dyma rith ein rhagoriaeth yn cael ei chwalu unwaith ac am byth. At ei gilydd, dyma fethiant yn y fenter holl bwysig o adnewyddu’r genedl-wladwriaeth.

Dim troi nôl

Ymhlyg yn y feirniadaeth hon y mae elfennau a drafodwyd gennyf yn rhifyn diweddaraf O’r Pedwar Gwynt [Gaeaf 2017], sef y ddadl gan athronwyr cyfoes megis Alisdair MacIntyre a Chantal Mouffe bod yna rywbeth sylfaenol o'i le ar ddemocratiaeth gyfoes. Mae’r ddau yn cystwyo’r diffyg trafod ar egwyddorion sylfaenol, tuedd neo-ryddfrydiaeth i gyfyngu gwir ddewis, a’r diffyg cyfle i’r etholwyr fynegi barn ar faterion gwaelodol gwleidyddiaeth. 

Dyna pam mae Barnett yn gwrthod beirniadu’r sawl a bleidleisiodd i adael. Dilys oedd y rhesymeg mai dyma oedd y cyfle i wrthwynebu’r sefydliad, taro'n ôl ac annog trawsnewidiad. Gweithred gadarnhaol ac ystyrlon oedd hon felly, ar un olwg, ac er bod y foment honno wedi arwain at drychineb ddemocrataidd, rhaid cofleidio’r chwerwfelys a’r ‘foment ddemocrataidd’ hon sydd yn un hynod arwyddocaol. Yng ngolwg Barnett, does dim lle gennym i ddadwneud Brexit oherwydd mae’r amgylchiadau a esgorodd ar y bleidlais dros adael angen eu trawsnewid. Yn hytrach na throi’r cloc yn ôl, rhaid rhoi sylw ac ystyried yr hyn y mae’r adferiad yn galw amdano. Wedi’r methiant wrth geisio adnewyddu Prydeindod, sut mae dechrau o’r dechrau?

Barn y bobl

A dyna oedd yr her i’r gynulleidfa. Cymhwyswyd agwedd ddemocrataidd Barnett i'r weithred o ddarlithio hefyd wrth iddo gymryd saib hanner ffordd trwyddi i glywed safbwyntiau aelodau’r gynulleidfa ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru. Cafwyd nifer o sylwadau synhwyrol ynghylch diffygion y wasg Gymreig, ymdreiddiad a dylanwad y wasg Lundeinig asgell dde, diffyg dealltwriaeth a chydymdeimlad tuag at y prosiect Ewropeaidd – a hefyd sylw yn ategu trafodaeth gen i ryw ddeufis yn ôl ar ‘warthnod’ llechi gleision yr UE sy’n britho rhannau o Gymru. Peth naturiol yw gwrthod y sawl sy’n ariannu eich dibyniaeth os oes rhywun yn cynnig ffordd allan.

Daeth y sylwadau mwyaf difyr gan Richard Wyn Jones, ar sail ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru. Mae'r ymchwil wedi amlygu’r cyswllt rhwng hunaniaeth (‘Prydeinig’ yn achos y Cymry a ‘Saesneg’ yn achos y Saeson) a’r bleidlais dros adael, a thueddiad ymysg y Cymry Cymraeg i bleidleisio dros aros. Ategir naratif Barnett, yng nghyd-destun Lloegr, gan yr ystadegau: mae'r dadrithiad gyda ‘Prosiect Prydain’ gryfa yn y llefydd hynny lle mae hunaniaeth Seisnig ar ei gryfa. Maent hefyd yn amlygu patrymau yng nghanlyniadau Cymru – ‘cadernid’ Gwynedd a Cheredigion, a dylanwad pleidlais y sawl sy’n cyfri eu hunain yn Saeson ar y canlyniadau.

Tynnodd Barnett sylw at y ffaith mai niferoedd cymharol fychan (rhyw 80,000) oedd yn gyfrifol dros ennill y dydd i Brexit yng Nghymru, a chymaint yn wahanol mae’r canlyniadau’n edrych o’u haddasu ar sail demograffeg. Agwedd arall sy’n cael ei cholli yn y brys i bwyntio bys at gymunedau a grwpiau o bobl yw'r amrywiaeth oddi mewn i'r cymunedau a'r grwpiau hyn, wrth gwrs. Yn yr un modd ag y byddai lleiafrif sylweddol o ‘Saeson’ Cymru wedi pleidleisio dros aros yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd, roedd yna gannoedd o filoedd yng nghymoedd de Cymru a wnaeth yr un peth. Mae hyn yn holl bwysig o safbwynt adfer y sefyllfa yng Nghymru ac o safbwynt gobaith i'r dyfodol, i sicrhau nad yw cymunedau ac ardaloedd yn cael eu serio fel rhai anobeithiol a thu hwnt i berswâd.

Y llwybr hir yn ôl

Yng ngolwg Barnett, rhaid i'r prosiect Ewropeaidd fod yn rhan o’r adferiad ehangach sydd yn anelu i adnewyddu gwleidyddiaeth Ynysoedd Prydain. Awgrymodd yn y ddarlith ei fod, erbyn hyn, wedi symud tu hwnt i'r casgliad radical yn ei lyfr, sef mai trwy chwalu’r Deyrnas Gyfunol y byddai’r llwybr yn ôl yn amlygu ei hun; bellach, disgrifia’r syniad o’r Alban a Chymru yn gadael y Deyrnas Gyfunol fel cam yn rhy bell, y byddai 'gadael gwlad sydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn broses gyffelyb i "adael y byd"' (datrysiad sydd iddi ei hapêl, cofiwch!).

O ystyried argyfwng hunaniaeth Brydeinig, a’r argyfwng cyfansoddiadol, gofyn Barnett am yr hyn y mae Carwyn Jones wedi bod yn deisyfu amdano ers blynyddoedd lawer, sef ‘Cynulliad Cyfansoddiadol’. Mae iaith Barnett yn fwy radical wrth hyrwyddo’r syniad hwn, wrth gwrs – chwalu grym a gormes San Steffan yw’r nod – ac mae ei sylwadau yn dwyn i gof ddyfyniad Raymond Williams am y wladwriaeth Seisnig, sydd ‘wedi gormesu'r Cymry ers canrifoedd  ac wedi gormesu’r Saeson yn hirach fyth’.     

Ynghlwm yn y prosiect o ail-greu Prydain ar ffurf ffederaliaeth radical y mae’r llwybr yn ôl i Ewrop hefyd. Trwy drwytho’r ddemocratiaeth newydd mewn ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o ryngwladoldeb, o gyd-ddibyniaeth a’r manteision lu a geir wrth gydweithredu'n draws wladol, byddai modd sefydlu perthynas gyda’r UE ar seiliau newydd. A rhan ganolog o’r berthynas honno fyddai cyfundrefn newydd i’r sefydliad hwnnw. 

Agorwyd gil y drws ar hyn eisoes gan Macron yn ei araith yn y Sorbonne yn yr hydref a oedd yn beirniadu’r broses Lisboa a weithredwyd mewn gwrthwynebiad i ddyheadau'r Ffrancwyr a’r Iseldirwyr. Mae angen i’r UE sicrhau ei ddilysrwydd democrataidd unwaith eto, ac yn ôl Barnett byddai modd i’r Deyrnas Gyfunol chwarae rhan flaenllaw yn hynny. Mater o raid yw hyn, oherwydd pen draw’r sefyllfa sydd ohoni, a phen draw peidio adfer ein perthynas gydag Ewrop yw gwladwriaeth ar chwâl – a’r dinistr hwnnw’n arwain at lawn dwf neo-ffasgiaeth.

Gobaith Gwalia?

Anodd yw anghytuno â’r dadansoddiad hwn, dadansoddiad sy’n hanfodol wrth inni ystyried y ffordd ymlaen yng Nghymru. Wrth wrando ar Barnett, yr hyn oedd yn taro rhywun yn fwy na dim yw radicaliaeth gynhenid y foment hon yn ein hanes. Mae digon o drafod apocalyptaidd wedi bod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf gennym ni'r Cymry – a minnau yn fwy euog na neb – ac mae rhyw gysur i'w gael wrth glywed adlais o hynny ym myfyrdodau eraill. Nid nyni yn unig sy’n teimlo’r berw. Ond beth yw’r posibiliadau yng Nghymru, o adfer ein democratiaeth a’r ysbryd Ewropeaidd? Ai trwy ryw ffurf ar Brydeindod newydd, wedi ei daenu’n denau ar hyd ffederaliaeth newydd, y mae modd inni adeiladu o’r newydd?

Deallaf y ddelfryd honno ond dim ond llwyddo i f'argyhoeddi nad oes yna ffordd yn ôl a wnaeth y dadansoddiad hwn – dadansoddiad o safbwynt Saesnig – o argyfwng Prydain. Ynghlwm yng ngwneuthuriad Prydeindod y mae’r syniad o oruchafiaeth Lloegr dros Ynysoedd Prydain a goruchafiaeth Prydain dros y byd. Tra pery Prydain, ymddengys yn anodd, os nad amhosib, datblygu’r agwedd gydweithredol sydd yn angenrheidiol i gydfyw’n gyfforddus a hyderus o fewn cyfundrefn Ewropeaidd. Gyda pherthynas o gydraddoldeb rhwng Lloegr a’i chymdogion – ynys o wledydd sofran, hynny yw – byddai gobaith iddi fagu’r un agwedd tuag at y gymdogaeth ehangach. 

Beth amdanom ni yng Nghymru? Os nad awn ni i’r afael â’n dibyniaeth, byddwn mewn peryg o fod ynghlwm â Lloegr, a’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi ein gadael. Nyni fydd unig gysur Lloegr, a’r unig fynegiant o awdurdod ar ôl i'w llywodraeth. Er gwychder dadansoddiad Barnett, roedd ei afael ar ein cyflwr gwleidyddol truenus ni yma yng Nghymru ychydig yn llai sicr. Mae Llafur mewn parlys oblegid eu pŵer, Plaid Cymru mewn gormod o wewyr i gipio ei chyfle hanesyddol, a'r Blaid Geidwadol yn fwy na pharod i fodloni ar y syniad o ddychwelyd i’r wladwriaeth Duduraidd. Ac eto mae ateb cyffredinol Barnett – mai gyda’r bobl y mae’r atebion – yn gywir.  

Os yw Brexit yn symptom o fethiant Prydeindod, a esgorodd ar genedlaetholdeb Seisnig, yna mae’r un methiant wedi amlygu’r un hen broblemau oesol ymhlyg yn ein hunaniaeth ninnau. Cwympo rhwng dwy stôl a wnawn, a'n personoliaeth a’n arwahanrwydd yn ein cymell i deimlo y dylem dorri cwys ein hunan, ond ein gwendidau a'n diffyg hyder yn ein tynnu ni ar hyd trywydd arall, trywydd nad yw mewn gwirionedd wedi gweithio o'n plaid ers ein traflyncu gan Loegr. 

Yn achos Cymru, nid ail-gychwyn ein gwleidyddiaeth yng nghyd-destun Ewrop sydd ei angen arnom, gan mai tuag at dir mawr Ewrop y mae ein personoliaeth hanesyddol ac unrhyw wleidyddiaeth wirioneddol Gymreig yn ein gyrru'n naturiol. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw cychwyn, full-stop.

Traddodwyd darlith Anthony Barnett fel rhan o sesiwn Cymru dros Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd, fis Rhagfyr 2017.


Cyfrol ddiweddaraf Huw L Williams yw Global Justice: The Basics (Routledge, 2017), a ysgrifennwyd ar y cyd â Carl Death. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Wrth wrando ar Barnett, yr hyn oedd yn taro rhywun yn fwy na dim yw radicaliaeth gynhenid y foment hon yn ein hanes

Dyddiad cyhoeddi: 10·01·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Mae gan bawb eu cofebion, am wn i; rhai’n swagro’u coffa yng nglendid marmor, neu sglein yr efydd wrthodwyd gan Horas, gynt. Mae eraill yn llai lluniaidd,
gwyfynod sy’n cnoi tyllau yng ngharthen amser, neu blaciau tolciog wedi eu hestyn drachefn o’r gist.

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Ar gynfas pumed canrif dim ond ymylon gwedd yw gwarged lliwiau’r galon a’r meddwl cyn bod bedd, fel pant ar garreg aelwyd lefn y sgwriwyd iddo lendid trefn ... 

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Roedd Seurat wedi dotio at y traeth dan lewych haf, yn ffroeni oglau gwymon; at ruban aur o drai a dŵr y daeth ac erfyn bad i lyfnu’r gorwel union ... 

Cyfansoddi


Siôn Tomos Owen

Stori mewn lluniau

Un lôn i fewn, un lôn mas. Yr un hen stori am gymuned fechan yng nghymoedd de Cymru. Wastad yr un hen stori. Stereoteipiau o fywydau caled, brwydro plwyfol a’r bobol sydd yma o hyd. Ond y peth yw ... Mae…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Dwi wedi dechrau odli eto. Wn i ddim pam mae rhai pobl yn ei gael yn beth mor ddiddorol; dydi o ddim yn ddim byd mwy na rhywbeth fydda’ i’n ei wneud weithia pan fydda’ i’n siarad. Ond dwi ddim yn ei wneud rŵan achos…

Colofnau


Sioned Puw Rowlands

‘Nid dim ond gwylio ffilmiau yr ydan ni, mae ffilmiau yn ein gwylio ninnau hefyd,’ meddai’r cyfarwyddwr o Rwsia, Andrey Zvyagintsev. Yn ei ffilm ddiweddaraf, Loveless, bob yn hyn a hyn, yn batrwm trwyddi, mae pobl yn gwirio eu ffonau bach neu’n tynnu lluniau ohonyn nhw eu…