Dadansoddi

Cyfarwyddwr ffilm pwysicaf 2017?

Cyflwyniad i waith Rainer Werner Fassbinder


Emyr Glyn Williams

Amser darllen: 12 munud

21·03·2017

Dw i ddim yn ddyn sy’n lluchio bomiau, dw i’n ddyn sy’n creu ffilmiau.

 chlasuron fel Fear Eats The Soul, Katzelmacher, The Bitter Tears of Petra von Kant a The Marriage of Maria Braun yn fwy perthnasol nag erioed, credaf fod yna le i ddadlau mai gwaith cyfarwyddwr a fu farw dros 30 mlynedd yn ôl sy’n cynnig y cyfle sinematig gorau i ddeall, dygymod â a dadansoddi chwalfa’r byd ôl-Brexit, ac i ystyried hiliaeth, rhagfarn a phwysau annioddefol systemau cyfalafiaeth fyd-eang. 

Ffilmiau Fassbinder

Rainer Werner Fassbinder, yn fy marn i, yw cyfarwyddwr ffilm mwyaf diddorol yr oes fodern. Mae o'n esiampl hanfodol i unrhyw un sy’n ysu i greu ffilmiau, ac sy’n ymddiddori yn y posibiliadau sydd ynghlwm â chreu ffilmiau annibynnol. Mae o hefyd yn ymgorffori syniad clasurol yr auteur – yr awdur ffilm, sydd yn syniad a damcaniaeth a fu’n rhan allweddol o hanes y sinema Ewropeaidd ers y 1950au. Y ‘director as superstar’, fel petai, yw hwn!

Roedd darganfod gwaith Fassbinder yn brofiad corfforol i mi, fel cwympo mewn cariad. Roedd prydferthwch y lluniau, ynghyd â’r ddealltwriaeth glir a’r agwedd herfeiddiol a gonest at eu cynnwys, yn fodd i fy llorio’n llwyr.

Mae hanes ei fywyd yn anhygoel. Cafodd ei eni yn 1945, yn rwbel yr Almaen yn Bad Wörishofen, de’r Almaen, dair wythnos ar ôl i’r Americanwyr lanio yn ei bentref er mwyn dechrau ar y gwaith o ail-lunio’r wlad. Bu farw yn 1982 yn 37 oed, heb weld y wal yn disgyn, na’r Almaen yn uno, ar ôl creu bron i hanner cant o ffilmiau dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg – cyfraniad sydd yn gwbl unigryw yn hanes y sinema fodern. Tristwch o’r mwyaf yw meddwl y byddai, petai wedi cael byw, yn iau o hyd na Martin Scorsese, Terrence Malick, Woody Allen, Jean-Jacques Annaud, Ken Loach, Mike Leigh, Francis Ford Coppola a llu o gyfarwyddwyr eraill sy’n dal yn brysur heddiw. Mae meddwl am y dwsinau o ffilmiau eraill y gallai Fassbinder fod wedi eu cynhyrchu yn ystod y tri degawd ers ei farwolaeth yn peri tristwch mawr i mi. Ond yn ystod ei gyfnod ar y ddaear, llwyddodd i ddilyn gyrfa gwbl unigryw a disglair – roedd yn feiddgar bob amser, ac roedd ei ffilmiau’n cyrraedd fel rat-tat-tat i daro’r gwyliwr ag ergyd galed i’r enaid, y galon a’r ymennydd.

Dydi gwylio ffilm gan Fassbinder byth yn cynnig rhyddhad na phrofiad cathartig. Yn hytrach, mae’n brofiad clawstroffobig ac yn llawn tensiwn myglyd. Mae llawer o’i ffilmiau wedi eu saethu mewn llond dwrn o leoliadau yn unig. Dydyn ni ddim yn trio dianc wrth wylio ffilmiau Fassbinder; yn hytrach na ‘switsio i ffwrdd a dianc’, rydyn ni’n ‘switsio ’mlaen ac yn synhwyro’.

Rainer Werner Fassbinder

Mae ei fydolwg yn ddidwyll a brawychus. Dyma grynodeb ohono: mae’r gyfundrefn gyfalafol yn pydru o’r tu mewn ac yn ein heintio ni i gyd. Dim ond tri opsiwn sydd yna – ufuddhau, marw neu fynd yn wallgof. Ac yn wir, dyna sy’n digwydd i gymeriadau Fassbinder mewn ffilm ar ôl ffilm. Gallant, gall ei ffilmiau fod yn drwm, ond fel ’na y mae’n rhaid i bethau fod. Er bod y testunau yn trin y ffordd y caiff pobl eu hecsbloetio – ar bob lefel, o’r personol i fyny – mae o, fel technegydd a chyfarwyddwr mentrus, yn defnyddio ac yn camddefnyddio technegau sefydledig ac arbrofol y sinema i greu ffilmiau sy’n herio ac yn aros yn y cof. Doedd o ddim yn gweld unrhyw ddrwg mewn defnyddio technegau a oedd yn mynd â’r ffilm yn bell, bell oddi wrth unrhyw realaeth. Mae o’n gwybod bod pob gweithred greadigol yn artiffisial, ac nad ydi unrhyw awdur neu actor sy’n ceisio ail-greu realiti fel y mae ddim ond yn llwyddo i wadu a dinistrio effaith ei bersonoliaeth ei hun ar y gwaith gorffenedig. Anodd fyddai enwi artist arall yn hanes y sinema y mae ei waith yn fwy personol na gwaith Rainer. I Fassbinder, yr unig realiti y mae hi’n werth poeni amdano yw’r realiti a gaiff ei greu wrth i’r ffilm gyrraedd y gynulleidfa. Y ffordd y caiff y ffilm ei chyflwyno, y technegau a gaiff eu defnyddio i’r perwyl hwnnw – y ffactorau hyn y mae’r cyfarwyddwr yn eu rheoli. Does ’na ddim dyletswydd i fod yn driw i realiti. Fel y dywedodd Fassbinder ei hun,

Os ydw i wedi cynhyrchu’r ffilmiau yn y modd cywir, caiff realiti newydd ei greu yn nychymyg y gynulleidfa, ac fe fydd y realiti newydd yna, gobeithio, yn ymgymryd â’r dasg o newid y realiti yn y stryd y tu allan i’r sinema.

Mae’r ofnau sy’n tasgu o’i ffilmiau yn ofnau gwir a hollbwysig. Doedd Rainer ddim yn dilettante nac yn aesthete chwaith. Peidiwch ag anghofio mai Natsïaid oedd cenhedlaeth ei rieni.

Gwnaeth Fassbinder ddatganiad enwog yn y 1970au, pan oedd terfysgwyr Baader-Meinhof yn hawlio’u lle fel bwgan mwyaf, a mwyaf newydd, Gorllewin yr Almaen, ac yn codi ofn ledled y cyfandir:

Ideolegydd ydw i. Dw i’n gweld y drwg ym mhob man a dw i’n saethu [ffilmio] ym mhob man – i’r dde, i’r chwith, i fyny neu i lawr. Dw i’n saethu lle mae pethau’n drewi. Dw i ddim yn ddyn sy’n lluchio bomiau, dw i’n ddyn sy’n creu ffilmiau.

Does dim amheuaeth nad artist yw Fassbinder, nid terfysgwr. Damwain hanesyddol ydyw, ar un olwg – artist pryfoclyd a fyddai, mewn cyfnod neu gymdeithas wahanol, wedi cael ei rwystro a’i feirniadu, ei gosbi a’i ladd hefyd, o bosib, am ei ffilmiau, ei ymddygiad a’i agwedd.

Mae pob un o’i ffilmiau’n feirniadol, yn gwrthwynebu agweddau cul a hiliol cenhedlaeth y Natsïaid, ac yn bleidiol i’r rheiny sy’n dioddef, y rhai mwyaf tlawd ac anweladwy, a’r rheiny’n cynnwys lleiafrifoedd o ran hil, rhywioldeb ac oed. Ar un lefel, doedd Fassbinder ddim yn gallu anghofio bod y gwersylloedd wedi cael eu creu gan Almaenwyr a oedd yn dal i gerdded strydoedd ei wlad.

Ond peidiwch â meddwl am eiliad chwaith nad ydi o’n feirniadol o’r lleiafrifoedd hynny. Mi ypsetiodd o bawb yn eu tro – merched, yn y ffilm Martha (1973), lle mae masochistiaeth naturiol y prif gymeriad yn golygu ei bod yn hapus i gael ei gorthrymu gan ei gŵr ffiaidd, ac yn ysu amdano, hyd yn oed. Neu The Bitter Tears of Petra Von Kant (1972), lle mae’r berthynas lesbiaidd rhwng y cynllunydd ffasiwn a’r fodel ifanc yn emosiynol arwynebol ac yn hysterical – llond lle o grio a diva strops plentynnaidd. Yn Fox (1975), caiff y byd hoyw ei feirniadu am fod yr un mor ecsbloetiol â’r byd strêt. Dydi Fassbinder ddim yn gweld arwyr yn ei ddychymyg, dim ond pobl go iawn. ‘In yer face’ fyddai’r disgrifiad modern. A doedd ei fywyd personol byth yn bell iawn o golofnau clecs y papurau tabloid chwaith. Roedd yn ddyn agored hoyw a oedd hefyd yn cael rhyw gyda merched. Bu’n briod ag Ingrid Caven ar ddechrau’r 1970au a chafodd gyfres o berthnasau gyda dynion (cyflawnodd dau o’r rhain, Armin Meier ac El Hedi ben Salem, hunanladdiad ar ôl perthynas arwyddocaol ag o).

Fear Eats The Soul

O ddarllen y llyfrau a gyhoeddwyd ers marwolaeth Fassbinder, mae’n anodd credu weithiau nad oedd wedi cysgu efo pob un o’i actorion a’i gyd-weithwyr. Ddim yn ffôl o ystyried ei fod mor hyll (ei uchelgais, tua diwedd ei fywyd, oedd ymddangos ar flaen y cylchgrawn byd-enwog Time – ac edrych mor hyll â phosib).

Yn ei fywyd artistig, fodd bynnag, does yna ddim byd sydd yn trashy neu’n anfoesol, dim byd anghyfrifol na dim byd diangen chwaith. Roedd yn adnabyddus am ffilmio un neu ddau take yn unig o unrhyw olygfa a hynny ar hyd ei yrfa broffesiynol. Roedd yn feistr ar y busnes cynhyrchu ffilmiau yma, ymhell o flaen unrhyw un arall. Fel arloeswyr cynnar y sinema, roedd yn deall posibiliadau’r arf arbennig hwnnw, y camera.

Ond, yn eironig, fo oedd ‘poster boy’ y byd cyfalafol. Gallai gynhyrchu ffilmiau’n gynt, yn rhatach ac yn well na neb arall. ‘Does gen i ddim diddordeb mewn perffeithrwydd,’ meddai. Fo ydi’r unig artist yn hanes y sinema i gael cynnig mwy o bres am beidio â gwneud ffilmiau nag am eu gwneud. Mi drechodd o’r system. Mater o economeg syml oedd hynny – oherwydd ei fod, fel cyfarwyddwr, yn cynhyrchu pedair neu bum ffilm y flwyddyn, roedd gwerth y ffilmiau’n isel – roedd cynifer ohonynt yn bodoli, ac roedd yna un newydd ar y gorwel drwy’r adeg. Doedd neb yn medru dal i fyny, a neb yn medru ennill pres mawr o ddosbarthu’r ffilmiau. Mae’n ymddangos i mi, felly, fod Fassbinder yn rhedeg rhyw fath o ras ddieflig i drio stopio’r byd rhag ei ecsbloetio fel unigolyn (yn wahanol i’r cymeriadau sy’n dioddef byth a hefyd yn ei ffilmiau). Un ffilm y flwyddyn ydi’r ffordd orau o ennill arian efo talent fel talent Fassbinder, ond doedd gweithio fel yna ddim yn gwneud synnwyr o gwbl iddo. Doedd o ddim yn gweld gwerth arwyddo cytundeb, am ffortiwn, i wneud un ffilm y flwyddyn: ‘Be wna i efo’r un mis ar ddeg arall?’

Yr hyn sy’n bwysig am ei yrfa ydi ei bod yn bosib clywed llais yr auteur mewn ffilm ar ôl ffilm, yn gwawdio’i gymdogion (a ninnau hefyd, wrth gwrs). ‘Y ffilmiau sy’n bwysig – dwi ddim yn teimlo fy mod i wedi gwir brofi rhywbeth nes i mi ei brosesu’n sinematig,’ meddai. Cyfaddefiad trist yw hwnnw ar lefel bersonol, ond yr oedd amgylchiadau o’r fath yn angenrheidiol er mwyn iddo allu creu’r ffilmiau y gallwn ni, yn ein tro, eu gwerthfawrogi flynyddoedd wedi ei ymadawiad.

Mae ffilmiau Fassbinder yn mynnu fod pethau’n annelwig. Does ’na ddim llawer o bwynt diffinio pethau yn nhermau’r dde a’r chwith pan mai un testun sydd gen ti mewn gwirionedd, sef y ffordd yr ydym yn ymddwyn, a’r hyn a wnawn, a deimlwn ac a feddyliwn. Dydi o ddim yn pregethu nac yn propagandeiddio chwaith. Ac am fod Fassbinder mor onest (fel y dywedais, anodd meddwl am artist mwy gonest yn holl hanes y sinema), dydi o byth yn ei osod ei hun ar wahân i’r bobl yma. Ac mae o hefyd, yn amlwg, yn dioddef yr union bwysau ar ei system nerfol ei hun â’r cymeriadau yn ei ffilmiau. Ond am ei fod yn deall – ac yn derbyn hynny – dydi o byth yn nawddoglyd tuag at ei gymeriadau. Â phob ffilm a gynhyrchodd, mae’n cyfaddef ei fod o ei hun yn methu â chodi uwchben y cawlach – er ceisio gwneud.

Ond, fel artist, mae o’n medru dangos i ni, mewn ffordd glir, fod y sefyllfa hon yn bodoli ac mae hynny’n fan cychwyn. Mae’r llif o ffilmiau a greodd yn dangos yn eglur sut y mae pŵer mewn unrhyw berthynas (lle mae hi’n anorfod y bydd un ochr o’r berthynas yn gryfach na’r llall) yn creu tensiwn a gorthrwm. Mewn ffilm iasoer ofnadwy a gwblhawyd gan Rainer yn 1977, ac ar ganol cyfnod o banig cyhoeddus am derfysgaeth (ac â pharanoia yn dechrau rheoli Fassbinder ei hun), mae’r problemau i’w gweld yn gwbl glir. Ffilm anhygoel yw Germany in Autumn. Cwta hanner awr o hyd ydi hi, ac mae hi wedi’i gosod yn gyfan gwbl yn fflat dywyll y cyfarwyddwr yn Munich.

Rainer Wener Fassbinder

Yn y ffilm, mae Rainer yn chwarae rhan cymeriad o’r enw Fassbinder, mae ei gariad Armin Meier yn actio rhan Armin ac mae ei fam yn actio rhan y fam, Lisolette. Mae Fassbinder yn dangos ei gymeriad yn ystod y foment dyngedfennol hon yn hanes ei famwlad a hynny mewn modd fforensig. Mae o’n ddiawl annioddefol, yn fwli rhonc sy’n pigo ar ei gariad a’i fam, yn gyson ac yn ddidrugaredd. Mae o’n cyfathrebu drwy rantio fel plentyn ysgol feithrin. Mae o’n dreisgar yn ei berthynas efo Armin ac yn mynnu ypsetio’i fam wrth y bwrdd bwyd. Mae o hefyd i’w weld yn crio fel baban bach, yn noethlymun, yn gafael yn dynn yn ei geilliau, yn unig, ar ei ben ei hun, ac yn crwydro o ’stafell i ’stafell. Un funud mae’n lluchio’i gocên i’r tŷ bach ar ôl clywed seiren heddlu y tu allan i’r fflat, y funud nesaf mae o’n gyrru pawb allan o’r fflat ac yn crio wedyn am ei fod ar ei ben ei hun. Mae o’n ddyn cwbl afreolus, paranoid, fucked up ac yn amhosib ei garu. Mae Ffasgaeth yn fyw ac yn iach yn ei fflat, yn nythu yng nghanol pob perthynas bwysig yn ei fywyd personol ac yn stelcian yn ’stafelloedd ei fflat hyll, anghynnes. Ac os mai dyma sut yr oedd pethau i artist mwyaf gonest ei genhedlaeth, mae gwylio’r ymddygiad hwn yn ddigon i dorri calon dyn. Roedd ei benderfyniad i wneud y ffilm hon yn syfrdanol, ac yn wirioneddol unigryw yn hanes sinema. Wrth i’r gymdeithas wâr ddechrau disgyn yn ddarnau y tu hwnt i ddrws ei fflat hunllefus, mae’r artist yn penderfynu troi’r camera o gyfeiriad y strydoedd, oddi wrth bawb arall, a’i bwyntio’n syth at ei wyneb ei hun. Pa artist arall erioed a geisiodd ddangos ochr mor ffiaidd i’w bersonoliaeth? Ond am fod yr ochr honno’n bodoli, roedd yn rhaid i Fassbinder ei ddangos. Dydi o ddim yn gallu celu unrhyw beth; mae’n amhosib iddo beidio â throi’r camera yna ymlaen, waeth pa mor anodd ydi hi weithiau i ni fel gwylwyr eistedd o flaen y delweddau.

I mi, mae Fassbinder yn gawr ym myd y sinema. Dydi hi ddim yn hawdd cynhesu at y dyn nac at ei waith, ond mae yno ysbrydoliaeth sicr i unrhyw sy’n ysu i greu sinema. Cafodd ei feirniadu am weithio’n rhy gyflym, am beidio byth â bod yn berffaith, am fod yna ormod o syniadau’n mynd trwy’i ben ar hyd yr amser. Cafodd ei feirniadu hefyd am ei agwedd at y broses o greu a oedd yn rhy arw, medden nhw, i greu campweithiau sinematig ‘go iawn’. Ond mae arddel unrhyw un o’r beirniadaethau hynny yn nonsens llwyr. Jest sbïwch ar unrhyw un o’i ffilmiau ac ymfalchïwch yn yr holl brydferthwch sydd ar y sgrin. Cymharwch unrhyw ddelwedd o unrhyw un o’i ffilmiau â delweddau'r technegwyr perffaith a dienaid hynny sy’n cael clod am chwarae'n sâff - fel petaen nhw'n rhy ofnus i wneud camgymeriadau. (Mae'r garfan honno erbyn hyn yn cynnwys hanner Hollywood, a’i ffilm-gomics swnllyd a phlentynnaidd). A phenderfynwch chi wedyn, felly, ble rhwng y ddau begwn hyn y mae’r gelfyddyd sydd yn werthfawr ac yn berthnasol i ni fel pobl.

Roedd Fassbinder yn workaholic a fu farw’n ifanc am ei fod yn gweithio’n rhy galed. Neu, os liciwch chi, roedd yn gweithio’n rhy galed am ei fod yn gwybod ei fod yn mynd i farw’n ifanc. Yn ystod oriau mân y bore, ar 10 Mehefin 1982, dychwelodd partner Rainer, a golygydd ei ffilmiau, Juliane Lorenz, i’w fflat (hi, mae’n debyg, oedd ei ail wraig, er na lwyddodd neb i berswadio Juliane i ddangos tystysgrif eu priodas erioed). Roedd Rainer yn y ’stafell wely, sigarét rhwng ei fysedd, hanner llinell o gocên ar y bwrdd, a’r teledu ymlaen. Roedd ei ben yn gorffwys ar y nodiadau yr oedd yn eu sgwennu ar gyfer ei ffilm nesaf – ffilm am Rosa Luxemburg. Doedd Rainer ddim yn chwyrnu’n uchel, a gwyddai Juliane ei fod o wedi marw.


Emyr Glyn Williams yw cydlynydd Sinema Pontio ym Mangor. Roedd ei gyfrol Is-Deitla'n Unig (Gomer, 2015) yn un o Lyfrau Ffeithiol Greadigol y Flwyddyn yn 2015.

Bydd y ffilmiau canlynol i'w gweld yn Sinema Pontio ym mis Ebrill:

FEAR EATS THE SOUL, Sadwrn, Ebrill 22, 8.15pm  
KATZELMACHER, Sul, Ebrill 23, 5.30pm
THE BITTER TEARS OF PETRA VON KANT, Llun, Ebrill 24, 8.15pm
THE MARRIAGE OF MARIA BRAUN, Mercher, Ebrill 26, 8.15pm
 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Emyr Glyn Williams, Ffilm

 


Doedd Fassbinder ddim yn gallu anghofio bod y gwersylloedd wedi cael eu creu gan Almaenwyr a oedd yn dal i gerdded strydoedd ei wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 21·03·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...