Colofnau

Cyffesion llyfrbryf


Emyr Ll Gruffudd

Amser darllen: 5 munud

30·11·2018

Ar ôl gorffen sgwennu’r golofn hon a gwasgu’r botwm fydd yn ei gyrru at y golygydd, mi fydda i’n teimlo fy mod wedi haeddu seibiant. Wedi’r cwbwl, nid ar chwarae bach y mae rhywun yn ymchwilio’n drylwyr, yn cynllunio, ac wedyn yn ysgrifennu colofn o fil o eiriau, a hynny’n brydlon bob pedwar mis. Tydi hynny, wrth gwrs, ond megis troednodyn o’i gymharu hefo pobol sy’n sgwennu colofn fisol, yn ddim ond atalnod wrth ochr awduron sy’n cyfansoddi colofnau wythnosol, ac yn ddim mwy na phisio dryw yn y môr pan ystyriwch bobol sydd wedi cyfrannu colofnau dyddiol, a hynny ers blynyddoedd.

Dyna Leonard Barden, er enghraifft, newyddiadurwr a cholofnydd hynod iawn. Ond oni bai fod gynnoch chi ddiddordeb ysol mewn gwyddbwyll, go brin eich bod wedi clywed amdano. Mae o wedi ysgrifennu colofn wythnosol am wyddbwyll i’r Guardian yn ddi-dor ers mis Medi 1955, a phetai hynny ddim yn ddigon, mae o wedi ysgrifennu colofn ddyddiol am y gêm i’r Evening Standard ers mis Mehefin 1956 (colofn sydd bellach yn ymddangos ar wefan y papur). Dyfalbarhad ac ymroddiad. Dwi’n codi ’nghap iddo fo.

Un o fy hoff lyfrau ydi Up in the Old Hotel (1992), casgliad o ysgrifau gwych a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y New Yorker gan Joseph Mitchell, rhwng 1938 a 1964. Maen nhw’n bortreadau o rai o gymeriadau mwyaf lliwgar Efrog Newydd, ac yn ddrych i’r ddinas ei hun yn ystod y cyfnod hwnnw. Bron nad ydi’r cymeriadau y mae’n ysgrifennu amdanyn nhw yn cerdded oddi ar y tudalennau i ysgwyd llaw hefo chi, gan mor fanwl a bywiog ydi’r disgrifiadau ohonynt. Mae arogleuon a synau’r ddinas yn codi’n hudolus o’r llyfr, ac mi fedrwch glustfeinio ar sgyrsiau mynychwyr saloon enwog McSorley, a theimlo eich bod yn eistedd wrth eu hymyl. Cawn ein cyflwyno i dafarnwyr a phregethwyr, pysgotwyr a gweithwyr marchnad, sipsiwn a rhai o’r Indiaid Mohawk hynny fyddai’n cerdded yn dalog ar hyd trawstiau noeth adeiladau tala’r ddinas. Portreadau cofiadwy gan un o newyddiadurwyr a cholofnwyr gorau’r ugeinfed ganrif, sydd ei hun yn destun un o ddirgelion llenyddol mwya’i gyfnod.

Ganwyd Joseph Mitchell yng Ngogledd Carolina, a symudodd i Efrog Newydd yn 1929 pan oedd yn un ar hugain oed. Ar ôl gweithio i nifer o bapurau newydd yn y ddinas, cafodd gynnig ymuno â staff y New Yorker yn 1938 a chael rhwydd hynt i grwydro palmentydd Efrog Newydd i chwilio am straeon. Pobol oedd ei brif ddiddordeb, a thrwy sgwrsio hefo nhw a gwrando’n hamddenol arnyn nhw, medrai hel y deunydd roedd o ei angen i greu’r straeon cofiadwy.

Rhwng 1938 a 1964 cyfrannodd golofnau’n gyson i’r cylchgrawn. Ond prin y gellir dweud ei fod yn awdur toreithiog. Dim ond pum stori gyhoeddodd o yn ystod y 1950au, ac ar ôl cyhoeddi’r olaf o’r rhain (‘The Rivermen’) yn 1959, bu’n rhaid aros tan 1964 am stori arall ganddo.

Ond wedyn, ar ôl 1964, chyhoeddodd o ’run gair. Nid ei fod wedi rhoi’r gorau i weithio. Roedd yn mynd i swyddfa’r New Yorker yr un fath yn union, a gwnaeth hynny’n ddeddfol am y deng mlynedd ar hugain nesaf, a chael ei dalu am wneud. Roedd sŵn tincian ei deipiadur i’w glywed trwy’r coridorau o hyd, ond chyhoeddwyd yr un gair. Cyfaddefodd un o’i gydweithwyr fod ’na rai wedi tyrchu trwy fasged sbwriel ei swyddfa i chwilio am gliwiau i’r hyn oedd ganddo ar droed, ond ofer fu’r chwilio, ac ofer fu’r disgwyl.

Beth oedd i gyfri am hynny? Oedd y ffynnon wedi rhedeg yn sych, ynteu oedd y safonau yr oedd Joseph Mitchell wedi eu gosod iddo fo’i hun yn golygu na fedrai yn ei fyw ollwng dim o’i law, heb iddynt gyrraedd y safonau hynny? Mae’n ddirgelwch a gyfrannodd at y myth sydd wedi tyfu o’i gwmpas, ac yn deilwng o un o’i straeon ei hun. Ond ’toes gen i ddim byd ond edmygedd ohono fo a phob colofnydd dygn arall, a ’chydig o genfigen hefyd at eu hymroddiad a’u dyfalbarhad.

Fe wnes i ddilyn ychydig ar drafodaeth am ‘lyfrau i godi’r galon’ dros yr haf. Mae Darllen yn Well yn gorff sy’n rhoi cymorth i bobl ddeall a rheoli gwahanol fathau o salwch drwy eu hannog i ddarllen llyfrau am eu cyflwr. Mae gweithwyr iechyd a llyfrgelloedd cyhoeddus yn cefnogi’r ymgyrch, ac mae’n bosib cael rhai o’r llyfrau ar bresgripsiwn. Wel, dyna syniad!

Doctor: ‘Be sy’n matar?’

Claf: ‘Dwi ddim yn teimlo’n dda.’

Doctor: ‘Cerwch i’r llyfrgell, ac wedyn ewch adra i ddarllan am ’chydig ddyddia’.’

Ella na ’neith hynny ddim gweithio bob tro, ond mae gwefan Darllen yn Well yn cynnwys awgrymiadau am bob math o lyfrau all wneud i bobol deimlo’n well wrth eu darllen, a hyd yn hyn maen nhw’n amcangyfrif fod tua tri chwarter miliwn o bobol wedi manteisio ar y cynllun.

Mae ’na ddigon o dystiolaeth sy’n awgrymu fod darllen yn llesol i chi, ac i ategu hynny cyhoeddodd y National Literacy Trust yn ddiweddar ganlyniadau arolwg eang o 50,000 o blant a phobol ifanc oedd yn dangos fod y rhai oedd yn mwynhau darllen, at ei gilydd, yn fwy bodlon eu byd na’r rhai nad oeddan nhw byth yn agor llyfr.

Yn bersonol, mae unrhyw lyfr dwi’n cael blas arno fo yn codi ’nghalon i, waeth be’ ydi’r testun. Yn ei blog ‘Yn mwydro am lyfrau – plant yn bennaf’ (gwanas. wordpress.com) mi luniodd Bethan Gwanas restr o lyfrau sy’n codi ei chalon hithau, ond mi roedd hi’n ei chael hi’n anodd meddwl am lawer o lyfrau Cymraeg oedd yn gwneud hynny (wnaeth hi ddim enwi ei llyfrau hi ei hun, a bod yn deg). Roedd yn teimlo fod awduron Cymraeg yn tueddu i ‘fynd am y tywyllwch’, ond roedd yn barod i gael ei chywiro. Dyma ambell awgrym.

Dros yr haf mi wnes i ailddarllen Un peth ’di priodi, peth arall ’di byw (1990) gan Dafydd Huws, a chwerthin yn uchel wrth wneud hynny. Mi wnes i wirioni ar Dyddiadur Dyn Dwad (1978) pan gafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf, ac mi fedra i fynd yn ôl at ei lyfrau fo dro ar ôl tro i fwynhau’r clyfrwch geiriol a’r dychan crafog. Ac mae hynny yr un mor wir am lyfrau Eirwyn Pontshân. Dwi wrthi’n darllen ei gyfrol Twyll Dyn (1981) unwaith eto, ac mae’r straeon, y penillion a’r athronyddu yn dal i godi gwên dri deg saith o flynyddoedd ers i mi eu darllen am y tro cyntaf. Lyn Ebenezer sydd wedi cofnodi straeon Pontshân, ac mae ei lyfr diweddar am gymeriadau Pontrhydfendigaid, Meini Llafar (2018), yn wych, yn union fel Cofion Cynnes (2008), casgliad o bortreadau o ffrindiau a chydnabod. Dau glasur sydd cystal bob tamaid â gwaith Joseph Mitchell.

Ond os ydach chi angen rwbath i godi’ch calon o ddifri, ewch i mewn i unrhyw siop sydd â stoc dda o lyfrau Cymraeg cyfoes. Dwi’n rhyfeddu pa mor gynhyrchiol ydi’n hawduron, a pha mor amrywiol ydi’r cynnyrch. Amser i godi ’nghap unwaith eto, a chael seibiant haeddiannol i ddarllen am y pedwar mis nesaf.


Llun: gan Therese Mitchell


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Un o fy hoff lyfrau ydi ‘Up in the Old Hotel’, casgliad o ysgrifau gwych a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y ‘New Yorker’ gan Joseph Mitchell, rhwng 1938 a 1964

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…