Dadansoddi

Cymdogion caled


Nerys Williams

Amser darllen: 12 munud

30·11·2018

Gogledd Iwerddon, Awst 1969

 

Y bardd Nerys Williams sydd yn myfyrio ar oblygiadau Brexit wrth groesi’r ffin o’r Weriniaeth i Ogledd Iwerddon.

✒︎

Wrth gyrraedd pen fy nhaith, teimlaf ar chwâl braidd. Rwyf wedi teithio o Ddulyn i gyfarfod gwaith yng Ngogledd Iwerddon. Newidiais drên yn Belfast gan ddal un arall i Coleraine.

Ers imi ymgartrefu yng Ngweriniaeth Iwerddon dyma’r pwynt mwyaf gogleddol i mi deithio iddo. Caf fy nghyfarch i ddechrau gan arwyddion digon cyfeillgar yn hysbysebu distyllfa whisgi Bushmills. Sylwaf wedyn ar hysbýs ‘Taith Dywys Game of Thrones Arfordir y Gogledd’, sy’n cychwyn o Railway Place, Coleraine. Ac yn ystod yr ymweliad, wrth glywed sgyrsiau uchel eu cloch uned ffilmio uwch clindarddach fy mrecwast motél, caf f’atgoffa mor bwysig y bu llwyddiant y gyfres ddrama ffantasi Americanaidd hon i Ogledd Iwerddon. Yma yn Coleraine, ceir nifer o elfennau sy’n agos at yr asgwrn i mi, yn adleisio fy magwraeth yng ngorllewin Cymru. Mae hon yn ardal sy’n dibynnu ar dwristiaeth i gynnal yr economi leol.

I’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r profiad o groesi’r ffin o’r Weriniaeth i Ogledd Iwerddon, mae’n werth nodi nad oes unrhyw dystiolaeth weledol ohoni. Dim wal, dim ffens fetel. Mae’r tyrau diogelwch wedi hen fynd. Yr unig arwydd i’r teithwyr yw’r newid yn y rhwydwaith ffôn. Yn y cerbyd trên, clywir y negeseuon yn seinio i hysbysu defnyddwyr o groeso’r darparwr newydd. Wrth edrych tuag allan, synhwyrir peth newid cyfeiriad, ond dim byd mwy na hynny: trwy ffenest y trên, gwelir fformat platiau cofrestru ceir yn addasu, ac arwyddion gorsafoedd yn symud o’r arwyddlun Iarnród Éireann i Northern Ireland Railway.

Buddsoddodd yr Undeb Ewropeaidd symiau sylweddol dros y degwad diwethaf yn ymestyn y llwybr trafnidiaeth Ewropeaidd E01 i gynnwys ffordd Rosslare, Co Wexford (ROI) i Larne, Co Antrim (NI). Amcangyfrifir bod tri chan prif bwynt croesi, gan gynnwys pwyntiau croesi ychwanegol ond llai amlwg, ar hyd y ffin 310 milltir o hyd. Amrywia’r traffig sy’n croesi’r ffin hon o gonfois lorïau o dir mawr Ewrop i deithiau cymudwyr; o ffermwyr yn symud da byw a thractorau i ymweliadau teuluol lleol.

Yn ôl cyfrifiad 2016, roedd 9,336 o bobl yn croesi’r ffin i fynd i’r gwaith neu i’r ysgol bob dydd. Ar hyn o bryd, llifa’r traffig yn ddidramgwydd. Os ydych yn teithio mewn car, digon posib y bydd y newid o’r naill wlad i’r llall yn cael ei nodi ar ochr y Deyrnas Gyfunol gan ddyrnaid o arwyddion ‘Welcome to Northern Ireland’. Unwaith, gwelais ddau gar patrol Garda ar gefn lorri o Belfast yn cael eu cario i’r ddinas i gael gwasanaeth. Mae’r ddelwedd hon yn cyfleu mor rhwydd yw’r teithiau trawsffiniol hyn; mae’n olygfa na fyddai modd ei dychmygu yn ystod yr Helyntion, y Troubles, sef y gair mwys a arferid i gyfeirio at y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon.

Er nad yw hi’n ddinas mor amrywiol â Dulyn o ran hil ac ethnigrwydd, mae Belffast wedi datblygu yn ddinas gosmopolitaidd. Serch hynny, wrth gerdded yn Coleraine am y tro cyntaf, mae’r profiad o groesi’r ffin y tro hwn yn teimlo’n neilltuol wahanol i fy nghrwydradau blaenorol. Addurnwyd canol tref Coleraine â baneri Jac yr Undeb. Mae fy mhasbort gen i hefyd, pasbort Prydeinig; gofynnir i’r brifysgol gadw cofnod, llungopi o fy hunaniaeth, fel mater o brotocol er mwyn gallu fy rhoi ‘yn system y Deyrnas Gyfunol’. Ond, er hynny, teimlaf yn anghysurus. Mae hon yn faner nad oes modd i mi uniaethu â hi, baner sy’n gynyddol estron i mi.

Wrthi’n cael ei brosesu, yn y peirianwaith biwrocrataidd, mae fy nghais am ddinasyddiaeth Wyddelig; rwyf yn un o’r rhes ddi-ben-draw o unigolion sy’n aros i glywed. Yn y Weriniaeth, fel rhan o ddathliadau chwaraeon, ar fflagiau tafarndai, neu i fframio adeiladau sefydliadol y daw’r tricolor allan. Ond yn Coleraine roedd pob siop y pasiais heibio iddi â Jac yr Undeb reit uwchben y ffenest. Mae’n f’atgoffa o Jiwbilî Arian y frenhines pan gafodd f’ysgol gynradd ei martsio i lawr i’r stryd fawr i aros am yr orymdaith geir frenhinol, pob un ohonom yn cario baner fach. Meddyliodd un o fy ffrindiau iddi weld llaw welw yn chwifio’n ôl arni, wrth i res o geir ruthro heibio ar wib i dref Gymreig fwy o faint, mwy pwysig. Ond ni welais erioed gynifer o faneri Jac yr Undeb mewn un lle â’r tro hwn, ar f’ymweliad cyntaf â Coleraine.

Pan wnaf ryw sylw distaw wrth gydweithiwr o’r Deyrnas Gyfunol ynghylch nifer y baneri, dywed mai dyma’r norm iddo bellach, ei bapur wal beunyddiol. Nid yw’n sylwi ar y baneri mwyach. Ond mae’n ychwanegu ei fod yn dehongli hyn fel ‘a hyperreal presentation of British identity’; mewn geiriau eraill, hunaniaeth teyrngarwyr Wlster sy’n ‘benderfynol o fod yn fwy Prydeinig na Phrydain ei hun’. Mor anwadal yw’r term ‘Prydeinig’: i rai, mae’n golygu nostalgia neu hiraeth, hyd yn oed system gred; i eraill, mae’n safbwynt gwleidyddol gwrth-fewnfudwyr, wedi ei gynghreirio â grwpiau ffasgaidd poblyddol.

✒︎

Prysuraf i ddweud nad sylwebydd gwleidyddol mohonof. Rhan o bleser fy ngwaith yw darllen a dadansoddi barddoniaeth. Prin fod hynny’n fy ngwneud yn byndit Brexit parod. Serch hynny, mae unrhyw un sy’n gyfarwydd â barddoniaeth fodern a chyfoes Iwerddon yn dod i synhwyro’n gyflym gymhlethdodau ffiniau ar yr ynys hon. Hyd yn oed wrth ddarllen gwaith Paul Muldoon, Mary O’Malley, Paula Meehan neu, wrth gwrs, yr enillydd Gwobr Nobel Seamus Heaney, mae’n amlwg fod hunaniaeth Wyddelig (Gogledd a De’r ynys) yn negodi’n barhaus, yn ymgyfarfod ac yn ymgomio â’i gorffennol trefedigaethol. I’r beirdd hyn, mae iaith bob amser wedi ei chodio ac wedi ei llwytho ag elfennau o drawma. Gwerth cofio y gall cerddi gloddio archaeoleg y gorffennol, a chwestiynu’r hanes y dônt o hyd iddo.

Ond mae’n amlwg i mi nad yw’r un o’r ‘bytis’ Brexit – y cyn-bennaeth negodi David Davies, yr agent provocateur Boris Johnson a’r neo-con Jacob Rees Mogg – wedi darllen unrhyw farddoniaeth o gyfnod Helyntion Gogledd Iwerddon. Ac ar yr olwg gyntaf, ymddengys na wyddant y nesaf peth i ddim am hanes yr ynys.

Wedi misoedd o wrando ar safbwyntiau gwneud wyneb-galed, deuthum i’r casgliad mai darn i’w berfformio yw Brexit – cabaret, cystadleuaeth ddadlau mewn ysgol fonedd; i’r gwleidyddion hyn a’u tebyg, mae’n gyfle i brofi rhagdybiaethau, i greu rhwygiadau ac i ddiarddel. Gwaeddant en garde a ffoi, gan grechwenu yn y modd y gall y rhai ag awdurdod yn unig ei wneud.

Mae’r chwalwyr hyn yn gyfarwydd, wrth reswm, â hanes Iwerddon, ond does yr un ots ganddynt. Hwylusir eu tasg i gynnal mwyafrif yn y senedd gan yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’r Weriniaeth yn fwch dihangol defnyddiol, yn yr un modd â’r Undeb Ewropeaidd. Ailgodwyd yr ‘Irish Problem’.

Mae’r agwedd ddiofal, gafaliraidd hon tuag at weriniaeth ddemocrataidd yn gwbl amlwg. Cyhoeddodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Andrew Ridgen, wrth gael ei gyfweld ar Morning Ireland RTÉ ar 18 Medi 2018, mai’r unig ateb atyniadol i Weriniaeth Iwerddon yw ei bod hithau’n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Dylwn fod wedi fy synnu – ond, yn anffodus, nid oedd clywed y geiriau hyn yn syndod i mi. Dyma safbwynt sydd wedi ei hyrwyddo gan ‘oleuwyr’ megis Nigel Farage ac Ian Paisley Jr ac a gaiff ei farchnata’n ddyddiol ar Twitter.

✒︎

Ynghanol honiadau ffug, gwrth-honiadau ffug, bygythion gwag a dryswch, sef prif elfennau figure eight Brexit, mae’n bwysig ein hatgoffa’n hunain o rai ffeithiau sylfaenol. Yn refferendwm y Deyrnas Gyfunol yn 2016, ni phleidleisiodd Gogledd Iwerddon o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiwyd o blaid aros, o fwyafrif o 56% i 44%. Mae’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon yn bodoli, wrth gwrs. Serch hynny, mae’r ffin hon wedi ei thawelu gan broses heddwch hirfaith a arweiniodd at Gytundeb Belfast 1998 (Good Friday Agreement). Nid oes modd, trwy ddychymyg a lledrith, ei gorfodi i ddiflannu’n gyfan gwbl. Ac yn ôl asesiad yr Undeb Ewropeaidd, wrth i mi ysgrifennu’r ysgrif hon, nid oes technoleg ddigonol nac ateb ymarferol wedi ei gyflwyno gan y Deyrnas Gyfunol fyddai’n ail-greu’r ffin lefn, ‘anniffiniadwy’ hon wedi Brexit. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ei gwneud yn glir o’r dechrau nad oes modd trafod masnach tan bod eglurder a chyfamod ar y cytundeb ‘ôl-stop’ (‘backstop’) ar gyfer Iwerddon. Roedd y cytundeb ‘ôl-stop’ a gytunwyd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Gyfunol ym mis Rhagfyr 2017 yn nodi y byddai Gogledd Iwerddon, yn absenoldeb unrhyw ateb arall ar gyfer y Ffin, yn aros i bob pwrpas o fewn undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd.

Os nad oes cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd – a phwy a ŵyr beth fydd y sefyllfa erbyn i’r ysgrif hon ddod o’r wasg – mae’n debyg na fydd y Deyrnas Gyfunol yn rhan o unrhyw undeb tollau. O ganlyniad, bydd yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd sefydlu system wirio a monitro. Ceir pryder y byddai baich y cyfrifoldeb hwnnw, yn arbennig patrolio tollau, yn disgyn ar ysgwyddau’r Weriniaeth. Cyhoeddodd y Taoiseach Leo Varadkar ym mis Gorffennaf ei bod yn fwriad gan y Weriniaeth i gyflogi oddeutu mil o archwilwyr tollau ac archwilwyr milfeddygol newydd, i baratoi porthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon ar gyfer Brexit. Yn y cyfamser, yn ei hareithiau, rhoddodd y Prif Weinidog Theresa May addewid fwy nag unwaith y bydd diwedd ar ddylanwad a rheolaeth Llys Cyfiawnder Ewrop dros y Deyrnas Gyfunol wedi Brexit: ‘We will take back our laws.’ Ond yng Nghytundeb Belfast dyfynnir Llys Cyfiawnder Ewrop fel un o’r sefydliadau allweddol. Byddai tynnu’n ôl o awdurdod Llys Cyfiawnder Ewrop hefyd yn golygu dad-wneud y cytundeb hwn, cytundeb sy’n gwarchod heddwch Gogledd Iwerddon.

Mae Erthygl 2 yng Nghyfansoddiad Iwerddon yn nodi:

It is the entitlement and birth right of every person born in the island of Ireland, which includes its islands and seas, to be part of the Irish Nation. That is also the entitlement of all persons otherwise qualified in accordance with law to be citizens of Ireland. Furthermore, the Irish nation cherishes its special affinity with people of Irish ancestry living abroad who share its cultural identity and heritage.

Yn fyr, mae pawb sydd wedi eu geni ar ynys Iwerddon â hawl i gael pasbort Gwyddelig, sydd hefyd yn rhoi’r hawl iddynt gael Dinasyddiaeth Ewropeaidd. Un o’r cynigion deublyg mwyaf amheus a glywais yw y bydd yr opsiwn hwn yn dal ar gael yn dilyn Brexit ar gyfer yr Undebwr mwyaf croch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, hyd yn oed mewn sefyllfa lle nad oes cytundeb. Dylid cofio hefyd, er gwaethaf taerineb yr Undebwyr o blaid cael cysondeb â’r Deyrnas Gyfunol ym mhob mater cyfansoddiadol, fod erthylu’n parhau’n anghyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon. Er i’r Wythfed Diwygiad yng Nghyfansoddiad Iwerddon gael ei ddileu yn sgil y refferendwm yn y Weriniaeth yn 2018, cyfreithloni erthyliad mewn rhai achosion yn unig mae hyn yn ei olygu. Mae hefyd yn werth nodi bod arolwg diweddar gan yr OECD (Mawrth 2018) wedi casglu y byddai rhai gwledydd, gan gynnwys Iwerddon, yn cael eu heffeithio’n waeth gan Brexit caled na’r Deyrnas Gyfunol ei hun. Yr effaith fwyaf, mae’n debyg, fyddai crebachu sylweddol mewn allforion. Yn Iwerddon, rhagwelir crebachiad o 20% yn allforion crynswth (‘gross exports’) y diwydiant bwyd ac amaeth.

Wrth siarad â ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymdogion, mae’n amlwg mai un o’r prif ofidiau yw y byddai Brexit caled neu Brexit heb gytundeb yn arwain at ddirwasgiad yn y Weriniaeth. Ddegawd wedi cwymp economaidd Iwerddon yn 2008, mae’r Weriniaeth yn dal i wynebu’r goblygiadau ysgytiol. Cawsom ein hatgoffa’n ddiweddar mai Iwerddon yw’r drydedd wlad fwyaf ei dyledion yn y byd datblygedig ar hyn o bryd, a’i dyled yn €201 miliwn. Mi ddaeth yr IMF ac fe roddwyd cymorth ariannol i’r banciau (am gost o €37 biliwn i drethdalwyr Gwyddelig); fe aeth rhai bancwyr, wedi proses gyfreithiol hirfaith, i’r carchar. Ond dim ond nawr mae modd dechrau asesu effaith enbyd yr hirlwm ar deuluoedd, ar bobl dan anfantais a’r ifanc. Cafodd cyflogau’r rhai a gadwodd eu swyddi yn y sector gyhoeddus eu torri o draean. Disgynnodd prisiau tai i hanner eu gwerth. Yn ddistaw ac yn llechwraidd, o lech i lwyn, lapiwyd drwgddyledion Iwerddon a’u gwerthu i’r prynwr cyntaf. Mae lleibwyr cyfalafol wedi gwneud, ac yn dal i wneud, eu ffortiwn yma. Doedd dim modd i’r myfyrwyr ifanc, afieithus, y dysgais lenyddiaeth Americanaidd iddynt yn 2008 fforddio aros a pharhau â’u hastudiaethau. Gadawodd llawer, rhai i Awstralia a’r Unol Daleithiau, eraill i gyfandir Ewrop a’r Deyrnas Gyfunol. Aeth pethau’n iawn i ambell un, yn well nag i’r rhai a arhosodd a chymryd unrhyw swydd oedd ar gael ar gytundeb sero awr, mewn anobaith. Roedd fel petai pob cyfle i dyfu a datblygu wedi ei fygu. Generation Limbo.

✒︎

Ychydig o gysur y mae geirfa ac ieithwedd Brexit yn ei gynnig i ynys sy’n effro i’w hanes ôl-drefedigaethol. Mae rhethreg y Prif Weinidog Theresa May yn anelu at gyfleu llymder – caledwch ac awdurdod ‘No Deal’ – a dychwelyd at yr ysbryd imperialaidd yn yr ymadrodd annelwig ‘Global Britain’. Nid wyf erioed wedi gwylio’r Game of Thrones, ond yr argraff a gaf yw ei bod yn ddrama waedlyd a threisgar, yn ymarferiad mewn gwleidyddiaeth Faciafelaidd. Mae’r dillad yn ymddangos yn odidog, eu prostheteg yn ysblennydd. Ac mae’r tirlun Gogleddol ‘go iawn’ fel petai wedi ei seiffro yn y ffilm, yno i’n hatgoffa.

Yn ddiweddar, datblygodd yr Aelod Seneddol Llafur Steve Pound, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Iwerddon, yr enw o fod yn dipyn o arwr yn y Weriniaeth, hynny wedi wyth deg eiliad o eiriau croyw ac angerddol ar Channel Four News, am beryglon sobreiddiol anwybyddu mater y ffin. Cyhoeddodd, ‘This is life and death to the people of Ireland’, cyn ychwanegu y byddai diogelu’r ffin yn gofyn am ‘amddiffynwyr’ ac y byddai’r rhain yn sicr o fod yn dargedau. Ymhlyg yn ei eiriau yr oedd yr ymwybyddiaeth y byddai rhai o’r amddiffynwyr hyn yn anorfod yn cael eu clwyfo. Pe bai hynny’n digwydd, gallai dynion a merched ifanc o Gymru fod ymhlith y meirw.

Ger y dref lle mae fy nghartref, yn Kells, Co Meath, mae cors Oristown. Ysgubir y gors yn gyson gan yr heddlu, i chwilio am ‘y diflanedig’. Dyma etifeddiaeth barhaus sectyddiaeth Helyntion Gogledd Iwerddon. Yng nghysgod Brexit, yr ofn yw y gallai’r dyddiau tywyll hynny ddychwelyd.


Mae Nerys Williams yn ddarlithydd yn Adran Saesneg Coleg Prifysgol Dulyn.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Darn i’w berfformio yw Brexit, cabaret, cystadleuaeth ddadlau mewn ysgol fonedd

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Sioned Puw Rowlands

Wrth edrych am yn ôl i'r saithdegau a thurio cof plentyndod, synhwyraf bâr o lygaid yn serio'r tywyllwch. Ymhlith y gwmnïaeth a aeth yn bapur wal ymwybod wrth i mi aeddfedu, ynghanol cymdeithas ddigon ecsentrig Mary Vaughan Jones, gwelaf lygaid dolefus a phenderfynol…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae Gwn Glân Beibl Budr yn albwm sydd yn cydio yn eich calon o’r dechrau un ac yn gwrthod llacio gafael tan y nodyn olaf. Mae i’r caneuon hyn deimlad elfennol, oesol. Dyma albwm tywyll, dirdynnol; mae’n gynnil ac yn treiddio i’ch cwsg, yn tarfu ar eich…

Adolygu


Ceri Williams

Nodweddir perfformiadau Public Service Broadcasting gan gyfuniad unigryw o gerddoriaeth roc electronig egnïol a ffilmiau archif gwreiddiol – 'think Pathé meets Pet Shop Boys,' meddai'r Guardian. Trefnwyd y daith ddiweddaraf, a ddaeth i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe yn yr hydref, ar gefn llwyddiant yr albwm Every Valley.

Dyma un…

Dadansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Alla’i ddim bod yn sicr pryd oedd y tro cyntaf i mi glywed y dawn chorus yn iawn. Rwy’n siŵr fy mod i’n ymwybodol o’r ffenomen cyn i mi glywed y peth ei hun. A hynny, dybiwn i, oherwydd bod yr ymadrodd yn un sy’n gafael.…

Cyfansoddi


Giacomo Leopardi

Cyhoeddir ar ddiwrnod Santes Dwynwen eleni gyfieithiad Saesneg newydd o gasgliad o feddyliau a gwirebau un o awduron mwyaf nodedig yr Eidal, Giacomo Leopardi (1798-1837). Mae Leopardi fwyaf adnabyddus am ei gasgliad o gerddi, Canti (1835), a ystyrir yn un o binaclau llenyddiaeth Eidaleg. Dywedodd Italo Calvino amdano: 'Yr hyn sy'n wyrthiol am…

Dadansoddi


Morgan Owen

Pan symudais, dros dro, i ogledd-orllewin Cymru i fyw mewn cymuned Gymraeg lle mae’r iaith i’w chlywed o hyd yn hollol naturiol – i’r ‘Fro Gymraeg’, beth bynnag yw honno – darganfûm rywbeth annisgwyl: fy mod ers blynyddoedd wedi bod yn atal a chladdu fy nghefndir, sef y Cymoedd.…

Adolygu


Rhys Watkin

Cyflwynwyd cyngerdd o weithiau gan Ralph Vaughan Williams, Lili Boulanger, a’r Gymraes Rhian Samuel gan Gerddorfa Symffoni’r Coleg Cerdd a Drama fis Tachwedd, ar y thema ‘tirluniau’. Roedd cysgod Sul y Cofio a’r Rhyfel Mawr yn drwm ar y rhaglen, a gynhwysai The Lark Ascending (1914) a…

Dadansoddi


Qing Niao

Y diwrnod hwnnw, mi es i fy hen ysgol uwchradd. Dilynais yr un llwybr ag yr arferwn droedio’n ystod fy nhair blynedd yn ddisgybl yno. Bob haf, mae’r sefydliad hwn yn agored am fis ychwanegol ar gyfer y disgyblion sydd ar fin dechrau ar eu…