Dadansoddi

Cymru 2017


Amrywiol

Amser darllen: 15 munud

28·02·2017

(Cyfraniadau yn nhrefn yr wyddor, yn ôl cyfenw'r awdur)

 

Codi’r hen farcud yn ei ôl – Jon Gower

Rai dyddiau’n ôl – wrth i'r Mis Bach ddirwyn i ben – aeth un o fy merched, Onwy, a minnau i ymweld â fferm Gigrin, y tu allan i Raeadr Gwy, i weld y barcutiaid yn cael eu bwydo.

Am ddau o’r gloch, gyrrodd yr amaethwr sy’n berchen y lle ei dractor i ddarn o dir corsiog â mur pren o arsyllfeydd ar ei ochr ddeheuol. Roedd ugeiniau o bobl yn eistedd yno, yn drymlwythog â binocwlars a thelesgopau. Nid bod angen y rhain i weld na mwynhau'r sbectacl anhygoel – cannoedd o adar ysglyfaethus yn troelli ac yn chwyrlïo wrth ddisgyn o’r nen tuag at y cig a wasgarwyd ymysg y brwyn a’r borfa.

O ystyried bod y rhywogaeth yma wedi crebachu i’r fath raddau fel mai un aderyn unigol oedd ar ôl yn y saithdegau, yn byw bywyd unig yn Nyffryn Tywi – tan i aderyn arall gyrraedd ar hap o’r Almaen i edrych am gymar – efallai ei bod yn hen bryd dathlu’r stori anhygoel hon o fyd cadwraeth. Diolch i ymdrechion ffermwyr a chadwraethwyr a warchodai’r nythod rhag lladron wyau, tyfodd y boblogaeth i’w lefelau presennol ac mae’r barcud i’w weld nawr o Fôn i Fynwy.

Efallai ei bod yn hen bryd hefyd i ni drafod cael aderyn cenedlaethol swyddogol – yn fathodyn ac yn symbol o lwyddiant prin ym myd gwarchodaeth.

 

Golwg o’r tu allan – Eluned Gramich

Ers dechrau'r flwyddyn, mae'r awyrgylch yn yr Almaen wedi bod yn gymysgedd o syndod ac anghrediniaeth. Mae’n ddigon tebyg i wrando ar stori arswyd sy’n cael ei hadrodd gan ffrind – un mor ofnadwy nes prin y gellir chwerthin arni. Na, all hynny ddim bod yn wir; allen nhw fyth fod wedi pleidleisio dros Brexit, dros Trump, dros wahardd Mwslemiaid! Mae un o’m myfyrwyr yn dweud wrthyf na fydd Ffrainc byth yn pleidleisio dros Marine Le Pen. Optimistiaeth yr Almaenwr! Atebais innau: ydych chi'n siŵr am hynny? Ei ateb: Absolut!

Ac eto. Ac eto, ni welsom Brexit ar y gorwel ac ni fyddwn i wedi credu erioed y byddai dinasyddion yr UE yn cael eu gorfodi i adael y wlad. Wnes i erioed feddwl y byddwn yn gweld fy nhad, Almaenwr a fu’n byw yng Nghymru ers 1987, yn gorfod llenwi ffurflen 85-tudalen o hyd i gyfiawnhau ei bresenoldeb parhaus yn ei wlad fabwysiedig. Yn briod â Chymraes, yn weithiwr cymdeithasol sy’n gofalu am yr henoed, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae fy nhad wedi ymroi i fyw yng Nghymru. Ac eto cafodd ei gais cyntaf am gael aros yng Nghymru ei wrthod. Cadwodd y Swyddfa Gartref ei basport am bedwar mis cyn anfon llythyr ato i ddweud bod ei gais wedi methu.

Heddiw, yn ara’ deg, mae hi’n bosib gweld pa mor ansicr yw sefyllfa dinasyddion yr UE ym Mhrydain; mae cannoedd eisoes wedi cael gorchymyn i baratoi i adael y wlad. Oni bai fod gennych ddigon o arian yn y banc, nid yw’r Swyddfa Gartref yn debyg o ystyried eich cais yn ffafriol. Mae’n rhaid twrio drwy flwyddyn ar ôl blwyddyn o ffurflenni treth ond, yn y diwedd, yr hyn sy’n amlwg yw taw arian, nid teulu, plant, cymdeithas neu unrhyw gyfraniad at fywyd y gymuned sydd yn sicrhau eich bod chi’n cael aros yn y DG. Efallai na ddylai hyn fod yn syndod gan lywodraeth Geidwadol ond y mae’n drist, serch hynny.

Am fy mod i'n byw yn yr Almaen, rwy’n gweld pethau'n gliriach mewn rhai ffyrdd; ond mae’r olwg eglur hon yn fwy poenus mewn ffyrdd eraill. Rwy’n dychwelyd i Gymru ac yn gweld llun o Churchill ar y papur pum punt a sioeau megis ‘SS-GB’ ar y BBC; mae’r pethau hyn yn gwneud i mi deimlo'n ofidus iawn. Ni allaf eu gweld heb feddwl mai propaganda ydyn nhw i wneud i bobl deimlo'n hapusach â’u penderfyniad i adael Ewrop. Mae'r DG yn ailadrodd buddugoliaethau’r gorffennol yn ddiddiwedd heb wir sylweddoli beth sy'n digwydd yn y presennol. Nid problem Lloegr yn unig yw hynny; yng Nghymru, hefyd, mae 'na dynfa yn ôl at wleidyddiaeth y gorffennol, at y brwydrau hynny yr oeddwn yn credu ein bod wedi eu hennill eisoes. Mae'r llithrad hiraethus yn ôl i'r 1940au fel baglu wrth gerdded i fyny'r allt a sylweddoli eu bod nhw yn aros amdanat ar y gwaelod: y criw hiraethus, y rhai sy’n gweld Ewrop fel cyfandir estron ...

Na. Dwi'n gwybod yn iawn: dyw hi ddim mor syml â hynny. Mae problemau o dan yr wyneb a anwybyddwyd am gyfnod hir ac, yn awr, mae'n rhaid i ni fyw â chanlyniadau hynny. Ond ni allaf beidio â meddwl tybed nad yw’r gwladgarwch Prydeinig hwn a’r teimladau gwrth-UE yn rhan o fethiant Prydain i ddysgu hanes cytbwys, hanes nad yw’n Eingl-ganolog? Mae cludo disgyblion i feysydd y gad yng ngogledd Ffrainc ar dripiau ysgol yn eu helpu i gofio'r rhyfel – ond maent hefyd yn atgyfnerthu iaith sefydledig y ni a’r nhw, y cynghreiriad a’r gelyn.

Beth bynnag, mae cais fy nhad wedi cael ei anfon i ffwrdd unwaith eto. Cawn weld beth fydd yr ateb.

Aberdaron | Owen Martell

 

Nid yw’r canol yn dal ...’ – Robat Gruffudd

A'r tyranosor Prydeinig yn taro ei rechiadau olaf, ry'n ni i gyd yn cuddio'n pennau yn y gobaith na fydd ei gynnyrch gwlyb, gwyntog a gwaedlyd yn syrthio'n gawod ar ein pennau. Ond rhaid gwneud mwy na gobeithio. Gwers fwyaf y misoedd diwethaf yw na allwn ni aros i ddigwyddiadau gwleidyddol allanol syrthio'n wyrthiol i batrwm sy'n ffafriol i ni. Rhaid i ni afael yn hyderus a digyfaddawd yn ein tynged ein hunain, fel unigolion ac fel Plaid (trist, gyda llaw, oedd gweld hyd yn oed Tony Blair yn gwneud safiad cliriach ar Ewrop na Phlaid Cymru).

Yeats soniodd am ddarnau'n mynd ar chwâl wrth i'r canol fethu â dal a dyna sy'n digwydd wrth i Theresa May wario £205 biliwn ar Trident yn hytrach nag ar iechyd a lles ei phobl. Ond mae gwendid y canol yn rhoi cyfle i'r cyrion, ac mae hen ymrwymiadau'n llacio, a phobl yn chwilio am hunaniaethau newydd.

Profiad gwych i ni yn Y Lolfa oedd cael croesawu Carolyn Hodges, un o uwcholygyddion Gwasg Prifysgol Rhydychen i'n plith yn ddiweddar. Roedden ni'n awyddus i iaith fewnol Y Lolfa beidio â newid o gwbl ac wedi gofyn (heb fod yn optimistaidd) am rywfaint o Gymraeg llafar. Ond doedd dim rhaid i ni boeni. Roedd hi eisoes wrthi'n dysgu'r iaith ac, yn ei chyfweliad uniaith Gymraeg, dywedodd ei bod wedi penderfynu troi'n Gymraes, gan nad oedd y syniad o fod yn Brydeinwraig yn apelio dim ati mwyach.

Manteisiwn ar y cyfleoedd y bydd chwalfa y bwystfil Prydeindod yn eu cynnig. Dymunwn yn dda i'r Alban – ond gwnawn fwy na hynny, hefyd.

 

Gweiddi a gwneud – Sara Huws

Y diwrnod ar ôl pleidlais Brexit mi es i gerdded yn y twyni ac i weiddi ar y môr ym Merthyr Mawr. ‘Mae gan Nigel Farage glustiau march!’ gweiddais. Neu rywbeth tebyg, na ellid ei gyhoeddi ...

Syrthiais ar fy ffordd yn ôl a dwi’n dal yn gloff heddiw. Felly mae’r teimlad o fod yn sownd wedi bod yn real iawn ers y diwrnod tyngedfennol ’na ym mis Mehefin. Wrth i’r gwanwyn gyrraedd, mae’n anodd dweud faint o’r blinder a’r syrthni gaeafol sy’n eiddo i mi fy hun a fy nghoes giami a faint ohono sydd yn deillio o’r byd y tu allan, wrth i arswyd ar ôl arswyd lifo heibio ar sgrin fy ffôn.

Yn fwy nag erioed, dwi wedi cael cysur mewn hanes ac mewn crefft: dau faes lle mae gwneud, dad-wneud ac ail-wneud yn gysur distaw.

Yn fy ngwaith efo’r East End Women’s Museum dwi’n cael ymchwilio a rhannu hanesion menywod sydd, dros y canrifoedd, wedi ymgyrchu, brwydro – ac ennill. Dwi’n cael dysgu gan ymgyrchwragedd ifainc sy’n brwydro yn erbyn toriadau i wasanaethau menywod – ac yn ennill heddiw, hefyd. Beth bynnag fo’n amgylchiadau, gall hanes roi esiamplau i’n deffro a’n cyffroi, yn ogystal â moeswersi am unbeniaid.

Pan fydda’ i’n edrych trwy gasgliadau amgueddfeydd am hanesion menywod, eu gwaith llaw sy’n effeithio arna i. Mae yna gymaint o wrthrychau cain, ystyrlawn, di-enw a gynhyrchwyd yn ystod cyfnodau dyrys iawn ... yn ogystal ag mewn cyfnodau gobeithiol. O faneri’r swffragetiaid Cymreig i faner ‘IE’ eiconig Mary Lloyd Jones, dyma’n gwaddol ni, ferched Cymru: byw drwyddi a gwneud.

 

Tri pheth i godi gwên – Efa Gruffudd Jones

Ar ddiwrnod Gŵyl Ddewi, dyma nodi tri pheth sydd wedi fy ngwneud yn hapus yn ddiweddar …

Y Gymraeg yn ‘Lush’

Cael gwasanaeth Cymraeg hyfryd gan weithwraig yn siop Lush Caerdydd yr wythnos ddiwetha’. Roedd ganddi fathodyn pert yn dweud ei bod yn gallu siarad Cymraeg – roedd hi’n ei wisgo ers diwrnod yn unig ac yn methu â chredu faint o bobl oedd wedi dechrau sgwrs yn Gymraeg gyda hi. Roedd hi’n berson ifanc llawn asbri ac wrth ei bodd yn cael cyfle i siarad Cymraeg – mae’n amlwg, hefyd, bod llawer o siaradwyr Cymraeg, fel minnau, yn mwynhau siopa yn Lush!

Dysgwyr brwd Gwent

Mynd i seremoni wobrwyo i ddysgwyr y Gymraeg yng Ngwent a gweld llond y lle o bobl wrth eu bodd yn cael dathlu eu bod nhw’n dysgu Cymraeg. Roedd rhai yn dysgu er mwyn siarad gyda’u plant a’u hwyrion, eraill yn dysgu er mwyn gwybod am eu hanes a sawl un yn dysgu er mwyn dysgu. Ond waeth beth oedd eu cymhellion, roedden nhw i gyd yn mwynhau ac yn ymfalchïo yn yr hyn yr oedden nhw wedi llwyddo i’w ddysgu.

Lawr ar lan y môr

Crwydro tref Dinbych-y-Pysgod – gweld gogoniant y môr a’r arfordir – a bwyta pysgod a sglodion. Clywed wedyn am yr ysgol Gymraeg newydd sy’n agor yno – ‘Ysgol Hafan y Môr’ – felly, gyda lwc, caf wasanaeth Cymraeg yno hefyd cyn bo hir!

 

Paent yn sychu – Rhys Mwyn

Lle mae Cymru arni heddiw yn 2017? O ran diwylliant cyfoes, mae (rhai) pethau yn sicr wedi symud ymlaen dros y degawdau diwethaf, ond atgoffir rhywun yn ddyddiol (unrhyw un sydd yn credu mewn chwyldro, hynny yw) ei bod yn broses boenus o ara’ deg. Geiriau David R Edwards (Datblygu) sydd yn ein deffro o’n trwmgwsg: ‘Ma’ byw yng Nghymru ’run peth â syllu ar y paent yn sychu, ar y gwair yn tyfu’.

Araf | Owen Martell

Rwyf wedi treulio ymhell dros hanner fy mywyd yn ‘gwrthryfela’ er mwyn creu gwrth-ddiwylliant Cymraeg gan obeithio dilyn llwybrau rhai fel Gwilym Cowlyd a beirdd Arwest Glan Geirionnydd, neu hyd yn oed y band roc Cymraeg cyntaf, Y Blew. Popeth yn Gymraeg. Yn sicr yn fy meddwl i, roedd ac mae angen gwrth-ddiwylliant Cymraeg os oedd ac os yw rhai ohonom i gael mynegiant. Dwi’n dal i gredu hynny.

Os yw’r mantra ‘Popeth yn Gymraeg’ am gael ei wireddu, rhaid peidio â gadael i’r canol-y-ffordd, y diwylliannol-geidwadol, y gwell-i-ni-beidio-rhag-ofn, mae-pethau’n-iawn, yn-ddigon-da ein trechu. Yn ei hanfod, mae’r gymdeithas Gymraeg yn parhau i fod yn geidwadol ac mae angen herio hynny. Rydym wedi colli gormod, os nad y mwyafrif, o’r di-Gymraeg ar hyd y daith. Mae hynny yn fethiant dwyochrog – o’n hochr ni a’u hochr nhw.

O ran diwylliant cyfoes, mae unrhyw beth sydd yn symud yr agenda yn ei flaen yn mynd i orfod digwydd a bodoli ‘er gwaetha pawb a phopeth.’ Tydi bod yn dderbyniol fawr o werth. Rhy hawdd yw anwybyddu’r derbyniol. Rhaid bod yn chwyldroadol – a hynny â phob gweithred, bob dydd.

Yn nyddiau’r Anhrefn, roedd gweithio yn rhyngwladol drwy gyfrwng y Gymraeg yn caniatáu i ni wireddu ein hagenda o groesi a chwalu ffiniau. Ond os oedd yna glwb gorlawn yn gwrando arnom yn Berlin neu yn Nulyn, roedd y default Cymraeg yn llithro’n rhy hawdd at y ‘deinosoriaid denim’ a ddisgrifiwyd yn ‘Yr Oes Aur’ gan Gruff Rhys. Chawsom ni byth wared ar y feddylfryd honno ac rydym yn talu’r pris heddiw â chynulleidfaoedd mor fach i bethau Cymraeg. Tydi mynnu bod ein fersiwn ‘ni’ o Gymreictod yn ‘iawn’ ddim wedi gweithio. Rhaid cael ‘Popeth yn Gymraeg’ ac mae hynny yn golygu chwyldro go iawn.

 

Byw mewn twneli – Emyr Glyn Williams

Mae’r galon yn suddo ychydig wrth sylweddoli fy mod i wedi cytuno i gyfrannu, heb feddwl gneud o gwbl, at arolwg arall ‘State of The Nation’ o Gymru fach.

‘Bogel-wylio’ oedd y term ddegawdau yn ôl. Yr hunan archwilio yna sydd mor urgent! Selfie arall o’r corff cenedlaethol sydd yn addo delwedd gyfarwydd o hypocondria diflas. Dispatches o ochr y dibyn. Dwi’n trio peidio â digalonni wrth feddwl bod yr holl flynyddoedd yna o asesu, mesur, traethu a syllu i mewn i’r drych unig, coch, wedi creu meddyliau Cymraeg sydd ar goll yn fwy nag erioed.

Cyn gofyn am gyflwr presennol unrhyw beth ‘Cymreig’ a disgwyl cael ateb call, credaf fod angen cael gwared yn gyntaf ar y tueddiad embarrassing a solipsistig yma o’n gweld ni’n hunain, a neb ond ni, ym mhob man.

Mawrth y 1af. Cyfle ystrydebol arall i Gwalia ymuno yn nawns farwaidd, hunandosturiol y narcissi a chwysu yn y gampfa tra’n dilyn workout blynyddol ein life coach sanctaidd, Dewi Sant. Dwi’n byw mewn gobaith o fedru treulio’r diwrnod heb feddwl, gwneud na phrofi unrhyw beth ‘Cymreig’ (fel Major Tom David Bowie, ‘I’ll stay clean tonight’) ac osgoi pantomeim y cennin Pedr.

Fedra i fyth dderbyn y cyrn melyn fel symbolau arwrol o’n cenedl – organau rhywiol planhigion ydi blodau, ynde? Chwifiwch nhw o gwmpas ar bob cyfri, darling! Ond peidiwch â chredu am eiliad fod y narcissi yn arwydd o unrhyw beth mwy na’n hobsesiwn, sef edrych ar ein gilydd yn hytrach nag arsylwi ar unrhyw beth arall.

Dafad ym Mhen Llŷn | Owen Martell

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn meddwl am ‘reality tunnels’ Timothy Leary a Robert Anton Wilson fel esboniad posib o’r ymddygiad hwn gan ein cenedl. Syniad call yw hwnnw a grëwyd gan bâr o crackpots yn ôl yn y chwedegau. Mae’r twneli yma’n eitha’ tebyg i echo chambers oes Twitter a Facebook – damcaniaeth syml ydyw yn y bôn sy’n datgan bod pob unigolyn, cymuned a chenedl yn byw mewn twnnel unigryw a’u bod, felly, yn profi pob elfen o fodolaeth drwy ffilter un syniad cadarn canolog yn unig: crefydd, damcaniaeth wleidyddol neu – yn benodol i ni yma yng Nghymru – panig dirfodol am argyfwng parhaol yr iaith a Chymreictod yn gyffredinol.

Os wyt ti’n credu yn y syniad yna, mae’n rhaid i ti gredu bod y twnnel wedyn yn diffinio trywydd popeth sy’n ymwneud â dy fywyd, heb gynnig unrhyw gyfle i gwestiynu neu newid y trywydd wrth i amgylchiadau allanol newid, am fod popeth oddi mewn i’r twnnel yn adlewyrchu’r gred sylfaenol ar draul popeth arall. A’r hyn gei di wedyn ydi wal sy’n cael ei hadeiladu rhyngot ti a thwneli pawb arall, wrth i bob penderfyniad gael ei wneud ar sail panig am ddyfodol yr iaith a chenedlaetholdeb Cymraeg a dim byd arall.

Yn syml iawn, beth am ofyn y cwestiwn: ydi hi’n bosib camu allan o’r twnnel er lles y corff? Tydi holi fel hyn ddim yn wrth-Gymreig – i’r gwrthwyneb, yn fy marn i. Ailasesu’r sylfaen, gwrthod y traddodiadol, y symbolau, y defodau hen a chadarn – dyna’r pethau sydd yn sgrechian Cymraeg trwy fy nghorff i. Wrth i mi feddwl fel yna y mae’r syniad o ‘Gymru’ neu ‘Gymreictod’ yn dod yn fyw i mi, a dwi’n medru cymuno wedyn gyda’r anghydffurfwyr sy’n anghydffurfio.

Dwi’n deall yn iawn werth cymunedol y ‘dewch at eich gilydd’ a’r effeithiau positif o ran atgyfnerthu syniadau cenedlaethol a social cohesion ayyb. Ond dwi jest ddim yn ffan o’r dacteg yma o fyw gyda’r ffilters presennol. Mae cydio’n rhy dynn yn y ‘pethe’ ‘swyddogol’ yn ail gwael i fentro’n rhydd i fyw bywyd anghyfrifol, modern, arbrofol, Cymraeg.

Mae popeth gwerthfawr yn rhydd. Mae iaith a diwylliant Cymraeg wastad wedi bod yn gysur ac yn nerth i mi am fy mod i’n credu, cyn dechrau meddwl o ddifri am y twneli realiti, eu bod yn rhydd o ddylanwad unrhyw unben, neu feddylfryd un-ffydd a bod hynny yn eu galluogi i fod yn elfennau hollbwysig ym mhopeth, nid yn brif bwrpas i bopeth.

Dwi’n gwybod bod ’na siawns y gallwn adeiladu, datblygu a gweld goleuni ar ddiwedd ein twneli personol. Mae byd cerddoriaeth a sinema yn ganolog i bwrpas bywyd i mi, a dw i’n credu yn yr apêl sydd ynghlwm wrth y syniad fod sinema yn medru diystyru geiriau, neu fod pethau fel cerddoriaeth electronig, offerynnol, yn medru bod yn gwbl Gymraeg heb ddefnyddio un sill o’r iaith. Campau yw’r rhain sy’n herio pwysau unffurf y twnnel ac felly maent yn atyniad personol sy’n cynnig dihangfa ohono.

Wrth gwrs, mae croeso i chi ddewis parhau i fyw yn y twnnel. A dw i ddim yn wahanol – erthygl i bryfocio ac ystyried pethau ydi hon, nid tystiolaeth rhyw kill-joy blin! Wedi’r cyfan, yn fy swydd draw yn sinema Pontio, dwi wedi bwcio Don’t Take Me Home, ffilm am anturiaethau tîm pêl-droed Cymru, ar gyfer Mawrth y cyntaf, dewis sydd yn ddelfrydol, ar un olwg, o safbwynt gorchmynion y twnnel. Ond mae hi’n addo bod yn ddigwyddiad arbennig yn sicr. Ac mi fydda’ i yno’n gwylio. Ond byddaf hefyd yn dosbarthu taflenni ar gyfer gŵyl ffilm PSYLENCE17 sy’n digwydd yn Pontio ganol y mis. Mae’r ŵyl yn gyfle i fwynhau iaith sinema a hyfrydwch cerddoriaeth electronig fyw mewn cyfres o ddigwyddiadau a dangosiadau ffilm sy’n cynnig cawl o ieithoedd, celfyddyd fyd-eang, gwleidyddiaeth a Chymreictod mewn cyd-destun anarferol. Mae’n gyfle i wthio’r panig am dywyllwch y twnnel realiti i’r cysgodion am gyfnod.

Fel cenedl, fydden ni byth yn hapus yn diffinio’n hunain yn ôl dymuniadau pobl eraill ac, yn yr oes sydd ohoni, ddylen ni ddim chwaith bod yn fodlon diffinio ein hunain yn unol â rhwymau hanesyddol a diwylliannol yn unig chwaith. Mae yna ryddid gwerthfawr iawn yn y byd Cymraeg. Dwi wedi teimlo hynny erioed, ac wedi’i weld droeon, yn y bobl ac yn y wlad. Mae byw yn y twnnel yn gneud i mi feddwl bod yr ysbryd Cymraeg yn gwywo, nid yn tyfu yno, ac mae hi’n bwysig mentro colli popeth er mwyn symud ymlaen.

Ar y tu allan, yn amlwg, mae pethau’n gwaethygu, ac mae ymosodiadau ar y diwylliant a’r iaith Gymraeg ar gynnydd, ond fe all arfau newydd ac agwedd newydd sicrhau llwyddiant a dyfodol. ‘It’s not dark yet, but it’s getting there …’ fel y dywedai Bob [Dylan].

Mae yna gyfle i gamu yn agosach at y goleuni, ddim ond i ni ffarwelio â’r twnnel. 


Enillodd Jon Gower wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012. Adolygydd The Eisteddfod gan Hywel Teifi Edwards yn Rhifyn 2 O'r Pedwar Gwynt. @jongower1

Enwyd cyfrol Eluned Gramich, Woman Who Brings the Rain (NWR, 2015), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Gallwch ddarllen ei hysgrif, 'Calonbarth yr Almaen', fan hyn. @egramich

Sefydlodd Robat Gruffudd wasg Y Lolfa yn 1967. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Lolian (2016). Gallwch ddarllen adolygiad ohoni fan hyn. @RobatGruffudd

Mae Sara Huws yn gyd-sylfaenydd yr East End Women's Museum ac yn byw yng Nghaerdydd. @sara_huws 

Efa Gruffudd Jones yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Rhys Mwyn yn gyflwynydd, colofnydd ac archeolegydd. Roedd yn aelod o’r grŵp band roc/pync arloesol, Anhrefn. Mae adolygiad o’i gyfrol ddiweddaraf, Cam Arall i’r Gorffennol, fan hyn. @therealrhysmwyn

Emyr Glyn Williams yw cydlynydd Sinema Pontio ym Mangor. Roedd ei gyfrol Is-Deitla'n Unig (Gomer, 2015) yn un o Lyfrau Ffeithiol Greadigol y Flwyddyn yn 2015. @sinemapontio

Lluniau o Ben Llŷn gan Owen Martell


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae yna ryddid gwerthfawr iawn yn y byd Cymraeg ... Mae hi’n bwysig mentro colli popeth er mwyn symud ymlaen

Dyddiad cyhoeddi: 28·02·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Owain Schiavone, Toni Schiavone ac Y Cyrff

Roedd y bws ola i Lanrwst o Ganolfan Aberconwy, Llandudno nos Sadwrn 12 Awst 1989 dan ei sang. Wrth deithio i lawr y dyffryn trwy Glan Conwy ac ymlaen i Maenan roedd pawb mewn hwyliau da ar ddiwedd noson gofiadwy…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Fe lynai’r smwclaw’n styfnig at ffensys dur y gwaith ac arwydd ‘stop’ annhymig y reilwe’n grachen-graith pan o’wn heb styried clywed clais ym mhen y lein, mond cwmni’i lais ... 

Adolygu


Morgan Owen

Er mwyn creu hanes, sef naratif yn y bôn, mae’r hanesydd yn dethol o blith digwyddiadau di-ben-draw nad ydynt o anghenraid yn gysylltiedig â'i gilydd yn yr ystyr wrthrychol, ddilyniannol. Yn yr un modd, mae’r ffotograffydd, wrth dynnu a threfnu lluniau at gasgliad, yn dethol o blith…

Cyfansoddi


Qing Niao

Yn Tsieina, ceir diwylliant y sgwâr cyhoeddus: Sgwâr Tiananmen, Sgwâr y Weriniaeth, sgwariau bychain mewn trefi, a’r gerddi, a ddefnyddir ar gyfer ymgynulliadau mawr, cyhoeddus. Mae’r gofod hwn ar gyfer pawb; yn ystod y bore, maent yn aml wedi eu llenwi gan bensiynwyr, o bump tan…

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…