Dadansoddi

Cymru rydd, meddwl rhydd

Hanner canrif o gyhoeddi annibynnol


Robat Gruffudd

Amser darllen: 8 munud

09·05·2017

Digwyddodd tri chwyldro technolegol yn ystod yr hanner canrif ers sefydlu gwasg Y Lolfa - tri chwyldro sy’n taflu rhywfaint o oleuni ar gynnyrch y cyfnod ac esblygiad y wasg. Ond wrth gofnodi pen-blwydd hanner cant Y Lolfa, alla i ddim dechrau heb sôn am ddyddiau rhosynnog Coleg Bangor ganol y chwedegau, a'r cyfeillgarwch a’r Cymreictod a brofais i yno. Wedi treulio saith mlynedd (gyda mil o fechgyn, bron i gyd yn ddi-Gymraeg), yn y Bishop Gore Grammar School for Boys, roedd hynny'n brofiad hyfryd.

Rwy’n cofio un noson arbennig o braf, yn gynnar yn ’65. Roedd Penri Jones a finnau wedi bod yn yfed rhai peintiau o Greenall Whitley ym Mangor Uchaf ac yn crwydro’n araf i lawr tua’r tŷ teras lle roedden ni’n byw yn Sgwâr Cyffin, gyferbyn â’r tai bach cyhoeddus. Ar flaen ein meddyliau oedd y cylchgrawn Lol, oedd yn crwydro ar y pryd rhwng gwahanol weisg a oedd yn ciwio i beidio â'i argraffu. Roedd Penri o’r farn mai sefydlu ein gwasg ein hunain oedd yr ateb i'r problemau, ac wedi cyrraedd y tŷ, wedi ei ysbrydoli gan y Greenall Whitley, fe ar-lefarodd ymrwymiad i sefydlu gwasg a phrynu peiriannau argraffu o fewn dwy flynedd. Fe gofnodais y llw ar bapur, a'i lofnodi wedyn gyda Penri.

Doedden ni ddim yn hollol o ddifri – sut allen ni fod, yn ddim ond myfyrwyr tlawd – ond yr hyn sy’n anhygoel yw i’r addewid yna gael ei wireddu, a hynny o fewn yr amserlen. Erbyn 1967, roedd gwasg Y Lolfa’n bod.

Poster 'Gwnewch Bopeth yn Gymraeg' gan Elwyn IoanBraf oedd cael byw cyfnod y wawr honno, ond yn gymysg â’r mwynhad, roedd yna densiwn a chyffro gwleidyddol. Un bore oer yn Chwefror ’63, teithiodd llond bws ohonom o Fangor i lawr i Aberystwyth i gymryd rhan ym mhrotest Pont Trefechan. Dyma brotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe dreulion ni’r ddwy flynedd ganlynol yn brwydro – yn ofer – i gymreigio Coleg Bangor ei hun.

Roedd cenhedlaeth newydd, y tu mewn ac ar y tu allan i'r colegau, yn hawlio nid yn unig statws swyddogol i'r iaith Gymraeg ond yr hawl i fyw ac i fwynhau eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith. Cyn bo hir, byddai grŵp roc Y Blew yn byddaru’r genedl. Ar y pryd, roedd Dafydd Iwan yn canu caneuon fel 'Wrth Feddwl am fy Nghymru' ar raglen Y Dydd, tra roedd ei gefnder Emyr Llewelyn yn y carchar am ffrwydro trosglwyddydd yng Nghwm Tryweryn, a foddwyd yn Hydref 1965.

Fis Awst y flwyddyn honno, er gwaethaf popeth, ymddangosodd Lol yn 'Steddfod Y Drenewydd, ond ym mis Rhagfyr, ces i brofiad llai llwyddiannus pan gollais yr unig swydd ges i erioed, fel ‘Swyddog Diwylliannol’ yn Llyfrgell Ceredigion. Ro’n i’n byw ar y pryd mewn fflat clawstroffobaidd o dan y pafin yn Stryd y Dollborth, Aberystwyth. Doeddwn i ddim yn teimlo mor ddiflas ac y dylwn i am y digwyddiad 'chwaith, ac fe sgrifennais y geiriau hyn yn fy nyddiadur (gwel. Lolian, 2017):

Rwyf nawr yn teimlo rhyddhad, a chic newydd o fywyd, ac yn rhyfedd iawn, rhyw sadrwydd annisgwyl. Mae'r meddwl yn dechrau blodeuo eto – gyda syniadau am Y Lolfa, yr enw a ddyfeisiodd Penri a fi ar y funud olaf ar gyfer cyhoeddi Lol, er nad oedd cwmni o'r enw'n bod ar y pryd. Ond beth petai'r cwmni yn bod? Rwyf wedi cofrestru'r enw'n swyddogol, ac mae'r posibiliadau'n llifo, e.e., caneuon pop, cardiau doniol, posteri gwleidyddol, matiau cwrw, cerddi answyddogol – i gyd yn lliwgar a bywiog ... Mae'r posibiliadau'n wych a dibendraw. Creu naws newydd yng Nghymru, cyffro newydd yn y gwynt, rhoi sylw i bethau i'r ifanc ...

Ond roedd y cyffro eisoes yn y gwynt. Nid Y Lolfa greodd y cyffro: y cyffro greodd Y Lolfa. Ro’n i yn y lle iawn ar yr amser iawn, ac ymhen tua blwyddyn byddai'r wasg yn bod fel mater o ffaith, diolch nid i unrhyw allu mawr entrepreneuraidd ar fy rhan i, ond i ffydd a chefnogaeth ariannol rhieni Enid, pâr diwylliedig a chenedlaetholwyr cadarn.

Roedd Enid hefyd ym Mangor, ond wedyn y dechreuon ni garu, gan briodi yn Awst 1966, sef mis wedi i Gwynfor Evans ennill Caerfyrddin. Roedden nhw’n ddyddiau cyffrous ac optimistaidd, ac erbyn diwedd y flwyddyn, byddem yn hoelio arwydd ‘Y Lolfa’ uwchben drws hen warws yng nghanol pentre' Talybont, lle'r oedd Enid yn athrawes yn yr ysgol. Damwain oedd i ni setlo yn Nhalybont, ond des i weld yn fuan bod y pentre' diwylliedig, gyda'i leoliad ar y briffordd yng nghanol Cymru, yn lle perffaith i sefydlu cwmni cyhoeddi ac argraffu.

Byddwn i wrth fy modd yn parhau â’r hanes ond fe wna i droi nawr at y tri chwyldro yna.

Chwyldro'r offset litho

Yr un cyntaf oedd chwyldro'r offset litho. Ar ddechrau’r chwedegau y daeth y gweisg argraffu bach hyn ar y farchnad am y tro cyntaf. Roedden nhw'n edrych fel peiriannau dyblygu mawr ond yn defnyddio dull newydd, cemegol i atgynhyrchu delweddau. Am y tro cyntaf erioed roedd modd argraffu lluniau heb flociau metel na thalpiau plwm linotype a monotype. Am gyfnod, Y Lolfa oedd yr unig wasg Gymraeg i ddefnyddio'r dull yma o argraffu – a dyna wnaeth Lol yn bosibl, wrth gwrs.

Dros y byd, roedd 'na ffrwydriad o gylchronau bychain gwrthsefydliadol fel Private Eye ac Oz, ac roedd y rhain yn manteisio ar y rhyddid newydd a gynigiai’r dull hwn o argraffu. Roedden ni’n ffodus i allu cyflogi artist talentog (a gyfrannodd i Private Eye) fel ein haelod staff cyntaf. Ar unwaith roedd cynnyrch Y Lolfa’n edrych yn wahanol ac yn fwy bywiog (os blerach hefyd) na chynnyrch mwy traddodiadol y gweisg a fodolai eisoes. Yn y man, bydden ni'n mynd yn wyllt gyda'r posteri mawr, lliwgar hynny yr oedd eu hangen ar y nosweithiau a’r pinaclau pop a flodeuai dros y wlad.

Ni hefyd oedd argraffwyr answyddogol Cymdeithas yr Iaith. Yn Awst 1967, ymddangosodd fersiwn newydd, Cymru-gyfan o'r cychgrawn Tafod y Ddraig, gyda chartŵn gan Elwyn Ioan ar y clawr. Erbyn 1974, byddai'r un chwyldro technegol yn arwain at gyhoeddi math newydd, gwahanol o gylchgrawn Cymraeg: y papur bro. Gwilym Huws a gafodd y weledigaeth o greu papur ar gyfer ardal Talybont – y papur bro cyntaf yng Nghymru. Unwaith eto roedden ni yn y lle iawn i gynorthwyo gyda datblygiad newydd, cyffrous i'r iaith Gymraeg.

Cyhoeddi pen desg

Yna digwyddodd yr ail chwyldro. Tua 1984 y daeth yr Afal Ap cyntaf ar y farchnad ynghyd â'r freuddwyd o 'gyhoeddi pen desg', sef cynhyrchu cylchgrawn cyfan ar eich sgrin, yn eich cegin, dros nifer o baneidiau o goffi cryf, yn hwyr y nos. Fyddai pethau fyth mor syml â hynny ond byddai’r daith yn ddiddorol a heriol i ni fel gwasg wrth i'r dechnoleg ddatblygu. Am gyfnod roedden ni’n cynhyrchu testun mewn llinellau o gôd a oedd yn fflachio mewn gwyrdd ar sgrin ddu ond rwy’n dal i hiraethu am hen ddyddiau’r teipiadur IBM pelen golff, y peiriant penawdau, a'r arogleuon Cow Gum.

Y we fyd-eang

Y trydydd chwyldro, wrth gwrs, oedd dyfodiad y we fyd-eang. Fe lansion ni ein gwefan gyntaf yn 2002. Y ni oedd y wasg Gymraeg gyntaf i wneud hynny, diolch i ddau fyfyriwr disglair a ddaeth i weithio aton ni un haf, sef Owain Huw ac Iwan Standley. A 'dyw'r gwaith byth yn gorffen, wrth gwrs. Fe fyddwn ni, erbyn y parti hanner cant, yn gallu dangos fersiwn newydd sbon o'r wefan y bydd modd ei defnyddio o'ch ffôn bach. Yn y cyfamser, daeth y cyfryngau cymdeithasol yn bwysig, a diolch i Fflur, ein Rheolwraig Marchnata, ry’n ni nawr yn hyrwyddo ein llyfrau ar Trydar, Facebook a sawl cyfrwng arall.

Er llwyddo i farchogaeth y teigr technolegol, ro’n i wastad yn hwyrfrydig yn ehangu’r wasg ac am ganolbwyntio ar fwynhau y gwaith ei hun. Ond yn anochel, ehangu a ddigwyddodd, o ran adeiladau, peiriannau, a staff. Cyn bo hir fe fydden ni'n cyhoeddi ystod eang iawn o lyfrau: llyfrau cerdd (a ninnau'n eu cysodi ein hunain), 'Cyfres y Beirdd Answyddogol' (dau ddwsin o gyfrolau), llyfrau dysgu Cymraeg doniol fy mrawd, Heini (gwerthodd Welsh is Fun dros 250,000 o gopïau), cyfresi arloesol 'Y Llewod' i blant mawr a 'Rwdlan' i blant bach, llyfrau ysgafn i ymwelwyr â Chymru, a llyfrau gwleidyddol fel 'Cyfres y Cynulliad' – heb sôn am y nofelau cyfoes a fyddai’n rhan bwysig o’n cynnyrch nes ymlaen.

Ond y tu ôl i’r llyfrau, ac i’r dechnoleg, mae pobl, a phobl sy’n gwneud gwasg: yn staff ymroddedig ac yn grefftwyr, yn olygyddion ac yn ddylunwyr, yn siopwyr ac yn brynwyr, ac yn fwy na dim, yn awduron. Ein lwc a’n braint oedd cael cydweithio â llu o awduron talentog a oedd (bron!) yn ddi-ffael yn troi gwaith yn fwynhad. Cael cydweithio â nhw yw’r pleser a’r braint mwyaf i gyhoeddwr, a dyna pam y dywedais yn Lolian mai’r diwydiant difyrra' yn y byd i weithio ynddo yw’r 'diwydiant diwylliant'.  

Ond mae yna berygl yn hyn i gyd. Wrth drafod – er mor arwynebol – ein hanner canrif o gyhoeddi, rwy’n ffeindio fy hun yn sôn am Y Lolfa fel petai’n greadures hanner cant oed. Mewn un ystyr, mae hi, ond mewn ystyr arall, dyw hi ddim. Staff ifanc – 22 ohonynt – sy’n rhedeg y wasg nawr, fel yn yr hen ddyddiau. Nid fi, ond dau o’r meibion, sy’n rheoli agweddau ariannol a golygyddol y cwmni ers blynyddoedd, a Paul Williams yn Rheolwr Cynhyrchu profiadol a welodd ein gweisg yn datblygu o fod yn weisg un lliw yn beiriannau argraffu pedwar a phum lliw.

A’r un yw nod y wasg heddiw ag o’r blaen, sef creu 'naws newydd yng Nghymru'. Mae hwn hefyd yn gyfnod o gyffro a newid gwleidyddol. A’r cyfryngau torfol yn chwydu propaganda Prydeinig o fore gwyn tan nos, mae’r angen yn fwy nag erioed i annog agweddau meddwl annibynnol, creadigol, Cymreig. Mae yna un peth sydd hyd yn oed yn fwy anodd na chreu Cymru Rydd a hynny ydi creu Cymry sy'n feddyliol rydd. Rwy’n gobeithio’n fawr ein bod ni fel gwasg yn parhau i gyfrannu, mewn ffordd fechan, at y gwaith pwysig ond diderfyn yna.


Sefydlodd Robat Gruffudd wasg Y Lolfa yn 1967. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Lolian (2016). Gallwch ddarllen adolygiad ohoni fan hyn. @RobatGruffudd

Cynhelir parti i ddathlu hanner canmlwyddiant y Lolfa yng ngwesty'r Marine yn Aberystwyth ar nos Sadwrn 20 Mai, am 8yh, yn rhan o ŵyl y Fedwen Lyfrau


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Robat Gruffudd, Cyhoeddi

 


Mae yna un peth sydd hyd yn oed yn fwy anodd na chreu Cymru Rydd a hynny ydi creu Cymry sy'n feddyliol rydd

Dyddiad cyhoeddi: 09·05·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Iolo ap Dafydd

Mae ffiniau nifer fawr o wledydd Canolbarth Asia a’r Dwyrain Canol wedi symud dros y canrifoedd. Ac mae llawer o bobl y rhanbarth yn parhau i gondemnio imperialwyr Ffrengig a Phrydeinig am ffiniau a gaiff eu hystyried yn rhai ffug. Syria,…

Cyfweld


Dyl Mei a Marged Tudur

Mae Rhywbeth i’w Ddweud yn gyfrol o ysgrifau am ddeg o ganeuon gwleidyddol a ysgrifennwyd rhwng 1979 a 2016. Ymysg y deg mae ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman a ‘Gwlad ar fy Nghefn’ gan Datblygu. Dewisodd Dyl Mei ysgrifennu ei gyfraniad yntau i'r gyfrol am 'Talu Bils' gan Rodney Evans. Un o'r golygyddion, Marged…

Dadansoddi


Ned Thomas

Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim anarferol ar y gweill. Ymunodd nifer o arweinwyr y dosbarth canol â'r gwrthryfel, yn eu plith y clerigwr Pau Claris, a gofir hefyd am iddo sicrhau…

Adolygu


Mared Llywelyn

Hawdd dychmygu bod llawer un ar bigau’r drain wrth weld taith Mwgsi yn dynesu a rhywun yn ymwybodol y byddai llygaid pawb ar y cynhyrchiad. Roedd yn addo bod yn brofiad anodd ac emosiynol ar y gorau, oherwydd nid stori wneud yw hon ond stori wir.…

Dadansoddi


Dylan Huw

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia, mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw â gyriad iwtopig yn ganolbwynt iddi. Mae e’n defnyddio 'criwsio' am ryw fel trosiad ar gyfer ei weledigaeth ef o’r modd y gallwn ddod i ddeall y potensial i gymunedau LGBT+ sy’n deillio o…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…