Colofnau

Darllen llun: ‘Aitch’ gan Anthony Stokes

Y cyflwr presennol


Geoff Young

Amser darllen: 4 munud

17·04·2018


Ffotograff gan Anthony Stokes a dynnwyd yn 2006 yw Aitch, o’r gyfres o luniau o’r cymoedd a ddechreuwyd ganddo yn 2000. Mae’n ffotograff sy’n canolbwyntio ar arwynebeddau; ceir rhannau fflat o liw i’r llun, rhoddir sylw i ansawdd ac adeiledd ac mae rhaniadau pendant i’r ffrâm. Gellid hefyd ystyried y ffotograff yng nghyd-destun paentiadau haniaethol sydd wedi dylanwadu cymaint ar waith ffotograffig yr awdur hwn.

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am y ddelwedd hon sy’n ymylu ar gyfleu hanfodion y ffotograff perffaith i mi. Mae yma ddarluniad hardd o olygfa a grëwyd yn ofalus gan lygaid â'r gallu i weld – golygfa sydd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn gwbl anniddorol, yn ddigon hyd yn oed i godi'r felan. Mae bron iawn fel ffotograff o’r tu hwnt i’r byd hwn.

Mae’r llythyren ‘H’ ar blât melyn hydrant tân, ar wal sy’n ffurfio cornel stryd yn Nhrehafod, Cwm Rhondda (poblogaeth o 498 yn 2011). Rhwng ymyl y pafin a’r tarmac llwyd islaw ymddengys o’r gwaelodion – am ennyd – linellau dwbl melyn. Ar y lôn, gwelir gorchudd hydrant metal, wedi ei baentio’n felyn ac ehangder wal felen hufennog yn llenwi bron i hanner y darlun, a’r rhain i gyd yn creu thema gref ar sail lliw.

Mae'n amlwg bod y ffotograffydd yn ymwybodol iawn o’r lliw melyn pan welodd yr olygfa hon am y tro cyntaf, pan aeth ati i ystyried pa bosibiliadau oedd yr olgyfa yn eu cynnig ar gyfer creu llun. Nid peth anarferol i Anthony Stokes ydy gweld yn y ffordd hon, a dywedir bod llwyd yn mynd efo popeth. Gyda’r darlun hwn, yn gwbl nodweddiadol o’i arddull weledol, aeth tu hwnt i’r llinyn cyswllt melyn dechreuol, gan ddatblygu elfennau cyfansoddiadol a chysyniadol pellach.

Yn syml, cyfansoddiad ar sail ehangder wal wag, tro yn y palmant ar gornel stryd (hoff thema ganddo) a marciau ffordd yw ‘Aitch’. Mae’r wal lwyd o sment yr ochr arall i’r ffordd, gyda’i chynllun modwlar penodol, hefyd yn hawlio sylw ac yn cyfrannu elfen o fodernedd llym i’r llun, ond erys yn ychwanegiad cymharol ddigymeriad.

Canlyniad hyn i gyd yw darlun sydd yn ddigon annhebyg i ffotograff ar un ystyr, oherwydd natur ddwys yr hyn a ddarlunnir mewn gwirionedd. Cynrychiolir yr hyn y gellir ac nas gellir ei weld, gwelwn gornel a’r hyn sydd y tu hwnt iddi; gwelwn y presennol – a’r dyfodol nad oes modd i ni ei adnabod, rhyw le y gallasem fynd iddo mewn egwyddor ond na fedrwn, serch hynny, ei gyrraedd am y tro; ac ymyl fertigol y wal fel rhyw fath o agen un dimensiwn wedi ei chau, wal lle ceir tu hwnt ddyfnder oer braf lle na fedraf roi fy llaw. Dyma'r tensiwn a’r dryswch y mae ffotograffiaeth yn abl iawn i’w roi ar waith, trwy fod yn real ac eto ddim yn ddigon real ar yr un pryd.

Darlun anarferol – hunllefus a hudolus – a welaf yma, o fan unigryw y mae’r awdur, wrth gerdded un diwrnod yn Nhrehafod, yn digwydd taro ar ei draws. Mae fel petai’r olygfa wedi disgyn o’r nen, a’i slotio i’w lle o’i flaen. Gwelaf olygfa ddinod ac eto mae'n cyfleu i mi rywbeth o fyd ffuglen wyddonol rywsut; mae’n wag ar ryw ystyr, yn brin o ddynoliaeth ac eto’n llawn trugaredd. Mae yna rywbeth damweiniol am yr olygfa hon ac eto mae'n ymddangos fel petai’n meddu ar swyddogaeth benodol. Sut y datblygodd a phaham? A yw mewn gwirionedd yn ddamweiniol, yn unigryw, neu a oes yna ddigonedd o gorneli stryd llwyd neu unlliw tebyg? Gwell gen i feddwl ei bod yn unigryw.


Darllenwch ymateb ar ffurf cerdd gan Christine James i’r un llun gan Anthony Stokes.

Cyhoeddwyd casgliad o luniau Anthony Stokes o’r cymoedd yn y gyfrol The Valleys gan wasg Seren yn 2007, gyda chyflwyniad gan Iain Sinclair. Bydd arddangosfa o waith Anthony Stokes yn agor ar 4 Mai 2018 yn ffotogaleri y gofeb, Heol Penrallt, Machynlleth.

Geoff Young yw perchennog Galeri a Siop Lyfrau Pen’rallt a ffotogaleri y gofeb ym Machynlleth, ar y cyd â Diane Bailey.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Darlun anarferol – hunllefus a hudolus – a welaf yma, o fan unigryw y mae’r awdur, wrth gerdded un diwrnod yn Nhrehafod, yn digwydd taro ar ei draws

Dyddiad cyhoeddi: 17·04·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…