Dadansoddi

Daearu Ewrop

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 10 munud

22·04·2019

Stefan Zweig, a gariodd fflam Ewrop i'w fedd, dros yr Iwerydd (Llun: Atrium Press)
 

‘Fel priodas wedi ei threfnu â gŵr mwy cefnog.’ Dyna sut y disgrifiodd Andrea aelodaeth ei gwlad, Rwmania, o’r Undeb Ewropeaidd. Cael ei holi ydoedd ynghylch ei chanfyddiad o Ewrop, ar gyfer prosiect i gofnodi lleisiau’r genhedlaeth iau, o Porto i Riga (I like Europe gan Caroline Gillet, 2015).

Yng ngwledydd canol, dwyrain a de-ddwyrain Ewrop, dyma ddadrithiad cyfarwydd. Roedd ‘priodi’ i mewn i’r Undeb, wedi’r cyfan, yn golygu dygymod ag arferion ac egwyddorion sefydledig y teulu yng nghyfraith estynedig hwn. Waeth am y manteision, rhaid oedd eistedd fel petai wrth fwrdd ciniawau dydd Sul angenrheidiol ond affwysol o amherthnasol; rhaid oedd dangos parodrwydd i fraenaru tir cyffredin – a hollti blew, hyd yn oed pan oedd y newid byd a ddaeth yn sgil cwymp y Mur yn 1989 yn parhau’n achos loes seicolegol. Er i ddrysau agor, ni ddylid anghofio mai degawd o ryfela a fu yn yr hen Iwgoslafia, ac yn fwy diweddar hefyd ar gyrion yr Undeb yn yr Iwcraen – nid dawnsio yn llewyrch dinasoedd yr Oleuedigaeth, yn Baris neu Fienna. Ac os mai ansicrwydd ydi ein cyflwr cyffredin ar hyn o bryd ym Mhrydain yn wyneb Brexit, roedd yr ansicrwydd a brofodd etifeddion cwymp y Mur ar lawr gwlad, ddeg ar hugain o flynyddoedd yn ôl, yn treiddio’n ddyfnach eto. Be wnewch chi, hola Arlywydd Hwngari Viktor Orbán, pan ddaw cnoc ar y drws am hanner nos? Bolltio, nid agor, wrth gwrs. Fel y gwyddom, un o hoff dechnegau rhethregol areithiau Orbán ydi consurio synnwyr cyffredin y ‘werin bobl’, ys dywedir, yn wyneb ansicrwydd.

Prin fod y ddelwedd hon o’r briodas anghytbwys yn agos at gyfleu holl gymhlethdod ymwneud yr hwyrddyfodiaid hyn â gweddill yr Undeb, ond tebyg mai gwir yr ystrydeb mai gwraig mewn gwendid ydi gwraig a briododd er mwyn pres, neu er mwyn perchnogi ei darn o ddelfryd. A oes modd gwaredu’r ymdeimlad o israddoldeb heb ddiddymu’r briodas neu golbio’r gŵr?

Dibynnol ar barodrwydd i ffurfio dychymyg cyfunol y mae gallu dau – neu fwy – i gyd-dynnu, ar y cyfan. Ond i ba raddau mae’n bosib rhannu’r un dychymyg pan fo cymaint mwy o gardiau ym mhoced un? Cynnal dychymyg cyfunol, er lles tynnu gyda’i gilydd, ydi her ac yn wir, gellid dadlau, raison d’être Ewrop, sydd fel petai yn ei helfen wedi rhyfel, megis yng nghyfnod Cynghrair y Cenhedloedd neu adeg y weledigaeth o Unol Daleithiau Ewrop, 1945-48, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Ai byrbwyll fyddai awgrymu mai byw niwrosis cyfnod sydd ar drothwy distryw yr ydym ninnau heddiw ym Mhrydain, fel y mae trigolion y Cyfandir hefyd? Bod gwaeth i ddod – ond gwell hefyd, yn y pen draw? Tebyg bod y tir ansad a deimlwn o dan ein traed yn nodweddiadol o gyfnodau trothwyol fel hyn. A ellid mynd mor bell â chynnig bod ysbeidiau tectonig o’r fath yn angenrheidiol, er mwyn bwydo’r tensiwn a’r ymrafael sy’n amod democratiaeth iach? Digon posib – petai dim ond modd anghofio bod symudiadau’r platiau y tro hwn ar lefel y rhywogaeth a’r blaned.

✒︎

Meddai’r hanesydd a’r cymdeithasegydd avant la lettre, Alexis de Tocqueville, ar ei deithiau ar draws yr Unol Daleithiau ddechrau’r 19g: ‘Wrth i’r etholiad agosáu mae cynllwynion yn cynyddu a lledaenu, mae pethau’n dechrau poethi. Cwymp y genedl gyfan i gyflwr twymyn [...] Cyn gynted ag y cyhoedda ffawd [...] ymdawelu a wna’r cyfan, a’r afon, a orlifasai ennyd, yn dychwelyd yn heddychlon i’w gwely.’ A’r etholiadau Ewropeaidd yn agosáu, mae’n eglur mai drama, nid diflastod, sydd ar yr agenda y tro hwn. Ond drama, gwae ni, sy’n cyrraedd eithafion, fel y gwel-wyd yn y golygfeydd brawychus gwrth-Semitaidd diweddar ar draws y cyfandir ond hefyd yng ngeiriau Stephen Yaxley-Lennon (Tommy Robinson) yn annerch torf yn Parliament Square, Llundain – eithafion y byddai cymdeithas ddemocrataidd iach wedi llwyddo i’w hamsugno mewn pryd. Yn y cyfamser, er y colbio ar Ewrop, does dim sôn mwyach am unrhyw aelod arall, heblaw Prydain, yn codi pac. A dadleua rhai mai llygredigaeth eu llywodraethau eu hunain sy’n poeni mwyafrif dinasyddion Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia, y Weriniaeth Tsiec a Rwmania, neu’r addewid o wledydd wedi eu gwacáu o ganlyniad i bwysau’r amgylchiadau cenedlaethol ym mhob achos. Tebyg bod yr all-lifiad yn gymaint ar flaen meddwl yr etholwyr ar hyn o bryd ag ydi’r mewnlifiad a gonsurir yn deus ex machina etholiadol gan gynifer o’u harweinwyr.

Yn sicr nid yw cyflwr strategol cynyddol ynysig Ewrop heddiw yn ysbrydoli ffydd. A lle mae diffyg ffydd, ceir gwagle i’w lenwi. Y cwestiwn ydi: gan beth? Hyd yma, ysywaeth, ni fu’r bygythiad gwirioneddol o gael ein hanes wedi ei sgwennu gan eraill – gan Tsieina, gan yr Unol Daleithiau – yn ddigon i ysgogi ymrwymiad moesol i’r prosiect Ewropeaidd, hyd yn oed pan mae’n drafodaeth fydd yn pennu dyfodol y ddynoliaeth, megis goblygiadau deallusrwydd artiffisial neu’r argyfwng hinsawdd. Ac er nad oes modd dibynnu arni bellach i achub ein cam, onid yr Unol Daleithiau, trwy gyfrwng ei diwydiant cyfryngol, nid gogoniannau diwylliannol Ewrop, sy’n parhau i ddarparu’r delweddau a fwyda’n dychymyg cyfunol? Prin fod y pres papur yn ein llaw, a’u symbolau Ewropeaidd haniaethol – heb hanes, heb wyneb – yn ysbrydoli ymlyniad ychwaith, mwy na phres papur Monopoly, fel y dadleuodd rhywun uwchben swper yn ddiweddar.

Addas iawn ydi’r ddelwedd o’r papurau banc Monopoly hefyd, i’n hatgoffa o eironi a chymhlethdod dedfryd Theresa May: mai dinasyddion nunlle ydi dinasyddion byd. Profiad entropig, os un sy’n gafael, ydi chwarae Monopoly, yn fy nghof i. Un mwy addas, os rhywbeth, i barlwr ffrynt May na ‘dinasyddion byd’. Ysgol brofiad dda ydi’r gêm ar gyfer etifeddwyr ceidwadaeth Thatcher, er mwyn deall cartref nid fel lloches ond fel gorfa bres – gorfa bres sy’n cyfrannu’r un gronyn o werth.

Ond rhesymau eraill sydd yn gyfrifol am ddiffyg enaid y pres Ewropeaidd yn ein llaw. Fel yr ymresymodd yr awdur o Fienna Stefan Zweig, a gariodd fflam Ewrop i’w fedd dros yr Iwerydd, nid yw’r cysyniad o Ewrop yn un cynhenid, greddfol; mae’n codi o ystyriaeth ddofn, nid o angerdd digymell. Meddai: ‘Mi fydd egoistiaeth ddwyfol cenedlaetholdeb bob amser yn haws i’r mwyafrif ymdeimlo â hi nag anhunanoldeb dwyfol y sentiment Ewropeaidd, oherwydd haws bob amser adnabod yr hyn sy’n perthyn i ni nag amgyffred cymydog â pharch ac yn ddiduedd.’ Ar yr un pryd, onid ydi’r prosiect Ewropeaidd yn fwy angenrheidiol nag erioed o ystyried yr hunllef sydd yn ein hwynebu fel rhywogaeth â chyfrifoldeb dros y cartref – planed Daear – a roddwyd i’n gofal? Meddai’r athronydd, y cymdeithasegydd a’r anthropolegydd Bruno Latour yn ei gyfrol ddiweddaraf (Où atterrir? Comment s’orienter en politique, 2017; Down to Earth: Politics in the New Climatic Regime, 2018), rhaid, fel mater o argyfwng, ailgyfeirio gwleidyddiaeth at y Ddaear, nid at y byd-eang neu’r cenedlaethol. Ac onid dan ein traed mae honno?

✒︎

Hanfodol ydi rhannu rhyw fan lleiaf o ddyfalu am ein gilydd a’r ymdeimlad o berthyn os am sicrhau seiliau cymuned hefyd. Er nad oes modd gorfodi dychymyg ar unrhyw un, sail cymuned ydi parodrwydd i ddeall poen eraill yn ein geirfa foesol ein hunain. Os nad oes digon o dir cyffredin i’r dychymyg fedru cynnal sgwrs â’r anghyfarwydd, mae’n orchwyl a hanner ymdeimlo ag ing dieithryn a’i gael yn foesol berthnasol. Er mwyn cymell cydymdeimlad ac empathi, rhaid wrth sefydlogrwydd a sicrwydd. Ar yr aelwyd, yn ein hymwneud cynnar ag eraill agos, mewn awyrgylch diogel, y sefydlir y ffydd angenrheidiol a wna hynny’n bosib. Dyma a’n galluoga, nes ymlaen, i estyn yr un sentiment, yr un gofal a pharch, i grwpiau ehangach, boed yn deulu yng nghyfraith, yn ffrindiau, yn genedl neu’r rhywogaeth a chreaduriaid. Y profiadau cynnar hyn, sy’n tynnu ar ein cyflwr moesol cynhenid, a’n hargyhoedda o’r angen i ddangos parch egwyddorol at eraill. Cofiaf fod yr athronydd o’r Alban David Hume yn haeru bod emosiwn yn rhagflaenu ein dyfarniadau moesol. Tybed onid trwy rym dychymyg ac ar sail profiad, yn y lle cyntaf – nid rheswm – y lledaenir y gymuned foesol? Mewn geiriau eraill, ar yr olwg obeithiol hon, peth naturiol ydi ymddygiad moesol. Nid rhywbeth a orfodwn ar ein hunain trwy rym rheswm mohono. Cwyd o’n gallu sylfaenol i deimlo empathi â chyd-ddyn a chyd-greadur.

O dan gyfraith Ewrop mae pob dinesydd, mewn egwyddor, yn gyfartal: ‘Mae pob un bod dynol wedi ei eni’n rhydd ac yn gydradd ei urddas a’i hawliau,’ meddai brawddeg gyntaf rhagair y Datganiad Iawnderau Dynol. Hynny ydi, nid yw’n dderbyniol iselhau neb. O gael ein cymryd o ddifrif, yn union fel ag yr ydym, caniateir i’n bywydau fagu ystyr. Dyna hanfod yr ymdeimlad o barch, atom ein hunain ac eraill, ac amod hunanhyder – a’r rhinwedd fawr, drom sy’n ddibynnol ar yr hyder hwnnw, sef gonestrwydd gerbron ein hunain yn gymaint â gerbron eraill.

Ac eto, ymdeimlad o fod wedi eu hiselhau sydd yn gyffredin i gynifer o gymunedau sy’n gwrthryfela heddiw ar draws Ewrop. Pan oedd argyfwng ariannol deheubarth Ewrop yn ei anterth, yr amheuaeth ar led, boed wir neu gau, oedd mai cael eu defnyddio fel bwch dihangol i ddatrys problemau’r banciau yr oedd dinasyddion y gwledydd hyn. A phaham y pleidleisiwyd dros adael Ewrop gan fwyafrif dinasyddion Cymru? Oherwydd bod pobl yma hefyd yn teimlo eu bod wedi eu hiselhau. Fel yr awgrymwyd pan ddadansoddwyd y bleidlais dros Brexit, pleidleisiodd cynifer dros adael yr Undeb oherwydd eu canfyddiad fod ‘Ewrop’, y ffantom hwnnw a gonsurir mewn awr lem, yn cam-drin, yn bychanu. Ond os rhywbeth, ein llywodraethau cenedlaethol sydd wedi methu. I’r gwrthwyneb, cynnig atebion i gydbwyso’r gynneddf (yr un mor ddynol efallai) i iselhau cyd-ddyn er budd personol, er mwyn y pleser o deimlo grym, a wnaeth Ewrop erioed. Cyflawnodd hynny trwy fod yn barod i gyfaddawdu ac eistedd trwy’r holl giniawau dydd Sul yna oedd yn ddigon i godi’r felan, yn cnoi’r un hen wadn esgid o gig eidion at syrffed, nes bod y pengliniau’n ysgytio o’u gwirfodd dan y bwrdd, fel mewn steddfod capel wedi’r hanner ... Ac yn fwy na dim, llyncu (rhywfaint) o falchder drwy’r cyfan er mwyn cyd-ddeddfwriaethu, i wneud y gorau posib i warchod hawliau dyn.

✒︎

Ceir un ddelwedd, a ddarllenais yn ddiweddar gan yr awdur Édouard Louis (gw. t15), na fedraf ei gwared o gefn fy meddwl. Meddai mewn cyfweliad ynghylch protestiadau’r Gilets Jaunes – y ‘siacedi melyn’ – yn Ffrainc yn ddiweddar:

Gwelais gyrff nad ydynt fyth yn ymddangos yn y parth cyhoeddus neu ar y cyfryngau, cyrff dioddefus, wedi eu dinistrio gan waith, gan flinder, gan ddiffyg maeth, gan gywilydd parhaus y rhai a gafodd eu goruchafu gan y goruchaf, gan waharddiad cymdeithasol a daearyddol. Gwelais gyrff blinedig, dwylo blinedig, cefnau wedi plygu, golygon wedi ymlâdd.

Mentrodd Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron yntau – wedi pwysau dybryd trais bob Sadwrn y Gilets Jaunes ar strydoedd ei wlad ers Rhagfyr 2018 – ymddiheuro eleni. Cydnabyddodd ei fod ef hefyd, a’i lywodraeth hithau, yn gyfrifol am iselhau cynifer o ddinasyddion ei wlad: ‘Mae llawer yn cywilyddio oherwydd cyflwr eu bywydau,’ meddai, ‘oherwydd nad oes modd iddynt ddal dau pen llinyn ynghyd, er gwaethaf eu holl ymdrechion.’ Ac meddai wedyn: ‘Y ni ddylsai fod â chywilydd.’

Nid mater pitw mo sarhad. I’r rhai a sarhawyd, mae’r profiad yn ysgytiol, a hyd yn oed os oes modd ei drawsffurfio ambell dro, nid oes modd gwared ei ôl yn gyfan gwbl. Nid o’r un natur â chywilydd mohono. Mae lle cadarnhaol i gywilydd ar ein haelwyd. Ond mae iselhau a sarhau yn fater o rym ar waith, yn torri’n llawer dyfnach, yn amcanu at wanu hunanfalchder ac urddas i’w craidd. Mae’n gadael un heb eiriau, heb lais, yn syfrdan fud. Digon posib mai dyma fu canlyniad rhai o osodiadau cynhennus Theresa May, Duw a’i gwaredo. Nid y profiad o gael ein tramgwyddo neu ein digio mo hwn, sy’n digwydd ar lefel wybyddol, yn drwst rhwng daliadau a gwerthoedd gwahanol. Profiad dirfodol, sy’n crebachu’r ymysgaroedd, yw cael ein sarhau. Yn ei ystyr cryfaf mae’n waeth na chael ein niweidio’n gorfforol. Nid yn unig mae’n boenus, mae hefyd yn gwadu i’r dioddefwr y gallu i oresgyn ei boen, i’w gwneud yn ystyrlon. Unwaith y’i profir, nid yw ei olion yn ein cymdeithas mor anweledig mwyach, ac mae’r llygaid yn gweld fel petai am y tro cyntaf y sarhad sydd ar waith, nid yn unig yn y llefydd disgwyliedig ar feysydd y gad, neu y tu ôl i ddrysau mewn carchardai, trwy gyfrwng penderfyniadau sefydliadol, ond hefyd yn y gweithle ac ymhlith ‘cyfeillion’. Nid yw sarhau bob amser yn golygu trais neu orfodaeth gorfforol. Gellir sarhau mewn ffyrdd mwy goddefol yn ogystal, trwy wadu presenoldeb unigolyn, ei gymryd yn ganiataol, gwarafun iddo ei hawliau neu ei freintiau. A gellir sarhau trwy fradychu, neu trwy ddefnyddio enaid arall fel modd o gael at rywbeth, yn hytrach na’i gydnabod yn ei rinwedd ei hun. Heb y profiad, hawdd meddwl mai hen arf defodol er budd gorfodi trefn gymdeithasol benodol mewn cymdeithas draddodiadol ‘anwaraidd’ ydi sarhad – a methu â’i weld ar waith dan ein trwynau.

Daw urddas o’r gallu i ddisgrifio’n hunain oddi mewn i fframwaith moesol y gymuned yr ydym yn perthyn iddi. Ond yr anhawster, fel y disgrifiodd yr athronydd pragmataidd Richard Rorty (a ymboenai lawer am greulondeb ac urddas cymuned dynol-ryw) ydi mai dim ond iaith y gormeswr sydd ar gael i ni, tan y gorfodir newid: ‘Most oppressors have had the wit to teach the oppressed a language in which the oppressed will sound crazy – even to themselves – if they describe themselves as oppressed.’ Cyfrifoldeb y deallusyn, yn ôl Rorty, ydi rhoi geiriau a mynegiant i boen dawel y dioddefwr. Ffafrio llenyddiaeth yn hytrach nag athroniaeth y mae ar gyfer y dasg hon gan mai llenyddiaeth, yn ei farn ef, yw’r fenter ddeallusol baradigmataidd. Tueddiad athroniaeth ydi systemateiddio ac felly osod pethau tu hwnt i hanes. Ond mae llenyddiaeth yn ffurf amryfath, yn fwy agored i amrywiaeth o safbwyntiau, safbwyntiau nad ydynt yn gymesur â’i gilydd. Mae’n fwy cydnaws, felly, gellid dadlau, ar gyfer ehangu’n geirfa foesol.

Yn yr ysbryd hwn o ehangu’n geirfa foesol, gyda’r rhifyn cyfredol, dathlwn aelodaeth O’r Pedwar Gwynt o fenter Ewropeaidd go arbennig, sef y cylchgrawn rhwydweithiol Eurozine, a sefydlwyd yn 1998 â’i bencadlys yn Fienna. Atgyfnerthwn ein hymrwymiad i sicrhau lle i syniadau anghynefin, heriol yn ein hiaith ein hunain. Trwy ymroi i wneud gwaith beunyddiol o’r golwg, i wrando ar syniadau dieithr hyd at syrffed a chyfaddawdu, y daearir ysbrydoliaeth – yn ysbryd negodi llafurus yr Undeb Ewropeaidd, neu’r ystrydeb o’r wraig a’r gŵr anwastad sydd eto efallai’n llwyddo i ddyrchafu byw: wrth ymroi i ddychmygu, wrth fod yn ddigon dewr i’w gweld eu hunain ym myw llygaid ei gilydd, a hynny er mwyn gallu profi eiliadau o gyd-weld (os nad yn unfryd unfarn) er mwyn cyd-fyw.

Gyda dinistr ecolegol yn carlamu’n herfeiddiol tuag atom, mae’n gwestiwn eirias beth yw ystyr bod yn ddinasyddion darn o dir neu gyfandir, lle ceir pwysau argyfyngus ar adnoddau o’r tu mewn yn gymaint ag o’r tu allan. Er mwyn ymdeimlo’n onest â’r cwestiwn hwn a ‘daearu Ewrop’, rhaid bod yn barod i edrych i fyw llygaid eraill heb agenda. Meddai Latour:

Oedd, roedd Ewrop yn beryg pan gredai ei bod yn abl i ‘ddominyddu’ y byd – ond oni fyddai’n beryclach fyth pe byddai’n crebachu ac yn chwilio, fel llygoden fach, am ffordd o ymguddio rhag hanes? [...] Yn benodol o ganlyniad i’w chamweddau, nid yw bychander yn opsiwn. 


Sioned Puw Rowlands yw Golygydd Gyfarwyddwr O'r Pedwar Gwynt.

Llun planed Daear: NASA


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Tybed onid trwy rym dychymyg ac ar sail profiad – nid rheswm – y lledaenir y gymuned foesol yn y lle cyntaf?

Dyddiad cyhoeddi: 22·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...