Dadansoddi

Dal dwylo yn y glaw

Cofio Tony Bianchi


Jon Gower

03·07·2017

Ond chwarae teg iddo, dyw e ddim yn danto. Ac o roi ei ddwylo ar y llawr wedyn mae’n llwyddo i’w sadio’i hun. Mae’n tynnu anadl ddofn. ‘Fffff…’ Ac un arall. ‘Fffff…’ A’r anadlu fel petai’n dweud, ‘Wel dyna rhyddhad, dyna ollyngdod, ar ôl yr holl boen a thrallod ...’

Tony Bianchi, o’i stori fer, ‘Eric ’n’ Ernie’

Mae rhywun yn cofio Tony Bianchi fel dyn hynod o annwyl a chariadlawn, pob sgwrs ag e’n werthfawr – ac yn siŵr o gynnwys sôn am lyfrau. Os taw canlyniad i ddarllen yw ysgrifennu, hawdd deall sut y medrai Tony ’sgrifennu cymaint a ’sgrifennu mor dda. Oherwydd roedd yn darllen yn eang, yn gyson a chyda brwdfrydedd heintus. Os clywoch chi raglen Stiwdio ar Radio Cymru, pan fu Tony a Catrin Beard yn trafod eu hoff llyfrau, byddwch yn gwybod yn iawn sut y gallai Tony eich cyfeirio at bethau ardderchog i’w darllen.

Roedd yn awdur athrylithgar a luniodd nofelau niferus, a’r rheini’n dra soffistigedig – cyfrolau doeth a chwareus ar yr un pryd, a enillodd iddo Wobr Daniel Owen (Pryfeta yn 2007) a’r Fedal Ryddiaith (Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands yn 2015). Dechreuodd ’sgrifennu yn weddol hwyr yn ei fywyd. Roedd y nofel Esgyrn Bach (Y Lolfa, 2006) yn gyfle iddo ddial ar Gyngor Celfyddydau Cymru a’i ddiwylliant bryd hynny o archwilio ariannol cyson a boddi creadigrwydd dan ddogfennaeth. I’r perwyl hwnnw, aeth Bianchi ati i greu’r Weinyddiaeth er Hyrwyddo Buddiannau Strategol y Celfyddydau sy’n argymell ‘Trigain Cam Namyn Un Tuag At Lwyr Effeithlonrwydd Gweinyddol’ ac sy’n cynnwys ‘Adran Dryloywder ac Atebolrwydd’.

Mae teitl ei gasgliad o straeon hunangofiannol Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gomer, 2010) yn ein hatgoffa taw brodor o Ogledd Lloegr oedd hwn a aeth ati nid yn unig i ddysgu Cymraeg ond i’w meddiannu’n llwyr. Roedd coethder ei eirfa ar lafar ac mewn print yn destun rhyfeddod; meddiannodd y Gymraeg i’r fath raddau nes iddo ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod ddwywaith ac mae sawl enghraifft yn tŷ ni o englynion cyfarch Tony i ddathlu achlysuron fel dyweddïo, priodi a geni plant. Ond roedd dyfnder ei wybodaeth a’i ddiléit mewn barddoniaeth i’w weld yn gliriach ac yn ehangach yn y detholiad o gerddi a olygydd ar ran Barddas, Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes (2005).

Mewn cyfweliad gyda Click on Wales, esboniodd Tony ei fod yn gwbl ffyddiog bod ysgrifennu mewn ail iaith wedi gwneud iddo ’sgrifennu’n well. ‘Mae dysgu iaith yn debyg iawn i wisgo mwgwd. Pan y’ch chi’n dysgu iaith newydd mae’n rhaid i chi fihafio fel tasech chi’n berson gwahanol. Yn eich iaith gyntaf mae hi’n hawdd suddo’n ddwfn i’ch byd mewnol eich hun, ond wrth ’sgrifennu yn Gymraeg mae’n haws taflunio’r hyn sy’n eich poeni chi ar gynfas wahanol.’

Roedd Tony hefyd yn feirniad craff ar y naw. Astudiodd waith Samuel Beckett ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Llambed ac fe ’sgrifennodd lyfr hefyd am Richard Vaughan, yng nghyfres ‘Writers of Wales’. Heb sôn am ysgrifau hynod o dreiddgar fel ‘R S Thomas and his Readers’ (yn Wales: The Imagined Nation, gol. Tony Curtis, 1986) a’i asesiad o lenyddiaeth Eingl-Gymreig, ‘Aztecs in Troedrhiwgwair: Recent Fictions in Wales’ (Peripheral Visions: Images of Nationhood in Contemporary British Fiction, gol. Ian Bell, 1995).

Os oes yna un ddelwedd o Tony sydd yn dod i’r meddwl yn syth bin, dyma hi: pan fyddai ef a’i gymar Ruth yn croesi’r hewl, byddai’r ddau ohonynt yn dal dwylo cyn neidio oddi ar ymyl y pafin, fel dau yn eu harddegau. Ac fe fydden nhw’n mwynhau gwneud hynny hyd yn oed yn fwy os digwydd iddi fod yn bwrw glaw, er mwyn osgoi’r pwdeli gyda'i gilydd. Dyn ifanc 65 mlwydd oed ydoedd, a meddai ar frwdfrydedd yr ieuanc wrth ddod o hyd i gerddoriaeth newydd neu wrth iddo ddringo mynyddoedd. Ond roedd yn meddu hefyd ar yr angerdd hwnnw sy’n peri i bobl frwydro ac ymgyrchu: gweithiodd Tony yn ddiflino yn rhan o’r Mudiad Gwrth-Apartheid yng Nghymru.

Cydymdeimlwn â Ruth, ac â’i ferched, Rhiannon a Heledd, a’i wyrion a’i wyresau i gyd, a oedd yn caru dad-cu fel yr oedd cynifer o’i ddarllenwyr yn caru ei ryddiaith.

Efallai y gall Samuel Beckett gynnig diweddglo i’r ysgrif hon, ar ddiwrnod pan mae ’na gysgod dros yr haul, a’r diwrnod yn wag ac yn fyrrach rhywsut:

It is right that he too should have his little chronicle, his memories, his reason, and be able to recognize the good in the bad, the bad in the worst, and so grow gently old down all the unchanging days, and die one day like any other day, only shorter.


Mae Jon Gower yn awdur a darlledwr. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Rebel, Rebel (Y Lolfa, 2016).


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Jon Gower, Teyrnged, Tony Bianchi

 


'Mae dysgu iaith yn debyg iawn i wisgo mwgwd. Pan y’ch chi’n dysgu iaith newydd mae’n rhaid i chi fihafio fel tasech chi’n berson gwahanol.'
Tony Bianchi

Dyddiad cyhoeddi: 03·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Casia Wiliam

Dwi wedi symud tŷ naw o weithiau yn ystod fy mywyd, ac ym mis Hydref, a minnau bellach yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, fe fydda i’n symud eto. Rydw i a Tom wedi bod yn byw yn ein fflat…

Adolygu


Elan Grug Muse

Petawn i’n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i’n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i’n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae darllenwyr Cymru wedi arfer efo nofelau realaidd, pridd-ac-adfeilion-a-charcasau-ŵyn-bach, a thros y blynyddoedd mae nhw wedi glynu’n reit ystyfnig at yr hyn maen nhw’n ei hoffi. Pwy a ŵyr, wedyn, be wnân nhw efo nofel…

Dadansoddi


Gwyn Griffiths

Derbyniodd Gwyn Griffiths wobr gyfieithu Ostana yn yr Eidal, am ei waith yn cyd-olygu dwy flodeugerdd yng nghyfres Francis Boutle o ieithoedd llai-eu-defnydd Ewrop. Llenyddiaeth Llydaw yw testun y gyfrol gyntaf ac mae’r ail, The Old Red Tongue, yn gyfrol swmpus o ryw 1,000…

Dadansoddi


Gerald Morgan

Mae tinc o euogrwydd yn poeni’r meddwl. Newydd ddychwelyd o Lydaw wedi wythnos o wyliau gyda pherthnasau – braf iawn. Bwyta’n dda, mwynhau’r traethau, trefi Pont-Aven, Pontivy, Concarneau a Landerneau. Cyngerdd egnȉol gan gôr meibion Tregunc yn canu caneuon y môr, arddangosfa fawr o waith Picasso, ac yn…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ar fore gwlyb a thywyll ddiwedd mis Hydref ym 1964 eisteddai'r bachgen 10 oed mewn caffi di-nod nepell o Orsaf Fictoria, Llundain. Arhosai'n eiddgar gyda'i rieni am frecwast; wedi taith dros nos o Gymru roedd y bachgen yn flinedig ac anniddig. Nid dyma'r…

Adolygu


Elan Grug Muse

‘Trwy ddrych’ oedd testun y Goron yn Eisteddfod Môn 2017. Y mae drych, yn ôl ei natur, yn dangos i ni ryw ddarlun o’n byd. Llun sydd efallai’n gyfarwydd, ond nid yr union lun yr ydym wedi arfer ei weld gyda’n llygaid noeth. Dyna oedd yng nghefn fy meddwl wrth…

Cyfansoddi


Siân Cleaver

Enillydd Her Gyfieithu 2017 Cyfnewidfa Lên Cymru a PEN Cymru yw Siân Cleaver, sy'n hanu o Gastell-nedd. Yn y fan hon gallwch ddarllen cyfieithiad buddugol Siân o gerdd gan y bardd Twrcaidd Nâzim Hikmet, ynghyd â'i hymateb i'r heriau penodol sy'n deillio o gyfieithu o 'iaith bontio'.

Dadansoddi


Manon Steffan Ros

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel.