Dadansoddi

Darllen llun

‘Avenue of Trees’ gan Peter Cattrell


Geoff Young

Amser darllen: 3 munud

30·03·2018

Avenue of Trees, Newfoundland Memorial Park, Somme, France gan Peter Cattrell, 2000.

Mae’r gangen gwympiedig yn rhwystro mynediad, yn llinell ar letraws dros y llwybr. A hithau’n gangen gwympiedig unig, gorwedd yn lluddedig ar lawr, yn rhwystr i’r llygad rhag gweld y tu hwnt. Mae’r rhes o goed ar y dde yn dywyllach ac yn hawlio eu lle, tra gwelir y coed goleuach ar y chwith ac yn y pellter yn eu cyflawnder; maent yn fwy ansylweddol a goddefol. Cawn ein cymell am i mewn gan ffurfiau tywyll y coed bygythiol hyn ar y dde, sy’n tarfu eto ar y gynneddf naturiol i symud ymlaen at y golau ysgafnach tu hwnt. Ond dyma naratif ymwybodol sy’n ymdeimlo â thristwch gweddus i’r lleoliad a’i hanes dychrynllyd.

Wrth greu’r ddelwedd hon mae Peter Cattrell fel petai’n creu ffuglen i gynrychioli gwirionedd, yn creu trosiad ar gyfer y tristwch a oedd yn rhan o’i brofiad. Mae canghennau’n disgyn, nid dim ond un gangen; ac nid yw’r coed yn hawlio eu lle nac ychwaith yn ansylweddol o angenrheidrwydd. Byddai ffotograff wedi ei dynnu o’r tu hwnt i’r gangen unig yn cynnal naratif amgen. Ond edrych ar ffotograff yr ydym; mae’n dangos i ni sut y gall ffotograffydd profiadol weld, sut y gall ragweld delwedd ac ymateb i’r posibiliadau hynny.

O gofio hanes trasig tirwedd y Somme, gwaith y ffotograffydd yn y fan hon yw dechrau cynrychioli’r hanes hwnnw, mewn termau ffotograffig, rywsut neu’i gilydd, trwy arsylwi a thrwy ddefnyddio’r technegau cyfansoddiadol sydd ar gael iddo, technegau sydd wedi eu seilio, wrth gwrs, ar gonfensiynau diwylliannol y celfyddydau gweledol. Mae rhai o’r confensiynau hyn yn perthyn yn benodol i ffotograffiaeth dirluniadol ddogfennol: derbynnir yr olygfa a’i holl elfennau heb ymyrraeth. Roedd y gangen gwympiedig yn rhodd. Hebddi, ni fyddai Cattrell wedi tynnu’r llun. Dyma bwnc y ffotograff. Er y confensiynau hyn, cyfleu profiad personol y mae ffotograff a gall ffotograffydd arall gyda’r un cyfarpar ymateb yn wahanol, wrth reswm. Dyma sydd yn unigryw am ffotograffiaeth: y cyfuniad o gyfarpar mecanyddol a’r confensiynau sy’n perthyn iddynt ar y naill law, a thriniaeth y ffotograffydd ar y llaw arall, a’r modd y mae’r ddelwedd a gaiff ei chreu yn cael ei gweld a’i darllen.

Mae Peter Cattrell wedi bod yn tynnu lluniau tirluniau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn gyson er 1996. Lladdwyd hen ewythr iddo ar y Somme, ac mae’n benderfynol o ddarganfod yr hyn a all amdano, nid dim ond trwy archwilio archifau, ond trwy droedio yr un pridd, anadlu’r un aer – a thynnu lluniau. Roedd y ddelwedd hon yn rhan o arddangosfa Echoes of the Great War. Arddangoswyd lluniau Cattrell o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar draws Prydain. Maent i’w gweld yn Ffotogaleri y Gofeb, Machynlleth hyd 21 Ebrill 2018.

Dyma ffotograff sydd wedi ei gyfleu’n hyfryd, wedi ei greu, gam wrth gam, â gallu technegol ac esthetig. Gellir ei weld yn y termau hynny’n unig, yn yr ymdoddiad rhwng y tywyll a’r golau, gyda’r manylion caled ym mlaen y darlun yn arwain at dynerwch y coed yn y pellter, cyn diflannu yng ngwynder diddymdra. Heb gyd-destun i’r llun, gellir ei werthfawrogi fel golygfa hardd, brudd yn unig. Recordiwyd y ffotograff ar ddiwrnod o darth oer, gan ffotograffydd y dylanwadwyd yn fawr arno gan y cyfarwyddwr ffilm Andrei Tarkovsky a’i ddarluniadau atgofus, swreal ar brydiau, o’r tirlun Rwsiaidd.

Plannwyd y coed hyn lle unwaith roedd tir neb, gofod agored, diamddiffyn rhwng dwy linell y ffrynt yr oedd rhaid eu croesi dan fygythiad gynnau’n saethu. Dyma’r amddiffynfa nad oedd yno i’r milwyr. Dyma hefyd y llwybr a ddefnyddir gan ymwelwyr i gyrraedd sawl mynwent ryfel. Ers i’r llun gael ei dynnu, tarmaciwyd y ffordd. Felly mae’r olygfa wedi newid eto fyth, ac ni fydd cangen gwympiedig yn cael penrhyddid mwyach i rwystro mynediad.


Geoff Young yw perchennog Galeri a Siop Lyfrau Pen’rallt a Ffotogaleri y Gofeb ym Machynlleth, ar y cyd â Diane Bailey.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…