Dadansoddi

Darllen llun: Hilla a Bernd Becher


Diane Bailey

Amser darllen: 3 munud

29·11·2019

Trwy garedigrwydd Die Photographische Sammlung / SK Stiftung Kultur –
Bernd und Hilla Becher Archive, Köln, 2019


Lluniau o olwynion weindio pen pwll, tanciau nwy, tyrau dŵr, odynau calch a bwnceri glo a dynnwyd gan Hilla a Bernd Becher: olion ôl-ddiwydiannol a gysylltir yn bennaf â’r diwydiannau glofaol a dur. O ddiwedd y 1950au hyd ddechrau’r ganrif hon gweithiasant yn fanwl a threfnus, gan ddefnyddio camera plât 10x8 ar dreipod trwm, a ffilm ddu a gwyn. Cynhyrchwyd dros 16,000 o negatifau ganddynt. O blith y rhain, byddent yn dewis, yn argraffu ac yn trefnu cannoedd o luniau a hynny’n flociau o 9, 12 neu 15. Er eu bod yn tynnu lluniau ar hyd a lled Ewrop ddiwydiannol, ym Mhrydain hefyd a’r UD, consýrn y trefniadau gweledol hyn oedd nid daearyddiaeth yn gymaint â strwythur, natur defnyddiau a’r cysylltiadau rhyngddynt. 

Ers cyfnod ei hieuenctid yn Nwyrain Berlin, meithriniwyd sgiliau Hilla gan ei mam a oedd yn ffotograffydd. Wedi hyfforddi â ffotograffydd pensaernïol amlwg yn Potsdam, ffodd Hilla i Orllewin yr Almaen lle bu’n gweithio yn swyddfeydd amrywiol benseiri yn tynnu lluniau ffeiriau masnach yn fyd-eang, a maes o law, fel ffotograffydd swyddogol ar gyfer y GFR (Arddangosfa Diwydiannau’r Almaen) yn Sudan (1961). 

Hannai ei phartner, Bernd Becher o ardal ddiwydiannol y Ruhr. Gryn dipyn yn hwyrach, byddai’r mannau lle byddai Hilla a Bernd yn tynnu lluniau’n adlewyrchu diddordebau Bernd mewn llefydd a ymdebygai i ardal ei fagwraeth, a’r lluniau yn dyst i ddirywiad y diwydiant glo a dur a oedd unwaith yn cyflogi’r teulu. Roedd cydweithio yn boddhau uchelgais y ddau i ddal ysbryd y bensaernïaeth ddiwydiannol hon – ‘not built by famous architects’, yng ngeiriau’r Bercheriaid – cyn iddi ddiflannu. Wedi hel digon o bres i brynu cerbyd gwersylla, a grant gan y Cyngor Prydeinig ar sail eu gwaith yn mherfeddwlad ddiwydiannol yr Almaen a Gwlad Belg, teithiasant i dde Cymru. Roedd yr hyn a ddarganfyddwyd ganddynt yno yn gyfarwydd ond yn wahanol hefyd. Roedd y cymariaethau a godai wrth osod y delweddau hyn ochr yn ochr â’u swmp cynyddol o waith yn ddeunydd cyfosodiadau di-ben-draw.

Nid oes y fath beth â ffotograffiaeth uniongyrchol wrthrychol. Mae’r testun wedi ei drwytho mewn hanes ac ystyr a daw’r ffotograffydd â’i phrofiadau ei hun i’r gwaith. Roedd y Becheriaid fel petaent yn miniogi’r ymwneud hwn trwy ynysu pob strwythur: yr un gymhareb rhwng ffigwr a llawr, y camera wedi ei osod yn syth ar y testun, a’r lefel llygad yn gyson, ac amgylchiadau’r golau yn feddal a di-gysgod, heb bresenoldeb amlwg dyn, a fawr ddim cyd-destun. Wrth iddynt arsylwi ac ymgyfarwyddo trwy dynnu lluniau a’u trefnu, roeddent o’r farn bod y strwythurau hyn yn dadlennu nodweddion a oedd yn anweledig i’r gwyliwr achlysurol. Ac o graffu, gwelwn ambell ffigwr dynol yn eu plith. Disgrifiodd Hilla effaith gosod y ffotograffiaeth ochr yn ochr i greu cyfanwaith fel ‘flick book, a movie’. Er eu difrifoldeb, mae cymeriad anthropomorffig, llawn hiwmor llawer o’r strwythurau, a’r patrymau a’r rhythmau a ailadroddir gan y fframio hwn a’u cyflwyniad idiosyncrataidd, yn cyfleu nid archif yn gymaint â ‘the evident delight taken in their work as the play of form’ (Tate Papers, 1/2004).

Mae gwaith y Becheriaid wedi ei gysylltu â ffotograffiaeth ‘oes y peiriant’ Renger-Patzsch a gwaith August Sander, a greodd deipoleg helaeth o beiriannau a phobl yn yr Almaen yn y 1920au a’r 1930au. Gellid gweld y ffotograffwyr hyn, fel unrhyw weithiwr ar y pryd, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr. Roedd iddynt le pwysig mewn cymdeithas. Mewn cyfweliadau, ymhelaethodd Bernd, a fu farw yn 2007 a Hilla hithau, a fu fyw wyth mlynedd arall, ar weledigaeth eu prosiect, eu synnwyr cyfrifoldeb at y gorffennol, a hwythau’n ymwybodol bod affwys rhyfel byd wedi torri addewid moderniaeth. Yn y 1970au a’r 1980au, ehangwyd eu gwaith i’r UD.

Erbyn hyn, mae ffotograffiaeth y Becheriaid yn destun erthyglau academaidd dirifedi, adolygiadau a chyfrolau sylweddol, wedi eu cyfryngu gan y farchnad gelf ryngwladol a deongliadau curadurol. Cânt eu harddangos ochr yn ochr â gwaith eu cyn-fyfyrwyr, ffotograffwyr cyfoes Ewropeaidd o bwys megis Thomas Struth, Thomas Ruff ac Andreas Gursky. Bellach, wedi eu dychwelyd i dde Cymru, lle bu cenedlaethau’n byw yng nghysgod y gweithfeydd glo a dur, yn gweithio ynddynt ac yn gyfarwydd â’u hadeiladwaith a’u bwriadau, mae ffotograffau Hilla a Bernd Becher fel petaent yn tynnu atynt i’r presennol haenau ychwanegol o ystyr. Maent hefyd yn rhan o deulu o ‘lestri’ a ‘chloddwyr’ diwydiannol, yn record noeth o’r ymelwa a fu ar ddeunyddiau crai, deunyddiau a fyddai wedi bod yn well o’u gadael yn
eu lle, yn y ddaear. 

Manylion y ffotograff

Colofn 1: Deep Dyffryn Colliery, Mountain Ash, South Wales, 1966 / Prince of Wales, Shaft 1, Ebbw Vale, South Wales, 1974 / Astley Green Colliery, Manchester, GB, 1973 

Colofn 2: Naval Colliery, Tonypandy, South Wales, 1966 / Garw Colliery, Pontycymer, South Wales, 1973 / Bwllfa Colliery, Cwmdare, South Wales, 1966

Colofn 3: Great Western Colliery, Shaft 1, Pontypridd, South Wales, 1968 / Park Colliery, Treorchy, South Wales, 1966 / Merthyr Vale Colliery, Shaft 2, Aberfan, South Wales, 1966

Colofn 4: Great Western Colliery, Shaft 2, Pontypridd, South Wales, 1968 / Annesley Colliery, Nottingham, GB, 1997 / Merthyr Vale Colliery, Shaft 1, Aberfan, South Wales, 1966

Colofn 5: Blaenserchan Colliery, Pontypool, South Wales, 1966 / Glenrhondda Colliery, Treherbert, South Wales, 1966 / Tower Colliery, Hirwaun, South Wales, 1966


Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant, arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 26 Hydref 2019 – 1 Mawrth 2020.

Sefydlodd Diane Bailey a Geoff Young Ffotogaleri y Gofeb, Machynlleth, yn 2017.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Wedi hel digon o bres i brynu cerbyd gwersylla, a grant gan y Cyngor Prydeinig ar sail eu gwaith yn mherfeddwlad ddiwydiannol yr Almaen a Gwlad Belg, teithiasant i dde Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 29·11·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ned Thomas

Y mis hwn, hanner canrif yn ôl, daeth rhyfel Biafra i ben. Methodd yr ymdrech i sefydlu gwlad annibynnol i'r bobl Igbo (yn bennaf) yn ne a de-ddwyrain Nigeria. Parhaodd y rhyfel am dros ddwy flynedd a hanner, a lladdwyd o gwmpas…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Ysbrydolwyd Hel y Mynydd (12 Ionawr 2020, S4C) gan y ffenomen sakte-TV yn Llychlyn: ‘teledu araf’. Yn 2009 darlledwyd rhaglen saith awr hynod boblogaidd ar y sianel NRK2 yn dogfennu siwrnai drên o Bergen i Oslo, prosiect a ddisgrifwyd yn y New Yorker fel ‘the iconic slow-TV programme’ ac a sbardunodd genre newydd. Enghraifft…

Cyfansoddi


Geraint Lewis

Ro’n i wedi bwriadu ysgrifennu stori, wir i chi. Dyna oedd y syniad. Ro’n i’n teimlo’n weddol hyderus, yn gwybod am y diffiniad clasurol o orfod cael dechrau, canol a diwedd – er nid o anghenraid yn y drefn yna, chwedl Samuel Beckett.

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae pyrth dy fforest di, o wlad y Brutaniaid presennol, yn agored i’r eirias dân. Oni ddygwch ffrwyth yr awron, fe a’ch torrir rhag bod yn bobl.

Geiriau Morgan Llwyd yn Llyfr y Tri Aderyn (1653) yw y rhain, yn fynegiant o’r athrawiaeth a fyddai, yn ôl M Wynn Thomas, yn…

Cyfweld


Ivan Krastev

Wrth i'w gyfrol ddiweddaraf gael ei chyhoeddi – The Light That Failed: A Reckoning (2019, gyda Stephen Holmes) – bu Eurozine yn cyfweld ag Ivan Krastev, un o ddadansoddwyr amlycaf y newidiadau mawr ar waith yn Ewrop ar hyn o bryd, gan gynnwys cysyniadau sydd ynghlwm wrth Brexit megis 'y mwyafrif dan fygythiad'. Dadleua Ivan Krastev a Stephen Holmes…

Adolygu


Jane Aaron

Yn ôl rhagair Tegwen Morris, cyfarwyddwraig bresennol Merched y Wawr, ‘nid ffeministiaeth sy’n cael ei bortreadu’ yn y gyfrol hon ond ‘bywyd bob dydd’ menywod Cymru rhwng 1920 a 1960. Eto i gyd, yr hyn sydd yn debyg o daro darllenwyr yr 21g wrth iddynt droi tudalennau’r…

Dadansoddi


Keith Chapin

Cysyniad hynafol yw’r ‘aruchel’ a gafodd ei ddychmygu o’r newydd dro ar ôl tro. Hupsous yn yr hen Roeg, sublimis yn Lladin, sublime yn Ffrangeg a Saesneg, Erhaben yn Almaeneg: mae’n dynodi uchelder arbennig (neu’r safle oddi tano, sef ‘sub’ ‘limen’ – yn llythrennol, o dan drothwy). Roedd ‘arddull yr aruchel’ (stilus sublimus) â’i holl ddefnydd o drosiadau llachar, cymalau coeth ac ieithwedd gain, yn rhan…

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ...