Colofnau

Darllen llun: Edith Tudor-Hart


Diane Bailey

Amser darllen: 5 munud

28·07·2018

‘Working Women’s Guild/Workers’ Wives’: protest gweithwyr di-waith yn Nhrealaw, 1935, gan Edith Tudor-Hart

Yn 1935, tynnodd Edith Tudor-Hart y llun hwn yn Nhrealaw, de Cymru: gwŷr a merched yn gorymdeithio yn erbyn deddf diweithdra’r llywodraeth a bygythiad y prawf modd. Y flwyddyn flaenorol, priododd y meddyg Alexander Tudor-Hart yn Fienna, priodas a gynigiai ddihangfa i Brydain rhag gormes ffasgiaeth Awstria. Fe’i dilynwyd gan ei brawd iau, Wolfgang Suschitsky.

Ganwyd Edith yn 1908. Sefydlodd ei rhieni siop lyfrau a gwasg sosialaidd yn 1901, yn ardal ddiwydiannol Favoriten yn Fienna (busnes a ‘ddiddymwyd’ yn 1938 gan y Natsïaid). Llanwyd ei hieuenctid â llyfrau gwleidyddol a phamffledi o blaid hawliau merched, rhyddfreinio rhywiol a diwygio addysg, a chafodd ei hatynnu gan athroniaeth yr addysgwraig o’r Eidal Maria Montessori, gan fynd i Dessau, i’r Bauhaus, yn hwyrach ymlaen, sef cartref ffotograffiaeth avant-garde. Ond pan ddechreuodd ffasgiaeth ledu ei gafael, denwyd Edith gan yr orchwyl o gofnodi bywyd cymdeithasol a gwleidyddol Fienna – trigolion y ddinas, protestiadau ar y stryd ac amgylchiadau byw.

Yn 1934, ymunodd Alexander â meddygfa yn y Rhondda. Roedd yr awyrgylch a ddarganfu Edith yno, o gyni enbyd a theimladau cryfion yn mudferwi yn erbyn cyfalafiaeth a ffasgiaeth, yn gyfarwydd iddi. Daeth â moeseg ffurfiannol ymarfer y cyfandir gyda hi o Fienna: yno, cymhellwyd ffotograffwyr a ddogfennai’r gymdeithas i ‘gymryd ochr’.

Roedd hon yn brotest anferth, yn sylweddol o safbwynt hanesyddol a gwleidyddol. Cerddodd 300,000 heibio’r tai teras gan weu eu ffordd i lawr ac i fyny ochrau’r cwm; roedd hynt y strydoedd wedi eu dynodi gan lampau nwy a pholion telegraff, y pellterau wedi eu colli yn niwl y calonbarth diwydiannol. Cafwyd postyn giât cyfleus o uchder delfrydol i alluogi Edith i godi ei golygon o ffenestr ei chamera Rolleiflex i wynebau’r bobl: bechgyn mewn capiau a throwsusau cwta, genethod wedi eu lapio rhag yr oerfel; a merched ifanc a chanol-oed fel ei gilydd yn edrych allan o dan ymbaréls (er mwyn cael eu gweld yn well yn gymaint ag er mwyn gweld), eu siapiau byw yn ychwanegu at y patrwm o wynebau dyrchafedig – wynebau llawn cywreinrwydd, a siriol hefyd, ar y cyfan. A phawb yn ymuno â’r orymdaith, yr ychydig gweddilliol yn pwyso ar ben drysau’r tai, eu breichiau ymhleth, yn mwynhau’r sioe. Adlewyrchir golau Chwefror gan strydoedd a thoeau gwlypion a chysgodion y cyrn simnai yn dynodi treigl y dorf wrth iddi lifo i mewn ac allan o ffrâm camera Edith. Nogia’r momentwm – y gorymdeithwyr yn ymwybodol, efallai, eu bod yn sefyll yn y foment hon rywle rhwng y gorffennol a’r dyfodol.

Erbyn 1936, i orffennol Edith y perthynai’r digwyddiad hwn – a de Cymru. Gadawodd Alexander am Ryfel Cartref Sbaen, i weithio fel llawfeddyg. Daeth Edith o hyd i waith fel ffotograffydd yn ôl yn Lloegr, lle’r aeth i’r afael eto â gweithgaredd a ddechreuwyd ganddi yn Fienna: cyflenwai ffotograffau eithriadol o dreiddgar ar gyfer erthyglau a llyfrau a gyhoeddwyd fel rhan o’r ymgyrch dros iechyd ac addysg plant (dioddefai ei mab o awtistiaeth trwm).

Yn yr un modd ag Edith, teithiodd y ffotograff hwn. Er ei fod ar yr olwg gyntaf yn gyfan gwbl fydol ei ffocws, mae’n cofnodi safbwynt hanfodol. Dogfennir cymdeithas ganddo a gofynnir i’r darllenydd wreiddio ystyr y ddelwedd mewn profiad real. Pan hedodd Edith o Fienna, cafodd llawer o’i deunydd ffotograffig eu cymryd oddi arni gan yr awdurdodau; ym Mhrydain eto, yn 1951, wrth iddi barhau i gael ei herlid, dinistriodd yr hyn a dybiasai allai roi achos dros ei chyhuddo – ffotograffau a negatifau o’i chyfnod fel ymgyrchwraig, fel negesydd ac asiant achlysurol i’r Blaid Gomiwnyddol.

Yn y 1980au, argraffodd Wolfgang yr oll a oedd ganddo o waith ei chwaer. Mae’r ffotograff hwn yn un o blith 21 a dynnwyd yn ne Cymru ac a gedwir yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Goroesodd y llun, fel y goroesodd y foment hon.


Diane Bailey yw perchennog Siop Lyfrau Pen'rallt a Ffotogaleri y Gofeb ym Machynlleth, ar y cyd â Geoff Young.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Pan ddechreuodd ffasgiaeth ledu ei gafael, denwyd Edith gan yr orchwyl o gofnodi bywyd cymdeithasol a gwleidyddol Fienna – trigolion y ddinas, protestiadau ar y stryd ac amgylchiadau byw

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Ym myd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Gwn fod y Fanaweg wedi cael ei hatgyfodi gyda chryn lwyddiant yn ddiweddar, ac yn wir, maentumiai rhai na fu iddi farw gyda Ned Maddrell o gwbl. Ond credaf ei bod yn deg dweud iddi ddod i ben fel iaith…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.

Gwneid…

Dadansoddi


Andrew Green

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y…