Dadansoddi

Darllen llun: Sirkka-Liisa Konttinen

Heather yn chwarae piano mewn tŷ wedi mynd â’i ben iddo


Geoff Young

Amser darllen: 4 munud

30·11·2018

Heather Playing a Piano in a Derelict House, 1971
© Sirkka-Liisa Konttinen, gyda diolch i Amber / L Parker Stephenson Photographs

 

I heard the sounds of a broken piano drifting out of an upstairs window of a half-demolished house. There was barely a staircase left to it. I had been photographing children playing in the street and, out of curiosity, climbed the stairs to find a young girl, maybe eight or nine years old, absorbed in making her music with the abandoned piano. Like me, she had just wandered into the house from the street.

Dyma gyffyrddiadau bywgraffyddol ffotograff. Ymgartrefodd Sirkka-Liisa Konttinen yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn 23 oed. Daeth o’i chartref yn y Ffindir i Lundain yn gyntaf, cyn symud i ardal Byker yn Newcastle upon Tyne dair blynedd yn ddiweddarach. Aeth ati i greu cofnod o gymuned oedd yn graddol ddiflannu, o ganlyniad i nod cynllunwyr Dinas Newcastle i ailgartrefu pobl, i anghofio cymuned, cyfeillgarwch, hen ffyrdd, i wella bywydau. Mae hi am dynnu lluniau ym mhob tŷ yn ei stryd a thu hwnt; mae hi am wneud delweddau fydd yn anrhydeddu’r gymuned, i’w gosod mewn amser.

A’r ferch fach, y bysedd meddylgar yn chwarae nodau’r piano a adawyd i fynd â’i ben iddo. Yn gwrando, mae hi wedi ei hynysu, yn y ffotograff ac yn ei meddyliau, yn ei realiti ei hun. Llun prydferth, dwysingol yw Heather Playing a Piano in a Derelict House, wedi ei greu’n syml ac yn sydyn gan y ffotograffydd yn 1971. Yn yr ennyd hon, mae hanes dau fywyd yn cyffwrdd cyn parhau ar hyd eu priod lwybrau.

Piano, papur wal, ystafell, tŷ, stryd, cymuned, pob un â’i hanes. Roedd popeth yn newydd unwaith. Ymgartrefodd pobl, yn gyffro i gyd, yn eu tai eu hunain: bu ailaddurno, hynt a helynt teulu, gwaith, chwarae; yn lliaws dirifedi, na ellir ond prin ei weld yma. Dim ond dychmygu’r bywydau hyn y gallwn wrth i ni graffu ar ddelwedd fel hon sy’n amgyffred presennol, gorffennol a dyfodol bron hanner can mlynedd yn ôl. Daeth Konttinen yn rhan o’r byw hwn am saith mlynedd, tan i’w thŷ hithau hefyd gael ei ddymchwel. Wrth wneud y math yma o waith ffotograffig, mae’n naturiol bod ennyn ymddiriedaeth gyda’r camera, cael eich adnabod, eich enwi yn hanfodol.

Roedd y 60au a’r 70au yn gyfnod o newid ym Mhrydain, newid a gofnodwyd gan ffotograffwyr lleol megis Shirley Baker yn Salford, Jack Hulme yn Swydd Efrog, Vanley Burke yn Birmingham a Roger Mayne yn Llundain. Yn yr un cyfnod, symudodd y ffotograffydd Tsiec Markéta Luskačová i Lundain, yn 1975, a thynnu lluniau yn ardal Spitalfields, gan arddangos ei gwaith, maes o law, ar y cyd â Konttinen. Yn ne Cymru ar y pryd, roedd Pete Davis yn ŵr ifanc, yn byw ac yn tynnu lluniau yn ardal Caerdydd, ond tynnwyd y lluniau mwyaf adnabyddus gan dri Americanwr: Robert Frank (o’r Swistir yn wreiddiol), W Eugene Smith a Bruce Davidson, ffotograffwyr gwleidyddol, profiadol, a gafodd eu denu i dde Cymru gan frwydr y dosbarth gweithiol.

Roedd Konttinen yn un o sefydlwyr yr Amber Collective, a gychwynnwyd yn 1968 yn ardal ddiwydiannol Newcastle, er mwyn gwneud ffilmiau a ffotograffau i gofnodi bywyd a gwaith yr ardal. Fel sydd hefyd yn angenrheidiol i ffotograffydd, dieithryn ydoedd, estrones, ond cafodd ei chofleidio’n reddfol gan drigolion Byker, yn arbennig y merched lleol a edrychodd ar ei hôl, yn poeni amdani, yn ei magu. Fel arall, sut y byddai hi’n dod i ben, mor ifanc, mor bell o gartref?

Cynneddf naturiol, ddynol yw’r reddf i helpu eraill. Caiff hyn ei herio a’i wneud yn anos, yn llai digymell pan fo bywyd yn ymdrech, pan fo’r amserau’n anodd ac, i nifer fawr ym Mhrydain, mae’r amserau ar hyn o bryd yn anodd neilltuol. Gwaethygwyd y cyni hwn ac ysgogwyd rhaniadau gan y mesurau hirlwm. Pleidleisiodd pobl gogledd-ddwyrain Lloegr o blaid Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (58% i 42%), fel y gwnaeth trigolion de Cymru (56% i 44%), dwy ardal ddiwydiannol yr wyf wedi byw ynddynt. Yn fy mhrofiad i, nid yw’r naill ganlyniad na’r llall yn mynegi cymeriad cyffredin y bobl na’u hysbryd hanesyddol.

Mae’r print bellach yng nghasgliad y Tate Modern. Cyhoeddwyd pum cyfrol o ffotograffiaeth Konttinen, y lluniau oll wedi eu tynnu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Mae hi’n dal i fyw yno, ac mae Amber a The Side Gallery yn dal yno, yn dal i weithio, yn driw i ysbryd y mudiad dogfennu cymdeithasol.


Geoff Young yw perchennog Galeri a Siop Lyfrau Pen'rallt a Ffotogaleri y Gofeb ym Machynlleth, ar y cyd â Diane Bailey.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…